Deuteronomium Beibl (1620)
Josua
Josua

wedi'i gyfieithu gan William Morgan
Barnwyr

LLYFR JOSUA

PENNOD 1 1:1 Ac wedi marwolaeth Moses, gwas yr ARGLWYDD, y llefarodd yr ARGLWYDD wrth Josua mab Nun, gweinidog Moses, gan ddywedyd,

1:2 Moses fy ngwas a fu farw: gan hynny cyfod yn awr, dos dros yr Iorddonen hon, ti, a’r holl bobl hyn, i’r wlad yr ydwyf fi yn ei rhoddi iddynt hwy, meibion Israel.

1:3 Pob man y sango gwadn eich troed chwi arno, a roddais i chwi; fel y lleferais wrth Moses.

1:4 O’r anialwch, a’r Libanus yma, hyd y afon fawr, afon Ewffrates, holl wlad y Hethiaid, hyd y môr mawr, tua machludiad yr haul, fydd eich terfyn chwi.

1:5 Ni saif neb o’th flaen di holl ddyddiau dy einioes: megis y bûm gyda Moses, y byddaf gyda thithau: ni’th adawaf, ac ni’th wrthodaf.

1:6 Ymgryfha, ac ymwrola: canys ti a wnei i’r bobl hyn etifeddu’r wlad yr hon a dyngais wrth eu tadau ar ei rhoddi iddynt.

1:7 Yn unig ymgryfha, ac ymwrola yn lew, i gadw ar wneuthur yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnodd Moses fy ngwas i ti: na ogwydda oddi wrthi, ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy; fel y ffynnech i ba le bynnag yr elych.

1:8 Nac ymadawed llyfr y gyfraith hon o’th enau, eithr myfyria ynddo ddydd a nos, fel y cedwych ar wneuthur yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig ynddo: canys yna y llwyddi yn dy ffyrdd, ac yna y ffynni.

1:9 Oni orchmynnais i ti? Ymgryfha, ac ymwrola; nac arswyda, ac nac ofna: canys yr ARGLWYDD dy DDUW fydd gyda thi, i ba le bynnag yr elych.

1:10 Yna Josua a orchmynnodd i lywodraethwyr y bobl, gan ddywedyd,

1:11 Tramwywch trwy ganol y llu, a gorchmynnwch i’r bobl, gan ddywedyd; Paratowch i chwi luniaeth: canys o fewn tridiau y byddwch chwi yn myned dros yr Iorddonen hon, i ddyfod i feddiannu’r wlad y mae yr ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoddi i chwi i’w meddiannu.

1:12 Wrth y Reubeniaid hefyd, ac wrth y Gadiaid, ac wrth hanner llwyth Manasse, y llefarodd Josua, gan ddy¬wedyd,

1:13 Cofiwch y gair a orchmynnodd Moses gwas yr ARGLWYDD i chwi, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD eich Duw a esmwythaodd arnoch, ac a roddodd i chwi y wlad hon.

1:14 Eich gwragedd, eich plant, a’ch anifeiliaid, a drigant yn y wlad a roddodd Moses i chwi o’r tu yma i’r Iorddonen: ond chwychwi a ewch drosodd yn arfogion o flaen eich brodyr, y sawl ydych gedyrn o nerth, a chynorthwywch hwynt;

1:15 Nes rhoddi o’r ARGLWYDD lonyddwch i’ch brodyr, fel i chwithau, a: meddiannu ohonynt hwythau y wlad y mae yr ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoddi iddynt: yna dychwelwch i wlad eich etifeddiaeth, a meddiennwch hi, yr hon a roddodd Moses gwas yr ARGLWYDD i chwi, o’r tu yma i’r Iorddonen, tua chodiad yr haul.

1:16 Hwythau a atebasant Josua, gan ddywedyd, Ni a wnawn yr hyn oll a orchmynnaist i ni; awn hefyd i ba le bynnag yr anfonych ni.

1:17 Fel y gwrandawsom ar Moses ym mhob peth, felly y gwrandawn arnat tithau: yn unig bydded yr ARGLWYDD dy DDUW gyda thi, megis y bu gyda Moses.

1:18 Pwy bynnag a anufuddhao dy orchymyn, ac ni wrandawo ar dy ymadroddion, yn yr hyn oll a orchmynnych iddo, rhodder ef i farwolaeth: yn unig ymgryfha, ac ymwrola.

PENNOD 2 2:1 A JOSUA mab Nun a anfonodd o Sittim ddau ŵr, i chwilio yn ddirgel, gan ddywedyd, Ewch, edrychwch y wlad, a Jericho. A hwy a aethant, ac a ddaethant i dŷ puteinwraig a’i henw Rahab, ac a letyasant yno.

2:2 A mynegwyd i frenin Jericho, gan ddywedyd, Wele, gwŷr a ddaethant yma heno, o feibion Israel, i chwilio’r wlad.

2:3 A brenin Jericho a anfonodd at Rahab, gan ddywedyd, Dwg allan y gwŷr a ddaeth atat, y rhai a ddaeth i’th dŷ di; canys i chwilio yr holl wlad y daethant.

2:4 Ond y wraig a gymerasai y ddau ŵr, ac a’u cuddiasai hwynt, ac a ddywedodd fel hyn; Gwŷr a ddaeth ataf fi, ond ni wyddwn i o ba le y daethent hwy.

2:5 A phan gaewyd y porth yn y tywyllwch, y gwŷr a aeth allan; ni wn i ba le yr aeth y gwŷr: canlynwch yn fuan ar eu hôl hwynt; canys chwi a’u goddiweddwch hwynt.

2:6 Ond hi a barasai iddynt esgyn i nen y tŷ, ac a’u cuddiasai hwynt mewn bollteidiau llin, y rhai oedd ganddi wedi eu hysgafnu ar nen y tŷ.

2:7 A’r gwŷr a ganlynasant ar eu hôl hwynt, tua’r Iorddonen, hyd y rhydau: a’r porth a gaewyd, cyn gynted ag yr aeth y rhai oedd yn erlid ar eu hôl hwynt allan.

2:8 A chyn iddynt hwy gysgu, hi a aeth i fyny atynt hwy ar nen y tŷ:

2:9 A hi a ddywedodd wrth y gwŷr. Mi a wn roddi o’r ARGLWYDD i chwi y wlad; oherwydd eich arswyd chwi a syrthiodd arnom ni, a holl drigolion y wlad a ddigalonasant rhag eich ofn.

2:10 Canys ni a glywsom fel y sychodd yr ARGLWYDD ddyfroedd y môr coch o’ch blaen chwi, pan ddaethoch allan o’r Aifft; a’r hyn a wnaethoch i ddau frenin yr Amoriaid, y rhai oedd tu hwnt i’r Iorddonen, sef i Sehon ac i Og, y rhai a ddifrodasoch chwi.

2:11 A phan glywsom, yna y’n digalonnwyd, fel na safodd mwyach gysur yn neb, rhag eich ofn: canys yr ARGLWYDD eich Duw, efe sydd DDUW yn y nefoedd uchod, ac ar y ddaear isod.

2:12 Yn awr gan hynny, tyngwch, atolwg, wrthyf, myn yr ARGLWYDD, oherwydd i mi wneuthur trugaredd â chwi, y gwnewch chwithau hefyd drugaredd â thŷ fy nhad innau; ac y rhoddwch i mi arwydd gwir:

2:13 Ac y cedwch yn fyw fy nhad, a’m mam, a’m brodyr, a’m chwiorydd, a’r hyn oll sydd ganddynt, ac y gwaredwch ein heinioes rhag angau.

2:14 A’r gwŷr a ddywedasant wrthi, Ein heinioes a roddwn i farw drosoch, (os chwi ni fynegwch ein neges hyn,) pan roddo yr ARGLWYDD i ni y wlad hon, oni wnawn a chwi drugaredd a gwirionedd.

2:15 Yna hi a’u gollyngodd hwynt i waered wrth raff trwy’r ffenestr: canys ei thŷ hi oedd ar fur y ddinas, ac ar y mur yr oedd hi yn trigo.

2:16 A hi a ddywedodd wrthynt, Ewch i’r mynydd, rhag i’r erlidwyr gyfarfod â chwi: ac ymguddiwch yno dridiau, nes dychwelyd yr erlidwyr; ac wedi hynny ewch i’ch ffordd.

2:17 A’r gwŷr a ddywedasant wrthi, Dieuog fyddwn ni oddi wrth dy lw yma a’r hwn y’n tyngaist.

2:18 Wele, pan ddelom ni i’r wlad, rhwym y llinyn yma o edau goch yn y ffenestr y gollyngaist ni i lawr trwyddi: casgl hefyd dy dad, a’th fam, a’th frodyr, a holl dylwyth dy dad, atat i’r tŷ yma.

2:19 A phwy bynnag a êl o ddrysau dy dŷ di allan i’r heol, ei waed ef fydd ar ei ben ei hun, a ninnau a fyddwn ddieuog: a phwy bynnag fyddo gyda thi yn tŷ, bydded ei waed ef ar ein pennau ni, o bydd llaw arno ef.

2:20 Ac os mynegi di ein neges hyn, yna y byddwn ddieuog oddi wrth dy lw a’r hwn y’n tyngaist.

2:21 A hi a ddywedodd, Yn ôl eich geiriau, felly y byddo hynny. Yna hi a’u gollyngodd hwynt; a hwy a aethant ymaith. A hi a rwymodd y llinyn coch yn y ffenestr.

2:22 A hwy a aethant, ac a ddaethant i’r mynydd; ac a arosasant yno dridiau, nes i’r erlidwyr ddychwelyd. A’r erlidwyr a’u ceisiasant ar hyd yr holl ffordd; ond nis cawsant.

2:23 Felly y ddau ŵr a ddychwelasant, ac a ddisgynasant o’r mynydd, ac a aethant drosodd, a daethant at Josua mab Nun; a mynegasant iddo yr hyn oll a ddigwyddasai iddynt:

2:24 A dywedasant wrth Josua, Yn ddiau yr ARGLWYDD a roddodd yr holl wlad yn ein dwylo ni; canys holl drigolion y wlad a ddigalonasant rhag ein hofn ni.

PENNOD 3 3:1 A Josua a gyfododd yn fore, a chychwynasant o Sittim, a daethant hyd yr Iorddonen, efe a holl feibion Israel: lletyasant yno, cyn iddynt fyned drosodd.

3:2 Ac ymhen y tridiau, y llywiawdwyr a dramwyasant trwy ganol y llu;

3:3 Ac a orchmynasant i’r bobl, gan ddywedyd. Pan weloch chwi arch cyfamod yr ARGLWYDD eich Duw, a’r offeiriaid y Lefiaid yn ei dwyn hi; yna cychwynnwch chwi o’ch lle, ac ewch ar ei hôl hi.

3:4 Eto bydded ennyd rhyngoch chwi a hithau, ynghylch dwy fil o gufyddau wrth fesur: na nesewch ati, fel y gwypoch y ffordd y rhodioch ynddi: canys ni thramwyasoch y ffordd hon o’r blaen.

3:5 A Josua a ddywedodd wrth y bobl, Ymsancteiddiwch: canys yfory y gwna’r ARGLWYDD ryfeddodau yn eich mysg chwi.

3:6 Josua hefyd a lefarodd wrth yr offeiriaid, gan ddywedyd, Codwch arch y cyfamod, ac ewch drosodd o flaen y bobl. A hwy a godasant arch y cyfamod, ac a aethant o flaen y bobl.

3:7 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua; Y dydd hwn y dechreuaf dy fawrhau di yng ngŵydd holl Israel: fel y gwypont, mai megis y bûm gyda Moses, y byddaf gyda thithau.

3:8 Am hynny gorchymyn di i’r offeiriaid sydd yn dwyn arch y cyfamod, gan ddywedyd, Pan ddeloch hyd gwr dyfroedd yr Iorddonen, sefwch yn yr Iorddonen.

3:9 A Josua a ddywedodd wrth feibion Israel, Nesewch yma, a gwrandewch eiriau yr ARGLWYDD eich Duw.

3:10 Josua hefyd a ddywedodd, Wrth hyn y cewch wybod fod y Duw byw yn eich mysg chwi; a chan yrru y gyr efe allan y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Hefiaid, a’r Pheresiaid, a’r Girgasiaid, yr Amoriaid hefyd, a’r Jebusiaid, o’ch blaen chwi.

3:11 Wele arch cyfamod Arglwydd yr holl ddaear yn myned o’ch blaen chwi i’r Iorddonen.

3:12 Gan hynny cymerwch yn awr ddeuddengwr o lwythau Israel, un gŵr o bob llwyth.

3:13 A phan orffwyso gwadnau traed yr offeiriaid, sydd yn dwyn arch ARGLWYDD IOR yr holl fyd, yn nyfroedd yr Iorddonen, yna dyfroedd yr Iorddonen a dorrir ymaith oddi wrth y dyfroedd sydd yn disgyn oddi uchod: hwy a safant yn bentwr.

3:14 A phan gychwynnodd y bobl o’u pebyll, i fyned dros yr Iorddonen, a’r offeiriaid oedd yn dwyn arch y cyfamod o flaen y bobl;

3:15 A phan ddaeth y rhai oedd yn dwyn yr arch hyd yr Iorddonen, a gwlychu o draed yr offeiriaid, oedd yn dwyn yr arch, yng nghwr y dyfroedd, (a’r Iorddonen a lanwai dros ei glannau oll holl ddyddiau y cynhaeaf,)

3:16 Yna y dyfroedd, y rhai oedd yn disgyn oddi uchod, a safasant; cyfodasant yn bentwr ymhell iawn oddi wrth y ddinas Adam, yr hon sydd o ystlys Saretan: a’r dyfroedd y rhai oedd yn disgyn i fôr y rhos, sef i’r môr heli, a ddarfuant ac a dorrwyd ymaith. Felly y bobl a aethant drosodd ar gyfer Jericho.

3:17 A’r offeiriaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr ARGLWYDD, a safasant ar dir sych, yng nghanol yr Iorddonen, yn daclus: a holl Israel oedd yn myned drosodd ar dir sych, nes darfod i’r holl genedl fyned trwy yr Iorddonen.

PENNOD 4 4:1 A phan ddarfu i’r holl genedl fyned trwy’r Iorddonen, yr ARGLWYDD a lefarodd wrth Josua, gan ddywedyd,

4:2 Cymerwch i chwi ddeuddengwr o’r bobl, un gŵr o bob llwyth;

4:3 A gorchmynnwch iddynt, gan ddy¬wedyd, Cymerwch i chwi oddi yma, o ganol yr Iorddonen, o’r fan y mae traed yr offeiriaid yn sefyll yn daclus, ddeuddeg o gerrig; a dygwch hwynt drosodd gyda chwi, a gosodwch hwynt yn y llety y lletyoch ynddo heno.

4:4 Yna Josua a alwodd am y deuddengwr a baratoesai efe o feibion Israel, un gŵr o bob llwyth:

4:5 A dywedodd Josua wrthynt, Ewch trosodd o flaen arch yr ARGLWYDD eich Duw, trwy ganol yr Iorddonen; a chodwch i chwi bob un ei garreg ar ei ysgwydd, yn ôl rhifedi llwythau meibion Israel:

4:6 Fel y byddo hyn yn arwydd yn eich mysg chwi, pan ofynno eich meibion chwi yn ôl hyn, gan ddywedyd, Beth y mae y cerrig hyn yn ei arwyddocáu i chwi?

4:7 Yna y dywedwch wrthynt, Dorri ymaith ddyfroedd yr Iorddonen o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD; pan oedd hi yn myned trwy’r Iorddonen, dyfroedd yr Iorddonen a dorrwyd ymaith. Y mae’r cerrig hyn yn goffadwriaeth i feibion Israel byth.

4:8 A meibion Israel a wnaethant felly fel y gorchmynasai Josua; ac a gymerasant ddeuddeg carreg o ganol yr Iorddonen, fel y llefarasai yr ARGLWYDD wrth Josua, yn ôl rhifedi llwythau meib¬ion Israel, ac a’u dygasant drosodd gyda hwynt i’r llety ac a’u cyfleasant yno.

4:9 A Josua a osododd i fyny ddeuddeg carreg yng nghanol yr Iorddonen, yn y lle yr oedd traed yr offeiriaid, oedd yn dwyn arch y cyfamod, yn sefyll: ac y maent yno hyd y dydd hwn.

4:10 A’r offeiriaid, y rhai oedd yn dwyn yr arch, a safasant yng nghanol yr Iorddonen, nes gorffen pob peth a orchmynasai yr ARGLWYDD i Josua ei lefaru wrth y bobl, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Moses wrth Josua: a’r bobl a frysiasant, ac a aethant drosodd.

4:11 A phan ddarfu i’r holl bobl fyned drosodd, yna arch yr ARGLWYDD a aeth drosodd, a’r offeiriaid, yng ngŵydd y bobl.

4:12 Meibion Reuben hefyd, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a aethant drosodd yn arfogion o flaen meibion Israel, fel y llefarasai Moses wrthynt:

4:13 Ynghylch deugain mil, yn arfogion i ryfel, a aethant drosodd o flaen yr ARGLWYDD i ryfel, i rosydd Jericho.

4:14 Y dwthwn hwnnw yr ARGLWYDD a fawrhaodd Josua yng ngolwg holl Israel; a hwy a’i hofnasant ef, fel yr ofnasant Moses, holl ddyddiau ei einioes.

