Beibl (1620)/Deuteronomium

Numeri Beibl (1620)
Deuteronomium
Deuteronomium
wedi'i gyfieithu gan William Morgan
Josua

PUMED LLYFR MOSES, YR HWN A ELWIR DEUTERONOMIUM


PENNOD 1

1:1 Dyma y geiriau a ddywedodd Moses wrth holl Israel, o’r tu yma i’r Iorddonen, yn yr anialwch, ar y rhos gyferbyn â’r môr coch, rhwng Paran, a Toffel, a Laban, a Haseroth, a Disahab.

1:2 (Taith un diwrnod ar ddeg sydd o Horeb, ffordd yr eir i fynydd Seir, hyd Cades-Barnea.)

1:3 A bu yn y ddeugeinfed flwyddyn, yn yr unfed mis ar ddeg, ar y dydd cyntaf o’r mis, i Moses lefaru wrth feibion Israel, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD iddo ei ddywedyd wrthynt;

1:4 Wedi iddo ladd Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, ac Og brenin Basan, yr hwn oedd yn trigo yn Astaroth, o fewn Edrei;

1:5 O’r tu yma i’r Iorddonen, yng ngwlad Moab, y dechreuodd Moses egluro’r gyfraith hon, gan ddywedyd,

1:6 Yr ARGLWYDD ein Duw a lefarodd wrthym ni yn Horeb, gan ddywedyd, Digon i chwi drigo hyd yn hyn yn y mynydd hwn:

1:7 Dychwelwch, a chychwynnwch rhagoch, ac ewch i fynydd yr Amoriaid, ac i’w holl gyfagos leoedd; i’r rhos, i’r mynydd, ac i’r dyffryn, ac i’r deau, ac i borthladd y môr, i dir y Canaaneaid, ac i Libanus, hyd yr afon fawr, afon Ewffrates.

1:8 Wele, rhoddais y wlad o’ch blaen chwi: ewch i mewn, a pherchenogwch y wlad yr hon a dyngodd yr ARGLWYDD i’ch tadau chwi, i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, ar ei rhoddi iddynt, ac i’w had ar eu hôl hwynt.

1:9 A mi a leferais wrthych yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Ni allaf fi fy hun eich cynnal chwi:

1:10 Yr ARGLWYDD eich Duw a’ch lluosogodd chwi; ac wele chwi heddiw fel sêr y nefoedd o luosowgrwydd.

1:11 (ARGLWYDD DDUW eich tadau a’ch cynyddo yn fil lluosocach nag ydych, ac a’ch bendithio, fel y llefarodd efe wrthych!)

1:12 Pa wedd y dygwn fy hun eich blinder, a’ch baich, a’ch ymryson chwi?

1:13 Moeswch i chwi wŷr doethion, a deallus, a rhai hynod trwy eich llwythau; fel y gosodwyf hwynt yn bennau arnoch chwi.

1:14 Ac atebasoch fi, a dywedasoch, Da yw gwneuthur y peth a ddywedaist.

1:15 Cymerais gan hynny bennau eich llwythau chwi, sef gwŷr doethion, a rhai hynod, ac a’u gwneuthum hwynt yn bennau arnoch; sef yn gapteiniaid ar filoedd, ac yn gapteiniaid ar gannoedd, ac yn gapteiniaid ar ddegau a deugain, ac yn gapteiniaid ar ddegau, ac yn swyddogion yn eich llwythau chwi.

1:16 A’r amser hwnnw y gorchmynnais i’ch barnwyr chwi, gan ddywedyd, Gwrandewch ddadleuon rhwng eich brodyr, a bernwch yn gyfiawn rhwng gŵr a’i frawd, ac a’r dieithr sydd gydag ef.

1:17 Na chydnabyddwch wynebau mewn barn; gwrandewch ar y lleiaf, yn gystal ag ar y mwyaf: nac ofnwch wyneb gŵr; oblegid y farn sydd eiddo Duw: a’r peth a fydd rhy galed i chwi, a ddygwch ataf fi, a mi a’i gwrandawaf.

1:18 Gorchmynnais i chwi hefyd yr amser hwnnw yr holl bethau a ddylech eu gwneuthur.

1:19 A phan fudasom o Horeb, ni a gerddasom trwy’r holl anialwch mawr ac ofnadwy hwnnw, yr hwn a welsoch ffordd yr eir i fynydd yr Amoriaid, fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD ein Duw i ni: ac a ddaethom i Cades-Barnea.

1:20 A dywedais wrthych, Daethoch hyd fynydd yr Amoriaid, yr hwn y mae yr ARGLWYDD ein Duw yn ei roddi i ni.

1:21 Wele, yr ARGLWYDD dy DDUW a roddes y wlad o’th flaen: dos i fyny a pherchenoga hi, fel y llefarodd AR¬GLWYDD DDUW dy dadau wrthynt; nac ofna, ac na lwfrha.

1:22 A chwi oll a ddaethoch ataf, ac a ddywedasoch, Anfonwn wŷr o’n blaen, a hwy a chwiliant y wlad i ni, ac a fynegant beth i ni am y ffordd yr awn i fyny ar hyd-ddi, ac am y dinasoedd y deuwn i mewn iddynt.

1:23 A’r peth oedd dda yn fy ngolwg: ac mi a gymerais ddeuddengwr ohonoch, un gŵr o bob llwyth.

1:24 A hwy a droesant, ac a aethant i fyny i’r mynydd, ac a ddaethant hyd ddyffryn Escol, ac a’i chwiliasant ef.

1:25 Ac a gymerasant o ffrwyth y tir yn eu llaw, ac a’i dygasant i waered atom ni, ac a ddygasant air i ni drachefn, ac a ddywedasant, Da yw y wlad y mae yr ARGLWYDD ein Duw yn ei rhoddi i ni.

1:26 Er hynny ni fynnech fyned i fyny, ond gwrthryfelasoch yn erbyn gair yr ARGLWYDD eich Duw.

1:27 Grwgnachasoch hefyd yn eich pebyll, a dywedasoch, Am gasáu o’r AR¬GLWYDD nyni, y dug efe ni allan o dir yr Aifft i’n rhoddi yn llaw yr Amoriaid, i’n difetha.

1:28 I ba le yr awn i fyny? ein brodyr a’n digalonasant ni, gan ddywedyd, Pobl fwy a hwy na nyni ydynt; dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd: meibion yr Anaciaid hefyd a welsom ni yno.

1:29 Yna y dywedais wrthych, Nac arswydwch, ac nac ofnwch rhagddynt hwy.

1:30 Yr ARGLWYDD eich Duw, yr hwn sydd yn myned o’ch blaen, efe a ymladd drosoch, yn ô1 yr hyn oll a wnaeth efe eroch chwi yn yr Aifft o flaen eich llygaid;

1:31 Ac yn yr anialwch, lle y gwelaist fel y’th ddug yr ARGLWYDD dy DDUW, fel y dwg gŵr ei fab, yn yr holl ffordd a gerddasoch, nes eich dyfod i’r man yma.

1:32 Eto yn y peth hyn ni chredasoch chwi yn yr ARGLWYDD eich Duw,

1:33 Yr hwn oedd yn myned o’ch blaen chwi ar hyd y ffordd, i chwilio i chwi am le i wersyllu; y nos mewn tân, i ddangos i chwi pa ffordd yr aech, a’r dydd mewn cwmwl.

1:34 A chlybu yr ARGLWYDD lais eich geiriau; ac a ddigiodd, ac a dyngodd, gan ddywedyd,

1:35 Diau na chaiff yr un o’r dynion hyn, o’r genhedlaeth ddrwg hon, weled y wlad dda yr hon y tyngais ar ei rhoddi i’ch tadau chwi;

1:36 Oddieithr Caleb mab Jeffunne: efe a’i gwêl hi, ac iddo ef y rhoddaf y wlad y sangodd efe arni, ac i’w feibion; o achos cyflawni ohono wneuthur ar âl yr ARGLWYDD.

1:37 Wrthyf finnau hefyd y digiodd yr ARGLWYDD o’ch plegid chwi, gan ddy¬wedyd, Tithau hefyd ni chei fyned i mewn yno.

1:38 Josua mab Nun, yr hwn sydd yn sefyll ger dy fron di, efe a â i mewn yno: cadarnha di ef; canys efe a’i rhan hi yn etifeddiaeth i Israel.

1:39 Eich plant hefyd, y rhai y dywedas¬och y byddent yn ysbail, a’ch meibion chwi, y rhai ni wyddant heddiw na da na drwg, hwynt-hwy a ânt i mewn yno, ac iddynt hwy y rhoddaf hi, a hwy a’i perchenogant hi.

1:40 Trowch chwithau, ac ewch i’r anial¬wch ar hyd ffordd y môr coch.

1:41 Yna yr atebasoch, ac a ddywedasoch wrthyf, Pechasom yn erbyn yr AR¬GLWYDD: nyni a awn i fyny ac a ymladdwn, yn ô1 yr hyn oll a orchmynnodd yr ARGLWYDD ein Duw i ni. A gwisgasoch bob un ei arfau rhyfel, ac a ymroesoch i fyned i fyny i’r mynydd.

1:42 A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Dywed wrthynt, Nac ewch i fyny, ac na ryfelwch; oblegid nid ydwyf fi yn eich mysg chwi; rhag eich taro o flaen eich gelynion.

1:43 Felly y dywedais wrthych; ond ni wrandawsoch, eithr gwrthryfelasoch yn erbyn gair yr ARGLWYDD; rhyfygasoch hefyd, ac aethoch i fyny i’r mynydd.

1:44 A daeth allan yr Amoriaid, oedd yn trigo yn y mynydd hwnnw, i’ch cyfarfod chwi; ac a’ch ymlidiasant fel y gwnai gwenyn, ac a’ch difethasant chwi yn Seir, hyd Horma.

1:45 A dychwelasoch, ac wylasoch gerbron yr ARGLWYDD: ond ni wrandawodd yr ARGLWYDD ar eich llef, ac ni roddes glust i chwi.

1:46 Ac arosasoch yn Cades ddyddiau lawer, megis y dyddiau yr arosasoch o’r blaen.

PENNOD 2

2:1 Yna y troesom, ac yr aethom i’r anialwch, ar hyd ffordd y môr coch, fel y dywedasai yr ARGLWYDD wrthyf, ac a amgylchasom fynydd Seir ddyddiau lawer.

2:2 Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth¬yf, gan ddywedyd,

2:3 Digon i chwi amgylchu y mynydd hwn hyd yn hyn; ymchwelwch rhagoch tua’r gogledd.

2:4 A gorchymyn i’r bobl, gan ddywedyd, Yr ydych i dramwyo trwy derfynau eich brodyr, meibion Esau, y rhai sydd yn trigo yn Seir: a hwythau a ofnant rhag¬och: ond ymgedwch yn ddyfal.

2:5 Nac ymyrrwch arnynt: oherwydd ni roddaf i chwi o’u tir hwynt gymaint a lled troed; canys yn etifeddiaeth i Esau y rhoddais fynydd Seir;

2:6 Prynwch fwyd ganddynt am Brian, fel y bwytaoch: a phrynwch hefyd ddwfr ganddynt am arian, fel yr yfoch,

2:7 Canys yr ARGLWYDD dy DDUW a’th fendithiodd di yn holl waith dy law: gwybu dy gerdded yn yr anialwch mawr hwn: y deugain mlynedd hyn y bu yr ARGLWYDD dy DDUW gyda thi; ni bu arnat eisiau dim.

2:8 Ac wedi ein myned heibio oddi wrth ein brodyr, meibion Esau, y rhai ydynt yn trigo yn Seir, o ffordd y rhos o Elath, ac o Esion-Gaber, ni a ddychwelasom, ac a aethom ar hyd ffordd anialwch Moab.

2:9 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Na orthryma Moab, ac nac ymgynnull i ryfel yn eu herbyn hwynt: oblegid ni roddaf i ti feddiant o’i dir ef; oherwydd i feibion Lot y rhoddais Ar yn etifeddiaeth.

2:10 (Yr Emiaid o’r blaen a gyfaneddasant ynddi; pobl fawr ac aml, ac uchel, fel yr Anaciaid;

2:11 Yn gewri y cymerwyd hwynt hefyd, fel yr Anaciaid; a’r Moabiaid a’u galwent hwy yn Emiaid.

2:12 Yr Horiaid hefyd a breswyliasant yn Seir o’r blaen; a meibion Esau a ddaeth ar eu hôl hwynt, ac a’u difethasant o’u blaen, a thrigasant yn eu lle hwynt; fel y gwnaeth Israel i wlad ei etifeddiaeth yntau, yr hon a roddes yr ARGLWYDD iddynt.)

2:13 Yna y dywedais, Cyfodwch yn awr, a thramwywch rhagoch dros afon Sared. A ni a aethom dros afon Sared.

2:14 A’r dyddiau y cerddasom o Cades-Barnea, hyd pan ddaethom dros afon Sared, oedd onid dwy flynedd deugain; nes darfod holl genhedlaeth y gwŷr o ryfel o ganol y gwersyllau, fel y tyngasai yr ARGLWYDD wrthynt.

2:15 Canys llaw yr ARGLWYDD ydoedd yn eu herbyn hwynt, i’w torri hwynt o ganol y gwersyll, hyd oni ddarfuant.

2:16 A bu, wedi darfod yr holl ryfelwyr a’u marw o blith y bobloedd,

2:17 Lefaru o’r ARGLWYDD wrthyf, gan ddywedyd,

2:18 Tydi heddiw wyt ar fyned trwy derfynau Moab, sef trwy Ar:

2:19 A phan ddelych di gyferbyn â meibion Ammon, na orthryma hwynt, ac nac ymyrr arnynt; oblegid ni roddaf feddiant o dir meibion Ammon i ti; canys rhoddais ef yn etifeddiaeth i feibion Lot.

2:20 Yn wlad cewri hefyd y cyfrifwyd hi: cewri a breswyliasant ynddi o’r blaen; a’r Ammoniaid a’u galwent hwy yn Samsummiaid:

2:21 Pobl fawr ac aml, ac uchel, fel yr Anaciaid, a’r ARGLWYDD a’u difethodd hwynt o’u blaen hwy; a hwy a ddaethant ar eu hôl hwynt, ac a drigasant yn eu lle hwynt.

2:22 Fel y gwnaeth i feibion Esau, y rhai sydd yn trigo yn Seir, pan ddifethodd efe yr Horiaid o’u blaen, fel y daethant ar eu hôl hwynt, ac y trigasant yn eu lle hwynt, hyd y dydd hwn;

2:23 Felly am yr Afiaid, y rhai oedd yn trigo yn Haserim, hyd Assa, y Cafftoriaid, y rhai a ddaethant allan o Cafftor, a’u difethasant hwy, ac a drigasant yn eu lle hwynt.)

2:24 Cyfodwch, cychwynnwch, ac ewch dros afon Arnon: wele, rhoddais yn dy law di Sehon brenin Hesbon, yr Amoriad, a’i wlad ef; dechrau ei meddiannu hi, a rhyfela yn ei erbyn ef.

2:25 Y dydd hwn y dechreuaf roddi dy arswyd a’th ofn di ar y bobloedd dan yr holl nefoedd: y rhai a glywant dy enw di, a ddychrynant, ac a lesgant rhagot ti.

2:26 A mi a anfonais genhadau o anialwch Cedemoth, at Sehon brenin Hesbon, a geiriau heddwch, gan ddy¬wedyd,

2:27 Gad i mi fyned trwy dy wlad di: ar hyd y briffordd y cerddaf; ni chiliaf i’r tu deau nac i’r tu aswy.

2:28 Gwerth fwyd am arian i mi, fel y bwytawyf; a dyro ddwfr am arian i mi, fel yr yfwyf: ar fy nhraed yn unig y tramwyaf;

2:29 (Fel y gwnaeth meibion Esau i mi, y rhai sydd yn trigo yn Seir, a’r Moab¬iaid, y rhai sydd yn trigo yn Ar;) hyd onid elwyf dros yr Iorddonen, i’r wlad y mae yr ARGLWYDD ein Duw yn ei rhoddi i ni.

2:30 Ond ni fynnai Sehon brenin Hesbon ein gollwng heb ei law: oblegid yr AR¬GLWYDD dy DDUW a galedasai ei ysbryd ef, ac a gadarnhasai ei galon ef, er mwyn ei roddi ef yn dy law di; megis heddiw y gwelir.

2:31 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Wele, dechreuais roddi Sehon a’i wlad o’th flaen di: dechrau feddiannu, fel yr etifeddech ei wlad ef.

2:32 Yna Sehon a ddaeth allan i’n cyfarfod ni, efe a’i holl bobl, i ryfel yn Jahas.

2:33 Ond yr ARGLWYDD ein Duw a’i rhoddes ef o’n blaen; ac m a’i trawsom ef, a’i feibion, a’i holl bobl:

2:34 Ac a enillasom ei holl ddinasoedd ef yr amser hwnnw, ac a ddifrodasom bob dinas, yn wŷr, yn wragedd, yn blant; ac ni adawsom un yng ngweddill.

2:35 Ond ysglyfaethasom yr anifeiliaid i ni, ac ysbail y dinasoedd y rhai a enillasom.

2:36 O Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, ac o’r ddinas sydd ar yr afon, a hyd at Gilead, ni bu ddinas a’r a ddihangodd rhagom: yr ARGLWYDD ein Duw a roddes y cwbl o’n blaen ni.

2:37 Yn unig ni ddaethost i dir meibion Ammon, sef holl lan afon Jabboc, nac i ddinasoedd y mynydd, nac i’r holl leoedd a waharddasai yr ARGLWYDD ein Duw i ni.


PENNOD 3

3:1 YNA y troesom, ac yr esgynasom ar hyd ffordd Basan; ac Og brenin Basan a ddaeth allan i’n cyfarfod ni, efe a’i holl bobl, i ryfel, i Edrei.

3:2 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Nac ofna ef: oblegid yn dy law di y rhoddaf ef, a’i holl bobl, a’i wlad; a thi a wnei iddo fel y gwnaethost i Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon.

3:3 Felly yr ARGLWYDD ein Duw a roddes hefyd yn ein llaw ni Og brenin Basan, a’i holl bobl; ac ni a’i trawsom ef, hyd na adawyd iddo un yng ngweddill:

3:4 Ac a enillasom ei holl ddinasoedd ef yr amser hwnnw, fel nad oedd ddinas nas dygasom oddi arnynt; trigain dinas, holl wlad Argob, brenhiniaeth Og o fewn Basan.

3:5 Yr holl ddinasoedd hyn oedd gedyrn o furiau uchel, pyrth, a barrau, heblaw dinasoedd heb furiau lawer iawn.

3:6 A difrodasom hwynt, fel y gwnaethom i Sehon brenin Hesbon, gan ddifrodi o bob dinas y gwŷr, y gwragedd, a’r plant.

3:7 Ond yr holl anifeiliaid ac ysbail y dinasoedd a ysglyfaethasom i ni ein hunain.

3:8 A ni a gymerasom yr amser hwnnw o law dau frenin yr Amoriaid y wlad o’r tu yma i’r Iorddonen, o afon Arnon hyd fynydd Hermon;

3:9 (Y Sidoniaid a alwant Hermon yn Sirion, a’r Amoriaid a’i galwant Senir;)

3:10 Holl ddinasoedd y gwastad, a holl Gilead, a holl Basan hyd Selcha ac Edrei, dinasoedd brenhiniaeth Og o fewn Basan.

3:11 Oblegid Og brenin Basan yn unig a adawsid o weddill y cewri: wele, ei wely ef oedd wely haearn: onid yw hwnnw yn Rabbath meibion Ammon? naw cufydd oedd ei hyd, a phedwar cufydd ei led, wrth gufydd gŵr.

3:12 A’r wlad hon a berchenogasom ni yr amser hwnnw, o Aroer yr hon sydd wrth afon Arnon, a hanner mynydd Gilead, a’i ddinasoedd ef a roddais i’r Reubeniaid ac i’r Gadiaid.

3:13 A’r gweddill o Gilead, a holl Basan, sef brenhiniaeth Og, a roddais i hanner llwyth Manasse; sef holl wlad Argob, a holl Basan, yr hon a elwid Gwlad y cewri.

3:14 Jair mab Manasse a gymerth holl wlad Argob, hyd fro Gesuri, a Maachathi; ac a’u galwodd hwynt ar ei enw ei hun, Basan Hafoth-Jair, hyd y dydd hwn.

3:15 Ac i Machir y rhoddais i Gilead.

3:16 Ac i’r Reubeniaid, ac i’r Gadiaid, y rhoddais o Gilead hyd afon Arnon, hanner yr afon a’r terfyn, a hyd yr afon Jabboc, terfyn meibion Ammon:

3:17 Hefyd y rhos, a’r Iorddonen, a’r terfyn o Cinnereth, hyd fôr y rhos, sef y môr heli, dan Asdoth-Pisga, tua’r dwyrain.

3:18 Gorchmynnais hefyd i chwi yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Yr AR¬GLWYDD eich Duw a roddes i chwi y wlad hon i’w meddiannu: ewch drosodd yn arfog o flaen eich brodyr meibion Israel, pob rhai pybyr ohonoch.

3:19 Yn unig eich gwragedd, a’ch plant, a’ch anifeiliaid, (gwn fod llawer o ani¬feiliaid i chwi,) a drigant yn eich dinas¬oedd a roddais i chwi.

3:20 Hyd pan wnelo’r ARGLWYDD i’ch brodyr orffwyso fel chwithau, a meddiamiu ohonynt hwythau y wlad y mae yr ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoddi iddynt dros yr Iorddonen: yna dychwelwch bob un i’w etifeddiaeth a roddais i chwi.

3:21 1 Gorchmynnais hefyd i Josua yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Dy lygaid di a welsant yr hyn oll a wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw i’r ddau frenin hyn: felly y gwna’r ARGLWYDD i’r holl deyrnasoedd yr ydwyt ti yn myned drosodd atynt.

3:22 Nac ofnwch hwynt: oblegid yr ARGLWYDD eich Duw, efe a ymladd drosoch chwi.

3:23 Ac erfyniais ar yr ARGLWYDD yr amser hwnnw, gan ddywedyd,

3:24 O ARGLWYDD DDUW, tydi a ddechreuaist ddangos i’th was dy fawredd, a’th law gadarn; oblegid pa DDUW sydd yn y nefoedd, neu ar y ddaear, yr hwn a weithreda yn ôl dy weithredoedd a’th nerthoedd di?

3:25 Gad i mi fyned drosodd, atolwg, a gweled y wlad dda sydd dros yr Iorddonen, a’r mynydd da hwnnw, a Libanus.

3:26 Ond yr ARGLWYDD a ddigiasai wrthyf o’ch plegid chwi, ac ni wrandawodd arnaf: ond dywedyd a wnaeth yr ARGLWYDD wrthyf, Digon yw hynny i ti, na chwanega lefaru wrthyf mwy am y peth hyn.

3:27 Dos i fyny i ben Pisga, a dyrchafa dy lygaid tua’r gorllewin, a’r gogledd, a’r deau, a’r dwyrain, ac edrych arni a’th lygaid: oblegid ni chei di fyned dros yr Iorddonen hon.

3:28 Gorchymyn hefyd i Josua, a nertha a chadarnha ef: oblegid efe a â drosodd o flaen y bobl yma, ac efe a ran iddynt yn etifeddiaeth y wlad yr hon a weli di.

3:29 Felly aros a wnaethom yn y dyffryn gyferbyn â Bethpeor.


PENNOD 4

4:1 Bellach gan hynny, O Israel, gwrando ar y deddfau ac ar y barnedigaethau yr ydwyf yn eu dysgu i chwi i’w gwneuthur; fel y byddoch byw, ac yr eloch, ac y meddiannoch y wlad, y mae ARGLWYDD DDUW eich tadau yn ei rhoddi i chwi.

4:2 Na chwanegwch at y gair yr ydwyf yn ei orchymyn i chwi, ac na leihewch ddim ohono ef, gan gadw gorchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i chwi.

4:3 Eich llygaid chwi oedd yn gweled yr hyn a wnaeth yr ARGLWYDD am Baal-peor; oblegid pob gŵr a’r a aeth ar ôl Baal-peor, yr ARGLWYDD dy DDUW a’i difethodd ef o’th blith di.

4:4 Ond chwi y rhai oeddech yn glynu with yr ARGLWYDD eich Duw, byw ydych heddiw oll.

