Llythyrau Goronwy Owen/Llythyr 11

Llythyr 10 Llythyrau Goronwy Owen


golygwyd gan John Morris-Jones
Llythyr 12

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 11.

At WILLIAM MORRIS.


DONNINGTON, Chwefror 24, 1753.

GAREDIG SYR,

Llyma'r eiddoch o'r 10fed yn f' ymmyl er ys wythnos; er hoffed yw gennyf eich epistolau, etto nid wyf mor annioddefgar nad allwn weithiau aros eich cyfleusdra am danynt, nac mor sarrug nad allwn faddeu rhyw swrn o'ch esgeulusdra o bai raid, a chyd-ddwyn â'ch annibendod, am nad wyf fy hun mor esgud ag y gweddai; felly boed sicr i chwi nad ymliwiaf byth â chwi o'r erthyb hwnnw; a phed fawn Bâb, chwi gaech lonaid y cap coch o'm pardynau. Prin y gallech goelio, ac anhawdd i minnau gael geiriau i adrodd, mor rwymedig wyf i Mr. Ellis a chwithau. Diau mai o wir serch ar ddaioni, ac nid o ran cydnabyddiaeth, neu un achos arall o'r cyfryw, y mae Mr Ellis gymmaint ei garedigrwydd; a Duw awdwr pob daioni, a dalo iddo.—Fe orfydd arnaf, yn ddiammau, chwilio am ryw le cyn bo hir, ac felly dybygaf y dywedwch chwithau pan wypoch fy hanes: Y mae genym yma ryw ddau 'scwier o hanner gwaed (chwedl y Bardd Cwsg) un Mr. Lee, ac un arall Mr. Boycott, y naill a fu, a'r llall sydd, yn Ben Trustee i'r Ysgol yma. Yr oeddwn o'r dechreu hyd yr awr hon mor gydnabyddus â'r naill ag a'r llall; y diweddaf sydd un o'm plwyfolion yn Uppington; ond y llall a fu yn wastadol yn gynnorthwywr i mi yn fy anghenion: Mr. Lee, a roddai i mi fenthyg pump punt neu chwech wrth raid, ond gan B—tt, ni chaid amgen na mwg o ddiod a phibellaid; ac weithiau pan ddigwyddai iddo ddyfod i'r Eglwys (yr hyn ambell flwyddyn a fyddai yng nghylch teirgwaith) mi gawn ran o'i giniaw, os mynnwn, ond fe'm naccaodd y cadnaw o fenthyg chweugain wrth fy angen, er nas gofynaswn ond i brofi ei haelder ef; 'rych yn llygadrythu, ysgatfydd, wrth glywed sôn am fenthyccio arian, ond nid rhyfedd y peth, a mi yn dal rhyw faint o dir, ac yn talu treth ac ardreth a chyflogau, heb dderbyn mo'm cyflog fy hun ond dwy waith, ac yn amlaf unwaith, yn y flwyddyn. Pa ddelw bynnag, mae rhyw elyniaeth rhwng y ddau wr uchod, a'r sawl a gaffo gariad un, a fydd sicr o gâs y llall; Lee, sydd χουργ, a Boycott sydd yn un o addolwyr Iago. Pob cyffelyb ymgais, fal y dywedant; felly nid anhawdd dirnad pa un gymmhwysaf ei hoffi o ran ei blaid, a phed amgen, pa un a haeddai hefyd ei hoffi er mwyn ei haelioni. Nid ellais erioed aros addolwyr Baal, Iago, &c. &c., a'u cabals a'u celfi, ac ni ddysgais erioed chware ffon ddwybig, a thybio 'r wyf, na ddichon neb wasanaethu Duw a mammon. And if my policy is not, sure my honesty and plainness are to