Branwen Ferch Llŷr (Tegla)/Dychwelyd i Gymru
← Y Dinistr Mawr | Branwen Ferch Llŷr (Tegla) gan Edward Tegla Davies |
Agor y Drws Dirgel → |
Dychwelyd i Gymru.
DECHREU y diwedd fu hyn oll Llwyddodd llid Efnisien i ddinistrio dwy deyrnas. Ac nid dyma'r tro diweddaf i dduw llid ddinistrio teyrnasoedd, er gwaethaf pob ymdrech gan dduwies cariad i'w cyfannu.
Daw hanes rhyfedd am Bendigaid Fran yn awr, a dengys mai duw yw ef o hyd, er ymddwyn ohono weithiau fel dyn. Ac yn yr hanes hwn cewch wybod beth oedd syniad yr hen Gymry am y nefoedd. Sut le yw'r nefoedd yn ol eich syniad chwi? A yw'n lle gwahanol i syniad yr hen Gymry amdani?
Dywedais ddarfod i waywffon wenwyno Bendigaid Fran, a gorchmynnodd yntau i'r seithwyr a ddihangodd dorri ei ben, a'i gymryd i'r Gwynfryn yn Llundain, a'i gladdu yno â'i wyneb at Ffrainc. Dywedodd wrthynt y byddent ar y ffordd yn hir, y byddent yn Harlech ar ginio am saith mlynedd, ac adar Rhiannon yn canu iddynt. Dyna nefoedd yr hen Gymry, byd o fwyta a gwrando canu. Hysbysodd hwynt y byddai cymdeithas ei ben ef gystal iddynt ag y bu erioed ganddynt pan oedd ar ei gorff ef. Ac wedi gorffen yn Harlech, y byddent yng Ngwalas ym Mhenfro am bedwar ugain mlynedd, ac yr arhosai'r pen heb lygru nes agor ohonynt y drws a wynebai Aber Helen tua Chernyw. O'r adeg yr agorent y drws hwnnw ni allent fod yno, y pydrai'r pen, ac y byddai raid brysio i Lundain i'w gladdu.
Wedi clywed hyn torasant ben Bendigaid Fran, a chychwyn tuag adref, â'r pen gyda hwy, a Branwen yn dilyn. Daethant i dir yn Ynys Fôn, yn Aber Alaw yn Nhal Ebolion, ac eisteddasant i orffwys. Edrychodd Branwen ar Iwerddon ac ar yr ynys hon,—Ynys y Cedyrn,— hynny a welai ohonynt. "O! fab Duw," ebe hi, "gwae fi o'm genedigaeth. Dwy ynys a ddifethwyd o'm hachos i."
Rhoddodd ochenaid fawr a thorri ei chalon ar hynny. A gwnaethant fedd ysgwâr iddi, a'i chladdu ar lan afon Alaw.
Dyna ddiwedd Branwen wedi oes o ddioddef, a phob ymdrech o'i heiddo i ddwyn pobl yn nes i'w gilydd yn cael ei difetha gan Efnisien, y gŵr a ymhyfrydai mewn gwahanu.
Wedi claddu Branwen aeth y seithwyr tua Harlech, a phen Bendigaid Fran ganddynt. Fel y cerddent ymlaen dyma dyrfa fawr o wŷr a gwragedd yn cyfarfod â hwynt.
"A oes gennych chwi chwedlau?" ebe Manawyddan.
"Nac oes," ebe hwy, "ond goresgyn o Gaswallon fab Beli Ynys y Cedyrn, a'i fod yn frenin coronog yn Llundain."
Cofiwch am Garadog fab Bran a'r gwŷr eraill a adawodd Bendigaid Fran ar ôl i wylio'r ynys hon tra fyddai ef yn Iwerddon. A gofynnodd y gwŷr a gariai ben Bendigaid Fran beth a ddaeth o'r rheiny.
"Daeth Caswallon i'w herbyn," ebe'r dyrfa, "a lladd y chwe gwŷr, a thorrodd Caradog yntau ei galon o dristwch am weled y cleddyf yn lladd ei wŷr, ac na wyddai pwy a'u lladdai. Gwisgai Caswallon len hud amdano, ac ni welai neb ef yn lladd y gwŷr, dim ond gweled ei gleddyf yn unig. Ni fynnai Caswallon ei ladd ef, canys ei nai fab ei gefnder oedd." Charadog oedd y trydydd dyn a dorrodd ei galon o dristwch."
Am Bendaran Dyfed a oedd yn was ieuanc gyda'r seithwyr," ebe hwy, "dihangodd ef i'r coed."