4:5 Wele, dysgais i chwi ddeddfau a barnedigaethau, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD fy Nuw i mi; i wneuthur ohonoch felly, yn y wlad yr ydych ar fyned i mewn iddi i’w meddiannu,

4:6 Cedwch gan hynny, a gwnewch hwynt: oblegid hyn yw eich doethineb, a’ch deall chwi, yng ngolwg y bobloedd, y rhai a glywant yr holl ddeddfau hyn, ac a ddywedant, Yn ddiau pobl ddoeth a deallus yw y genedl fawr hon.

4:7 Oblegid pa genedl mor fawr, yr hon y mae Duw iddi yn nesáu ati, fel yr ARGLWYDD ein Duw ni, ym mhob dim a’r y galwom arno?

4:8 A pha genedl mor fawr, yr hon y mae iddi ddeddfau a barnedigaethau cyfiawn, megis yr holl gyfraith hon yr ydwyf fi yn ei rhoddi heddiw ger eich bron chwi?

4:9 Ond gochel arnat, a chadw dy enaid yn ddyfal, rhag anghofio ohonot y pethau a welodd dy lygaid, a chilio ohonynt allan o’th galon di holl ddyddiau dy einioes; ond hysbysa hwynt i’th feibion, ac i feibion dy feibion:

4:10 Sef y dydd y sefaist gerbron yr AR¬GLWYDD dy DDUW yn Horeb, pan ddywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Cynnull i mi y bobl, fel y gwnelwyf iddynt glywed fy ngeiriau, y rhai a ddysgant i’m hofni i, yr holl ddyddiau y byddont fyw ar y ddaear, ac y dysgont hwynt i’w meibion.

4:11 A nesasoch, a safasoch dan y mynydd; a’r mynydd oedd yn llosgi gan dân hyd entrych awyr, yn dywyllwch, a chwmwl, a thywyllwch dudew.

4:12 A’r ARGLWYDD a lefarodd wrthych o ganol y tân, a chwi a glywsoch lais y geiriau, ac nid oeddech yn gweled llun dim, ond llais.

4:13 Ac efe a fynegodd i chwi ei gyfamod a orchmynnodd efe i chwi i’w wneuthur, sef y dengair; ac a’u hysgrifennodd hwynt ar ddwy lech faen.

4:14 A’r ARGLWYDD a orchmynnodd i mi yr amser hwnnw ddysgu i chwi ddeddfau a barnedigaethau, i wneuthur ohonoch hwynt yn y wlad yr ydych chwi yn myned iddi i’w meddiannu.

4:15 Gwyliwch gan hynny yn ddyfal ar eich eneidiau, (oblegid ni welsoch ddim llun yn y dydd y llefarodd yr ARGLWYDD wrthych yn Horeb, o ganol y tân,)

4:16 Rhag ymlygru ohonoch, a gwneuthur i chwi ddelw gerfiedig, cyffelybrwydd; un ddelw, llun gwryw neu fenyw,

4:17 Llun un anifail a’r sydd ar y ddaear, llun un aderyn asgellog a eheda yn yr awyr,

4:18 Llun un ymlusgiad ar y ddaear, llun un pysgodyn a’r y sydd yn y dyfroedd dan y ddaear;

4:19 Hefyd rhag dyrchafu ohonot dy lygaid tua’r nefoedd, a gweled yr haul, a’r lleuad, a’r sêr, sef holl lu y nefoedd, a’th yrru di i ymgrymu iddynt, a gwasanaethu ohonot hwynt, y rhai a rannodd yr ARGLWYDD dy DDUW i’r holl bobloedd dan yr holl nefoedd.

4:20 Ond yr ARGLWYDD a’ch cymerodd chwi, ac a’ch dug chwi allan o’r pair haearn, o’r Ain’t, i fed iddo ef yn bobl, yn etifeddiaeth; fel y gwelir y dydd hwn.

4:21 A’r ARGLWYDD a ddigiodd wrthyf am eich geiriau chwi, ac a dyngodd nad awn i dros yr Iorddonen, ac na chawn fyned i mewn i’r wlad dda, yr hon y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei rhoddi i ti yn etifeddiaeth.

4:22 Oblegid byddaf farw yn y wlad hon; ni chaf fi fyned dros yr Iorddonen: ond chwychwi a ewch drosodd, ac a feddiennwch y wlad dda honno.

4:23 Ymgedwch arnoch rhag anghofio cyfamod yr ARGLWYDD eich, Duw, yr hwn a amododd efe a chwi, a gwneuthur ohonoch i chwi ddelw gerfiedig, llun dim oll a waharddodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti.

4:24 Oblegid yr ARGLWYDD dy DDUW sydd dan ysol, a Duw eiddigus.

4:25 Pan genhedlych feibion, ac wyrioni a hir drigo ohonoch yn y wlad, ac ymlygru ohonoch, a gwneuthur ohonoch ddelw gerfiedig, llun dim, a gwneuthur drygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD dy DDUW i’w ddigio ef;

4:26 Galw yr ydwyf yn dystion yn eich erbyn chwi heddiw y nefoedd a’r ddaear, gan ddarfod y derfydd amdanoch yn fuan oddi ar y tir yr ydych yn myned dros yr Iorddonen iddo i’w feddiannu: nid estynnwch ddyddiau ynddo, ond gan ddifetha y’ch difethir.

4:27 A’r ARGLWYDD a’ch gwasgara chwi ymhlith y bobloedd, a chwi a adewir yn ddynion anaml ymysg y cenhedloedd, y rhai y dwg.yr ARGLWYDD chwi atynt:

4:28 Ac yno y gwasanaethwch dduwiau o waith dwylo dyn, sef pren a maen, y rhai ni welant, ac ni chlywant, ac ni fwytânt, ac nid aroglant.

4:29 Os oddi yno y ceisi yr ARGLWYDD dy DDUW, ti a’i cei ef, os ceisi ef â’th holl galon, ac â’th holl enaid.

4:30 Pan gyfyngo arnat, a digwyddo yr holl bethau hyn i ti, yn y dyddiau diwethaf, os dychweli at yr ARGLWYDD dy DDUW, a gwrando ar ei lais ef:

4:31 (Oherwydd yr ARGLWYDD dy DDUW sydd DDUW trugarog;) ni edy efe di, ac ni’th ddifetha, ac nid anghofia gyfamodi dy dadau, yr hwn a dyngodd efe wrthynt.

4:32 Canys ymofyn yn awr am y dyddiau gynt, a fu o’th flaen di, o’r dydd y creodd Duw ddyn ar y ddaear, ac o’r naill gwr i’r nefoedd hyd y cwr arall i’r nefoedd, a fu megis y mawrbeth hwn, neu a glybuwyd ei gyffelyb ef:

4:33 A glybu pobl lais Duw yn llefaru o ganol y tân, fel y clywaist ti, a byw?

4:34 A brofodd un Duw ddyfod i gymryd iddo genedl o ganol cenedl, trwy brofedigaethau, trwy arwyddion, a thrwy ryfeddodau, a thrwy ryfel, a thrwy law gadarn, a thrwy fraich estynedig, a thrwy ofn mawr, fel yr hyn oll a wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw eroch chwi yn yr Aifft yng ngŵydd dy lygaid?

4:35 Gwnaethpwyd i ti weled hynny, i wybod mai yr ARGLWYDD sydd DDUW, nad oes neb arall ond efe.

4:36 O’r nefoedd y parodd i ti glywed ei lais, i’th hyfforddi di; ac ar y ddaear y parodd i ti weled ei dân mawr, a thi a glywaist o ganol y tân ei eiriau ef.

4:37 Ac o achos iddo garu dy dadau, am hynny y dewisodd efe eu had hwynt ar eu hôl; ac a’th ddug di o’i flaen, a’i fawr allu, allan o’r Aifft:

4:38 I yrru cenhedloedd mwy a chryfach na thi ymaith o’th flaen di, i’th ddwyn di i mewn, i roddi i ti eu gwlad hwynt yn etifeddiaeth, fel heddiw.

4:39 Gwybydd gan hynny heddiw, ac ystyria yn dy galon, mai yr ARGLWYDD sydd DDUW yn y nefoedd oddi arnodd, ac ar y ddaear oddi tanodd; ac nid neb arall.

4:40 Cadw dithau ei ddeddfau ef, a’i orchmynion, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw; fel y byddo yn dda i ti, ac i’th feibion ar dy ôl di, fel yr estynnech ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei rhoddi i ti byth.

4:41 Yna Moses a neilltuodd dair dinas o’r tu yma i’r Iorddonen, tua chodiad haul;

4:42 I gael o’r llofrudd ffoi yno, yr hwn a laddai ei gymydog yn amryfus, ac efe heb ei gasáu o’r blaen; fel y gallai ffoi i un o’r dinasoedd hynny, a byw:

4:43 Sef Beser yn yr anialwch, yng ngwastatir y Reubeniaid; a Ramoth yn Gilead y Gadiaid; a Golan o fewn Basan, y Manassiaid.

4:44 A dyma’r gyfraith o osododd Moses o flaen meibion Israel;

4:45 Dyma ‘r tystiolaethau, a’r deddfau, a’r barnedigaethau, a lefarodd Moses wrth feibion Israel, gwedi eu dyfod allan o’r Aifft:

4:46 Tu yma i’r Iorddonen; yn y dyffryn ar gyfer Bethpeor, yng ngwlad Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, yr hwn a drawsai Moses a meibion Israel, wedi eu dyfod allan o’r Aifft:

4:47 Ac a berchenogasant ei wlad ef, a gwlad Og brenin Basan, dau o frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai oedd tu yma i’r Iorddonen, tua chodiad haul,

4:48 O Aroer, yr hon oedd ar lan afon Arnon, hyd fynydd Seion, hwn yw Hermon;

4:49 A’r holl ros tu hwnt i’r Iorddonen tua’r dwyrain, a hyd at fôr y rhos, dan Asdoth-Pisga.

PENNOD 5

5:1 A Moses a alwodd holl Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Clyw, O Israel, y deddfau a’r barnedigaethau yr ydwyf yn eu llefaru lle y clywoch heddiw; fel y byddo i chwi eu dysgu, a’u cadw, a’u gwneuthur.

5:2 Yr ARGLWYDD ein Duw a wnaeth gyfamod â ni yn Horeb.

5:3 Nid a’n tadau ni y gwnaeth yr AR¬GLWYDD y cyfamod hwn, ond â nyni; nyni, y rhai ydym yn fyw bob un yma heddiw.

5:4 Wyneb yn wyneb yr ymddiddanodd yr ARGLWYDD a chwi yn y mynydd, o ganol y tân,

5:5 (Myfi oeddwn yr amser hwnnw yn sefyll rhwng yr ARGLWYDD a chwi, i fynegi i chwi air yr ARGLWYDD: canys ofni a wnaethoch rhag y tân, ac nid esgynnech i’r mynydd,) gan ddywedyd,

5:6 Yr ARGLWYDD dy DDUW ydwyf fi, yr hwn a’th ddug allan o dir yr Aifft, o dŷ y caethiwed.

5:7 Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i.

5:8 Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a’r y sydd yn y nefoedd oddi uchod, nac a’r y sydd yn y ddaear oddi isod, nac a’r y sydd yn y dyfroedd oddi tan y ddaear:

5:9 Nac ymgryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr ARGLWYDD dy DDUW ydwyf DDUW eiddigus, yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casânt;

5:10 Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o’r rhai a’m carant, ac a gadwant fy ngorchmynion.

5:11 Na chymer enw yr ARGLWYDD dy DDUW yn ofer: canys nid dieuog gan yr ARGLWYDD yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer.

5:12 Cadw y dydd Saboth i’w sancteiddio ef, fel y gorchmynnodd yr AR¬GLWYDD dy DDUW i ti.

5:13 Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith:

5:14 Ond y seithfed dydd yw Saboth yr ARGLWYDD dy DDUW: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na’th fab, na’th ferch, na’th was, na’th forwyn, na’th ych, na’th asyn, nac yr un o’th anifeiliaid, na’th ddieithr-ddyn yr hwn fyddo o fewn dy byrth; fel y gorffwyso dy was a’th forwyn, fel ti dy hun.

5:15 A chofia mai gwas a fuost ti yng ngwlad yr Aifft, a’th ddwyn o’r AR¬GLWYDD dy DDUW allan oddi yno â llaw gadarn, ac â braich estynedig: am hynny y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti gadw dydd y Saboth.

5:16 Anrhydedda dy dad a’th fam, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti; fel yr estynner dy ddyddiau, ac fel y byddo yn dda i ti ar y ddaear yr hon y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei rhoddi i ti.

5:17 Na ladd.

5:18 Ac na wna odineb.

5:19 Ac na ladrata.

5:20 Ac na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog.

5:21 Ac na chwennych wraig dy gymyd¬og, ac na chwennych dŷ dy gymydog, na’i faes, na’i was, na’i forwyn, na’i ych, na’i asyn, na dim a’r y sydd eiddo dy gymydog.

5:22 Y geiriau hyn a lefarodd yr AR¬GLWYDD wrth eich holl gynulleidfa yn y mynydd, o ganol y tân, y cwmwl, a’r tywyllwch, â llais uchel; ac ni chwanegodd ddim; ond ysgrifennodd hwynt ar ddwy lech o gerrig, ac a’u rhoddes ataf fi.

5:23 A darfu, wedi clywed ohonoch y llais o ganol y tywyllwch, (a’r mynydd yn llosgi gan dân,) yna nesasoch ataf, sef holl benaethiaid eich llwythau, a’ch henuriaid chwi;

5:24 Ac a ddywedasoch, Wele, yr ARGLWYDD ein Duw a ddangosodd i ni ei ogoniant, a’i fawredd; a’i lais ef a glywsom ni o ganol y tân: heddiw y gwelsom lefaru o DDUW wrth ddyn, a byw ohono.

5:25 Weithian gan hynny paham y byddwn feirw? oblegid y tân mawr hwn a’n difa ni: canys os nyni a chwanegwn glywed llais yr ARGLWYDD ein Duw mwyach, marw a wnawn.

5:26 Oblegid pa gnawd oll sydd, yr hwn a glybu lais y Duw byw yn llefaru o ganol y tân, fel nyni, ac a fu fyw?

5:27 Nesâ di, a chlyw yr hyn oll a ddywed yr ARGLWYDD ein Duw; a llefara di wrthym ni yr hyn oll a lefaro yr AR¬GLWYDD ein Duw wrthyt ti: a nyni a wrandawn, ac a wnawn hynny.

5:28 A’r ARGLWYDD a glybu lais eich geiriau chwi, pan lefarasoch wrthyf; a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Clywais lais geiriau y bobl hyn, y rhai a lefarasant wrthyt: da y dywedasant yr hyn oll a ddywedasant.

5:29 O na byddai gyfryw galon ynddynt, i’m hofni i, ac i gadw fy holl orchmynion bob amser; fel y byddai da iddynt ac i’w plant yn dragwyddol!

5:30 Dos, dywed wrthynt, Dychwelwch i’ch pebyll.

5:31 Ond saf di yma gyda myfi; a mi a ddywedaf wrthyt yr holl orchmynion, a’r deddfau, a’r barnedigaethau a ddysgi di iddynt, ac a wnânt hwythau yn y wlad yr wyf fi ar ei rhoddi iddynt i’w pherchenogi.

5:32 Edrychwch gan hynny am wneuthur fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD eich Duw i chwi: na chiliwch i’r tu deau nac i’r tu aswy.

5:33 Cerddwch yn yr holl ffyrdd a orchmynnodd yr ARGLWYDD eich Duw i chwi; fel y byddoch fyw, ac y byddo yn dda i chwi, ac yr estynnoch ddyddiau yn y wlad yr hon a feddiennwch.


PENNOD 6

6:1 A dymar’r gorchmynion, y deddfau, a’r barnedigaethau a orchmynnodd yr ARGLWYDD eich Duw eu dysgu i chwi; fel y gwneloch hwynt yn y wlad yr ydych yn myned iddi i’w meddiannu:

6:2 Fel yr ofnech yr ARGLWYDD dy DDUW, gan gadw ei holl ddeddfau, a’i orchmynion ef, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti; ti, a’th fab, a mab dy fab, holl ddyddiau dy einioes: ac fel yr estynner dy ddyddiau.

6:3 Clyw gan hynny, O Israel, ac edrych am eu gwneuthur hwynt; fel y byddo yn ddaionus i ti, ac fel y cynyddoch yn ddirfawr, fel yr addawodd ARGLWYDD DDUW dy dadau i ti, mewn gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.

6:4 Clyw, O Israel; yr ARGLWYDD ein Duw ni sydd un ARGLWYDD.

6:5 câr di gan hynny yr ARGLWYDD dy DDUW â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl nerth.

6:6 A bydded y geiriau hyn, yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw, yn dy galon.

6:7 A hysbysa hwynt i’th blant; a chrybwyll amdanynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan gerddych ar y ffordd, a phan orweddych i lawr, a phan gyfodych i fyny.

6:8 A rhwym hwynt yn arwydd ar dy law; byddant yn rhactalau rhwng dy lygaid.

6:9 Ysgrifenna hwynt hefyd ar byst dy dŷ, ac ar dy byrth.

6:10 Ac fe a dderfydd, wedi i’r ARGLWYDD dy DDUW dy ddwyn di i’r wlad, (yr hon y tyngodd efe wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob, ar ei rhoddi i ti,) i ddinasoedd mawrion a theg y rhai nid adeiledaist,

6:11 A thai llawnion o bob daioni y rhai nis llenwaist, a phydewau cloddiedig y rhai nis cloddiaist, i winllannoedd ac olewyddlannau y rhai nis plennaist, wedi iti fwyta, a’th ddigoni;

6:12 Yna cadw arnat, rhag anghofio ohonot yr ARGLWYDD, yr hwn a’th ddug allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed.

6:13 Yr ARGLWYDD dy DDUW a ofni, ac ef a wasanaethi, ac i’w enw ef y tyngi.

6:14 Na cherddwch ar ôl duwiau dieithr, o dduwiau y bobloedd sydd o’ch amgylch chwi:

6:15 (Oblegid Duw eiddigus yw yr AR¬GLWYDD dy DDUW yn dy fysg di,) rhag i lid yr ARGLWYDD dy DDUW ennyn yn dy erbyn, a’th ddifetha di oddi ar wyneb y ddaear.

6:16 Na themtiwch yr ARGLWYDD eich Duw, fel y temtiasoch ef ym Massa.

6:17 Gan gadw cedwch orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, a’i dystiolaethau, a’i ddeddfau, y rhai a orchroynnodd efe iti.

6:18 A gwna yr hyn sydd uniawn a daionus yng ngolwg yr ARGLWYDD: fel y byddo da i ti, a myned ohonot i mewn, a pherchenogi’r wlad dda, yr hon trwy lw a addawodd yr ARGLWYDD i’th dadau di;

6:19 Gan yrru ymaith dy holl elynion o’th flaen, fel y llefarodd yr ARGLWYDD.

6:20 Pan ofynno dy fab i ti wedi hyn, gan ddywedyd, Beth yw y tystiolaethau, a’r deddfau, a’r barnedigaethau, a orchmyn¬nodd yr ARGLWYDD ein Duw i chwi?

6:21 Yna dywed wrth dy fab, Ni a fuom gaethweision i Pharo yn yr Aifft; a’r AR¬GLWYDD a’n dug ni allan o’r Aifft â llaw gadarn.

6:22 Rhoddes yr ARGLWYDD hefyd arwyddion, a rhyfeddodau mawrion a niweidiol, ar yr Aifft, ar Pharo a’i holl dŷ, yn ein golwg ni;

6:23 Ac a’n dug ni allan oddi yno, fel y dygai efe nyni i mewn, i roddi i ni y wlad yr hon trwy lw a addawsai efe i’n tadau ni.

6:24 A’r ARGLWYDD a orchmynnodd i ni wneuthur yr holl ddeddfau hyn, i ofni yr ARGLWYDD ein Duw, er daioni i ni yr holl ddyddiau; fel y cadwai efe nyni yn fyw, megis y mae y dydd hwn.

6:25 A chyfiawnder a fydd i ni, os ymgadwn i wneuthur y gorchmynion hyn oll, o flaen yr ARGLWYDD ein Dew, fel y gorchmynnodd efe i ni.

PENNOD 7

7:1 Pan y’th ddygo yr ARGLWYDD dy DDUW i mewn i’r wlad yr ydwyt ti yn myned iddi i’w meddiannu, a gyrru ohono ymaith genhedloedd lawer o’th flaen di, yr Hethiaid, a’r Girgasiaid, a’r Amoriaid, a’r Canaaneaid, a’r Pheresiaid, a’r Hefiaid, a’r Jebusiaid, saith o genhedloedd lluosocach a chryfach na thydi;

7:2 A rhoddi o’r ARGLWYDD dy DDUW llwynt o’th flaen di, a tharo ohonot ti hwynt: gan ddifrodi difroda hwynt; na wna gyfamod â hwynt, ac na thrugarha wrthynt.

7:3 Nac ymgyfathracha chwaith â hwynt; na ddod dy ferch i’w fab ef, ac na chymer ei ferch ef i’th fab dithau.

7:4 Canys efe a dry dy fab di oddi ar fy, fel y gwasanaethont dduwiau dieithr; felly yr ennyn llid yr ARGLWYDD i’ch erbyn chwi, ac a’th ddifetha di yn ebrwydd.

7:5 Ond fel hyn y gwnewch iddynt: Dinistriwch eu hallorau, a thorrwch en colofnau hwynt; cwympwch hefyd eu llwynau, a llosgwch eu delwau cerfiedig hwy yn y tân.

7:6 Canys pobl sanctaidd ydwyt ti i’r ARGLWYDD dy DDUW: yr ARGLWYDD dy DDUW a’th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ei hun, o’r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear.

7:7 Nid am eich bod yn lluosocach na’r holl bobloedd, yr hoffodd yr ARGLWYDD chwi, ac y’ch dewisodd; oherwydd yr oeddech chwi yn anamlaf o’r holl bobloedd:

7:8 Ond oherwydd cam o’r ARGLWYDD’ chwi, ac er mwyn cadw ohono ef y llw a dyngodd efe wrth eich tadau, y dug yr ARGLWYDD chwi allan â llaw gadam, ac a’ch gwaredodd o dŷ y caethiwed, o law Pharo brenin yr Aifft.

7:9 Gwybydd gan hynny mai yr AR¬GLWYDD dy DDUW sydd DDUW, sef y Duw ffyddlon, yn cadw cyfamod a thrugaredd a’r rhai a’i carant ef, ac a gadwant ei orchmynion, hyd fil o genedlaethau;

7:10 Ac yn talu’r pwyth i’w gas, yn ei wyneb gan ei ddifetha ef: nid oeda efe i’w gas; yn ei wyneb y tâl efe iddo.

7:11 Cadw gan hynny y gorchmynion, a’r deddfau, a’r barnedigaethau, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw, i’w gwneuthur.

7:12 A bydd, o achos gwrando ohonoch. ar y barnedigaethau hyn, a’u cadw, a’u gwneuthur hwynt, y ceidw yr ARGLWYDD dy Duw â thi y cyfamod, a’r drugaredd, a addawodd efe trwy lw i’th dadau di:

7:13 Ac a’th gar, ac a’th fendithia, ac a’th amlha di; ac a fendiga ffrwyth dy fru, a ffrwyth dy dir di, dy ŷd, a’th win, a’th olew, a chynnydd dy wartheg, a diadellau dy ddefaid, yn y tir y tyngodd efe wrth dy dadau, ar ei roddi i ti.

7:14 Bendigedig fyddi uwchlaw yr holl bobloedd: ni bydd yn dy blith di un gwryw nac un fenyw yn anffrwythlon, nac ymhiith dy anifeiliaid di.

7:15 Hefyd yr ARGLWYDD a dynn oddi wrthyt ti bob gwendid, ac ni esyd arnat ti yr un o glefydau drwg yr Aifft, y rhai a adwaenost: ond ar dy holl gaseion di y rhydd efe hwynt.

7:16 Difetha gan hynny yr holl bobloedd y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn eu rhoddi i ti: nac arbeded dy lygad hwynt ac na wasanaetha eu duwiau hwynt; oblegid magl i ti a fyddai hynny.

7:17 Os dywedi yn dy galon, Lluosocach yw y cenhedloedd hyn na myfi; pa ddelw y gallaf eu gyrru hwynt ymaith?

