Breuddwydion Myfanwy/Pennod XI

Pennod X Breuddwydion Myfanwy

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Pennod XII


XI

Pob melyster coch a melyn aeron ar y cangau llwythog
A wnai ochrau'r bronnydd ffrwythog yn rhyw boenus drymaidd sawr,
A chymhelri cymysg liwiau'r adar gwyllt yn gweu drwy' i gilydd
Adar Duw yn ddigywilydd ym mhellafoedd y môr mawr.
—W. J. GRUFFYDD (Ynys yr Hud).

"YN WIR, y mae awyr y lle hwn yn iach," ebe Mr. Luxton bore drannoeth. "Er fy mod wedi blino cymaint neithiwr, teimlaf fel llanc heddiw."

Dywedodd Madame ei bod hithau eisoes yn teimlo'n iachach nag y bu er ys tro, ac yn ieuengach hefyd.

Am y bechgyn a Myfanwy, er eu holl helbulon, ac er colli ohonynt bawb a phopeth, teimlent yn llawn hwyl a hoen. Yr oedd ysbryd antur wedi eu meddiannu. Ni wyddid pa beth a ddigwyddai na pha ddarganfyddiadau diddorol a wneid o ddydd i ddydd. Llithrai'r gorffennol o'u meddwl. Yr oedd bywyd yn felys o hyd.

Fel gorymdaith, un ar ôl y llall, yr aent gyda glán yr afon fach, a ffon gref yn llaw pob un—Gareth oedd y cyntaf, yna Llew, Mr. Luxton, Myfanwy a Madame D'Erville. Gwneid tipyn o lwybr clir felly ar gyfer y ddwy olaf. Nid oedd dim o ôl teithwyr y diwrnod cynt yno. Yr oedd y prysgwydd tew a'r liana wedi mynnu eu lle drachefn.

"O, dyma baradwys!" ebe Madame, pan ddaethant at y lle agored a'r ffynnon.

Ie" ebe Mr. Luxton, "paradwys yw yn wir. Efallai nad oes neb o'r blaen wedi gweld yr harddwch hwn, ond nid yw Natur am hynny yn llai gofalus gyda phob rhan o'i gwaith. Y mae popeth yn berffaith yma."

"Efallai mai er ein mwyn ni y gwnaed y lle hwn," ebe Myfanwy.

"We two, Myfanwy and me, enough strong today to go top of hill," ebe Madame.

"O Madame! Dyna falch y byddaf os dewch chwi," ebe Myfanwy.

Yr oedd y lleill yn falch hefyd. Byddent yn hapusach gyda'i gilydd. Cymerasant dipyn o seibiant wrth y ffynnon. Anodd oedd symud o'r lle hudol. Deuai rhyw ryfeddod newydd i'r golwg o hyd. Cododd twrr o barôtau o rywle, a hedeg yn wyllt uwchben y llecyn agored. Edrychent yn union fel enfys ar wib. Cyn i neb orffen synnu at eu lliwiau gogoneddus gwaeddodd Myfanwy'n wyllt:—

Llew! Gareth! Dewch yma i gyd! O, dyma ddeilen yn cerdded!"

Syllai Myfanwy'n frawychus ar y creadur bach rhyfedd. Yr oedd yn union fel deilen, a dyna fe'n symud ohono'i hun! Cododd Mr. Luxton ef ar ddeilen fawr fel y gellid ei weld yn well. Symudai eto o un pen i'r llall i'r ddeilen fawr. Rhaid bod ganddo ben a llygaid a choesau, ond ni fedrai neb ddywedyd llai nad deilen oddiar bren ydoedd. Dywedodd Mr. Luxton y gwyddai ef fod creaduriaid felly i'w cael, ond nas gwelsai o'r blaen, a bod creaduriaid bach a mawr y goedwig wedi eu gwisgo yr un fath â'u cylchynion er mwyn eu diogelwch.

Fel y teigr a'r llewpard," ebe Llew.

"A'r crocodil hefyd, fel gwymon yn y dŵr," ebe Gareth.

