Pennod XI Beryl

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Pennod XIII

XII.

A cheisio'r goleuni o fore hyd hwyr
A wnaf i, tra fyddwyf, nes blino yn llwyr;
A Duw, o'i drugaredd, a ddengys i mi
Lesni ffurfafen sêr eirian di-ri;
A dyna'r glas yn fy mywyd i.
—IORWERTH CYFEILIOG PEATE.

Daw rhyw les inni yn fynych iawn o bethau a deimlwn sydd fwyaf yn ein herbyn. Nid yw'r nos dywyllaf heb ei sêr.

Digon prudd y teimlai Beryl ar y troeon cyntaf pan âi Eric a Nest i'r Ysgol Gân. Yr oedd ganddi galon fawr garedig, neu buasai'n cenfigennu wrthynt. Caent lawer o bleser yn yr Ysgol Gân, a llawer o addysg hefyd. Caent gyfle i wneud llawer o ffrindiau newyddion. Cychwynnai Nest o'r tŷ am chwech o'r gloch. Yr oedd mab a merch Penlan, y tŷ nesaf at Faesycoed, yn gwmni ganddi i fynd, a byddai Eric gyda hwy yn gwmni i ddychwelyd. Anaml y byddent yn y tŷ cyn chwarter wedi naw.

Yr oedd gan Beryl, felly, dros dair awr o amser ar nosweithiau tywyll gaeaf i fod heb gwmni yn y tŷ ond Geraint ac Enid. Am yr awr gyntaf ni byddai'n bosibl iddi deimlo'n unig. Gwnïo a wnâi fynychaf am yr awr honno, ac ar yr un pryd dysgu'r ddau fach i ddarllen neu ysgrifennu neu ganu; neu dysgai ryw chwarae newydd iddynt. Am saith o'r gloch, caent hwy fynd i'w gwelyau.

Yna deuai Beryl yn ôl i'r gegin,—cegin wag a distaw. Byddai'r drws wedi ei gloi ers awr. Ni chyffesai fod ofn arni, ond fe'i câi ei hun yn gwrando ar bob sŵn. Gwnâi'r gwynt, weithiau, sŵn rhyfedd yn y ffenestri, yn nhwll y clo, ac yn y llwyni o flaen y tŷ. Weithiau clywai gerdded yr heol, dychmygai glywed rhywun yn dyfod at y drws. Y noson gyntaf honno, methodd â theimlo'n ddigon tawel i wnïo, a methodd a chadw ei meddwl ar ddim a ddarllenai.

Pe buasai Beryl yn ferch wan ei hewyllys, buasai wedi digalonni ar ôl y tro cyntaf hwnnw. Buasai wedi addef wrth Eric a Nest fod arni ormod o ofn aros gartref ei hun gyda'r plant. Buasent hwythau wedi treio'u gorau i guddio'u siom a dywedyd nad aent mwy i'r Ysgol Gân,— neu, o leiaf, y câi Eric fynd, ac yr arhosai Nest gartref.

Ond nid felly y gwnaeth Beryl.

Tua chwarter wedi naw, dyna lais melodaidd Nest a llais dyfnach Eric yn siarad â'i gilydd wrth agor yr iet fach. O, dyna falch eu clywed oedd Beryl!

"Helo!" ebe hi, cyn mentro datgloi'r drws.

"Helo!" ebe'r ddau tu allan, a dyna'r drws yn agor.

"Dywed y gwir 'nawr, Beryl, a oedd ofn arnat?" ebe Nest. Yr oeddwn yn meddwl amdanat yr holl amser."

"Ofn, wir! Ofn beth? Fe aeth yr amser yn gyflym iawn. Gorffennais wnïo ffroc Enid, edrych arni."

(Yr oedd Beryl wedi gorffen y ffroc yn y prynhawn, hyd at wnïo'r botymau, ond yn ffodus, nid oedd wedi ei dangos i Nest.)

"O, y mae'n bert!" ebe Nest.

"Dim ond rhai sydd yn gallu canu'n dda sydd yn cael bod yn y côr," ebe Eric, pan ddaeth i mewn wedi cloi'r drws a hongian ei gôt a'i gap.

