Breuddwydion Myfanwy/Pennod XII
← Pennod XI | Breuddwydion Myfanwy gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
Pennod XIII → |
XII
O ryfeddod bod yr Arglwydd wedi cadw ei drysorau
Draw ynghudd tu ôl i ddorau ynys fach ym Môr y De.
—W. J. GRUFFYDD (Ynys yr Hud).
YR OEDD yn ddydd Sul drannoeth, eu Sul cyntaf ar yr ynys. Cytunasant nad oedd gweithio i fod ar y dydd hwnnw. Yr oedd eisiau dydd o orffwys ar eu cyrff. Yr oedd hefyd eisiau iddynt dreulio ychydig amser gyda'i gilydd i feddwl am rywbeth heblaw pethau bach y bywyd hwn. Nid oedd hyn yn hollol eglur i Llew a Gareth a Myfanwy. Gan nad oedd capel nac eglwys ar yr ynys, buasai'n well ganddynt hwy fynd am daith hir eto i ryw ran arall o'r ynys, ond edrychent eisoes ar Mr. Luxton fel eu hathro a'u harweinydd, a pharchent ei orchmynion. Yr oedd Madame yn fodlon iawn wrth edrych ymlaen at ddydd o orffwys.
Yr oeddynt oll ar eu traed gyda'r wawr. Pwy allasai orwedd a haul ac awel yn galw arnynt i fwynhau'r dydd? Fel ar y ddau fore cynt aeth Mr. Luxton a'r bechgyn i un cyfeiriad a Madame a Myfanwy i gyfeiriad arall i ymolchi yn nyfroedd clir y lagŵn. Yr oedd crib fach Myfanwy a'r drych oedd ar glawr bag Madame yn bethau defnyddiol iawn erbyn hyn.
"Trueni na bai gennym ddillad dydd Sul i'w gwisgo heddiw," ebe Myfanwy.
"Yr oedd gennyf i gistiaid o'r dillad harddaf," ebe Madame gydag ochenaid. "Beth a wnawn pan dreulia'r rhai hyn?"
"Peidiwch â gofidio, Madame. Daw dillad i ni o rywle pan fydd eu heisiau arnom. Synnwn i ddim eu gweld yn tyfu ar y coed yn y lle rhyfedd hwn," ebe Myfanwy.
Wedi borefwyd, darllenodd Mr. Luxton y ddegfed Salm wedi'r pedwar ugain o'i Feibl Saesneg. Darllenai yn araf iawn, fel y gallai Madame ei ddilyn. Yna darllenodd Llew o'i Feibl Cymraeg y paragraff olaf o'r chweched bennod yn Efengyl Mathew. Dilynai Mr. Luxton a Madame yr adnodau o un i un yn y Beibl Saesneg. Synnai'r ddau fod Llew yn gwybod ar unwaith felly am ddarn mor darawiadol i'w ddarllen. Yna canodd y tri phlentyn gyda'i gilydd emyn Cymraeg. Yn sydyn, heb i neb ofyn iddi, dywedodd Madame:—
"Rhaid i minnau wneud fy rhan. Mi wn un Salm. Mi a'i hadroddaf i chwi yn awr. Y drydedd Salm ar hugain yw hi."
Dyma'r Salm fel yr adroddodd Madame hi:—
L'Éternel est mon berger, je n'aurai point de disette.
Il me fait reposer dans des parcs herbeux, et il me conduit le long des eaux tranquilles. Il restaure mon âme, et il me mène par des sentiers unis, pour l'amour de son nom.
Même quand je marcherais par la vallée de l'ombre de la mort, je ne craindrais aucun mal, car tu es avec moi c'est ton bâton et ta boulette qui me consolent.
Tu dresses la table devant moi, à la vue de ceux qui me persécutent: tu oins ma tête d'huile, et ma coupe est remplie.
Quoi qu'il en soit, les biens et la miséricorde m'accompagneront tous les jours de ma vie, et mon habitation sera dans la maison de l'Éternel pour longtemps."
Yna gweddïodd Mr. Luxton drostynt i gyd. Teimlent bob un yn hapusach ar ôl y cyfarfod bach hwnnw. Rywfodd, teimlent nad oeddynt yn unig ar yr ynys. Yr oeddynt yng ngolwg Rhywun ac o dan ofal Rhywun oedd â phob gallu yn Ei law.