4:15 A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Josua, gan ddywedyd,

4:16 Gorchymyn i’r offeiriaid, sydd yn dwyn arch y dystiolaeth, ddyfod ohonynt i fyny allan o’r Iorddonen.

4:17 Am hynny Josua a orchmynnodd i’r offeiriaid, gan ddywedyd, Deuwch i fyny allan o’r Iorddonen.

4:18 A phan ddaeth yr offeiriaid, oedd yn dwyn arch cyfamod yr ARGLWYDD, i fyny o ganol yr Iorddonen, a sengi o wadnau traed yr offeiriaid ar y sychdir; yna dyfroedd yr Iorddonen a ddychwelasant i’w lle, ac a aethant, megis cynt, dros ei holl geulennydd.

4:19 A’r bobl a ddaethant i fyny o’r Iorddonen y degfed dydd o’r mis cyntaf; ac a wersyllasant yn Gilgal, yn eithaf tu dwyrain Jericho.

4:20 A’r deuddeg carreg hynny, y rhai a ddygasent o’r Iorddonen, a sefydlodd Josua yn Gilgal.

4:21 Ac efe a lefarodd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan ofynno eich meibion chwi yn ôl hyn i’w tadau, gan ddywedyd, Beth yw y cerrig hyn?

4:22 Yna yr hysbyswch i’ch meibion, gan ddywedyd, Israel a ddaeth trwy’r Iorddonen hon ar dir sych.

4:23 Canys yr ARGLWYDD eich Duw chwi a sychodd ddyfroedd yr Iorddonen o’ch blaen chwi, nes i chwi fyned drwodd; megis y gwnaeth yr ARGLWYDD eich Duw i’r môr coch, yr hwn a sychodd efe o’n blaen ni, nes i ni fyned drwodd:

4:24 Fel yr adnabyddo holl bobloedd y ddaear law yr ARGLWYDD, mai nerthol yw; fel yr ofnoch yr ARGLWYDD eich Duw bob amser.

PENNOD 5 5:1 Pan glybu holl frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen tua’r gorllewin, a holl frenhin¬oedd y Canaaneaid, y rhai oedd wrth y môr, sychu o’r ARGLWYDD ddyfroedd yr Iorddonen o flaen meibion Israel, nes eu myned hwy drwodd; yna y digalonnwyd hwynt, fel nad oedd ysbryd mwyach ynddynt, rhag ofn meibion Israel.

5:2 Y pryd hwnnw y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, Gwna i ti gyllyll llymion, ac enwaeda ar feibion Israel drachefn yr ail waith.

5:3 A Josua a wnaeth iddo gyllyll llymion, ac a enwaedodd ar feibion Israel, ym mryn y blaengrwyn.

5:4 A dyma’r achos a wnaeth i Josua enwaedu: Yr holl bobl, sef y gwryyiaid y rhai a ddaethent o’r Aifft, yr holl ryfelwyr, a fuasent feirw yn yr anialwch ar y ffordd, wedi eu dyfod allan o’r Aifft.

5:5 Canys yr holl bobl a’r a ddaethent allan, oedd enwaededig; ond y bobl oll y rhai a anesid yn yr anialwch, ar y ffordd, wedi eu dyfod hwy allan o’r Aifft, nid enwaedasent arnynt.

5:6 Canys deugain mlynedd y rhodiasai meibion Israel yn yr anialwch, nes darfod yr holl bobl o’r rhyfelwyr a ddaethent o’r Aifft, y rhai ni wrandawsent ar lef yr ARGLWYDD: y rhai y tyngasai yr AR¬GLWYDD wrthynt, na ddangosai efe iddynt y wlad a dyngasai yr ARGLWYDD wrth eu tadau y rhoddai efe i ni; sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.

5:7 A Josua a enwaedodd ar eu meibion hwy, y rhai a gododd yn eu lle hwynt: canys dienwaededig oeddynt hwy, am nad enwaedasid arnynt ar y ffordd.

5:8 A phan ddarfu enwaedu ar yr holl bobl; yna yr arosasant yn eu hunlle, yn y gwersyll, nes eu hiachau.

5:9 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Josua, Heddiw y treiglais ymaith waradwydd yr Aifft oddi arnoch: am hynny efe a alwodd enw y lle hwnnw Gilgal, hyd y dydd heddiw.

5:10 A meibion Israel a wersyllasant yn Gilgal: a hwy a gynaliasant y Pasg, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, brynhawn, yn rhosydd Jericho.

5:11 A hwy a fwytasant o hen ŷd y wlad, drannoeth wedi’r Pasg, fara croyw, a chras ŷd, o fewn corff y dydd hwnnw.

5:12 A’r manna a beidiodd drannoeth wedi iddynt fwyta o hen ŷd y wlad; a manna ni chafodd meibion Israel mwy¬ach, eithr bwytasant o gynnyrch gwlad y Canaaneaid y flwyddyn honno.

5:13 A phan oedd Josua wrth Jericho, yna efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele ŵr yn sefyll gyferbyn ag ef, a’i gleddyf noeth yn ei law. A Josua a aeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Ai gyda ni yr ydwyt ti, ai gyda’n gwrthwynebwyr?

5:14 Dywedodd yntau, Nage; eithr yn dywysog llu yr ARGLWYDD yn awr y deuthum. A Josua a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a addolodd; ac a ddywedodd wrtho ef, Beth y mae fy Arglwydd yn ei ddywedyd wrth ei was?

5:15 A thywysog llu yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth Josua, Datod dy esgidiau oddi am dy draed: canys y lle yr wyt ti yn sefyll arno, sydd sanctaidd, A Josua a wnaeth felly.

PENNOD 6 6:1 A Jericho oedd gaeëdig a gwarchaeëdig, oherwydd meibion Israel: nid oedd neb yn myned allan, nac yn dyfod i mewn.

6:2 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Josua, gwêl, rhoddais yn dy law di Jericho a’i brenin, gwŷr grymus o nerth.

6:3 A chwi a amgylchwch y ddinas, chwi ryfelwyr oll, gan fyned o amgylch y ddinas un waith: gwnewch felly chwe diwrnod.

6:4 A dyged saith o offeiriaid saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen yr arch: a’r seithfed dydd yr amgylchwch y ddinas saith waith; a lleisied yr offeiriaid â’r utgyrn.

6:5 A phan ganer yn hirllaes â chorn yr hwrdd, a phan glywoch sain yr utgorn, bloeddied yr holl bobl â bloedd uchel: a syrth mur y ddinas dani hi, ac eled y bobl i fyny bawb ar ei gyfer.

6:6 A Josua mab Nun. a alwodd yr offeiriaid, ac a ddywedodd wrthynt, Codwch arch y cyfamod, a dyged saith o offeiriaid saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen arch yr ARGLWYDD.

6:7 Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Cerddwch, ac amgylchwch y ddinas; a’r hwn sydd arfog, eled o flaen. arch yr ARGLWYDD.

6:8 A phan ddywedodd Josua wrth y bobl, yna y saith offeiriad, y rhai oedd yn dwyn y saith utgorn o gyrn hyrddod, a gerddasant o flaen yr ARGLWYDD, ac a leisiasant â’r utgyrn: ac arch cyfamod yr ARGLWYDD oedd yn myned ar eu hôl hwynt.

6:9 A’r rhai arfog oedd yn myned o flaen yr offeiriaid oedd yn lleisio â’r utgyrn; a’r fyddin olaf oedd yn myned ar ôl yr arch, a’r offeiriaid yn myned rhagddynt, ac yn lleisio â’r utgyrn.

6:10 A Josua a orchmynasai i’r bobl, gan ddywedyd, Na floeddiwch, ac na edwch glywed eich llais, ac nac eled gair allan o’ch genau, hyd y dydd y dywedwyf wrthych, Bloeddiwch; yna y bloeddiwch.

6:11 Felly arch yr ARGLWYDD a amgylchodd y ddinas, gan fyned o’i hamgylch un waith: a daethant i’r gwersyll, a lletyasant yn y gwersyll.

6:12 A Josua a gyfododd yn fore; a’r offeiriaid a ddygasant arch yr ARGLWYDD.

6:13 A’r saith offeiriad, yn dwyn saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen arch yr ARGLWYDD, oeddynt yn myned dan gerdded, ac yn lleisio â’r utgyrn: a’r rhai arfog oedd yn myned o’u blaen hwynt: a’r fyddin olaf oedd yn myned ar ôl arch yr ARGLWYDD, a’r offeiriaid yn myned rhagddynt, ac yn lleisio â’r utgyrn.

6:14 Felly yr amgylchynasant y ddinas un waith yr ail ddydd; a dychwelasant i’r gwersyll: fel hyn y gwnaethant chwe diwrnod.

6:15 Ac ar y seithfed dydd y cyfodasant yn fore ar godiad y wawr, ac yr amgylchasant y ddinas y modd hwnnw, saith waith: yn unig y dwthwn hwnnw yr amgylchasant y ddinas seithwaith.

6:16 A phan leisiodd yr offeiriaid yn eu hutgyrn y seithfed waith, yna Josua a ddywedodd wrth y bobl, Bloeddiwch; canys rhoddodd yr ARGLWYDD y ddinas i, chwi.

6:17 A’r ddinas fydd yn ddiofryd-beth, hi, a’r hyn oll sydd ynddi, i’r ARGLWYDD: yn unig Rahab y buteinwraig fydd byw, hi a chwbl ag sydd gyda hi yn tŷ; canys hi a guddiodd y cenhadau a anfonasom ni.

6:18 Ac ymgedwch chwithau oddi wrth y diofryd-beth, rhag eich gwneuthur eich hun yn ddiofryd-beth, os cymerwch o’r diofryd-beth; felly y gwnaech wersyll Israel yn ddiofryd-beth, ac y trallodech hi.

6:19 Ond yr holl arian a’r aur, a’r llestri pres a haearn, fyddant gysegredig i’r ARGLWYDD: deled y rhai hynny i mewn i drysor yr ARGLWYDD.

6:20 A bloeddiodd y bobl, pan leisiasant â’r utgyrn. A phan glybu y bobl lais yr utgyrn, yna y bobl a waeddasant â bloedd uchel; a’r mur a syrthiodd i lawr oddi tanodd. Felly y bobl a aethant i fyny i’r ddinas, pob un ar ei gyfer, ac a enillasant y ddinas.

6:21 A hwy a ddifrodasant yr hyn oll oedd yn y ddinas, yn ŵr ac yn wraig, yn fachgen ac yn hynafgwr, yn eidion, ac yn ddafad, ac yn asyn, â min y cleddyf.

6:22 A Josua a ddywedodd wrth y ddau ŵr a fuasai yn edrych ansawdd y wlad, Ewch i dŷ y buteinwraig, a dygwch allan oddi yno y wraig, a’r hyn oll sydd iddi, fel y tyngasoch wrthi.

6:23 Felly y llanciau a fuasai yn edrych ansawdd y wlad, a aethant i mewn, ac a ddygasant allan Rahab, a’i thad, a’i mam, a’i brodyr, a chwbl a’r a feddai hi: dygasant allan hefyd ei holl dylwyth hi, a gosodasant hwynt o’r tu allan i wersyll Israel.

6:24 A llosgasant y ddinas â thân, a’r hyn oll oedd ynddi: yn unig yr arian a’r aur, a’r llestri pres a haearn, a roddasant hwy yn nhrysor yr ARGLWYDD.

6:25 A Josua a gadwodd yn fyw Rahab y buteinwraig, a thylwyth ei thad, a’r hyn oll oedd ganddi; a hi a drigodd ymysg Israel hyd y dydd hwn: am iddi guddio’r cenhadau a anfonasai Josua i chwilio Jericho.

6:26 A Josua a’u tynghedodd hwy y pryd hwnnw, gan ddywedyd, Melltigedig gerbron yr ARGLWYDD fyddo y gŵr a gyfyd ac a adeilado y ddinas hon Jericho: yn ei gyntaf-anedig y seilia efe hi, ac yn ei fab ieuangaf y gesyd efe ei phyrth hi.

6:27 Felly yr ARGLWYDD oedd gyda Josua; ac aeth ei glod ef trwy’r holl wlad.

PENNOD 7 7:1 Ond meibion Israel a wnaethant gamwedd am y diofryd-beth: canys Achan mab Carmi, mab Sabdi, mab Sera, o lwych Jwda, a gymerodd o’r diofryd-beth: ac enynnodd dicllonedd yr ARGLWYDD yn erbyn meibion Israel.

7:2 A Josua a anfonodd wŷr o Jericho i Ai, yr hon sydd wrth Bethafen, o du’r dwyrain i Bethel, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Ewch i fyny, ac edrychwch y wlad. A’r gwŷr a aethant i fyny, ac a edrychasant ansawdd Ai.

7:3 A hwy a ddychwelasant ai Josua, ac a ddywedasant wrtho. Nac eled yr holl bobl i fyny, ond ynghylch dwy fil o wŷr, neu dair mil o wŷr, a ânt i fyny, ac a drawant Ai: na phoenwch yr holl bobl yno; canys ychydig ydynt hwy.

7:4 Felly fe a aeth o’r bobl i fyny yno ynghylch tair mil o wŷr; a hwy a ffoesant o flaen gwŷr Ai.

7:5 A gwŷr Ai a drawsant ynghylch un gŵr ar bymtheg ar hugain ohonynt; ac a’u hymlidiasant o flaen y porth hyd Sebarim, a thrawsant hwynt yn y goriwaered: am hynny y toddodd calonnau y bobl, ac yr aethant fel dwfr.

7:6 A Josua a rwygodd ei ddillad, ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb o flaen arch yr ARGLWYDD, hyd yr hwyr, efe a henuriaid Israel, ac a ddodasant lwch ar eu pennau.

7:7 A dywedodd Josua, Ah, ah, O ARGLWYDD IOR, i ba beth y dygaist y bobl yma dros yr Iorddonen, i’n rhoddi ni yn llaw yr Amoriaid, i’n difetha? O na buasem fodlon, ac na thrigasem tu hwnt i’r Iorddonen!

7:8 O ARGLWYDD, beth a ddywedaf, pan dry Israel ei war o flaen ei elynion!

7:9 Canys y Canaaneaid, a holl drigolion y wlad, a glywant, ac a’n hamgylchynant, ac a dorrant ymaith ein henw oddi ar y ddaear: a pha beth a wnei i’th enw mawr?

7:10 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Josua, Cyfod; paham yr ydwyt yn gorwedd fel hyn ar dy wyneb?

7:11 Israel a bechodd, a throseddasant fy nghyfamod a orchmynnais iddynt: cymerasant hefyd o’r diofryd-beth, lladratasant, a gwadasant; gosodasant hefyd hynny ymysg eu dodrefn eu hun.

7:12 Am hynny ni ddichon meibion Israel sefyll yn wyneb eu gelynion, eithr troant eu gwar o flaen eu gelynion; am eu bod yn ysgymunbeth: ni byddaf mwyach gyda chwi, oni ddifethwch yr ysgymunbeth o’ch mysg.

7:13 Cyfod, sancteiddia y bobl, a dywed, Ymsancteiddiwch erbyn yfory: canys fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel; Diofryd-beth sydd yn dy blith di, O Israel: ni elli sefyll yn wyneb dy elynion, nes tynnu ymaith y diofryd-beth o’ch mysg.

7:14 Am hynny nesewch y bore wrth eich llwythau: a’r llwyth a ddalio yr AR¬GLWYDD, nesaed bob yn deulu; a’r teulu a ddalio yr ARGLWYDD, nesaed bob yn dŷ; a’r tŷ a ddalio yr ARGLWYDD, nesaed bob yn ŵr.

7:15 A’r hwn a ddelir a’r diofryd-beth ganddo, a losgir â thân, efe ac oll sydd ganddo: oherwydd iddo droseddu cyfamod yr ARGLWYDD, ac oherwydd iddo wneuthur ynfydrwydd yn Israel.

7:16 Felly Josua a gyfododd yn fore, ac a ddug Israel wrth eu llwythau: a llwyth Jwda a ddaliwyd.

7:17 Ac efe a ddynesodd deulu Jwda, a daliwyd teulu y Sarhiaid: ac efe a ddy¬nesodd deulu y Sarhiaid bob yn ŵr, a daliwyd Sabdi:

7:18 Ac efe a ddynesodd ei dyaid ef bob yn ŵr; a daliwyd Achan mab Carmi, mab Sabdi, mab Sera, o lwyth Jwda.

7:19 A Josua a ddywedodd wrth Achaa, Fy mab, atolwg, dyro ogoniant i ARGLWYDD DDUW Israel, a chyffesa iddo; a mynega yn awr i mi beth a wnaethost; na chela oddi wrthyf.

7:20 Ac Achan a atebodd Josua, ac a ddywedodd, Yn wir myfi a bechais yn erbyn ARGLWYDD DDUW Israel; canys fel hyn ac fel hyn y gwneuthum.

7:21 Pan welais ymysg yr ysbail fantell Fabilonig deg, a dau can sicl o arian, ac un llafn aur o ddeg sicl a deugain ei bwys; yna y chwenychais hwynt, ac a’u cymerais: ac wele hwy yn guddiedig yn y ddaear yng nghanol fy mhabell, a’r arian danynt.

7:22 Yna Josua a anfonodd genhadau; a hwy a redasant i’r babell: ac wele hwynt yn guddiedig yn ei babell ef, a’r arian danynt.

