Breuddwydion Myfanwy/Pennod XX
← Pennod XIX | Breuddwydion Myfanwy gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
Pennod XXI → |
XX
Wele o'r diwedd dros y lli
Gwch eto'n cyrchu ati hi,
Cwch mawr a degau ar ei fwrdd.
—CYNAN (Yr Ynys Unig).
TUA diwedd Medi daeth storm arall. Nid oedd hon lawn cynddrwg â'r un a gawsent yn Ionawr. Yn syth o'r De y chwythai. Aethant i'r ogof am gysgod fel o'r blaen, ond hyd yn oed yno nid oeddynt yn gysurus nac yn ddiogel iawn. Chwythid tywod a cherrig ac ewyn a dail i mewn atynt, ac ofnent weld y graig oedd uwch eu pen yn mynd gyda'r gwynt. Beth am 'Y Neuadd'?" oedd cwestiwn cyntaf pob un ohonynt pan gawsant dipyn o dawelwch. Nid chwerthin a wnaent y tro hwn os oedd eu cartref wedi mynd. Rhedasant yno am y cyntaf. Yr oedd y tô wedi mynd ymaith yn llwyr,—pob deilen a phren ohono, ond yr oedd y muriau'n aros, a phopeth o'r tu mewn heb fod lawer gwaeth.
Yr oedd y môr yn werth edrych arno y bore hwnnw. Berwai fel crochan, a thorrai tonnau enfawr dros y rhibyn ac ymrolio'n ogoneddus wýn tua'r traeth.
Yn sydyn, gwelsant eisiau Mili. Pa le y gallasai fod? Gwaeddasant a chwiliasant. Cyn hir clywsant floedd o'r môr a gwelsant Mili—yn rhodio ar y tonnau!
Clywsent ddigon am fedr pobl Ynysoedd Môr y De i rodio'r tonnau, ond nis gwelsent erioed o'r blaen. Aethant i'r traeth gyferbyn â'r fan lle'r oedd. Cawsai Mili ystyllen o rywle. Nofiai allan am ychydig bellter a'r ystyllen dan ei braich. Yna, rywfodd, safai ar yr ystyllen a gadael i'r dôn ei chario tua'r traeth, a hithau'n chwerthin ac yn bloeddio mewn mwynhâd. Pan safent felly yn rhestr ar y traeth yn gwylio Mili gwelsant rywbeth arall a barodd syndod mwy fyth iddynt. Allan ar y môr, heb fod fwy na rhyw ddwy filltir oddiwrthynt i gyfeiriad y gorllewin gwelent long ager fawr. Ymddangosai fel pe bai'n arafu ac yn dyfod i gyfeiriad Ynys Pumsaint.
Dywedodd rhywbeth wrthynt fod eu cyfle wedi dyfod. Yn yr awr ni thybiom y daw bob amser. Ni wyddent beth i'w wneud ar unwaith. Ni wyddent sut i deimlo chwaith. Yr oeddynt yn llawen ac yn drist yr un pryd. Hoffent gael wythnos i drefnu pethau ac i ddadfachu eu hunain oddiwrth bopeth oedd hoff ganddynt. Er gwaethaf popeth cawsent amser hapus iawn ar yr ynys.
Safodd rhai ohonynt ar graig mewn lle amlwg a chwyfio cot wen un o'r bechgyn ar flaen pren hir. Gollyngodd Mr. Luxton ergyd o ddryll, ac un arall, ac un arall. Cyneuasant dân o ddail hanner sych nes bod colofn o fwg yn esgyn i'r awyr. Clywyd ergyd o'r môr. Daeth y llong yn araf tuag atynt.
Rhedodd Mr. Luxton a'r bechgyn i gyrchu'r cwch a mynd hyd at y rhibyn i aros dyfodiad y llong. Rhedodd Madame a Myfanwy a Mili i'r tŷ i roddi'n barod rai pethau y dymunent eu cario gyda hwy,— y perlau bid siwr, a thrysorau eraill. Methai Socrates â deall pa beth oedd yr holl helynt.
Gollyngwyd cwch o'r llong a thri swyddog ynddo. Nid gwiw dyfod â'r llong ei hun yn rhy agos at y creigiau cwrel. Agerlong o Sydney ydoedd. Gyresid hi gan y storm ymhell o'i chwrs. Wedi cyrraedd pen ei thaith a newid llwyth dychwelai ar unwaith i Sydney. Sais oedd y capten. Wedi gwrando stori Mr. Luxton dywedodd y byddai'n bleser ganddo eu cludo i Sydney. Gan fod y llong wedi colli cymaint o amser eisoes dymunai arnynt fod yn barod ymhen hanner awr.
Cario nwyddau oedd gwaith y llong yn bennaf, ond yr oedd rhai teithwyr ynddi. Cafodd y pump alltud a Mili a Socrates groesaw mawr. Golwg ddigon rhyfedd oedd arnynt i gyd. Gwrandawyd gyda diddordeb ar eu stori. Yn ffodus, ni ofynnwyd iddynt a oedd perlau ar yr ynys, ac ni ddywedasant hwythau ddim ar y pen hwnnw. Bwriadai Llew a Gareth ddyfod i Ynys Pumsaint drachefn ryw ddydd.
Trwy ddefnyddio ei offerynnau ac astudio mapiau, dangosodd y capten iddynt safle'r ynys yn gywir. Byddai'n hawdd dyfod o hyd iddi mwy. Edrychodd y pump arni'n hir nes iddi fynd o'u golwg dros y gorwel.
