Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/I Dywysog Cymru

Cywydd y Farn Fawr Barddoniaeth Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Priodasgerdd Elin Morys

CYWYDD

I'w gyflwyno i DYWYSAWG CYMRU, Wyl Dewi, 1753, ar y
testyn sy'n canlyn, sef, Reget patriis virtutibus orbem.

[Gweler LLYTHYRAU, tudal. 33, 34, 44.]

Pwy ddysg im'? Pa dduwies gain
Wir araith, i arwyrain
Gŵraf[1] edlin[2] brenhinwawr,
Blaenllin Cymru fyddin fawr?
Ai rhaid awen gymengoeg
O drum Parnassus, gwlad Roeg?
Cyfarch cerddber Bieriaid,[3]
Am achles hoff-les a phlaid?
Ni cheisiaf, nid af i'w dud,
Glodo elltydd gwlad alltud;
Ofer y daith, afraid oedd,
Mwyneiddiach yw'n mynyddoedd,
Lle mae awen ddiweniaith,
Gelfydd ym mhob mynydd maith,
Na wna'n eglur, neu'n wiwglod,
Ond da, a ryglydda glod.

Pan danwyd poenau dunych,
A braw du'n ael Brydain wych,
Pan aeth Ffredrig[4] i drigias
Da iawn fro Duw Nef a'i ras,
Rhoe Gymru hen uchenaid.
A thrwm o bob cwm y caid
Trystlais yn ateb tristlef
Prydain, ac wylofain lef.

O'r tristwch du-oer trosti
Nid hawdd y dihunawdd hi,
Fal meillion i hinon haf
O rew-wynt hir oer auaf

Iach wladwyr eilchwyl ydym,
Oll yn awr a llawen y'm,
Ni fu wlad o'i phenadur
Falchach, ar ol garwach gur.

Llyw o udd[5] drud, llewaidd draw,
I ni sydd; einioes iddaw;
Udd gwrawl, haeddai gariad,
Por dewr a ddirprwy ei dad;
Ni bu ryfedd rinweddau,
Ym maboed erioed ar Iau,
Arwr a fydd, ddydd a ddaw,
Mawreddog. Ammor[6] iddaw!

Hiroes i wâr Gaisar gu,
Di-orn oes i deyrnasu;
A phan roddo heibio hon
I gyrhaedd nefol goron-
Nefol goron gogoniant
Yn oediog, lwys enwog sant,
Poed Trydydd Sior, ein ior ni,
O rinwedd ei rieni,
Yn iawnfarn gadarn geidwad,
I'w dir, un gyneddf a'i dad.

Am a ddywaid, maddeuant
A gais yr awen a gânt
Hyn o'ch clod mewn tafodiaith,
A dull llesg hen dywyll iaith;
Mawr rhyddid Cymru heddyw,
Llawen ei chân, llonwych yw,
Trwy ei miloedd tra molynt
Eu noddwr, hoyw gampwr gynt;
Llyw diwael yn lle Dewi,
Ior mawr wyt yn awr i ni;
Ti ydyw'n gwârlyw gwirles,
Ti fydd ein llywydd a'n lles.
Os dy ran, wr dianhael,
A wisg y genhinen wael,
Prisiaf genhin brenhinwych.
Uwch llawrydd tragywydd gwych.

Nodiadau

golygu
  1. Gwrolaf.
  2. Tywysog coronog—Anrhydeddusaf wedi'r brenin yw edling braint neu eni."—CYF. HYWEL DDA.
  3. Pierides—yr Awenau Groegaidd.
  4. Ffredrig, tywysog Cymru, farw o flaen ei dad, Sior II., ac felly ei fab ef Sior III., gwrthrych y cywydd, a olianodd ei daid
  5. Arglwydd.
  6. Hawddamor,