Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill/Ysbryd y Môr

Rhwyfo Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill

gan Humphrey Jones (Bryfdir)

Coed y Glyn

YSBRYD Y MOR.

YSBRYD y môr, sibrwd y mae—am nwyf
Nas gall neb ei warchae,
A cherydd geir o chwarae
A'i ddeddf sobr, ei gwobr yw gwae.

Yn ei nerth y berth i bau—ysguba'n
Ei rwysg heibio'r creigiau,
A'r ewyn gwyn, oer yn gwau
Ei donnog ysnodennau!

Heddiw daeth i'w gyhoeddiad,—yfory
Ei fawredd fydd gydstad;
Chwery o'r pell ddechreuad
Ddyfal dôn i'w Ddwyfol Dad.

Nos Calan, 1925.


Nodiadau

golygu