Breuddwydion Myfanwy/Pennod XXI

Pennod XX Breuddwydion Myfanwy

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Pennod XXII


XXI

Mi, fu'n hiraethu amdanat, heb obaith, daethost hyd ataf.
—Cyf. T. GWYNN JONES (Blodau o Hen Ardd).

UN dydd yn y Rhagfyr dilynol aeth Mili a Socrates allan am dro i un o barciau Melbourne. Ni chaniateid i gŵn redeg yn rhydd yn y parciau, felly yr oedd yn rhaid arwain Socrates. Madame D'Erville a wnai hynny fynychaf. Rhoddai Socrates esgus iddi i fynd allan, ac yr oedd yn gwmni ffyddlon iddi. Gwnai'r wib hir a gaent bob bore les i'r ddau. Weithiau, pan fyddai Madame yn brysur neu yn ddihwyl, cai Mili fynd yn ei lle.

Yr oedd Madame newydd fod yn edrych drwy'r trysorau a ddaethai gyda hi o Ynys Pumsaint pan ddaeth Mili a'r ffrwyn yn ei llaw i geisio Socrates. Ymhlith pethau eraill ar y ford fach yn ei hymyl yr oedd y rhuban glâs a'r enw Socrates mewn sidan coch arno. Yr oedd Mili'n hoff iawn o liwiau heirdd. Edrychodd gydag edmygedd ar y rhuban. Dywedodd Madame wrthi mai coler Socrates ydoedd ac mai ei enw ef oedd y gwaith edau a nodwydd oedd arno. Yna gofynnodd Mili a gai ei wisgo am wddf Socrates ar ben y coler bach lledr a wisgai eisoes. Rhoddodd Madame ef iddi gyda gwên. Clymodd Mili ef yn ofalus. Yr oedd y llythrennau coch yn amlwg ar y wegil a dolen fawr ar yr ochr. Er mwyn bod i fyny â'r amgylchiad, gwisgodd hithau ei gwddf-dorch o gregyn a'i chlust dlysau a'i breichled o ddannedd siarc. Dyna olwg ogoneddus oedd ar y ddau yn cychwyn am dro y bore hwnnw.

"Soc! Soc!" ebe rhyw lais yn y parc. Cododd Socrates ei glustiau, a gwrando.

"Soc! Soc!" Neidiodd Socrates a thynnu ar y ffrwyn a thynnu Mili ar ei ôl. Daeth merch ieuanc mewn dillad gwynion heirdd ymlaen a phlygu at Socrates a siarad ag ef, edrych ar y rhuban, a hanner wylo, ac yntau yn neidio o'i chwmpas ac yn llyfu ei llaw bob yn ail.

"O ba le y daeth y ci yma?" ebe hi yn Saesneg wrth Mili.

Ni fedrai Mili gael gair allan am funud. Syllai, a'i llygaid yn llydan—agored ar yr harddwch o'i blaen. Yna dywedodd ag un anadl:—

"Him come with de peoples from island far away over sea."

"Pa le mae eich meistres yn byw?'.

Dangosodd Mili enw a chyfeiriad Madame D'Erville ar y darn pres oedd ar goler lledr Socrates.

Dôf gyda chwi i weld Madame," ebe'r ferch.

Maddeuwch i mi, Madame, am ddyfod i'ch tŷ fel hyn," ebe'r ferch ieuanc. "Yr wyf mor gyffrous! Gweld y ci a wneuthum. Ci bach fy chwaer ydyw. Fi wnaeth yr enw yna ar y rhuban. Yr oeddem wedi rhoddi heibio bob gobaith am weld fy chwaer a'i gŵr. A wyddoch chwi rywbeth am danynt? A ydynt yn fyw?"

"Diolch i chwi am ddyfod yma," ebe Madame. "Ac y mae Socrates yn eich cofio! Eisteddwch Miss—

"Mrs. Angus. Mrs. Carey oedd fy chwaer,—Câro Carey. Ei henw hi a roisant ar y llong hefyd. Dim ond dwy chwaer oeddem, heb dad na mam. Gyda mi a'm gŵr yr oedd Caroline yn byw cyn iddi briodi. Aeth ei gŵr a hithau allan am fordaith yn y Câro Carey o Brisbane. Yno yr oedd eu cartref. Ni chlywyd dim o'u hanes hwy na'r llong byth wedyn. Bernid fod y llong wedi mynd yn ddrylliau yn y storm fawr honno."

A! Ie. Felly y bu," ebe Madame.

"Ond dyma Socrates gyda chwi," ebe Mrs. Angus, a'i llygaid yn wyllt. 'A yw yn bosibl fod fy chwaer yn fyw?"

Yna adroddodd Madame ei stori drist,—am ei bywyd hi a'r lleill ar yr ynys, am y storm, yr esgid, a'r llong, a sut y gwelsent y ci bach wrth gefn y drws. Dywedodd hefyd y fath fendith iddynt hwy a fuasai'r llong a'i chynnwys, ac mor hwyrfrydig oeddynt i wisgo'r dillad er cymaint o'u heisiau oedd arnynt, ond eu bod wedi defnyddio'r bwyd ar unwaith a'r dillad gydag amser, a'u bod wedi meddwl llawer am y rhai a gollodd eu bywydau i'w rhoddi iddynt.

Wylai Mrs. Angus yn enbyd wrth feddwl pa galedi a ddaethai i ran ei chwaer, ac wylai Madame D'Erville o gydymdeimlad â hi.

Bu sôn am y Câro Carey yn y papurau yn ddiweddar ynglyn â'n hanes ni. Oni welsoch hwnnw?" ebe Madame.

