Breuddwydion Myfanwy/Pennod X

Pennod IX Breuddwydion Myfanwy

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Pennod XI


X

Rhedai balm yr awel deneu drwy yr irgoed glâs dan sisial
Llesmair ganig uwchben grisial y dŵr gloywa fu erioed;
Fel y clywsoch ŵr o Gymro'n gosod pennill ar y tannau,
Felly neidiai'r chwim gorfannau ar wefusau dail y coed.
—W. J. GRUFFYDD (Ynys yr Hud).

CERDDODD y tri eraill gyda hwy hyd y fan lle llifai'r nant dros y traeth. Dilyn cwrs y nant i fyny at ei tharddell oedd y cynllun goreu, meddai Mr. Luxton. Aeth y ddau yn fuan o'r golwg yn y coed.

Ar y dechreu, rhestri o balmwydd coco, yn gŵyro'n hiraethus tua'r môr, oedd o'u cylch ym mhobman. Rhai enfawr ar ffurf rhedyn yw dail y coed hyn. Y mae'r goes, neu gangen ganol y ddeilen tua phymtheg troedfedd o hyd. Tŷf y ffrwyth gwyrdd a'r rhai brown aeddfed ar yr un pryd ar y pren. Yr oedd llu ohonynt wedi syrthio ar y ddaear. Cododd Mr. Luxton ddwy o'r rhai gwyrdd, a gofynnodd i Gareth am fenthyg ei gyllell. "Nid yw'r rhai yna yn aeddfed," ebe Gareth, ac estyn ei gyllell wedi ei hagor yng nghyntaf.

'Gwn hynny," ebe Mr. Luxton. "Darllenais rywle fod sudd hyfryd yn y rhai gwyrdd yma, un da at dorri syched, a'i flâs rywbeth yn debig i lemonêd. Cawn ei brofi'n awr."

"O, rhagorol!" ebe Gareth, wedi sugno peth o'r hylif o'r twll a wnaethai Mr. Luxton yn y gneuen. "Dyna drueni na bai'r lleill yma gyda ni! Cawn ddigon o lemonêd mwy, bryd y mynnom. Rhaid i ni fynd â nifer dda ohonynt yn ôl gyda ni."

"Y pwnc yw sut i'w cario. Arhoswch! Caiff y pren yma roddi bag i ni eto. Dyma un gweddol isel. A fedrwch ei ddringo a thorri cangen i mi!"

Nid gwaith hawdd oedd dringo'r pren am nad oedd lle i roddi troed arno. Gwaith anhawddach fyth oedd torri'r gangen. Wedi llwyddo, taflodd hi i lawr, a llithrodd yntau i lawr ar ei hôl.

"Dyma'r peth oeddwn am ei gael," ebe Mr. Luxton, a thynnu'n rhydd yn ofalus rywfath o liain oedd am fôn y gangen. Dywedodd Gareth iddo gael gwaith caled i dorri'r gangen am fod y lliain yn ei dál mor ddiogel wrth y pren. Dywedodd Mr. Luxton fod yr un peth wrth fôn pob cangen o'r palmwydd coco, er mwyn eu cadw rhag eu hysigo gan y gwynt. Un brown, cryf, ydoedd, wedi ei weu fel rhai o'r defnyddiau a werthir mewn siopau.

"Edrychwch!" ebe Mr. Luxton. "Y mae hwn tua hanner llath o hyd a thua troedfedd o led. Gallwn wneud bag bychan ohono drwy glymu ei gorneli." "Gwell cael un neu ddau arall ato," ebe Gareth.

"Nid oes amser yn awr. Gallwn gael digon eto bryd y mynnom. Bydd yn ddefnyddiol iawn i ni at lawer o bethau. Gallem wneud dillad ohono, pe bai angen."

"Lemonêd, hufen, cig a dillad ar yr un pren!" ebe Gareth.

Ar ochr arall y nant yr oedd y pren banana, a'i ddail yn chwe troedfedd o hyd a hanner cymaint â hynny o led, a'i glystrau o ffrwythau yn hanner ymguddio rhyngddynt. Nid oedd coed tál rhyngddo â'r traeth, a da oedd hynny, neu ni buasai Llew wedi ei weld ar y foment yr oedd cymaint o'i angen. Penderfynasant beidio â chario bananau gyda hwy ar eu taith, gan y byddent yn debig o gael digon i'w fwyta pa le bynnag yr aent.