Yr oedd mynd am dro trwy'r wig allan o'r cwestiwn. Byddai'n rhaid clirio llwybr o'r newydd. Gwyddent na fyddai yno ddim o ôl y llwybr a wnaethent ddoe. Ni fyddai teithio llafurus felly yn orffwys o gwbl. Felly, cerddasant yn hamddenol ar y traeth,—Gareth a Llew a Myfanwy heb nac esgidiau na hosanau. Erbyn hyn, yn droednoeth y cerddai'r bechgyn bob amser ond pan aent i'r wig, ac yr oedd Myfanwy yn prysur ddilyn eu hesiampl. Dyna bleser sydd, i fach a mawr, mewn cerdded yn droednoeth ar lán y môr!
Aethant i gyfeiriad arall y tro hwn,—i gyfeiriad y De. Nid oedd neb ohonynt wedi crwydro ond rhyw ychydig gamau i'r cyfeiriad hwn o'r blaen. Rhan ydoedd o'r traeth y methasent ei weld o ben y bryn. Yr oedd y plant mewn hwyl. Dywedent ynddynt eu hunain eu bod yn cael taith ymchwil wedi'r cwbl, er mai dydd Sul ydoedd.
Yn union wedi mynd heibio'r trwyn cyntaf beth a welent ond Pren Bara mawr yn tyfu ar fin y traeth a digonedd o ffrwyth arno. Yr oeddynt yn falch neilltuol i'w weld. Ni fyddai'n rhaid cario bara o bell ffordd mwy. Y mae siop yn ymyl eich drws yn gyfleus iawn.
Traeth cul oedd ar yr ochr hon. Yr oedd y rhibyn cwrel, hefyd, yn agos iawn,—lai na chwarter milltir oddiwrthynt. Gwelent yn eglur y palmwydd cnau a rhai coed main eraill a dyfai arno.
"Pwy adeiladodd y wal yna o gylch yr ynys?" gofynnai Myfanwy.
"Dod ei hunan a wnaeth," ebe Gareth.
"Creaduriaid bach a'i hadeiladodd," ebe Llew. "Paid â siarad dwli, Llew," ebe Myfanwy, yn Gymraeg.
"Y mae gennyf i, neu yr oedd gennyf—raff hardd iawn o gwrel coch ymhlith pethau eraill yn fy nghist sydd yn awr ar waelod y môr," ebe Madame, "ond ni wn i ddim sut y gwnaed y cwrel."
"Y mae creaduriaid bach rhyfedd iawn yn byw yn y môr yn y rhan hon o'r byd," ebe Mr. Luxton. "Rhyw fath o bryfaid meddal fel jeli ydynt. Meddant y gallu i dynnu o'r môr ryw sylwedd calchiog sydd ynddo i wneud tai iddynt eu hunain. Pan fyddant farw, gadawant eu tai ar ôl. Dyna yw'r rhibyn yma i gyd,—tai'r creaduriaid bychain hyn wedi eu gadael yma flwyddyn ar ôl blwyddyn a chanrif ar ôl canrif.
"A ydynt yn para i'w hadeiladu, hynny yw, i fyw a marw o hyd?" ebe Llew.
"O ydynt," ebe Mr. Luxton. "Y mae godre ac ochr y rhibyn, lle mae'r tonnau'n torri, yn graig fyw, yn graig sydd yn tyfu o hyd. Y mae mor fyw ag yw planhigyn mewn gardd, ond ei bod ar raddfa îs o fywyd. Onibai ei bod yn graig fyw ac nid yn rhyw fath o garreg farw byddai tonnau'r môr wedi ei chwalu er ys llawer dydd. Adeilada'r creaduriaid yn gynt nag y dinistria'r môr."
"Onid y tonnau a dorrodd y bylchau a welsom?" ebe Llew.
"Nage," ebe Mr. Luxton. "Ceir bylchau yn y cwrel lle llifa afon i'r môr. Ni all y creaduriaid yma fyw mewn dŵr crai. Y mae bwlch bach gyferbyn â'n hafon fach ni. Y mae un mwy lle daethoch chwi, Llew, â'r cwch i mewn, er nad oes afon yno. A fedrwch chwi ddyfalu paham?""
"Efallai bod yr afon wedi newid ei chwrs yn ddiweddar," ebe Llew.
"Dyna fy marn innau," ebe Mr. Luxton. "Efallai y gwelwn ryw ddiwrnod pa le y trodd yr afon oddiar ei llwybr cyntaf."
"Ai dim ond un afon sydd yma?" ebe Myfanwy. "Dim ond un a welsom eto," ebe Llew.
"A barnu oddiwrth ffurf yr ynys a safle'r bryniau, nid wyf yn meddwl bod yma afon arall. Y mae'n amlwg i rywbeth eich arwain chwi Llew at yr unig fwlch y gallai'r cwch ddyfod trwyddo. Goreu i gyd i ni mai dim ond un bwlch sydd yma."
"Pam 'goreu i gyd' syr,?" ebe Llew.
