Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Cywydd i'r Calan, 1752
← Englyn i'r Calan, 1746 | Barddoniaeth Goronwy Owen gan Goronwy Owen golygwyd gan Isaac Foulkes |
Awdl y Gofuned → |
CYWYDD I'R CALAN.
(Sef dydd genedigaeth y Bardd a'i fab hynaf), yn y flwyddyn 1752.
[Gweler LLYTHYRAU, tudal. 45.]
CYN bod gwres i'r tesfawr,
A gorphen ffurfafen fawr,
Difai y creawdd Dofydd[1]
Olau teg a elwid dydd;
A Duw, gan hyfryted oedd,
Dywedai mai da ydoedd,
Cywraint fysedd a neddair! [2]
Gywir Ion, gwir yw ei air.
Hardd gweled y planedau,
A'u llwybr yn y gylchwybr gau;
Tremiadau tramwyedig,
A chall yn deall eu dig. [3]
Canfod, a gwych eurddrych oedd,
Swrn nifer o ser nefoedd,
Rhifoedd o ser, rhyfedd son!
Crogedig uwch Caergwydion, [4]
Llun y Llong, [5] a'i ddehonglyd,
Arch No, [6] a'i nawdd tra bawdd byd,
A'r Tewdws,[7] dwr ser tidawg,
A thid[8] nas rhifid y rhawg.
Er nifer ser y nefoedd,
Nifer fawr o wychder oedd;
Ac er lloer wen ysplenydd,
Nid oes dim harddach na dydd,
Gwawl unwedd a goleunef,
Golau o ganwyllau nef.
Oes a wâd o sywedydd
Lle dêl, nad hyfryd lliw dydd?
Dra bostio hir drybestod;[9]
Mor rhyfedd rhinwedd y rhod,
Oer syganed wres Gwener[10]
Pan êl i ias oerfel ser.
Duw deg lwys! da yw dy glod,
Da, Wirnaf, yw pob diwrnod;
Un radd pob dydd o naddynt,
Pob dydd fal eu gilydd gynt;
Uchder trenydd fal echdoe,
Nid uwch oedd heddyw na doe;
Nes it' draw neillduaw dydd
Dy hunan, da Wahanydd,—
Dy'gwyl, yn ol dy degwaith,
Yn gorphen ffurfafen faith;
Na chwynwn it, Ion, chwenych.
Dydd o saith, wedi'r gwaith gwych;
Yn talmu da fu dy fod,
Sabboth ni chai was hebod
Mawr yw dy rad, wiwdad Ion,
Da oedd gael dyddiau gwylion;
Da'r tro it' eu gwylio gynt,
Duw awdwr, a da ydynt;
Da dy Grog dihalogwyl, [11]
Dy Grog oedd drugarog wyl;
Er trymed dy gur tramawr,
Penllad yw'th Gyfodiad fawr.
Da fyg dy Nadolyg, Dad,
Da iawn ydoedd d'Enwaediad.
Calan fy ngwyl anwyl i,
Calan, a gwyl Duw Celi.
Da, coeliaf, ydyw Calan,
A gŵyl a ddirperai gân;
Ac i'r Calan y canaf,
Calan well na huan haf!
Ar ddydd Calan y'm ganwyd,
Calan, nid anniddan wyd,
Gwaeth oedd genedigaeth Io,[12]
Diwrnod a gwg Duw arno.
Calan wyt ni'th cwliai[13]
Naf, Dwthwn wyt nas melldithiaf,
Nodwyl fy oedran ydwyt,
Ugeinfed a degfed wyt; [14]
Cyflym ydd â rym yr oes,
Duw anwyl, fyred einioes!
Diddan a fum Galan gynt,
A heinif dalm o honynt;
Llawn afiaeth a llon iefanc,
Ddryw bach, ni chaid llonach llanc;
Didrwst ni bu mo'm deudroed
Ymhen un Calan o'm hoed,
Nes y dug chwech ar hugain
Fab ffraeth i Fardd meddfaeth main;
Er gweled amryw Galan,
Gofal yn lle cynal cân,
Parchaf, anrhydeddaf di,
Tymhor nid drwg wyt imi.
Cofiaf Galan, am danad,
Un dydd y'm gwnaethost yn dad;
Gyraist im' anrheg wiwrodd,
Calenig wyrenig[15] rôdd.
Gwiwrodd, pa raid hawddgarach
Na Rhobert, y rhodd bert bach?
Haeddit gân, nid rhodd anhardd
Rhoi im' lân faban o fardd
Hudol am gân, hy' ydwyt,
O b'ai les gwawd, blysig wyt;
Dibrin wyf, cai dy obrwy,
Prydafi yt'; pa raid fwy?
A chatwyf hir barch iti,
Wyl arab fy mab a mi.
Aed y Calendr yn hendrist,[16]
Aed cred i ammau oed Crist,
Syfleda[17] pob mis o'i safle,
Ac aed a gŵyl gyd ag e;
Wyl ddifai, di gai dy gwr,
Ni'm neccy almanaciwr;
Cei fod ar dal y ddalen,
Diball it' yw dy bill hen:
Na syfl fyth yn is, ŵyl fawr,
Glŷn yna, Galan Ionawr;
Cyn troi pen dalen, na dwy,
Gweler enwi Gwyl 'Ronwy
A phoed yn brif ddigrifwyl
I'r beirdd, newydd arab ŵyl;
A bid ei phraff argraphu
Ar dalcen y ddalen ddu;
Llead[18] helaeth, lled dwylain,
Eangffloch, o liw coch cain.[19]
Nodiadau
golygu- ↑ Enw ar y Creawd wr—y Dywedydd, neu y Perydd.
- ↑ Llaw—" A'i neddair, f'anwylgrair fwyn, y nyddodd fedw yn addwyn."—DAFYDD AB GWILYM.
- ↑ Talfyriad o digwydd.
- ↑ Enw yr hen seryddwyr Cymreig ar y Llwybr Llaethog.
- ↑ "Saith Seren Llong."
- ↑ Cydser.
- ↑ Twr Tewdws, neu Pleiades.
- ↑ Cadwen
- ↑ Ffwdan
- ↑ Venus
- ↑ Gwyl y Groglith
- ↑ Job
- ↑ Beiai
- ↑ 30 oed.
- ↑ Bywiog
- ↑ Cyfeiriad at symudiad y Calan o Ion. 12 i Ion. 1
- ↑ Symuded
- ↑ Darlleniad
- ↑ Red Letter Day