Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill/Emyn Priodas

Coed y Glyn Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill

gan Humphrey Jones (Bryfdir)

Awgrym

EMYN PRIODAS

TYRED Arglwydd trwy Dy ysbryd,
I'r briodas gyda ni,
Dwyfol o dan lewych deufyd
Fydd y ddefod gyda Thi;
Rho Dy wên yn berl i'r fodrwy,
Rho Dy nawdd mewn tes a glaw;
Bydd pob taith yn haws i'w thramwy
Wedi cychwyn yn Dy law.

Rhwng y blodau, Geidwad tirion,
Eistedd Di wrth fwrdd y wledd,
Rho i ninnau ganfod swynion
Rhosyn Saron ar Dy wedd;
Yn Dy gwmni, Iesu grasol
Nid oes le i bryder blin,
Ti sy'n gwybod, Dad Tragwyddol,
Pryd i droi y dŵr yn win.
 
Boed i'r nefoedd selio'r undeb
Rhwng y ddeuddyn hoff a wnaed,
Trwy y byd i dragwyddoldeb
Llwybrau uniawn fo i'w traed;
Wedi gado'r allor dirion,
A wynebu'r bryniau ban,
Gorsedd uwch a thecach Coron
Lanwo'u calon ymhob man.


Nodiadau

golygu