Brut y Tywysogion (Ab Owen)/Gruffydd ab Rhys

Owen ab Cadwgan Brut y Tywysogion (Ab Owen testun cyfansawdd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Gwynedd a Phowys
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Gruffudd ap Rhys
ar Wicipedia

IV.

Gruffydd ab Rhys.

[i. Dychweliad Gruffydd ab Rhys i Gymru; y Cymry ieuainc yn ymdyrru ato, o chwant anrhaith y cestyll ac o gariad at eu gwlad. ii. Cwymp Owen ab Cadwgan, ac anrhefn ym Mhowys ar ei ol.]

1112. Ymchwelodd y brenin o Normandi, ac Owen fab Cadwgan gydag ef. A bu farw Ieffrei, esgob Mynyw, ac yn ei ol yntau y daeth gŵr o Normandi, yr hwn a elwid Bernard, yr hwn a ddyrchafwyd yn esgob ym Mynyw gan Henri frenin, o anfodd holl ddysgedigion y Brytaniaid, gan eu tremygu. Ynghyfrwng hynny y daeth Gruffydd fab Rhys Tewdwr, brenin Deheubarth, o Iwerddon, yr hwn a aethai yn ei fabol oedran gyda rhai o'i geraint hyd yn Iwerddon. Ac yna y trigodd oni bu wr aeddfed. Ac yn y diwedd, wedi diffygio o dra hir alltudedd, yr ymchwelodd i dref ei dad. A hwnnw a drigodd amgylch dwy flynedd, weithiau gyda Geralt, ystiward Castell Penfro, ei ddaw gan ei chwaer, a honno oedd Nest, ferch Rhys fab Tewdwr, gwraig Geralt. ystiward; weithiau ereill gyda'i geraint; weithiau yng Ngwynedd; weithiau yn absen o le i le. Yn y diwedd ei cyhuddwyd wrth y brenin, a dywedyd fod meddwl pawb o'r Brytaniaid gydag ef, drwy ei ryfygu o frenhinol feddiant Henri frenin. A phan gigleu Gruffydd y chwedlau hynny, arfaethu a wnaeth at fyned at Ruffydd fab Cynan i geisio amddiffyn ei hoedl. Ac wedi anfon cenhadau ef addewis, o deuai ato, ei arfolli yn llawen. Ac wedi clybod o Ruffydd fab Rhys. hynny, ef a Hywel ei frawd a aethant ato. Yr Howel hwnnw a fuasai yng ngharchar Ernwlff fab Rosser, iarll Castell Baldwin, yr hwn a roddasai Wilym frenin iddo cyfran o gyfoeth Rhys fab Tewdwr. Ac yn y diwedd y diangasai yr Hywel hwnnw yn anafus, wedi trychu ei aelodau, o'r carchar. Ac yna arfolled hwynt, ac eraill gydag hwynt, yn hygar gan Ruffydd ab Cynan.

Ac ynghyfrwng hynny, wedi clybod o'r brenin fyned Gruffydd ab Rhys at Ruffydd ab Cynan, anfon cenhadau a wnaeth at Ruffydd fab Cynan i erchi iddo ddyfod ato. Ac megis y mae moes y Ffreinc dwyllo dynion drwy addewidion, addaw llawer a wnaeth Henri frenin iddo o chymerai arno ddal Gruffydd fab Rhys, a'i anfon yn fyw ato ef; ac oni allai ei ddal, ei ladd ac anfon ei ben iddo. Ac yntau, drwy addo hynny, a ymchwelodd i'w wlad. Ac yn y lle gofyn a wnaeth pa le yr oedd Gruffydd fab Rhys yn trigo. A mynegi a wnaethpwyd i Ruffydd fab Rhys ddyfod Gruffydd fab Cynan o lys y brenin, a'i geisio yntau yn ewyllys. Ac yna y dywed rhai wrtho a oeddynt yn trigo gydag ef,—"Gochel ei gynddrychiolder, oni wyper pwy ffordd y cerddo y chwedl." Ac yntau yn dywedyd hynny, nachaf un yn dyfod ac yn dywedyd,—"Llyma farchogion yn dyfod ar frys." A braidd yr aeth ef drwy y drws, nachaf y marchogion yn dyfod i'w geisio. Ac ni allodd amgen na chyrchu eglwys Aberdaron ar nawdd. Ac wedi clybod o Ruffydd fab Cynan ei ddianc i'r eglwys, anfon gwyr a orug i'w dynnu ef o'r eglwys allan. Ac ni adawodd esgyb a henafiaid y wlad hynny, rhag llygru nawdd yr eglwys. Ac wedi ei ollwng o'r eglwys efe a ffoes i'r Deheu, a daeth i Ystrad Tywi. Ac wedi clybod hynny, llawer a ymgynhullodd ato o bob tu; ac yntau a ddug cyrch anhygar aniben ar y Ffreinc a'r Fflemisiaid oni ddarfu y flwyddyn honno.