Yn fuan, dechreuasant ddringo'n raddol. Tyfai yma lawer math o goed mawrion, a'u dail llydain. bron â chau allan oleuni'r haul. Drwy brysgwydd tew y cerddent. Yr oedd pob un o'r ddau wedi gofalu arfogi ei hun â ffon gref cyn cychwyn. Bu'n rhaid defnyddio'r ffyn yn awr i agor llwybr o'u blaen. Ymblethai'r liana gwydn am eu traed nes bron â'u rhwystro i symud. Yr oedd ar Gareth ofn sathru ar seirff neu gyfarfod â baedd gwyllt neu lew neu ryw greadur ffyrnig arall. Aethant ymlaen o gam i gam heb i ddim annymunol felly ddigwydd.

Daethant at le mwy agored. Ni welodd neb le harddach erioed. Bwrlymai ffynnon risial o dan ddarn o graig, a llifai fel llinyn arian drwy garped gwyrdd o fwsogl a phorfa. Tyfai blodau gwyn a choch a glâs a melyn o amgylch y fan. Ni wyddai hyd yn oed Mr. Luxton eu henwau. Tuhwnt i'r ffynnon yr oedd pren banana arall, ac ar y llethr yr ochr arall fforest o lwyni,—orennau, lemonau, a rhyw ffrwythau eraill dieithr i'r ddau deithiwr. Hedai myrdd o ieir bach yr haf o bob lliw'r enfys o flodyn i flodyn. Codai twrr o adar i'r awyr yn awr ac yn y man,—adar amryliw fel ieir bach yr haf, ond adar digân. Ni chlywid dim sŵn yn y man paradwysaidd hwnnw ond tincl tincl y nant a rhu pell yr eigion yn taro ar y creigiau cwrel.

Eisteddasant wrth y ffynnon am funud o seibiant. Yfasant o'r dŵr clir a bwytasant fananau ac orennau. "Yr wyf yn siwr y gallai Madame a Myfanwy gerdded hyd yma," ebe Gareth.

'Gallent, yn ddiau," ebe Mr. Luxton, "pe cerddem ni ein tri o'u blaen a gwneud llwybr iddynt â'n ffyn." "O, bydd yn hyfryd bod yn y lle hwn gyda'i gilydd," ebe Gareth.

Ymlaen â hwy drachefn. Ai eu llwybr yn fwy a mwy serth. Heb gymryd amser i sylwi ar y rhyfeddodau o'u cylch, cerddasant yn ddygn drwy'r prysgwydd tew. Wedi tua dwy awr o ddringo caled, daethant allan i le uchel, gwastad a moel. Yr oeddynt ar ben y bryn.

Ar y pen isaf iddo, rhyw fryn hir, cul, ydoedd, a'i gopa'n wastad ar un pen ac yn graddol ymgodi i bigyn uchel ar y pen arall. Ar y fan lle safent hwy yr oedd porfa dew esmwyth. Yn uwch i fyny rhyngddynt â'r pigyn gwelent dyrrau o goed isel. Beth oedd tuhwnt i'r pigyn, ai môr neu dir, ni wyddent.

Yr oedd golygfa hardd iawn o'u blaen. Ar dair ochr iddynt yr oedd y môr. O'r pellter hwnnw ymddangosai, yn unol â'i enw, yn Fôr Tawel. Ar yr ochr dde ac o'u blaen gwelent y rhibyn cwrel a'r lagŵn dawel o'i fewn. Ni fedrent weld a oedd y rhibyn hefyd ar yr ochr chwith. Nid oeddynt yn ddigon uchel, oherwydd tuhwnt i'r dyffryn cul y daethent drwyddo yr oedd bryncyn arall, a rhwystrai hwnnw hwy i weld y traeth. Awyddai Gareth fynd ymlaen ar ben y bryn hyd ei gwrr pellaf, ond barnai Mr. Luxton y byddai'r daith yn rhy bell iddynt fedru cyrraedd yn ôl at y lleill cyn machlud haul.

