Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill/Coed y Glyn

Ysbryd y Môr Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill

gan Humphrey Jones (Bryfdir)

Emyn Priodas

COED Y GLYN

CRWYDRAIS gyda'r hafddydd ifanc
Drwy gynteddau Coed y Glyn,
Cyn i swynion mebyd ddianc
Fel pelydrau dros y bryn;
Ysgawn fel y chwa a'r ddeilen
Ar y gangen uwch fy mhen,
Oedd fy ysbryd i bryd hwnnw;
A breuddwydion gloyw, gloyw'n
Gorymdeithio drwy fy nen.

Dan y coed, a'r lloer yn codi,
Oedais wedyn lawer pryd,
Cyn i fedd Eluned brofi
Anwadalwch pethau'r byd;
Mwyn fu eistedd ar y boncyff
Llwyd, oedrannus yn ddi-fraw;
Siarad wnawn, gan serch yn eirias,
Am yr allor a'r briodas,
Cyn rhoi'r fodrwy ar ei llaw.

Unig wyf, a'r gwynt yn uchel
Heno, ar y bannau pell;
Profiad gweddw yn ei gornel
Yw fy nghyfran yn fy nghell;
Tystio wna fy wyneb gwelw,
Tystio wna fy nghoryn gwyn,
Fod yr hafddydd wedi cilio,
Minnau'n ysbryd llesg yn crwydro
Drwy gysgodau "Coed y Glyn."


Nodiadau

golygu