7:18 Nac ofna rhagddynt: gan gofio cofia yr hyn a wnaeth yr ARGLWYDD dy DDUW i Pharo, ac i’r holl Aifft:

7:19 Y profedigaethau mawrion y rhai a welodd dy lygaid, a’r arwyddion, a’r rhyfeddodau, a’r llaw gadarn, a’r braich estynedig, â’r rhai y’th ddug yr ARGLWYDD dy DDUW allan: felly y gwna’r ARGLWYDD dy DDUW i’r holl bobloedd yr wyt ti yn eu hofni.

7:20 A’r ARGLWYDD dy DDUW hefyd a ddenfyn gacwn yn eu plith hwynt, hyd oni ddarfyddo am y rhai gweddill, a’r rhai a ymguddiant rhagot ti.

7:21 Nac ofna rhagddynt: oblegid ARGLWYDD dy DDUW sydd yn dy ganol di, yn DDUW mawr, ac ofnadwy.

7:22 A’r ARGLWYDD dy DDUW a yrr ymaith y cenhedloedd hynny o’th flaen di, bob ychydig ac ychydig: ni elli eu difetha hwynt ar unwaith, rhag myned o fwystfilod y maes yn amlach na thydi.

7:23 Ond yr ARGLWYDD dy DDUW a’u rhydd hwynt o’th flaen di, ac a’u cystuddia hwynt â chystudd dirfawr, nes eu difetha hwynt;

7:24 Ac a rydd eu brenhinoedd hwynt yn dy law di, a thi a ddifethi eu henw hwynt oddi tân y nefoedd: ni saif gŵr yn dy wyneb di, nes difetha ohonot ti hwynt.

7:25 Llosg ddelwau cerfiedig eu duwiau hwynt yn tân: na chwennych na’r arian na’r aur a fyddo arnynt, i’w cymryd i ti; rhag dy faglu ag ef: oblegid ffieidd-dra i’r ARGLWYDD dy DDUW ydyw.

7:26 Na ddwg dithau ffieidd-dra i’th dŷ, fel y byddech ysgymunbeth megis yntau: gan ddirmygu dirmyga ef, a chan ffieiddio ffieiddia ef: oblegid ysgymunbeth yw efe.

PENNOD 8

º1 EDRYCHWCH am wneuthur pob gorchymyn yr wyf fi yn ei orchymyn i ti heddiw; fel y byddoch fyw, ac y cynydd-och, ac yr eloch i mewn, ac y meddiannoch y wlad a addawodd yr ARGLWYDD wrth eich tadau trwy lw.

º2 A chofia yr holl ffordd yr arweiniodd yr ARGLWYDD dy DDUW di ynddi y deugain mlynedd hyn, trwy’r anialwch, er mwyn dy gystuddio di, gan dy brofi, i wybod yr hyn oedd yn dy galon, a gedwit ti ei orchmynion ef, ai nas cedwit.

º3 Ac efe a’th ddarostyngodd, ac a odderodd i ti newynu, ac a’th fwydodd â manna, yr hwn nid adwaenit, ac nid adwaenai dy dadau; fel y gwnai efe i ti wybod nad trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a’r sydd yn dyfod allan o enau yr ARGLWYDD y bydd byw dyn.



º4 Dy ddillad ni heneiddiodd amdanat, a’th droed ni chwyddodd, y deugain mlynedd hyn.

º5 Cydnebydd dithau yn dy galon, fod yr ARGLWYDD dy DDUW yn dy ddysgu di, fel y dysg gŵr ei fab ei hun.

º6 A chadw orchmynion yr ARGLWYDD dy DDUW i rodio yn ei ffyrdd, ac i’w ofni ef.

º7 Oblegid y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn dy ddwyn i mewn i wlad dda, i wlad afonydd dyfroedd, ffynhonnau, a dyfnderau yn tarddu allan yn y dyffryn, ac yn y mynydd;

º8 Gwlad gwemth, a haidd, a gwinwydd, a ffigyswydd, a phomgranadwydd; gwlad olew olewydden, a mel;

º9 Gwlad yr hon y bwytei fara ynddi heb brinder, ac ni bydd eisiau dim arnat ynddi; gwlad yr hon y mae ei cherrig yn haearn, ac o’i mynyddoedd y cloddi bres.

º10 Pan fwyteych, a’th ddigoni; yna y bendithi yr ARGLWYDD dy DDUW am y wlad dda a roddes efe i ti.

º11 Cadw arnat rhag anghofio yr AR¬GLWYDD dy DDUW, heb gadw ei orchmynion, a’i farnedigaethau, a’i ddeddfau ef, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw:

º12 Rhag wedi i ti fwyta, a’th ddigoni, ac adeiladu tai teg, a thrigo ynddynt;

º13 A lluosogi o’th wartheg a’th ddefaid di, ac amlhau o arian ac aur gennyt, ac amlhau o’r hyn oll y sydd gennyt:

º14 Yna ymddyrchafu o’th galon, ac anghofio ohonot yr ARGLWYDD dy DDUW, (yr hwn a’th ddug allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed;

º15 Yr hwn a’th dywysodd di trwy yr anialwch mawr ac ofnadwy, lle yr ydoedd seirff tanllyd, ac ysgorpionau, a syched lle nid oedd dwfr; yr hwn a ddygodd i ti ddwfr allan o’r graig gallestr;

º16 Yr hwn a’th fwydodd di yn yr anial¬wch a manna, yr hwn nid adwaenai dy dadau, er dy ddarostwng, ac er dy brofi di, i wneuthur daioni i ti yn dy ddiwedd,)

º17 A dywedyd ohonot yn dy galon, Fy nerth fy hun, a chryfder fy llaw a barodd i mi y cyfoeth hwn.

º18 Ond cofia yr ARGLWYDD dy DDUW: oblegid efe yw yr hwn sydd yn rhoddi nerth i d i beri cyfoeth, fel y cadarnhao xxxxxxxxxx effe ei gyfamod, yr hwn a dyngodd efe wrth dy dadau, fel y mae y dydd hwn.


º19 Ac os gan anghofio yr anghofi yr ARGLWYDD dy DDUW, a dilyn duwiau dieithr, a’u gwasanaethu hwynt, ac ymgrymu iddynt; yr ydwyf fi yn tystiolaethu yn eich erbyn chwi heddiw, gan ddifetha y’ch difethir.

º20 Fel y cenhedloedd y rhai y mae yr ARGLWYDD ar eu difetha o’ch blaen chwi, feslly y difethir chwithau; am na wrandawsoch ar lais yr ARGLWYDD eich Duw.

PENNOD 9

º1 GWRANDO, Israel: Yr wyt ti yn myned heddiw dros yr Iorddonen hon, i fyned i mewn i berchenogi cen¬hedloedd mwy a chryfach na thi, dinasoedd mwy a chryfach na thi, dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd;

º2 Pobl fawr ac uchel, meibion Anac, y rhai a adnabuost, ac y clywaist ti ddywedyd amdanynt, Pwy a saif o flaen meibion Anac?

º3 Gwybydd gan hynny heddiw, fod yr ARGLWYDD dy DDUW yn myned trosodd o’th flaen di yn dân ysol: efe a’u difetha hwynt, ac efe a’u darostwng hwynt o’th flaen di: felly y gyrri hwynt ymaith, ac y difethi hwynt yn fuan, megis y llef-arodd yr ARGLWYDD wrthyt.

º4 Na ddywed yn dy galon, wedi gyrru o’r ARGLWYDD dy DDUW hwynt allan o’th flaen di, gan ddywedyd. Am fy nghyfiawnder y dygodd yr ARGLWYDD fi i feddiannu’r tir hwn: ond am annuwioldeb y cenhedloedd hyn, y gyrrodd yr ARGLWYDD hwynt allan o’th flaen di.

º5 Nid am dy gyfiawnder di, nac am uniondeb dy galon, yr wyt ti yn myned i feddiannu eu tir hwynt: ond am annuw-loldeb y cenhedloedd hyn y bwrw yr ARGLWYDD dy DDUW hwynt allan o’th flaen di, ac er cyflawni’r gair a dyngodd yr ARGLWYDD wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob.

º6 Gwybydd dithau, nad am dy gyf¬iawnder dy hun y rhoddes yr ARGLWYDD i ti y tir daionus hwn i’w feddiannu: canys pobl wargaled ydych.

º7 Meddwl, ac nac anghofia pa fodd y digiaist yr ARGLWYDD dy DDUW yn yr anialwch: o’r dydd y daethost allan o dir yr Aifft, hyd eich dyfod i’r lle hwn, gwrthryfelgar fuoch yn erbyn yr AR¬GLWYDD.

º8 Yn Horeb hefyd y digiasoch yr AR¬GLWYDD; a digiodd yr ARGLWYDD wrthych, i’ch difetha.

º9 Pan euthum i fyny i’r mynydd i gymryd y llechau meini, sef llechau y cyfamod, yr hwn a wnaeth yr ARGLWYDD a chwi; yna yr arhoais yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos: bara ni fwyteais, a dwfr nid yfais.

º10 A rhoddes yr ARGLWYDD ataf y ddwy lech faen, wedi eu hysgrifennu a bys Duw; ac arnynt yr oedd yn ôl yr holl eiriau a lefarodd yr ARGLWYDD wrthych yn y mynydd, o ganol y tân, ar ddydd y gymanfa.

º11 A bu, ymhen y deugain niwrnod a’r deugain nos, roddi o’r ARGLWYDD ataf y ddwy lech faen; sef llechau y cyfamod.

º12 A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Cyfod, dos oddi yma i waered yn fuan: canys ymlygrodd dy bobl, y rhai a ddyg-aist allan o’r Aifft: ciliasant yn ebrwydd o’r ffordd a orchmynnais iddynt; gwnaethant iddynt eu hun ddelw dawdd.

º13 A llefarodd yr ARGLWYDD wrthyf, gan ddywedyd, Gwelais y bobl hyn; ac wele, pobl wargaled ydynt.

º14 Paid a mi, a mi a’u distrywiaf hwynt, ac a ddileaf eu henw hwynt oddi tan y nefoedd; ac a’th wnaf di yn genedl gryf-ach, ac amlach na hwynt-hwy.

º15 A mi a ddychwelais, ac a ddeuthum i waered o’r mynydd, a’r mynydd ydoedd yn llosgi gan dan; a dwy lech y cyfamod oedd yn fy nwylo.

º16 Edrychais hefyd; ac wele, pechasech yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw: gwnaethech i chwi lo tawdd: ciliasech yn fuan o’r ffordd a orchmynasai yr ARGLWYDD i chwi.

º17 A mi a ymeflais yn y ddwy lech, ac a’u teflais hwynt o’m dwylo, ac a’u torrais hwynt o flaen eich llygaid.

º18 A syrthiais gerbron yr ARGLWYDD, fel y waith gyntaf, ddeugain niwrnod a deugain nos; ni fwyteais fara, ac nid yfais ddwfr: oherwydd eich holl bechodau chwi y rhai a bechasech, gan wneuthur drygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD i’w ddigio ef.

º19 (Canys ofnais rhag y sonant a’r dig, trwy y rhai y digiodd yr ARGLWYDD ftTthych, i’ch dinistrio chwi.) Eto gwrandawodd yr ARGLWYDD arnaf y waith honno hefyd.

º20 Wrth Aaron hefyd y digiodd yr ARGLWYDD yn fawr, i’w ddifetha ef: a mi a weddiais hefyd dros Aaron y waith faonno.

º21 Eich pechod chwi hefyd yr hwn a iroaethoch, sef y llo, a gymerais, ac a’i Hosgais yn tân; curais ef hefyd, gan ei falurio yn dda, nes ei falu yn llwch: a bwriais ei lwch ef i’r afon oedd yn disgyn O’T mynydd.

9:22 O fewn Tabera hefyd, ac o fewn Massa, ac o fewn Beddau’r blys, yr oeddech yn digio’r ARGLWYDD.

9:23 A phan anfonodd yr ARGLWYDD chwi o Cades-Barnea, gan ddywedyd, Ewch i fyny, a meddiennwch y tir yr hwn a roddais i chwi, yr anufuddhasoch i .air yr ARGLWYDD eich Duw: ni chredasoch hefyd iddo, ac ni wrandawsoch ar ei lais ef.

º34 Gwrthryfelgar fuoch yn erbyn yr ARGLWYDD er y dydd yr adnabum chwi.

º25 A mi a syrthiais gerbron yr ARGLWYDD ddeugain niwrnod a deugain nos, fel y syrthiaswn o’r blaen; am ddy¬wedyd o’r ARGLWYDD y difethai chwi.

º26 Gweddiais hefyd ar yr ARGLWYDD, a idywedais, ARGLWYDD DDUW, na ddi-felha dy bobl, a’th etifeddiaeth a wared-aist yn dy fawredd, yr hwn a ddygaist aUan o’r Aifft a llaw gref.

º27 Cofia dy weision, Abraham, Isaac, a Jacob, nac edrych ar galedrwydd y bobl hyn, nac ar eu drygioni, nac ar eu pechod:

º28 Rhag dywedyd o’r wlad y dygaist ni aUan ohoni, O eisiau gallu o’r ARGLWYDD eu dwyn hwyct i’r tir a addawsai efe iddynt, ac o’i gas arnynt, y dug efe hwynt allan, i’w lladd yn yr anialwch. 29 Eto dy bobl di a’th etifeddiaeth ydynt hwy, y rhai a ddygaist allan yn dy fawr nerth, ac a’th estynedig fraich.

PENNOD 10 zx

º1 Yr amser hwnnw y dywedodd’ yr Ai - ARGLWYDD wrthyf, Nadd i ti dd y lech faen, fel y rhai cyntaf; a thyredii fyny ataf fi i’r mynydd, a gwna i ti arfc bren.

º2 A mi a ysgrifennaf ar y llechau ‘y geiriau oedd ar y llechau cyntaf, y rhai a dorraist; a gosod dithau hwynt yn yr arch.

º3 Yna gwneuthum arch o goed Sittim; ac a neddais ddwy lech faen, fel y rhAi cyntaf; ac a euthum i fyny i’r mynydd, a’r ddwy lech yn fy llaw. ‘

º14 Ac efe a ysgrifennodd ar y llechau, fel yr ysgrifen gyntaf, y dengair, a lefarodd yr ARGLWYDD wrthych yn y mynydd, o ganol y tân, yn nydd y gymanfa: a rhoddes yr ARGLWYDD hwynt ataf fi.

º5 Yna y dychwelais ac y deuthum i waered o’r mynydd, ac a osodais y llechau yn yr arch, yr hon a wnaethwn, ac yno y maent; megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i mi.

º6 A meibion Israel a aethant o Beeroth meibion Jacan i Mosera: yno y bu farw Aaron, ac efe a gladdwyd yno; ac Eleasar ei fab a offeiriadodd yn ei kef.

º7 Oddi yno yr aethaat i Gudgoda; ac-o Gudgoda i Jofbath, tir afonydd dyfroedd.

º8 Yr amser hwnnw y neilltuodd yr ARGLWYDD lwyth Lefi, i ddwyn arch’ cyfamod yr ARGLWYDD, i sefyll gerbron yr ARGLWYDD, i’w wasanaethu ef, ac i fendigo yn ei enw ef, hyd y dydd hwn.

º9 Am hynny ni bydd rhan i Lefi, nac etifeddiaeth gyda’i frodyr: yr ARGLWYDD yw ei etifeddiaeth ef; megis y dywedodd yr ARGLWYDD dy DDUW wrtho ef.

º10 A mi a arhoais yn y mynydd ddeu¬gain niwrnod a deugain nos, fel y dyddiau cyntaf: a gwrandawodd yr ARGLWYDD

arnaf y waith hon hefyd; ni ewyllysiodd yr ARGLWYDD dy ddifetha di.

º11 A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Cyfod, dos i’th daith o flaen y bobl; fel yr elont i mewn ac y meddiannont y tir, yr hwn a dyngais wrth eu tadau ar ei toddi iddynt.

º12 Ac yr awr hon, Israel, beth y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei ofyil gennyt, ond ofni yr ARGLWYDD dy DDUW, a rhodio yn ei holl ffyrdd, a’i garu ef, ‘a. gwasanaethu yr ARGLWYDD dy DDOW fi’th holl galon, ac a’th holl enaid,

º13 Cadw gorchmynion yr ARGLWYDD, a’i ddeddfau, y rhai yr wyf yn eu gorchy-myn i ti y dydd hwn, er daioni i ti?

º14 Wele, y nefoedd, a nefoedd y MSoedd, ydynt eiddo yr ARGLWYDD dy DDUW, y ddaear hefyd a’r hyn oll sydd ynddi.

º15 Yn unig ar dy dadau di y rhoddes yr ARGLWYDD ei serch, gan eu horn hwynt; ac efe a wnaeth ddewis o’u had ar eu hôl hwynt, sef ohonoch chwi, o flaen yr holl bobloedd, megis heddiw y gwelir.

º16 Enwaedwch chwithau ddienwaediad eich calon, ac na chaledwch eich gwar nawyach.

º17 Canys yr ARGLWYDD eich Duw chwi yw Duw y duwiau, ac Arglwydd yr arglwyddi, Duw mawr, cadarn, ac ofa-adwy, yr hwn ni dderbyn wyneb, ac ta chymer wobr.

º18 Yr hwn a farna’r amddifad a’r weddw; ac y sydd yn hoffi’r dieithr, gan roddi iddo fwyd a dillad.

º19 Hoffwch chwithau y dieithr: ‘canyS dieithriaid fuoch yn nhir yr Aifft.

º20 Yr ARGLWYDD dy DDUW a ofai, ac ef a wasanaethi: wrtho ef hefyd y glyni, ac i’w enw ef y tyngi.

º21 Efe yw dy fawl, ac efe yw dy Dotw yr hwn a wnaeth i ti y mawrion a¥ ofnadwy bethau hyn, y rhai a welodd dy lygaid.

º22 Dy dadau a aethant i waered i*r Aifft yn ddeg enaid a thrigain; ac yr awr hon yr ARGLWYDD dy DDUW a’th wnaelh di fel sêr y nefoedd o luosowgrwydd.

PENNOD 11 º1 câr dithau yr ARGLWYDD dy DDUW, a chadw ei gadwraeth ef, at ‘ddeddf¬au, a’i farnedigaethau, a’i orchmynioa, byth.

º2 A chydnabyddwch heddiw: canys nid wyf yn ymddiddan a’ch plant, y rhai nM adnabuant, ac ni welsant gerydd yr ARGLWYDD ‘efch Duw chwi, ei fawredd, ei law gref, a’i fraich estynedig;

º3 Ei arwyddion hefyd, a’i weithredoeddj y rhai a wnaeth efe yng nghanol yr Ain’t, i Pharo brenin yr Aifft, ac i’w holl dir;

º4 A’r hyn a wnaeth efe i lu yr Aifft, i’w feirch ef, ac i’w gerbydau; y modd y gwnaeth efe i ddyfroedd y môr coch lenwi dros eu hwynebau hwynt, pan oeddynt yn ymlid ar eich ôl, ac y difethodd yr AR¬GLWYDD hwynt, hyd y dydd hwn:

º5 A’r hyn a wnaeth efe i chwi yn yr anialwch, nes eich dyfod i’r lle hwn;

º6 A’r hyn a wnaeth efe i Dathan, ac i Abiram, meibion Eliab, mab Reuben; y modd yr agorodd y ddaear ei safn, ac a’a llyncodd hwynt, a’u teuluoedd, a’u pebyll, a’r holl olud oedd ganddynt, ymysg holl Israel.

º7 Eithr eich llygaid chwi oedd ytt gweled holl fawrion weithredoedd yr ARGLWYDD, y rhai a wnaeth efe.

º8 Cedwch chwithau bob gorchymyn yr ydwyf fi yn ei orchymyn i chwi heddiw; fel y byddoch gryfion, ac yr eloch i mewn, ac y meddiannoch y tir yr ydych yn myned trosodd iddo i’w feddiannu:

º9 Ac fel yr estynnodi ddyddiau yn y tir yr hwn a dyngodd yr ARGLWYDD i’dh tadau, ar ei roddi iddynt, ac i’w had; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl.

º10 1 Oherwydd y tir yr wyt yn myned iddo i’w feddiannu, nid fel tir yr Aifft y mae, yr hwn y daethoch allan ohono, lle yr heuaist dy had, ac y dyfrheaist a’th droed, fel gardd lysiau:

º11 Ond y tir yr ydych yn myned trosodd iddo i’w feddiannu, sydd fynydd-dir, a dyffryndir, yn yfed dwfr o law y nefoedd 5

º12 Tir yw, yr hwn y mae yr ARGLWYDB dy DDUW yn ei ymgeleddu: llygaid yr" ARGLWYDB dy DDUW sydd bob amser arno, o ddechreuad y flwyddyn hyd ddi-wedd y flwyddyn hefyd.

º13 A bydd, os gan wrando y gwrandewch ar fy ngorchmynion, y rhai yr ydwyfyn eu gorchymyn i chwi heddiw, i garu yr ARGLWYDD eich Duw, ac i’w wasanaethu, a’ch holl galon, ac a’ch holl enaid;

º14 Yna y rhoddaf law i’ch tir yn ei amser, sef y cynnar-law, a’r diweddar-law; fel y casglech dy yd, a’th win, a’th olew;

º15 A rhoddaf laswellt yn dy faes, i’th anifeiliaid; fel y bwytaech, ac y’th ddi-goner.

º16 Gwyliwch arnoch rhag twyllo eich calon, a chilio ohonoch, a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt;

º17 Ac enynnu dicllonedd yr ARGLWYDD i’ch erbyn, a chau ohono ef y nefoedd, fel na byddo glaw, ac na roddo y ddaear ei chnwd, a’ch difetha yn fuan o’r tir yr hwn y mae yr ARGLWYDD yn ei roddi i chwi.

º18 Am hynny gosodwch fy ngeiriau hyn yn eich calon, ac yn eich meddwl, a rhwymwch hwynt yn arwydd ar eich dwylo, a byddant yn rhactalau rhwng eich llygaid:

º19 A dysgwch hwynt i’ch plant; gan grybwyll amdanynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan rodiech ar y ffordd, pan orweddych hefyd, a phan godych.

º20 Ac ysgrifenna hwynt ar byst dy dŷ, ac ar dy byrth;

º21 Fel yr amlhao eich dyddiau chwi, a dyddiau eich plant chwi, ar y ddaear yr hon a dyngodd yr ARGLWYDD wrth eich tadau am ei rhoddi iddynt, fel dyddiau y nefoedd ar y ddaear.

º22 Canys os gan gadw y cedwch yr holl orchmynion hyn, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi i’w gwneuthur, i garu yr ARGLWYDD eich Duw, i rodio yn ei holl ffyrdd ef, ac i lynu wrtho ef;

º23 Yna y gyr yr ARGLWYDD allan yr holl genhedloedd hyn o’ch blaen chwi, a chwi a feddiennwch genhedloedd mwy a chryfach na chwi.

º24 Pob man y sathro gwadn eich troed chwi arno, fydd eiddo chvri:s ‘r anialwch a Libanus, ac o’r afon sefafpn Ewffrates, hyd y môr eithaf, y bydd eicjh terfyn chwi.,. i .;-’


º25 Ni saif gŵr yn eich wyneb: eich arswyd a’ch ofn a rydd yr ARGLWYDD eich Duw ar wyneb yr holl dir yr hwn y sathroch arno, megis y llefarodd wrthych.

º26 Wele, rhoddi yr ydwyf fi o’ch blaen chwi heddiw fendith a melltith:

º27 Bendith, os gwrandewch ar orchmyn¬ion yr ARGLWYDD eich Duw, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw;

º28 A melltith, oni wrandewch ar orch¬mynion yr ARGLWYDD eich Duw, ond cilio ohonoch allan o’r nbrdd yr ydwyf fi yn ei gorchymyn i chwi heddiw, i fyned ar ôl duwiau dieithr, y rhai nid adna-buoch.

º29 Bydded gan hynny, pan ddygo yr ARGLWYDD dy DDUW di i’r tir yr ydwyt yn myned iddo i’w feddiannu, roddi ohonot y fendith ar fynydd Garisim, a’r feUtith ar fynydd Ebal.

º30 Onid yw y rhai hyn o’r tu hwnt i’r Iorddonen, tua’r lle y machluda’r haul, yn nhir y Canaaneaid, yr hwn sydd yn trigo yn y rhos ar gyfer Gilgal, gerllaw gwastadedd More?

