Brut y Tywysogion (Ab Owen)/Gwynedd a Phowys

Gruffydd ab Rhys Brut y Tywysogion (Ab Owen testun cyfansawdd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Rhwng dwy Genhedlaeth

v.
Gwynedd a Phowys.

[Ymladd am Ddyffryn Clwyd. Colli'r Llong Wen. Ymgyrch Harri II. i Bowys. Ymladd am Feirionnydd. Terfysg a marw heddychwr.]

1114. Bu farw Gilbert fab Ricert. A Henri frenin a drigodd yn Normandi, o achos bod rhyfel rhyngddo a brenin Ffrainc. Ac felly y terfynodd y flwyddyn honno.

1115. Magwyd anundeb rhwng Hywel fab Ithel, a oedd arglwydd ar Ros a Rhufoniog, a meibion Owen fab Edwin,— Gronw a Rhirid a Llywarch ei frodyr, y rhai ereill. A Hywel a anfones genhadau at Feredydd fab Bleddyn a meibion Cadwgan fab Bleddyn, Madoc ac Einion, i erfyn iddynt ddyfod yn borth iddo. Canys o'u hamddiffyn hwyntau a'u cynhaledigaeth yr oedd ef yn cynnal y gyfran o'r wlad a ddaethai yn rhan iddo. A hwyntau, pan glywsant ei orthrymu ef o feibion Owen, a gynhullasant eu gwyr a'u cymdeithion i gyd, cymaint ag a gawsant yn barod, yn amgylch pedwar can wr. Ac aethant yn ei erbyn i Ddyffryn Clwyd, yr hwn a oedd wlad iddynt hwy. A hwyntau a gynhullasant eu gwyr gydag Uchtryd eu hewythr, a dwyn gyda hwynt y Ffreinc o Gaerlleon yn borth iddynt. A hwyntau a gyfarfuant a Hywel, a Meredydd a meibion Cadwgan a'u cymhorthiaid; ac wedi dechreu brwydr, ymladd o bob tu a wnaethant yn chwerw. Ac yn y diwedd y cymerth meibion Owen a'u cymdeithion ffo, wedi lladd Llywarch fab Owen a Iorwerth fab Nudd, gwr dewr enwog oodd ac wedi lladd llawer, a brathu lliaws, yr ymchwelasant yn orwag drachefn. Ac wedi brathu Hywel yn y frwydr, y dygpwyd adref; ac ymhen y deugeinfed diwrnod, bu farw Ac yna ymchwelodd Meredydd a meibion Cadwgan adref, heb lyfasu goresgyn y wlad, rhag y Ffreinc cyd ceffynt y fuddugoliaeth.

1116. Bu farw Mwrcherdarch, y brenin pennaf o Iwerddon, yn gyflawn o luosogrwydd a buddugoliaethau.

1117. Arfaethodd Henri frenin ymchwelyd i Loegr wedi heddychu rhyngddo a brenin Ffrainc, a gorchymyn a orug i'r mordwywyr gyweirio llongau iddo. Ac wedi parotoi y llongau, anfon a wnaeth ei ddau fab yn un o'r llongau. Un ohonynt. a anesid o'r frenhines ei wraig briod. Ac o hwnnw yr oedd y tadawl obaith o'i fod yn gwladychu ar ol ei dad. A mab arall o ordderch iddo, a'i un ferch, a llawer o wyr mawr gydag hwyntau. Ac o wragedd arbennig oddeutu doucant, y rhai a debygynt eu bod yn deilyngaf o gariad plant y brenin. Ac fe roddwyd iddynt y llong oreu a diogelaf a oddefai y môr donnau a'r morolion dymhestloedd. Ac wedi eu myned i'r llong ddechreunos, dirfawr gyffroi a orug y môr donnau, drwy eu cymell o dymhestlawl fordwy drygdrwm. Ac yna cyfarfu y llong a chreigawl garreg a oedd yn ddirgel dan y tonnau heb wybod i'r llongwyr, a thorrest y llong ganddi yn ddrylliau, a boddes y meibion, a'r nifer oedd gyda hwynt, hyd na ddiengis neb onaddynt. A'r brenin a esgynasai i mewn llong arall yn eu hol. A chyd gyffroi o ddirfawrion dymhestlau y môr donnau, ef a ddiengodd i'r tir. A phan gigleu foddi ei feibion, drwg a ddaeth arno. Ac ynghyfrwng hynny y terfynnwys y flwyddyn honno.

