Breuddwydion Myfanwy/Pennod XXII

Pennod XXI Breuddwydion Myfanwy

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Ymarferiadau ar y Gwersi


XXII

Ba enaid ŵyr ben y daith?
Boed anwybod yn obaith.
—R. WILLIAMS PARRY (Yr Haf).

EISTEDDAI Mrs. Angus yn yr ystafell fawr oedd â'i drws mawr gwydr yn wynebu ar yr ardd. Clywodd y gloch, a thybiodd glywed y drws yn agor. Pa le'r oedd yr ymwelwyr? Pa beth a wnaethai'r forwyn â hwy? Morwyn heb ddeall ei gwaith eto! Aeth allan i weld drosti ei hun. Yr oedd y drws yn agored, a'r forwyn ynghanol yr ymwelwyr, a golwg wyllt arnynt i gyd.

Brysiodd Madame D'Erville i egluro iddi. Aeth pawb i'r tŷ. A'r forwyn fach, yn ei chap a'i ffedog, oedd y person pwysicaf yn nhŷ'r doctor y prynhawn hwnnw.

Dywedodd ei hanes. Wedi'r ysgarmes ofnadwy yn y niwl pan aeth y Ruth Nikso ar y graig cawsai ei hun mewn cwch gyda thyrfa o rai eraill. Wedi bod am rai oriau yn hwnnw daeth llong i'r golwg. Cymerwyd hi i honno. Ni chofiai Gwen ddim am ei bywyd yn y llong. Yn wael ar wely y bu hi drwy'r amser. Bu pobl yn garedig iawn iddi. Cymerodd un ohonynt hi i'w thŷ. Yn y tŷ hwnnw, mewn tref fechan gerllaw Melbourne, y cafodd ei hun pan ddeffrôdd o anymwybyddiaeth ei chystudd.

Gwraig weddw oedd yn byw yno wrthi ei hun. Derbyniai ryw gymaint o arian bob blwyddyn oddi— wrth y Llywodraeth am rywbeth a wnaethai ei phriod. Ar hynny yr oedd yn byw. Gofalodd yn dyner am Gwen yn ystod ei chystudd, a phan ddaeth yn iach ni fynnai iddi ymadael â hi. Ac i ba le yr âi Gwen? Nid oedd cyfeiriad ei dau ewythr ganddi. Dieithriaid iddi hi oedd y ddau. Teimlai Gwen mai cystal iddi fyw gyda Mrs. Watts â byw gyda hwy pe cai afael arnynt. Os gwelodd Mrs. Watts sôn yn y papurau am deithwyr eraill y Ruth Nikso ni ddywedodd ddim am hynny wrth Gwen, a bu Gwen yn hir yn rhy wael i deimlo diddordeb mewn dim. Wedi iddi wella, bu'n sôn am anfon hysbysiad i'r papurau i ddywedyd ei bod yn fyw ac i holi hynt y lleill, ond dywedai Mrs. Watts y buasent yn ddiau wedi gweld eu hanes cyn hyn pe bai rhywrai wedi eu hachub. Felly aeth yr wythnosau a'r misoedd heibio. Ni welsant ychwaith hanes dychweliad teulu Ynys Pumsaint. Ar y pryd hwnnw yr oedd Gwen yn brysur iawn ddydd a nos yn gweini ar Mrs. Watts. Daethai ei thro hithau i fod yn wael. Dywedai yn aml na wyddai pa beth a wnaethai onibai am Gwen. Bu farw yn niwedd Hydref.

Gadawodd ei holl eiddo,—pedwar ugain punt a dodrefn ei thŷ—i Gwen. Nid oedd pedwar ugain punt yn ddigon i fyw arno'n hir. Ni fedrai Gwen un gwaith ond gwaith tŷ. Cynghorwyd hi i roddi ei dodrefn i'w cadw, a chwilio am le fel morwyn. Atebodd hysbysiad yn un o bapurau Melbourne. Daeth yn forwyn fach i dŷ Dr. a Mrs. Angus dydd Gwener.

Gorffennodd fod yn forwyn fach y funud honno. Ni adai Mrs. Angus iddi weini wrth y ford. Cafodd eistedd gyda'r gwahoddedigion a chymryd rhan yn yr ymddiddan llawen a phrudd,—llawen am fod Gwen wedi ei chael; prudd am fod Mrs. Angus o hyd mewn galar ar ôl ei chwaer.

Tynnodd Myfanwy ei horiawr aur oddiam ei garddwrn a rhoddodd hi i Mrs. Angus, a dywedyd, a dagrau lond ei llygaid glâs:—

"Byddai'n dda gennyf pe gallwn roddi eich chwaer yn ôl i chwi."

Ysgwyd ei gynffon ar bawb a wnai Socrates a dilyn Madame. Hi oedd ei ffrind pennaf o hyd, ac yn ôl gyda hi y cafodd fynd.

Pwy all ddisgrifio teimladau teulu No. 17 pan aeth y plant adref—heb un ar goll? Wedi credu eu chwalu am byth, cawsant aduniad hapus—peth na ddaw i ran ond ychydig yn y byd hwn.

A beth am y pedwar erbyn hyn? Ai byw ar eu harian yn ddiog a dilês yw eu hanes? Ai cael ychwaneg o berlau a golud yw prif amcan eu bywyd?

Rhoisant eu harian i gyd i'w rhieni. Dyna bleser iddynt oedd cael gwneud hynny! A dyna bleser i'r rhieni oedd gweld teimlad da a pharch eu plant tuag atynt! Yr oeddynt yn falch ar y cyfoeth hefyd. Nid am y bwriadent ei ddefnyddio i geisio moethau a phleserau a bywyd segur, ond am y medrent bellach roddi addysg dda i'w plant i'w cymhwyso i fod o wasanaeth i'w hoes. Dyna yw nod uchaf bywyd.

Felly mae'r pedwar yn y coleg. Pa lwybrau a ddewisant ar ôl gorffen eu gyrfa yno? Y mae Bywyd yn llawn o bosibilrwydd gogoneddus, ac y mae Awstralia'n gyfandir newydd a'i gyfleusterau'n ddi-hysbydd. Ac y mae Ynys Pumsaint o hyd yn y môr.

Nodiadau

golygu