7:23 Am hynny hwy a’u cymerasant o ganol y babell, ac a’u dygasant at Josua, ac at holl feibion Israel; ac a’u gosodasant hwy o flaen yr ARGLWYDD.

7:24 A Josua a gymerth Achan mab Sera, a’r arian, a’r fantell, a’r llafn aur, ei feibion hefyd, a’i ferched, a’i wartheg, a’i asynnod, ei ddefaid hefyd, a’i babell, a’r hyn oll a feddai efe: a holl Israel gydag ef a’u dygasant hwynt i ddyffryn Achor.

7:25 A Josua a ddywedodd. Am i ti ein blino ni, yr ARGLWYDD a’th flina dithau y dydd hwn. A holl Israel a’i llabyddiasant ef â meini, ac a’u llosgasant hwy â thân, wedi eu llabyddio â meini.

7:26 A chodasant arno ef garnedd fawr o gerrig hyd y dydd hwn. Felly y dychwelodd yr ARGLWYDD oddi with lid ei ddigofaint. Am hynny y gelwir enw y fan honno Dyffryn Achor, hyd y dydd hwn.

PENNOD 8 8:1 A’r ARGLWYDD a ddywedodd with Josua, Nac ofna, ac nac arswyda: cymer gyda thi yr holl bobl o ryfel, a chyfod, dos i fyny i Ai: gwêl, mi a roddais yn dy law di frenin Ai, a’i bobl, ei ddinas hefyd, a’i wlad.

8:2 A thi a wnei i Ai a’i brenin, megis y gwnaethost i Jericho ac i’w brenin: eto ei hanrhaith a’i hanifeiliaid a ysglyfaethwch i chwi eich hunain: gosod gynllwyn yn erbyn y ddinas, o’r tu cefn iddi.

8:3 Yna Josua a gyfododd, a’r holl bobl o ryfel, i fyned i fyny i Ai: a Josua a ddetholodd ddeng mil ar hugain o wŷr cedyrn nerthol, ac a’u hanfonodd ymaith liw nos:

8:4 Ac efe a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Gwelwch, chwi a gynllwynwch yn erbyn y ddinas, o’r tu cefn i’r ddinas: nac ewch ymhell iawn oddi wrth y ddinas, ond byddwch bawb oll yn barod.

8:5 Minnau hefyd, a’r holl bobl sydd gyda mi, a nesawn at y ddinas: a phan ddelont allan i’n cyfarfod ni, megis y waith gyntaf, yna ni a ffown o’u blaen hwynt,

8:6 (Canys hwy a ddeuant allan ar ein hôl ni,) nes i ni eu tynnu hwynt allan o’r ddinas; oblegid hwy a ddywedant, Ffoi y maent o’n blaen ni, fel y waith gyntaf: felly y ffown o’u blaen hwynt.

8:7 Yna chwi a godwch o’r cynllwyn, ac a oresgynnwch y ddinas: canys yr AR¬GLWYDD eich Duw a’i dyry hi yn eich llaw chwi.

8:8 A phan enilloch y ddinas, llosgwch y ddinas â thân: gwnewch yn ôl gair yr ARGLWYDD. Gwelwch, mi a orchmynnais i chwi.

8:9 Felly Josua a’u hanfonodd; a hwy a aethant i gynllwyn, ac a arosasant rhwng Bethel ac Ai, o du’r gorllewin i Ai: a Josua a letyodd y noson honno ymysg y bobl.


8:10 A Josua a gyfododd yn fore, ac a gyfrifodd y bobl; ac a aeth i fyny, efe a henuriaid Israel, o flaen y bobl, tuag at Ai.

8:11 A’r holl bobl o ryfel, y rhai oedd gydag ef, a aethant i fyny, ac a nesasant; daethant hefyd gyferbyn â’r ddinas, a gwersyllasant o du’r gogledd i Ai: a glyn oedd rhyngddynt hwy ac Ai. .

8:12 Ac efe a gymerth ynghylch pum mil o wŷr, ac a’u gosododd hwynt i gynllwyn rhwng Bethel ac Ai, o du’r gorllewin i’r ddinas.

8:13 A’r bobl a osodasant yr holl wersyllau, y rhai oedd o du’r gogledd i’r ddinas, a’r cynllwynwyr o du’r gorllewin i’r ddinas: a Josua a aeth y noson honno i ganol y dyffryn.

8:14 A phan welodd brenin Ai hynny, yna gwŷr y ddinas a frysiasant, ac a fore-godasant, ac a aethant allan i gyfarfod Israel i ryfel, efe a’i holl bobl, ar amser nodedig, ar hyd wyneb y gwastadedd: canys ni wyddai efe fod cynllwyn iddo, o’r tu cefn i’r ddinas.

8:15 A Josua a holl Israel, fel pe trawsid hwy o’u blaen hwynt, a ffoesant ar hyd yr anialwch.

8:16 A’r holl bobl, y rhai oedd yn y ddinas, a alwyd ynghyd, i erlid ar eu hôl hwynt: a hwy a erlidiasant ar ôl Josua, ac a dynnwyd oddi wrth y ddinas.

8:17 Ac ni adawyd gŵr yn Ai, nac yn Bethel, a’r nad aethant allan ar ôl Israel: a gadawsant y ddinas yn agored, ac erlidiasant ar ôl Israel.

8:18 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Josua, Estyn y waywffon sydd yn dy law tuag at Ai: canys yn dy law di y rhoddaf hi. A Josua a estynnodd y waywffon oedd yn ei law tua’r ddinas.

8:19 A’r cynllwynwyr a gyfodasant yn ebrwydd o’u lle, ac a redasant, pan estynnodd efe ei law: daethant hefyd i’r ddinas, ac enillasant hi; ac a frysiasant, ac a losgasant y ddinas â thân.

8:20 A gwŷr Ai a droesant yn eu hôl, ac a edrychasant; ac wele, mwg y ddinas a ddyrchafodd hyd y nefoedd; ac nid oedd ganddynt hwy nerth i ffoi yma nac acw: canys y bobl y rhai a ffoesent i’r anialwch, a, ddychwelodd yn erbyn y rhai oedd yn erlid.

8:21 A phan welodd Josua a holl Israel i’r cynllwynwyr ennill y ddinas, a dyrchafu o fwg y ddinas, yna hwy a ddychwelasant, ac a drawsant wŷr Ai.

8:22 A’r lleill a aethant allan o’r ddinas i’w cyfarfod; felly yr oeddynt yng nghanol Israel, y rhai hyn o’r tu yma, a’r lleill o’r tu acw: a thrawsant hwynt, fel na adawyd un yng ngweddill nac yn ddihangol ohonynt.

8:23 A brenin Ai a ddaliasant hwy yn fyw; a dygasant ef at Josua.

8:24 Pan ddarfu i Israel ladd holl breswylwyr Ai yn y maes, yn yr anialwch lle yr erlidiasent hwynt, a phan syrthiasent hwy oll gan fin y cleddyf, nes eu darfod; yna holl Israel a ddychwelasant i Ai, a thrawsant hi â min y cleddyf.

8:25 A chwbl a’r a syrthiasant y dwthwn. hwnnw, yn wŷr ac yn wragedd, oeddynt ddeuddeng mil; sef holl wŷr Ai.

8:26 Canys ni thynnodd Josua ei law yn ei hôl, yr hon a estynasai efe gyda’r waywffon, nes difetha holl drigolion Ai.

8:27 Yn unig yr anifeiliaid, ac anrhaith y ddinas, a ysglyfaethodd yr Israeliaid iddynt eu hun; yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a orchmynasai efe i Josua.

8:28 A Josua a losgodd Ai, ac a’i gwnaeth hi yn garnedd dragywydd, ac yn ddiffeithwch hyd y dydd hwn.:

8:29 Ac efe a grogodd frenin Ai ar bren hyd yr hwyr: ac wedi machlud haul, y gorchmynnodd Josua iddynt ddisgyn ei gelain ef oddi ar y pren, a’i bwrw i ddrws porth y ddinas; a gosodasant garnedd fawr o gerrig arni hyd y dydd hwn.

8:30 Yna Josua a adeiladodd allor i ARGLWYDD DDUW Israel ym mynydd Ebal,

8:31 Megis y gorchmynasai Moses gwas yr ARGLWYDD i feibion Israel, fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, allor o gerrig cyfain, y rhai ni ddyrchafasid haearn arnynt: a hwy a offrymasant arni boethoffrymau i’r ARGLWYDD, ac a aberthasant ebyrth hedd.

8:32 Ac efe a ysgrifennodd yno ar y meini o gyfraith Moses, yr hon a ysgrifenasai efe yng ngŵydd meibion Israel.

8:33 A holl Israel, a’u henuriaid, eu swyddogion hefyd, a’u barnwyr, oedd yn sefyll oddeutu yr arch, gerbron yr offeiriaid y Lefiaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr ARGLWYDD, yn gystal yr estron a’r priodor: eu hanner oedd ar gyfer mynydd Garisim, a’u hanner ar gyfer mynydd Ebal; fel y gorchmynasai Moses gwas yr ARGLWYDD o’r blaen fendithio pobl Israel.

8:34 Wedi hynny efe a ddarllenodd holl eiriau y gyfraith, y fendith a’r felltith, yn ôl y cwbl sydd ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith.

8:35 Nid oedd air o’r hyn oll a orchmynasai Moses, a’r nas darllenodd Josua gerbron holl gynulleidfa Israel, a’r gwragedd, a’r plant, a’r dieithr yr hwn oedd yn rhodio yn eu mysg hwynt.

PENNOD 9 9:1 Wedi clywed hyn o’r holl frenhinoedd, y rhai oedd o’r tu yma i’r Iorddonen, yn y mynydd, ac yn y gwastadedd, ac yn holl lannau y môr mawr, at gyfer Libanus; sef yr Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Canaaneaid, a’r Pheresiaid, a’r Hefiaid, a’r Jebusiaid;

9:2 Yna hwy a ymgasglasant ynghyd i ymladd yn erbyn Josua, ac yn erbyn Israel, o unfryd.

9:3 A thrigolion Gibeon a glywsant yr hyn a wnaethai Josua i Jericho ac i Ai.

9:4 A hwy a wnaethant yn gyfrwys, ac a aethant, ac a ymddangosasant fel cenhadon: cymerasant hefyd hen sachlennau ar eu hasynnod, a hen gostrelau gwin, wedi eu hollti hefyd, ac wedi eu rhwymo,

9:5 A hen esgidiau baglog am eu traed, a hen ddillad amdanynt; a holl fara eu lluniaeth oedd sych a brithlwyd:

9:6 Ac a aethant at Josua i’r gwersyll i Gilgal; a dywedasant wrtho ef, ac wrth wŷr Israel, O wlad bell y daethom: ac yn awr gwnewch gyfamod â ni.

9:7 A gwŷr Israel a ddywedasant wrth yr Hefiaid, Nid hwyrach dy fod yn ein mysg yn trigo; pa fodd gan hynny y gwnaf gyfamod â thi?

9:8 A hwy a ddywedasant wrth Josua, Dy weision di ydym ni. A Josua a ddywed¬odd wrthynt, Pwy ydych? ac o ba le y daethoch?

9:9 A hwy a ddywedasant wrtho, Dy weision a ddaethant o wlad bell iawn, oherwydd enw yr ARGLWYDD dy DDUW: canys ni a glywsom ei glod ef, a’r hyn oll a wnaeth efe yn yr Aifft;

9:10 A’r hyn oll a wnaeth efe i ddau frenin yr Amoriaid, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen; i Sehon brenin Hesbon, ac i Og brenin Basan, yr hwn oedd yn Astaroth.

9:11 Am hynny ein henuriaid ni, a holl breswylwyr ein gwlad, a lefarasant wrthym ni, gan ddywedyd, Cymerwch luniaeth gyda chwi i’r daith, ac ewch i’w cyfarfod hwynt; a dywedwch wrthynt, Eich gweision ydym: yn awr gan hynny gwnewch gyfamod â ni.

9:12 Dyma ein bara ni: yn frwd y cymerasom ef yn lluniaeth o’n tai y dydd y cychwynasom i ddyfod atoch; ac yn awr, wele, sych a brithlwyd yw.

9:13 Dyma hefyd y costrelau gwin a lanwasom yn newyddion; ac wele hwynt wedi hollti: ein dillad hyn hefyd a’n hesgidiau a heneiddiasant, rhag meithed y daith.

9:14 A’r gwŷr a gymerasant o’u hymborth hwynt, ac nid ymgyngorasant â genau yr ARGLWYDD.

9:15 Felly Josua a wnaeth heddwch â hwynt, ac a wnaeth gyfamod â hwynt, ar eu cadw hwynt yn fyw: tywysogion y gynulleidfa hefyd a dyngasant wrthynt.

9:16 Ond ymhen y tridiau wedi iddynt wneuthur cyfamod â hwynt, hwy a glywsant mai cymdogion iddynt oeddynt hwy, ac mai yn eu mysg yr oeddynt yn aros.

9:17 A meibion Israel a gychwynasant, ac a ddaethant i’w dinasoedd hwynt y trydydd dydd: a’u dinasoedd hwynt oedd Gibeon, a Cheffira, Beeroth hefyd, a Chiriath-jearim.

9:18 Ond ni thrawodd meibion Israel mohonynt hwy, oblegid tywysogion y gynulleidfa a dyngasai wrthynt myn ARGLWYDD DDUW Israel: a’r holl gyn¬ulleidfa a rwgnachasant yn erbyn y tywysogion.

9:19 A’r holl dywysogion a ddywedasant wrth yr holl gynulleidfa, Ni a dyngasom wrthynt i ARGLWYDD DDUW Israel: am hynny ni allwn ni yn awr gyffwrdd â hwynt.

9:20 Hyn a wnawn ni iddynt hwy: Cadwn hwynt yn fyw, fel na byddo digofaint arnom ni, oherwydd y llw a dyngasom wrthynt.

9:21 A’r tywysogion a ddywedasant wrth¬ynt, Byddant fyw, (ond byddant yn torri cynnud, ac yn tynnu dwfr i’r holl gynulleidfa,) fel y dywedasai’r tywys¬ogion wrthynt.

9:22 Yna Josua a alwodd arnynt; ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Paham y twyllasoch ni, gan ddywedyd, Pell iawn ydym ni oddi wrthych; a chwithau yn preswylio yn ein mysg ni?

9:23 Yn awr gan hynny melltigedig ydych: ac ni ddianc un ohonoch rhag bod yn gaethweision, ac yn torri cynnud, ac yn tynnu dwfr i dŷ fy Nuw.

9:24 A hwy a atebasant Josua, ac a ddywedasant, Yn ddiau gan fynegi y mynegwyd i’th weision, ddarfod i’r ARGLWYDD dy DDUW orchymyn i Moses ei was roddi i chwi yr holl wlad hon, a difetha holl drigolion y wlad o’ch blaen chwi; am hynny yr ofnasom ni yn ddirfawr rhagoch am ein heinioes, ac y gwnaethom y peth hyn.

9:25 Ac yn awr, wele ni yn dy law di: fel y byddo da ac uniawn yn dy olwg wneuthur i ni, gwna.

9:26 Ac felly y gwnaeth efe iddynt; ac a’u gwaredodd hwynt o law meibion Israel, fel na laddasant hwynt.

9:27 A Josua a’u rhoddodd hwynt y dwthwn hwnnw yn gymynwyr coed, ac yn wehynwyr dwfr, i’r gynulleidfa, ac i allor yr ARGLWYDD, hyd y dydd hwn, yn y lle a ddewisai efe.

PENNOD 10 10:1 A phan glybu Adonisedec brenin Jerwsalem i Josua ennill Ai, a’i difrodi hi, (fel y gwnaethai efe i Jericho ac i’w brenin, felly y gwnaethai efe i Ai ac i’w brenin,) a heddychu o drigolion Gibeon ag Israel, a’u bod yn eu mysg hwynt:

10:2 Yna yr ofnasant yn ddirfawr; oblegid dinas fawr oedd Gibeon, fel un o’r dinasoedd brenhinol; ac oherwydd ei bod yn fwy nag Ai; ei holl wŷr hefyd oedd gedyrn.

10:3 Am hynny Adonisedec brenin Jerw¬salem a anfonodd at Hoham brenin Hebron, ac at Piram brenin Jarmuth, ac at Jaffia brenin Lachis, ac at Debir brenin Eglon, gan ddywedyd.

10:4 Deuwch i fyny ataf fi, a chynorthwywch fi, fel y trawom ni Gibeon: canys hi a heddychodd â Josua, ac â meibion Israel.

10:5 Am hynny pum brenin yr Amoriaid a ymgynullasant, ac a ddaethant i fyny, sef brenin Jerwsalem, brenin Hebron, brenin Jarmuth, brenin Lachis, a brenin Eglon, hwynt-hwy a’u holl fyddinoedd, ac a wersyllasant wrth Gibeon, ac a ryfelasant yn ei herbyn hi.

10:6 A gwŷr Gibeon a anfonasant at Josua i’r gwersyll i Gilgal, gan ddy¬wedyd, Na thyn ymaith dy ddwylo oddi wrth dy weision: tyred i fyny yn fuan atom ni, achub ni hefyd, a chynorthwya ni: canys holl frenhinoedd yr Amonaid, y rhai sydd yn trigo yn y mynydd-dir, a ymgynullasant i’n herbyn ni.

