Pennod IX Beryl

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Pennod XI

X.

Nid y llyfrau ar ei ysgwydd,
Nid y trymaidd, niwlog hin,
Nid y llwybr igam ogam
Sydd yn gwneud ei ffordd mor flin;
Beth mor drwm â hiraeth plentyn
Wrth ffarwelio â'i gartref iach?
Dyna'r baich, a'r Nef a'i helpo,
Sydd yn llethu'r teithiwr bach.
—WIL IFAN.

ER eu bod mewn ardal ddieithr, ni allai'r plant feddwl am dreulio dydd Sul heb fynd i'r cwrdd. Aethant gyda'i gilydd erbyn deg o'r gloch i gapel Bryngwyn. Yr oedd ganddynt waith ugain munud o gerdded, oherwydd ni allai Geraint ac Enid gerdded yn gyflym iawn.

Wynebau dieithr a welent yn y capel. Os na wyddent hwy pwy oedd nemor neb, gwyddai pawb pwy oeddynt hwy. Yr oedd llawer o syllu arnynt. Hwy oedd testun siarad pob teulu ar ginio y dydd hwnnw.

"A welsoch chwi blant Mr. a Mrs. Arthur? Dyna blant bach wedi bod trwy dristwch mawr yn gynnar!" meddai un.

"Y mae rhywbeth yn hardd iawn yn wyneb y ferch hynaf yna. Y mae'n edrych fel mam i'r plant eraill, er ei bod mor ieuanc," meddai un arall.

"Y mae wedi gwrthod mynd i'r coleg er mwyn cadw cartref i'r lleill."

"Y mae wedi cymryd baich mawr arni ei hun. Sut byddant byw, druain bach?"

"Y mae plant amddifaid fynychaf yn dyfod ymlaen yn dda. Y mae rhyw ofal neilltuol drostynt. 'Gad dy amddifaid arnaf fi. Myfi a'u cadwaf hwynt yn fyw.' Y mae'r addewid yna'n dal o hyd."

Felly y siaradai pobl y dydd Sul hwnnw.

Dydd Llun, yr oedd Eric yn dechrau ar ei waith fel prentis yn un o siopau dillad Llanilin, a Nest yn mynd am y tro cyntaf i ysgol elfennol Aelybryn. Trwy help Mr. Morus, y cyfreithiwr, y cawsai Eric y lle. Nid oedd o un diben meddwl am fynd i'r coleg a bod yn ddoctor mwy. Yr oedd eisiau arian mawr at hynny, ac yr oedd yr arian wedi mynd. Faint bynnag oedd siom Eric, ni soniodd air am hynny. Gofynnodd i Mr. Morus un dydd ym Modowen, pan nad oedd neb arall yn clywed:

"Hoffwn wneud rhywbeth, syr, i ennill arian. A welwch chwi'n dda fy helpu i gael lle?"

"Pa waith a garech ei gael?" gofynnai Mr. Morus.

"Ni wn i ddim yn iawn, syr. Rhywbeth fel y gallwn ddechrau ennill ar unwaith heb orfod talu dim."

Meddyliodd Mr. Morus am dipyn.

"A hoffech ddysgu bod yn siopwr,—mewn siop ddillad?"

"Buaswn i yn eithaf bodlon gwneud hynny," ebe Eric, heb frwdfrydedd.

Cofiwch y bydd yn rhaid ichwi ddechrau ar y gwaelod, ar ffon isaf yr ysgol,—ond y mae digon o le oddi yno i'r ffon uchaf."

Gwenodd Eric yn wannaidd.

Bydd yn rhaid ichwi fod yn was bach i bawb am dipyn. Cofiwch hynny."

"Mi dreiaf fy ngorau, syr, i wneud fy ngwaith yn iawn ac i ddioddef pethau pan na fyddaf yn eu hoffi, ac efallai na fydd yn rhaid imi fod yn was bach yn hir."

"Da, machgen i! Os oes gennych ddigon o benderfyniad a thipyn o allu, fe ddewch ymlaen. Mi dreiaf am le ichwi yn Siop Hywel. Y mae Mr. Hywel a minnau'n ffrindiau."