be commended. O'r ddeuwr hynny Boycott yw eilun fy Meistr (fal y mae gnawd i un o ucheldir yr Alban,) a chan fod yn gorfod arno ef fod yn Llundain, ar law Boycott y gadawodd ei holl fatterion yma, i'w trin fal y mynno; ac felly Boycott sydd yn talu i mi fy nghyflog ac yn derbyn fy ardreth, &c. &c. Ac yn awr dyma'r anifail, wedi cael o honaw fi yn ei balfau dieflig, yn dwyn fy nhippyn tir oddiarnaf, without the least colour of reason or justice, or even the formality of a warning. Yn iach weithian llefrith a phosel deulaeth, ni welir bellach mo'r danteithion hynny heb i mi symud pawl fy nhid. Ni wiw i mi rhagllaw ddisgwyl dim daioni yma, ac anghall a fyddai fy mhen pe disgwyliwn, ac odid i mi aros yma ddim hŵy na hanner y gwanwyn o'r eithaf; ond o'r tu arall mae i mi hyn o gysur; daccw Mr Lee, wedi cael i mi addewid o le gan yr Arglwydd Esgob o Landaff, yn gyntaf fyth y digwyddo un yn wag yn ei Esgobaeth; mi glywaf ddywedyd na thal y lleoedd hynny nemmor, ac nad oes ond ychydig iawn ar ei law of ped fai'r holl bersoniaid yn meirw. Beth er hyny? Gwell rhyw obaith na bod heb ddim; ond Och fi, wr fach! pa fodd i ddyall eu hiaith hwynt-hwy? a pha bryd y caf weled fy anwylyd Môn doreithiog a'i mân draethau? Dyna gorph y gainge. Llawer gwaith y bwriedais gynt (ac ni's gwelaf etto achos amgen) na ddown byth i Fôn i breswylio, hyd na bawn well fy nghyflwr nag yr oeddwn pan ddaethum allan o honi: pan ddaethum o honi, 'roedd genyf arian ddigon i'm dianghenu fy hun, a pha raid ychwaneg? ac nid oedd arnaf ofal am ddim ond f'ymddwyn fy hun fal y gweddai, a thybio'r oeddwn fod dwy law a dau lygad yn llawn ddigon i borthi un genau; diammeu na thybia'r byd mo'r cyflwr, presennol elfydd i hwnnw a grybwyllais; y mae genyf yn awr lawer o safnau yn disgwyl eu porthi, er nad oes gennyf ond yr un rhifedi o ddwylaw, &c. &c., ag o'r blaen tu ag at ymdaro am fy mywyd; etto er maint fy ngofalon, cyn belled wyf oddiwrth feddwl fy nheulu'n bwys a gormes arnaf, a'm bod yn fy nghyfrif fy hun yn gannwaith dedwyddach na phed fai genyf gann punt sych wrth fy nghefn am bob safn sy genyf i ofalu trosto: oblegyd pe digwyddai i mi unwaith ddyfod at gerrig y Borth yn y cyflwr yr wyf, da y dylwn ddiolch i Dduw, a dywedyd fel y dywaid y Patriarch Jacob, "Ni ryglyddais y lleiaf o'th holl drugareddau di, nag o'r holl wirionedd a wnaethost a'th was, oblegyd a'm ffon y deuthum dros y Fenai hon, ond yn awr yr ydwyf yn ddwy fintai:" a diau mai fy ffon a minnau oedd yr holl dylwyth oedd genyf pan ddaethum tros Fenai o Fon, ond yn awr y mae gennyf gryn deulu a ro'es Duw i mi mewn gwlad ddieithr. Bendigedig a fyddo ei enw ef.

