Beirdd y Bala/Gaeaf ar y Berwyn

Eisteddfod y Bala—1738 Beirdd y Bala

gan G ab Ieuan


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Cywydd yr Haf


G. AB IEUAN.

[Dyma ddarnau o un o ysgriflyrau Rowland Huw. Ysgrifenwyd ar ddiwedd Cywydd yr Haf—'G. ab Ieuan, Bala, a'i cant; yr unfed flwyddyn ar bymtheg o'i oedran']

i. GAEAF AR Y BERWYN

BERWYN, glaerwyn ei glog—gan eira
Gwyn-oer, mae'n afrywiog;
Helaeth, heb fawr le haulog,
Ni chan gan eos na chog

Llydan yw’r mynydd lledoer—maith unig,
Amwyth iawn a phuroer;
Nid rhywiog ennyd rhew-oer
Bwrw niwl ar y Berwyn oer

Oer ddwl oedd nifwl y nos,—a minnau
Am ennyd o ddiddos ;
Oer iawn wg eira ’n agos,
A rhew ar fynydd a rhos.


Nodiadau

golygu