1113. Cyrchodd y Gruffydd ab Rhys a ddywedasom ni uchod, yn ei frwydr gyntaf, y castell oedd yn ymyl Arberth, ac ei llosges. Oddyna daeth hyd yn Llanymddyfri, lle yr oedd castell neb un tywysog a elwid Ricert Pwnswn, y gŵr y rhoddasai Henri frenhin iddo y Cantref Bychan, a phrofes ei dorri a'i losgi, ac nis gallodd, canys ymwrthladd ag ef a wnaeth ceidwaid y castell, a chydag hwynt Meredydd fab Rhydderch fab Caradog, y gŵr a oedd yn cynnal ystiwardiaeth dan y dywededig Ricert. Y rhag gastell eisoes a losges; ac wedi ymsaethu o'r tŵr ag ef, a brathu llawer o'i wyr â saethau, a lladd ereill, yr ymchwelodd drachefn. Ac wedi hynny anfones ei gymdeithion i wneuthur cyrch a chynnwri ar gastell a oedd yn ymyl Aber Towy, a hwnnw a bioedd iarll a elwid Henri Bemwnd. Ac wedi llosgi y rhag gastell, ac amddiffyn o'r ceidwaid y tŵr, a lladd rhai o'i wyr, yr ymchwelodd drachefn. Ac wedi clybod hynny, ac ymgynnull ato lawer o ynfydion ieuainc o bob tu, wedi eu twyllo o chwant anrheithiau, neu o geisio adnewyddu Brytanawl deyrnas, ac ni thâl ddim oni bydd Duw yn borth iddo, gwneuthur a orug уsglyfaethau mawr yn ei gylch o gylch.

A'r Ffreinc yna a gymerasant gyngor, a galw penaethau y wlad atynt, nid amgen Owen fab Cradog fab Rhydderch, y gŵr y rhoddasai Henri frenin iddo ran o'r Cantref Mawr; a Meredydd fab Rhydderch, yr hwn a ddywedasom ni fry: a Rhydderch fab Tewdwr, a'i feibion Meredydd ac Owen, mam y rhai hynny, gwraig Rhydderch ab Tewdwr, oedd Hunydd, ferch Bleddyn ab Cynfyn, y pennaf o'r Brytaniaid wedi Gruffydd ab Llywelyn, y rhai oedd yn frodyr un fam; canys Angharad, ferch Feredydd frenin y Brytaniaid, oedd eu mam eill dau, ac Owen fab Caradog fab Gwenllian ferch y dywededig Fleddyn, y rhai, a llawer o rai ereill, a ddaethant ynghyd. A gofyn a orug y Ffreinc iddynt a oeddynt oll ffyddlonion i Henri frenin; ac ateb a wnaethant eu bod. A dywedyd a wnaeth y Ffreinc wrthynt,—"Od ydych fel y dywedwch, danghoswch ar eich gweithredoedd yr hyn ydych yn addaw ar eich tafod. Rhaid yw i chwi gadw castell Caerfyrddin, yr hwn a bie y brenin, pob un ohonoch yn ei osodedig amser, fel hyn, cadw y castell o Owen fab Cradog bythewnos, a Rhydderch fab Tewdwr pythewnos arall, a Meredydd fab Rbydderch ab Tewdwr pythewnos." Ac i Bledri fab Cadifor y gorchymynwyd castell Robert Lawgam yn Abercofwy.