If I was ever so sanguine, I could hardly hope that the said. Bishop of Landaff would find me any thing so soon as I shall want, which must be probably about lady-day next, and consequently should not be so indolent as to leave myself unprovided in case of necessity. To use one's own endeavours. is not at all inconsistent with a firm reliance on providence. I should be very glad to hear of a curacy in any county of North Wales excepting Anglesey and Denbighshire, the first I except for the reason above mentioned, and the other, because I know the inhabitants of it too well. Pobl gignoethaidd, atgas ydynt, ffei arnynt! as my wife is used to say in her Shropshire dialect. I beg you would be so good as to get some intelligence whether that Curacy in Lancashire, where young Owen of Aberffraw was to have gone to, may now be had, and if so, whether the place is worth stirring for. I have no objections to that country any more than this; I am now [a] pretty old priest, and any one that would serve turn in Shropshire, especially in this part of it, might also suit any other county in England, London only excepted. As I am in favour with Mr. Lee, nid anhawdd a fyddai iddo ef ddal i mi grothell yn mha le bynnag y byddwn, ond cadw ohonof yr hen gyfeillach ar droed. Mae o yn ŵr mawr iawn gyda Earl of Powys (Lord Herbert gynt), Sir Orlando Bridgman, Esgob Llandaff, ac aneirif o'r gwyr mwyaf yn y deyrnas; ond y mae yn awr yn bur henaidd ac oedranus, yn nghylch 65 neu 70 o leiaf, ond fe allai Duw iddo fyw ennyd etto er fy mwyn i. Nid rhaid i chwi yngenyd mo hyn wrth y Llew, rhag iddo ddifrawu o'm plegid, ac felly i minnau golli'r gobaith o ddyfod fyth i Fon; ond y mae'n debyg ei fod yn gwybod eisus, oblegyd yn ddiweddar, pan oedd Person Bodfuan yn Lleyn wedi marw, mi ddymunais ar Mr. Richard Morris fyned yn enw Mr. Lee a minnau at Esgob Llandaff i ddeisyf arno ofyn y lle hwnnw i mi gan ei frawd Esgob o Fangor. Pa sut a fu rhyngddynt ni's gwn i, ac ni's gwaeth. genyf, mi a gollais yr afael y tro hwnw; ond y mae Mr. M. o'r Navy Office yn dywedyd addaw o Esgob Bangor ynteu wrtho ef y cofiai am danaf ryw dro neu gilydd, pe bai goel ar Esgob mwy nag arall. Nis gwn i pa'r fudd a ddaw; ond byn sydd sicr genyf, fod yr un nefol ragluniaeth ag a'm porthodd hyd yn hyn, yn abl i'm diwallu rhagllaw; a pha bryd bynnag y digwyddo i mi saethug, fod Duw yn gweled mai rhywbeth arall sydd oreu er fy lles. Nid oes yma bwt newydd yn y byd o Gywydd nac Awdl weithian, oblegyd mi fu'm yn cael fy llawn hwde ar wheuthur rhyw Gywydd i'r Gymdeithas o Gymmrodorion yn Llundain, ar ddymuniad y gwr o'r Navy Office, a da yr haeddai oddiar fy llaw bob peth a f'ai yn fy ngallu; ni welais i erioed ei garedicach o Gymro na Sais, er na's gwelais erioed mo'no yntau.—Dyna gydnabyddiaeth ryfeddol! Dyma'r Cywydd hwnw i chwi, fel ag y mae; ond yn gyntaf rhaid i mi eglurhau y testyn i chwi, yr hwn sydd fel y canlyn. It is an address to His Royal Highness the Prince of Wales, to be presented to him by the Lord Bishop of Peterborough (his Highness's Preceptor) in the name of the Society of Ancient Britons, on St. David's day next, in Welsh and Latin. The Latin is composed by some young Cymro in Cambridge, and the Welsh by your servant Gronwy Ddu. That the Latin and Welsh might tally, the address was drawn up in English at London, and