º31 Canys myned yr ydych dros yr Iorddonen, i fyned i feddiannu’r tir y mae yr ARGLWYDD eich Duw yn ei roddi i chwi; a chwi a’i meddiennwch ac a breswyliwch ynddo.

º32 Gwyliwch chwithau am wneuthur yr holl ddeddfau a’r barnedigaethau, y rhai yr ydwyf fi yn eu rhoddi o’ch blaen chwi heddiw.

PENNOD 12

º1 DYMA ‘r deddfau a’r barnedigaethau, y rhai a wyliwch ar eu gwneuthur, yn y tir a rydd ARGLWYDD DDUW dy dadau i ti i’w feddiannu, yr holl ddyddiau y byddoch fyw ar y ddaear.

º2 Gan ddinistrio dinistriwch yr holl fannau, y rhai y gwasanaethodd y cenhedloedd yr ydych chwi yn eu rneddiannu eu duwiau ynddynt, ar y mynyddoedd uchel, ac ar y bryniau, a than bob pren gwyrddlas.

º3 Drylliwch hefyd eu hallorau hwynt, a thorrwch eu colofnau hwynt, a llosgwch eu llwynau hwynt a than, a thorrwch gerfiedig ddelwau eu duwiau hwynt, a dinistriwch eu henwau hwynt o’r lle hwnnw. ‘ ‘.

º4 Na wnewch felly i’r ARGLWYDD etch Duw.

º5 Ond y lle a ddewiso yr ARGLWYDB eich Duw o’ch holl lwythau chwi, i osodt ei enw yno, ei drigfa ef a geisiwch, ac yno y deuwch: ‘

º6 A dygwch yno eich poethoffrymau, a’ch aberthau, a’ch degymau, ac offrwm dyrchafael eich llaw, eich addunedau’ hefyd, a’ch offrymau gwirfodd, a chyntaf-anedig eich gwartheg a’ch defaid.

º7 A bwytewch yno gerbron yr AR¬GLWYDD eich Duw, a llawenhewch ym mhob dim y rhoddoch eich llaw arno, chwychwi a’ch teuluoedd, yn yr hyn y’th fendithiodd yr ARGLWYDD dy DDUW.

º8 Na wnewch yn ôl yr hyn oll yr ydym ni yn ei wneuthur yma heddiw, pob un yr hyn fyddo uniawn yn ei olwg ei hun.

º9 Canys ni ddaethoch hyd yn hyn i’r orffwysfa, ac i’r etifeddiaeth, yr hon y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei rhoddi iti.

º10 Ond pan eloch dros yr Iorddonen, a thrigo yn y tir yr hwn y mae yr AR¬GLWYDD eich Duw yn ei roddi yn etifedd¬iaeth i chwi, a phan roddo lonydd i chwi oddi wrth eich holl elynion o amgylch, fel y preswylioch yn ddiogel:

º11 Yna y bydd lle wedi i’r ARGLWYDD eich Duw ei ddewis iddo, i beri i’w enw aros ynddo; yno y dygwch yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei orchymyn i chwi; sef eich poethoffrymau, a’ch aberthau, eich degymau, a dyrchafael-offrwm eich llaw, a’ch holl ddewis addunedau, y rhai a addunedoch i’r ARGLWYDD.

º12 A llawenhewch gerbron yr AR¬GLWYDD eich Duw; chwi, a’ch meibion, a’ch merched, a’ch gweision, a’ch morynion, a’r Lefiad a fyddo yn eich pyrth chwi; canys nid oes iddo ran nac ed- feddiaeth gyda chwi.,


º13 Gwylia arnat rhag poethonrymu ohonot dy boethoffrymau ym mhob lle a’r a welych:

º14 Ond yn y lle a ddewiso yr AR¬GLWYDD o fewn un o’th lwythau di, yno yr offrymi dy boethoffrymau, ac y gwnei yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei orchymyn i ti.

º15 Er hynny ti a gei ladd a bwyta cig yn ôl holl ddymuniant dy galon, yn ôl beadith yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hon a rydd efe i ti, yn dy holl byrth: yr aflan a’r glân a fwyty ohono, megis o’r iwrch a’r carw.

º16 Ond na fwytewch y gwaed; ar y ddaear y tywelltwch ef fel dwfr.

º17 xxx Ni elli fwyta o fewn dy byrth. ddegfed dy yd, na’th win, na’th olew, na chyntaf-anedig dy wartheg, na’th ddefaid, na’th holl addunedau y rhai a addunech, na’th offrymau gwirfodd, na dyrchafael-offrwm dy law:

º18 Ond o flaen yr ARGLWYDD dy DDUW y bwytei hwynt, yn y lle a ddewiso yr ARGLWYDD dy DDUW; ti, a’th fab, a’th ferch, a’th was, a’th forwyn, a’r Lefiad a fyddo yn dy byrth di: llawenycha gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW yn yr hyn oll yr estynnech dy law arno.

º19 Gwylia arnat rhag gadael y Lefiad, tra fyddech byw ar y ddaear.

º20 Pan helaetho yr ARGLWYDD dy BDUW dy derfyn di, megis y dywedodd wrthyt, os dywedi, Bwytaf gig, (pan ddymuno dy galon fwyta cig,) yn ôl holl ddymuniad dy galon y bwytei gig.

º21 Os y lle a ddewisodd yr ARGLWYDD dy DDUW i roddi ei enw ynddo, fydd pell oddi wrthyt; yna lladd o’th wartheg, ac o’th ddefaid, y rhai a roddodd yr ARGLWYDD i ti, megis y gorchmynnais i ti, a bwyta o fewn dy byrth wrth holl ddymuniad dy galon.

º22 Eto fel y bwyteir yr iwrch a’r carw, felly y bwytei ef: yr aflan a’r glân a’i bwyty yn yr un ffunud.

º23 Yn unig bydd sier na fwytaech y gwaed: canys y gwaed yw yr einioes; ac ni chei fwyta yr einioes ynghyd â’r cig.

-te Na fwyta (if,, ar y ddaear y tyweliti ef fel dwfr.

º25 Na fwyta ef; fel y byddo daioni i ti, ac I’th feibion ar dy ôl, pan wnelych yr uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.

º26 Eto cymer dy gysegredig bethau y rhai sydd gennyt, a’th addunedau, a fhyred i’r lle a ddewiso yr ARGLWYDD.

º27 Ac offryma dy boethoffrwm, (y cig a’r gwaed,) ar allor yr ARGLWYDD dy DDUW: a gwaed dy aberthau a dywelltir wrth allor yr ARGLWYDD dy DDUW; a’r cig a fwytei di.

º28 Cadw a gwrando yr holl eiriau hyn yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti; fel y byddo daioni i ti, ac i’th feibion ar dy ôl byth, pan wnelych yr hyn sydd dda ac uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD dy DDUW.

º29 Pan ddinistrio yr ARGLWYDD dy DDUW y cenhedloedd, y rhai yr wyt ti yn myned atynt i’w meddiannu, o’th flaen di, a dyfod ohonot yn eu lle hwynt, a’ phteswylio yn eu tir hwynt:

º30 Gwylia arnat rhag ymfaglu ohonot ar eu hôl hwynt, wedi eu dinistrio hwynt o’th flaen di; a rhag ymorol am eu duwiau hwynt, gan ddywedyd. Pa fodd y gwasanaethodd y cenhedloedd hyn eu duwiau? myfi a wnaf felly hefyd.

º31 Na wna di felly i’r ARGLWYDD dy DDUW: canys pob ffieidd-dra yr hwn oedd gas gan yr ARGLWYDD, a wnaethant hwy i’w duwiau: canys eu meibion hefyd a’u merched a losgasant yn tan i’w duwiau.

º32 Pob gair yr wyf fi yn ei orchymyn i chwi, edrychwch am wneuthur hynny: na chwanega ato, ac na thyn oddi wrtho.

PENNOD 13

º1 PAN godo yn dy fysg di broffwyd, neu freuddwydydd breuddwyd, (a rhoddi i ti arwydd neu ryfeddod,

º2 A dyfod i ben o’r arwydd, neu’r rhyfeddod a lefarodd efe wrthyt,) gan ddywedyd. Awn ar ôl duwiau dieithr, (y rhai nid adwaenost,) a gwasanaethwn hwynt;

º3 Na wrando ac emaa y proffwyd hwnnw, neu ar y breuddwydydd xxxx bteudd wyd hwnnw: canys yr ARGLWYDD eld Duw sydd yn eich profi chwi, i wybo a ydych yn caru’r ARGLWYDD eich T)w a’ch holl galon, ac a’ch holl enaid.


º4 Ar ôl yr ARGLWYDD eich DUW y ewch, ac ef a ofnwch, a’i orchmynion ef a gedwch, ac ar ei lais ef y gwrandewchi-ac ef a wasanaethwch, ac wrtho ef y glynwch.

º5 A’r proffwyd hwnnw, neu y breuddwydydd xxxx breuddwyd hwnnw, a roddir i farwolaeth; canys llefarodd i’ch trot chwi oddi wrth yr ARGLWYDD eich DuW, yr hwn a’ch dug chwi allan o dir yr. Aifft, ac a’ch gwaredodd chwi o dŷ y caethiwed, i’th wthio di allan o’r ffordd, yr hon y gorchmynnodd yr ARGLWYDO dy DDUW i ti rodio ynddi. Felly y tynni ymaith y drwg o’th fysg.

º6 Os dy frawd, mab dy fam, neu dy fab dy hun, neu dy ferch, neu wraig dy fynwes, neu dy gyfaill, yr hwn sydd fel dy enaid dy hun, a’th annog yn ddirgel, gan ddywedyd, Awn a gwasanaethwn. dduwiau dieithr, y rhai nid adnabuost ti, na’th dadau;

º7 Sef rhai o dduwiau y bobl sydd o’ch amgylch chwi, yn agos atat, neu ymhell oddi wrthyt, o un cwr i’r tir hyd gŵr arall y tir:

º8 Na chydsynia ag ef, ac na wrando arno, ac nac arbeded dy lygad ef, ac nac eiriach ef, ac na chela arno:

º9 Ond gan ladd lladd ef; bydded dy law di arno ef yn gyntaf, i’w roddi i farwolaeth, a llaw yr holl bobl wedi hynny.

º10 A llabyddia ef a meini, fel y byddo marw: canys ceisiodd dy wthio di oddi wrth yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn a’th ddug di allan o dir yr Aifft, o d y eaethiwed.

º11 A holl Israel a glywant, ac a ofnant, ac ni chwanegant wneuthur y fath beth drygionus a hyn yn dy blith.

º12 Pan glywech am un o’th ddinasoedd, y rhai y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn eu rhoddi i ti i drigo ynddynt, gan ddywedyd,

º13 Aeth dynioa, meibion y fall, allan? o’th blith, a gyrasant drigolion eu dinas,. gan ddywedyd. Awn, gwasanaethwn. dduwiau dieithr, y rhai nid adnabuoch;

º14 Yna ymofyn, a chwilia, a chais yn dda; ac wele, os gwirionedd yw, a bod yn sicr wneuthur y ffieidd-dra hyn y& dy fysg;

º15 Gan daro taro drigolion y ddinas honno a min y cleddyf; difroda hi, a’r rhai oll a fyddant ynddi, a’i hanifeiliaid hefyd, a min y cleddyf.

º16 A’i holl ysbail hi a gesgli i ganol at heol hi, ac a losgi’r ddinas a’i holl ysbail hi yn gwbl, i’r ARGLWYDD dy DDUW, â-than: felly bydded yn garnedd byth; na& adeilader hi mwy.

º17 Ac na lyned wrth dy law di ddim o’r diofryd-beth: fel y dychwelo yr ARGLWYDD oddi wrth angerdd ei ddigy ac y rhoddo i ti drugaredd, ac y tosturio wrthyt, ac y’th amlhau, megis y tyngoddr wrth dy dadau:

º18 Pan torandawech ar lais yr AR¬GLWYDD dy DDUW, gan gadw ei holl orchmynion ef, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw, gan wneuthur yr hyn sydd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD dy DDUW.

PENNOD 14

º1 PLANT ydych Chwi t’r ARGLWYDD eich Duw: na thorrwch mohonoch eich hunain, ac na wnewch foeini rhwng eich llygaid, dros y marw.

º2 Canys pobl sanctaidd wyt ti i’r AR¬GLWYDD dy DDUW, a’r ARGLWYDD a’th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ef, o’r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear.

º3 Na fwyta ddim ffiaidd,

º4 Dyma’r anifeiliaid a fwytewch; eidion, llwdn dafad, a llwdn gafr,

º5 Y carw, a’r iwrch, a’r llwdn hydd, A’r bwch gwyllt, a’r unicorn, a’r ych gwyllt, a’r afr wyllt.

º6 A phob anifail yn hollti’r ewin, &6 yn fforchogi hollt y ddwy ewin, ac 5& enoi cil, ymysg yr anifeiliaid; hwnnfl? a fWyteweh.

º7 Ond hyn ni fwytewch, o’r rhai a gnoant y cil, neu a holltant yr ewin yn. fforchog: y camel, a’r ysgyfarnog, a’r gwningen: er bod y rhai hyn yn cnoi eu cil, am nad ydynt yn fforchogi’r ewifl aflan ydynt i chwi,

º8 Yr hwch hefyd, er ei bod yn fforchogrt-ewin, ac neb gnoi cil, aflan yw i chwi: na fwytewch o’u cig hwynt, ac na chy* ffyrddwch a’u burgyn hwynt.

º9 Hyn a fwytewch o’r hyn OH &ydt yn y dyfroedd: yr hyn oll sydd idd esgyH a chen a fwytewch.

º10 A’r hyn oll nid oes iddo esgyft 9 chen, ni fwytewch: aflan yw i chwi.

º11 Pob aderyn glân a fwytewch.

º12 A dyma’r rhai ai fwytewch 0-honynt: yr eryry a’r wyddwalch, a’r fiorwennol,

º13 A’r bod a’r barcud, a’r fwltur y ei rhyw,

º14 A phob cigfran yn ei rhyw,

º15 A chyw yr estrys, a’r fran BOS a’c gog, a’r hebog yn ei ryw,

º16 Aderyn y cyrff, a’r dylluan, a’r ??gogfran,

º17 A’r pelican, a’r biogen, a’r fulfran,

º18 A’r ciconia, a’r cryr yn ei ryw,. a, gornchwigl, a’r ystlum.

º19 A phob ymlusgiad asgellog gydd aflan i chwi: na fwytaer hwynt.

º20 Pob ehediad glân a fwyEeWch.

º21 Na fwytewch ddim a fo marw ei hun: dod ef i’r dieithr fyddo yn dy byrth, a bwytaed ef; neu gwerth ef i’r dieithr: canys pobl sanctaidd ydwyt i’r ARGLWYDD dy DDUW. Na ferwa fyn yn llaeth ei fam.

º22 Gan ddegymu degyma holl gyn-ftyrch dy had, sef ffrwyth dy faes, bob biwyddyn.

º23 A bwyta gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW, yn y lle a ddewiso efe i drigo o’i enw ef ynddo, ddegwm dy yd, dy win, a’th olew, a chyntaf-anedig dy wartheg, i’th ddefaid; fel y dysgech ofni yr ARGLWYDD dy DDUW bob amser.

º24 A phan fyddo y ffordd ry hir i ti fel na ellych ei ddwyn ef, aeu os y lle fydd ymhell oddi wrthyt, ye Stum fl

ddewiso yr ARGLWYDD dy DDUW i ‘osod ei enw ynddo, pan y’th fendithio yr ARGLWYDD dy DDUW:

º25 Yna dod ei werth yn arian; a rhwym yr arian yn dy law, a dos i’r lle a ddewiso yr ARGLWYDD dy DDUW:

º26 A dod yr arian am yr hyn oll a chwenycho dy galon; am wartheg, neu am ddefaid, neu am win, neu am ddiodr gref, neu am yr hyn oll a ddymuno dy galon: a bwyta yno gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW, a llawenycha di, a’th deulu.

º27 A’r Lefiad yr hwn fyddo yn dy bynh, na wrthod ef: am nad oes iddo na rhan nac etifeddiaeth gyda thi.

º28 Ymhen tair blynedd y dygi allan holl ddegwm dy gnwd y flwyddyn honno: a dyro ef i gadw o fewn dy byrth.

º29 A’r Lefiad, (am nad oes iddo ranr nac etifeddiaeth gyda thi,) a’r dieithr, a’r amddifad, a’r weddw, y rhai fydd yn dy byrth di, a ddeuant, ac a fwytant, ac a ddigonir; fel y’th fendithio yr AR¬GLWYDD dy DDUW ym mhob gwaith a wnelych a’th law.

PENNOD 15

º1 YMHEN pob saith mlynedd gwna ollyngdod.

º2 A dyma wedd y gollyngdod. Go-llynged pob echwynnwr i’w gymydog yn rhydd ei echwyn a echwynnodd efe: na fynned hynny drachefn gan ei gymydog, neu ei frawd; canys cyhoeddwyd gollyng¬dod yr ARGLWYDD.

º3 Ti a elli fynnu drachefn gan y dieithr; ond gollynged dy law yn rhydd yr hyn sydd i ti gyda’th frawd:

º4 Megis na byddo ohonot ti gardotyn: canys yr ARGLWYDD gan fendithio a’th fendithia di, yn y tir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth i’w feddiannu;

º5 Yn unig os gan wrando y gwrandewi ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW, gan gadw a gwneuthur yr holl orchmynion yma, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw.

º6 Canys yr ARGLWYDD dy DDUW a’th fendithia, megis y llefarodd wrthyt, fel y benthyciech i genhedloedd lawer, ac na fenthyciech di ganddynt; ti hefyd a arglwyddiaethi ar genhedloedd lawer, ac nid arglwyddiaethant hwy arnat ti.


º7 Os bydd yn dy fysg di un o’th frodyr yn dlawd o fewn un o’th byrth, yn dy dir yr hwn y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti, na chaleda dy galon, ac na chae dy law oddi wrth dy frawd tlawd:

º8 Ond gan agoryd agor dy law iddo, a ‘ chan fenthycio benthycia ddigon i’w angen ef, yr hyn fyddo arno ei eisiau.

º9 Gwylia arnat, rhag bod yn dy galon ddrwg feddwl i ddywedyd, Agos yw’r seithfed flwyddyn, biwyddyn y gollyng¬dod; a bod dy lygad yn ddrwg yn erbyn dy frawd tlawd, rhag rhoddi iddo, a llef-ain ohono ef ar yr ARGLWYDD rhagot, a’i fod yn bechod i ti.

º10 Gan roddi dod iddo, ac na fydded drwg gan dy galon pan roddych iddo: canys o achos y peth hyn y’th fendithia yr ARGLWYDD dy DDUW yn dy holl waith, ac yn yr hyn oll y dodych dy law arno.

º11 Canys ni dderfydd y tlawd o ganol y tir: am hynny yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti, gan ddywedyd, Gan agoryd agor dy law i’th frawd, i’th anghenus ac i’th dlawd, yn dy dir.

º12 Os gwerthir dy frawd, Hebread, neu Hebrees, i ti, a’th wasanaethu chwe blynedd; y seithfed flwyddyn gollwng ef yn rhydd oddi wrthyt.

º13 A phan ollyngech ef yn rhydd oddi wrthyt, na ollwng ef yn wag:

º14 Gan lwytho llwytha ef o’th braidd ac o’th ysgubor, ac o’th winwryf: o’r hyn y’th fendithiodd yr ARGLWYDD dy DDUW, dod iddo.

º15 A chofia mai gwas fuost yn nhir yr Aifft, a’th waredu o’r ARGLWYDD dy DDUW: am hynny yn ydwyf yn gorchy¬myn y peth hyn i ti heddiw.

º16 Ond os dywed wrthyt, Nid af allan oddi wrthyt; am ei fod yn dy hoffi di a’th dy; oherwydd bod yn dda arno ef gyda thi:

º17 Yna cymer fynawyd, a dod trwy ei glust ef, ac yn y ddor; a bydded yn was i ti byth: felly hefyd y gwnei i’th, forwyn.

º18 Na fydded caled gennyt ei ollwng ef yn rhydd oddi wrthyt, canys gwasanaethodd di werth dau gyflog gweinidog, chwe blynedd: a’r ARGLWYDD dy DDUW a’th fendithia yn yr hyn oll a wnelych.

º19 Pob cyntaf-anedig yr hwn a enir o’th wartheg, neu o’th ddefaid, yn wryw, a gysegri di i’r ARGLWYDD dy DDUW: na weithia a chyntaf-anedig dy ychen, ac na; chneifia gyntaf-anedig dy ddefaid.,

º20 Gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW y bwytei ef bob blwyddyn, yn y lle a ddewiso yr ARGLWYDD, ti a’th deulu.

º21 Ond os bydd anaf arno, os doff neu ddall fydd, neu arno ryw ddrwg anaf arall; nac abertha ef i’r ARGLWYDD dy DDUW.

º22 O fewn dy byrth y bwytei ef: yr aflan a’r glân ynghyd â’i bwyty, megis yr iwrch, ac megis y carw.

º23 Eto na fwyta ei waed ef; tywallt hwnnw ar y ddaear fel dwfr.

PENNOD 16

º1 CADW y mis Abib, a chadw Basg i’r ARGLWYDD dy DDUW: canys o fewn y mis Abib y dug yr ARGLWYDD dy DDUW di allan o’r Aifft, o hyd nos.

º2 Abertha dithau yn Basg i’r ARGLWYDD dy DDUW, o ddefaid a gwartheg, yn y lle a ddewiso yr ARGLWYDD dy DDUW i drigo o’i enw ef yno.

º3 Na fwyta fara lefeinllyd gydag ef: saith niwrnod y bwytei gydag ef fasa croyw, sef bara cystudd: (canys ar f&wst y daethost allan o dir yr Aifft:) fel y cofiech ddydd dy ddyfodiad allan o dir yr Aifft holl ddyddiau dy einioes.

º4 Ac na weler gennyt surdoes yn dy holl derfynau saith niwrnod; ac nac arhoed dros nos hyd y bore ddim o’r cig a aberthaist yn yr hwyr, ar y dydd cyntaf.

º5 Ni elli aberthu y Pasg o fewn yr un o’th byrth, y rhai y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn eu rhoddi i ti:

º6 Ond yn y lle a ddewiso yr ARGLWYDD dy DDUW i drigo o’i enw ef ynddo; yno yr aberthi y Pasg yn yr hwyr, ar fach-ludiad haul, y pryd y daethost allan o’r Aifft.

º7 Yna y rhosti, ac y bwytei ef, yn y lle a ddewiso yr ARGLWYDD dy DDUW: a’r bore y dychweli, ac yr ei i’th babellau.

º8 Chwe diwrnod y bwytei fara croyw: ac ar y seithfed dydd y mae uchel wyl i’r ARGLWYDD dy DDUW; ni chei wneuthur gwaith ynddo.

º9 Cyfrif i ti saith wythnos: pan ddechreuo’r cryman ar yr yd, y dechreui rifo’r saith wythnos.

º10 A chadw wyl yr wythnosau i’r AR¬GLWYDD dy DDUW, ag offrwm gwirfodd dy law, yr hwn a roddi, megis y’th fendithio yr ARGLWYDD dy DDUW.

º11 A llawenycha gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW, ti, a’th fab, a’th ferch, a’th was, a’th forwyn, a’r Lefiad a fyddo o fewn dy byrth, a’r dieithr, a’r amddifad, a’r weddw, sydd yn dy fysg, yn y lle a ddewiso yr ARGLWYDD dy DDUW i drigo o’i enw ef ynddo.

º12 Cofia hefyd mai caethwas fuost yn yr Aifft: a chadw a gwna y deddfau hyn.

º13 Cadw i ti wyl y pebyll saith niwrnod, wedi i ti gasglu dy yd a’th win.

º14 A llawenycha yn dy wyl, ti, a’th fab, a’th ferch, a’th was, a’th forwyn, a’r Lefiad, a’r dieithr, a’r amddifad, a’r weddw, y rhai fyddant o fewn dy byrth.

º15 Saith niwrnod y cedwi wyl i’r AR¬GLWYDD dy DDUW, yn y lle a ddewiso yr ARGLWYDD: canys yr ARGLWYDD dy DDUW a’th fendithia yn dy holl gnwd, ac yn holl waith dy ddwylo; am hynny bydd dithau lawen.