"Rhaid i ni adael ein gwaith ar ei hanner heddiw, Gareth, a dyfod eto yn y bore bach yfory, ebe Mr. Luxton. "Y mae'n bwysig i ni wybod ai ar ynys yr ydym yn byw."

"Nid oes neb arall yn byw yma, beth bynnag, neu buasem wedi eu gweld neu weld eu hôl rywle.

"Gobeithio er mwyn popeth nad oes."

Aethant yn ôl, hyd y gallent, dros yr un llwybr, ond buont yn hir iawn cyn dyfod at y ffynnon, ac wedi dyfod, temtid hwy i aros a sylwi ar y gwahanol ffrwythau.

"Hwre!" ebe Mr. Luxton yn sydyn, "Dyma fi wedi cael y Pren Bara. Edrychwch! A welsoch chwi dorthau yn tyfu ar bren o'r blaen?"

Syllu'n sýn a wnaeth Gareth. Pren tebig ei faint i bren afalau mawr ydoedd, a'i ddail yn rhai mawr a llyfn o liw gwyrdd tywyll a thua troedfedd neu fwy o hyd. Edrychai ei ffrwyth yn debig iawn i dorthau bychain. Breadfruit yw yr enw Saesneg arno.

"Wedi ei goginio, y mae hwn yn debig iawn ei flas i fara, ac yn faethlon iawn, ebe Mr. Luxton. "Dewch i dynnu rhai."

"Ond sut coginiwn ni ef? ebe Gareth.

"Angen yw mam dyfais. rhywbeth."

Nid oes llestr gennym,"

Rhaid i ninnau ddyfeisio

Cyn mynd ymhell safodd Mr. Luxton o flaen rhyw blanhigion isel, a dechreu turio â'i ffon ac â'i ddwylaw. Daeth gwreiddyn mawr i'r golwg o liw porffor ac yn fwy ei faint na'i ben. Cafodd un arall mwy fyth o dan blanhigyn arall.

"Yam yw enw hwn," ebe Mr. Luxton. "Bwyteir ef bob dydd gan bobl y gwledydd lle y tŷf, ac y mae yn flasus a da.

"Dyna dda eich bod yma!" ebe Gareth. "Ni fuasai Llew a minnau yn gwybod gwerth y pethau hyn. Byddem yn sicr o newynu ynghanol digonedd."

"Nid yw darllen a dysgu yn waith ofer, hyd yn oed mewn lle fel hwn," ebe Mr. Luxton.

Yna crynhoisant gymaint o ffrwythau âg a fedrent eu cario,—bara, yam, orennau a lemonau—a brysiasant o'r fan.

Wedi cyrraedd y traeth, synnodd y ddau deithiwr llwythog a blinedig weld tân mawr yn y gwersyll, a Madame a Myfanwy a Llew yn penlinio o'i gylch, Daeth arogl hyfryd i'w ffroenau,—arogl pysgod yn rhostio. Rhedasant ymlaen er trymed eu beichiau.

Nid oedd y "teulu gartref" wedi treulio'r dydd yn segur. Heb na rhwyd na bach daliasai Llew a Myfanwy nifer o bysgod yn y lagŵn. Rhyw fath o ysgadan oeddynt. Dywedodd Madame eu bod yn dda i'w bwyta â dangosodd y ffordd i'w glanhau. Yn awr yr oedd y tri yn dál un ymhob llaw ar flaen gwialen fain wrth y tân mawr, ac yr oedd y swper flasus bron â bod yn barod. Dyna groesaw a gafodd Mr. Luxton a Gareth ar ôl eu taith bell!

"Trueni na bai gennym dipyn o fara a chwpanaid o de gyda'r pysgod yma," ebe Myfanwy.

"Gallwn fyw heb de," ebe Mr. Luxton, ond y mae Gareth a minnau wedi gofalu am ddigon o fara."

Edrychodd y tri eraill yn sýn iawn.

"Bara!" ebe Llew. "Pa le y cawsoch ef?"

"Ei brynu, wrth gwrs, yn siop y pentref," ebe Gareth.

"Edrychwch!" ebe Mr. Luxton, a dangos y torthau. "Bara heb ei bobi ydyw. Gallwn ei bobi'n awr ar y tân yma."