Ac wedi ansoddi y pethau hynny, Gruffydd ab Rhys a bryderodd am anfon disgwyliaid am dorri y castell neu ei losgi. A phan gafas amser cyfaddas fel y gallai yn hawdd gyrchu y castell, yna y damweiniodd fod Owen fab Caradog yn cadw ynghylch y castell. Ac yna y dug Gruffydd ab Rhys gyrch nos am ben y castell. A phan gigleu Owen a'i gymdeithion gynnwrf y gwyr, a'u gewri yn dyfod, cyfod yn ebrwydd o'r ty lle yr oedd ef a'i gymdeithion a wnaethant. Ac yn y lle y clywai yr awr, ef ei hun a gyrchodd ym mlaen ei fyddin, a thebygu fod ei gymdeithon yn ei ol; hwyntau, wedi ei adaw ef ei hunan, a ffoasant; ac felly ei llas yna. Ac wedi llosgi y rhag-gastell, heb fyned i mewn i'r tŵr, ymchwelodd ag yspeilion. ganddo i'r notaedigion goedydd. Oddiyno ymgynhullasant ieuainc ynfydion y wlad o bob tu ato, o debygu gorfod ohono ar bob peth o achos y damwain hwnnw; canys castell a oedd yng Ngwyr a losgest ef o gwbl, a lladd llawer o wyr ynddo. Ac yna gadewis Gwilym o Lundain ei gastell rhag ei ofn, a'i holl anifeiliaid a'i oludoedd. Ac wedi darfod hynny,—megis y dywed Selyf "dyrchafel a wna ysbryd yn erbyn cwymp," yna yr arfaethodd, yn chwyddedig o falchder ac o draha yr anosparthus bobl a'r ynfyd giwdod, cyweirio ynfydion o Ddyfed i Geredigion, a chymeryd gwrthwynebedd i'r gyfiawnder; gwedi galw o Gedifor ab Gronw, a Howel fab Idnerth, a Thrahaearn ab Ithel, y rhai a oeddynt yn dynesau o gyfnesafrwydd gerennydd a chyfadfab, a dyuno arglwyddiaethau iddo. A'r rhai hynny a oeddynt gydag ef ym mlaen holl wyr Ceredigion; ac ni allai dim fod yn ddireitiach na'r Cadifor hwnnw i'r wlad a chyffredin cyn nag iddo adaw Dyfed yn llawn o amryfaelon genhedloedd, nid amgen Filemisiaid a Ffreinc a Sacson, a'i giwdawd genedl ei hun, y rhai, cyd beynt un genedl â gwyr Ceredigion, eisoes gelynion galonnau oedd ganddynt o achos eu hanesmwythdra a'u hanundeb cyn na hynny. Ac yn fwy na hynny, rhag ofn y tremyg a wnaethent i Henri frenin, y gŵr a ddofasai holl benaduriaid ynys Prydain a'i allu a'i feddiant, ac a ddarostyngasai lawer o wladoedd tramor wrth ei lywodraeth, rhai o nerth arfau, eraill o aneirif roddion aur ac arian; y gŵr nis dichon neb ymosgryn ag ef eithr Duw ei hun, y neb a roddes y meddiant iddo.

