Breuddwydion Myfanwy/Rhagair

Breuddwydion Myfanwy Breuddwydion Myfanwy

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Pennod I


BREUDDWYDION MYFANWY

RHAGAIR

YR oedd Miss Prys ar ymadael ag ysgol Brynbedw, ar ôl bod yno am ddeng mlynedd. Yr oedd tua thrigain o blant yn yr ysgol fach, a hi oedd y brif athrawes. Cofiai bob un o'r plant oedd yno yn awr yn dyfod i'r ysgol am y tro cyntaf. Yr oedd ei di- ddordeb yn ddwfn ynddynt i gyd, yn enwedig yn y plant hynaf. Beth a fyddai eu hanes yn y dyfodol? I ba le yr aent? Pa beth a wnaent o'u bywyd? Deuai hiraeth i'w chalon wrth feddwl eu gadael a cholli golwg arnynt. Ymhen wythnos arall byddai hi ymhell oddiwrthynt. Yr oedd yn mynd i briodi, ac yn mynd i fyw i un o drefi mawr Lloegr.

Un o'r dyddiau diwethaf hynny yn yr ysgol cafodd plant y safonau uchaf destun wrth fodd eu calon i ysgrifennu llythyr arno. "Y Bywyd y Carwn ei Fyw ar ôl Gadael yr Ysgol" oedd hwnnw. Cawsant awr o amser i ysgrifennu arno. Bwriadai Miss Prys gadw'r llythyrau hynny er cof am y plant.

Plant i ffarmwyr a'u gweithwyr oedd y rhan fwyaf ohonynt. Yr oedd yno hefyd blant i siopwr, saer, postman, crydd, melinydd, a phregethwr. Plant y wlad oeddynt bob un. Er hynny, yn ôl eu llythyrau, nid yn y yn y wlad y treulient eu hoes. Yr oedd eu llygaid ar y byd mawr. Byddai un yn ddoctor enwog, un arall yn siopwr cyfoethog yn Llundain, un arall yn athro mewn coleg, un arall yn gapten ar y môr, un arall yn filiwnydd yn America. Deuai'r bechgyn oll yn bwysig ac yn gyfoethog. Bywyd dedwydd mewn cartref hardd oedd delfryd y rhan fwyaf o'r merched.

Cadwodd Miss Prys—neu yn hytrach, Mrs. Harri— y llythyrau hyn yn ofalus. Darllenai hwynt yn awr ac yn y man, a deuai'r bechgyn a'r merched yn fyw ger ei bron fel yr oeddynt yn yr ysgol gynt. Pan welodd yn y papurau hanes rhyfedd Llew Llwyd a'i chwaer Myfanwy, tynnodd allan eu llythyrau hwy o blith y lleill a darllenodd hwy drachefn. Yr oeddynt yn ddwbl ddiddorol erbyn hyn. A oedd rhywbeth ym mwriadau cynnar y ddau hyn yn awgrymu dyfodol mor gyffrous? Beth bynnag am hynny, ni ddymunasent erioed am anturiaethau o'r math a ddaeth i'w rhan. Dyma'r ddau lythyr:

Brynteg,
Glyn y Groes,
Gorffennaf 20, 19—
ANNWYL ATHRAWES,

Ar ôl gadael yr ysgol, hoffwn fod yn ddarganfyddwr fel Livingstone neu Stanley. Awn i Affrica i saethu teigrod a llewod ac anifeiliaid gwylltion eraill. Byddwn bron â chael fy lladd, ond achubid fi gan fy ngweision duon. Yna, un dydd, ymladdem ni â llwyth arall, a ni a enillai. Deuwn adref wedyn am tua chwe mis. Deuwn â chroen teigr i fy mam a rhes o ddannedd llew i fy chwaer Myfanwy, a rhywbeth arall i fy nhad. Wedi mwynhau fy hun yn dda, awn yn ôl drachefn i Affrica. Wrth deithio trwy'r goedwig, deuem ar draws canibaliaid, a byddai'n rhaid i ni ymladd am ein bywyd. Y tro nesaf y deuwn adref, caem storm ar y môr. Chwythid fi yn erbyn yr hwylbren. Cawn ergyd mor enbyd nes bod pawb yn meddwl fy mod wedi marw.

Yr eiddoch,
Yn gywir,
LLEW LLWYD.

Llythyr byr oedd gan Myfanwy. Yr oedd hi ddwy flwydd yn ieuengach na'i brawd.

Brynteg,
Glyn y Groes,
Gorffennaf 20, 19—
ANNWYL ATHRAWES,

Ar ôl gadael yr ysgol hoffwn fynd yn forwyn i dŷ doctor. Byddai'n rhaid i mi gadw'r tŷ'n lân, a pharatoi brecwast, cinio, te, a swper, a golchi'r llestri ar ôl pob pryd.

Ar ôl i mi fod yno am rai blynyddoedd, deuai doctor arall i helpu fy meistr. Yna, cyn hir, byddai y doctor newydd a minnau yn priodi, ac aem i fyw i Canada neu i New Zealand.

Yr eiddoch,
Yn gywir,
MYFANWY LLWYD.

Nodiadau golygu