º16 Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys pob gwryw ohonot o flaen yr ARGLWYDD dy DDUW, yn y lle a ddewiso efe; ar wyl y bara croyw, ac ar wyl yr wythnosau, ac ar wyl y pebyll: ond nac ymddangosed neb o flaen yr ARGLWYDD yn waglaw.

º17 Pob un yn ôl rhodd ei law, yn ôl bendith yr ARGLWYDD dy DDUW yr hon a roddes efe i ti.

º18 Gwna i ti farnwyr a blaenorion yn dy holl byrth, y rhai y mae yx ARGLWYDD dy DDUW yn en rhoddi i d trwy Sty lwythaa’, a teamant hwy y bobl a barn gyfiawn.



º19 Na wyra farn, ac na chydnebydd wynebau; na dderbyn wobr chwaith: canys gwobr a ddalla lygaid y doethion, ac a wyra eiriau y cyfiawn.

º20 Cyfiawnder, cyfiawnder a ddilynd; fel y byddych fyw, ac yr etifeddych y tir yr hwn y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti.

º21 Na phlanna i ti lwyn o neb rhyw goed gerilaw allor yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hon a wnei i ti.

º22 Ac na chyfod i ti golofh; yr hyn sydd gas gan yr ARGLWYDD dy DDUW.

PENNOD 17

º1 NAC abertha i’r ARGLWYDD dy DDUW ych neu ddafad y byddo arno anaf, neu ddim gwrthuni: canys casbeth yr ARGLWYDD dy DDUW yw hynny. a ii Pan gaffer yn dy blith di, o fewn un o’th byrth y rhai y mae yr ARGLWYDD fly DDUW yn eu rhoddi i ti, ŵr neu wraig a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr AR¬GLWYDD dy DDUW, gan droseddu ei gyfamod ef,

º3 Ac a aeth ac a wasanaethodd dduwiau dieithr, ac a ymgrymodd iddynt, i’r haul, aeu i’r lleuad, neu i noil lu y nefoedd, yr hyn ni orchmynnais;

º4 Pan ddangoser i ti, a chlywed ohonot, yna cais yn dda: ac wele, os gwirionedd yw, a bod yn sicr wneuthur y ffieidd-dra hyn yn Israel;

º5 Yna dwg allan y gŵr hwnnw, neu y wraig honno, a wnaethant y peth drygionus hyn, i’th byrth, sef y gŵr neu y wraig, a llabyddia hwynt a meini, fel y byddont feirw.

º6 Wrth dystiolaeth dau o dystion, neu flri o dystion, y rhoddir i farwolaeth yr hwn a fyddo marw: na redder ef i farwolaeth wrth dystiolaeth un tyst.

º7Llaw y tystion a fydd arno yn gyntaf t’w farwolaethu ef, a llaw yr noil bobl wedi hynny: a thi a dynni ymaith y flrwg o’th blith.

º8 Os bydd peth mewn baftn yn- rhy galed i ti, rhwng gwaad a:gwaed, rhwng hawl a hawl, neu rhwng pla a phia, mewn pethau ymrafaelus o fewn dy byrtiti; yna cyfod, a dos i fyny i’r lle addewiso yr ARGLWYDD dy DDUW

º9 A dos at yr offeiriaid y Lefiaid, ac at y barnwr a fyddo yn y dyddiau hynny, ac ymofyn; a hwy a ddangosant i tf reol y farnedigaeth.

º10 A gwna yn ôl rheol y gair a ddan¬gosant i ti, o’r lle hwnnw a ddewiso yr ARGLWYDD; ac edrych am wneuthur yn ôl yr hyn oll a ddysgant i d.

º11 \fi ôl rheol y gyfraith a ddysgont i ti, ac yn ôl y tarn a ddywedont i ti, y gwnei: na chilia oddi wrth y peth a ddangosont i ti, i’r tu deau nac i’r tu aswy.

º12 A’r gŵr a wnel mewn rhyfyg, heb wrando ar yr offeiriad sydd yn sefyll yno i ‘wasanaethu yr ARGLWYDD dy DDUW, neu ar y barnwr; yna rhodder i farwol¬aeth y gŵr hwnnw: a thyn ymaith y drwg o Israel.

º13 A’r holl bobl a glywant, ac a ofnant, ac ni ryfygant mwy.

º14 Pan ddelych i’r tir y mae yr AR-GLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti, a’i feddiannu, a thrigo ynddo, os dywedi, Gosodaf arnaf frenin, megis yr holl genhedloedd sydd o’m hamgylch:

º15 Gan osod arnat yn frenin yr hwn a ddewiso yr ARGLWYDD dy DDUW: o blith dy frodyr y gosodi arnat frenin; ni elli roddi arnat ŵr dieithr yr hwn nid yw frawd i ti.

º16 Ond nac amthaed iddo feirch, ac na ddychweled efe y bobl i’r Aifft i amlhau iBteirch, gan i’r ARGLWYDD ddywedyd wrthych, Na chwanegwch ddychwelyd y fltordd honno mwy.

º17 Ac nac amlhaett iddo wragedd, fel Ba wyro ei galon; ac nac amlhaed arian ac aur lawer iddo.

º18 A phan eisteddo ar deyrngadair ei frenhiniaeth, ysgrifenned iddo gopi o’r gyfraith hon mewn llyfr, allan o’r hwn sydd gerbron yr offeiriaid y Lefiaid.

º19 A bydded gydag ef, a darllened arno holl ddyddiau ei fywyd: fel y dysgo ofni yr ARGLWYDD ei DDUW, i gadw holl eiriau y gyfraith hon, a’r deddfau hyn, i’w gwneuthur hwynt:

º20 Fel na ddyrchafo ei galon uwchlaw ei frodyr, ac na chilio oddi wrth y gorchymyn, i’r tu deau nac i’r tu aswy: fel yr estynno ddyddiau yn ei fren-hiniaeth, efe a’i feibion yng .nghanol Israel.

PENNOD 18

º1 NI bydd i’r offeiriaid, i’r Lefiaid, i holl lwyth Lefi, ran nac etifeddiaeth ynghyd ag Israel: ebyrth tanllyd yr ARGLWYBD, a’i etifeddiaeth ef, a fwytant hwy.

º2 Am hynny etifeddiaeth m fcydd iddynt ymhiith eu brodyr: yr ARGI.WYDD yw eu hetifeddiaeth hwy, megas ag y dywedodd wrthynt.

º3 A hyn fydd defod yr offeiriaid oddi wrth y bobl, odd) wrth y rhai a aberthant aberth, pa un bynnag ai eidion ai dafad; rhoddant i’r offeiriad yr ys-gwyddog, a’r ddwy en, a’r boten.

º4 Blaenffrwyth dy yd, dy win, a’th oiew, a blaenffrwyth cnaif dy ddefaid, a roddi iddo ef.

º5 Canys dewisodd yr ARGLWYDD dy DDUW ef o’th holl lwythau di, i sefyll i wasanaethu yn enw yr ARGLWYDD, efe a’i feibion yn dragywydd.

º6 A phan ddelo Lefiad o un o’th byrth di yn holl Israel, lle y byddo efe yn ymdaith, a dyfod a holl ddymuniad ei galon i’r lle a ddewiso yr ARGLWYDD;

º7 Yna gwasanaethed efe yn enw yr ARGLWYDD ei DDUW, megis ei holl frodyr y Lefiaid, y rhai sydd yn sefyll yno gerbron yr ARGLWYDD.

º8 Rhan am ran a fwytant, heblaw gwerth yr hyn sydd yn dyfod oddi wrth ei dadau.

º9 Pan elych di i’r tir y mae yr AR¬GLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti, na ddysg wneuthur yn ôl ffieidd-dra’r cenhedloedd hynny.

º10 Na chaffer ynot a wnelo i’w fab, neu i’w ferch, fyned trwy y tân, neu a arfero ddewiniaeth, na pmanedyfld, na daroganwr, na hudol,


º11 Na swynwr swynion, nac a geisie wybodaeth gan gonsuriwr, neu feudiwr, nac a ymofynno a’r meirw:

º12 Oherwydd ffieidd-dra gan yr AR¬GLWYDD yw pawb a wnelo hyn; ac o achos y ffieidd-dra hyn y mae yr AR¬GLWYDD dy DDUW yn eu gyrrai hws’nt allan o’th flaen di.

º13 Bydd berffaith gyda’r ARGLWYDD dy DDUW.

º14 Canys y cenhedloedd hyn, y rhai a f ddienni di, a wrandawsant ar blanedyddion, ac ar ddewiniaid: ond amdanat ti, aid felly y caniataodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti.

º15 Yr ARGLWYDD dy DDUW a gyfyd Hi, o’th blith dy hun, o’th frodyr dy hun, Broffwyd megis finnau; arno ef y gwrandtwch;

º16 Yn ôl yr hyn oll a geisiaist gan yr ARGLWYDD dy DDUW yn Horeb, yn nydd y gymanfa, gan ddywedyd, Na ehlywyf mwyach lais yr ARGLWYDD fy Nuw, ac na welwyf y tân mawr hwn mwyach, rhag fy marw.

º17 A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Da y dywedasant yr hyn a ddywedasant.

º18 Codaf Broffwyd iddynt o fysg eu brodyr, fel tithau, a rhoddaf fy ngeiriau yn ei enau ef; ac efe a lefara wrthynt yr hyn oll a orchmynnwyf iddo.

º19 A phwy bynnag ni wrandawo ar fy ngeiriau, y rhai a lefara efe yn fy esm, myfi a’i gofynnaf ganddo.

º20 Y proffwyd hefyd, yr hwn a ryfyga lefaru yn fy enw air ni orchmynnais iddo ei lefaru, neu yr hwn a lefaro yn enw duwiau dieithr; rhodder y proffwyd hwnnw i farwolaeth.

º21 Ac os dywedi yn dy galon. Pa fodd yr adnabyddwn y gair ni lefarodd yr ARGLWYDD?

º22 Yr hyn a lefaro’r proffwyd hwnnw yn enw yr ARGLWYDD, a’r gair heb fod, ac heb ddyfod i ben, hwnnw yw y gair ni lefarodd yr ARGLWYDD; y proffwyd a’i llefarodd mewn rhyfyg: nac ofna ef.

PENNOD 19

º1 1 Pan dorro yr ARGLWYDD dy DDUW ymaith y cenhedloedd y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn rhoddi eu tir i ti, a’i feddiannu ohonot ti, a phreswylio yn eu dinasoedd ac yn eu tai;

º2 Neilltua i ti dair dinas yng nghanol dy dir, yr hwn y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti i’w feddiannu.

º3 Paratoa ffordd i ti, a thraeana derfyn dy dir, yr hwn a rydd yr ARGLWYDD dy DDUW yn etifeddiaeth i ti, fel y byddo i bob llofrudd ffoi yno.

º4 Dyma gyfraith y llofrudd, yr hwn a ffy yno, i fyw: yr hwn a drawo ei gymydog heb wybod, ac yntau neb ei gasáu ef o’r blaen;

º5 Megis pan elo un gyda’i gymydog i’r coed i gymynu pren, ac a estyn ei law a’r fwyell i dorri y pren, a syrthio yr haearn o’r menybr, a chyrhaeddyd ei gymydog, fel y byddo farw; efe a gaiff ffoi i un o’r dinasoedd hyn, a byw:

º6 Rhag i ddialydd y gwaed ddilyn ar ôl y llofrudd, a’i galon yn llidiog, a’i oddi-p/eddyd, am fod y ffordd yn hir, a’i daro ef yn farw, er nad oedd ynddo ef haeddedigaeth marwolaeth, am nad oedd efe yn ei gasáu ef o’r blaen.

º7 Am hynny yr ydwyf yn gorchymyn i ti, gan ddywedyd, Tair dinas a neilltui i ti.

º8 A phan helaetho yr ARGLWYDD dy DDUW dy derfyn, fel y tyngodd wrth dy dadau, a rhoddi i ti yr holl dir a addawodd efe ei roddi wrth dy dadau;

º9 Os cedwi y gorchmynion hyn oll, gan wneuthur yr hyn yr ydwyf fi yn ei orchymyn i ti heddiw, i garu yr AR¬GLWYDD dy DDUW, a rhodio yn ei ffyrdd ef bob amser; yna y chwanegi i ti dair dinas hefyd at y tair hyn:

º10 Fel na ollynger gwaed gwirion o fewn dy dir, yr hwn y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth; ac na byddo gwaed i’th erbyn.

º11 Ond os bydd gŵr yn casáu ei gymydog, ac yn cynllwyn iddo, a chodi yn ei erbyn, a’i ddieneidio fel y byddo farw, a ffoi i un o’r dinasoedd hyn;

º12 Yna anfoned henuriaid ei ddinas ef, a chymerant ef oddi yno, a rhoddant ef yn llaw dialydd y gwaed, fel y byddo farw.

º13 Nac arbeded dy lygad ef, ond tyn ymaith affaith gwaed gwirion o Israel, fel y byddo daioni i ti.

º14 JT Na symud derfyn dy gymydog, yr hwn a derfynodd y rhai a fu o’r blaen; o fewn dy etifeddiaeth yr hon a feddienni, yn y tir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti i’w feddiannu.

º15 Na choded un tyst yn erbyn neb am ddim anwiredd, neu ddim pechod, o’r holl bechodau a becho efe: wrth dystiolaeth dau o dystion, neu wrth dystiolaeth tri o dystion, y bydd safadwy y peth.

º16 Os cyfyd gau dyst yn erbyn neb, gan dystiolaethu bai yn ei erbyn ef;

º17 Yna safed y ddau ddyn y mae yr ymrafael rhyngddynt gerbron yr AR¬GLWYDD, o flaen yr offeiriaid a’r barnwyr a fyddo yn y dyddiau hynny.

º18 Ac ymofynned y barnwyr yn dda: ac os y tyst fydd dyst ffals, ac a dystiolaetha ar gam yn erbyn ei frawd;

º19 Yna gwnewch iddo fel yr amcanodd wneuthur i’w frawd; a thyn ymaith y drwg o’th fysg.

º20 A’r lleill a glywant, ac a ofnant, ac ni chwanegant wneuthur mwy yn ôl y peth drygionus hyn yn dy blith.

º21 Ac nac arbeded dy lygad: bydded einioes am einioes, llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed.

PENNOD 20

º1 PAN elych i ryfel yn erbyn dy elynion, a gweled meirch a cherbydau, a phobl fwy na thi, nac ofna rhagddynt: oherwydd yr ARGLWYDD dy DDUW fydd gyda thi, yr hwn a’th ddug di i fyny o dir yr Ain’t.

º2 A bydd, pan nesaoch i’r frwydr, yna ddyfod o’r offeiriad, a llefaru wrth y bobl,

º3 A dywedyd wrthynt, Clyw, Israel: Yr ydych chwi yn nesáu heddiw i’r frwydr yn erbyn eich gclynion: na feddalhaed eich calon, nac ofnwch, na synnwch, ac na ddychrynwch rhagddynt.

º4 Canys yr ARGLWYDD eich Duw sydd yn myned gyda chwi, i ryfela a’ch gelynion trosoch chwi, ac i’ch achub chwi.

º5 A’r llywiawdwyr a lefarant wrth y bobl, gan ddywedyd. Pa ŵr sydd a adeiladodd dŷ newydd, ac nis cysegrodd ef? eled a dychweled i’w dŷ, rhag ei farw yn y frwydr, ac i ŵr arall ei gysegru ef.

º6 A pha ŵr sydd a blannodd winllan, ac nis mwynhaodd hi? eled a dychweled i’w dŷ, rhag ei farw yn y frwydr, ac i ŵr arall ei mwynhau hi.

º7 A pha ŵr sydd a ymgredodd â gwraig, ac ni chymerodd hi? eled a dychweled i’w dŷ, rhag ei farw mewn rhyfel, ac i ŵr arall ei chymryd hi.

º8 Y llywiawdwyr hefyd a chwanegant lefaru wrth y bobl, ac a ddywedant. Pa ŵr sydd ofnus a meddal galon? eled a dychweled i’w dŷ, fel na lwfrhao efe galon ei frawd megis ei galon yntau.

º9 A bydded, pan ddarffo i’r llywiawd¬wyr lefaru wrth y bobl, osod ohonynt d ywysogion y lluoedd yn ben ar y bobl.

º10 Pan nesaech at ddinas i ryfela yn ei herbyn, cyhoedda iddi lleddwch.

º11 A bydded, os heddwch a etyb hi i ti, ac agoryd i ti; yna bydded i’r holl bobl a gaffer ynddi, fod i ti dan deyrnged, a’th wasanaethu.

º12 Ac oni heddycha hi thi, ond gwneuthur rhyfel a thi; yna gwarchae arni hi.

º13 Pan roddo yr ARGLWYDD dy DDUW hi yn dy law di, taro ei holl wrywiaid a min y cleddyf.

º14 Yn unig y benywaid, a’r plant, a’r anifeiliaid, a phob dim a’r a fyddo yn y ddinas, sef ei holl ysbail, a ysbeili i ti: a thi a fwynhei ysbail dy elynion, yr hwn a rydd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti.

º15 Felly y gwnei i’r holl ddinasoedd pell iawn oddi wrthyt, y rhai nid ydynt o ddinasoedd y cenhedloedd hyn.

º16 Ond o ddinasoedd y bobloedd hyn, y rhai y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn eu rhoddi i ti yn etifeddiaeth, na chadw un enaid yn fyw:

º17 Ond gan ddifrodi difroda hwynt, sef yr Hethiaid, a’r Amoriaid, y Canaaneaid, a’r Pheresiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid; megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti.

º18 Fel na ddysgont i chwi wneuthur yn ôl eu holl ffieidd-dra hwynt, y rhai a wnaethant i’w duwiau, a phechu ohonoch yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw.

º19 Pan warchaeech ar ddinas lawer o ddyddiau, gan ryfela yn ei herbyn i’w hennill hi, na ddifetha ei choed hi, gan daro bwyell arnynt: canys ohonynt y bwytei; na thor dithau hwynt i lawr, (oherwydd bywyd dyn yw pren y maes,) i’w gosod yn y gwarchglawdd.

º20 Yn unig y pren y gwyddost nad pren ymborth yw, hwnnw a ddifethi ac a dorri: ac a adeiledi warchglawdd yn erbyn y ddinas fydd yn gwneuthur rhyfel a thi, hyd oni orchfyger hi.

PENNOD 21

º1 OS ceir un wedi ei ladd o fewn y tir yr hwn y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti i’w etifeddu, yn gorwedd yn y maes, heb wybod pwy a’i lladdodd;

º2 Yna aed dy henuriaid a’th farnwyr allan, a mesurant hyd y dinasoedd sydd o amgylch i’r lladdedig.

º3 A bydded i’r ddinas nesaf at y lladdedig, sef henuriaid y ddinas honno, gymryd anner o’r gwartheg, yr hon ni weithiwyd a hi, ac ni thynnodd dan iau.

º4 A dyged henuriaid y ddinas honno yr anner i ddyffryn garw, yr hwn ni lafur-iwyd, ac ni heuwyd ynddo; ac yno tor-fynyglant yr anner yn y dyffryn.

º5 A nesaed yr offeiriaid, meibion Lefi, (oherwydd yr ARGLWYDD dy DDUW a’u hetholodd hwynt i weini iddo ef, ac i fendigo yn enw yr ARGLWYDD,) ac wrth eu barn hwynt y terfynir pob ymryson a phob pla.

º6 A holl henuriaid y ddinas honno, y rhai a fyddo nesaf at y lladdedig, a olchant eu dwylo uwchben yr anner a dorfynyglwyd yn y dyffryn.

º7 A hwy a atebant ac a ddywedant, Ni thywalltodd ein dwylo ni y gwaed hwn, at nis gwelodd ein llygaid.

º8 Trugarha wrth dy bob! Israel, y rhai a. waredaist, O ARGLWYDD, ac na ddyrd waed gwirion yn erbyn dy bobl Israel. A Biaddeuir y gwaed iddynt hwy.



º9 Felly y tynni ymaith affaith y gwaed gwirion o’th fysg, os ti a wnei yr uniawat-der yng ngolwg yr ARGLWYDD.

º10 Pan elych i ryfel yn erbyn dy elynion, a rhoddi o’r ARGLWYDD Sy DDUW hwynt yn dy law di, a chaettr1’ gludo ohonot gaethglud ohonynt;

º11 A gweled ohonot yn y gaethgind wraig brydweddol, a’i bod wrth dy fodd’ i’w chymryd i ti yn wraig;

º12 Yna dwg hi i fewn dy dŷ, ac eillied hi ei phen, a thorred ei hewinedd;

º13 A diosged ddillad ei chaethiwed oddi amdani, a thriged yn dy dŷ di, ac wyled am ei thad a’i mam fis o ddyddiau: at wedi hynny yr ei di ati, ac y byddi ŵr iddi, a bithau fydd wraig i ti.

º14 Ac oni bydd hi wrth dy fodd; yaa gollwng hi yn ôl ei hewyllys ei hun, a chan werthu na werth hi er arian; na chaib elw ohoai, am i ti ei darostwng hi.

º15 Pan fyddo i ŵr ddwy wraig, ua yn gu, ac up yn gas; a phlanta o’r gu a’r gas feibion iddo ef, a bod y mab cyntafr anedig o’r un gas:

º16 Yna bydded, yn y dydd y rhanno efe ei etifeddiaeth rhwng ei feibion y rhai fyddant iddo, na ddichon efe wneuthur yn gyntaf-anedig fab y gu o flaen mab y gas, yr hwn sydd gyntaf-anedig;

º17 Ond mab y gas yr hwn sydd gyntaf-anedig a gydnebydd efe, gan roddi iddo ef y ddeuparth o’r hyn oll a gaffer yh eiddo ef: o achos hwn yw dechreuad ei nerth ef; iddo y bydd brain? y cyntaf-anedig.

º18 Ond o bydd i ŵr fab cyndyn ac anufudd, heb wrando ar lais ei dad, nett ar lais ei fam; a phan geryddant ef, in wrendy arnynt:

º19 Yna ei dad alfam a ymaflant ynddo, ac a’i dygant at henuriaid ei ddinas, ac i borth ei drigfan;

º20 A dywedant wrth henuriaid ei ddinas ef. Bin mab hwn sydd gyndyn ac anufudd, heb wrando ar ein llais; glwth a meddwyn yw efe.i

º21 Yna holl ddyniorB ei dtlinas a’i llabyddiant ef a aieini, fel y byddo fatw: felly y tynni ymaith y drwg o’th fysg a holl Israel a glywant, ac a ofnant.

º22 Ac o bydd mewn gŵr bechod yn haeddu barnedigaeth angau, a’i farwolaethu, a chrogi ohonot ef wrth bren;

º23 Na thriged ei gelain dros nos wrth y pren, ond gan gladdu ti a’i cleddi ef o fewn y dydd hwnnw; oherwydd melltith DDUW sydd i’r hwn a grogir: ac na haloga dy dir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth.

PENNOD 22

º1 Ni chei weled eidion dy frawd neu ei ddafad yn cyfeiliorni, ac ymguddio oddi wrthynt: gan ddwyn dwg hwynt drachefn i’th frawd.

º2 Ac oni bydd dy frawd yn gyfagos atsre, neu onid adwaenost ef; yna dwg hwnffw i fewn dy dŷ, a bydded gyda thi, hyd pan. ymofynno dy frawd amdano; yna dyi _ ef yn ei ôl iddo ef.

º3 Ac felly y gwnei i’w asyn ef, ac feBy y gwnei i’w ddillad ef, ac felly y gwnei i bob collbeth i’th frawd, yr hwn a gyB oddi wrtho ef, a thithau yn ei gael: fli elli ymguddio.

º4 Ni chei weled asyn dy frawd neu ei ych yn gorwedd ar y ffordd, ac ymguddio oddi wrthynt; ond gan godi cyfbd hwynt gydag ef.

º5 Na fydded dilledyn gŵr am wraig, ac na wisged gŵr ddillad gwraig: ohef-wydd ffiaidd gan yr ARGLWYDD dy DDUW bawb a r a wnel hyn.

º6 Pan ddamweinio nyth aderyn i’th olwg ar dy ffordd, mewn un pren, neu ar y ddaear, a chywion, neu ag wyau ynddo, a’r fam yn eistedd ar y cywion, neu ar yr wyau; na chymer y fam gyda*r cywion.