10:7 Felly Josua a esgynnodd o Gilgal, efe a’r holi bobl o ryfel gydag ef, a’r holl gedyrn nerthol.

10:8 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Josua, Nac ofna rhagddynt: canys yn dy law di y rhoddais hwynt; ni saif neb ohonynt yn dy wyneb di.

10:9 Josua gan hynny a ddaeth yn ddiatreg atynt hwy: canys ar hyd y nos yr aeth efe i fyny o Gilgal.

10:10 A’r ARGLWYDD a’u drylliodd hwynt o flaen Israel, ac a’u trawodd hwynt â lladdfa fawr yn Gibeon, ac a’u hymlidiodd hwynt ffordd yr eir i fyny i Beth-horon, ac a’u trawodd hwynt hyd Aseca, ac hyd Macceda.

10:11 A phan oeddynt yn ffoi o flaen Israel, a hwy yng ngoriwaered Beth-horon, yr ARGLWYDD a fwriodd arnynt hwy gerrig mawrion o’r nefoedd hyd Aseca; a buant feirw: amlach oedd y rhai a fu feirw gan y cerng cenllysg, na’r rhai a laddodd meibion Israel â’r cleddyf.

10:12 Llefarodd Josua wrth yr ARGLWYDD y dydd y rhoddodd yr AR¬GLWYDD yr Amoriaid o flaen meibion Israel: ac efe a ddywedodd yng ngolwg Israel, O haul, aros yn Gibeon; a thithau, leuad, yn nyffryn Ajalon.

10:13 A’r haul a arhosodd, a’r lleuad a safodd, nes i’r genedl ddial ar eu gelynion. Onid yw hyn yn ysgrifenedig yn llyfr yr Uniawn? Felly yr haul a safodd yng nghanol y nefoedd, ac ni frysiodd i fachludo dros ddiwrnod cyfan.

10:14 Ac ni bu y fath ddiwrnod a hwnnw o’i flaen ef, nac ar ei ôl ef, fel y gwrandawai yr ARGLWYDD ar lef dyn: canys yr ARGLWYDD a ymladdodd dros Israel.

10:15 A Josua a ddychwelodd, a holl Israel gydag ef, i’r gwersyll i Gilgal.

10:16 Ond y pum brenin hynny a ffoesant, ac a ymguddiasant mewn ogof ym Macceda.

10:17 A mynegwyd i Josua, gan ddy¬wedyd, Y pum brenin a gafwyd ynghudd mewn ogof ym Macceda.

10:18 A dywedodd Josua, Treiglwch feini mawrion ar enau yr ogof, a gosodwch wrthi wŷr i’w cadw hwynt;

10:19 Ac na sefwch chwi; erlidiwch ar ôl eich gelynion, a threwch y rhai olaf ohonynt; na adewch iddynt fyned i’w dinasoedd: canys yr ARGLWYDD eich Duw a’u rhoddodd hwynt yn eich llaw chwi.

10:20 A phan ddarfu i Josua a meibion Israel eu taro hwynt â lladdfa fawr iawn, nes eu difa; yna y gweddillion a adawsid ohonynt a aethant i’r dinasoedd caerog.

10:21 A’r holl bobl a ddychwelasant i’r gwersyll at Josua ym Macceda mewn heddwch, heb symud o neb ei dafod yn erbyn meibion Israel.

10:22 A Josua a ddywedodd, Agorwch enau yr ogof, a dygwch allan y pum brenin hynny ataf fi o’r ogof.

10:23 A hwy a wnaethant felly, ac a ddygasant allan y pum brenin ato ef o’r ogof; sef brenin Jerwsalem, brenin; Hebron, brenin Jarmuth, brenin Lachis, a brenin Eglon.

10:24 A phan ddygasant hwy y brenhinoedd hynny at Josua, yna Josua a alwodd am holl wŷr Israel, ac a ddywedodd with dywysogion y rhyfelwyr, y rhai a aethai gydag ef, Nesewch, gosodwch eich traed ar yddfau y brenhinoedd hyn. A hwy a nesasant, ac a osodasant eu traed, ar eu gyddfau hwynt.

10:25 A Josua a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch, ac nac arswydwch; eithr ymwrolwch, ac ymegnïwch: canys fel hyn y gwna yr ARGLWYDD i’ch holl elynion yr ydych chwi yn ymladd i’w herbyn.

10:26 Ac wedi hyn Josua a’u trawodd hwynt, ac a’u rhoddodd i farwolaeth, ac a’u crogodd hwynt ar bum pren: a buant ynghrog ar y prennau hyd yr hwyr.

10:27 Ac ym mhryd machludo haul, y gorchmynnodd Josua iddynt eu disgyn hwynt oddi ar y prennau, a’u bwrw hwynt i’r ogof yr ymguddiasant ynddi; a bwriasant gerrig mawrion yng ngenau yr ogof, y rhai sydd yno hyd gorff y dydd hwn.

10:28 Josua hefyd a enillodd Macceda y dwthwn hwnnw, ac a’i trawodd hi â min y cleddyf, ac a ddifrododd ei brenin hi, hwynt-hwy, a phob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un gweddill: canys efe a wnaeth i frenin Macceda, fel y gwnaethai i frenin Jericho.

10:29 Yna yr aeth Josua a holl Israel gydag ef o Macceda i Libna, ac a ymladdodd yn erbyn Libna.

10:30 A’r ARGLWYDD a’i rhoddodd hithau, a’r brenin, yn llaw Israel, ac yntau a’i trawodd hi â min y cleddyf, a phob enaid a’r oedd ynddi, ni adawodd ynddi un yng ngweddill: canys efe a wnaeth i’w brenin hi fel y gwnaethai i frenin Jericho.

10:31 A Josua a dramwyodd, a holl Israel gydag ef, o Libna i Lachis; ac a wersyllodd wrthi, ac a ymladdodd i’w herbyn.

10:32 A’r ARGLWYDD a roddodd Lachis yn llaw Israel; yr hwn a’i henillodd hi yr ail ddydd, ac a’i trawodd hi â min y cleddyf, a phob enaid ag oedd ynddi, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe i Libna.

10:33 Yna Horam brenin Geser a ddaeth i fyny i gynorthwyo Lachis; a Josua a’i trawodd ef a’i bobl, fel na adawyd iddo ef un yng ngweddill.

10:34 A Josua a dramwyodd, a holl Israel gydag ef, o Lachis i Eglon: a hwy a wersyllasant wrthi, ac a ymladdasant i’w herbyn.

10:35 A hwy a’i henillasant hi y diwrnod hwnnw, ac a’i trawsant hi â min y cleddyf; ac efe a ddifrododd bob enaid a’r oedd ynddi y dwthwn hwnnw, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe i Lachis.

10:36 A Josua a esgynnodd, a holl Israel gydag ef, o Eglon i Hebron; a hwy a ryfelasant i’w herbyn.

10:37 A hwy a’i henillasant hi, ac a’i trawsant hi â min y cleddyf, a’i brenin, a’i holl ddinasoedd, a phob enaid ag oedd ynddi, ni adawodd efe un yng ngweddiil, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe i Eglon: canys efe a’i difrododd hi, a phob enaid ag oedd ynddi.

10:38 A Josua a ddychwelodd, a holl Israel gydag ef, i Debir; ac a ymfaddodd i’w herbyn.

10:39 Ac efe a’i henillodd hi, ei brenin, a’i holl ddinasoedd; a hwy a’u trawsant hwy â min y cleddyf, ac a ddifrodasant bob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un yng ngweddill: fel y gwnaethai efe i Hebron, felly y gwnaeth efe i Debir, ac i’w brenin; megis y gwnaethai efe i Libna, ac i’w brenin.

10:40 Felly y trawodd Josua yr holl fynydd-dir, a’r deau, y gwastadedd hefyd, a’r bronnydd, a’u holl frenhinoedd: ni adawodd efe un yng ngweddill; eithr efe a ddifrododd bob perchen anadl, fel y gorchmynasai ARGLWYDD DDUW Israel.

10:41 A Josua a’u trawodd hwynt o Cades-Barnea, hyd Gasa, a holl wlad Gosen, hyd Gibeon.

10:42 Yr holl frenhinoedd hyn hefyd a’u gwledydd a enillodd Josua ar unwaith: canys ARGLWYDD DDUW Israel oedd yn ymladd dros Israel.

10:43 Yna y dychwelodd Josua, a holl Israel gydag ef, i’r gwersyll yn Gilgal.

PENNOD 11

11:1 A phan glybu Jabin brenin Hasor y pethau hynny, efe a anfonodd at Jobab brenin Madon, ac at frenin Simron, ac at frenin Achsaff,

11:2 Ac at y brenhinoedd oedd o du y gogledd yn y mynydd-dir, ac yn y rhostir tua’r deau i Cinneroth, ac yn y dyffryn, ac yn ardaloedd Dor tua’r gorllewin;

11:3 At y Canaaneaid o’r dwyrain a’r gorllewin, ac at yr Amoriaid, a’r Hethiaid, a’r Pheresiaid, a’r Jebusiaid, yn y mynydd-dir, ac at yr Hefiaid dan Hermon, yng ngwlad Mispe.

11:4 A hwy a aethant allan, a’u holl fyddinoedd gyda hwynt, pobl lawer, fel y tywod sydd ar fin y môr o amldra; meirch hefyd a cherbydau lawer iawn.

11:5 A’r holl frenhinoedd hyn a ymgyfarfuant; daethant hefyd a gwersyllasant ynghyd wrth ddyfroedd Merom, i ymladd yn erbyn Israel.

11:6 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, Nac ofna rhagddynt hwy: canys yfory ynghylch y pryd hyn y rhoddaf hwynt oll yn lladdedig o flaen Israel: llinynnau garrau eu meirch hwynt a dorri, a’u cerbydau a losgi di â thân.

11:7 Felly Josua a ddaeth a’r holl bobl o ryfel gydag ef, yn ddisymwth arnynt hwy wrth ddyfroedd Meron; a hwy a ruthrasant arnynt.

11:8 A’r ARGLWYDD a’u rhoddodd hwynt yn llaw Israel; a hwy a’u trawsant hwynt, ac a’u herlidiasant hyd Sidon fawr, ac hyd Misreffoth-maim, ac hyd glyn Mispe o du y dwyrain; a hwy a’u traw¬sant hwynt, fel na adawodd efe ohonynt un yng ngweddill.

11:9 A Josua a wnaeth iddynt fel yr archasai yr ARGLWYDD iddo: llinynnau garrau eu meirch hwynt a dorrodd efe, a’u cerbydau a losgodd â thân.

11:10 A Josua y pryd hwnnw a ddychwelodd, ac a enillodd Hasor, ac a drawodd ei brenin hi â’r cleddyf: canys Hasor o’r blaen oedd ben yr holl deyrnasoedd hynny.

11:11 Trawsant hefyd bob enaid a’r oedd ynddi â min y cleddyf, gan eu difrodi hwynt: ni adawyd un perchen anadl: ac efe a losgodd Hasor â thân.

11:12 A holl ddinasoedd y brenhinoedd hynny, a holl frenhinoedd hwynt, a enillodd Josua, ac a’u trawodd â min y cleddyf, gan eu difrodi hwynt: megis y gorchmynasai Moses gwas yr ARGLWYDD.

11:13 Ond ni losgodd Israel yr un o’r dinasoedd oedd yn sefyll yn eu cadernid; namyn Hasor yn unig a losgodd Josua.

11:14 A holl anrhaith y dinasoedd hynny, a’r anifeiliaid, a ysglyfaethodd meibion Israel iddynt eu hun: yn unig pob dyn a drawsant hwy â min y cleddyf, nes iddynt eu difetha; ni adawsant berchen anadl.

11:15 Fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD i Moses ei was, felly y gorchmynnodd Moses i Josua, ac felly y gwnaeth Josua; ni adawodd efe ddim o’r hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD i Moses.

11:16 Felly Josua a enillodd yr holl dir hwnnw, y mynyddoedd, a’r holl ddeau, a holl wlad Gosen, a’r dyffryn, a’r gwastadedd, a mynydd Israel, a’i ddyffryn;

11:17 O fynydd Halac, yr hwn sydd yn myned i fyny i Seir, hyd Baal-Gad, yng nglyn Libanus, dan fynydd Hermon: a’u holl frenhinoedd hwynt a ddaliodd efe; trawodd hwynt hefyd, ac a’u rhoddodd i farwolaeth.

11:18 Josua a gynhaliodd ryfel yn erbyn yr holl frenhinoedd hynny ddyddiau lawer.

11:19 Nid oedd dinas a’r a heddychodd â meibion Israel, heblaw yr Hefiaid preswylwyr Gibeon; yr holl rai eraill a enillasant hwy trwy ryfel.

11:20 Canys o’r ARGLWYDD yr ydoedd galedu eu calon hwynt i gyfarfod ag Israel mewn rhyfel, fel y difrodai efe hwynt, ac na fyddai iddynt drugaredd; ond fel y difethai efe hwynt, fel y gorch¬mynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.

11:21 A’r pryd hwnnw y daeth Josua ac a dorrodd yr Anaciaid ymaith o’r mynydd-dir, o Hebron, o Debir, o Anab, ac o holl fynyddoedd Jwda, ac o holl fynyddoedd Israel: Josua a’u difrod¬odd hwynt a’u dinasoedd.

11:22 Ni adawyd un o’r Anaciaid yng ngwlad meibion Israel: yn unig yn Gasa, yn Gath, ac yn Asdod, y gadawyd hwynt.

11:23 Felly Josua a enillodd yr holl wlad, yn ôl yr hyn oll a lefarasai yr ARGLWYDD wrth Moses; a Josua a’i rhoddodd hi yn etifeddiaeth i Israel, yn ôl eu rhannau hwynt, trwy eu llwythau. A’r wlad a orffwysodd heb ryfel.

PENNOD 12 12:1 Dyma frenhinoedd y wlad, y rhai a drawodd meibion Israel, ac a feddianasant eu gwlad hwynt o’r tu hwnt i’r Iorddonen tua chodiad yr haul; o afon Arnon hyd fynydd Hermon, a’r holl wastadedd tua’r dwyrain:

12:2 Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, ac yn arglwyddiaethu o Aroer, yr hon sydd ar fin yr afon Arnon, ac o ganol yr afon, ac o hanner Gilead hyd yr afon Jabboc, ym mro meibion Ammon;

12:3 Ac o’r gwastadedd hyd fôr Cinneroth o du y dwyrain, ac hyd fôr y gwastadedd, sef y môr heli, o du y dwyrain, tua Beth-jesimoth; ac o du y deau, dan Asdoth-Pisga:

12:4 A goror Og brenin Basan, yr hwn oedd o weddill y cewri, ac oedd yn trigo yn Astaroth ac yn Edrei;

12:5 Ac efe oedd yn arglwyddiaethu ym mynydd Hermon, ac yn Salcha, ac yn holl Basan, hyd derfyn y Gesuriaid, a’r Maachathiaid, a hanner Gilead, terfyn Sehon brenin Hesbon.

12:6 Moses gwas yr ARGLWYDD a meibion Israel a’u trawsant hwy: a Moses gwas yr ARGLWYDD a’i rhoddodd hi yn eti¬feddiaeth i’r Reubeniaid, ac i’r Gadiaid, ac i hanner llwyth Manasse.

12:7 Dyma hefyd frenhinoedd y wlad y rhai a drawodd Josua a meibion Israel o’r tu yma i’r Iorddonen o du y gorllewin, o Baal-Gad, yng nglyn Libanus, hyd fynydd Halac, yr hwn sydd yn myned i fyny i Seir; a Josua a’i rhoddodd hi i lwythau Israel yn etifeddiaeth yn ôl eu rhannau;

12:8 Yn y mynydd, ac yn y dyffryn, ac yn y gwastadedd, ac yn y bronnydd, ac yn yr anialwch, ac yn y deau; yr Hethiaid, yr Amoriaid, a’r Canaaneaid, y Pheresiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid:

12:9 Brenin Jericho, yn un; brenin Ai, yr hwn oedd o ystlys Bethel, yn un;

12:10 Brenin Jerwsalem, yn un; brenin Hebron, yn un;;

12:11 Brenin Jarmuth, yn un; brenin Lachis, yn un;

12:12 Brenin Eglon, yn un; brenin Geser ynun;

12:13 Brenin Debit, yn un; brenin Geder, yn un;

12:14 Brenin Horma, yn un; brenin Arad, yn un;

12:15 Brenin Libna, yn un; breniB Adulam, yn un;

12:16 Brenin Maceeda, yn un; brenin Bethel, yn un;

12:17 Brenin Tappua, yn un; brenin i Heffer, yn un;

12:18 Brenin Affec, yn un; brenin Lasaron, yn un;

12:19 Brenin Madoa, yn un; brenin Hasor, yn un;

12:20 Brenin Simron-Meron, yn un; bren¬in Achsaff, yn un;

12:21 Brenin Taanach, yn un; brenin Megido, yn un;

12:22 Brenin Cades, yn un; brenin Jocneam o Carmel, yn un;

12:23 Brenin Dor yn ardal Dor, yn un; brenin y cenhedloedd o Gilgal, yn un;

12:24 Brenin Tirsa, yn un: yr holl fren¬hinoedd oedd un ar ddeg ar hugain.

