Pennod X Beryl

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Pennod XII

XI.

Daeth ton o ryw ddiflastod sydyn i minnau hefyd :
Rhywbeth na wybûm erioed o'r blaen,
Rhywbeth heb iddo enw yn fy iaith.
—WIL IFAN.

DYDD Sul oedd y dydd hapusaf ym Maesycoed. Dyna'r unig ddydd yn yr wythnos y câi'r teulu bach fod gyda'i gilydd. Er hynny, am rai Suliau wedi eu dyfod i Faesycoed, teimlent yn bruddach nag arfer, am mai dyn dieithr, ac nid eu tad, oedd yn y pulpud. Ond yr oedd Brynilin a Bodowen a chwmni eu tad a'u mam ymhell o'u hôl erbyn hyn. Yr oeddynt wedi dechrau ar gyfnod newydd. Yr oedd yn rhaid byw eto. Gan mai plant bach dewr oeddynt, aethant yn drech na'u gofid a'u galar.

Bob Sul yn ystod y gaeaf cyneuai Beryl dân yn y parlwr. Yno'r oedd y llyfrau a'r piano. Plant oedd yn hoff o ddarllen a chanu a hoff o gwmni ei gilydd oeddynt hwy. Yr oeddynt fel pe'n mynd yn ôl i'w bywyd ym Modowen bob dydd Sul. Anghofiai Beryl ac Eric nad byd llyfrau oedd bellach eu byd hwy. Medrai pob un ohonynt ganu. Weithiau, arhosai pobl ar yr heol o flaen y tŷ i wrando arnynt yn canu emyn gyda'i gilydd,—Nest yn canu Soprano ac yn canu'r piano'r un pryd, Beryl yn canu Alto, ac Eric yn canu Tenor, a Geraint ac Enid yn gwneud eu gorau i helpu Nest.

Un nos Sul, yn union wedi iddynt orffen canu emyn felly, clywsant guro sydyn ar y drws. Aeth Eric i'w agor.

"O, Mr. Morgan! Dewch i mewn, os gwelwch yn dda," ebe Eric.

Mr. Ieuan Morgan o Lanilin oedd. Adwaenai Eric ef, er mai newydd ddyfod i fyw i Lanilin oedd, a dywedodd ei enw wrth Beryl a Nest. Ysgydwodd Mr. Morgan law yn serchog â hwy i gyd ac eisteddodd yn gartrefol yn eu canol.

"Dyma'r ail nos Sul imi ddigwydd mynd heibio a chlywed eich canu swynol," ebr ef, "ac ni allwn beidio â dod at y drws. Yr ydych yn canu'n rhagorol. Pa un ohonoch yw'r Soprano?"

Gwenodd Nest arno mewn atebiad.

Merch annwyl i! A wyddoch chwi fod trysor o lais gennych? Rhaid ichwi beidio â'i guddio. Teimlaf yn siwr, os dysgwch ei drin yn iawn, y deuwch yn enwog fel cantores ryw ddydd."

Gwridodd Nest о dan edrychiad syn Mr. Morgan. Edrychai'n harddach nag arfer yno yn ei dillad duon a'i gwallt euraid yn cyrlio o gylch ei thalcen ac ar ei gwddf gwyn, a rhyw belydr yn ei llygaid ar ôl canu.

Edrychai Beryl hefyd yn syn ar ei chwaer. Daeth lleithder i'w llygaid ac ing sydyn i'w chalon. Cafodd un drem i'r dyfodol,—Nest yn harddach, harddach; yn esgyn, yn esgyn; yn troi mewn cwmni da; yn gyfoethog; yn enwog; yn eilun y torfeydd. Hithau â'r drysau aur ynghau o'i blaen.

Dim ond fflach ydoedd. Nid oedd dim lle i genfigen yng nghalon Beryl. Ei chwaer fach fwyn oedd Nest. Gorau oll po wynnaf y byddai ei byd. Yr oedd ganddi hithau ei gwaith. Yr oedd rhai annwyl yn dibynnu arni.

"Ai chwi oedd yn canu Alto?" ebe Mr. Morgan wrthi.

"Ie, ond nid yw fy llais i fel un Nest, ond yr ydym bob un yn hoff o ganu," ebe Beryl.

Gofynnodd Mr. Morgan iddynt ganu emyn gyda'i gilydd drachefn. Wedi eu canmol eto, dywedodd ei fod wedi dechrau ffurfio Côr Plant ar gyfer cystadlu yn Eisteddfod Aberilin. Byddai'n dda ganddo os ymunent â'i gôr. Rhai o dan un ar bymtheg oed oedd aelodau'r côr i fod. "Efallai bod Miss Arthur dros yr oed. Beth amdanoch chwi, Eric?"

"Ym mis Hydref y byddaf fi'n un bymtheg," ebe Eric.

"Da iawn. Bydd yn dda gennyf os deuwch chwi eich dau."

"Beth yw dy farn di?" gofynnai Eric i Beryl.

"Bydd yn rhy unig ar Beryl yma wrthi ei hun," ebe Nest.

"Dim ond dwy noswaith yr wythnos, a gellwch fod yn ôl gartref erbyn naw o'r gloch," ebe Mr. Morgan.

"Byddaf fi'n iawn. Y mae digon o gwmni gennyf fi," ebe Beryl, a rhoi ei breichiau am Geraint ac Enid a safai un ar bob ochr iddi.

"Dyma ddau fach a ddaw i ganu mewn Côr Plant fuan iawn," ebe Mr. Morgan. "Beth yw eu henwau?

"Dywedwch eich enwau," ebe Beryl.

"Geraint," ebe un. "Enid," ebe'r llall, ac ychwanegodd Enid:

"Beryl yw ein mam ni 'nawr."

"Ie, ie, a mam dda yw hi hefyd, 'rwy'n siwr," ebe Mr. Morgan. "Bydd bod yn aelod o'r côr yn help i wneud y gantores fach yma'n adnabyddus, Miss Arthur," ychwanegai, ac edrych ar Nest.

"Bydd yn dda gen i i Eric a Nest gael dod, os ydych yn meddwl y bydd yn lles iddynt ac y byddant hwythau'n help i chwi," ebe Beryl.

Felly y bu. Bob nos Fawrth a nos Iau am rai misoedd âi Eric a Nest i Lanilin i'r Ysgol Gân, ac arhosai Beryl gartref gyda Geraint ac Enid.

Nodiadau

golygu