Beirdd y Bala/Llyn Tegid

Cywydd Llyn Tegid Beirdd y Bala

gan Edward Samuel


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Eisteddfod y Bala—1738


Llyn Tegid.

Pe buasai'r Llyn goleuwyn gynt
Yn gwrw bir uwch gwarr y Bont;
Y beirdd heirdd dibrudd eu hynt
Hyfoesawl a'i hyfasant.

Mawr y drwg mae'r darogan—helbulus[1]
Am y Bala druan;
Y daw'r môr drwy y Marian,
A'i ddwr fyth i foddi'r fann.

Gwrandewch o mynnwch i mi—rhag angcn
Roi rhyw gyngor ichwi,
I gadw hon, Duw gyda hi,
Rhag diliw rhawg i'w delwi.

Gwna'r Llyn yn gerwyn i gyd,—a berw
A bwrw frâg hefyd,
A galw'r beirdd gloewa o'r byd
Ddewis budd i'w ddisbyddu.

Y gwŷr hyn sy gywreiniach—na Dewi
Os deuant i gyfeddach;
Ar ei lann pa rai lonnach,
Mi a wranta 'r Bala bach.

EDWARD SAMUEL[2]

Nodiadau

golygu
  1. Dywedir fod yr hen Fala dan Lyn Tegid, ac y clywir swn y clychau'n dod drwy'r tonnau. Mae hen ddarogan hefyd y daw'r llyn dros y dref eto,
    Y Bala aeth, a'r Bala aiff,
    A Llanfor aiff yn llyn.'
    .
  2. Gwelodd Edward Samuel (1674-1748) Lyn Tegid aml dro, mae'n ddianeu, pan yn berson yn Metws Gwerfil Goch a Llangar. Cefais yr unglynion hyn gan Myrddin Fardd.