º7 Gan ollwng ti a ollyngi y fam, a’r cywion a gymeri i ti; fel y byddo daiom i ti, ac yr estynnech dy ddyddiau.

º8 Pan adeiledych dy newydd, yna y gwnei ganllawiau o amgylch i’th nen; fel na osodych waed ar dy dyrpaa syrthio neb oddi arno.

º9 Na heua dy winllan ag amryw had; ifaag i ti halogi cynnyrch yr had a heuech, chnwd y winllan.

º10 Nac ardd ag ych ac ag asyn ynghyd.

º11 Na wisg ddilledyn o amryw ddef-nydd, megis o wlân a llin ynghyd.

º12 Plethau a weithi i ti ar bedwar cwr dy wisg yr ymwisgych a hi.

º13 O chymer gŵr wraig, ac wedi myned ati, ei chasáu ;

º14 A gosod yn ei herbyn anair, a rhoddi aUan enw drwg iddi, a dywedyd, Y wraig faon a gymerais; a phan euthum ati, ni chefais ynddi forwyndod:

º15 Yna cymered tad y llances a’i mam, a, dygant arwyddion morwyndod y llanceg’ ax henuriaid y ddinas i’r porth.

º16 A dyweded tad y llances wrth yr henuriaid, Fy merch a roddais i’r gŵr hwn yn. wraig, a’i chasáu y mae efe.

º17 Ac wele, efe a gododd iddi anair, gan ddywedyd, Ni chefais yn dy ferch forwyndod; ac fel dyma arwyddion morwyndod fy merch. Yna lledant y dilledyn yng ngŵydd henuriaid y ddinas.

º18 A henuriaid y ddinas honno a gymerant y gŵr, ac a’i cosbant ef.

º19 A hwy a’i dirwyant efmewn can sici o arian, ac a’u rhoddant hwynt i dad y llances; o achos iddo ddwyn enw drwg ar y forwyn o Israel: a bydd hi yn wraig iddo; ac ni ddichon ei gyrru ymaith yn ei holl ddyddiau.

º20 Ond os gwir fydd y peth, ac na chaf-wyd arwyddion morwyndod yn y llances:

º21 Yna y dygant y llances at ddrws ty ei thad, a dynion ei dinas a’i llabyddiant hi a meini, oni byddo farw; am iddi wneuthur ffolineb yn Israel, gan buteinio yn nhŷ ei thad: a thi a dynni ymaith y drwg o’th fysg.

º22 O cheffir gŵr yn gorwedd gyda gwraig briodol â gŵr; byddant feirw ill dau, sef y gŵr a orweddodd gyda’r wraig, a’r wraig hefyd: felly y tynni ymaith ddrwg o Israel.

º23 O bydd llances o forwyn wedi ei dyweddi’o i ŵr, a chael o ŵr hi mewa dinas, a gorwedd gyda hi;

º24 Yna y dygwch hwynt ill dau i borth y ddinas honno, ac a’u llabyddiwch hwynt a meini, fel y byddont feirw: y llaaces, oblegid na waeddodd, a hithau yn y ddinas; a’r gŵr, oherwydd iddo jidarostwng gwraig ei gymydog: felly ti a flynni ymaith y drygioni o’th fysg.


º25 Ond os mewn maes y cafodd y gŵr y llances wedi ei dyweddio, a’i threisio o’r gŵr, a gorwedd gyda hi; yna bydded farw y gŵr a orweddodd gyda hi yn unig.

º26 Ond i’r llances ni chei wneuthur dim; nid oes yn y llances bechod yn haeddu ttiarwolaeth: oberwydd megis y cyfyd gŵr yn erbyn ei gymydog, a’i ddieneidio ef, yr un modd y mae y peth hya:

º27 Oblegid yn y maes y cafodd efe hi: gwaeddodd y llances oedd wedi ei dy¬weddio; ac nid oedd achubydd iddi.

º28 O chaiff gŵr lances o forwyn, heb ei dyweddio, ac ymaflyd ynddi, a gorwedd gyda hi, a’u dala hwynt:

29 Yna y rhydd y gŵr a orweddodd gyda hi, i dad y llances, ddeg a deugain o arian; ac iddo y bydd yn wraig, am iddo ei darostwng hi: ni ddichon efe ei gyrru hi ymaith yn ei holl ddyddiau.

º30 Na chymered neb wraig <ei ad, ac oa ddinoethed odre ei dad.

PENNOD 23

º1 NA ddeued neb wedi ysigo ei -eirin, na disbaidd, i gynulleidfa ysc AR¬GLWYDD.

º2 Na ddeued basterdyn i gynulleidfa yr ARGLWYDD; y ddegfed genhedlaeth iddo hefyd ni chaiff ddyfod i gynulleidfa yr ARGLWYDD.

º3 Na ddeled Ammoniad na Moabiad i gynulleidfa yr ARGLWYDD; y ddegfeiS genhedlaeth hefyd ohonynt na ddeued i gynulleidfa yr ARGLWYDD byth:

º4 Oblegid ni chyfarfuant a chwi a bara ac a dwfr yn y ffordd, with eich dyfod o’r Ain’t; ac o achos cyflogi ohonynt i’th erbyn Balaam mab Beor o Pethor ym Mesopotamia, i’th felltithio di.

º5 Eto yr ARGLWYDD dy DDUW ni fya-nodd wrando ar Balaam: ond trodd yr ARGLWYDD dy DDUW y felltith yn fendith i ti; canys hoffodd yr ARGLWYDD dy DDUW dydi.



º6 Na chais eu heddwch hwynt, na’u daioni hwynt, dy holl ddyddiau byth.

º7 Na ffieiddia Edomiad; canys dy frawd yw: na ffieiddia Eifftiad; oherwydd dieithr fuost yn ei wlad ef.

º8 Deued ohonynt i gynulleidfa yr ARGLWYDD y drydedd genhedlaeth o’r meibion a genhedlir iddynt.

º9 Pan ôl y llu allan yn erbyn dy elynion, yna ymgadw rhag pob peth drwg.

º10 O bydd un ohonot heb fod yn lan, oherwydd damwain nos; eled allan o’r gwersyll; na ddeued o fewn y gwersyll.

º11 Ac ym min yr hwyr ymolched mewn dwfr: yna wedi machludo’r haul, deued i fewn y gwersyll.

º12 A bydded lle i ti o’r tu allan i’r gwersyll; ac yno yr ei di allan.

º13 A bydded gennyt rawffon ymysg dy arfau; a bydded pan eisteddych allan, gloddio ohonot a hi, a thro a chuddia yr hyn a ddaeth oddi wrthyt.

º14 Oherwydd bod yr ARGLWYDD dy DDUW yn rhodio ymhiith dy wersyllau, i’th waredu, ac i roddi dy elynion o’th flaen di; am hynny bydded dy wersyllau yn sanctaidd; fel na welo ynot ti ddim brynti, a throi oddi wrthyt.

º15 Na ddyro at ei feistrwas a ddihangodd atat oddi wrth ei feistr.

º16 Gyda thi y trig yn dy fysg, yn y fan a ddewiso, yn un o’th byrth di, lle byddo da ganddo; ac na chystuddia ef.

º17 Na fydded putain o ferched Israel, ac na fydded puteiniwr o feibion Israel.

º18 Na ddwg wobr putain, na gwerth ci, i dŷ yr ARGLWYDD dy DDUW, mewn un adduned: canys y maent ill dau yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD dy DDUW.

º19 Na chymer ocraeth gan dy frawd; ocraeth arian, ocraeth bwyd, ocraeth dim y cyrnerir ocraeth amdano.

º20 Gan estron y cymeri ocraeth; ond na chymer ocraeth gan dy frawd: fel y bcndithio yr ARGLWYDD dy DDUW di ym mhob peth y rhoddych dy law arno, yn y tir yr ydwyt yn myned iddo i’w feddiannu. .

º21 Pan adduaedych adduned i’r AR¬GLWYDD dy DDUW, nac oeda ei thalu: canys yr ARGLWYDD dy DDUW gan ofyn a’i gofyn gennyt; a byddai yn bechod ynot. . ‘

º22 Ond os peidi ag addunedu,- ni bydd pechod ynot.

º23 Cadw a gwna yr hyn a ddaeth allan o’th wefusau; megis yr addunedaist i’r ARGLWYDD dy DDUW offrwrn gwirfodd, yr hwn a draethaist a’th enau.

º24 Pan ddelych i winllan dy gymydog, yna bwyta o rawnwin dy wala, wrth dy feddwl; ond na ddod yn dy lestr yr un.

º25 Pan ddelych i yd dy gymydog, yna y cei dynnu y tywysennau a’th law; ond ni chei osod cryman yn yd dy gymydog.

PENNOD 24

º1 PAN gymero gŵr wraig, a’i phriodi; yna oni chain’ hi ffafr yn ei olwg ef, Q achos iddo gael rhyw aflendid ynddi; ysgrifenned iddi lythyr ysgar, a rhodded yn ei llaw hi, a gollynged hi ymaith o’i dy.

º2 Pan elo hi allan o’i dy ef, a myned ymaith, a bod yn eiddo gŵr arall:

º3 Os ei gŵr diwethaf a’i casa hi, ac a ysgrifenna lythyr ysgar iddi, ac a’i rhydd yn ei llaw hi, ac a’i gollwng hi o’i dy; neu os bydd marw y gŵr diwethaf a’i cymerodd hi yn wraig iddo:

º4 Ni ddichon ei phriod cyntaf, yr hwn a’i gollyngodd hi ymaith, ei chymryd hi drachefn i fod yn wraig iddo, wedi iddi ymhalogi: canys ffieidd-dra yw hyn o flaen yr ARGLWYDD; ac na wna i’r wlad bechu, yr hon a rydd yr ARGLWYDD dy PDUW i ti yn etifeddiaeth.

º5 Pan gymero gŵr wraig newydd, nac eled i ryfel, ac na redder gofal dim arno: caiff fod gartref yn rhydd un flwyddyn, a llawenhau ei wraig a gymerodd.

º6 Na chymered neb faen isaf nac uchaf i felin ar wysti: canys y mae yn cymryd bywyd dyn yng ngwystl.

º7 Pan gaffer gŵr yn lladrata un o’i frodyr o feibion Israel, ac yn ymelwa arno, neu yn ei werthu; yna lladder y lleidr hwnnw, a thyn di ymaith y drwg o’th fysg.

º8 Gwylia ym mhia y gwahanglwyf, ar ddyfal gadw, a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a ddysgo yr offeiriaid y Lefiaid i chwi: edrychwch am wneuthur megis y gorchmynnais wrthynt hwy.

º9 Cofia yr hyn a wnaeth yr ARGLWYDD dy DDUW i Miriam ar y ffordd, wedi eich dyfod allan o’r Airft.

º10 Pan fenthyciech i’th gymydog fenthyg dim, na ddos i’w dy ef i gymryd ei wysti ef.

º11 Allan y sefi; a dyged y gŵr y ben-thyciaist iddo y gwysti allan atat ti.

º12 Ac os gŵr tlawd fydd efe, na chwsg a’i wysti gyda thi.

º13 Gan ddadroddi dyro ei wysti iddo pan fachludo yr haul, fel y gorweddo yn ei wisg, ac y’th fendithio di: a bydd hyn i ti yn gyfiawnder o flaen yr ARGLWYDD dy DDUW.

º14 Na orthryma was cyflog tlawd ac anghenus, o’th frodyr, neu o’th ddieithr-ddyn a fyddo yn dy dir o fewn dy byrth di:

º15 Yn ei ddydd y rhoddi iddo ei gyflog; ac na fachluded yr haul arno: canys tlawd yw, ac a hyn y mae yn cynnal ei einioes: fel na lefo ar yr ARGLWYDD yn dy erbyn, a bod pechod ynot.

º16 Na redder i farwolaeth dadau dros blant, ac na rodder plant i farw dros dadau: pob un a roddir i farwolaeth am ei bechod ei hun.

º17 Na wyra farn y dieithr na’r amddifad; ac na chymer ar wystloraeth wisg y weddw.

º18 Ond meddwl mai caethwas fuost yn yr Ami, a’th waredu o’r ARGLWYDD dy DDUW oddi yno: am hynny yr wyf fi yn gorchymyn i ti wneuthur y peth hyn.

º19 Pan fedych dy gynhaeaf yn dy faes, ac anghofio ysgub yn y maes, na ddychwel i’w chymryd: bydded i’r dieithr, i’r amddifad, ac i’r weddw; fel y bendithio yr ARGLWYDD dy DDUW di yn holl waith dy ddwylo.

º20 Pan ysgydwych dy olewydden, na loffa ar dy ôl: bydded i’r dieithr, i’r amddifad, ac i’r weddw.

º21 Pan gesglych rawnwin dy winllan, na loffa ar dy ôl: bydded i’r dieithr, i’r amddifad, ac i’r weddw.

º22 Meddwl hefyd mai caethwas fuost yn nhir yr Aifft: am hynny yr ydwyftii yn gorchymyn i ti wneuthur y peth byn.

PENNOD 25

º1 PAN fyddo ymrafael rhwng dynion, a dyfod i farn i’w barnu; yna cyfiawnhant y cyfiawn, a chondemniant y beius.

º2 Ac o bydd y mab drygionus i’w guro, pared y barnwr iddo orwedd, a phared ei guro ef ger ei fron, yn ôl ei ddryganiaeth, dan rifedi.

º3 Deugain gwialennod a rydd iddo, ac na chwaneged: rhag os chwanega, a’i guro ef a llawer gwialennod uwchlaw hyn, a dirmygu dy frawd yn dy olwg.

º4 Na chae safn yen tra fyddo yn dyrnu.

º5 Os brodyr a drigant ynghyd, a marw un ohonynt, ac heb blentyn iddo; na phrioded gwraig y marw ŵr dieithr oddi allan: aed ei chyfathrachwr ad, "a chymered hi yn wraig iddo, a gwnaed iddi ran cyfathrachwr.

º6 A bydded i’r cyntaf-anedig a ymddygo hi sefyll ar enw ei frawd a & farw; fel na ddileer ei enw ef allan o Israel.

º7 Ac oni bydd bodlon y gŵr i gymryd ei gyfathrachwraig; yna aed ei gyfathrachwraig i fyny i’r porth at yr henuriaid, a dyweded, Gwrthododd fy nghyfathrachwr godi i’w frawd enw yn Israel: ni fyn efe wneuthur rhan cyfathrachwr a mi.

º8 Yna galwed henuriaid ei ddinas am¬dano ef, ac ymddiddanant ag ef: o saif efe, a dywedyd, Nid wyf fi fodlon i’w chymryd hi;

º9 Yna nesaed ei gyfathrachwraig ato ef yng ngŵydd yr henuriaid, a datoded ei esgid ef oddi am ei droed, a phoered yn ei wyneb ef; ac atebed, a dyweded. Felly y gwneir i’r gŵr nid adeilado dy ei frawd.

º10 A gelwir ei enw ef yn Israel, Ty yr hwn y datodwyd ei esgid.

º11 Os ymryson dynion ynghyd, sef gŵr a’i <frawd, a nesáu gwraig y naill i achub ei gŵr o law ei drawydd, ac estyn ei llaw ac ymaflyd yn e* ddirgel4 dd ef;



º12 Tor ymaith ei llaw hi: nac arbeded dy lygad hi.

º13 Na fydded gennyt ya. dy god amryw bwys, mawr a bychan.

º14 Na fydded gennyt yn dy dŷ amryw fesur, mawr a bychan.

º15 Bydded gennyt garreg uniawn a chyfiawn; bydded gennyt effa uniawn a chyfiawn: fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear yr hon y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei rhoddi i ti.

º16 Canys ffiaidd gan yr ARGLWYDD dy DDUW bob un a wnelo hyn, sef pawb a’r a wnel anghyfiawnder.

º17 Cofia yr hyn a wnaeth Amalec i ti ar y ffordd, pan ddaethoch allan o’r Aifft:

º18 Yr hwn a’th gyfarfu ar y ffordd, ac a laddodd y rhai olaf ohonot, yr holl weiniaid o’th ôl di, a thi yn lluddedig, ac yn ddiffygiol; ac nid ofnodd efe DDUW.

º19 Am hynny bydded, pan roddo yr ARGLWYDD dy DDUW i ti lonyddwch oddi wrth dy holl elynion oddi amgylch, yn y tir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth i’w feddiannu, dynnu ohonot ymaith goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd: nac anghofia hyn.

PENNOD 26

º1 A PHAN ddelych i’r tir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth, a’i feddiannu, a phreswylio ynddo,

º2 Yna cymer o bob blaenffrwyth y ddaear, yr hwn a ddygi o’th dir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti, a gosod mewn cawell, a dos i’r lle a ddewiso yr ARGLWYDD dy DDUW i drigo o’lenw ef ynddo:

º3 A dos at yr offeiriad a fydd yn y dyddiau hynny, a dywed wrtho, Yr ydwyf fi yn cyfaddef heddiw i’r AR¬GLWYDD dy DDUW, fy nyfod i’r tir a dyngodd yr ARGLWYDD wrth ein tadau ar ei roddi i ni.

º4 A chymered yi; offeiriad y cawell o’th law di, a gosoded ef o flaan aHof yr ARGLWYDD dy DDUW:

º5 A llefara dithau, a dywed gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW, Syriad ss ddarfod amdano oedd fy nhad; ac efe a ddisgynnodd i’r Aifft, ac a ymdeithiodd yno ag ychydig bobl, ac a aeth yno yn genedl fawr, gref, ac arni.

º6 A’r Eiffdaid a’n drygodd ni, a chys-tuddiasant ni, a rhoddasant arnom gaethiwed caled.

º7 A phan waeddasom ar ARGLWYDD DDUW ein tadau, clybu yr ARGLWYDD ein llais ni, a gwelodd ein cystudd, a’n llafur, a’n gorthrymder.

º8 A’r ARGLWYDD a’n dug ni allan o’r Aifft a llaw gadarn, ac H braich estynedig, ac ag ofn mawr, ac ag arwyddion, ac a ahyfeddodau.

º9 Ac efe a’n dug ni i’r lle hwn, ac a roes i ni y tir hwn; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl.

º10 Ac yn awr, wele, mi a ddygais flaenffrwyth y tir a roddaist i mi, O ARGLWYDD: a gosod ef gerbron yr AR¬GLWYDD dy DDUW, ac addola gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW.

º11Ymlawenycha hefyd ym mhob daioni a roddodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti, ac fth deulu, tydi, a’r Lefiad, a’r dieithr a fyddo yn dy fysg.

º12 Pan ddarffo i ti ddegymu holl ddegwm dy gnwd, yn y drydedd fiwydd-yn, sef biwyddyn y degwm; yna y rhoddi i’r Lefiad, i’r dieithr, i’r amddifad, ac i’r weddw; fel y bwytaont yn dy byrth di, ac y digoner hwynt.

º13 A dywed gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW, Dygais y peth cysegredig allan o’m tŷ, ac a’i rhoddais ef i’r Lefiad, ac i’r dieithr, i’r amddifad, ac i’r weddw, yn ôl dy holl orchmynion a orchmynnaist i mi: ni throseddais ddim o’th orch¬mynion, ac nis anghofiais.

º14 Ni fwyteais ohono yn fy ng.ilar, ac ni ddygais ymaith ohono i aflcndid, ac ni roddais ohono dios y marw: gwrandew-ais ar lais yr ARGLWYDD fy Nuw; gwneuthuin yn ôl yr hyn oll a orchmynnaist i mi.

º15 Edrych o drigle dy sancteiddrwydd, sef o’r nefoedd, a bendithia dy bold Israel, a’r tir a roddaist i ni, megis y tyngaist wrth ein tadau; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl.

º16 Y dydd hwn y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn gorchymyn i ti wneuthur y deddfau hyn a’r barnedigaethau: cadw dithau a gwna hwynt a’th holl galon, ac a’th holl enaid.

º17 Cymeraist yr ARGLWYDD heddiw i fod yn DDUW i ti, ac i rodio yn ei ffyrdd ef, ac i gadw ei ddeddfau, a’i orchmynionj a’x farnedigaethau, ac i wrando ar ei lais ef.

º18 Cymerodd yr ARGLWYDD dithau heddiw i fod yn bobl briodol iddo ef, megis y llefarodd wrthyt, ac i gadw ohonot ei holl orchmynion: i

º19 Ac i’th wneuthur yn uchel goruwch yr holl genhedloedd a wnaeth efe, mewn clod, ac mewn enw ac mewn gogoniant; ac i fod ohonot yn bobl sanctaidd i’B ARGLWYDD- dy DDUW, megis y llefarodd efe.

PENNOD 27

º1 YNA y gorchmynnodd Moses, gyda henuriaid Israel, i’r bobl, gan ddywedyd, Cedwch yr holl orchmynion y* ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw.

º2 A bydded, yn y dydd yr elych dros yr Iorddonen i’r tir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti, osod ohonot i ti gerrig mawrion, a chalcha hwynt a chalch.

º3 Ac ysgnfenna arnynt holl eiriau y gyfraith hon, pan elych drosodd, i fyned y’s tir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti, sef tir yn llifeirio o laeth a mel; megis ag y llefarodd ARGLWYDD DDUW dy dadau wrthyt.

º4 A phan eloch dros yr Iorddonen, gosodwch y cerrig byn, yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw, ym Hlynydd Ebal, a chalcha hwynt â chalch.

º5 Ac adeilada yno allor i’r ARGLWYDD dy DDUW, sef allor gerrig: na chyfod arnynt arf haearn.

º6 A cherrig cyfain yr adeiledi allor yr ARGLWYDD dy DDUW,- ac offryma arni boethoffrymau i’r ARGLWYDD dy DBCT .

º7 Offryma hefyd hedd-aberthau, a bwyta yno, a llawenycfaa gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW.

º8 Ac ysgnfenna ar y cerrig holl eiriau y gyfraith hon, yn eglur iawn.

º9 A llefarodd Moses a’r offeiriaid y Lefiaid wrth holl Israel, gan ddywedyd, Gwrando a chlyw, O Israel: Y dydd hwn y’th wnaethpwyd yn bobl i’r AR¬GLWYDD dy DDUW.

º10 Gwrando gan hynny ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW, a gwna ei orchmynion ef a’i ddeddfau, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw.

º11 A gorchmynnodd Moses i’r bobl y dydd hwnnw, gan ddywedyd,

º12 Y rhai hyn a safant i fendithio y bobl ar fynydd Garisim, wedi eicli myned dros yr Iorddonen: Simeon, a Left, a Jwda, ac Issachar, a Joseff, a Benjamin.

º13 A’r rhai hyn a safant i felltithio.at fynydd Ebal: Reuben, Gad, ac Aser, a Sabulon, Dan, a Nafftali.

º14 A’r Lefiaid a lefarant, ac a ddywedant wrth bob gŵr o Israel llef uchel,

º15 Melltigedig yw y gŵr a wnel ddelw gerfiedig neu doddedig, sef meidd-dra gan yr ARGLWYDD, gwaith dwylo creffLwr, ac a’i gosodo mewn lle dirgel. A’r holl bobl a atebant ac a ddywedant, Amen.

º16 Melltigedig yw yr hwn a ddirmygo ei dad neu ei fanm A dyweded yr hoH bobl. Amen.

º17 Melltigedig yw yr hwn a symudo derfyn ei gymydog. A dyweded yr holl bobl. Amen.

º18 Melltigedig yw yr hwn a barO ifr dall gyfeiliorni allan o’r ffordd. A dyweded yr holl bobl. Amen.

º19 Melltigedig yw yr hwn a wyro farn y dieithr, yr amddifad, a’r weddw. A dyweded yr holl bobl. Amen.

º20 Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda gwraig ei dad; oherwydd datguddiodd odre ei dad. A dyweded yr holl bobl, Amen.



º21 Melltigedig yw yr hwn a orweddo gydag un anifail. A dyweded yr boll bobl. Amen.

º22 Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda’i chwaer, merch ei dad, neu ferch ei fam ef. A dyweded yr holl bobl, Amen.

º23 Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda’i chwegr. A dyweded yr holl bobl, Amen.

º24 Melltigedig yw yr hwn a drawo ei gymydog yn ddirgel. A dyweded yr holl bobl, Amen.

º25 Melltigedig yw yr hwn a gymero wobr, er dieneidio gwaed gwirion. A dyweded yr holl bobl. Amen.

