Branwen Ferch Llŷr (Tegla)/O ble y daeth Branwen
← Yr hen dduwiau a duwiesau | Branwen Ferch Llŷr (Tegla) gan Edward Tegla Davies |
Brodyr Branwen → |
O ble y daeth Branwen.
CREDID am dduwiau a duwiesau'r hen fyd eu bod yn rhodio'r ddaear fel dynion, ac ni wyddech pan welech rywun yn dyfod i'ch cyfarfod yn y pellter, pa un ai dyn ynteu duw fyddai. A hwyrach pan ddeuech i'w ymyl y diflannai o'ch golwg fel niwl. Trigai'r duwiau yn y cymylau, mewn llwyni coed, mewn creigiau, mewn afonydd, ac ymhobman bron. Ac yr oedd i bob un ei waith. Duw'r glaw fyddai un, ac arno ef y gweddïai pobl, ac iddo ef yr aberthent pan fyddai arnynt eisiau glaw. Duw'r heulwen fyddai'r llall, a chredid mai ef a roddai'r heulwen iddynt. Trigai rhyw dduw neu dduwies yn yr afon—duwies gan amlaf—a hi a lywodraethai'r dwfr. Yr oedd duw neu dduwies yn llywodraethu cariad a phrydferthwch hefyd. Dyna'r dduwies Gwener, duwies cariad oedd hi.
Hen dduwiau a duwiesau Groeg a Rhufain yw'r rhai y gŵyr y byd fwyaf amdanynt. Cododd arlunwyr a cherflunwyr a beirdd mawr i baentio eu lluniau yn ôl fel y meddylient hwy eu bod, ac i gerfio lluniau ohonynt mewn cerryg marmor, ac i ganu eu clodydd mewn barddoniaeth. Y mae'r lluniau, a'r cerfluniau, a'r farddoniaeth hynny ar gael heddyw, ymysg lluniau a cherfluniau a barddoniaeth ardderchocaf y byd. Cewch weld rhai ohonynt bron ymhob tref fawr, ac y maent yn werth i chwi fynd ymhell i'w gweld. Buasai'r sôn am yr hen dduwiau a'r duwiesau hyn wedi marw ers canrifoedd onibae am yr arlunwyr a'r cerflunwyr a'r beirdd a'u hanfarwolodd. Ni chafodd hen dduwiau a hen dduwiesau Cymru mo'r fraint hon hyd yn hyn. Pwy a ŵyr nad oes yn eich mysg chwi ryw arlunydd a all baentio llun o Franwen a swyna'r byd, neu a gerfio lun ohoni mewn carreg, neu a gano farddoniaeth iddi a fydd mor ardderchog nes bod pobl o ieithoedd eraill yn dysgu Cymraeg er mwyn ei deall a'i mwynhau.
Ymysg hen dduwiesau Groeg yr oedd un o'r enw Aphrodité. Y mae llawer o baentio a cherfio lluniau ohoni wedi bod, yn ôl syniad dynion amdani. Y mae'r traddodiad amdani yn un tlws iawn. Dywedid gan y Rhufeinwyr mai'r un un â Gwener oedd hi. Duwies cariad a phrydferthwch ydoedd hi. Os byddai rhywun mewn cariad neu eisiau bod yn brydferth at Aphrodité yr âi. Nid yn unig hi oedd y brydferthaf o'r duwiesau, ond medrai wneuthur pob un a'i haddolai hi hefyd yn brydferth. Ni dderbyniai unrhyw aberthau ond blodau a pheraroglau. Hi oedd duwies cariadon a mamau, a byddai llawer o addoli arni. O'r môr y daeth hi, y môr oedd ei mam, a ffurfiwyd hi o ewyn y don. Ac ni all neb a fyddo wedi ei ffurfio o beth mor brydferth ag ewyn y don lai na bod yn brydferth iawn ei hun.
Yr un a leinw'r un lle yn nhraddodiadau duwiau a duwiesau Cymru ag a wna Aphrodité yn nhraddodiadau Groeg yw Branwen. O'r môr y daeth hithau. Llŷr oedd enw ei thad, a duw'r môr oedd Llŷr. Ef a lywodraethai'r tonnau. Llŷr yn ymgynhyrfu oedd stormydd y môr, a Llŷr mewn tymer addfwyn oedd ei lonyddwch. Yr oedd i'r tywyllwch ei dduw, ac i'r goleuni ei dduw, ac i'r awyr ei duw, ac i'r ddaear ei duw, a duwiesau'n wragedd iddynt oll. Brwydrau rhwng y duwiau a'r duwiesau hyn oedd achos holl helynt y byd. Un o'r rhai enwocaf o'r duwiau hyn oedd Llŷr, duw'r môr. Gelwir ef weithiau'n Llŷr Llediaith. Gwyddoch mai ystyr llediaith yw siarad un iaith mewn dull iaith arall. Pan glywch rywun yn siarad Cymraeg yn y fath fodd ag i chwi dybio mai Saesneg yw ei iaith briod, dyna lediaith. Ac awgryma galw Llŷr yn Llediaith ei fod yn dduw i ryw genedl arall cyn i ni ei arddel. Ac yr oedd yn dduw i'r Gwyddyl yn ogystal ag yn dduw i'r Cymry. A ddarllenasoch "King Lear," Shakespeare? Llŷr yw'r "Lear" hwnnw. Yr oedd tri theulu mawr o dduwiau i Ynys Brydain, a theulu Llŷr oedd y prif deulu o'r tri.
Yr oedd plant Llŷr yn dduwiau a duwiesau bob un. Bydd gennyf ychwaneg i'w ddywedyd amdanynt hwy eto. Bendigaid Fran oedd un. Un arall oedd Manawyddan. A'i ferch oedd Branwen. Yr oedd iddynt ddau hanner brawd hefyd,— Nisien ac Efnisien. Iwerydd oedd enw mam Bendigaid Fran a Branwen, a Phenardim oedd mam y gweddill.
Dyna deulu'r duw Llŷr. Ac â Branwen ei ferch, duwies cariad a phrydferthwch, y delia'r stori bellach. Hanes prudd iawn ydyw, a hanes prudd yw hanes brwydr cariad a phrydferthwch ymhob oes.