"O dir!" ebe Myfanwy neu lew yma!"

"Beth pe gwelem deigr"

"Nid oes eisieu i chwi ofni hynny," ebe Mr. Luxton. Rhoddodd ei eiriau pendant gysur mawr i Myfanwy, ac i'r lleill hefyd.

Yn awr, dim rhagor o ymdroi," ebe Mr. Luxton, neu ar hanner y bydd ein gwaith heno eto. Cawn aros i edrych ar y rhyfeddodau ar ein ffordd yn ôl."

Cerddasant ymlaen mewn cyfnos hyfryd. Gwelent ddarnau o'r awyr lâs rhwng brigau tál y coed. Weithiau ni welent hi o gwbl. Weithiau hefyd, deuai llain lydan o'r môr i'r golwg—glesni arall a'r haul yn chwarae arno. Nid oedd eu llwybr mor serth ag oedd i Mr. Luxton a Gareth y diwrnod cynt. Cyn hir daethant at lecyn arall gweddol wastad.

"Sut na welsom ni hwn ddoe?" ebe Mr. Luxton, 'Rhaid ein bod wedi newid ein llwybr," ebe Gareth. "Beth bynnag, credaf ein bod wedi darganfod rhywbeth diddorol a defnyddiol arall," ebe Mr. Luxton. "Rhaid i ni fynnu amser i edrych ar y llwyni yma."

Yr oedd yno dwrr o goed main, fel rhyw wialennau tál. Yr oeddynt tua deunaw troedfedd o hyd a dwy fodfedd ar draws, a thwrr o ddail ar eu brigau. Torrodd Mr. Luxton un ohonynt â chyllell Gareth, a daeth allan dorreth o sudd. Rhoddodd ychydig ohono ar ei dafod, a gofynnodd i'r lleill wneud yr un peth.

"O, y mae fel triagl!" ebe Myfanwy.

"Y Pren Siwgr ydyw," ebe Llew.

"Tybed a oes coffi hefyd yn y lle rhyfedd hwn?" ebe Madame.

"Y mae llaeth a siwgr gennym yn barod," ebe Gareth.

"Synnwn i ddim yn wir nad oes yma de a choffi," ebe Mr. Luxton. "Os ydynt yma, byddwn yn sicr o'u cael ryw ddiwrnod. Dyma i ni ddigon o siwgr beth bynnag."

Ac y mae yn siwgr pur," ebe Madame.

"Dim ond pethau pur a werthir yn siopau'r ynys hon," ebe Gareth.

"Nid wyt yn siwr eto mai ynys ydyw," ebe Myfanwy. "Nac ydym, a dyma ni'n anghofio ein neges eto,' ebe Mr. Luxton. "Dewch ymlaen!"

Cafodd pob un ddarn hir o'r pren siwgr i'w sugno ar y ffordd.

"Trueni bod y siop felysion mor bell, onide Myfanwy?" ebe Gareth.

"Os deuwn yn ôl ffordd yma, cofia dorri lot dda," ebe Myfanwy.

Cyn cyrraedd copa'r bryn gofynnodd Mr. Luxton i'r bechgyn dorri deilen fawr ar gyfer pob un i'w defnyddio'n gysgod rhag yr haul pan adawent y goedwig.

Daethant allan lawer yn uwch i fyny na'r diwrnod cynt. Am amser ni wyddent eu bod ar ben y bryn, oherwydd yr oeddynt ynghanol coed o hyd. Yr oedd y darn gwastad moel ymhell o'u hôl. Yna daethant allan yn sydyn a gweld eu bod o fewn tua dau can llath i'r pigyn uchaf. Rhedodd y plant ymlaen yn gyffrous. Ai'r lle yn fwyfwy serth fel yr aent ymlaen. Dyna hwy ar y brig, a Madame a Mr. Luxton yno bron cyn gynted â hwythau. A dyna neges y daith wedi ei chyflawni.