Ac wedi dyfod Gruffydd fab Rhys, yn gyntaf y daeth i Iscood. Ac yna cyrchodd y lle a elwir Blaen Porth Hodnant, yr hwn a adeilasai neb un Fflemiswr; ac yno y daeth y Fflemisiaid i drigo. Ac wedi ymladd dyddgwaith ar hyd y dydd, a lladd llawer o wyr y dref, a lladd un o'i wyr yntau, a llosgi y rhan fwyaf o'r dref, heb gael dim amgen na hynny ymchwelodd drachefn. Oddiyno y rhuthrodd gwyr y wlad ato, o ddieflig anogedigaeth, yn gyfun, megis yn ddisyfyd. A'r Saeson, a ddygasai Gilbert cyn na hynny i gyflenwi y wlad, yr hon cyn na hynny o anamlder pobloedd a oedd wag falch, a ddiffeithasant ac a laddasant, ac a yspeiliasant ac a losgasant eu tai. A'u hynt a'u cynnwrf a ddygant hyd ym Mhenwedig. A chylchynu a orugant gastell Razon ystiward, yn y lle a elwir Ystrad Peithyll, ac ymladd ag ef a orugant, a'i orchfygu; ac wedi lladd llawer ynddo, ei losgi a wnaethant. A phan ddaeth y nos, pabellu a wnaeth yn y lle a elwir Glasgrug, megis ar filltir oddiwrth eglwys Badarn. Anafrwydd a wnaethant yn yr eglwys, dwyn yr yscrubl yn fwyd iddynt o'r eglwys. A bore drannoeth ymarfaethu a wnaethant â'r castell a oedd yn Aberystwyth, gan debygu ei orfod; ac yna y danfones Razon. ystiward, gŵr a oedd gastellwr ar y castell hwnnw, ac y llosgasid ei gastell yntau cyn na hynny ac y lladdesid ei wyr, yn gyffoedig o ddolur am ei wyr ac am y golled, ac yn ergrynedig rhag ofn, (?) genhadau hyd nos i gastell Ystrad Meurig, yr hwn a wnaethodd Gilbert ei arglwydd cyn na hynny, i erchi i'r castellwyr oedd yno ddyfod ar ffysg yn borth iddo. A gwarcheidwaid y castell a anfonasant ato gymaint ag a allasent ei gaffael, ac hyd nos y daethant ato. Trannoeth y cyfodes Gruffydd fab Rhys, a Rhydderch fab Tewdwr ei ewythr, a Meredydd ac Owen ei feibion, yn ansynhwyrus o'u pebyll, heb gyweirio eu byddin, ac heb osod arwyddion o'u blaen; namyn bileinllu, megis cyweithas o giwdawd bobl ddigyngor, heb lywiawdwr arnynt, y cymerasant eu hynt parth a chastell Aberystwyth, yn y lle yr oedd Razon ystiward a'i gymhorthiaid gydag ef, heb wybod onaddynt hwy hynny oni ddaethant hyd yn Ystrad Antaron, a oedd gyferwyneb â'r castell. A'r castell a oedd osodedig ar ben mynydd, a oedd yn llithro hyd yn afon Ystwyth, ac ar yr afon yr oedd pont. Ac fel yr oeddynt yn sefyll yno, megis yn gwneuthur magnelau, ac yn meddylio pa ffurf y torrent y castell, y dydd a lithrodd haeach onid oedd brydnawn. Ac yna yr anfones y castellwyr, megis y mae moes gan y Ffreinc gwneuthur pob peth drwy ystryw, gyrru saethyddion hyd y bont i fiere â hwynt, megis, o delynt hwy yn ansynhwyrawl dros y bont, y gallai farchogion. llurugog eu cyrchu yn ddisyfyd, a'u hachub. A phan welas y Brytaniaid y saethyddion mor lew yn cyrchu y bont, yn ansynhwyrus y rhedasant yn eu herbyn, gan ryfeddu paham mor ymddiriedus y beiddient gyrchu y bont. Ac fel yr oedd y naill rai yn cyrchu a'r rhai ereill yn saethu, yna y cyrchodd marchog llurugog yn gynhyrfus y bont. A rhai o wyr Gruffydd a'i cyferbynodd ar y bont, ac yntau yn arfaethu eu cyrchu hwyntau. Ac yna eisoes y torres y march ei fwnwgl; ac wedi brathu y march, y digwyddodd. Ac yna arfaethodd pawb â gwewyr ei ladd yntau; a'i lurig a'i hamddiffynnodd oni ddaeth neb un o'r fyddin a'i thynnu. A phan gyfodes ynteu y ffoes. A phan welas ei gymdeithion ef yn ffoi, ffoasant hwyntau oll. A'r Brytaniaid a'u hymlidiodd hyd yng ngwrthallt y mynydd. Y dorf ol eisoes nid ymlidiodd, namyn, heb geisio na phont na rhyd, cymryd eu ffo a wnaethant. A phan welas y Ffreinc o ben y mynydd y rhai hynny yn ffoi, cyrchu y dorf flaen a wnaethant, a lladd cymaint ag a gawsant. Ac yna y gwasgarwyd y giwdod bobl ar draws y wlad o bob tu, rhai a'u hanifeiliaid ganddynt, rhai eraill wedi gado pob peth namyn ceisio amddiffyn eu heneidiau, oni adewid yr holl wlad yn ddiffaeth.

