Beryl Beryl

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Pennod II

BODOWEN

BERYL

I.

Onid yw'r meddwl ambell dro,
Yn mynd o flaen ei awr?
Gan ddal ar ryw yfory sydd
Heb eto ddod i wawr?
—ELFED.

LLE hyfryd i fyw ynddo oedd Bodowen. Safai ar lethr, tua lled cae o'r ffordd fawr sydd rhwng Tregwerin a Llanilin. Y mae gwlad hardd iawn yn y rhan hon o Gymru. Dolydd teg a bryniau coediog a welir ar bob llaw; a'r Afon, sydd yma bron ar ddechrau ei gyrfa, yn siriol redeg trwy'r gwastadedd obry.

Yr oedd y tŷ ei hun a phopeth o'i gylch yn hardd iawn hefyd. Yr oedd lawnt eang o'i flaen, a blodau, a choed byth-wyrdd, a llwybrau glân, a meinciau. Muriau o gerrig glas oedd iddo, a'i ffenestri yn rhai bwâog mawr. Pan welai pobl ddieithr ef o'r ffordd fawr, gofynnent, "Plas pwy yw hwn'na?" Edrychai yn union fel plas bychan. Y Parch. Owen Arthur, gweinidog Brynilin a'r Wern, a'i deulu, oedd yn byw ynddo.

Yr oedd mis Mai yn bythefnos oed, ond er hynny, chwythai awel oer o'r dwyrain nes gwneud tân yn felys fin hwyr. Felly y teimlai Beryl, wrth syllu arno'n freuddwydiol, ac anghofio ei llyfr ysgol, a oedd yn agored ar ei harffed. Gan fod Arholiad Uchaf yr Ysgol Sir yn agos, cawsai hi ganiatâd i aros gartref i astudio. Aethai Mr. a Mrs. Arthur, Eric a Nest, a Let y forwyn, i'r cyfarfod gweddi. Yr oedd yr efeilliaid,—Geraint ac Enid,— yn y gwely. Dim ond tair blwydd oed oeddynt hwy. Caent fynd i'r gwely bob nos am chwech o'r gloch.

Er iddi gael cyfle mor braf i astudio, cyffesai Beryl wrthi ei hun gyda chywilydd ei bod wedi gwastraffu rhan fawr o'r amser i syllu i'r tân a breuddwydio. Nid yn aml yr oedd Beryl yn ddiog, ond yr oedd bob amser yn rhy hoff o freuddwydio.

Gwenai wrth feddwl am ei breuddwyd. Flynyddoedd yn ôl, pan nad oedd Beryl ond deg oed,—yr oedd yn awr yn un ar bymtheg,— bu gŵr a gwraig o ardal y Wern farw yr un wythnos, a gadael tri o blant bychain ar eu hôl. Buwyd yn methu â deall pa beth i wneud â'r tri phlentyn. Nid oedd yr hynaf ond chwech oed, ac nid oedd ganddynt berthnasau agos. Wedi llawer o feddwl a threfnu gan gymdogion a chyfeillion, cymer- wyd y tri bach gan dri o deuluoedd i'w magu. Bu'n rhaid eu gwahanu felly. Digwyddai Beryl fod gyda'i thad yng nghartref y plant pan ddaethpwyd i gyrchu Idwal, y baban dwyflwydd oed. Tra fyddai byw, nid anghofiai mo'r gwahanu hwnnw. Yr oedd y tad a'r fam newydd yn bobl dyner a charedig, ac nid Idwal a wylai. Ei frawd bychan a'i chwaer oedd ar dorri eu calonnau.

Un dyner-galon iawn oedd Beryl. Methai â gollwng y tri bychan o'i meddwl. Enbyd oedd gweld eu gwasgaru. Pam na allesid cael rhywun i'w magu gyda'i gilydd? Dechreuodd ddychmygu amdani ei hun yn gwneud rhan mam â hwynt, yn byw gyda hwynt yn eu cartref yn y Gelli. Dyna ddiwyd a hapus y byddai! Dyna hoff ohoni y byddai'r tri phlentyn! Dyna lân y byddai'r tŷ! Fe'i gwelai ei hun yn cario Idwal i'w wely, ei freichiau tewion yn dynn am ei gwddf. Fe'i gwelai ei hun ar brynhawnau yn mynd ag ef yn ei gerbyd bach, a Lil yn cerdded wrth ei hochr, i gwrdd â Gwilym yn dyfod o'r ysgol. Fe'i gwelai ei hun yn dysgu a hyfforddi'r tri bach, a hwythau bob amser yn ufudd iddi ac yn barchus ohoni. O ba le y deuai'r arian? Ni ddaethai hynny na dim anhyfryd arall i gymylu'r breuddwyd.

Arhosodd y breuddwyd gyda Beryl am ddyddiau, wythnosau, a misoedd. Pan fyddai wrth ei gwersi yn yr ysgol, llithrai ei meddwl i'r Gelli, ac fe'i câi ei hun yn golchi'r llestri neu yn glanhau'r pentanau. Ni wnaethai Beryl erioed lawer o waith felly. Yr oedd morwyn fawr ym Modowen at waith y tŷ.

Aethai chwe blynedd heibio oddi ar hynny. Yn ystod y gwanwyn hwn, ac Arholiad yr Ysgol Sir wrth y drws, daethai'r breuddwyd yn ôl drachefn mor ffres ag erioed. Beth pe deuai ei thad a'i mam i wybod! Dywedent hwy wrthi'n aml ei bod yn rhy hoff o adael i'w meddwl grwydro. Tybient, yn ddiau, mai meddwl am fywyd yn y coleg neu am rywbeth mwy disglair fyth a wnâi. A hithau mewn dychymyg yn gweithio'n galed mewn tŷ bach, ac yn ymboeni gyda thri o blant ! Beth pe deuai Eric a Nest i wybod! Dyna ddifyrrwch a gaent!

Clywodd sŵn agor a chau yr iet fach. Cododd ei llyfr yn frysiog. Ymddangosai yn ddiwyd iawn pan ruthrodd Eric a Nest i mewn fel ebolion. Penliniasant, un bob ochr iddi, ar y mat. Cydiodd Eric yn ei llyfr. Darllenodd baragraff ohono â llais uchel, drwy ei drwyn, yn union fel y gwnâi un o athrawon yr ysgol. Protestiai Beryl a chwarddai Nest yn ddilywodraeth. Aeth y lle oedd gynnau mor dawel yn llawn terfysg.

"Nid plant fel hyn a fyddai fy mhlant i," meddyliai Beryl. "Eric," ebe hi yn ddistaw, ond yn awdurdodol, heb lwyr ddyfod allan o'i breuddwyd, "dewch â'r llyfr yna'n ôl ar unwaith, ac ewch o'm golwg nes dysgu bod yn gallach."

Yn hytrach nag ufuddhau ar unwaith, dywedodd Eric yr un geiriau ar ei hôl, a dynwared ei llais a'i gwedd. Gwnaeth hynny lawer gwaith nes clywed sŵn ei dad a'i fam yn dyfod at y tŷ. Yna gadawodd ei ffolineb yn sydyn, rhoes y llyfr ar y ford, ac edrych ar Beryl gyda gwên agored, ddiwenwyn. A maddeuodd Beryl iddo fel y gwnâi bob amser.

Nodiadau golygu