Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill/Gwanwyn

Lili'r Dwr Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill

gan Humphrey Jones (Bryfdir)

Cathl yr Alltud

GWANWYN.

DAETH ysbryd hoyw heibio 'nrws
Rhyw fore glas yn Ebrill;
Yr oedd ei drem yn welw-dlws,
Ac ar ei fin 'roedd pennill.

Edrychodd gyda chalon drom
Dros erwau noeth y weirglodd;
Edrychodd ar y berllan lom,
A'i gân am dro a beidiodd.

Yn araf dringodd lethrau'r bryn
Heb darfu hen freuddwydion,—
Addewid yn ei lygaid syn,
Ac alaw yn ei galon.

Edrychodd drach ei gefn cyn hir,
Fel llanc wrth droi o garu;
A gwelai erwau maith y tir
A'r coed yn dechreu glasu.

Cyweirio'i delyn ysgafn wnaeth
Yn llys yr awel heini,
A blodau fyrdd o graig i draeth
Yn deffro i wrando arni.

Dihuno gwlad i ddawns a chân
Wnaeth hwn heb neb yn achwyn;
Pelydrau oedd ei wenau glân,
A'i enw ydoedd "Gwanwyn."


Nodiadau

golygu