Diolch yn fawr, syr."

"Bydd yn well ichwi gael lle yn Llanilin i ddechrau, er mwyn ichwi fedru mynd adref bob nos, i fod yn gwmni i'r lleill."

"Ie. Yr oedd mam yn dweud y diwrnod cyn iddi farw mai fi yw'r unig ddyn yn y teulu yn awr," ebe Eric, a dagrau lond ei lygaid.

Felly, cyn pen llawer o ddyddiau, cafodd Eric addewid am le fel prentis yn Siop Hywel,—y siop fwyaf yn Llanilin. Yr oedd i dderbyn cyflog o bum swllt yr wythnos, a'i ginio a'i dê bob dydd.

Bore Llun digon diflas oedd hwnnw. Yr oedd calon Nest yn brudd iawn wrth droi allan o'r tŷ a mynd i ysgol ddieithr i fysg plant ac athrawon dieithr. Ond prudd neu beidio, mynd oedd raid. Yr oedd yr ysgol elfennol yn rhad. Efallai na ellid fforddio ysgol arall iddi byth. Gwell oedd cymryd gafael ar addysg tra fyddai honno o fewn cyrraedd.

Digon prudd ei galon oedd Eric hefyd. Buasai'n hapusach o lawer petai'n mynd i'r Ysgol Sir fel o'r blaen. Lle dieithr iawn iddo oedd siop. Gwaith dieithr oedd yn ei aros. Ni wyddai beth oedd gan y dydd yn ystôr iddo.

Yr oedd calon Beryl yn bruddach fyth. Safodd ar garreg y drws i weld Nest yn mynd i un cyfeiriad ac Eric i gyfeiriad arall. Dechreuent eu byd o ddifrif y bore hwnnw. Yr oedd pethau'n drist o'u hôl ac yn ansicr o'u blaen. Troes Eric a Nest yn ôl yn nhro'r ffordd, ac ysgydwodd y tri ddwylo ar ei gilydd. Yna aeth Beryl i'r tŷ at ei gwaith.

"Beryl!" ebe llais bach o'r llofft.

"Beryl!" ebe llais bach arall, meinach. "A gawn ni godi 'nawr?"

Helpodd y ddau fach i wisgo ac ymolchi. Agorodd bob ffenestr yn llydan, a thynnodd ymaith ddillad y gwelyau. Pan oedd y ddau'n cael eu brecwast, eisteddodd gyda hwynt wrth y ford er mwyn eu dysgu sut i ymddwyn. Yr oedd eisiau dywedyd wrth Geraint am beidio â gwneud sŵn â'i wefusau wrth fwyta, ac wrth Enid am ddal y llwy'n iawn wrth fwyta uwd, a'r cwpan yn iawn wrth yfed tê. Nid oes dim yn fwy anfonheddig nag eistedd wrth y ford yn anniben a llarpio'r bwyd rywsut. Mynnai Beryl ddysgu Geraint ac Enid fel y dysgwyd Eric a Nest a hithau.

Ar ôl brecwast, yr oedd digon o waith i'w wneud,―golchi'r llestri, glanhau'r gegin, tannu'r gwelyau, a pharatoi cinio. Rhoes ginio Nest mewn dysgl yn barod, fel na byddai eisiau ond ei dwymo. Felly y gwelsai ei mam a Let yn gwneud. Yr oedd Let wedi golchi popeth cyn ymadael, fel na byddai eisiau i Beryl olchi am yr wythnos gyntaf.

Yn y prynhawn, wedi newid eu dillad, aeth Beryl â'r ddau fach i gwrdd â Nest yn dyfod o'r ysgol. Yn sydyn, ar y ffordd, daeth y breuddwyd am y Gelli i gof Beryl. Dyna ryfedd y deuai pethau i ben! Pan ddaeth Nest i'r golwg, rhedasant at ei gilydd. Teimlent fel pe baent heb weld ei gilydd ers blwyddyn. Pan ddaeth Eric adref, yr oedd wedi saith o'r gloch, a Geraint ac Enid yn eu gwelyau. Adrodd hanes y dydd i'w gilydd y bu'r tri wrth y tân y noson honno.

Nodiadau golygu