"Yr ydym yn ddiogelach. Ni all neb ddyfod atom ond trwy'r bwlch yna.'
"Sut gall coed dyfu ar y graig a hithau'n fyw?" ebe Gareth.
"Dim ond ar ei godre y mae yn fyw. Ni all y polypifer fyw ond mewn dŵr hallt. Y mae haul ac awyr yn wenwyn iddo. Tai wedi eu gadael er ys oesau yw'r graig sydd uwch y dŵr. Y mae llawer ohonynt hyd yn hyn o'r golwg yn y dŵr, yn tyfu, tyfu, o hyd."
"Efallai mai ar graig gwrel o dan y dŵr y trawodd ein llong ni," ebe Llew.
Fel yr aent ymlaen âi'r tir yn uwch ac yn fwy creigiog. Cyfodai ambell delpyn o graig noeth heb goed arni o gwbl, Cerddai'r bechgyn a Myfanwy gyda'i gilydd, weithiau yn y dŵr ac weithiau ar y tywod poeth. Chwiliai Myfanwy am gregyn tlws. Yr oedd digonedd o rai rhyfedd o bob ffurf a lliw ar hyd y traeth. Ceid darnau hardd iawn o gwrel hefyd yma a thraw. Efallai y gellid gwneud rhaffau godidog ohonynt i Madame a hithau rywbryd. Rhedodd Gareth yn sydyn o'r dŵr a rhywbeth yn ei law, a gweiddi:—
"Mr. Luxton! Madame! Dyma lymarch! Y mae digonedd ohonynt allan fan yna yn y môr."
"Ah! Une huître," ebe Madame. "Yr wyf yn hoff iawn ohonynt."
Cynhygiodd Gareth hwn iddi. Agorodd Mr. Luxton ef â'r gyllell, ac edrych arno'n ofalus. Llyncodd Madame ef gyda blâs.
"Cesglwch ddigon i ni i gyd," ebe Mr. Luxton. "Daw Myfanwy a minnau â chnau gwyrdd o'r coed yma. Cawn bryd da o lymeirch a shampên."
Agorodd Mr. Luxton y llymeirch ei hun, a chraffodd arnynt fel o'r blaen cyn eu rhoddi i neb i'w llyncu.
"Y mae Mr. Luxton yn edrych am berlau," ebe Madame.
"Gwir, Madame," ebe Mr. Luxton. "Yn y rhan hon o'r byd, blant, ceir yn fynych iawn berl gwerthfawr o dan farf y llymarch. Y maent yn werth arian mawr. Byddai nifer fach ohonynt yn ffortiwn i ni pe baem yn byw mewn gwlad lle mae arian o ryw werth. A! Dyma un o'r diwedd, ond un bach iawn ydyw. Edrychwch!"
Yr oedd tua'r un faint â chlopa pin ac yn ddis— glair a hardd iawn. Syllent yn sýn ar y rhyfeddod newydd hwn.
"Pwy gaiff y perl cyntaf?" ebe Mr. Luxton.
"Myfanwy," ebe Madame.
"Yr wyf i'n cynnig bod Myfanwy a Madame i'w cael bob yn ail, fel y cawn hwy, beth bynnag fydd eu maint," ebe Gareth.
"Da iawn," ebe Mr. Luxton.
"O dir!" ebe Myfanwy. "Trueni na allaswn i werthu'r perl yma heddiw, a phrynu dillad newydd i ni i gyd â'r arian."
"Cadwch y perl yn ofalus. Pwy ŵyr na ddaw cyfle i'w werthu cyn bo hir," ebe Mr. Luxton.
Yr oedd creigiau isel ar y traeth yr ochr hon. Treuliasant lawer o amser i eistedd ar un o'r rhai hyn a gwylio'r pysgod yn chwarae yn y dŵr. Penderfynodd Llew a Gareth wneud rhywfath o wialen. bysgota drannoeth er mwyn ceisio dál rhai o'r pysgod mawr. Yr oedd y dŵr yn rhy ddwfn yma i fynd iddo a'u dál â'u dwylo.
Pan droisant yn ôl yr oedd y llanw yn prysur orchuddio'r tywod. Er mai ychydig o wahaniaeth oedd yno rhwng trai a llanw, yr oedd y traeth eisoes mor gul fel yr ofnent eu dál gan y dŵr.
"Dacw ddau afal yn y môr," ebe Myfanwy. "O ba le y daethant?"
Edrychasant i fyny, a gwelsant yn eu hymyl bren afalau, a chnwd o ffrwyth arno. Yr oedd y rhai aeddfed yn goch goch oddiallan ac yn wýn wýn oddimewn, a'u blâs yn nodedig o bêr. Yr oeddynt yn ychwanegiad pwysig at eu stoc o fwyd.