Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill/Elis o'r Nant
← Murmur y Gragen | Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill gan Humphrey Jones (Bryfdir) |
Rhosyn ar y Drain → |
ELIS O'R NANT.
Cymeriad rhamantus oedd Elis ddi-frad;
Ni welir ei hafal byth mwy yn ein gwlad;
Bu'n coledd llenyddiaeth dan lwydai y wawr,
Cyn geni oraclau sy'n ddeddfau yn awr.
Bu'n llyfrgell symudol, heb reol na threfn,—
Ei Ffon dan ei law, a'r hen "Fag" ar ei gefn;
Hysbysai'i ddynesiad yn hynod o blaen;
Cyrhaeddai ei "floedd " rai milltiroedd o'i flaen!
Os cloff oedd o'i glun, ac os gwyrgam ei goes,
Bu'i dafod yn ystwyth drwy gydol ei oes;
Dywedai ei feddwl heb gysgod o drais,
A'i glychau yn canu ar binacl ei lais.
Os gelyn adwaenai mewn dyn ('doedd waeth pwy),
Ni fynnai gymodi a hwnnw byth mwy;
Rho'i lygad am lygad a dant ro'i am ddant—
Un felly yn hollol oedd Elis o'r Nant.
Os cyfaill—wel, cyfaill drwy'r teneu a'r tew;
Ni fynnai'r" Hen Elis " hel dail na hel blew;
Ychwaneg o'i debyg roesawem yn llon;
Bu'n wreiddiol mewn oes arwynebol fel hon.
Dros Arwest Geirionydd bu'n ffyddlon a brwd,
A chadwodd ei chleddyf yn gleddyf di—rwd;
Mae'r Meini'n amddifaid ar erchwyn y llyn,
A Chowlyd ac Elis dan blygion y glyn.
Ei gôf oedd yn gronfa o geinion ein hiaith;
Mae llewych rhai gemau yn wrid ar ei waith;
Ond gwrando ar Elis gyfrifem yn wledd,
A'r fflam yn ei lygad a'r cuwch ar ei wedd.
Ei anadl oedd fyrr a Glyn Moab yn faith,
Pan welais ei rudd ryw brynawnddydd yn llaith:
Bydd atgof 'mhen blwyddi yn taro ei dant
I alw am bennill i Elis o'r Nant.