Blodau Drain Duon/Set Ddiwifrau Gŵr Safin
← Sam a Rhys | Blodau Drain Duon gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Drwgdybio'r Llaethwr → |
SET DDIWIFRAU GŴR SAFIN
FE brynodd set ail-law am bunt
Er mwyn cael pregeth yn ei dŷ,
A pheidio â mynd drwy'r glaw a'r gwynt
I'r cwrdd, fel yn y dyddiau fu.
Heblaw, fe arbed gost i'r dyn;
Yn ôl ei gyfraniadau llynedd
Fe dâl y set amdani ei hun
Ymhen rhyw ugain mlynedd.