º26 Melltigedig yw yr hwn ni pharhao yng ngeiriau y gyfraith hon, gan eu gwneuthur hwynt. A dyweded yr holl bobl, Amen.

PENNOD 28

º1 A os gan wrando y gwrandewi ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW, i gadw ac i wneuthur ei holl orchmynion ef, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw; yna yr ARGLWYDD dy DDUW a’th esyd yn uwch na holl genhedloedd y ddaear.

º2 A’r holl fendithion hyn a ddaw arnat, ac a’th oddiweddant, os gwrandewi ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW.

º3 Bendigedig fyddi di yn y ddinas, a bendigedig yn y maes.

º4 Bendigedig fydd ffrwyth dy fru, a ffrwyth dy dir, a ffrwyth dy anifail di, cynnydd dy wartheg, a diadellau dy ddefaid.

º5 Bendigedig fydd dy gawell a’th does di.

º6 Bendigedig fyddi di yn dy ddyfodiad i mewn, a bendigedig yn dy fynediad allan.

º7 Rhydd yr ARGLWYDD dy elynion a ymgodant i’th erbyn yn lladdedig o’th flaen di: trwy un tfordd y deuant i’th erbyn, a thrwy saith o flyrdd y ffoant o’th flaen.

º8 Yr ARGLWYDD a orchymyn fendith arnat ti, yn dy drysordai, ac yn yr hyn oil y dodych dy law arno; ac a’th fen-dithia yn y tir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti.

º9 Yr ARGLWYDD a’th gyfyd di yn bobl sanctaidd iddo ei hun, megis y tyngodd wrthyt, os cedwi orchmynion yr AR¬GLWYDD dy DDUW, a rhodio yn ei flyrdd ef.

º10 A holl bobloedd y ddaear a welant fod yn dy alw di ar enw yr ARGLWYDD, ac a ofnant rhagot.

º11 A’r ARGLWYDD a’th lwydda di mewn daioni, yn ffrwyth dy fru, ac yn ffrwyth dy amfeiliaid, ac yn ffrwyth dy ddaear, yn y tir a dyngodd yr ARGLWYDD i’th dadau ar ei roddi i ti.

º12 Yr ARGLWYDD a egyr ei drysor daionus i ti, sef y nefoedd, i roddi glaw i’th dir di yn ei amser, ac i fendigo holl waith dy law: a thi a roddi echwyn i genhedloedd lawer, ac ni cheisi echwyn.

º13 A’r ARGLWYDD a’th wna di yn ben, ac nid yn gynffon; hefyd ti a fyddi yn uchaf yn unig, ac nid yn isaf: os gwran¬dewi ar orchmynion yr ARGLWYDD dy DDUW, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw, i’w cadw, ac i’w gwneuthur;

º14 Ac heb gilio ohonot oddi wrth yr holl eiriau yr wyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw, i’r tu deau neu i’r tu aswy, gan fyned ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu hwynt.

º15 A bydd, oni wrandewi ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW, gan gadw a gwneuthur ei holl orchmynion ef a’i ddeddfau, y rhai yr ydwyf yn eu gor¬chymyn i ti heddiw; y daw arnat yr holl felltithion hyn, ac y’th oddiweddant.

º16 Melltigedig fyddi di yn y ddinas, a melltigedig yn y maes.

º17 Melltigedig fydd dy gawell a’th does di.

º18 Melltigedig fydd ffrwyth dy fru, a ffrwyth dy dir, cynnydd dy wartheg, a diadellau dy ddefaid.

º19 Melltigedig fyddi di yn dy ddyfod¬iad i mewn, a melltigedig yn dy fynediad allan.

º20 Yr ARGLWYDD a ddenfyn amat ti felltith, trailed, a cherydd, yn yr hyn oll y dodych dy law arno, ac yn yr hyn a wnelych; nes dy ddinistrio a’th ddifetha di yn gyflym; am ddrygioni dy weithredoedd yn y rhai y’m gwrthodaist i.

º21 Yr ARGLWYDD a wna i haint lynu wrthyt, nes iddo dy ddifa oddi ar y tir yr ydwyt ti yn myned iddo i’w feddiannu.

º22 Yr ARGLWYDD a’th dery â darfodedigaeth, ac â chryd poeth, ac â llosgfa, ac â gwres, ac â chleddyf, ac â diflaniad, ac â mallter; a hwy a’th ddilynant nes dy ddifetha.

º23 Dy nefoedd hefyd y rhai sydd uwch dy ben a fyddant yn bres, a’r ddaear yr hon sydd oddi tanat yn haearn.

º24 Yr ARGLWYDD a rydd yn lle glaw dy ddaear, lwch a lludw: o’r nefoedd y disgyn arnat, hyd oni’th ddinistrier.

º25 Yr ARGLWYDD a wna i ti syrthio o flaen dy elynion: trwy un ffordd yr ei di yn eu herbyn hwynt, a thrwy saith o ffyrdd y ffoi o’u blaen hwynt: a thi a fyddi ar wasgar dros holl deyrnasoedd y ddaear.

º26 A’th gelain a fydd fwyd i holl ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear; ac ni bydd a’u tarfo.

º27 Yr ARGLWYDD a’th dery di â chornwyd yr Aifft, ac â chlwyf y marchogion, ac â chrach, ac ag ysfa; o’r rhai ni ellir dy iachau.

º28 Yr ARGLWYDD a’th dery di ag ynfydrwydd, ac a dallineb, ac â syndod calon.

º29 Byddi hefyd yn ymbalfalu ganol dydd, fel yr ymbalfalai y dall yn y tywyllwch; ac ni lwyddi yn dy ffyrdd: a diau y byddi orthrymedig ac anrheithf iedig byth, ac ni bydd a’th waredo.

º30 Ti a ymgredi a gwraig, a gŵr arall a gydorwedd a hi: ti a adeiledi dŷ, ac ni thrigi ynddo: ti a blenni winllan, ac ni chesgli ei ffrwyth.

º31 Dy ych a leddir yn dy olwg, ac ni fwytei ohono: dy asyn a ddygir trwy drais o flaen dy wyneb, ac ni ddaw adref atat: dy ddefaid a roddir i’th elynion, ac ni bydd i ti achubydd.

º32 Dy feibion a’th ferched a roddir i bobl eraill, a’th lygaid yn gweled, ac yn pallu amdanynt ar hyd y dydd; ac ni bydd gallu r dy law.

º33 Ffrwyth dy dir a’th holl lafar a fwyty pobl nid adnabuost; a byddi yn unig orthrymedig a drylliedig bob amser:

º34 A byddi wallgofus, gan weledigaeth dy lygaid yr hon a welych.

º35 Yr ARGLWYDD a’th dery di a chorn-wyd drygionus, yn y gliniau ac yn yr esgeiriau, yr hwn ni ellir ei iachau, o wadn dy droed hyd dy gorun.

º36 Yr ARGLWYDD a’th ddwg di, a’th frenin a osodych arnat, at genedl nid adnabuost ti na’th dadau di; a gwasanaethi yno dduwiau dieithr, pren a maen.

º37 A byddi yn syndod, yn ddihareb, ac yn watwargerdd, yrnhlith yr holl bob¬loedd y rhai yr arwain yr ARGLWYDD di atynt.

º38 Had lawer a ddygi allan i’r maes, ac ychydig a gesgli: oherwydd y locust a’i hysa.

º39 Gwinllannoedd a blenni, ac a goleddi; ond gwin nid yfi, ac ni chesgli y grawnwin: canys pryfed a’u bwyty.

º40 Olewydd a fydd i ti trwy dy holl derfynau, ac ag olew ni’th irir: oherwydd dy olewydden a ddihidla.

º41 Meibion a merched a genhedii, ac ni byddant i ti: oherwydd hwy a ânt i gaethiwed.

º42 Dy holl brennau a ffrwythau dy dir a ddifa y locust.

º43 Y dieithr a fyddo yn dy fysg a ddring arnat yn uchel uchel; a thi a ddisgynni yn isel isel.

º44 Efe a fenthycia i ti, a thi ni fenthyci iddo ef: efe a fydd yn ten, a thi a fyddi yn gynffon.

º45 A’r holl felltithion hyn a ddaw arnat, ac a’th erlidiant, ac a’th oddiweddant, hyd oni’th ddinistrier; am na wrandew-aist ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW, i gadw ei orchmynion a’i ddeddfau ef, y rhai a orchmynnodd efe i ti.

º46 A byddant yn arwydd ac yn rhy-feddod arnat ti, ac ar dy had hyd byth.

º47 Oblegid na wasanaethaist yr AR¬GLWYDD dy DDUW mewn llawenydd, ac taewn by&ydwch ‘.oilon, am arnldra pob dini:


º48 Am hynny y gwasanaethi di dy elynion, y rhai a ddenfyn yr ARGLWYDD yn dy erbyn, mewn newyn, ac mewn syched, ac mewn noethni, ac mewn eisiau pob dim; ac efe a ddyry iau haearn ar dy wddf, hyd oni ddinistrio efe dydi.

º49 Yr ARGLWYDD a ddwg i’th erbyn genedl o bell, sef o eithaf y ddaear, mor gyflym ag yr eheda yr eryr; cenedl yc hon ni ddeelli ei hiaith;

º50 Cenedl wyneb-galed, yr dion m dderbyn wyneb yr hynafgwr, ac .ni bydd raslon i’r llanc.

º51 A hi a fwyty ffrwyth dy anifeiliaid, a ifirwyth dy ddaear, hyd oni’th ddinistrier: yr hon ni ad i ti yd, gwin, nac dew, cynnydd .dy y/sotheg, na diadellau dy ddefaid, hyd oni’th ddifetho di.

º52 A hi a warchae arnat ti yn dy holl byrth, hyd oni syrfhio dy uchel a’th gedyrn gaerau, y rhai yr ydwyt yn yroddiried ynddynt, trwy dy holl dir: hi a warchae hefyd arnat yn dy holl byrth, o fewn dy holl dir yr hwn a rnddodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti.

º53 Ffrwyth dy fru, sef dg dy feibion a’th ferched, y rhai a roddodd yr AR¬GLWYDD dy DDUW i ti, a fwytei yn y gwarchae, ac yn y cyfyagdra a ddwg dy elyn arnat.

º54 Y gŵr tyner yn dy blith, a’r moethus iawn, a greulona ei lygad with ei frawd, ac wrth wraig ei fynwes, ac wrth weddill ei feibion y rhai a weddillodd efe:

º55 Rhag rhoddi i un ohonynt o gig ei feibion, y rhai a fwyty efe; o eisiau gado iddo ddim yn y gwarchae ac yn y cyfyng-. dra, a’r hwn y cyfynga dy elyn arnat o fewn dy holl byrth.

º56 Y wraig dyner a’r foethus yn dy fysg; yr hon ni phrofodd osod gwadn ei throed ar y ddaear, gan fwythau a thy-nerwch, a greulona ei llygad wrth ŵr ei mynwes, ac wrth ei mab, ac wrth ei merch,

º57 Ac wrth ei phlentyn a ddaw allaa o’i chorff, a’i meibion y rhai a blanta hi: sways hi a’u bwyty hwynt yn ddirgel, pan ballo pob dim arall yn y gwsrchae ac yn y cyfyngdra, a’r hwn y cyfynga dy elyn arnat o fewn dy byrth.

º58 Oni chedwi ar wneuthur holl eiriau y gyfraith hon, y rhai sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn, gan ofni yr enw gogoneddus ac ofnadwy hwn, YR AR GLWYDD DY DDUW;

º59 Yna y gwna yr ARGLWYDD dy blaU di yn rhyfedd, a phlau dy had; sef plau mawrion a pharhaus, a chlefydau drwg a pharhaus.

º60 Ac efe a ddwg arnat holl glefydau yr Aifft, y rhai yr o&aist rhagddynt; a glynant wrthyt.

º61 Ie, pob clefyd, a phob pla, yr hwn nid yw ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith hon, a ddwg yr ARGLWYDD arnat, hyd oni’th ddinistrier.

º62 Felly chwi a adewir yn ychydig bobl, lle yr oeddech fel sêr y mefoedd o luos-owgrwydd; oherwydd na wrandewaist at iais yr ARGLWYDD dy DDUW.

º63 A bydd, megis ag y llawenychodd yr ARGLWYDD ynoch i wneuthur daioni i chwi, ac i’ch amlhau; felly y llawenycha yr ARGLWYDD ynoch i’ch dinistrio, ac i’ch difetha chwi: a diwreiddir chwi o’r rir yr wyt yn myned iddo i’w feddiannu.

º64 A’r ARGLWYDD a’th wasgar di ymhiith yr holl bobloedd, o’r naill gŵr i’r ddaear hyd y cwr arall i’r ddaear: a thi a wasanaethi yno dduwiau dieithr, y rhai nid adnabuost ti na’th dadau; sef pren a maen.

º65 Ac ymhiith y cenhedloedd hyn ni orffwysi, ac ni bydd gorffwystra i wadn dy droed: canys yr ARGLWYDD a rydd i ti yno galon ofnus, a darfodedigaeth llygaid, a thristwch meddwi.

º66 A’th einioes a fydd ynghrog gyfer-byn a thi; a thi a ofni nos a dydd, ac ni byddi sicr o’th einioes.

º67 Y bore y dywedi, O na ddeuai yr hwyr! ac yn yr hwyr y dywedi, O na ddeuai y bore! o achos ofn dy galon gan yr hwn yr ofni, a rhag gweledigaeth dy lygaid yr hon a welych.

º68 A’r ARGLWYDD a’th ddyschwel di i’r Aifft, mown llongau, ar hyd y ffordd y dyWediais wrthyt, nachwanegit ei gweled mwy: a ‘chwi a ymwerthwch yno i’ch gelynion yn gaethweision ac yn gaethforynioB., ac ni bydd a’ch pryno.

PENNOD 29

º1 DYMA eiriau y cyfamod a orchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses ei wneuthur a meibion Israel, yn nhir Moab, heblaw y cyfamod a amododd efe a hwynt yn Horeb.

º2 l A Moses a alwodd ar holl Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr ARGLWYDD o flaen eich llygaid chwi yn nhir yr Aifft, i Pharo, ac i’w holl weision, ac i’w holl dir;

º3 Y profedigaethau mawrion a welodd eich llygaid, yr arwyddion a’r rhyfeddodau mawrion hynny:

º4 Ond ni roddodd yr ARGLWYDD i chwi galon i wybod, na llygaid i weled, na chlustiau i glywed, hyd y dydd hwn.

º5 Arweiniais chwi hefyd yn yr anialwch ddeugain mlynedd: ni heneiddiodd eich dillad amdanoch, ac ni heneiddiodd dy esgid am dy droed.

º6 Bara ni fwytasoch, a gwin neu ddiod gref nid yfasoch: fel y gwybyddech mai rnyfi yw yr ARGLWYDD eich DUW chwi.

º7 A daethoch hyd y lle hwn: yna daeth allan Sehon brenin Hesbon, ac Og brenin Basan, i’n cyfarfod mewn rhyfel; a ni a*u. lladdasom hwynt:

º8 Ac a ddygasom eu tir hwynt, ac a’i rhoesom yn etifeddiaeth i’r Reubeniaid, ac i’r Gadiaid, ac i hanner llwyth Manasse.

º9 Cedwch gan hynny eiriau y cyfamod hwn, a gwnewch hwynt: fel y llwyddoch ym mhob peth a wneloch.

º10 Yr ydych chwi oll yn sefyll heddiw gerbron yr ARGLWYDD eich Duw; peaaethiaid eich llwythau, eich henuriaid, a’ch swyddogion, a holl wŷr Israel,

º11 Eich plant, eich gwragedd, a’th ildieithrddyn yr hwn sydd o fewn dy wersyll, o gymynydd dy goed hyd wchynnydd dy ddwfr:

º12 I fyned ohonot dan gyfamod yr ARGLWYDD dy DDUW, a than ei gynghrair ef, yr hwn y mae yr ARGLWYDD dy DUW-yn ei wneuthur â thi heddiw:

º13 I’th sicrhau heddiw yn bobl iddo ei hun, ac i fod ohono yntau yn DDUW i ti,, megis y llefarodd wrthyt, ac fel y tyngodd wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob.

º14 Ac nid a chwi yn unig yr ydwyi, fi yn gwneuthur y cyfamod hwn, a’r cynghrair yma;

º15 Ond a’r hwn sydd yma gyda ni yn sefyll heddiw gerbron yr ARGLWYDD eia Duw, ac a’r hwn nid yw yma gyda ai heddiw:

º16 (Canys chwi a wyddoch y modd y trigasom ni yn nhir yr Aifft, a’r modd y daethom trwy ganol y cenhedloedd y rhai y daethoch trwyddynt;

º17 A chwi a welsoch eu ffieidd-dra hwynt a’u heilun-dduwiau, pren a maeB . arian ac aur, y rhai oedd yn eu mysg hwynt:)

º18 Rhag bod yn eich mysg ŵr, neu wraig, neu deulu, neu lwyth, yr hwn y try ei galon heddiw oddi wrth yr AR¬GLWYDD ein Duw, i fyned i wasanaethu duwiau y cenhedloedd hyn; rhag bod yn eich mysg wreiddyn yn dwyn gwenwyn a wermod:

º19 A bod, pan glywo efe eiriau y felltith hon, ymfendithio ohono yn ei galon ei hun, gan ddywedyd, Heddwch fydd i mi, er i mi rodio yng nghyndynrwydd fy nghalon, i chwanegu meddwdod at syched:

º20 Ni fyn yr ARGLWYDD faddau iddo; canys yna y myga dicllonedd yr AR¬GLWYDD a’i eiddigedd yn erbyn y gŵr hwnnw, a’r holl felltithion sydd ysgrif¬enedig yn y llyfr hwn a orwedd arno ef, a’r ARGLWYDD a ddilea ei enw ef oddi tan y nefoedd.

º21 A’r ARGLWYDD a’i neilltua ef oddi wrth holl lwythau Israel, i gael drwg, yn ôl holl felltithion y cyfamod a ysgrifennwyd yn llyfr y gyfraith hon.

º22 A dywed y genhedlaeth a ddaw ar ôl, sef eich plant chwi, y rhai a godant ar eich ôl chwi, a’r dieithr yr hwn a ddaw o wlad bell, pan welont blau y wlad hon, H


a’i chlefydau, ttwy y rhai y mae yr ARGLWYDD yn ei chlwyfo hi;

º23 A’i thir wedi ei losgi oll gan frwm-stan a halen, na heuir ef, ac na flaendar-dda, ac na ddaw i fyny un llysieuyn yn-ddo, fel dinistr Sodom a Gomorra, Adma a Seboim, y rhai a ddinistriodd yr ARGLWYDD yn ei lid a’i ddigofaint:

º24 Ie, yr holl genhedloedd a ddywedant, Paham y gwnaeth yr ARGLWYDD fel hyn i’r tir hwn? pa ddicter yw y digofaint mawr hwn?

º25 Yna y dywedir, Am wrthod ohonynt gyfamod ARGLWYDD DDUW eu tadau, yr hwn a amododd efe a hwynt pan ddug efe hwynt allan o dir yr Aifft.

º26 Canys aethant a gwasanaethasant dduwiau dieithr, ac ymgrymasant iddynt; sef duwiau nid adwaenent hwy, ac ni roddasai efe iddynt.

º27 Am hynny yr enynnodd dicllonedd yr ARGLWYDD yn erbyn y wlad hon, i ddwyn arni bob melltith a’r y sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn.

º28 A’r ARGLWYDD a’u dinistriodd hwynt o’u tir mewn digofaint, ac mewn dieter, ac mewn llid mawr, ac a’u gyrrodd hwynt i wlad arall, megis y gwelir heddiw.

º29 Y dirgeledigaethau sydd eiddo yr ARGLWYDD ein Duw, a’r pethau amlwg a roddwyd i ni, ac i’n plant hyd byth, fel’ y gwnelom holl eiriau y gyfraith hon.

PENNOD 30

º1 APHAN ddelo yr holl bethau hyn ‘arnat, sef y fendith a’r felltith, y rhai a roddais o’th flaen, ac atgofio ohonot hwynt ymysg yr holl genhedloedd y rhai y’th yrrodd yr ARGLWYDO dy DDUW di atynt,

º2 A dychwelyd ohonot at yr ARGLWYDD dy DDUW, a gwrando ar ei lais ef, yn ôl yr hyn oll yr ydwyf yn ei orchymyn i ti heddiw, ti a’th blant, a’th holl galon, ac a’th holl enaid:

º3 Yna y dychwel yr ARGLWYDD dy DDUW dy gaethiwed, ac y cymer drugaredd arnat, ac y try, ac a’th gasgl o fysg yr holl bobloedd lle y’th wasgaro yr AR¬GLWYDD dy DDUW di.

º4 Pe y’th wthid i eithaf y nefoedd, oddi yno y’th gasglai yr ARGLWYDD dy DDUW, ac oddi yno y’th gymerai.

º5 A’r ARGLWYDD dy DDUW a’th ddwg i’r tir a feddiannodd dy dadau, a thithau a’i meddienni: ac efe a fydd dda wrthyt, ac a’th wna yn amlach na’th dadau.

º6 A’r ARGLWYDD dy DDUW a enwaeda dy galon, a chalon dy had, i garu yr AR¬GLWYDD dy DDUW a’th holl galon, ac a’th holl enaid, er mwyn cael ohonot fyw.

º7 A’r ARGLWYDD dy DDUW a rydd yr holl felltithion hyn ar dy elynion, ac ar dy gaseion, y rhai a’th erlidiant di.

º8 Tithau a ddychweli, ac a wrandewi ar lais yr ARGLWYDD, ac a wnei ei holl orchmynion ef, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw.

º9 A’r ARGLWYDD dy DDUW a wna i ti lwyddo yn holl waith dy law, yn ffrwyth dy fru, ac yn f&wyth dy anifeiliaid, ac yn ffrwyth dy dir, er daioni: canys try yr ARGLWYDD i lawenychu ynot, i wneuthur daioni i ti, fel y llawenychodd yn dy dadau;

º10 Os gwrandewi ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW, i gadw ei orchmynion ef a’i ddeddfau y rhai sydd ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith hon; os dychweli at yr ARGLWYDD dy DDUW a’th holl galon, ac a’th holl enaid.

º11 Oherwydd y gorchymyn yma, yr ydwyf yn ei orchymyn i ti heddiw, nid yw guddiedig oddi wrthyt, ac nid yw bell.

º12 Nid yn y nefoedd y mae, i ddywedyd ohonot, Pwy a ddring drosom i’r nefoedd, ac a’i dwg i ni, fel y clywom, ac y gwnel¬om ef?

º13 Ac nid o’r tu hwnt i’r môr y mae, i ddywedyd ohonot, Pwy a dramwya drosom ni i’r tu hwnt i’r môr, ac a’i dwg ef i ni, fel y clywom, ac y gwnelom ef?

º14 Canys y gair sydd agos iawn atati yn dy enau, ac yn dy galon, i’w wneuthur ef.

º15 Wele, rhoddais o’th flaen heddiw einioes a daioni, ac angau a drygioni:

º16 lle yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti heddiw garu yr ARGLWYDD dy DDUW, i rodio yn ei ffyrdd ef, ac i gadw ei orch¬mynion, a’i ddeddfau, a’i farnedigaethau ef; fel y byddych fyw, ac y’th amlhaer, ac y’th fendithio yr ARGLWYDD dy DDUW yn y tir yr wyt ti yn myned iddo i’w feddiannu.

º17 Ond os try dy galon ymaith, fel’ na wrandawech, a’th yrru i ymgrymu i dduwiau dieithr, a’u gwasanaethu hwynt;

º18 Yr wyf yn mynegi i chwi heddiw, y difethir chwi yn ddiau, ac nad estynnwch ddyddiau yn y tir yr ydwyt yn myned dros yr Iorddonen i fyned i mewn iddo i’w berchenogi.

º19 Galw yr wyf yn dyst i’th erbyn heddiw y nefoedd a’r ddaear, roddi honof o’th flaen di einioes ac angau, tendith a melltith: dewis dithau yr einioes, fel y byddych fyw, ti a’th had;

º20 I garu ohonot yr ARGLWYDD dy DDUW, a gwrando ar ei lais ef, a glynu wrtho, (canys efe yw dy einioes di, ac estyniad dy ddyddiau,) fel y trigych yn y tir a dyngodd yr ARGLWYDD wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob, ar ei roddi iddynt.