sent to me (and I suppose to Cambridge too) to be translated into verse, so that this Cywydd is but a translation, and I disclaim all praise and dispraise alike from every thought, figure, fancy, &c., in it; nothing of it is mine but the cynghanedd and language. Y mae'n gyffelyb fod Ieuan Brydydd Hir ac eraill wedi eu rhoi ar waith ar yr un achos, ac mai'r Cywydd goreu a ddewisir i'w ro'i i'r Tywysog; a sicr yw, os felly y mae, ní chaiff fy Nghywydd i ddangos mo'i big i'w Frenhinol Uchelder. [Yma y dilyn y Cywydd i'w gyflwyno i Dywysawg Cymru.[1]] Dyna i chwi y Cywydd fal y mae, ac os boddia'r Gymdeithas, nid wyf yn ameu na chewch glywed ychwaneg o son o Lundain; fe'i hargraffir mae'n debyg cyn ei ro'i i'r Tywysog. Os byw fyddaf ryw Wyl Ddewi arall, mi fynnaf finnau genhinen sidan o Lundain; nid oes yma ond cennin gerddi i'w cael, ac ni's gwaeth gan lawer am eu harogledd hwy, ond yn enwedig y Saeson yma. Mae genyf un ffafr arbenig i'w gofyn genych, a hyny yw, fod o honoch mor fwyn a gyru i mi o dro i dro yn eich llythyrau, engraffau, neu siamplau o'r pedwar mesur ar hugain. This is a favour I've been a begging of Mr. Lewis Morris this whole twelve months and above without any effect. One example or two in a letter would soon make me acquainted with them. I suppose you either have or may borrow Grammadeg Sion. Rhydderch; I remember my father had one of them formerly, and that is the only one I ever saw, and as far as I can remember, it gave a very plain, good account of every one of them, viz., Cywydd Deuair Hirion (or the like) a fesurir o 7 sillaf, &c., &c. All the Measures I know at present are Englynion Unodl Union, Cywydd Deuair Hirion, Gwawdod- yn Byr, and Englyn Milwr: I protest I know no other. The two last, Mr. Lewis Morris brought me acquainted with, and the only knowledge I had of Gwawdodyn Byr, when I made my Gofuned, was a stanza or two of it, made by Ieuan Brydydd Hir on Melancholy that Mr. Morris had sent me as a specimen of his ability in Welsh Poetry, and no wonder that my Gofuned should be faulty in blindly copying after so inaccurate a pattern. Is it not a pity that many a pretty piece should be for ever lost for want of proper help to produce it! 'Rwyf agos a diflasu yn canu yr un don byth fel y gôg. Mae Cywydd yn awr, o eisiau tipyn o ryw amheuthyn, wedi myned mor ddiflas a photes wedi ei ail dwymno. Gyrwch i mi ryw un neu ddau o'r mesurau na's adwaen yn mhob llythyr, ac yna mi fyddaf yn rhwymedig i ganu'ch clod yn mhob mesur o honynt. My compliments, and sincerest thanks to Mr. Ellis. —F'anerch at eich tad yn garedig, ac at William Elias, os digwydd i chwi ei weled. Gadewch glywed oddiwrthych oddiyna pan gaffoch awr o hamdden, ac fe fydd i chwi ddiolch o'r mwyaf am bob llythyren, gan (yr anwyl gydwladwr) eich rhwymedicaf wasanaethwr,

GRONWY DDU O FON.

O.S.—Ai ê, ai ê, meddwch chwi, Mr Owen yw'r Bwrdais dros dref y Duwmaris; si un o honom ni yw efe? ai ynte un o blant Alis y Biswail? meddwl yr oeddwn nad oedd neb o Foneddigion Môn yn χουγιαιδ namyn Mr. Μευριγ o Βοδόργαν yn unig. Fe fu Mr. Owen o Brysaddfed yn byrddio gyda mam fy ngwraig i yn Nghroes Oswallt pan oedd fachgen yn yr Ysgol yno. Ni chlywais o Allt Fadog er ys 6 wythnos neu 7.—Gobeithio fod pawb yn iach yno. Byddwch siongc.

Nodiadau

golygu
  1. Gwel tudal 71 Bardd. Gor., arg. Lerpwl.