Breuddwydion Myfanwy/Pennod I
← Rhagair | Breuddwydion Myfanwy gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
Pennod II → |
I
Mawryga gwir Gymreigydd—iaith ei fam,
Mae wrth ei fodd beunydd:
Pa wlad wedi'r siarad sydd
Mor lân â Chymru lonydd?
—CALEDFRYN.
PLANT Mr Meredydd Llwyd, y saer, a'i wraig, oedd Llew a Myfanwy. Enw anghyffredin yn yr ardal honno oedd Meredydd Llwyd, a dyn digon anghyffredin oedd y saer. Pe buasai'n debycach i ddynion eraill y rhan honno o'r wlad, efallai y buasai yn fwy llwyddiannus gyda'i grefft. Yr oedd yn hoff iawn o ddarllen. Weithiau pan gai lyfr wrth ei fodd, anghofiai ei fod wedi addo gwneud y peth hwn neu'r peth arall i rywun yn yr ardal erbyn amser neilltuol. Collodd lawer o waith yn y modd hwn. Er nad oedd ei well fel crefftwr pan roddai ei feddwl ar ei waith, dywedai pobl na ellid dibynnu arno.
Efallai mai am ei fod yn arfer darllen a meddwl y gwelodd yn gynnar yn ei fywyd mor ffôl yw Cymry yn dioddef newid eu henwau o'r Gymraeg i'r Saesneg yn eu gwlad eu hunain. Troir Dafydd yn David, Ifan yn Evan, Rhys yn Rees, Prys yn Price, Meredydd yn Meredith a Llwyd yn Lloyd, ac felly yn y blaen. Gwneir yr un peth ag enwau merched. Ffurfiau Saesneg sydd ar y rhan fwyaf ohonynt,—Mary, Jane, Annie, Maud, Grace, Laura, Lizzie, yn lle Mair, Sian, Ann, Mallt, Gras, Lowri, a Leisa. Dechreuodd y saer ysgrifennu ei enw yn Gymraeg—" Meredydd Llwyd." Gydag amser, daeth ei gymdogion i'w alw wrth yr un enw. Pan gafodd fab a merch, gofalodd ddechreu'n iawn gyda'u henwau hwy. Llewelyn Llwyd," a "Myfanwy Llwyd" a roddwyd ar lyfrau'r cofrestrydd ac ar lyfrau'r ysgol.
Brynteg oedd enw eu cartref. Tŷ bach hardd a glân ydoedd, ynghanol y wlad. Yr oedd tua milltir rhyngddo â phentref bach Glyn y Groes. Yr oedd gardd dda tu ôl i'r tŷ. O'i gylch yr oedd caeau glâs. Yno porai dwy fuwch a degau o ieir. Nid oedd rhent ar y saer i neb. Ei eiddo ef oedd y lle.
Dyna deulu bach hapus oedd teulu Brynteg! Carai'r tad a'r fam eu plant yn fawr, ond ni roisant eu ffordd eu hunain iddynt. Dysgasant hwy i fod yn ufudd; yna, wedi iddynt dyfu, nid oedd eisiau eu gwylio a'u ceryddu. Carent hwythau eu rhieni a pharchent hwy. Daeth y plant fel y rhieni i hoffi darllen a meddwl. Felly, aeth eu byd yn lletach. Yr oedd ganddynt bethau i'w diddori tuhwnt i'r tyddyn a siop y saer, a thuhwnt i'r cartref a'r ardal lle'r oeddynt yn byw. Ond nid yw bywyd neb yn para'r un fath o hyd. Fel y tyfai'r plant, daeth cysgod cyfnewidiadau dros y cartref bach. Daeth pryder hefyd i galonnau'r tad a'r fam.
Yr oedd Llew erbyn hyn wedi treulio chwe mis yn yr Ysgol Sir yn Llandeifi. Ai yno fore Llun ac yn ôl nos Wener gyda phlant y Felin yn eu car poni. Gwnai ei dad ychydig waith saer yn awr ac yn y man yn y Felin yn dâl am hyn. Ofnai ei rieni na allent ei gadw yno ar ôl diwedd y flwyddyn, ac ofnent na chai Myfanwy fynd yno o gwbl er mai dysgu oedd mwynhad pennaf y ddau blentyn. Y mae eisiau arian cyn cael addysg. Nid am ddim y ceir bwyd a dillad a llyfrau a llety. Nid oedd llawer o arian ym Mrynteg. Prin oedd gwaith y saer wedi bod er ys tro. Nid oedd yr hyn a ddeuai o'r tyddyn yn ddigon i gynnal pedwar, heb sôn am roi addysg i ddau ohonynt. Hyn oedd achos y pryder yng nghalonnau'r tad a'r fam. A fyddai'n rhaid i Llew a Myfanwy fynd i wasanaethu ar un o ffermydd yr ardal er mwyn ennill eu bywioliaeth? Pa lwybr arall oedd yn agored iddynt ynghanol y wlad? Pe rhoddid hwy i ddysgu rhyw grefft byddai'n rhaid aros yn hir cyn deuent i ennill dim. Sut gallai'r tad a'r fam oddef eu gweld yn gwneud gwaith y gallai'r mwyaf didalent ei wneud a gwybod bod ynddynt gymwysterau at bethau uwch? Breuddwyd y ddau oedd gweld eu mab a'u merch yn uchel mewn dysg a dylanwad.
Cyn iddynt benderfynu dim, ac ymhell cyn diwedd blwyddyn Llew yn yr ysgol, daeth llythyr i Mrs. Llwyd oddiwrth ei chwaer yn Sir Benfro, yn dywedyd y carent hwy fel teulu ddyfod am dro i Frynteg, a threulio noson yno pan fyddai hynny'n gyfleus.
Atebwyd y llythyr. Gwahoddwyd hwy yno i aros dros y Sul dilynol. Ni ddaeth i feddwl neb o deulu Brynteg ddylanwad yr ymweliad hwnnw ar eu bywyd.