PENNOD 31 º1 A MOSES a aeth ac a lefarodd y geiriau hyn wrth holl Israel;

º2 Ac a ddywedodd wrthynt, Mab chwe ugain mlynedd ydwyf fi heddiw; ni allaf mwy fyned allan, a dyfod i mewn: yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrthyf, Ni chei fyned dros yr Iorddonen hon.

º3 Yr ARGLWYDD dy DDUW sydd yn myned drosodd o’th flaen di; efe a ddinistria’r cenhedloedd hyn o’th flaen, a thi a’u meddienni hwynt: Josua hefyd, efe a & drosodd o’th flaen, fel y llefarodd yr ARGLWYDD.

º4 A’r ARGLWYDD a wna iddynt fel y gwnaeth i Sehon ac i Og, brenhinoedd yr Amoriaid, ac i’w tir hwynt, y rhai a ddinistriodd efe.

º5 A rhydd yr ARGLWYDD hwynt o’ch blaen chwi; gwnewch chwithau iddynt hwy yn ôl yr holl orchmynion a orch-mynnais i chwi.

º6 Ymgryfhewch, ac ymnerthwch; nac ofhwch, ac na ddychrynwch rhagddynt: canys yr ARGLWYDD dy DDUW sydd yn myned gyda thi; ni’th edy, ac ni’th wrthyd.

º7 A Moses a alwodd ar Josua, ac a ddywedodd wrtho yng ngolwg holl Israel, Ymgadarnha, ac ymnertha: canys ti a ei gyda’r bobl yma i’r tir a dyngodd yr ARGLWYDD wrth eu tadau hwynt ar ei roddi iddynt; a thi a’i rhenni yn etifeddiaeth iddynt.

º8 A’r ARGLWYDD hefyd sydd yn myned o’th flaen di; efe a fydd gyda thi; ni’th edy, ac ni’th wrthyd: nac ofna, ac na lwfrha.

º9 A Moses a ysgrifennodd y gyfraith hon, ac a’i rhoddes at yr offeiriaid meibion Left, y rhai a ddygent arch cyfamod yr ARGLWYDD, ac at holl henuriaid Israel.

º10 A Moses a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Yn ôl pob saith mlynedd, ar yr amser nodedig, ar flwyddyn y gollyngdod, ar wyl y pebyll,

º11 Pan ddelo holl Israel i ymddangos gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW, yn y lle a ddewiso efe; y darlleni y gyfraith hon o flaen holl Israel, lle y clywant.

º12 Cynnull y bobl ynghyd, y gwŷr, y gwragedd, a’r plant, a’r dieithrddyn a fyddo o fewn dy byrth; fel y gwrandawont, ac fel y dysgont, ac yr ofnont yr ARGLWYDD eich Duw, ac yr edrychont am wneuthur holl eiriau y gyfraith hon;

º13 Ac y byddo i’w plant, y rhai ni wybuant ddim, glywed a dysgu ofni yr ARGLWYDD eich Duw, yr holl ddyddiau y byddoch fyw yn y tir yr ydych yn myned iddo dros yr Iorddonen i’w feddiannu.

º14 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Wele, nesaodd y dyddiau i ti i farw: galw Josua, a sefwch gerbron ym mhabell y cyfarfod, fel y rhoddwyf orchmynion iddo ef. Yna yr aeth Moses a Josua, ac a safasant gerbron ym mhabell y cyfarfod.

º15 A’r ARGLWYDD a ymddangosodd yn y babell mewn colofn gwmwl: a’r golofh gwmwl a safodd ar ddrws y babell.

º16 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Wele, ti a orweddi gyda’th dadau; a’r bobl yma a gyfyd, ac a but-einiant ar ôl duwiau dieithriaid y tir y maent yn myned i mewn iddo, ac a’m gwrthyd i, ac a dyr fy nghyfamod a wneuthum ag ef.



º17 A’m dig a ennyn yn eu herbyn y dydd hwnnw; a mi a’u gwrthodaf hwynt, ac a guddiaf fy wyneb oddi wrthynt; a bwyteir ef, a drygau lawer a chyfyng-derau a ddigwyddant iddo ef; a’r dydd hwnnw y dywed efe, Onid am nad yw yr Arglwydd yn fy mysg y digwyddodd y drwg hwn i mi?

º18 Canys myfi gan guddio a guddiaf fy wyneb y dydd hwnnw, am yr holl ddrygioni a wnaeth efe, pan drodd at dduwiau dieithr.

º19 Ysgrifennwch yr awr hon gan hynny i chwi y gan hon: dysg hi hefyd i feibion Israel, a gosod hi yn eu genau hwynt; fd y byddo y gan hon yn dyst i mi yn erbya meibion Israel.

º20 Canys dygaf ef i dir yn llifeirio o laeth a mêl, yr hwn a addewais trwy tw i’w dadau ef; fel y bwytao, ac y digoner, ac yr elo yn fras: ond efe a dry at dduwiau dieithr, ac a’u gwasanaetha hwynt, ac a’m dirmyga i, ac a ddiddyma fy nghyfamod.

º21 Yna, pan ddigwyddo iddo ddrygati lawer a chyfyngderau, y bydd i’r gan hon dystiolaethu yn dyst yn ei wyneb eft canys nid anghofir hi o enau ei had efs oherwydd mi a adwaen ei fwriad y mae efe yn ei amcanu heddiw, cyn dwyn ohonof fi ef i’r tir a addewais trwy lw.

º22 A Moses a ysgrifennodd y gan hon ar y dydd hwnnw, ac a’i dysgodd hi i feibion Israel.

º23 Efe a orchmynnodd hefyd i Josua fab Nun, ac a ddywedodd, Ymgryfha, ac ymnertha: canys ti a arweini feibion Israel i’r tir a addewais iddynt trwy lw: a mi a fyddaf gyda thi.

º24 A phan ddarfu i Moses ysgrifennu geiriau y gyfraith hon ar lyfr, hyd eu diwedd hwynt;

º25 Yna y gorchmynnodd Moses Ft Lefiaid y rhai oedd yn dwyn arch cyfam* od yr ASGLWYDD, gaft ddywedyd,

º26 Cymerwch lyfr y gyfraith hon, a gosodwch ef ar ystlys arch cyfamod yi ARGLWYDD eich Duw; fel y byddo yno yn dyst i’th erbyn.

º27 Canys mi a adwaen dy wrthnysigf rwydd, a’th wargaledrwydd: wele, a myfl eto yn fyw gyda chwi heddiw, gwrthryfelgar yn erbyn yr ARGLWYDD fuoch; a pha faint mwy y byddwch wedi fy marw?

º28 Cesglwch ataf holl henuriaid eich llwythau, a’ch swyddogion: fel y llefarwyf y geiriau hyn lle y clywont hwy, ac y cymerwyf y nefoedd a’r ddaear yn dystion yn eu herbyn hwy.

º29 Canys mi a wn, wedi fy marw, gan lygru yr ymlygrwch, ac y ciliwch o’r ffordd a orchmynnais i chwi; ac y digwydd-a i chwi ddrwg yn y dyddiau diwethaf am y gwnewch ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, i’w ddigio ef a gweithredoedd eich dwylo.

º30 A llefarodd Moses lle y clybu holl gynulleidfa Israel eiriau y gan hon, hyd eu diwedd hwynt.

PENNOD 32

º1 GWRANDEWCH, y nefoedd, a lle-faraf; a chlywed y ddaear eiriau fy ngenau.

º2 Fy athrawiaeth a ddefnynna fel glaw’: fy ymadrodd a ddifera fel gwlith; fel gwlithlaw ar irwellt, ac fel cawodydd ar laswellt.

º3 Canys enw yr ARGLWYDD a gyhoeddaf fi: rhoddwch fawredd i’n Duw ni.

º4 Efe yw y Graig; perffaith yw ei weithred; canys ei holl ffyrdd ydynt farn: Duw gwirionedd, a heb anwiredd, cyfiawn ac uniawn yw efe.

º5 Y genhedlaeth wyrog a throfaus a ymlygrodd yn ei erbyn trwy eu bai, heb fod yn blant iddo ef.

º6 Ai hyn a delwch. i’r ARGLWYDD, bobl ynfyd ac angall? onid efe yw dy dad a’th brynwr? onid efe a’th wnaeth, ac a’th sicrhaodd?

º7 Cofia y dyddiau gynt; ystyriwch flynyddoedd cenhedlaeth a chenhedlaeth: gofyn i’th dad, ac efe a fynega i ti; i’th heauriaid, a hwy a ddywedant wrthyt.

º8 Pan gyfi-annodd y Goruchaf etifeddiaeth y cenhedloedd, pan neilltuodd efe feibion Adda, y gosododd efe derfynau y bobloedd yn ôl rhifedi meibion Israel.

º9 Canys rhan yr ARGLWYDD yw ei bobl; Jacob yw rhan ei etifeddiaeth ef.

º10 Efe a’i cafodd ef mewn tir anial, ac rrlewn diffeithwch gwag erchyll: arweiniodd ef o amgylch, a pharodd iddo ddeall, a chadwodd ef fel cannwyll ei lygad.

º11 Fel y cyfyd eryr ei nyth, y castella dros ei gywion, y lleda ei esgyll, y cymer hwynt, ac a’u dwg ar ei adenydd;

º12 Felly yr ARGLWYDD yn unig a’i harweiniodd yntau, ac nid oedd duw dieichr gydag ef.

º13 Gwnaeth iddo farchogaeth ar uchel-der y ddaear, a bwyta cnwd y maes, a sugno mêl o’r graig, ac olew o’r graig gallestt;

º14 Ymenyn gwartheg, a llaeth defaid, ynghyd â braster wyn, a hyrddod o rywogaeth Basan, a bychod, ynghyd â braster grawn gwenith, a phurwaed grawnwin a yfaist.

º15 A’r uniawn a aeth yn fras, ac a wingodd; braseaist, tewychaist, pwyntiaist: yna efe a wrthododd DDUW, yr hwn a’i gwnaeth, ac a ddiystyrodd Graig ei iachawdwriaeth.

º16 A dieithr dduwiau y gyrasant eiddigedd arno; a ffieidd-dra y digiasant ef.

º17 Aberthasant i gythreuliaid, nid i DDUW; i dduwiau nid adwaenent, i rai newydd diweddar, y rhai nid ofnodd eich tadau.

º18 Y Graig a’th genhedlodd a anghofiaist ti, a’r Duw a’th luniodd a ollyngaist ti dros gof.

º19 Yna y gwelodd yr ARGLWYDD, ac a’u ffieiddiodd hwynt; oherwydd ei ddigio gan ei feibion, a’i ferched.

º20 Ac efe a ddywedodd, Cuddiaf fy wyneb oddi wrthynt, edrychaf beth fydd en diwedd hwynt: canys cenhedlaeth diofaus ydynt hwy, meibion. heb ffyddlo.ideb ynddynt.

º21 Hwy a yrasant eiddigedd arnaf a’r peth nid oedd DDUW; digiasant fi a’u hofereddi’ minnau a yrraf eiddigedd arnynt hwythau a’r rhai nid ydynt bobl; a chenedl ynfyd y digiaf hwynt.

º22 Canys tan a gyneuwyd yn fy nig, ‘ac a lysg hyd uffern isod, ac a ddifa y tir .a’i gynnyrch, ac a wna i sylfeini’r mynydd- oedd ffaglu.

º23 Casglaf ddrygau araynt; treuliaf fy saethau arnynt.

º24 Llosgedig fyddant gan newyn, ac wedi eu bwyta gan wres poeth, a chwerw ddinistr: anfonaf hefyd arnynt ddannedd bwystfilod, ynghyd â gwenwyn seirff y flwch.

º25 Y cleddyf oddi allan, a dychryn oddi fewn, a ddifetha y gŵr ieuanc a’r wyry tiefyd, y plentyn sugno ynghyd â’r gŵr briglwyd.

º26 Dywedais, Gwasgaraf hwynt i gong-lau, paraf i’w coffadwriaeth ddarfod o iysg dynion;

º27 Oni bai i mi ofni dig y gelyn, rhag i’w gwrthwynebwyr ymddwyn yn ddi-eithr, a rhag dywedyd ohonynt, Ein llaw uchel ni, ac nid yr ARGLWYDD, a wnaeth hyn oll.

º28 Canys cenedl heb gyngor ydynt hwy, ac heb ddeall ynddynt.

º29 O na baent ddoethion, na ddeallent hyn, nad ystyrient eu diwedd ! O Pa fodd yr ymlidiai un fil, ac y gyrrai dau ddengmil i ffoi, onid am werthu o’u Craig hwynt, a chau o’r ARGLWYDD alrnynt?

º31 Canys nid fel ein Craig ni y mae eu craig hwynt; a bydded ein gelynion yn farnwyr.

º32 Canys o winwydden Sodom, ac o feysydd Gomorra, y mae eu gwinwydden hwynt: eu grawnwin hwynt sydd rawn-win bustlaidd; grawnsypiau chwerwon sydd iddynt.

º33 Gwenwyn dreigiau yw eu gwia hwynt, a chreulon wenwyn asbiaid.

º34 Onid yw hyn yng nghudd gyda myfi, wedi ei selio ymysg fy nhrysorau?

º35 I mi y perthyn dial, a thalu’r pwyth; mewn pryd y llithr eu troed hwynl: canys agos yw dydd eu trychineb, a phrysuro y mae yr hyn a baratowyd iddynt.

º36 Canys yr ARGLWYDD a farna i bobl, ac a edifarha am ei weision; pan welo ymado o’u nerth, ac nad oes na gwar-chaeedig, na gweddilledig.

º37 Ac efe a ddywed. Pa le y mae eu duwiau hwynt, a’r graig yr ymddiriedasant ynddi,

º38 Y rhai a fwytasant fraster eu haberthau, ac a yfasant win eu diod-offrwm? codam a chynorthwyant chwi, a byddant loches i chwi.

º39 Gwelwch bellach mai myfi, myfi yw efe; ac nad oes duw ond myfi: myfi sydd yn lladd, ac yn bywhau; myfi a archollaf, ac mi a feddyginiaethaf: ac ni bydd a achubo o’m llaw.

º40 Canys codaf fy llaw i’r nefoedd, a dywedaf. Mi a fyddaf fyw byth.

º41 Os hogaf fy nghleddyf disglair, ‘ac ymaflyd o’m llaw mewn barn; dychwelaf ddial ar fy ngelynion, a thalaf y pwyth i’m caseion.

º42 Meddwaf fy saethau â gwaed, (a’m cleddyf a fwyty gig,) a gwaed y lladdedig a’r caeth, o ddechrau dial ar y gelyn.

º43 Y cenhedloedd, llawenhewch gyda’i bobl ef: canys efe a ddial waed ei weision, ac a ddychwel ddial ar ei elynion, ac a drugarha wrth ei dir a’i bobl ei hun.

º44 A daeth Moses ac a lefarodd holl eiriau y gan hon lle y clybu’r bobl, efe a Josua mab Nun.

º45 A darfu i Moses lefaru yr holl eiriau hyn wrth holl Israel:

º46 A dywedodd wrthynt, Meddyliwch yn eich calonnau am yr holl eiriau yr ydwyfyn eu tystiolaethu wrthych heddiw; y rhai a orchmynnwch i’ch plant, i edrych am wneuthur holl eiriau y gyfraith hon.

º47 Canys nid gair ofer yw hwn i chwi: oherwydd eich einioes chwi yw efe; a thrwy y gair hwn yr estynnwch ddyddiau yn y tir yr ydych yn myned iddo dros yr Iorddonen i’w feddiannu.

º48 A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses yng nghorff y dydd hwnnw, gan ddywedyd,

º49 Esgyn i’r mynydd Abarim hwn, sef mynydd Nebo, yr hwn sydd yn nhir Moab, ar gyfer Jericho; ac edrych ar wlad Canaan, yr hon yr ydwyf fi yn ei rhoddi i feibion Israel yn etifeddiaeth.

º50 A bydd farw yn y mynydd yr esgynni iddo, a chasgler di at dy bobl, megis y bu farw Aaron dy frawd ym mynydd Hor, ac y casglwyd ef at ei bobl:

º51 Oherwydd gwthryfelasoch i’m her-byn ymysg meibion Israel, wrth ddyfroedd cynnen Cades, yn anialwch Sin; oblegid ni’m sancteiddiasoch ymhiith meibion Israel.

º52 Canys y wlad a gei di ei gweled,ar dy gyfer; ond yno nid ei, i’r tir yr ydv?yf "fi yn ei roddi i feibion Israel. ‘ ‘

PENNOD 33

º1 A DYMA’r fendith a’r hon y bendithiodd Moses gŵr Duw feibion Israel, cyn ei farwolaeth.

º2 Ac efe a ddywedodd, Yr ARGLWYDD a ddaeth allan o Sinai, ac a gododd o Seir iddynt; ymlewyrchodd o fynydd Paran, ac efe a ddaeth gyda myrddiwn o saint, a thanllyd gyfraith o’i ddeheulaw iddynt.

º3 Caru y mae efe y bobl: ei holl saint ydynt yn dy law: a hwy a ymlynasant wrth dy draed, pob un a dderbyn o’th eiriau.

º4 Moses a orchmynnodd gyfraith i ni, yn etifeddiaeth i gynulleidfa Jacob.

º5 Ac efe oedd frenin yn Israel, pan ymgasglodd pennau y bobl ynghyd â llwythau Israel.

º6 Bydded fyw Reuben, ac na fydded farw, ac na bydded ei ddynion ychydig o rifedi.

º7 Bydded hyn hefyd i Jwda. Ac efe a ddywedodd, Clyw, O ARGLWYDD, lais Jwda, ac at ei bobl dwg ef: digon fyddo iddo ei ddwylo ei hun, a bydd gymorth rhag ei elynion.

º8 Ac am Lefi y dywedodd, Bydded dy Thummim a’th Urim i’th ŵr sanct-aidd, yr hwn a brofaist ym Massa, ac a gynhennaist ag ef wrth ddyfroedd Meriba;

º9 Yr hwn a ddywedodd am ei dad ac am ei fam, Ni welais ef; a’i frodyr nis adnabu, ac nid adnabu ei blant ei hun:

canys cadwasant dy eiriau, a chynaliasant dy gyfamod.:

º10 Dysgant dy farnedigaethau i Jacob, a’th gyfraith i Israel: gosodant arogl-darth ger dy fron, a llosg-aberth ar dy allor.

º11 Bendithia, O ARGLWYDD, ei olud ef, a bydd fodlon i waith ei ddwylo ef: archolla lwynau y rhai a godant i’w erbyn, a’i gaseion, fel na chodont.

º12 Am Benjamin y dywedodd efe, Anwylyd yr ARGLWYDD a drig mewn diogelwch gydag ef; yr hwn fydd yn cysgodi drosto ar hyd y dydd, ac yn aros rhwng ei ysgwyddau ef.

º13 Ac am Joseff y dywedodd efe, Ei dir ef fydd wedi ei fendigo gan yr AR¬GLWYDD, a hyfrydwch y nefoedd, a gwlith, ac a dyfnder yn gorwedd isod;

º14 Hefyd a hyfrydwch cynnyrch yr haul, ac a hyfrydwch aeddfetffrwyth y lleuadau,

º15 Ac a hyfrydwch pen mynyddoedd y dwyrain, ac a hyfrydwch bryniau tragwyddoldeb,

º16 Ac a hyfrydwch y ddaear, ac a’i chyflawnder, ac ag ewyllys da preswylydd y berth; delo bendith ar ben Joseff, ac ar gorun yr hwn a neilltuwyd oddi wrth ei frodyr.

º17 Ei brydferthwch sydd debyg i gyntaf-anedig ei ych, a’i gyrn ef sydd gym unicorn: a hwynt y cornia efe y bobl ynghyd hyd eithafoedd y ddaear: a dyma fyrddiwn Effraim, ie, dyma filoedd Manasse.

º18 Ac am Sabulon y dywedodd efe, Ymlawenycha, Sabulon, yn dy fynediad allan; a thi, Issachar, yn dy bebyll.

º19 Galwant bobloedd i’r mynydd; yna yr aberthant ebyrth cyfiawnder: canys cyfoeth y moroedd a sugnant, a chuddiedig drysorau y tywod.

º20 Ac am Gad y dywedodd efe, Bendigedig yw ehangydd Gad: megis Hew y mae efe yn aros, fel y rhwygo efe yr ysgwyddog a’r pen.

º21 Edrychodd amdano ei hun yn y dcchreuad: canys yno, yn rhan y cyf-reithwr, y gosodwyd ef: efe a ddaeth gyda phenaethiaid y bobl; gwnaefh efe gyfiawnder yr ARGLWYDD, a’i farnedig¬aethau gydag Israel.

º22 Am Dan hefyd y dywedodd, Daa yn genau Hew a neidia o Basan.

º23 Ac am Nafftali y dywedodd, O Nafftali, llawn o hawddgarwch, a chyf-lawn o fendith yr ARGLWYDD: meddianna di y gorllewin a’r deau.

º24 Ac am Aser y dywedodd, Ben-dithier Aser a phlant: bydded gymer-adwy gan ei frodyr: ac efe a wlych ei droed mewn olew.

º25 Haearn a phres fydd dan dy esgid, di; a megis dy ddyddiau, y bydd dy nerth.

º26 Nid oes megis Duw Israel, yr hwn sydd yn marchogaeth y nefoedd yn gymorth i ti, a’r wybrennau yn ei fawredd.

º27 Dy noddfa yw Duw tragwyddol, ac oddi tanodd y mae y breichiau trag¬wyddol: efe a wthia dy elyn o’th flaen, ac a ddywed, Difetha ef.

º28 Israel hefyd a drig ei hun yn ddiogel; ffynnon Jacob a fydd mewn tir yd a gwin; ei nefoedd hefyd a ddifera wlith.

º29 Gwynfydedig wyt, O Israel; pwy sydd megis ti, O bobl gadwedig gan yr ARGLWYDD, tarian dy gynhorthwy, yr hwn hefyd yw cleddyf dy ardderchowg-rwydd! a’th elynion a ymostyngant i ti, a thi a sethri ar eu huchel leoedd hwynt.

PENNOD 34

º1 A MOSES a esgynnodd o rosydd Moab, i fynydd Nebo, i ben Pisga, yr hwn sydd ar gyfer Jericho: a’r AR¬GLWYDD a ddangosodd iddo holl wlad Gilead, hyd Dan, ‘

º2 A holl Nafftali, a thir Effraim a Manasse, a holl dir Jwda, hyd y mot eithaf, !

º3 Y deau hefyd, a gwastadedd dyffi-yn Jericho, a dinas y palmwydd, hyd Soar.

º4 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Dyma’r tir a fynegais i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddaf ef; perais i ti ei weled a’th lygaid, ond nid ei di drosodd yno.

º5 A Moses gwas yr ARGLWYDD a fu tarw yno, yn nhir Moab, yn;ôl gair yr ARGLWYDD.. r.r .;


.

º6 Ac efe a’i claddodd ef meWn glyn yn nhir Moab, gyferbyn a B’ethpeor: ac nid edwyn .neb ei fedd ef hyd y dydd hwn.

º7 A Moses ydoedd fab ugain mlwydd a chant pan fu efe farw: ni thywyllasai ei lygad, ac ni chiliasai ei ireidd-dra ef.

º8 A meibion Israel a wylasant am Moses yn rhosydd Moab ddeng niwrnod ar hugain: a chyflawnwyd dyddiau wylofain galar am Moses.

º9 1 A Josua mab Nun oedd gyflawn o ysbryd doethineb; oherwydd Moses a roddasai ei ddwylo arno: a. meibion Israel a wrandawsant arno, ac a wnaethant fel y gorchmynasai yr ARSLWYDD wrth Moses.

º10 Ac ni chododd proffwyd eto yn Israel megis Moses, yr hwn a adnabu yr ARGLWYDD wyneb yn wyneb;

º11 Ym mhob rhyw arwyddion a rhy-feddodau, y rhai yr anfonodd yr AR¬GLWYDD ef i’w gwneuthur yn nbir yr Aifft, ar Pharo, ac ar ei holl weision, ac ar ei holl dir ef,

º12 Ac yn yr holl law gadarn, ac yn yr holl ofn mawr, y rhai a wnaeth Moses yng ngolwg holl Israel.