Ie, ynys ydoedd. Edrychodd y pump yn hiraethus ar yr ehangder o fôr oedd o'u cylch ymhob cyfeiriad, a'r ynys fechan y safent arni ond megis botwm ar wyneb y dyfnder mawr. Pa le yr oeddynt? Pa beth oedd tudraw? Pa le yr oedd eu rhai annwyl? Ai ar yr ynys unig hon y treulient eu hoes ac y byddent farw?

Dawnsiai'r môr dan wenau'r haul, a'r unig sŵn a glywent oedd cri'r gwylanod ar y creigiau islaw.

Wedi'r cyfan yr oedd yn dda ganddynt mai ar ynys yr oeddynt ac nad oedd ynys arall yn y golwg. Yr oeddynt mewn llai o berigl felly. Gwyddent oddiwrth yr hin ac oddiwrth ffrwythau'r ynys mai yn rhywle tua'r cyhydedd yr oeddynt. Gwyddai Mr. Luxton o leiaf hefyd fod rhai o ynysoedd y cyhydedd ymhell o fod yn ddiogel i ddynion gwynion. Diau mai un o gannoedd ynysoedd unig Môr y De oedd hon, heb neb yn byw arni wrth bob tebig. Efallai na ddeuai neb byth i'w blino yma. Ar y pryd, beth bynnag, yr oeddynt yn ddiogel, a digon o bethau ganddynt i'w cynnal.

Gwelent yr ynys yn gyfan o'r man y safent arno. Un hir, gul, ydoedd. Yn ôl barn Mr. Luxton mesurai tua phum neu chwe milltir o'r Gorllewin i'r Dwyrain, a thua tair milltir yn ei man lletaf ar draws. Yr oedd y bryn hir fel rhyw asgwrn cefn i'r ynys. Ymgodai'n raddol nes cyrraedd uchter o tua chwe chan troedfedd yn y pen dwyreiniol lle yr oeddynt hwy yn awr. Tua'r Gogledd disgynnai'n serth iawn am ychydig bellter, ac yna yn fwy graddol tuag at y traeth. Daethent hwy i fyny ar yr ochr ddeheuol. Yno ceid llethr coediog, yna gwm cul, a thuhwnt i'r cwm, fryn isel coediog, hir fel y llall, a'r môr ar ei odre. O gylch yr ynys yr oedd y lagŵn, mewn rhai mannau yn hanner milltir o led, mewn mannau eraill yn chwarter milltir a llai na hynny. Tuhwnt iddi, gwelent y rhibyn cwrel, ac oddiallan, y môr mawr. Ni allent weld y traeth, ond ychydig ohono ar ochr y Gogledd, oherwydd, er fod pen y bryn yn foel, ychydig yn îs i lawr tyfai palmwydd a choed eraill yn dew, nes cuddio'r traeth oddiwrthynt. Ni allent ychwaith weld traeth y De. Cyfodai'r bryn isel a'i goed tál rhyngddynt â hwnnw.

"Byddwn ddyddiau lawer cyn gwybod popeth am yr ynys yma," ebe Gareth.

"Cawn ddigon o amser at hynny," ebe Llew. "Pam na allem ni fynd yn y cwch ar y lagŵn o'i chylch?" ebe Gareth.

"Hwre! Byddai hynny'n hyfryd," ebe Myfanwy.

"No climb, only sit and look all the day," ebe Madame. "A dweyd y gwir, yr oeddwn i wedi anghofio bod gennym gwch," ebe Mr. Luxton, ond ni fuasem yn mentro ymhell ynddo cyn gwybod mai ar ynys yr ydym. Gwyddom hynny erbyn hyn, ac os mynnwch, gwnawn yn ôl awgrym Gareth bore Llun."

Yr oedd y cynnig wrth fodd pawb. Aethant yn ôl heibio'r blanhigfa siwgr. Cynghorodd Mr. Luxton y bechgyn i beidio â thorri llawer o'r prennau, oherwydd er meined ydynt, y maent yn drwm iawn. Yr oeddynt wedi bwyta cymaint drwy'r dydd fel nad oedd eisiau swper arnynt. Da oedd ganddynt daflu ymaith eu blinder melys mewn gorffwys a chwsg.

Nodiadau

golygu