Ynghyfrwng hynny anfones Henri frenin genhadau at Owen fab Cadwgan, i erchi iddo ddyfod ato. Ac yntau yn y lle a ddaeth. Y phan ddaeth, dywedodd y brenin wrtho, "Fy ngharedicaf Owen, a adwaenost ti y lleidryn gan Ruffydd fab Rhys, y sydd megis yn ffoedig yn erbyn fy nhywysogion i? Ac achos canys credaf i ti ddyfod yn gywiraf gŵr i mi, mi a fynnaf dy fod di yn dywysog llu gyda'm mab i i wrthladd Gruffydd fab Rhys. A mi a wnaf Lywarch fab Trahaearn yn gydymaith it, canys ynnoch chwi eich dau yr ymddiriedaf. A phan ymchwelych drachefn, mi a dalaf bwyth it yn deilwng." A llawenhau a orug Owen o'r addewidion hynny, a chynnull llu, a Llywarch gydag ef, a mynd i gyd hyd yn Ystrad Tywi, lle y tybygid fod Gruffydd fab Rhys yn trigo, canys coetir oedd, ac yn anawdd ei gerdded, ac yn hawdd rhuthro gelynion ynddo. A phan ddaeth i derfynau y wlad, holl wyr Owen a mab y brenin a'u cymhorthiaid a anfonasant eu byddinoedd i'r coedydd, pawb dan yr amod hwn,—nad arbedai neb ei gleddyf, nac i wr nac i wraig, nac i fab nac i ferch; a phwy bynnag a ddelynt, nas gochelynt heb ei ladd neu ei grogi neu drychu ei aelodau. A phan gigleu giwawd bobl y wlad hynny, ceisio a wnaethant ffurf y gallent gael amddiffyn. Ac felly y gwasgarwyd hwynt,—rhai yn llechu yn y coedydd, eraill yn ffoi i wladoedd eraill, eraill yn ceisio amddiffyn o'r cestyll nesaf y daethont o honynt, megis y dywedir mewn Brytanawl ddihareb, Y ci a lyfa yr arf y brather ag ef. Ac wedi gwasgaru y llu dan y coedydd, fe ddamweiniodd i Owen, ac ychydig o nifer gydag ef, gyrchu y coed, o amgylch dengwyr a phedwar ugain, ac yn edrych a welynt oleu dynion. Nachaf y gwelynt oleu dynion yn cyrchu parth a chastell Caerfyrddin, lle y darfu iddynt wneuthur eu heddwch. A'u hymlid a wnaeth hyd yn agos i'r castell; ac wedi eu dal yno, ymchwelyd at ei gymdeithion a orug.