PENNOD 13 13:1 A phan heneiddiodd Josua, a phwyso ohono mewn oedran, dywedodd yr ARGLWYDD wrtho ef, Tydi a heneiddiaist, daethost i ddyddiau oedrannus, a thir lawer iawn sydd eto i’w feddiannu.

13:2 Dyma y wlad sydd eto yn ôl: holl derfynau y Philistiaid, a holl Gesuri,

13:3 O Sihor, yr hon sydd o flaen yr Aifft, hyd derfyn Ecron tua’r gogledd, yr hwn a gyfrifir i’r Canaaneaid: pum tywysog y Philistiaid: y Gasathiaid, a’r Asdodiaid, yr Escaloniaid, y Githiaid, yr Ecroniaid; yr Afiaid:

13:4 O’r deau, holl wlad y Canaaneaid, a’r ogof oedd yn ymyl y Sidoniaid, hyd Affec, hyd derfyn yr Amoriaid:

13:5 A gwlad y Gibliaid, a holl Libanus, tua chyfodiad haul, o Baal-Gad dan fynydd Hermon, nes dyfod i Hamath.

13:6 Holl breswylwyr y mynydd-dir o Libanus hyd Misreffoth-maim, a’r holl Sidoniaid, y rhai hynny a yrraf ymaith o flaen meibion Israel: yn unig rhan di hi wrth goelbren i Israel yn etifeddiaeth, fel y gorchmynnais i ti.

13:7 Ac yn awr rhan di y wlad hon yn etifeddiaeth i’r naw llwyth, ac i hanner llwyth Manasse.

13:8 Gyda’r rhai y derbyniodd y Reuben¬iaid a’r Gadiaid eu hetifeddiaeth, yr hon a roddodd Moses iddynt hwy, o’r tu hwnt i’r Iorddonen, tua’r dwyrain, fel y rhoddes Moses gwas yr ARGLWYDD iddynt;

13:9 O Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, a’r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, a holl wastadedd Medeba, hyd Dibon:

13:10 A holl ddinasoedd Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon, hyd ardal meibion Ammon;

13:11 Gilead hefyd, a therfyn y Gesuriaid, y Maachathiaid hefyd, a holl fynydd Hermon, a holl Basan hyd Salcha;

13:12 Holl frenhiniaeth Og yn Basan, yr hwn a deyrnasodd yn Astaroth, ac yn Edrei; efe a adawyd o weddill y cewri: canys Moses a’u trawsai hwynt, ac a’u gyrasai ymaith.

13:13 Ond meibion Israel ni yrasant allan y Gesuriaid na’r Maachathiaid; eithr trigodd y Gesuriaid a’r Maachathiaid ymhlith Israel hyd y dydd hwn.

13:14 Yn unig i lwyth Lefi ni roddodd efe etifeddiaeth; aberthau tanllyd ARGLWYDD DDUW Israel oedd ei etifeddiaeth ef, fel y llefarasai efe wrtho.

13:15 A Moses a roddasai i lwyth meibion Reuben etifeddiaeth trwy en teuluoedd:

13:16 A’u terfyn hwynt oedd o Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, a’r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, a’r holl wastadedd wrth Medeba;

13:17 Hesbon a’i holl ddinasoedd, y rhai sydd yn y gwastadedd; Dibon, a Bamoth-Baal, a Beth-Baalmeon;

13:18 Jahasa hefyd, a Cedemoth, a Meffaath;

13:19 Ciriathaim hefyd, a Sibma, a Sareth-sahar, ym mynydd-dir y glyn;

13:20 Beth-peor hefyd, ac Asdoth-Pisga, a Beth-Jesimoth,

13:21 A holl ddinasoedd y gwastadedd, a holl frenhiniaeth Sehon brenin yr Amor¬iaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon, yr hwn a ddarfuasai i Moses ei daro, gyda thywysogion Midian, Efi, a Recem, a Sur, a Hur, a Reba, dugiaid Sehon, y rhai oedd yn preswylio yn y wlad.

13:22 Balaam hefyd mab Beor, y dewin, a laddodd meibion Israel â’r cleddyf, ymhlith eu lladdedigion hwynt.

13:23 A therfyn meibion Reuben oedd yr Iorddonen a’i goror. Dyma etifeddiaeth meibion Reuben, yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd, a’u trefi.

13:24 Moses hefyd a roddodd etifedd¬iaeth i lwyth Gad, sef i feibion Gad, trwy eu teuluoedd;

13:25 A Jaser oedd derfyn iddynt hwy, a holl ddinasoedd Gilead, a hanner gwlad meibion Ammon, hyd Aroer, yr hon sydd o flaen Rabba;

13:26 Ac o Hesbon hyd Ramath-Mispe, a Betonim; ac o Mahanaim hyd gyffinydd Debir;

13:27 Ac yn y dyffryn, Beth-Aram, a Beth-Nimra, a Succoth, a Saffon, gweddill brenhiniaeth Sehon brenin Hesbon, yr Iorddonen a’i therfyn, hyd gwr môr Cinneroth, o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o du y dwyrain.

13:28 Dyma etifeddiaeth meibion Gad, yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd, a’u trefydd.

13:29 Moses hefyd a roddodd etifedd¬iaeth i hanner llwyth Manasse: a bu etifeddiaeth i hanner llwyth meibion Manasse, yn ôl eu teuluoedd:

13:30 A’u terfyn hwynt oedd o Ma¬hanaim, holl Basan, holl frenhiniaeth Og brenin Basan, a holl drefi Jair, y rhai sydd yn Basan, trigain dinas;

13:31 A hanner Gilead, ac Astaroth, ac Edrei, dinasoedd brenhiniaeth Og yn Basan, a roddodd efe i feibion Machir mab Manasse, sef i hanner meibion Machir, yn ôl eu teuluoedd. .

13:32 Dyma y gwledydd a roddodd Moses i’w hetifeddu, yn rhosydd Moab, am yr Iorddonen a Jericho, o du y dwyrain.

13:33 Ond i lwyth Lefi ni roddodd Moses etifeddiaeth: ARGLWYDD DDUW Israel yw eu hetifeddiaeth hwynt, fel y llefarodd,efe wrthynt.

PENNOD 14 14:1 Dyma hefyd y gwledydd a etifeddodd meibion Israel yng ngwlad Canaan, y rhai a rannodd Eleasar yr offeiriad, a Josua mab Nun, a phennau-cenedl llwythau meibion Israel, iddynt hwy i’w hetifeddu.

14:2 Wrth goelbren yr oedd eu hetifedd¬iaeth hwynt; fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD trwy law Moses eu rhoddi i’r naw llwyth, ac i’r hanner llwyth.

14:3 Canys Moses a roddasai etifeddiaeth i ddau lwyth, ac i hanner llwyth, o’r tu hwnt i’r Iorddonen; ond i’r Lefiaid ni roddasai efe etifeddiaeth yn eu mysg hwynt;

14:4 Canys meibion Joseff oedd ddau lwyth, Manasse ac Effraim: am hynny ni roddasant ran i’r Lefiaid yn y tir, ond dinasoedd i drigo, a’u meysydd pentrefol i’w hanifeiliaid, ac i’w golud.

14:5 Fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD i Moses, felly y gwnaeth meibion Israel, a hwy a ranasant y wlad.

14:6 Yna meibion Jwda a ddaethant at Josua yn Gilgal: a Chaleb mab Jeffunne y Cenesiad a ddywedodd wrtho ef, Tydi a wyddost y gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses gŵr Duw o’m plegid i, ac o’th blegid dithau, yn Cades-Barnea.

14:7 Mab deugain mlwydd oeddwn i pan anfonodd Moses gwas yr ARGLWYDD fi o Cades-Barnea, i edrych ansawdd y wlad; a mi a ddygais air iddo ef drachefn, fel yr oedd yn fy nghalon.

14:8 Ond fy mrodyr, y rhai a aethant i fyny gyda mi, a ddigalonasant y bobl: eto myfi a gyflawnais fyned ar ôl yr ARGLWYDD fy Nuw.

14:9 A Moses a dyngodd y diwrnod hwnnw, gan ddywedyd, Diau y bydd y wlad y sathrodd dy draed arni, yn etifeddiaeth i ti, ac i’th feibion hyd byth; am i ti gyflawni myned ar ôl yr ARGLWYDD fy Nuw.

14:10 Ac yn awr, wele yr ARGLWYDD a’m cadwodd yn fyw, fel y llefarodd efe, y pum mlynedd a deugain hyn, er pan lefarodd yr ARGLWYDD y gair hwn wrth Moses, tra y rhodiodd Israel yn yr anialwch: ac yn awr, wele fi heddiw yn fab pum mlwydd a phedwar ugain.

14:11 Yr ydwyf eto mor gryf heddiw â’r dydd yr anfonodd Moses fi: fel yr oedd fy nerth i y pryd hwnnw, felly y mae fy nerth i yn awr, i ryfela, ac i fyned allan, ac i ddyfod i mewn.

14:12 Yn awr gan hynny dyro i mi y mynydd yma, am yr hwn y llefarodd yr ARGLWYDD y dwthwn hwnnw, (canys ti a glywaist y dwthwn hwnnw fod yr Anaciaid yno, a dinasoedd mawrion caerog;) ond odid yr ARGLWYDD fydd gyda mi, fel y gyrrwyf hwynt allan, megis y llefarodd yr ARGLWYDD.

14:13 A Josua a’i bendithiodd ef, ac a roddodd Hebron i Caleb mab Jeffunne yn etifeddiaeth.

14:14 Am hynny mae Hebron yn etifedd¬iaeth i Caleb mab Jeffunne y Cenesiad hyd y dydd hwn: oherwydd iddo ef gwblhau myned ar ôl ARGLWYDD DDUW Israel.

14:15 Ac enw Hebron o’r blaen oedd Caer-Arba: yr Arba hwnnw oedd ŵr mawr ymysg yr Anaciaid. A’r wlad a orffwysodd heb ryfel.

PENNOD 15 15:1 A rhandir llwyth meibion Jwda, yn ôl eu teuluoedd, ydoedd tua therfyn Edom: anialwch Sin, tua’r deau, oedd eithaf y terfyn deau.

15:2 A therfyn y deau oedd iddynt hwy o gwr y môr heli, o’r graig sydd yn wynebu tua’r deau.

15:3 Ac yr oedd yn myned allan o’r deau hyd riw Acrabbim, ac yr oedd yn myned rhagddo i Sin, ac yn myned i fyny o du y deau i Cades-Barnea; ac yn myned hefyd i Hesron, ac yn esgyn i Adar, ac yn amgylchynu i Carcaa.

15:4 Ac yr oedd yn myned tuag Asmon, ac yn myned allan i afon yr Aifft; ac eithafoedd y terfyn hwnnw oedd wrth y môr: hyn fydd i chwi yn derfyn deau.

15:5 A’r terfyn tua’r dwyrain yw y môr heli, hyd eithaf yr Iorddonen: a’r terfyn o du y gogledd, sydd o graig y môr, yn eithaf yr Iorddonen.

15:6 A’r terfyn hwn oedd yn myned i fyny i Beth-hogla, ac yn myned o’r gogiedd hyd BethAraba; a’r terfyn hwn oedd yn myned i fyny at faen Bohan mab Reuben.

15:7 A’r terfyn hwn oedd yn myned i fyny a Debir o ddyffryn Achor, a thua’r gogledd yn edrych tua Gilgal, o flaen rhiw Adummim, yr hon sydd o du y deau i’r afon: y terfyn hefyd sydd yn myned hyd ddyfroedd En-semes, a’i gwr eithaf sydd wrth En-rogel.

15:8 A’r terfyn sydd yn myned i fyny trwy ddyffryn meibion Hinnom, gan ystlys y Jebusiaid o du y deau, honno yw Jerwsalem: y terfyn hefyd sydd yn myned i fyny i ben y mynydd sydd o flaen dyffryn Hinnom, tua’r gorllewin, yr hwn sydd yng nghwr glyn y cewri, tua’r gogledd.

15:9 A’r terfyn sydd yn cyrhaeddyd o ben y mynydd hyd ffynnon dyfroedd Nefftoa, ac sydd yn myned allan i ddinasoedd mynydd Effron: y terfyn hefyd sydd yn tueddu i Baala, honno yw Ciriath-jearim.

15:10 A’r terfyn sydd yn amgylchu o Baala tua’r gorllewin, i fynydd Seir, ac sydd yn myned rhagddo at ystlys mynydd Jearim, o du y gogledd, honno yw Chesalon, ac y mae yn disgyn i Beth-semes, ac yn myned i Timna.

15:11 A’r terfyn sydd yn myned i ystlys Ecron, tua’r gogledd: a’r terfyn sydd yn tueddu i Sicron, ac yn myned rhagddo i fynydd Baala, ac yn cyrhaeddyd i Jabneel; a chyrrau eithaf y terfyn sydd wrth y môr.

15:12 A therfyn y gorllewin yw y môr mawr a’i derfyn. Dyma derfyn meibion Jwda o amgylch, wrth eu teuluoedd.

15:13 Ac i Caleb mab Jeffunne y rhoddodd efe ran ymysg meibion Jwda, yn ôl gair yr ARGLWYDD wrth Josua; sef Caer-Arba, tad yr Anaciaid, honno yw Hebron.

15:14 A Chaleb a yrrodd oddi yno dri mab Anac, Sesai, ac Ahimaas a Thalmai, meibion Anac.

15:15 Ac efe a aeth i fyny oddi yno at drigolion Debir; ac enw Debir a’r blaen oedd CiriathSeffer.

15:16 A dywedodd Caleb, Pwy bynnag a drawo Ciriath-Seffer, ac a’i henillo hi; iddo ef y rhoddaf Achsa fy merch yn wraig.

15:17 Ac Othniel mab Cenas, brawd Caleb, a’i henillodd hi. Yntau a roddodd Achsa ei ferch iddo ef yn wraig.

15:18 A phan ddaeth hi i mewn ato ef, yna hi a’i hanogodd ef i geisio gan ei thad faes: ac a ddisgynnodd oddi ar yr asyn. A dywedodd Caleb wrthi, Beth a fynni di?

15:19 A hi a ddywedodd, Dyro i mi rodd canys gwlad y deau a roddaist i mi: dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd. Ac efe a roddodd iddi y ffynhonnau uchaf, a’r ffynhonnau isaf.

15:20 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Jwda, wrth eu teuluoedd.

15:21 A’r dinasoedd o du eithaf i lwyth: meibion Jwda, tua therfyn Edom, ar du y deau, oeddynt Cabseel, ac Eder, a Jagur,

15:22 Cina hefyd, a Dimona, ac Adada,

15:23 Cedes hefyd, a Hasor, ac Ithnan,

15:24 A Siff, a Thelem, a Bealoth,

15:25 A Hasor, Hadatta, a Cirioth, a Hesron, honno yw Hasor,

15:26 Ac Amam, a Sema, a Molada,

15:27 A Hasar-Gada, a Hesmon, a Bethpalet,

15:28 A Hasar-sual a Beer-seba, a Bisiothia,

15:29 Baala, ac Iim, ac Asem,

15:30 Ac Eltolad, a Chesil, a Horma,

15:31 A Siclag, a Madmanna, a Sansanna,

15:32 A Lebaoth, a Silhim, ac Afa, a Rimmon: yr holl ddinasoedd oedd naw ar hugain, a’u pentrefydd.

15:33 Ac yn y dyffryn, Esthaol, a Sorea, ac Asna,

15:34 A Sanoa, ac En-gannim, Tappua, ac Enam, . .

15:35 Jarmuth, ac Adulam, Socho, ac Aseca,

15:36 A Saraim, ac Adithaim, a Gedera, a Gederothaim; pedair ar ddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd.

15:37 Senan, a Hadasa, a Migdal-Gad,

15:38 A Dilean, a Mispe, a Joctheel,

15:39 Lachis, a Boscath, ac Eglon,

15:40 Chabbon hefyd, a Lahmam, a Chithlis,

15:41 A Gederoth, Beth-Dagon, a Naama, a Macceda; un ddinas ar bymtheg, a’u pentrefydd.

15:42 Libna, ac Ether, ac Asan,

15:43 A Jiffta, ac Asna, a Nesib,

15:44 Ceila hefyd, ac Achsib, a Maresa; naw o ddinasoedd, a’u pentrefi.

15:45 Ecron, a’i threfi, a’i phentrefydd:

15:46 O Ecron hyd y môr, yr hyn oll oedd gerllaw Asdod, a’u pentrefydd:

15:47 Asdod, a’i threfydd, a’i phentrefydd; Gasa, a’i threfydd, a’i phentrefydd, hyd afon yr Aifft; a’r môr mawr, a’i derfyn.

15:48 Ac yn y mynydd-dir; Samir, a Jattir, a Socho,

15:49 A Danna, a Ciriath-sannath, honno yw Debir,

15:50 Ac Anab, ac Astemo, ac Anim,

15:51 A Gosen, a Holon, a Gilo; un ddinas ar ddeg, a’u pentrefydd.

15:52 Arab, a Duma, ac Esean,

15:53 A Janum, a Beth-tappua, ac Affeca,

15:54 A Humta, a Chaer-Arba, honno yw Hebron, a Sior; naw dinas, a’u trefydd.

15:55 Maon, Carmel, a Siff, a Jutta,

15:56 A Jesreel, a Jocdeam, a Sanoa,

15:57 Cain, Gibea, a Thimna; deg o ddinasoedd, a’u pentrefydd.

