Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill/Cathl yr Alltud

Gwanwyn Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill

gan Humphrey Jones (Bryfdir)

Cyfarchiad yn Eisteddfod Caergybi

CATHL YR ALLTUD.
(Penillion Telyn)

Mi garwn roi tro hyd erwau y fro
Lle cefais fy magu wrth Efail y Go';
Mae'r pistyll a'r nant, cyfeillion y plant,
Yn gwahodd bob amser ar dyner fwyn dant;
Ond dyma fy nghlwy' nid oes onid hwy
Ro'nt seiniau croesawol yn ol i'r hen blwy'.

Mae'r dderwen fel cynt, a'i gwallt yn y gwynt,
Yn gwylio'r blynyddoedd yn myned i'w hynt;
Mae'r hen Garreg Wen yn syllu i'r nen,
Mewn hiraeth am rywrai fu'n dringo i'w phen;
Ond dyma fy nghlwy' nid oes onid hwy,
Estynnant eu breichiau hyd erwau'r hen blwy.'

Ar osper a gwawr, o'r hen glochty mawr,
Galwadau cywirdant a lifant i lawr;
Ond huno mewn hedd yn 'stafell y bedd
Mae 'nghyfoed yn farw a gwelw eu gwedd;
O barch iddynt hwy mi gerddaf dan glwy'
I ogrwn fy nagrau hyd erwau'r hen blwy'.


Nodiadau

golygu