"Yr wyf yn falch iawn fy mod i'n un o'r rheini. A wyt yn siwr nad oes dim ofn arnat?"

"Peidiwch â sôn rhagor am ofn, blant bach. Dewch i gael swper, a dewch â'r hanes i gyd imi," ebe Beryl.

"Yr oedd yno rai wedi dod i wrando ar y canu," ebe Nest ymhen tipyn wrth fynd ymlaen â'r hanes. "Dyna drueni na allet tithau ddod! Oni bai am Geraint ac Enid, gallet ddod."

"Ond gan fod Geraint ac Enid yma, ni allaf ddod," ebe Beryl.

"'Rwy'n siwr yr arhosai Mrs. Lewis, Penlan, yma gyda hwy ambell waith yn dy le," ebe Nest eto.

"O'r ddau fach!" ebe Beryl. "Na, fy ngwaith i yw gofalu amdanynt."

Pan ddaeth nos Iau, yr oedd Beryl wedi trefnu sut i ymladd â'i hofn.

Pan fyddo eisiau tynnu'r meddwl oddi wrth rywbeth, nid oes dim yn well na rhoi gwaith pendant i'r meddwl hwnnw. Gwelodd Beryl yn yr oriau unig yma gyfle braf i ail-ddechrau astudio. Nid oedd eisiau iddi orffen dysgu, er wedi gadael yr ysgol. Ei hoff bynciau yn yr ysgol oedd Cymraeg, Ffrangeg, a Saesneg. Gallai fynd ymlaen â'r pynciau hyn heb gymorth athro. Daeth â'i llyfrau allan. Gwnaeth raglen o waith ar gyfer pob nos. cariai honno allan, byddai wedi cynyddu llawer mewn dysg a gwybodaeth cyn diwedd y gaeaf. Pan ddaeth Eric a Nest adref, gwelsant ar y ford "Sesame and Lilies, "Cartrefi Cymru," "Le Voyage de M. Perrichon," Geiriadur Ffrangeg a Saesneg, llyfr ysgrifennu a phensil. Aethai'r amser mor gyflym fel nad oedd Beryl wedi dychmygu ei bod yn bryd paratoi swper.

"Wel! Wel! A wyt ti wedi dechrau astudio eto?" ebe Eric.

"O, gallwn feddwl mai newydd fynd ydych," ebe Beryl. "Aeth yr amser fel y gwynt."

"'Rwy'n siwr bod hiraeth arnat o hyd am fynd i'r coleg, er nad wyt yn dweud dim," ebe Nest, a sŵn tosturi yn ei llais.

Daeth dagrau sydyn i lygaid Beryl. Er mwyn eu gyrru'n ôl, cyn edrych ar neb na dywedyd gair, troes i gasglu'r llyfrau at ei gilydd.

"Trueni ofnadwy dy fod ti wedi rhoi heibio'r meddwl am fynd i'r coleg," ebe Eric eto, â'r un llais trist. "Er ein mwyn ni y gwnest ti hynny."

"Er fy mwyn fy hun hefyd, blant bach," ebe Beryl. "Gwrandewch ar y ddwy linell yma a ddarllenais yn rhywle, rywbryd:

Though Duty's face is stern, her path is best,
They sweetly sleep who die upon her breast.

Mi wn i fy nyletswydd, ac ni buaswn i byth yn hapus heb ei gwneud. Nid yw neb yn hapus yn hir heb wneud ei ddyletswydd."

"Pam wyt ti am ddysgu eto, ynteu?" ebe Nest.

"O, Nest fach, yr wyf yn golygu para i ddysgu tra fwyf byw. Nid oes eisiau imi anghofio'r hyn wyf wedi ei ddysgu, a thyfu'n anwybodus, er mai gartref yr wyf. I ba beth y cefais i ysgol, oni wnaf ryw ddefnydd o'm haddysg ? Efallai y bydd yn fwy defnyddiol imi eto yn y dyfodol. Pwy a ŵyr?"

"O dîr! Dyna ferch ryfedd wyt ti, Beryl," ebe Nest.

Nodiadau

golygu