1117. Priodes Henri frenin ferch neb un dywysog o'r Almaen, wedi marw merch y Moel Cwlwm ei wraig. A phan ddaeth yr haf, cyffroes Henri ddirfawr greulon lu yn erbyn gwyr Powys, nid amgen Meredydd fab Bleddyn, ac Einion a Madog a Morgan meibion Cadwgan fab Bleddyn. A phan glywsant hwyntau. hynny, anfon cenhadau a orugant at Ruffydd fab Cynan, a oedd yn cynnal Ynys Fon, i erfyn iddo fod yn gydarfoll a hwynt yn erbyn y brenin, fel y gallent warchadw yn ddiofn anialwch eu gwlad. Ac yntau, drwy gynnal heddwch â'r brenin, a ddywed, o ffoent hwy i derfynau ei gyfoeth ef, y parai eu hysbeilio a'u hanrheithio, ac eu gwrthwynebai. A phan wybu Meredydd a meibion Cadwgan hynny, cymryd cyngor a wnaethant. Ac yn y cyngor y cawsant gadw terfynau eu gwlad eu hunain, a chymeryd eu hamddiffyn ynddynt. A'r brenin a'i luoedd a ddynesasant i derfynau Powys. Ac yna y danfones Meredydd fab Bleddyn ychydig o saethyddion ieuainc, i gyferbynied y brenin mewn gwrthallt goeding anial ffordd yr oedd yn dyfod, fel y gallent â saethau ac ergydiau wneuthur cynnwrf ar y llu. Ac fe a ddamweiniodd, yn yr awr y daeth y gwyr ieuainc hynny i'r wrthallt, dyfod yno y brenin a'i lu. A'r gwyr ieuainc hynny a erbyniasant yno a brenin a'i lu; drwy ddirfawr gynnwrf gollwng saethau ymhlith y llu a wnaethant. Ac wedi lladd llawer a brathu ereill, un o'r gwyr ieuainc a dynnodd ei fwa ac a ollyngodd saeth ymhlith y llu. A honno a ddigwyddodd yng nghadernid arfau y brenin, gyferbyn a'i galon, heb wybod i'r gwyr a'i bwriodd. Ac nid argyweddodd y saeth i'r brenin rhag daed ei arfau, canys llurugog oedd; namyn treillio a orug y saeth drachefn o'r arfau. Ac ofnhau yn fawr a wnaeth y brenin, a dirfawr aruthder a gymerth ynddo yn gymaint haeach a phe'i brethid drwyddo. Ac erchi i'r lluaws a wnaeth babellu, a gofyn a orug pwy rai a oeddynt mor eofn a'i gyrchu ef yn gyn lewed a hynny. A dywedyd a wuaethpwyd iddo mai rhai o wyr ieuainc a anfonasid gan Feredydd fab Bleddyn a wnaethai hynny. Ac anfon a wnaeth atynt genhadau i erchi iddynt ddyfod ato drwy gynghrair. A hwyntau a ddaethant. A gofyn a wnaeth iddynt pwy a'u hanfonasai yno. A dywedyd a wnaethant mai Meredydd. A gofyn iddynt a wyddyat pa le yr oedd Feredydd yna. Ac ateb. a wnaethant y gwyddynt. Ac erchi a wnaeth yntau i Feredydd ddyfod i heddwch. Ac yna daeth Meredydd a meibion Cadwgan i heddwch y brenin. Ac wedi heddychu rhyngddynt ymchwelodd y brenin i Loegr trwy addo deng mil of wartheg yn dreth ar Bowys. Ac felly y terfynodd y flwyddyn honno.

1120. Lladdodd Gruffydd ab Rhys ab Tewdwr Ruffydd fab Trahaearn.

1121. Bu farw Einion fab Cadwgan, y gwr a oedd yn cynnal rhan o Bowys a Meirionnydd, y wlad a ddygasai ef o gan Uchtryd fab Edwin; ac wrth ei angau a'i gymunrodd i Feredydd fab Bleddyn ei ewythr.

Ac yna gollyngwyd Ithel fab Rhirid o garchar Henri frenin. A phan ddaeth i geisio rhan o Bowys, ni chafas ddim. A phan gigleu Gruffydd ap Cynan wrthladd Meredydd fab Cynan o Feredydd fab Bleddyn ei ewythr, anfon a wnaeth Gadwaladr ac Owen ei feibion, a dirfawr lu ganddynt, hyd ym Meirionnydd. A dwyn a wnaethant holl ddynion y wlad ohoni, a'u holl dda gydag hwynt, hyd yn Lleyn. Ac oddyna cynnull llu a wnaethant ac arfaethu alldudio holl wlad Powys. Ac heb allu cyflewni eu harfeddyd, ymchwelasant drachefn. Ac yna ymarfolles Meredydd fab Bleddyn a meibion Cadwgan fab Bleddyn ynghyd, a diffeithiasant y rhan fwyaf o gyfoeth Llywarch fab Trahaearn, o achos nerthu ohono feibion Gruffydd ab Cynan, ac ymarfoll a hwynt.

1122. Lladdodd Gruffydd fab Meredydd ab Bleddyn Ithel ab Rhirid ab Bleddyn ei gefnder yng ngwydd Meredydd ei dad. Ac yn ol ychydig o amser wedi hynny y lladdodd Cadwallon ab Gruffydd ab Cynan ei dri ewythr, nid amgen Gronw a Rhirid a Meilir, meibion Owen ab Edwin. Canys Angharad ferch Owen ab Edwin oedd wraig Ruffydd ab Cynan, a honno oedd fam Cadwallon ac Owen a Chadwaladr, a llawer o ferched.

Yn y flwyddyn honno magwyd terfysg rhwng Morgan a Meredydd, meibion Cadwgan fab Bleddyn. Ac yn y terfysg hwnnw y lladdodd Morgan a'i law ei hun Feredydd ei frawd.

1123. Ymchwelodd Harri frenin o Normandi wedi heddychu rhyngddo â'r neb y buasai terfysg ag hwynt cyn no hynny.

1124. Gwrthladdwyd Gruffydd fab Rhys o'r cyfran o dir a roddasai y brenin iddo; wedi ei gyhuddo yn wirion, heb ei haeddu ohono, o'r Ffrainc a oeddynt yn cydbreswylio ag ef.

Yn niwedd y flwyddyn honno y bu farw Daniel fab Sulien esgob Mynyw, y gŵr a oedd gymodredwr rhwng Gwynedd a Phowys yn y terfysg a oedd rhyngddynt. Ac nid oedd neb a allai gael bai nag anghlod arno, canys tangnefeddus oedd, a charedig gan bawb. Ac archddiagon Powys oedd.

Nodiadau

golygu