Pennod I Beryl

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Pennod III

II.

Tyrd yn ôl am dro, hen ffrind,
I'r llwybrau gynt gerddasom.
ELFED.

"WEL, dyma newydd hyfryd!" ebe Mr. Arthur wrth ei wraig bore trannoeth pan ddarllenai ei lythyrau. "A ydych yn cofio Goronwy Pantgwyn?

"Ifan Goronwy? Ydwyf, yn wir, yn ei gofio'n iawn," ebe Mrs. Arthur. "Beth amdano? Ai yn America y mae o hyd?"

"Y mae yn y wlad hon oddi ar ddechrau'r flwyddyn. Yn Llundain y mae wedi bod, wrth gwrs. Gwyddoch fod ganddo fusnes fawr yn New York. Wel, y mae ar ddychwelyd."

"Ac y mae'n dod yma?" ebe Mrs. Arthur yn gyffrous.

"Ydyw. Y mae ganddo neges i Lanilin heddiw, a daw yma rywbryd yn y prynhawn. Darllenwch y llythyr."

"Wel, yn wir, bydd yn dda gennyf weld Ifan eto wedi'r holl flynyddoedd. Pa faint o amser sydd er pan welsom ef?"

"Trannoeth i ddydd ein priodas ni yr aeth i America, onid e?" ebe Mr. Arthur.

"Druan ag Ifan!" ebe Mrs. Arthur, a darllen y llythyr,—" Byddaf yn hwylio bore Iau. Gan fod yn rhaid imi ddyfod i Lanilin, hoffwn eich gweld, os yw hynny'n bosibl. Dof heibio beth bynnag, rywbryd yn y prynhawn." "Gan mai bore Iau yr hwylia, efallai y gallai aros yma heno," ebe Mr. Arthur.

"O ie, bid siwr, rhaid inni beri iddo aros. Bydd gennym ein tri lawer iawn i adrodd wrth ein gilydd. Wn i sut mae'r blynyddoedd wedi ymddwyn tuag ato! Druan ag Ifan!"

"Y mae'n gyfoethog, beth bynnag. Y mae ei fodur a'i yrrwr gydag ef yn y wlad hon. Efallai ei fod yn filiynydd. Pwy a ŵyr? Rhaid ichwi beidio â dweud 'Druan ag Ifan! o hyd."

Meddwl amdano fel yr oedd ugain mlynedd yn ôl wyf fi. Y mae'n anodd meddwl amdano'n ddyn pwysig a chyfoethog."

Meddwl amdanom ninnau fel yr oeddem y pryd hwnnw y mae yntau, yn ddiau. Yr wyf yn edrych ymlaen gyda phleser am ei weld a chael ymddiddan ag ef."

****

Pan ddaeth Nest adref o'r Ysgol Elfennol, ac Eric a Beryl o'r Ysgol Sir, mawr oedd eu syndod o weld modur mor ardderchog ei olwg wrth y tŷ, a deall fod ei berchen,—y dyn o America,—yn yfed te gyda'u tad a'u mam. Y dyn â'r gôt wen a'r cap gwyn a welsent ar yr heol cyn dyfod at y tŷ oedd y gyrrwr. Dywedodd Let wrthynt ei fod ef wedi cael ei de ac wedi mynd am dro. Wedi iddynt hwythau gael eu bwyd a'u gwneud eu hunain yn drwsiadus, cawsant fynd i weld y gŵr dieithr.

Deallasant ar unwaith mai dyn rhagorol oedd, oherwydd un o'r pethau cyntaf a ddywedodd wrthynt wedi ysgwyd dwylo oedd: "Nawr, pwy garai ddod am dro yn y modur?"

Gan mai'r prynhawn hwnnw oedd unig gyfle'r tri a oedd yn yr ysgol, trefnwyd eu bod hwy a'u mam a Mr. Goronwy i fynd. Câi Mr. Arthur gyfle trannoeth. Nid oedd Geraint ac Enid yn ddigon hen i gael mwynhad mewn modur.

Y mae'r dydd yn hir ym mis Mai, a Natur yn ei gogoniant. Cawsant amser braf. Cafodd Eric eistedd tu flaen gyda'r gyrrwr. Er ei bod yn chwech o'r gloch arnynt yn cychwyn, aethant hyd Aberilin,—pellter o ugain milltir. Cawsant awr o amser i aros yno ar lan y môr, ac yr oeddynt yn ôl drachefn am hanner awr wedi wyth.

Penderfynodd Eric y byddai yntau, ryw ddydd, yn berchen modur hardd fel hwnnw.

Cafodd y tri aros ar lawr y noson honno hyd ddeg o'r gloch, a chawsant hefyd adael eu gwersi, er y gwyddent hwy a'u rhieni y byddai'n rhaid talu am hynny rywbryd. Ond efallai na châi neb ohonynt fod yng nghwmni Mr. Goronwy eto. Byddai Môr Iwerydd rhyngddynt ymhen ychydig ddyddiau, ac nid oedd gan Mr. a Mrs. Arthur ddim gwerthfawrocach na'u plant i'w ddangos i'w hen ffrind.

Yr oedd Eric, erbyn hyn, yn hollol rydd yng nghwmni'r gŵr dieithr. Holai a chroesholai ef am America, am New York, ac am ei waith. Dywedai, fel pe na bai amheuaeth o gwbl ynghylch y peth, y byddai yntau yn ddyn cyfoethog ryw ddydd. Doctor oedd ef yn mynd i fod, ond nid doctor cyffredin, wrth gwrs. Byddai'n sicr o ddyfeisio rhywbeth pwysig, a deuai arian mawr iddo drwy hynny.

Nid oedd meddyliau am na gwaith na bri na dim arall yn y dyfodol yn blino dim ar Nest. Yr oedd y presennol yn ddigon iddi hi. Yr oedd pawb yn ei charu. Edrychai ei llygaid glas, siriol, yn ffyddiog ar bawb. Yr oedd yn ferch fach hardd iawn. Diau y gwyddai hynny. Yr oedd pawb a'i gwelai yn rhy barod i ddywedyd hynny wrthi, ond nid oedd y wybodaeth, hyd yn hyn, wedi tynnu dim oddi wrth ei naturioldeb a'i swyn.

Un ddistaw mewn cwmni oedd Beryl. Edrychai o'i blaen fel petai ei meddwl rywle ymhell. Efallai fod mwy o dlysni yn wyneb Nest, ond yr oedd rhywbeth yn wyneb Beryl a barai i un edrych arni'n hir heb flino. Tywyll oedd ei llygaid, a thywyll a llyfn oedd ei gwallt. Dywedai ei chlustiau bychain a'i gwefusau hanner crynedig ei bod yn fyw i deimladau eraill tuag ati. Hanner ofnus oedd ei threm hi ar y byd. Nid oedd yn siwr fod neb yn ei charu hi fel y carent Nest, ac fel y carai hithau hi. Ond yr oedd rhyw urddas tawel, a rhyw olau yn ei gwedd, fel a welir mewn darluniau o'r Forwyn Fair.

Wedi iddynt hwy eu tri ddywedyd "Nos Da" wrth y gŵr dieithr o America, bu Mr. a Mrs. Arthur a'u hen ffrind yn siarad am yr amser gynt ac am lawer o bethau eraill hyd oriau mân y bore.

Nodiadau golygu