Beryl/Pennod VII
← Pennod VI | Beryl gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
Pennod VIII → |
VII.
Mae y byd Sydd o fy mlaen yn newydd im i gyd,
Heb ar ei amgylchiadau un goleuni.
—ISLWYN.
TRO sydyn ar lwybr bywyd a fu'r diwrnod hwnnw ym Modowen. Ni bu'r cartref yr un byth wedyn.
Tra fu'r corff yn y tŷ, daeth yno bobl ddieithr o bell ac agos i gydymdeimlo â'r weddw a'r plant. Dim ond perthnasau pell oedd gan Mr. a Mrs. Arthur, ond yr oedd ganddynt lu o gyfeillion. Yr oedd y tŷ'n llawn o ddieithriaid caredig bob dydd.
Fel mewn breuddwyd y treuliodd Beryl ac Eric a Nest y dyddiau hynny. Dim ond Geraint ac Enid oedd yn ddibryder. Deuai'r meddyg yno bob bore a phob nos, oherwydd yr oedd Mrs. Arthur yn wael iawn ar ei gwely.
Ar ôl yr angladd, wedi i'r dieithriaid bob un fynd i'w ffordd, y daeth y plant wyneb yn wyneb â'u gofid. Dyna wag oedd y cartref! Yr oedd popeth yno fel pe'n disgwyl eu tad yn ôl, ei lyfrau, ei gadair, ei ddesg, ei bibell. Dychmygai'r plant ei weld yn yr ardd neu ei glywed yn dyfod at y tŷ, ac yna sylweddolent na chaent ei weld na'i glywed byth mwy.
Meddyliai Nest y deuai pethau bron fel cynt eto wedi i'w mam wella. Meddyliai Eric y gweithiai ef yn galed iawn yn yr ysgol ac yn y coleg er mwyn dyfod i ennill digon o arian yn lle ei dad.
Er bod Mrs. Arthur lawer yn well, yr oedd yn wan iawn o hyd. Un waith, pan aeth y plant i'w gweld, wylodd mor enbyd nes ei gwneud ei hun lawer yn waeth. Pan aeth Beryl ei hun i'w gweld ar ôl hynny, edrychodd yn syn arni a dywedodd :
Beryl fach, beth wnawn ni?"
Treiwch eich gorau i wella, mam fach, ac fe ddaw pethau'n well eto," meddai Beryl. Ond, Beryl fach, sut byddwn ni byw?" Yr oedd y mil punnoedd a roesai Mr. a Mrs. Arthur heibio ar gyfer addysg eu plant wedi eu colli. Yr oedd trysorydd y cwmni wedi dianc o'r wlad a'r holl arian yn ei feddiant. Dyna'r newydd a welsai Mr. Arthur yn y papur, a bu'r peth yn ormod iddo i'w ddal. Yr oedd y ddyrnod ddwbl wedi disgyn ar Mrs. Arthur. Yr oedd ei heinioes hithau mewn perygl. Carai ei phlant bach yn angerddol, gofidiai wrth feddwl eu gadael, ond yr oedd arni ofn byw.
Aeth y dyddiau blin hynny heibio o un i un. Yr oedd Nest yn yr ysgol bob dydd, yn harddach nag erioed yn ei dillad duon a'i gwallt fel gwawl ar ei phen. Dim ond ar brydiau yr oedd Eric yn brudd. Rhoesai Let a Beryl ofal yr ardd iddo. Pan fyddai eisiau tatws neu bys neu ffa neu rywbeth arall, at Eric yr aent i ofyn amdanynt. Ei waith ef hefyd oedd ysgubo'r llwybrau a chadw'r lle'n drefnus. Yr oedd Geraint ac Enid mor hapus ag erioed. Ni wyddent hwy eto ddim am ofid byd. Ar Beryl y daeth y pwys. Rhedai pethau rhyfedd trwy ei meddwl. Ai'r un oedd hi a'r ferch honno a oedd mor hapus ddydd yr arholiad a phopeth yn olau o'i blaen? Tywyll iawn oedd pethau erbyn hyn. Nid oedd drefn ar ddim yn y dyfodol.
Un bore, yr oedd Let yn paratoi at wneud bara. Aeth Beryl ati i'r gegin fach.
Let," ebe hi, gedwch i fi wlychu'r toes heddiw, a dysgwch chwi fi, os gwelwch yn dda."
"O'r gorau, Beryl fach," ebe Let yn syn. "Cewch ei grasu hefyd, os mynnwch."
Felly y cafodd Beryl ei gwers gyntaf mewn gwneud bara. Dro arall, mynnai olchi'r llawr, glanhau'r lle tân, tannu'r gwelyau a gwneud bwyd yn lle Let.
"Chewch chwi ddim gwneud y gwaith brwnt, cewch helpu gyda'r bwyd," meddai Let.
Yr wyf am ddysgu gwneud holl waith y tŷ," ebe Beryl,—" y gwaith brwnt a'r gwaith glân."
"Wel, yn wir, petai meistres yn gwybod, ni byddai'n hanner bodlon," meddai Let.
Gweithiodd Beryl yr wythnosau hynny yn galetach nag y gwnaethai erioed o'r blaen. Aeth ei dwylo gwynion yn goch a garw. Felly'r aeth mis Awst heibio,—mis y gwyliau.
Un prynhawn Gwener ym mis Medi, ymddangosai Mrs. Arthur lawer yn well nag arfer. Pan ddaeth Nest adref o'r ysgol, dywedodd Let wrthi:
Mae'ch mam lawer yn well, Nest fach. Ewch i'w gweld. Y mae Beryl gyda hi."
"O, mam fach annwyl," ebe Nest, "dyna falch wyf eich bod yn well!"
Cydiodd y fam yn nwylo'r ddwy ferch, a dywedodd :
"Ferched bach, os caf fi wella, byddwn yn hapus eto ryw ddiwrnod. Y mae Maesycoed gyda ni. Awn yno i fyw. Fe ddaw Eric i ennill, a thithau, Beryl fach."
A finnau, mam fach," ebe Nest.
Dim ond i chwi wella, mam annwyl, fe ddaw popeth yn iawn," ebe Beryl.
Daeth Eric i'r ystafell.
"Eric bach," ebe'r fam, ti yw dyn y teulu yn awr. 'Rwy'n siwr y byddi di 'n ddyn da."
"Byddaf, mam," ebe Eric.
Cafodd Geraint ac Enid ddyfod i roi cusan i'w mam y noson honno. Ni welsai eu mam hwy ers wythnosau. Cusanodd y ddau fach lawer gwaith.
Ond bore trannoeth tua saith o'r gloch, gorfu i Eric redeg i hôl y doctor. Am dri o'r gloch y prynhawn hwnnw yr oedd y pum plentyn ym Modowen heb na thad na mam.