"Naddo. Mae'n bosibl fod fy ngŵr wedi ei weld a chadw'r papurau hynny oddiwrthyf i. Bum i mor wael ar ôl colli fy chwaer. Ofni yr ydoedd, mae'n debig, yr awn yn wael drachefn pe gwelwn yr hanes.

'Rwy'n meddwl bod yr esgid gan Gareth o hyd, ac y mae gan Myfanwy lyfr ac enw Mrs. Carey arno. 'Rwy'n meddwl hefyd fod rhai o'i dillad ganddi, a'i horiawr aur. Gwn y dymunai Myfanwy i chwi gymryd unrhyw beth y carech ei gael o eiddo eich chwaer.'

"Pa le mae Miss—Myfanwy yn byw?"

"Yn Sydney. Y mae hi a'r ddau fachgen yn dyfod yma yfory i dreulio ychydig ddyddiau gyda mi, ac i gyfarfod â'm merch. A garech eu gweld, Mrs. Angus?"

"Carwn yn wir Madame. Dewch chwi a hwythau i'n tŷ ni am brynhawn, os gwelwch yn dda. Carai fy ngŵr hefyd eich gweld i gyd, a chael ymddiddan â chwi."

Tynnodd allan o'i bag gerdyn a'i henw a'i chyfeiriad arno, a rhoddodd ef i Madame.

"Diolch. Bydd yn bleser gennym ddyfod."

'Yfory y deuant atoch? Mae dwy forwyn newydd yn dyfod ataf innau yfory. Yr wyf wedi bod heb un drwy'r wythnos. Beth am prynhawn Llun? Bydd y ddwy wedi cael amser i gyfarwyddo â'i gwaith erbyn hynny."

"Deuwn prynhawn Llun," ebe Madame. awr, "Yn beth am Socrates? 'Rwy'n siwr y carech ei gael?"

O, nid wyf am ei ddwyn oddiarnoch. Yr ydych wedi ymserchu ynddo erbyn hyn," ebe Mrs. Angus.

O, rhoddaf ef yn llawen i chwi, er hoffed wyf ohono," ebe Madame.

"Dewch ag ef gyda chwi dydd Llun, Madame, os gwelwch yn dda. Cawn benderfynu eto neu caiff Soc benderfynu. A diolch yn fawr i chwi. Ond carwn gael y coler yn awr. O fy chwaer annwyl! Dyna hapus oeddem pan oeddwn i'n gwneud yr enw yna!"

A Socrates ddaeth â'r newydd cyntaf i chwi am eich chwaer!"

"Ie," ebe Mrs. Angus, a chofleidio'r ci bach, ac wylo, "daethost â gobaith a siom i mi."

Yr oedd Llew a Gareth a Myfanwy wrth eu bodd o gael treulio ychydig ddyddiau ym Melbourne, a bod yng nghwmni Madame unwaith eto. Ni welsent hi wedi'r ymadael yn Sydney ddeufis yn ôl. Cawsent lythyr oddiwrth Mr. Luxton o Port Said. Yr oedd yn rhy gynnar i gael llythyr oddiwrtho o'i gartref. Synasant glywed hanes Socrates a'i goler. Edrychent ymlaen at weld Mrs. Angus a'i gŵr. "A freuddwydiaist ti Myfanwy ddim rhywbeth am hyn?" ebe Gareth.

"Naddo, ond breuddwydiais am Gwen neithiwr," ebe Myfanwy.

Distawodd Gareth ar unwaith. Wedi gweld galar a gofid ei dad a'i fam teimlai yntau yn fwy nag erioed o'r blaen ei alar a'i ofid ei hun o golli Gwen.

"'Rwy'n siwr bydd Mrs. Angus yn falch o gael yr oriawr yma. Mae'n dda gennyf i mi ddyfod â hi," ebe Myfanwy.

"Druan â Mrs. Angus! Byddai'n well iddi hi pe bai heb glywed hanes y Caro Carey, oni fyddai, Madame? ebe Llew.

"Byddai, efallai. Ond yr oedd yn rhaid cyfrif am Socrates a'i goler."

Daeth Mademoiselle D'Erville yn hoff iawn o'r tri. Hwy, meddai hi, a gadwasai ei mam yn fyw yn ystod y misoedd hir ar Ynys Pumsaint. Synnodd at eu medr i siarad Ffrangeg. Dyna'r pryd y daeth i wybod bod y Cymry'n rhai da am ddysgu ieithoedd. Dyna'n wir y tro cyntaf y gwybu fod y Gymraeg yn bod. Drwyddynt hwy daeth i wybod llawer am Gymru, a'i hiaith a'i phobl.

Daeth dydd Llun. Aeth Madame a'r tri a Socrates yn gynnar yn y prynhawn mewn cerbyd i dŷ Dr. a Mrs. Angus. Yr oedd yn dŷ hardd iawn yn un o ystrydoedd goreu Melbourne, a thair gris yn arwain at ei ddrws.

"Mae'r morynion wedi dyfod," ebe Myfanwy. "Edrychwch mor lân yw'r grisiau yma."

Canodd Madame y gloch. Agorwyd y drws gan ferch ieuanc fain, dál, mewn ffroc ddu, a ffedog fach wen o'i blaen a chap bach gwýn ar ei gwallt byr tywyll. Yn lle dywedyd ei neges, edrychodd Madame am funud ar Gareth ac yna yn ôl ar y forwyn, a llefodd.

"Ah! Mon Dieu! Mon Dieu!"

Y foment nesaf yr oedd y forwyn wedi rhedeg i lawr dros y grisiau i freichiau Gareth, a Llew a Myfanwy yn gafael yn dynn ynddi yr un pryd ac yn wylo dagrau o lawenydd.

Gwen oedd y forwyn fach!

Nodiadau

golygu