Blodau Drain Duon/Sam a Rhys
← Cwyn y Bardd-Bregethwrn | Blodau Drain Duon gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Set Ddiwifrau Gŵr Safin → |
SAM A RHYS
'ROEDD Sam y Siopwr yn ei ddydd
Yn gampwr mewn dadleuon,
A gyrrodd rai o deulu'r ffydd
Ymhell i dir amheuon.
Ond denai Rhys yr Hendref hwy
Cyn hir yn ôl i'w llefydd
Heb drwst—na dadlau mwy na mwy—
'Roedd Rhys yn byw ei grefydd.