15:58 Halhul, Beth-sur, a Gedor,

15:59 A Maarath, a Bethanoth, ac El-tecon; chwech o ddinasoedd, a’u pen¬trefydd.

15:60 Ciriath-baal, honno yw Ciriath-jearim, a Rabba; dwy ddinas, a’u pen¬trefydd.

15:61 Yn yr anialwch; Beth-araba, Midin, a Sechacha,

15:62 A Nibsan, a dinas yr haleni ac En-gedi; chwech o ddinasoedd, a’u pentrefydd.

15:63 Ond ni allodd meibion Jwda yrru allan y Jebusiaid, trigolion Jerwsalem: am hynny y trig y Jebusiaid gyda meibion Jwda yn Jerwsalem hyd y dydd hwn.

PENNOD 16 16:1 A rhandir meibion Joseff oedd yn myned o’r Iorddonen wrth Jericho, i ddyfroedd Jericho o du y dwyrain, i’r anialwch sydd yn myned i fyny o Jericho i fynydd Bethel,

16:2 Ac yn myned o Bethel i Lus, ac yn myned rhagddo i derfyn Arci i Ataroth;

16:3 Ac yn disgyn tua’r gorllewin i ardal Jaffleti, hyd derfyn Beth-horon isaf, ac hyd Geser: a’i gyrrau eithaf sydd hyd y môr.

16:4 Felly meibion Joseff, Manasse ac Effraim, a gymerasant eu hetifeddiaeth.

16:5 A therfyn meibion Effraim oedd yn ôl eu teuluoedd; a therfyn eu heti¬feddiaeth hwynt o du y dwyrain, oedd Atarothadar, hyd Bethhoron uchaf.

16:6 A’r terfyn sydd yn myned tua’r môr, i Michmethath o du y gogledd; a’r terfyn sydd yn amgylchu o du y dwyrain i Taanath-Seilo, ac yn myned heibio iddo o du y dwyrain i Janoha:

16:7 Ac yn myned i waered o Janoha, i Ataroth, a Naarath; ac yn cyrhaeddyd i Jericho, ac yn myned allan i’r Iorddonen.

16:8 O Tappua y mae y terfyn yn myned tua’r gorllewin i afon Cana; a’i gyrrau eithaf sydd wrth y môr. Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Effraim, yn ôl eu teuluoedd.

16:9 A dinasoedd neilltuedig meibion Effraim oedd ymysg etifeddiaeth meibion Manasse; yr holl ddinasoedd, a’u pen¬trefydd.

16:10 Ond ni oresgynasant hwy y Canaaneaid, y rhai oedd yn trigo yn Geser: am hynny y trigodd y Canaancaid ymhlth yr Effraimiaid hyd y dydd hwn, ac y maent yn gwasanaethu dan dreth.

PENNOD 17 17:1 A yr oedd rhandir llwyth Manasse, (canys efe oedd gyntaf-anedig Joseff,) i Machir, cyntaf-anedig Manasse, tad Gilead: oherwydd ei fod efe yn rhyfelwr, yr oedd Gilead a Basan yn eiddo ef.

17:2 Ac yr oedd rhandir i’r rhan arall o feibion Manasse, yn ôl eu teuluoedd; sef i feibion Abieser, ac i feibion Helec, ac i feibion Asriel, ac i feibion Sichem, ac i feibion Heffer, ac i feibion Semida: dyma feibion Manasse mab Joseff, sef y gwrywiaid, yn ôl eu teuluoedd.

17:3 Ond Salffaad mab Heffer, mab Gilead, mab Machir, mab Manasse, nid oedd iddo feibion, ond merched: a dyma enwau ei ferched ef; Mala, a Noa, Hogla, Milca, a Thirsa:

17:4 Y rhai a ddaethant o flaen Eleasar yr offeiriad, ac o flaen Josua mab Nun, ac o flaen y tywysogion, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD a orchmynnodd i Moses roddi i ni etifeddiaeth ymysg ein brodyr: am hynny efe a roddodd iddynt etifeddfiaeth, yn ôl gair yr ARGLWYDD, ymysg brodyr eu tad.

17:5 A deg rhandir a syrthiodd i Manasse, heblaw gwlad Gilead a Basan, y rhai sydd tu hwnt i’r Iorddonen;

17:6 Canys merched Manasse a etifeddasant etifeddiaeth ymysg ei feibion ef: a gwlad Gilead oedd i’r rhan arall o feibion Manasse.

17:7 A therfyn Manasse oedd o Aser i Michmethath, yr hon sydd gyferbyn â Sichem; a’r terfyn oedd yn myned ar y llaw ddeau, hyd breswylwyr En-tappua.

17:8 Gwlad Tappua oedd eiddo Manasse: ond Tappua, yr hon oedd ar derfyn Manasse, oedd eiddo meibion Effraim.

17:9 A’r terfyn sydd yn myned i waered i afon Cana, o du deau yr afon. Y dinasoedd hyn, eiddo Effraim, oedd ymhlith dinasoedd Manasse: a therfyn Manasse sydd o du y gogledd i’r afon, a’i ddiwedd oedd y môr.

17:10 Y deau oedd eiddo Effraim, a’r gogledd eiddo Manasse; a’r môr oedd ei derfyn ef: ac yn Aser yr oeddynt yn cyfarfod, o’r gogledd; ac yn Issachar, o’r dwyrain.

17:11 Yn Issachar hefyd ac yn Aser yr oedd gan Manasse, Beth-sean a’i thref¬ydd, ac Ibleam a’i threfydd, a thrigolion Dor a’i threfydd, a thrigolion En-dor a’i threfydd, a phreswylwyr Taanach a’i threfydd, a thrigolion Megido a’i thref¬ydd; tair talaith.

17:12 Ond ni allodd meibion Manasse yrru ymaith drigolion y dinasoedd hynny; eithr mynnodd y Canaaneaid breswylio yn y wlad honno.

17:13 Eto pan gryfhaodd meibion Israel, hwy a osodasant y Canaaneaid dan dreth: ni yrasant hwynt ymaith yn llwyr.

17:14 A meibion Joseff a lefarasant wrth Josua, gan ddywedyd, Paham y rhoddaist i mi, yn etifeddiaeth, un afael ac un rhan, a minnau yn bobl arni, wedi i’r ARGLWYDD hyd yn hyn fy mendithio?

17:15 A Josua a ddywedodd wrthynt, Os pobl aml ydwyt, dos i fyny i’r coed, a thor goed i ti yno yng ngwlad y Pheresiaid, a’r cewri, od yw mynydd Effraim yn gyfyng i ti.

17:16 A meibion Joseff a ddywedasant, Ni bydd y mynydd ddigon i ni: hefyd y mae cerbydau heyrn gan yr holl Ganaaneaid sydd yn trigo yn y dyffryndir, gan y rhai sydd yn Beth-sean a’i threfi, a chan y rhai sydd yng nglyn Jesreel.

17:17 A Josua a ddywedodd wrth dy Joseff, wrth Effraim ac wrth Manasse, gan ddywedyd, Pobl aml ydwyt, a nerth mawr sydd gennyt: ni fydd i ti un rhan yn unig:

17:18 Eithr bydd y mynydd eiddot ti: canys coediog yw, arloesa ef; a bydd ei eithafoedd ef eiddot ti: canys ti a yrri ymaith y Canaaneaid, er bod cerbyd¬au heyrn ganddynt, ac er eu bod yn gryfion.

PENNOD 18 18:1 A holl gynulleidfa meibion Israel a ymgynullasant i Seilo, ac a osod¬asant yno babell y cyfarfod: a’r wlad oedd wedi ei darostwng o’u blaen hwynt.

18:2 A saith lwyth oedd yn aros ymysg meibion Israel, i’r rhai ni ranasent eu hetifeddiaeth eto

18:3 A Josua a ddywedodd wrth feibion Israel, Pa hyd yr ydych yn esgeuluso myned i oresgyn y wlad a roddes ARGLWYDD DDUW eich tadau i chwi?:

18:4 Moeswch ohonoch driwyr o bob llwyth; fel yr anfonwyf hwynt, ac y cyfodont, ac y rhodiont y wlad, ac y dosbarthont hi yn ôl eu hetifeddiaeth hwynt; ac y de!ont ataf drachefn.

18:5 A hwy a’i rhannant hi yn saith ran. Jwda a saif ar ei derfyn o du’r deau, a thŷ Joseff a safant ar eu terfyn o du’r gogledd.

18:6 A chwi a ddosberthwch y wlad yn saith ran, a dygwch y dosbarthiadau ataf fi yma; fel y bwriwyf goelbren drosoch yma, o flaen yr ARGLWYDD ein Duw.

18:7 Ond ni bydd rhan i’r Lefiaid yn eich mysg chwi; oherwydd offeiriadaeth yr ARGLWYDD fydd eu hetifeddiaeth hwynt. Gad hefyd, a Reuben, a hanner llwyth Manasse, a dderbyniasant eu hetifedd¬iaeth o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o du’r dwyrain, yr hon a roddodd Moses gwas yr ARGLWYDD iddynt.

18:8 A’r gwŷr a gyfodasant, ac a aethant: a Josua a orchmynnodd i’r rhai oedd yn myned i rannu’r wlad, gan ddywedyd, Ewch, a rhodiwch trwy’r wlad, a dosberthwch hi, a dychwelwch ataf fi; ac yma y bwriaf drosoch chwi goelbren gerbron yr ARGLWYDD yn Seilo.

18:9 A’r gwŷr a aethant ymaith, ac a gerddasant trwy’r wlad, ac a’i dosbarthasant hi bob yn ddinas, yn saith ran, mewn llyfr; a daethant at Josua i’r gwersyll yn Seilo.

18:10 A Josua a fwriodd goelbren drostynt hwy gerbron yr ARGLWYDD yn Seilo: a Josua a rannodd yno y wlad i feibion Israel yn ôl eu rhannau.

18:11 A choelbren llwyth meibion Ben¬jamin a ddaeth i fyny yn ôl eu teuluoedd: a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt a aeth allan rhwng meibion Jwda a meibion Joseff.:

18:12 A’r terfyn oedd iddynt hwy tua’r gogledd o r Iorddonen: y terfyn hefyd i oedd yn myned i fyny gan ystlys Jericho, o du’r gogledd, ac yn myned i fyny i trwy’r mynydd tua’r gorllewin: a’i gyrrau eithaf oedd yn anialwch Beth-afen.

18:13 Y terfyn hefyd sydd yn myned oddi i yno i Lus, gan ystlys Lus, honno yw Bethel, tua’r deau; a’r terfyn sydd yn disgyn i Atarothadar, i’r mynydd sydd o du’r deau i Beth-horon isaf.

18:14 A’r terfyn sydd yn tueddu, ac yn amgylchu cilfach y môr tua’r deau, o’r mynydd sydd ar gyfer Beth-horon tua’r deau; a’i gyrrau eithaf ef sydd wrth Ciriath-baal, honno yw Ciriath-jearim, dinas meibion Jwda. Dyma du y gorllewin.

18:15 A thu y deau sydd o gwr Ciriath-jearim; a’r terfyn sydd yn myned tua’r gorllewin, ac yn cyrhaeddyd hyd ffynnon dyfroedd Nefftoa.

18:16 Y terfyn hefyd sydd yn disgyn tua chwr y mynydd sydd ar gyfer glyn mab Hinnom, yr hwn sydd yn nyffryn y cewri tua’r gogledd; ac y mae efe yn disgyn i ddyffryn Hinnom, gan ystlys y Jebusiaid tua’r deau, ac yn dyfod i waered i ffynnon Rogel.

18:17 Ac y mae yn tueddu o’r gogledd, ac yn myned i En-semes, ac yn cyrhaeddyd tua Geliloth, yr hon sydd gyferbyn â rhiw Adummim, ac yn disgyn at faen Bohan mab Reuben:

18:18 Ac y mae efe yn myned ar hyd yr ystlys ar gyfer Araba tua’r gogledd, ac yn disgyn i Araba.

18:19 Y terfyn hefyd sydd yn myned rhagddo i ystlys Beth-hogla tua’r gog¬ledd: a chwr eithaf y terfyn oedd wrth tan y môr heli tua’r gogledd, hyd gŵr yr Iorddonen tua’r deau. Dyma derfyn y deau.

18:20 Yr Iorddonen hefyd sydd derfyn iddo o ystlys y dwyrain. Dyma etifedd¬iaeth meibion Benjamin, trwy eu terfynau o amgylch, yn ôl eu teuluoedd.

18:21 A dinasoedd llwyth meibion Ben¬jamin, yn ôl eu teuluoedd, oedd, Jericho, a Beth-hogla, a glyn Cesis,

18:22 A Beth-araba, a Semaraim, a Bethel,

18:23 Ac Afim, a Phara, ac Offra,

18:24 A Cheffar-haammonai, ac Offni, a Gaba; deuddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd:

18:25 Gibeon, a Rama, a Beeroth,

18:26 A Mispe, a Cheffira, a Mosa,

18:27 A Recem, ac Irpeel, a Tharala,

18:28 A Sela, Eleff, a Jebusi, (honno yw Jerwsalem,) Gibeath, a Chiriath; pedair ar ddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd. Dyma etifeddiaeth meibion Benjamin, yn ôl eu teuluoedd.

PENNOD 19 19:1 A’r ail goelbren a aeth allan i Simeon, dros lwyth meibion Simeon, yn ôl: teuluoedd: a’u hetifeddiaeth hwynt oedd o fewn etifeddiaeth meibion Jwda.

19:2 Ac yr oedd ganddynt hwy, yn eu hetifeddiaeth, Beer-seba, a Seba, a Molada,

19:3 A Hasar-sual, a Bala, ac Asem,

19:4 Ac Eltolad, a Bethul, a Horma,

19:5 A Siclag, a Beth-marcaboth, a Hasar-susa,

19:6 A Beth-lebaoth, a Saruhen; tair dinas ar ddeg, a’u pentrefydd:

19:7 Ain, Rimmon, ac Ether, ac Asan; pedair o ddinasoedd, a’u pentrefydd:

19:8 A’r holl bentrefydd y rhai oedd o amgylch y dinasoedd hyn, hyd Baalath-beer, Ramath o’r deau. Dyma etifedd¬iaeth llwyth meibion Simeon, yn ôl eu teuluoedd.

19:9 O randir meibion Jwda yr oedd eti¬feddiaeth meibion Simeon: canys rhan meibion Jwda oedd ormod iddynt; am hynny meibion Simeon a gawsant eu hetifeddiaeth o fewn eu hetifeddiaeth hwynt.

19:10 A’r trydydd coelbren a ddaeth i fyny dros feibion Sabulon, yn ôl eu teuluoedd: a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt oedd hyd Sarid.

19:11 A’u terfyn hwynt sydd yn myned i fyny tua’r môr, a Marala, ac yn cyr¬haeddyd i Dabbaseth; ac yn cyrhaeddyd i’r afon sydd ar gyfer Jocneam;

19:12 Ac yn troi o Sarid, o du y dwyrain tua chyfodiad haul, hyd derfyn Cisloth-Tabor; ac yn myned i Daberath, ac yn esgyn i Jaffia;

19:13 Ac yn myned oddi yno ymlaen tua’r dwyrain, i Gittah-Heffer, i Ittah-Casin; ac yn myned allan i Rimmon-Methoar, i Nea.

19:14 A’r terfyn sydd yn amgylchu o du y gogledd i Hannathon; a’i ddiweddiad yng nglyn Jifftahel.

19:15 Cattath hefyd, a Nahalai, a Simron, ac Idala, a Bethlehem; deuddeg o ddinas¬oedd, a’u pentrefydd.

19:16 Dyma etifeddiaeth meibion Sabu¬lon, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd yma, a’u pentrefydd.

19:17 Y pedwerydd coelbren a ddaeth allan dros Issachar; dros feibion Issachar, yn ôl eu teuluoedd.

19:18 A’u terfyn hwynt oedd tua Jesreel, a Chesuloth, a Sunem.

19:19 A Haffraim, a Sihon, ac Anaharath.

19:20 A Rabbith, a Cision, ac Abes,

19:21 A Remeth, ac En-gannim, ac Enhada, a Beth-passes.

19:22 A’r terfyn sydd yn cyrhaeddyd i Tabor, a Sahasima, a Beth-semes; a’u cyrrau eithaf hwynt yw yr Iorddonen: un ddinas ar bymtheg, a’u pentrefydd.

19:23 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Issachar, yn ôl eu teuluoedd; y dinas¬oedd, a’u pentrefydd.

19:24 A’r pumed coelbren a ddaeth allan dros lwyth meibion Aser, yn ôl eu teuluoedd.

19:25 A’u terfyn hwynt oedd, Helcath, a Hali, a Beten, ac Achsaff,

19:26 Ac Alammelech, ac Amad, a Misal; ac yn cyrhaeddyd i Carmel tua’r gor¬llewin, ac i Sihor-Libnath:

19:27 Ac yn troi tua chyfodiad haul i Beth-dagon, ac yn cyrhaeddyd i Sabulon, ac i ddyffryn Jifftahel, tua’r gogledd i Beth-Emer, ac i Neiel, ac yn myned ar y llaw aswy i Cabul;

19:28 A Hebron, a Rehob, a Hammon, a Cana, hyd Sidon fawr.

