Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Awdl y Gofuned
← Cywydd i'r Calan, 1752 | Barddoniaeth Goronwy Owen gan Goronwy Owen golygwyd gan Isaac Foulkes |
Cywydd y Farf → |
AWDL Y GOFUNED.[1]
A ganwyd 1752, cyn gwybod beth oedd awadl.
[Gweler LLYTHYRAU, tudal. 34].
O CHAWN o'r nef y peth a grefwn,
Dyma archiad im' a erchwn,[2]
Un rodd orwag ni ryddiriwn o ged;
Uniawn ofuned, hyn a fynnwn.
Synhwyrfryd doeth, a chorph anfoethus,
Cael, o iawn iechyd, calon iachus;
A pheidio yno â ffwdanus—fyd
Direol, bawlyd, rhy helbulus.
Dychwel i'r wlad lle bu fy nhadau,
Bwrw enwog oes, heb ry nac eisiau,
Ym Mon araul, a man orau—yw hon,
Llawen ei dynion, a llawn doniau.
Rhent gymedrol, Plwyf da 'i reolau,
Tŷ is goleufryn, twysg o lyfrau;
A gwartheg res, a buchesau—i'w trin
I'r hoyw wraig Elin[3] rywiog olau.
Gardd i minau, gorau ddymuniad,
A gwasgawdwydd[4] o wiw gysgodiad;
Tra bwy'n darllain cain aceniad—beirddion
Hil Derwyddon, hylaw adroddiad.
Ac uwch fy mhen, ym mysg canghenau,
Bêr baradwysaidd lwysaidd leisiau
Ednaint[5] meinllais, adlais odlau—trydar
Mwyn adar cerddgar—lafar lefau.
A thra bo'r adar mân yn canu,
Na ddeno gwasgawd ddyn i gysgu,
Cydgais â'r côr meinllais manllu—fy nghân,
Gwiw hoyw a diddan gyhydeddu.
Minau, a'm deulanc mwyn i'm dilyn,
Gwrandawn ar awdl, arabawdl Robyn,
Gan dant Goronwy gywreinwyn,[6]—os daw
I ware dwylaw ar y delyn.
Deued i Sais yr hyn a geisio;
Dwfr hoff redwyllt, ofer[7] a ffrydio
Drwy nant, a chrisiant (a chroeso),—o chaf
Fon im'; yn benaf henwaf hono.
Ni wna f' arwyrain yn fawreiriog,
Gan goffau tlysau, gwyrthiau gwerthiog,
Tud,[8] myr,[9] mynydd, dolydd deiliog,—trysor
Yr India dramor, oror eurog.
Pab a gâr Rufain, gywrain gaerau;
Paris i'r Ffrancon, dirion dyrau;
Llundain i Sais, lle nad oes eisiau—son
Am wychder dynion; Mon i minau.
Rhoed Duw im' adwedd iawnwedd yno,
A dihaint henaint na'm dihoeno,
A phlant celfyddgar a garo—eu hiaith,
A hardd awenwaith a'u hurdduno.