Beirdd y Bala/Cywydd Llyn Tegid

Pobl y Bala yn 1792 Beirdd y Bala

gan Morris ap Rhobert


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Llyn Tegid


Llyn Tegid.[1]


Maint Llyn Tegid
MYFI ar lan hafan hir
Dŵr rhyfedd. diau rhifir
Tair mílldir o dir da,
Wych iawn fodd, o'i gychwnfa
'R hyd aber, rwy'n rhyw dybied,
A milldir a lwfir o led.

Tonnau'r lan
Daethum, wrth ryw ymdeithio
Ar ddrycin, i'w fin fo;
Gwelwn donn, geulan dene,
Yn troi i'r lan tan oer le;
A thonn o'i hol, ffrwythol ffres,
Ar ddwad i'w gorddiwes;
A'r drydcdd oedd, floedd flin
Nod aiaith, yno i'w dilin;
Bob yn un, bu boen anian,
Tra mawr lu, yn tramwy i'r lan

Pan elai, mewn poen eilwaith,
Dau naw mil o donnau maith;
'Roedd rhyfedd arwydd rhyfawr
Yr ugain mwy o'r eigion mawr.

Y donn olaf.
Tair ias drom, teriais dro
Yn hwyr iawn yn hir yno
I weled gwedd a diwedd da,
Weithian, y donn ddiwaetha;
Tariwn i hyd hwyr nos
O'i herwydd yno i'w haros;
Nid oedd, orfaith helaeth hynt,
Ddu ddyrnod, ddiwedd arnynt.

Llyn Arall.
Ag ar hyn o gywir hanes,
Cyfleusdra ag odfa a ges
I fyfyrio, tro trwch,
Dyddie'r annedwyddwch
A geiff y dyn cyndyn cas,
A soddwyd gyda Suddas.

Dull y llyn hwnnw.
Gwyliwn byth, gwae el o 'r byd,
I ddalfa tragwyddolfyd
Lle mae'r boen, llwm arw bant,
Archoll gwŷn, erchyll geunant;
Llyn du o dân, llanw di-dorr,
Gwae gan dyn y gagendor;
Llwyr wael fodd, lle'r ail fyd,
Llithrigfa llwyth o ddrygfyd;
Pwll y diawlied, pell y delom,
Bob un draw o'i boen drom;
Pair o dân, pwy red yno,
Dan y gwae, ond dyn o'i go?

Gwae a rediff, garw ydyw,
I gefn tân digofaint Duw;
Wylofain, llefain hyll wedd,
Rhwnc yn dynn, rhincian dannedd
Oerfel trwm ar fil tru,
A rhew anwyd i'w rhynnu;
A gwres byth, lle cras boethan,
Uthrol a dieithrol dân;
A'u dwylaw a'u traed, dial trwm,
Yno i'w cael yn un cwlwm;
Mewn tân, brwmstan, a braw,
Cythreuliaid yn caeth riwliaw;
Yn suddo'n syth byth tra bôn,
Dyna fisdiff, dan y faesdon;
Heb liw dydd, heb le diddan,
Heb lawnt teg, heb wely ond tân;
Heb loer, heb ddŵr oer, aruth',
Heb ffrwyth ŷd funud fyth.

Galar y Llyn Tan
Wylant hwy fwy na môr,
A'u llyged fel hyll ogor,
Yn hidlo dagre'n hedli,
Tragwyddol a greddfol gri
Enaid a chorff heb orffwys,
A'u barn fydd arnynt yn bwys.

"Byth " a Chydwybod.
Ond dau beth, i'm tyb i,
Swydde pen, sydd i'm poeni,—
Y gair "Byth," gwae oer 'u bod,
Och didwyll, a Chydwybod.
Gofynnant, yn gyfan gaeth,
I Gydwybod mawr nod-maeth,—

"Ai byth y rhoddwyd ein barn
O cywir gadael cwyn gadarn?"
Cydwybod fel mil yn ddilyth,
Ddiwid boen, a ddywed "Byth."
"Ti wyt yn siwr yn datsain
Crug lef fel carreg lefain;
Cwyno raid mai cnoi'r ydwyt,
Cry fwystfil di-eiddil wyt,
Blaenllym llais, yn llawn dig,
Blin waew heb le i'w newid,
Na gobaith, Duw sy'n gwybod,
Draw er hyn droi y rhod."
" Gweli yn hir, galon haearn,
Odfa ferr wedi'r farn,
Munudie fel dyddie ar donn,
Ag orie fel misoedd geirwon,
A phob mis, gwyddis ar goedd,
Blin addfed, fel blynyddoedd,
A blynyddoedd fel oesoedd ysig
Dan wialen Duw yn llawn dig,
Ag oesoedd yn filoedd a fâi,
A'u tyniad fel y tonnau;
Godde'n dynn, gweiddi'n dost,
Melldithio'r man lle daethost;
Rhegi'r dydd, oer ludd, ar led.
A'th einioes gynta i'th aned;
Rhegi'th fam, rhy gaeth fodd,
Was gerwin, a'th esgorodd;
Crêu am angeu tene tau,
Er dibenu dy boenau;
Ni wna Ange a'i gledde glas
Gam yno o gymwynas;
Ond byw sydd raid, fy enaid, fyth,
Distyrrwch sy dost aruth;

Angylion, a dynion da,
A'th Dduw wedi, a'th wawdia
Am wrthod dydd rhydd rhad
Ei drugaredd a'i gariad."

Apel y Bardd.
Clyw, ddyn, rhag cwilydd wyneb,
Weithian wyt waeth na neb;
Ai carreg dan freudeg fron,
Dew galed, yw dy galon?
Ai cyff o bren, coffa heb raid,
Plwm dinerth, ple mae d' enaid?
Ai 'nifel gwâr isel gresyn,
Arwydd dost, ar wedd dyn?
Ystyria yn awr, os dyn wyd,
A dewis yn fwy diwyd;
Ofna'r boen yn fawr byth,
Uffern erwin a'r ffwrn aruth';
Ofna Dduw yn fwy, O ddyn,
A dechre cyn amser dychryn;
Gwylia ymroi, galw am ras,
Cei feddyg fo cyfaddas;
Rhed ato, mae'n rhaid iti,
Galw'n llym, ag wyla'n lli;
A dwed,—"Arglwydd rhwydd rhoddfawr,
O madde i mi 'meie mawr;
Clyw weithian un cla athrist
Yma yn crêu, er mwyn Crist,
Am f'achub o'm haflan fuchedd
Cyn y bwy acw'n y bedd;
Na ollwng fi o'th law allan
I uffern dost a'r ffwrn dân."

Morris ap Rhobert a'i Cant.

Nodiadau golygu

  1. Ar ddechreu'r ddeunawfed ganrif yr oedd y saer crefyddol a llengarol Morris ab Rhobert y cynrychioli yn y Bala deimlad. y Diwygiad Puntanaidd, i ddeffro drachefn, wedi ei farw of yn 1723. gyda'r diwygwyr Methodistaidd, —ei fab yng nghyfraith John Evans, &c. Gweler ychwaneg o'i waith yng nghyfrol Beirdd y Berwyn. Ni pheidiodd ei ddylanwad dwys ar feirdd y Bala, y maent bron oll wedi ysgrifennu peth o'i waith yn eu llyfrau.