Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Cywydd y Maen Gwerthfawr
← Bonedd a Chynheddfau'r Awen | Barddoniaeth Goronwy Owen gan Goronwy Owen golygwyd gan Isaac Foulkes |
Hiraeth am Fon → |
CYWYDD Y MAEN GWERTHFAWR. 1753.
CHWILIO y bum, uwch elw byd,
Wedi chwilio, dychwelyd;
Chwilio am em bêrdrem bur,
Maen iasbis, mwy annísbur;
Hynodol em wen ydoedd
Glaerbryd, a Dedwyddyd oedd.
Mae (er Naf) harddaf yw hi,
Y gemydd a'i dwg imi?
Troswn, o chawn y trysor,
Ro a main daear a môr;
Ffulliwn[1] hyd ddau begwn byd,
O'r rhwyddaf i'w chyrhaeddyd;
Chwiliwn, o chawn y dawn da,
Hyd rwndir daear India,
Dwyrain, a phob gwlad araul,
Cyfled ag y rhed yr haul;
Hyd gyhydlwybr yr wybren,[2]
Lle'r a wawl holl awyr wen;
Awn yn noeth i'r cylch poethlosg,
Hynt y llym ddeheuwynt llosg.
I rynbwynt duoer enbyd
Gogledd, annghyfanedd fyd.
Cyrchwn, ni ruswn, oer ôd,
Rhyn, oerfel, rhew anorfod,
A gwlad yr ia gwastadawl,
Crisian-glawdd na thawdd, na thawl.[3]
Od awn i'r daith drymfaith draw,
Ofered im' lafuriaw!
Gwledydd ormod a rodiais,
Trwy bryder ac ofer gais,
Llemdost i mi'r bell ymdaith;
A phellaf, gwacaf y gwaith!
Chwilio ym man am dani,
Chwilio hwnt heb ei chael hi.
Nid oes dwr na dwys diredd,
Na goror ym môr a'i medd.
Da gwyr Iesu, deigr eisioes
Dros fy ngrân[4] drwstan a droes,
Pond tlawd y ddihirffawd hon,
Chwilio gem, a chael gwmon!
Anturiais ryw hynt arall
O newydd, yn gelfydd gall;
Cynull (a gwael y fael fau)
Traul afraid, twr o lyfrau,
A defnyddion dwfn addysg,
Sophyddion dyfnion eu dysg;
Diau i'r rhai'n, o daer hawl,
Addaw maen oedd ddymunawl—
Maen a'i fudd uwchlaw rhuddaur,
Maen oedd a wnai blwm yn aur;
Rhoent obaith ar weniaith wag
O byst aur, â'u bost orwag.
Llai eu rhodd, yn lle rhuddaur,
Bost oedd, ac ni chawn byst aur.
Aur yn blwm trathrwm y try,
Y mae son mai haws hyny;
Ffuant yw eu hoff faen teg,
Ffol eiriau a ffiloreg.
Deulyfr a ddaeth i'm dwylaw
Llawn ddoeth, a dau well ni ddaw:
Sywlyfr[5] y Brenhin Selef,[6]
A Llyfr pur Benadur Nef.
Deufab y brenhin Dafydd,
Dau fugail, neb ail ni bydd.
Gwiwfawr oedd un am gyfoeth,
Brenhin mawr, dirfawr, a doeth;
Rhi'n honaid[7] ar frenhinoedd
Praff deyrn, a phen prophwyd oedd.
Ba wledd ar na bu i'w lys?
Ba wall o b'ai ewyllys?
Ba fwyniant heb ei finiaw?
Ba chwant heb rychwant o braw'?
Ar ol pob peth pregethu,
"Mor ynfyd y byd!" y bu.
Gair a dd'wedai, gwir ddidwyll,
"Llawn yw'r byd ynfyd o dwyll,
A hafal ydyw hefyd
Oll a fedd, gwagedd i gyd."
O'i ddwys gadarn ddysgeidiaeth
Wir gall, i'm dyall y daeth,
Na chaf islaw ffurfafen
Ddedwyddyd ym myd, em wen!
Ni cheir yr em hardd-drem hon
Ar gyrau'r un aur goron,
Na chap Pab, na chwfl abad,
Na llawdr un ymerawdr mâd.
Llyna sylwedd llên Selef
Daw'n ail efengyl Duw nef:
D'wedai un lle nad ydoedd,
A'r ail ym mha le yr oedd.
Daw i ddyn y diddanwch
Yn nefoedd, hoff lysoedd fflwch-
Fan deg yw nef fendigaid,
Tlws ar bob gorddwrs a gaid;
Pob careg sydd liwdeg lwys,
Em wridog ym Mharadwys;
Ac yno cawn ddigonedd
Trwy rad yr Ion mâd a'i medd.
Duw'n ein plith, da iawn ein plaid,
F'a'n dwg í nef fendigaid.
Drosom Iachawdwr eisoes
Rhoes ddolef, daer gref, ar groes;
Ac eiddo ef, nef a ni,
Dduw anwyl, fa'i rhydd ini.
Molaf fy Naf yn ufudd;
Nid cant, o'm lladdant a'm lludd.
Dyma gysur pur, heb ball,
Goruwch a ddygai arall ;
Duw, dy hedd rhyfedd, er hyn,
Bodloni bydol annyn.
Boed i angor ei sorod;
I ddi-ffydd gybydd ei god;
I minau boed amynedd,
Gras, iechyd, ha wddfyd, a hedd.