19:29 A’r terfyn sydd yn troi i Rama, ac hyd Sor, y ddinas gadarn: a’r terfyn sydd yn troi i Hosa; a’i gyrrau eithaf sydd wrth y môr, o randir Achsib.

19:30 Umma hefyd, ac Affec, a Rehob: dwy ddinas ar hugain, a’u pentrefydd.

19:31 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Aser, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd hyn a’u pentrefydd.

19:32 Y chweched coelbren a ddaeth allan i feibion Nafftali, dros feibion Nafftali, yn ôl eu teuluoedd.

19:33 A’u terfyn hwy oedd o Heleff, o Alon i Saanannim, ac Adami, Neceb, a Jabneel hyd Lacum: a’i gyrrau eithaf oedd wrth yr Iorddonen.

19:34 A’r terfyn sydd yn troi tua’r gorllewin i Asnoth-Tabor, ac yn myned oddi yno i Huccoc; ac yn cyrhaeddyd i Sabulon o du y deau, ac yn cyrhaeddyd i Aser o du y gorllewin, ac i Jwda a’r Iorddonen tua chyfodiad haul.

19:35 A’r dinasoedd caerog, Sidim, Ser, a Hammath, Raccath, a Chinnereth,

19:36 Ac Adama, a Rama, a Hasor,

19:37 A Cedes, ac Edrei, ac En-hasor,

19:38 Ac Iron, a Migdal-el, Horem, a Beth-anath, a Beth-semes: pedair dinas ar bymtheg, a’u pentrefydd.

19:39 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Nafftali, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd, a’u pentrefydd.

19:40 Y seithfed coelbren a ddaeth allan dros lwyth meibion Dan, yn ôl eu teuluoedd.

19:41 A therfyn eu hetifeddiaeth trwynt oedd Sora, ac Estaol, ac Ir-Semes,

19:42 A Saalabbin, ac Ajalon, ac Ithla,

19:43 Ac Elon, a Thimnatha, ac Ecron,

19:44 Ac Eltece, a Gibbethon, a Baalath,

19:45 A Jehud, a Bene-berac, a Gath-rimmon,

19:46 A Meiarcon, a Raccon, gyda’r terfyn ar gyfer Jaffo.

19:47 A therfyn meibion Dan a aeth yn rhy fychan iddynt: am hynny meibion Dan a aethant i fyny i ymladd yn erbyn Lesem, ac a’i henillasant hi; trawsant hefyd hi â min y cleddyf, a meddianasant hi, a thrigasant ynddi: a galwasant Lesem yn Dan, yn ôl enw Dan eu tad.

19:48 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Dan, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd hyn, a’u pentrefydd.

19:49 Pan orffenasant rannu’r wlad yn etifeddiaethau yn ôl ei therfynau, meib¬ion Israel a roddasant etifeddiaeth i Josua mab Nun yn eu mysg:

19:50 Wrth orchymyn yr ARGLWYDD y rhoddasant iddo ef y ddinas a ofynnodd efe; sef Timnath-Sera, ym mynydd Effraim: ac efe a adeiladodd y ddinas, ac a drigodd ynddi.

19:51 Dyma yr etifeddiaethau a roddodd Eleasar yr offeiriad, a Josua mab Nun, a phennau tadau llwythau meibion Israel, yn etifeddiaeth, wrth goelbren, yn Seilo, o flaen yr ARGLWYDD, wrth ddrws pabell y cyfarfod. Felly y gorffenasant rannu’r wlad.

PENNOD 20 20:1 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Josua, gan ddywedyd,

20:2 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Moeswch i chwi ddinasoedd nodded, am y rhai y lleferais wrthych trwy law Moses:

20:3 Fel y ffo yno y llofrudd a laddo neb mewn amryfusedd, neu mewn anwybcd: a byddant i chwi yn noddfa rhag dialydd y gwaed.

20:4 A phan ffo efe i un o’r dinasoedd hynny, a sefyll wrth ddrws porth y ddinas, a mynegi ei achosion lle y clywo henuriaid y ddinas honno; cymerant ef atynt i’r ddinas, a rhoddant le iddo, fel y trigo gyda hwynt.

20:5 Ac os dialydd y gwaed a erlid ar ei ôl ef, na roddant y lleiddiad yn ei law ef: canys mewn anwybod y trawodd efe ei gymydog, ac nid oedd gas ganddo ef o’r blaen.

20:6 Ac efe a drig yn y ddinas honno, nes iddo sefyll o flaen y gynulleidfa i farn, ac nes marw yr archoffeiriad fyddo yn y dyddiau hynny: yna dychweled y llofrudd, a deued i’w ddinas ac i’w dŷ ei hun; sef y ddinas yr hon y ffoesai efe ohoni.

20:7 Am hynny y cysegrasant Cedes yn Galilea, ym mynydd Nafftali, a Sichem ym mynydd Effraim, a Chaer-Arba, hon yw Hebron, ym mynydd Jwda.

20:8 Ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o du y dwyrain i Jericho, y rhoddasant Beser yn yr anialwch ar y gwastadedd, o lwyth Reuben, a Ramoth yn Gilead o lwyth Gad, a Golan yn Basan o lwyth Manasse.

20:9 Y rhai hyn oedd ddinasoedd gosodedig i holl feibion Israel, ac i’r dieithr a ymdeithiai yn eu mysg hwynt; fel y ffoai pawb iddynt a’r a laddai neb mewn amryfusedd; ac na byddai marw trwy law dialydd y gwaed, nes iddo sefyll o flaen y gynulleidfa.

PENNOD 21 21:1 Yna pennau tadau y Lefiaid a nesasant at Eleasar yr offeiriad, ac at Josua mab Nun, ac at bennau tadau llwythau meibion Israel;

21:2 Ac a lefarasant wrthynt yn Seilo, o fewn gwlad Canaan, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD a orchmynnodd, trwy law Moses, roddi i ni ddinasoedd i drigo, a’u meysydd pentrefol i’n hanifeiliaid.

21:3 A meibion Israel a roddasant i’r Lefiaid o’u hetifeddiaeth, wrth orchymyn yr ARGLWYDD, y dinasoedd hyn a’u meysydd pentrefol.

21:4 A daeth y coelbren allan dros deuluoedd y Cohathiaid: ac yr oedd i feibion Aaron yr offeiriad, y rhai oedd o Lefiaid, allan o lwyth Jwda, ac o lwyth Simeon, ac o lwyth Benjamin, dair dinas ar ddeg, wrth goelbren.

21:5 Ac i’r rhan arall o feibion Cohath yr oedd, o deuluoedd llwyth Effraim, ac o lwyth Dan, ac o hanner llwyth Manasse, ddeg dinas, wrth goelbren.

21:6 Ac i feibion Gerson yr oedd, o deuluoedd llwyth Issachar, ac o lwyth Aser, ac o lwyth Nafftali, ac o hanner llwyth Manasse yn Basan, dair dinas ar ddeg, wrth goelbren.

21:7 I feibion Merari, wrth eu teuluoedd, yr oedd, o lwyth Reuben, ac o lwyth Gad, ac o lwyth Sabulon, ddeuddeg o ddinasoedd.

21:8 A meibion Israel a roddasant i’r Lefiaid y dinasoedd hyn, a’u meysydd pentrefol, fel y gorchmynasai yr AR¬GLWYDD trwy law Moses, wrth goelbren.

21:9 A hwy a roddasant, o lwyth meibion Jwda, ac o lwyth meibion Simeon, y dinasoedd hyn a enwir erbyn eu henwau;

21:10 Fel y byddent i feibion Aaron, o deuluoedd y Cohathiaid, o feibion Lefi: canys iddynt hwy yr oedd y coelbren cyntaf.

21:11 A rhoddasant iddynt Gaer-Arba, tad Anac, honno yw Hebron, ym mynydd-dir Jwda, a’i meysydd pentrefol oddi amgylch.

21:12 Ond maes y ddinas, a’i phentrefydd, a roddasant i Caleb mab Jeffunne, yn etifeddiaeth iddo ef.

21:13 Ac i feibion Aaron yr offeiriad y rhoddasant Hebron a’i meysydd pen¬trefol, yn ddinas nodded i’r llofrudd; a Libna a’i meysydd pentrefol,

21:14 A Jattir a’i meysydd pentrefol, ac Estemoa a’i meysydd pentrefol,

21:15 A Holon a’i meysydd pentrefol, a Debir a’i meysydd pentrefol,

21:16 Ac Ain a’i meysydd pentrefol, a Jwtta a’i meysydd pentrefol, a Bethsemes a’i meysydd pentrefol: naw dinas o’r ddau lwyth hynny.

21:17 Ac o lwyth Benjamin, Gibeon a’i meysydd pentrefol, a Geba a’i meysydd pentrefol,

21:18 Anathoth a’i meysydd pentrefol, ac Almon a’i meysydd pentrefol: pedair dinas.

21:19 Holl ddinasoedd meibion Aaron yr offeiriaid, oedd dair dinas ar ddeg, a’u meysydd pentrefol.

21:20 A chan deuluoedd meibion Co¬hath, y Lefiaid, y rhan arall o feibion Cohath, yr oedd dinasoedd eu coelbren o lwyth Effraim.

21:21 A hwy a roddasant iddynt yn ddinas nodded y lleiddiad, Sichem a’i meysydd pentrefol, ym mynydd Effraim, a Geser a’i meysydd pentrefol,

21:22 A Cibsaim a’i meysydd pentrefol, a Beth-horon a’i meysydd pentrefol: pedair o ddinasoedd.

21:23 Ac o lwyth Dan, Eltece a’i meysydd pentrefol, Gibbethon a’i meysydd pen¬trefol.

21:24 Ajalon a’i meysydd pentrefol, Gath-Rimmon a’i meysydd pentrefol: pedair o ddinasoedd

21:25 Ac o hanner llwyth Manasse, Tanac a’i meysydd pentrefol, a Gath-Rimmon a’i meysydd pentrefol: dwy ddinas.

21:26 Yr holl ddinasoedd, y rhai oedd eiddo y rhan arall o deuluoedd meibion Cohath, oedd ddeg, a’u meysydd pen¬trefol.

21:27 Ac i feibion Gerson, o deuluoedd y Lefiaid, y rhoddasid, o hanner arall llwyth Manasse, yn ddinas nodded y llofrudd, Golan yn Basan a’i meysydd pentrefol, a Beestera a’i meysydd pen¬trefol: dwy ddinas.

21:28 Ac o lwyth Issachar, Cison a’i meysydd pentrefol, Dabareth a’i meysydd pentrefol,

21:29 Jarmuth a’i meysydd pentrefol, En-gannim a’i meysydd pentrefol: pedair dinas.

21:30 Ac o lwyth Aser, Misal a’i meysydd pentrefol, Abdon a’i meysydd pentrefol,

21:31 Helcath a’i meysydd pentrefol, a Rehob a’i meysydd pentrefol: pedair dinas. .

21:32 Ac o lwyth Nafftali, yn ddinas nodded y lleiddiad. Cedes yn Galilea a’i meysydd pentrefol, a Hammoth-dor a’i meysydd pentrefol: tair dinas.

21:33 Holl ddinasoedd y Gersoniaid, yn ôl eu teuluoedd, oedd dair dinas ar ddeg, a’u meysydd pentrefol.

21:34 Ac i deuluoedd meibion Merari, y rhan arall o’r Lefiaid, y rhoddasid, o lwyth Sabulon, Jocnean a’i meysydd pentrefol, a Carta a’i meysydd pentrefol,

21:35 Dimna a’i meysydd pentrefol, Nahalal a’i meysydd pentrefol: pedair dinas.

21:36 Ac o lwyth. Reuben, Beser a’i meysydd pentrefol, a Jahasa a’i meysydd pentrefol,

21:37 Cedemoth a’i meysydd pentrefol, Meffaath a’i meysydd pentrefol: pedair dinas.

21:38 Ac o lwyth Gad, yn ddinas noddfa y llofrudd, Ramoth yn Gilcad a’i meysydd pentrefol, a Mahanaim a’i meysydd pen¬trefol,

21:39 Hesbon a’i meysydd pentrefol, Jaser a’i meysydd pentrefol; pedair dinas o gwbl.

21:40 Holl ddinasoedd meibion Merari, yn ôl eu teuluoedd, sef y rhan arall o deuluoedd y Lefiaid, oedd, wrth eu coelbren, ddeuddeng ninas.

21:41 Holl ddinasoedd y Lefiaid, ym meddiant meibion Israel, oedd wyth ddinas a deugain, a’u meysydd pentrefol.

21:42 Y dinasoedd hyn oedd bob un a’u meysydd pentrefol o’u hamgylch. Felly yr oedd yr holl ddinasoedd hyn.

21:43 A’r ARGLWYDD a roddodd i Israel yr holl wlad a dyngodd efe ar ei rhoddi wrth eu tadau hwynt: a hwy a’i meddiaassant hi, ac a wladychasant ynddi. 5 21:44 Yr ARGLWYDD hefyd a roddod lonyddwch iddynt hwy o amgylch, yn ôl yr hyn oll a dyngasai efe wrth eu tadau hwynt; ac ni safodd neb yn eu hwyneb hwynt o’u holl elynion; eu holl elynion a roddodd yr ARGLWYDD yn eu dwylo hwynt.

21:45 Ni phallodd dim o’r holl bethau da a lefarasai yr ARGLWYDD wrth dŷ Israel: daeth y cwbl i ben.

PENNOD 22 22:1 Yna Josua a alwodd y Reubeniaid a’r Gadiaid, a hanner llwyth Manasse,

22:2 Ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a gadwasoch yr hyn oll a orchmynnodd Moses gwas yr ARGLWYDD i chwi, ac a wrandawsoch ar fy llais yn yr hyn oll a orchmynnais i chwi.

22:3 Ni adawsoch eich brodyr, er ys llawer o ddyddiau bellach, hyd y dydd hwn; ond cadwasoch reol gorchymyn yr ARGLWYDD eich Duw.

22:4 Ac yn awr yr ARGLWYDD eich Duw a roddes esmwythdra i’ch brodyr, fel y llefarodd wrthynt: yn awr gan hynny trowch, ac ewch rhagoch i’ch pebyll, i wlad eich meddiant, yr hon a roddodd Moses gwas yr ARGLWYDD i chwi, o’r tu hwnt i’r Iorddonen.

22:5 Yn unig cedwch yn ddyfal ar wneuthur y gorchymyn a’r gyfraith a orch¬mynnodd Moses gwas yr ARGLWYDD i chwi; sef caru yr ARGLWYDD eich Duw, a rhodio yn ei holl ffyrdd ef, a chadw ei orchmynion ef, a glynu wrtho ef, a’i wasanaethu ef â’ch holl galon, ac â’ch holl enaid.

22:6 A Josua a’u bendithiodd hwynt, ac a’u gollyngodd ymaith. A hwy a aethant i’w pebyll.

22:7 Ac i hanner llwyth Manasse y rhoddasai Moses etifeddiaeth yn Basan; ac i’r hanner arall y rhoddodd Josua, gyda’u brodyr, tu yma i’r Iorddonen tua’r gorllewin. Hefyd pan ollyngodd Josua hwynt i’w pebyll, yna efe a’u bendithiodd hwynt;

22:8 Ac efe a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Dychwelwch â chyfoeth mawr i’ch pebyll, ag anifeiliaid lawer iawn, ag arian, ac ag aur, â phres hefyd, ac â haearn, ac â gwisgoedd lawer iawn: rhennwch â’ch brodyr anrhaith eich gelynion.

22:9 A meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a ddychwelasant, ac a aethant ymaith oddi wrth feibion Israel, o Seilo, yr hon sydd yng ngwlad Canaan, i fyned i wlad Gilead, i wlad eu meddiant hwy, yr hon a feddianasant, wrth orchymyn yr AR¬GLWYDD trwy law Moses.

22:10 A phan ddaethant i gyffiniau yr Iorddonen, y rhai sydd yng ngwlad Canaan, meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a adeiladasant yno allor wrth yr Iorddonen, allor fawr mewn golwg.

22:11 A chlybu meibion Israel ddy¬wedyd, Wele, meibion Reuben, a meib¬ion Gad, a hanner llwyth Manasse, a adeiladasant allor ar gyfer gwlad Canaan, wrth derfynau yr Iorddonen, gan ystlys meibion Israel.

22:12 A phan glybu meibion Israel hynny, yna holl gynulleidfa meibion Israel a ymgynullasant i Seilo, i ddyfod i fyny yn eu herbyn hwynt i ryfel.

22:13 A meibion Israel a anfonasant at feibion Reuben, ac at feibion Gad, ac at hanner llwyth Manasse, i wlad Gilead, Phinees mab Eleasar yr offeiriad,

22:14 A deg o dywysogion gydag ef, un tywysog o bob tŷ, pennaf trwy holl lwythau Israel; a phob un oedd ben yn nhŷ eu tadau, ymysg miloedd Israel.

22:15 A hwy a ddaethant at feibion Reuben, ac at feibion Gad, ac at hanner llwyth Manasse, i wlad Gilead; ac a ymddiddanasant â hwynt, gan ddywedyd, .

22:16 Fel hyn y dywed holl gynulleidfa yr ARGLWYDD, Pa gamwedd yw hwn a wnaethoch yn erbyn Duw Israel, gan ddychwelyd heddiw oddi ar ôl yr ARGLWYDD, pan adeiladasoch i chwi allor, i wrthryfela heddiw yn erbyn yr AR¬GLWYDD?