Ynghyfrwng hynny damweiniodd dyfod llu o Fflemisiaid o'r Rhos i Gaer Fyrddin yn erbyn mab y brenin, a Gerald ystiward gyda hwynt. Nachaf y rhai a ddiangasant yn dyfod dan lefain tua'r castell, ac yn mynegi eu hysbeilio o Owen fab Cadwgan, a'u hanrheithio. A phan gigleu y Fflemisiaid hynny, enynnu a wnaethant o gasawl gynhorfynt yn erbyn Owen, o achos y mynych goddiant a wnaethai cymdeithion Owen iddynt cyn na hynny Ac o anogedigaeth Gerald ystiward, y gŵr llosgasai Owen ei gastell ac y dygasai i drais Nest ei wraig a'i anrheithio, ymlid a orngant. Heb debygu fod gwrthwynebydd iddo, Owen a gymerth ei hynt yn araf. A hwyntau, gan ei ymlid ef, a ddaethant yn ebrwydd hyd y lle yr oedd ef, a'r anrhaith ganddo. A phan welas cymdeithion Owen ddirfawr luosogrwydd yn eu hymlid, dywedyd a wnaethant wrtho,—"Llyma luosogrwydd yn ymlid, heb allu o nebi ymwrthladd â hwynt." Ateb. iddynt a wnaeth,—"Nac ofnwch heb achos, byddinoedd y Fflemisiaid ynt." Ac wedi dywedyd hynny eu cyrchu a wnaeth. A dioddef y cynnwrf a wnaethant yn wrol; ac wedi bwrw saethau o bob tu y digwyddodd Owen yn frathedig. Ac wedi ei ddigwydd ef, ymchwelodd ei gymdeithion ar ffo. A phan gigleu Lywarch ab Trahaearn hynny, ymchwelyd, ef a'i wyr, a wnaeth drachefn i'w wlad.

Ac wedi ei ladd ef, cynhaliodd ei frodyr ei ran ef o Bowys oddieithr yr hyn a ddygasai Owen cyn na hynny gan Meredydd fab Bleddyn, nid amgen Caereinion, yr hwn oedd eiddo Madog fab Rhirid cyn na hynny. Ac enwau ei frodyr yw y rhai hyn, Madog ab Cadwgan, o Wenlian, ferch Gruffydd ab Cynan: ac Einion fab Cadwgan, o Sanan, ferch Dyfnwal; a'r trydydd oedd Wrgan fab Cadwgan, o Ellyw, ferch Cadifor fab Collwyn, y gŵr a fu bennaf arglwydd ar wlad Dyfed; pedwerydd fu Henri fab Cadwgan o'r Ffrances ferch Pictot, tywysog o'r Ffreinc, ac o honno y bu fab arall iddo a elwid Gruffydd; y wheched fu Meredydd, o Euron, ferch Hoedlyw ab Cadwgan ab Elstan.

Ac wedi hynny yr ymarfolles Einion fab Cadwgan fab Bleddyn a Gruffydd fab Meredydd ab Bleddyn ynghyd i ddwyn cyrch am ben castell Uchtryd fab Edwin, a oedd gefnder i Fleddyn frenin. Canys Iwerydd, mam Owen ac Uchtryd feibion Edwin, a Bleddyn fab Cynfyn, oeddynt frawd a chwaer un dad ac nid un fam; canys Angharad ferch Feredydd fab Owen oedd fam Bleddyn, a Chynfyn ab Gwerstan oedd eu tad eill dau. A'r castell ddywedasom ni oedd yn y lle a elwid Cymer ym Meirionnydd. Canys Cadwgan fab Bleddyn a roddasai Feirionnydd a Chyfeiliog i Uchtryd fab Edwin, dan amod ei fod yn gywir iddo ac i'w feibion, ac yn gynhorthwy yn erbyn ei holl elynion. Ac yntau oedd wrthwynebwr ac ymladdgar yn erbyn Cadwgan a'i feibion. Ac wedi colli Owen, heb debygu gallu dim o feibion Cadwgan, y gwnaeth ef y dywededig gastell. Ac hwyntau a ddywedasom i fry, drwy sorr a gyrchasant y castell, ac a'i llosgasant. Ac wedi foi rhai o'r gwarcheidwaid, a dyfod ereill atynt hwyntau i heddwch, achub a wnaethant Feirionnydd a Chyfeiliog a Phenllyn, a'u rhannu rhyngddynt. Ac i Ruffydd fab Meredydd y daeth Cyfeiliog a hanner Penllyn a'r hanner arall o Benllyn i feibion Cadwgan fab Bleddyn.

Ynghyfrwng hynny y terfynodd y flwyddyn yn flin ac yn adgas gan bawb.

CASTELL ABERYSTWYTH.

Nodiadau

golygu