Beryl/Pennod XIII

Pennod XII Beryl

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Pennod XIV

XIII.

Os na chawn weled blodau Mai
O gylch ein tai, Nadolig;
Mae'n well na blodau ar bob llwyn
Gael cyfaill mwyn, caredig.
—ELFED.

TEBYG iawn i'w gilydd yr âi un dydd ar ôl y llall heibio ym Maesycoed nes dyfod gwyliau'r Nadolig. Yna bu Nest gartref bob dydd am bythefnos. Yr oedd Beryl a Geraint ac Enid yn falch o'i chwmni. Er nad oedd Nest yn hoff o waith tŷ, gwnâi lawer o bethau i helpu Beryl. Hi fyddai'n golchi'r llestri ar ôl pob pryd, a hi fyddai'n helpu Geraint ac Enid i wisgo. Hwy eu tri fyddai'n mynd i Benlan bob bore i hôl llaeth. Yr oedd Nest yn dda am wnïo hefyd. Gwnïodd ddau frat newydd i Enid yn ystod y gwyliau hynny, a chyweiriodd lawer o hosanau.

Ym marn Geraint ac Enid, nid oedd neb tebyg i Nest am chwarae. Gadai iddynt weiddi a chwerthin faint a fynnent, a rhedeg ar hyd y tŷ. Cartref â digon o sŵn ynddo oedd Maesycoed y dyddiau hynny, ond yr oedd pawb o'i fewn yn hapus.

Yr oedd Beryl, fel pob un sydd â gofal cartref arni, yn brysur iawn cyn y Nadolig.

Erbyn hyn, nid oedd ei gwell yn y wlad am wneud bara. Er y deuai cerbyd bara heibio Maesycoed bob dydd, anaml iawn y prynai Beryl dorth. Gwyddai fod bara cartref yn iachach ac yn rhatach. Yr oedd yn dda ganddi, erbyn hyn, ei bod wedi gofyn i Let i'w dysgu i wneud bara cyn i'r cyfnewid mawr ddyfod ar eu byd.

Ond ni wnaethai deisen Nadolig na phwdin erioed. Gan eu bod wedi arfer cael pethau felly ym Modowen, ni byddai Nadolig yn Nadolig hebddynt. Ni fynnai Beryl ofyn i neb o wragedd yr ardal ei dysgu. Cymerai amser hir iddi hi ddyfod i deimlo'n eofn tuag at neb, ac nid oedd neb yn eofn tuag ati hithau. Yr oedd pobl yn barotach i fod yn eofn ar Nest.

Ryw nos Wener tua dechrau Rhagfyr, pan eisteddent bob un wrth y tân, daeth curo ar y drws, a phwy oedd yno ond Let! O, dyna falch oeddynt i weld eu hen forwyn ffyddlon! Cyn pen munud, yr oedd Geraint ac Enid yn eistedd ar ei chôl, a hithau â'i breichiau amdanynt yn eu cusanu bob yn ail a dywedyd, "O'r ddau hen gariad bach!" Ni chafodd neb fwy o groeso calon yn unman nag a gafodd Let ym Maesycoed y noson honno.

Yr oedd yn dda gan Beryl gael cyfle i'w holi ynghylch y ffordd i wneud y peth hwn neu'r peth arall. Addawodd Let ddyfod yno yn gynnar y nos Wener ddilynol i helpu Beryl i wneud y deisen a'r pwdin. Ysgrifennodd restr o bethau i'w prynu'n barod at y gwaith.

Daeth Let yn ôl ei haddewid, a chafwyd noson brysur iawn ym Maesycoed. Ni bu pwysicach gwaith yn unman erioed. Gwnaed y pwdin yn gyntaf. Yr oedd Beryl wedi glanhau'r ffrwythau'n barod. Cafodd pob un o'r pump roi help i'w gymysgu. Deuai hynny â lwc iddynt bob un, meddai Let, a'r sawl a gâi ar ei blât dydd Nadolig y darn tair ceiniog a roesai hi ynddo, a fyddai'r mwyaf lwcus o'r teulu.

Yna dodwyd y cwbl mewn llestr â lliain wedi ei glymu dros ei wyneb, yn barod i'w ferwi am saith neu wyth awr drannoeth.

Wedi gorffen â'r pwdin, gwnaed y deisen. Beryl a wnâi'r cwbl o dan gyfarwyddyd Let. Teisen a burym i'w chodi oedd ganddynt. Un felly oedd teisen Bodowen.

Wedi gwlychu'r toes, rhoddwyd ef yn y badell ar y pentan i fod yno drwy'r nos i godi. Cafodd Beryl orchmynion manwl sut i'w grasu.

"Rhaid i chwi, Let, ddod yma dydd Nadolig i gael rhan o'r pwdin a'r deisen," ebe Eric.

"O, a ddewch chwi, Let?" ebe Beryl a Nest gyda'i gilydd.

"Let dod," ebe Enid, a chau ei llygaid drachefn i gysgu. Nid oedd Geraint wedi clywed gair ers amser. Yr oedd ymhell wedi amser gwely, ac yr oedd cwsg wedi mynd yn drech na'r ddau. Eisteddent ar yr un gadair freichiau, a phwyso ar ei gilydd a'u llygaid ynghau.

