Pennod V Beryl

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Pennod VII

VI.

Ar y ffordd rosynnog honno
A gerddasom hanner oes,
Ryw brynhawn ymhlith y blodau
Gwelwn drom a garw groes.
—EIFION WYN.

EISTEDDAI Beryl ymhlith eraill yn ysgol Tregwerin yn ysgrifennu ei phapur olaf yn arholiad y Matriculation. Ysgrifennai'n gyflym, fel petai hi mewn brys i orffen. Weithiau codai ei phen a syllu o'i blaen yn fyfyriol, a gwên ar ei hwyneb. Gwyddai ei phwnc yn dda, a gallai fforddio ambell funud felly, ac yr oedd ganddi lawer o bethau hyfryd i feddwl amdanynt.

Ymhen rhyw hanner awr arall byddai ei thymor yn yr Ysgol Sir ar ben. Dyna un cyfnod mewn bywyd wedi ei fyw! Yr oedd wythnosau hir o wyliau o'i blaen, ac yna'r Coleg. Nid oedd amheuaeth yn ei meddwl na byddai'n llwyddiannus yn yr arholiad. Yr oedd wedi bod trwy lawer arholiad erbyn hyn heb fethu unwaith, ac yr oedd y cwestiynau eleni'n hawdd iddi hi. Dyna felys a fyddai tymor hir o seibiant ar ôl astudio caled!

Yr oedd sŵn prysurdeb mawr yn yr ystafell, —sŵn ysgrifennu dyfal, pinnau ysgrifennu'n taro'n erbyn y llestri inc, prennau mesur yn disgyn ar y desgiau, ambell besychiad gwan ac ambell ochenaid. Daeth athrawes ieuanc i mewn trwy'r drws, aeth yn ddistaw at yr athro a eisteddai wrth ei ddesg a sibrwd rhywbeth wrtho. Yna edrychodd y ddau i gyfeiriad Beryl. Plygodd Beryl at ei gwaith drachefn. Cyn hir, daeth yr athro ati, edrychodd dros ei hysgwydd ar ei gwaith. Yna sibrydodd, a gwên dyner iawn ar ei wyneb,—

"Bron â gorffen?"

Dangosodd Beryl iddo ei bod wrth y cwestiwn olaf.

"Dewch â'ch papurau i mi wedi ichwi orffen," ebr ef. Edrychodd ar ei oriawr, ac aeth yn ôl at ei ddesg.

Yr oedd Beryl yn un o ysgolheigion gorau'r ysgol. Nid rhyfedd bod yr athro'n cymryd diddordeb yn ei gwaith. Yr oedd wedi blino hefyd, ac ôl hynny, efallai, ar ei gwedd. Diau bod yr athro caredig am roi cyfle iddi fynd adref yn gynnar.

Dyna'r gair olaf o'r diwedd. Edrychodd Beryl yn ofalus dros waith y prynhawn i gyd. Rhoes ei phapurau mewn trefn. Edrychodd ar y cloc. Yr oedd eto ddeng munud cyn pedwar o'r gloch,—amser gorffen. Aeth ymlaen yn ddistaw at ddesg yr athro.

'Da iawn!" ebe'r athro. "Dyna'r gwaith ar ben. Y mae rhywun tu allan am eich gweld, ond yr oeddwn am ichwi orffen eich gwaith cyn mynd. Y mae hwn yn arholiad pwysig. Drwg gennyf na allaf adael yr ystafell a dyfod allan gyda chwi. Ffarwel!"

Ysgydwodd law â hi'n gynnes ac edrych yn ddwys arni fel o'r blaen. Beth oedd yn bod? Ni allai Beryl aros i holi. Ni chaniateid siarad yn ystafell yr arholiad, ac yr oedd yr athro fel pe'n ei gyrru allan. Crynodd ei chalon.

Yr oedd Miss Prys, yr athrawes, yn disgwyl amdani tu allan i'r drws. "Beryl fach!" ebe hi. "Y mae un o'ch cymdogion â'i gerbyd allan ar yr heol yna wedi dyfod i'ch hôl."

"I'm hôl i? Beth sydd yn bod?" ebe Beryl yn gyffrous.

O, yr oedd yn digwydd mynd heibio ac arhosodd ichwi. Y mae,—peidiwch â chael braw, Beryl fach,—eich tad sydd yn sâl."

"Nhad! O, yr wyf yn siwr fod rhywbeth wedi digwydd."

"Na, nid oes niwed, ———"

Ond yr oedd Beryl wedi rhedeg yn wyllt at y cerbyd.

"O, Mr. Morgan," ebe hi, "dywedwch beth sydd yn bod! A yw nhad wedi marw?'

"Yr oedd yn fyw pan gychwynais i,——ond Dewch i fyny i'r cerbyd, fy merch annwyl i."

Ar y daith ryfedd honno tuag adref y cafodd Beryl yr hanes trist.

Yr oedd rhyw newydd yn y papur y bore hwnnw wedi peri cyffro mawr i Mr. Arthur. Daethai, a'r papur yn ei law, a'i wyneb yn welw, i'r tŷ at Mrs. Arthur, a heb ddywedyd gair ond cyfeirio â'i fys at ryw baragraff, syrthiodd i'r llawr fel un marw. Yr oedd doctor wedi bod yno, a chymdogion wedi dyfod ynghyd a'i gario i'w wely. Yr oedd wedi dihuno unwaith, wedi adnabod pob un, ac wedi gofyn yn floesg am Beryl. Efallai ei fod yn well erbyn hyn. Byddent yno yn awr yn fuan.

Pan ruthrodd Beryl i mewn i'r gegin, yr oedd Let yno a'i llygaid yn goch gan wylo, yn ceisio difyrru Geraint ac Enid a'u cadw rhag gwneud dim sŵn. Daeth y ddau fach at Beryl yn llawen i ddisgwyl eu cusan arferol. Rhoes ei breichiau am y ddau.

"O, Let," ebe hi, sut mae nhad?"

"O, Beryl fach," ebe Let, a thorri allan i wylo drachefn.

Pan aeth Beryl i'r ystafell wely ar y llofft, wylodd pawb yno hefyd ond yr un a orweddai'n welw a mud ar y gwely. Cyn i'r wawr dorri bore trannoeth, yr oedd y tad, feddyliai gymaint o'i deulu bach, wedi mynd yn sydyn o'u golwg ac o'u cyrraedd.

Nodiadau golygu