Wedi mwy nag wythnos o deithio cyflym daethant i Sydney. O gyfeiriad y gogledd y daethant iddi, ac nid o'r de fel y bwriadent wrth astudio'r atlas gynt ar lôn Brynteg.
Y peth cyntaf a wnaethant wedi glanio yn Sydney oedd prynu dillad newydd. Gan Mr. Luxton yn unig yr oedd arian parod. Yr oedd yn dda fod ganddo ef ddigon ar eu cyfer i gyd. Ni fynnent ddangos eu perlau ar unwaith.
Yr oedd cyfeiriad ei ddau ewythr yn nyddiadur Llew. Gyrrwyd teligram atynt yn dywedyd eu bod hwy eu tri yn fyw, a gofyn a wyddent hwy rywbeth am y lleill. Gyrrodd Mr. Luxton neges i Loegr bell at ei briod a'i blant, a gyrrodd Madame D'Erville un i Melbourne at ei merch. Cafwyd atebion i'r tri. Yn y teligram a gafodd Llew rhoddwyd cyfeiriad tŷ yn Sydney, a dywedyd wrthynt am fynd yno ar unwaith.
Mewn ystafell a'i ffenestr yn agored tua'r môr cyfarfu'r tri â'u rhieni. Wylwyd dagrau o lawenydd am eu cael yn fyw. Daeth breuddwyd Myfanwy i ben! Yr oedd gwallt Meredydd Llwyd yn wŷn fel y gwlan. Nid oedd Gwen yno. Ni wyddai neb ddim o'i hanes.
Cyn ymadael tynnodd teulu Ynys Pumsaint eu lluniau gyda'i gilydd,—Mr. Luxton, Madame D'Erville. Llew, Gareth, Myfanwy, Mili a Socrates. Bu'r llun a'i hanes ym mhapurau Awstralia ac wedi hynny ym mhapurau Prydain. Darllenodd Mrs. Harri ef yn ei chartref ynghanol Lloegr. Rhyfeddwyd am dano ar aelwydydd yn ardaloedd Brynteg a'r Neuadd.
Aeth Mili gyda Madame i fod yn forwyn fach iddi ym Melbourne. Yno yr aeth Socrates hefyd, oherwydd, o'r pump, Madame oedd ei ffrind pennaf ef.
Ymhen deuddydd hwyliodd Mr. Luxton o borthladd Sydney. Yr oedd ei deulu bach yn ei ddisgwyl yn Lloegr. Yr oedd wedi llwyr adfeddiannu ei iechyd ac yr oedd ganddo bellach ddigon o gyfoeth fel y gallai ymddiswyddo o'r ysgol bryd y mynnai. Er mwyn ad-dalu iddo yr arian a roisai iddynt i brynu dillad, gwnaeth Llew iddo dderbyn un o'i berlau ef. Gwerthwyd hwnnw am bedwar ugain punt. Ni fynnai neb ohonynt ddangos i'r byd fod ganddynt ychwaneg o berlau, rhag tynnu ei sylw at Ynys Pumsaint. Yr oedd ganddynt hawl i'w cyfrinach. A barnu oddiwrth yr un perl hwnnw yr oedd eiddo pob un ohonynt yn werth o leiaf bum mil o bunnoedd. Heblaw hynny yr oedd ganddynt ddarnau gwerthfawr o gwrel.
Noson ryfedd a fu honno yn Number 17. Stori ryfedd oedd gan y rhieni hefyd. Pan drawodd y Ruth Nikso ar y graig arhosasant hwy a llawer eraill ar y llong. Trwy waith caled y morwyr llwyddwyd i'w chadw rhag suddo, a daeth llong arall heibio iddynt gyda'r dydd. Aeth honno â hwy yn ddiogel i Sydney. Pe bai pawb wedi aros ar y bwrdd buasai pawb yn ddiogel. Buont bron â marw eu hunain pan welsant fod eu plant ar goll. Nid oeddynt yn ddigon calonnog i fynd i'r wlad a chymryd ffarm. Ni fynnent fynd o Sydney. Cawsant dŷ yn wynebu ar y môr. Treuliodd y ddwy fam a'r ddau dad hefyd lawer awr i syllu arno fel pe disgwylient iddo ddywedyd wrthynt pa beth a wnaethai â'u plant. Cafodd Meredydd Llwyd waith saer yn un o'r dociau, a chafodd Ifan Rhys waith labrwr yn yr un lle. Yr oeddynt yn rhy siomedig a diynni i chwilio am waith gwell. Nid oedd llawer o olwg ganddynt ar eu cartref, chwaith. Rhyw hanner cartref oedd i bob un ohonynt. Ni theilyngodd yn eu meddwl enw gwell na "Number 17."
Y mae amser gwell o'n blaen i gyd," ebe Llew. "Bydd yn dda gennych eto, Nwncwl Meredydd, eich bod wedi dyfod i Awstralia," ebe Gareth.
"Wn i ddim, yn wir, fachgen," ebe Meredydd Llwyd yn drist.
"Nhad bach, edrychwch!" ebe Myfanwy, a dyna'r pryd y dangosasant eu perlau.
Ni wyddai'r rhieni pa beth i'w feddwl pan glywsant beth oedd gwerth y perlau, a chlywed bwriadau'r tri am y dyfodol. Yr unig beth a dorrai ar eu dedwyddwch oedd yr ansicrwydd ynglyn â Gwen. Wylai Mrs. Rhys yn enbyd.
"O Anna!" meddai wrth ei chwaer. "Yr wyt ti'n hapus. O na chawn innau fy merch fach yn ôl!"