"O, dyna fara!" ebe Myfanwy gyda dirmyg.

Tyfu ar bren y mae hwnyna. Y mae fel lemon mawr heb aeddfedu."

"Ah! L'arbre à pain," ebe Madame.

"Ie," ebe Mr. Luxton. "Hwn yw prif fwyd llawer o bobl fel y mae bara gyda ni. Synnwn i ddim nad yw'n llawn mor faethlon â bara, a llawn mor flasus hefyd ar ôl ei goginio. Cawn ei brofi 'n awr," Rhoddodd dair o'r torthau yn lludw poeth y tân. Yr oedd y fflamau mawr wedi mynd, ond yr oedd digon o wres ar ôl.

"Am y tro hwn," ebe Madame, "bwytâwn y pysgod yng nghyntaf a'r bara ar eu hôl, neu bydd y pysgod wedi oeri a mynd yn ddiflas."

Rhoddodd ei gyfran i bob un ar ddarn o ddeilen banana. Defnyddient eu bysedd yn lle ffyrc. Chwarddent am eu dull barbaraidd o fwyta, ond ni fu pysgod erioed yn fwy blasus na'r rhai hynny.

Yna daeth tro'r bara. Yr oedd erbyn hyn wedi rhostio a'i groen wedi cracio, a'r bywyn gwýn wedi dyfod i'r golwg. A dau bren cododd Mr. Luxton y tair torth i ddysgl. Deilen oedd y ddysgl eto. A chyllell Gareth wedi ei sychu'n ofalus â deilen arall, torrodd ymaith y croen a thynnodd allan ganol y ffrwyth, neu y galon. Nid yw hwnnw'n dda i'w fwyta. Yna cododd Madame ddarn o'r bara ffres hyfryd i bob un, ar blatiau glân, bid siwr. Rhyngddynt bwytasant y tair torth, a barn pob un ohonynt oedd eu bod yn rhagorol. I orffen y pryd, cawsant faint a fynnent o orennau a bananau, a gofalodd Gareth fod digon o lemonêd ar gyfer pob un.

Ar ôl swper—nid oedd eisiau golchi llestri—buont yn adrodd helyntion y dydd i'w gilydd. Disgrifiodd Mr. Luxton a Gareth gymaint ag a welsent o'r ynys, os ynys ydoedd. Gan nad oeddynt yn sicr ar y pen hwnnw, trefnwyd bod y ddau fachgen i gychwyn gyda'r wawr drannoeth, a mynd hyd ben pellaf y bryn. Ar awgrym Gareth, penderfynwyd eu bod oll i fynd hyd y ffynnon, a Mr. Luxton a Madame a Myfanwy i aros yno hyd nes y deuent hwy eu dau yn ôl. Yr oedd Myfanwy erbyn hyn yn fwy cartrefol. Wedi byw diwrnod yn y lle, ac wedi deall nad oedd yno anifeiliaid na dynion gwyllt, yr oedd yn fodlon i'r bechgyn fynd o'i golwg am dipyn.

"Yn awr, gwell i ni fynd i orffwys," ebe Mr. Luxton. "Y mae'r haul ar fynd i lawr. Bydd rhaid codi'n fore yfory."

"Lw show you bedrooms" ebe Madame, a gwenodd Myfanwy a Llew. ("Lw" oedd ffordd Madame o ddywedyd enw Llew, a "Thlew" a ddywedai Mr. Luxton.)

Tu ôl i'r tân, o dan gysgod y palmwydd, gwelodd Mr. Luxton a Gareth bump o gabanau bychain. Goleu'r tân a'u cuddiasai oddiwrthynt o'r blaen. Yr oedd y teulu gartref yn wir wedi bod yn brysur iawn. Gwir mai ysgafn a bregus oedd y cabanau. Nid oeddynt ond polion main a dail. Ond rhoddent gysgod rhag y gwlith, ac yr oedd dail sych, glân, yn wely esmwyth ym mhob un. Ar y tywod yr oedd eu seiliau, a phe deuai storm, ar lawr y byddent yn sarn. Yn ffodus, ni ddaeth dim o'r fath y noson honno. Cawsant bob un gysgu'n felys hyd doriad y wawr.

Nodiadau

golygu