"O'r rhai bach annwyl !" ebe Let.

"Y maent yn y gwely bob nos am saith," ebe Beryl. "Cânt fynd yn awr ymhen pum munud."

"Gedwch i fi eu rhoi yn y gwely heno," ebe Let.

"Cewch, yn wir," ebe Beryl. "Daw Nest â channwyll gyda chwi."

Tra buont hwy ar y llofft, cliriodd Beryl y ford, a gwnaeth swper bach blasus i Let a hwythau eu tri. Addawodd Let ddyfod atynt i dreulio dydd Nadolig. Caiff morynion ffermydd fynd adref fynychaf ar y dydd hwnnw. Dywedodd Let y deuai hi atynt hwy yn lle mynd i'w chartref ei hunan.

Mynnai Beryl i'r Nadolig cyntaf hwnnw ym Maesycoed fod mor debyg ag oedd bosibl i Nadolig ym Modowen. Pan ddaeth Let yno ychydig cyn amser cinio, Beryl ei hun oedd yn y tŷ. Aethai Eric a Nest a Geraint ac Enid i'r Gymanfa Bwnc yng nghapel Bryngwyn. Yr oedd tân siriol yn y drawing-room a'r piano'n agored. Ar y silff ben tân ac ar ben rhai o'r darluniau ar y wal yr oedd brigau o gelyn coch, ac ar y ford fach yn y cornel yr oedd dysgl hardd yn llawn o afalau ac orennau. Yn y gegin yr oedd y ford wedi ei hulio'n barod at ginio,—mor ofalus â phe disgwylid y cwmni mwyaf urddasol yno.

"Beth gaf fi ei wneud i'ch helpu, Beryl fach?" ebe Let.

"Ymwelydd ydych chwi heddiw," ebe Beryl. "Chwi sydd wedi bod yn gweini arnom ni am amser hir, ni sydd i weini arnoch chwi heddiw."

Ni chafodd Let amser i ddadlau, oherwydd daeth y plant adref o'r capel. Gorfu i Let fynd gyda hwy'n ufudd at y tân, hyd oni byddai Beryl yn barod i'w galw i gyd at ginio.

Yr oedd tri o blant yn y fferm lle y gwasanaethai Let, a phlant bach digon afreolus oeddynt. Ar brydiau bwyd, nid oedd ôl na dysg na threfn arnynt. Byddai eu mam, fynychaf, yn rhoi eu bwyd iddynt hwy o flaen pawb eraill, er mwyn cael tawelwch. Ymosodent arno ar unwaith. Eisteddent a bwytaent rywsut.

Codent ac aent allan weithiau cyn i neb arall orffen.

Gwahanol iawn oedd teulu Beryl. Yr oedd pryd bwyd ym Maesycoed yn fath o sacrament brydferth. Synnodd Let at y gweddeidd-dra a ddysgasai Beryl hyd yn oed i Geraint ac Enid. Synnodd fwy fyth at y ginio ragorol a baratoesai. Gellid meddwl ei bod wedi hen arfer â'r gwaith o baratoi bwyd.

Nid oedd yn bosibl na ddeuai atgofion atynt ar ddydd fel hwnnw.

"A ydych yn cofio blwyddyn i heddiw?" ebe Nest yn sydyn.

Nid atebodd neb ar unwaith, ond dywedodd Let mewn hanner ochenaid:

"Mhlant bach i!"

"Mae Dadi a Mami yn ein gweld ni, ond wedi mynd yn rhy bell i ni eu gweld hwy," ebe Geraint.

Yr oedd Geraint wedi cofio'r geiriau a ddywedasai Beryl wrtho ers llawer dydd.

Daethant yn siriol eto wrth dorri'r pwdin. Edrychodd Beryl yn ofalus trwy gyfran Geraint ac Enid, rhag bod y darn tair ynddo ac iddynt hwythau ei lyncu. Ond Eric a'i cafodd.

"Hwre!" ebr ef, a dal y darn arian rhwng ei fys a'i fawd.

"Hwre!" ebe Geraint ac Enid.

"Eric sydd yn mynd i gael y lwc," ebe Nest. "Mae e'n haeddu lwc," ebe Let.

"Hwre!" ebe Eric eto, a dim ond hynny. Ni wyddai neb beth oedd yn ei feddwl.

"Beryl fach," ebe Let, pan oeddynt hwy eu dwy yn y gegin ar ôl te, "mae'n dda gen i'ch gweld mor gysurus. Y mae gofalu am y plant yma, eu dysgu, a chadw cartref yn well ac yn uwch gwaith na dim a allech ei wneud mewn coleg. Yr ydych fel mam iddynt, ac y maent i gyd mor ufudd ichwi ac mor barchus ohonoch."

"Hynny sydd yn ei gwneud yn bosibl imi fod yma," ebe Beryl, a'i llygaid yn llawn. "Pe na bai gennyf ddylanwad arnynt, torrwn fy nghalon."

"Os yw'ch tad a'ch mam yn eich gweld, maent yn dweud, 'Da iawn, Beryl fach,' bob dydd."

Wylodd Beryl yn hidl, ac wylodd Let gyda hi. Ond dagrau melys oeddynt, ac y mae'n dda, weithiau, cael cwmni i wylo.

Nodiadau

golygu