22:17 Ai bychan gennym ni anwiredd Peer, yr hwn nid ymlanhasom oddi wrtho eto hyd y dydd hwn, er bod pla ymysg cynulleidfa yr ARGLWYDD,

22:18 Ond bod i chwi droi ymaith heddiw oddi ar ôl yr ARGLWYDD? Ac am i chwi wrthryfela heddiw yn erbyn yr ARGLWYDD, efe a lidia yfory yn erbyn holl gynulleidfa Israel.

22:19 Ac od yw gwlad eich meddiant chwi yn aflan, deuwch drosodd i wlad medd¬iant yr ARGLWYDD, yr hon y mae tabernacl yr ARGLWYDD yn aros ynddi, a chymerwch feddiant yn ein mysg ni: ond na wrthryfelwch yn erbyn yr AR¬GLWYDD, ac na childynnwch i’n herbyn ninnau, trwy adeiladu ohonoch i chwi eich hun allor, heblaw allor yr ARGLWYDD ein Duw.

22:20 Oni wnaeth Achan mab Sera gam¬wedd, oherwydd y diofrydbeth, fel y bu digofaint yn erbyn holl gynulleidfa Israel? ac efe oedd un gŵr; eto nid efe yn unig a fu farw am ei anwiredd.

22:21 Yna meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a atebasant, ac a lefarasant wrth benaethiaid miloedd Israel;

22:22 ARGLWYDD DDUW y duwiau, AR¬GLWYDD DDUW y duwiau, efe sydd yn gwybod, ac Israel yntau a gaiff wybod, os mewn gwrthryfel, neu mewn camwedd yn erbyn yr ARGLWYDD y bu hyn, (na wareder ni y dydd hwn,)

22:23 Os adeiladasom i ni allor i droi oddi ar ôl yr ARGLWYDD, neu os offrymasom arni boethoffrwm, neu fwyd-offrwm, neu os aberthasom arni ebyrth hedd; yr ARGLWYDD ei hun a’i gofynno:

22:24 Ac onid rhag ofn y peth yma y gwnaethom hyn; gan ddywedyd, Ar ôl hyn eich meibion chwi a adroddant wrth ein meibion ninnau, gan ddywedyd, Seth sydd i chwi à wneloch ag AR¬GLWYDD DDUW Israel?

22:25 Canys yr ARGLWYDD a roddodd yr Iorddonen hon yn derfyn rhyngom ni a chwi: meibion Reuben, a meibion Gad, nid oes i chwi ran yn yr ARGLWYDD. Felly y gwnai eich meibion chwi i’n meibion ni beidio ag ofni yr ARGLWYDD.

22:26 Am hynny y dywedasom, Gan adeiladu gwnawn yn awr i ni allor: nid i boethoffrwm, nac i aberth;

22:27 Eithr i fod yn dyst rhyngom ni a chwi, a rhwng ein hiliogaeth ni ar ein hôl, i gael ohonom wasanaethu gwasanaeth yr ARGLWYDD ger ei fron ef, a’n poethoffrymau, ac a’n hebyrth, ac a’n hoffrymau hedd; fel na ddywedo eich meibion chwi ar ôl hyn with ein meibion ni, Nid oes i chwi ran yn yr ARGLWYDD.

22:28 Am hynny y dywedasom. Pan ddywedont hwy felly wrthym ni, neu wrth ein hepil ar ôl hyn, yna y dywedwn ninnau, Gwelwch lun allor yr ARGLWYDD, yr hon a wnaeth ein tadau ni, nid i boeth¬offrwm, nac i aberth; ond i fod yn dyst rhyngom ni a chwi.

22:29 Na ato Duw i ni wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD a dychwelyd heddiw oddi ar ôl yr ARGLWYDD; gan adeiladu allor i boethoffrwm, i fwyd-offrwm, neu i aberth, heblaw allor yr ARGLWYDD ein Duw yr hon sydd gerbron ei dabernacl ef.

22:30 A phan glybu Phinees yr offeiriad, a thywysogion y gynulleidfa, a phenaethiaid miloedd Israel y rhai oedd gydag ef, y geiriau a lefarasai meibion Reuben, a meibion Gad, a meibion Manasse, da oedd y peth yn eu golwg hwynt.

22:31 Phinees mab Eleasar yr offeiriad a ddywedodd wrth feibion Reuben, ac wrth feibion Gad, ac wrth feibion Manasse, Heddiw y gwybuom fod yr ARGLWYDD yn ein plith; oherwydd na wnaethoch y camwedd hwn yn erbyn yr ARGLWYDD: yn awr gwaredasoch feibion Israel o law yr ARGLWYDD.

22:32 Am hynny y dychwelodd Phinees mab Eleasar yr offeiriad, a’r tywysogion, oddi wrth feibion Reuben, ac oddi wrth feibion Gad, o wlad Gilead, i wlad Canaan, at feibion Israel, ac a ddygasant drachefn air iddynt.

22:33 A da oedd y peth yng ngolwg meibion Israel, a meibion Israel a fendithiasant DDUW, ac ni soniasant am fyned i fyny yn eu herbyn hwynt i ryfel, i ddifetha y wlad yr oedd meibion Reuben a meibion Gad yn preswylio ynddi.

22:34 A meibion Reuben a meibion Gad a alwasant yr allor Ed: canys tyst fydd hi rhyngom ni, mai yr ARGLWYDD sydd DDUW.

PENNOD 23 23:1 A darfu, ar ôl dyddiau lawer, wedi i’r ARGLWYDD roddi llonyddwch i Israel gan eu holl elynion o amgylch, i Josua heneiddio a myned mewn dyddiau.

23:2 A Josua a alwodd am holl Israel, am eu henuriaid, ac am eu penaethiaid, ac am eu barnwyr, ac am eu swyddogion; ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a heneiddiais ac a euthum yn oedrannus:

23:3 Chwithau hefyd a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw i’r holl genhedloedd byn, er eich mwyn chwi: canys yr ARGLWYDD eich Duw yw yr hwn a ymladdodd drosoch.

23:4 Gwelwch, rhennais i chwi y cenhedloedd hyn a adawyd, yn etifeddiaeth i’ch llwythau chwi, o’r Iorddonen, a’r holl genhedloedd y rhai a dorrais i ymaith, hyd y môr mawr tua’r gorllewin.

23:5 A’r ARGLWYDD eich Duw a’u hymlid hwynt o’ch blaen chwi, ac a’u gyr hwynt ymaith allan o’ch gŵydd chwi; a chwi a feddiennwch eu gwlad hwynt, megis y dywedodd yr ARGLWYDD eich DUW wrthych.

23:6 Am hynny ymwrolwch yn lew, i gadw ac i wneuthur y cwbl sydd ysgrifenedig yn llyfr cyfraith. Moses; fel na chilioch oddi wrthynt, tua’r llaw ddeau na thua’r llaw aswy;

23:7 Ac na chydymgyfeilloch â’r cenhedloedd yma, y rhai a adawyd gyda chwi; ac na chofioch enw eu duwiau hwynt, ac na thyngoch iddynt, na wasanaethoch hwynt chwaith, ac nac ymgrymoch iddynt:

23:8 Ond glynu wrth yr ARGLWYDD eich Duw, fel y gwnaethoch hyd y dydd hwn.

23:9 Canys yr ARGLWYDD a yrrodd allan o’ch blaen chwi genhedloedd mawrion a nerthol: ac amdanoch chwi, ni safodd neb yn eich wynebau chwi hyd y dydd hwn.

23:10 Un gŵr ohonoch a erlid fil: canys yr ARGLWYDD eich Duw yw yr hwn sydd yn ymladd drosoch, fel y llefarodd wrthych.

23:11 Ymgedwch gan hynny yn ddyfal ar eich eneidiau, ar i chwi garu yr AR¬GLWYDD eich Duw.

23:12 Canys, os gan ddychwelyd y dychwelwch, ac yr ymlynwch wrth weddill y cenhedloedd yma, y rhai a adawyd gyda chwi; os ymgyfathrechwch â hwynt, ac os ewch i mewn atynt hwy, a hwythau atoch chwithau:

23:13 Gan wybod gwybyddwch, na yrr yr ARGLWYDD eich Duw y cenhedloedd hyn mwyach allan o’ch blaen chwi; ond byddant i chwi yn fagl ac yn dramgwydd, ac yn ffrewyll yn eich ystlysau, ac yn ddrain yn eich llygaid, nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma yr hon a roddodd yr ARGLWYDD eich Duw i chwi.

23:14 Ac wele fi yn myned heddiw i ffordd yr holl ddaear: a chwi a wyddoch yn eich holl galonnau, ac yn eich holl eneidiau, na phallodd dim o’r holl bethau daionus a lefarodd yr ARGLWYDD eich Duw amdanoch chwi; hwy a ddaethant oll i chwi, ac ni phallodd dim ohonynt.

23:15 Ac fel y daeth i chwi bob peth daionus a addawodd yr ARGLWYDD eich Duw wrthych; felly y dwg yr ARGLWYDD arnoch chwi bob peth drygionus, nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma a roddodd yr ARGLWYDD eich Duw i chwi.

23:16 Pan droseddoch gyfamod yr AR¬GLWYDD eich Duw, a orchmynnodd efe i chwi, a myned a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt; yna y llidia digofaint yr ARGLWYDD yn eich erbyn chwi, ac y cyfrgollir chwi yn ebrwydd o’r wlad dda yma a roddodd efe i chwi.

PENNOD 24 24:1 A Josua a gynullodd holl lwythau Israel i Sichem; ac a alwodd am henuriaid Israel, ac am eu penaethiaid, ac am eu barnwyr, ac am eu swyddogion: a hwy a safasant gerbron Duw.

24:2 A dywedodd Josua wrth yr holl bobl, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel; Tu hwnt i’r afon y trigodd eich tadau chwi gynt, sef Tera tad Abraham, a thad Nachor: a hwy a wasanaethasant dduwiau dieithr.

24:3 Ac mi a gymerais eich tad Abraham ymaith o’r tu hwnt i’r afon, ac a’i harweiniais ef trwy holl wlad Canaan, ac a amlheais hefyd ei had ef, ac a roddais iddo Isaac.

24:4 Ac i Isaac y rhoddais Jacob ac Esau: ac i Esau y rhoddais fynydd Seir i’w etifeddu; ond Jacob a’i feibion a aethant i waered i’r Aifft.

24:5 A mi a anfonais Moses ac Aaron, ac a drewais yr Eifftiaid, yn ôl yr hyn a wneuthum yn eu mysg: ac wedi hynny y dygais chwi allan,

24:6 Ac a ddygais eich tadau chwi allan o’r Aifft: a chwi a ddaethoch at y môr; a’r Eifftiaid a erlidiodd ar ôl eich tadau â cherbydau, ac â gwŷr meirch, hyd y môr coch.

24:7 A phan waeddasant ar yr ARGLWYDD, efe a osododd dywyllwch rhyngoch chwi a’r Eifftiaid, ac a ddug y môr arnynt hwy, ac a’u gorchuddiodd: eich llygaid chwi a welsant yr hyn a wneuthum yn yr Aifft: trigasoch hefyd yn yr anialwch ddyddiau lawer.

24:8 A mi a’ch dygais i wlad yr Arnoriaid, y rhai oedd yn trigo o’r tu hwnt i’r Iorddonen; a hwy a ymladdasant i’ch erbyn: a myfi a’u rhoddais hwynt yn eich llaw chwi, fel y meddianasoch eu gwlad hwynt; a minnau a’u difethais hwynt o’ch blaen chwi.

24:9 Yna Balac mab Sippor brenin Moab, a gyfododd, ac a ryfelodd yn erbyn Israel; ac a anfonodd, ac a alwodd am Balaam mab Beor, i’ch melltigo chwi.

24:10 Ond ni fynnwn i wrando ar Balaam; am hynny gan fendithio y bendithiodd efe chwi: felly y gwaredais chwi o’i law ef.

24:11 A chwi a aethoch dros yr Iorddonen, ac a ddaethoch i Jericho: a gwŷr Jericho a ymladdodd i’ch erbyn, yr Amoriaid, a’r Pheresiaid, a’r Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Girgasiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid; a mi a’u rhoddais hwynt yn eich llaw chwi.

24:12 A mi a anfonais gacwn o’ch blaen chwi, a’r rhai hynny a’u gyrrodd hwynt allan o’ch blaen chwi; sef dau frenin yr Amoriaid: nid â’th gleddyf di, ac nid â’th fwa.

24:13 A mi a roddais i chwi wlad ni lafuriasoch amdani, a dinasoedd y rhai. nid adeiladasoch, ac yr ydych yn trigo ynddynt: o’r gwinllannoedd a’r olewlannoedd ni phlanasoch, yr ydych yn bwyta ohonynt.

24:14 Yn awr gan hynny ofnwch yr ARGLWYDD, a gwasanaethwch ef mewn perffeithrwydd a gwirionedd, a bwriwch ymaith y duwiau a wasanaethodd eich tadau o’r tu hwnt i’r afon, ac yn yr Aifft; a gwasanaethwch chwi yr AR¬GLWYDD.

24:15 Ac od yw ddrwg yn eich golwg wasanaethu yr ARGLWYDD, dewiswch i chwi heddiw pa un a wasanaethoch, ai y duwiau a wasanaethodd eich tadau, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r afon, ai ynteu duwiau yr Amoriaid, y rhai yr ydych yn trigo yn eu gwlad: ond myfi, mi a’m tylwyth a wasanaethwn yr ARGLWYDD.

24:16 Yna yr atebodd y bobl, ac y dywedodd, Na ato Duw i ni adael yr AR¬GLWYDD, i wasanaethu duwiau dieithr;

24:17 Canys yr ARGLWYDD ein Duw yw yr hwn a’n dug ni i fyny a’n tadau o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed; a’r hwn a wnaeth y rhyfeddodau mawrion hynny yn ein gŵydd ni, ac a’n cadwodd ni yn yr holl ffordd y rhodiasom ynddi, ac ymysg yr holl bobloedd y tramwyasom yn eu plith:

24:18 A’r ARGLWYDD a yrrodd allan yr holl bobloedd, a’r Amoriaid, preswylwyr y wlad, o’n blaen ni: am hynny ninnau a wasanaethwn yr ARGLWYDD; canys efe yw ein Duw ni.

24:19 A Josua a ddywedodd wrth y bobl, Ni ellwch wasanaethu yr ARGLWYDD; canys Duw sancteiddiol yw efe: Duw eiddigus yw; ni ddioddef efe eich anwiredd, na’ch pechodau.

24:20 O gwrthodwch yr ARGLWYDD, a gwasanaethu duwiau dieithr; yna efe a dry, ac a’ch dryga chwi, ac efe a’ch difa chwi, wedi iddo wneuthur i chwi ddaioni.

24:21 A’r bobl a ddywedodd wrth Josua, Nage; eithr ni a wasanaethwn yr AR¬GLWYDD,

24:22 A dywedodd Josua wrth y bobl, Tystion ydych yn eich erbyn eich hun, ddewis ohonoch i chwi yr ARGLWYDD i’w wasanaethu. Dywedasant hwythau, Tyst¬ion ydym.

24:23 Am hynny yn awr (eb efe) bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich mysg, a gostyngwch eich calon at AR¬GLWYDD DDUW Israel.

24:24 A’r bobl a ddywedasant wrth Josua, Yr ARGLWYDD ein Duw a wasanaethwn, ac ar ei lais ef y gwrandawn.

24:25 Felly Josua a wnaeth gyfamod â’r bobl y dwthwn hwnnw, ac a osododd iddynt ddeddfau a barnedigaethau yn Sichem.

24:26 A Josua a ysgrifennodd y geiriau hyn yn llyfr cyfraith DDUW, ac a gymerth faen mawr, ac a’i gosododd i fyny yno dan dderwen oedd yn agos i gysegr yr ARGLWYDD.

24:27 A Josua a ddywedodd wrth yr holl bobl, Wele, y maen hwn fydd yn dystiolaeth i ni; canys efe a glywodd holl eiriau yr ARGLWYDD, y rhai a lefarodd efe wrthym: am hynny y bydd efe yn dystiolaeth; i chwi, rhag i chwi wadu eich Duw.

24:28 Felly Josua a ollyngodd y bobl, bob un i’w etifeddiaeth.:

24:29 Ac wedi’r pethau hyn, y bu.farw Josua mab Nun, gwas yr ARGLWYDD, yn fab dengmlwydd a chant.

24:30 A hwy a’i claddasant ef yn nherfyn ei etifeddiaeth, o fewn Timnath-sera; yr hon sydd ym mynydd Effraim, O du y gogledd i fynydd Gaas.

24:31 Ac Israel a wasanaethodd yr AR¬GLWYDD holl ddyddiau Josua, a: holl ddyddiau yr henuriaid a fu fyw ar ôl Josua, ac a wybuasent holl waith yr ARGLWYDD a wnaethai efe er Israel.

24:32 Ac esgyrn Joseff, y rhai a ddygasai meibion Israel i fyny o’r Aifft, a gladdasant hwy yn Sichem, mewn rhan o’r maes a brynasai Jacob gan feibion Hemor tad Sichem, er can darn o arian; a bu i feibion Joseff yn etifeddiaeth.

24:33 Ac Eleasar mab Aaron a fu farw: a chladdasant ef ym mryn Phinees ei fab, yr hwn a roddasid iddo ef ym mynydd Effraim.