Brut y Tywysogion (Ab Owen)/Rhwng dwy Genhedlaeth
← Gwynedd a Phowys | Brut y Tywysogion (Ab Owen testun cyfansawdd) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Meibion y Dewrion → |
VI.
Rhwng dwy Genhedlaeth.
[1. Anrhefn Powys, a marw Meredydd fab Bleddyn, ii. Ymdaith Owen Gwynedd a Chadwaladr meibion Gruffydd ab Cynan. iii. Marw Gruffydd ab Rhys a Gruffydd ab Cynan. iv. Anghydfod rhwng Owen Gwynedd a Chadwaladr. v. Marw Sulien. vi. Dau wr ieuanc vii. Gofid a llawenydd Owen Gwynedd.]
1125 Bu farw Gruffydd fab Bleddyn. A dallwyd Llywelyn ab Owen gan Feredydd fab Bleddyn, ei ewythr frawd ei hendad, a hwnnw a'i rhoddes yn llaw Baen fab Ieuan, y gwr a'i hanfones yng ngharchar hyd yng nghastell Bruch.
Yn niwedd y flwyddyn bu farw Morgan ap Cadwgan yn Cipris, yn ymchwelyd o Gaersalem, wedi myned o hono a chroes i Gaersalem oherwydd iddo ladd cyn na nynny Feredydd ei frawd.
1126. Gwrthladdwyd Meredydd fab Llywarch o'i wlad, y gŵr a laddodd fab Meurig ei gefnder, ac a ddallodd feibion Griffri ei ddau gefnder arall. A Ieuaf fab Owen a'i gwrthladdodd, ac yn y diwedd a'i lladdodd.
1227.[1] Llas Iorwerth fab Llywarch gan Lywelyn fab Owen ym Mhowys. Ychydig wedi hynny yspeiliwyd Llywelyn fab Owen o'i lygaid gan Feredydd fab Bleddyn. A las Ieuaf fab Owen gan feibion. Llywarch fab Owen ei gefnder. Yn niwedd y flwyddyn honno llas Madog fab Llywarch gan Feurig ei gefnder fab Rhirid.
1128. Yn niwedd y flwyddyn ysbeiliwyd Meurig o'i ddau lygad.
1129. Llas Iorwerth fab Owen Cadwgan fab Gruffydd ab Cynan gan Gadwgan fab Gronw ab Owen ei gefnder, ac Einion fab Owen.
Ychydig wedi hynny y bu farw Meredydd ab Bleddyn, tegwch a diogelwch holl Bowys, a'i hamddiffyn; wedi cymeryd iachwyol benyd ar ei gorff, a gleindid edifarwch yn ei ysbryd, a chymun corff Crist, ac olew ac angen.
1130. Bu bedair blynedd ar un tu heb gael neb ystoriau ar a ellid eu gwarchadwi dan gof.
1134. Bu farw Henri fab Gwilym bastard, brenin Lloegr a Chymru a'r holl ynys oddiam hynny, yn Normandi, y trydydd dydd o fis Rhagfyr. Ac yn ei ol yntau y cymerth Estefyn o Blaes, ei nai, goron y deyrnas yn drais, a darostyngodd. yn wrol iddo holl ddeheu Lloegr.
1135. Llas Ricert fab Gilbert gan Forgan ab Owen.
Wedi hynny cyffroes Owen a Chadwaladr, feibion Gruffydd fab Cynan, ddirfawr lu i Geredigion, —y gwyr a oedd degwch yr holl Frytaniaid, a'u diogelwch a'u rhyddid a'u cadernid; y gwyr a oeddynt ddau ardderchog frenin, a dau haelion; dau ddiofn, dau lew dewrion; dau ddedwyddion, dau huodron, dau ddoethion; diogelwyr yr eglwysau a'u hardemylwyr, ac amddiffynwyr y tlodion: llofruddion y gelynion, heddychwyr y rhai ymladdgar dofiodron y gwrthwynebwyr; y diogelaf nawdd o bawb ar a ffoai atynt y gwyr a oeddynt yn rhagrymhau o nerthoedd eneidiau a chyrff, ac yn cydgynnal yn un holl deyrnas y Brytaniaid. Y rhai hynny ar y rhuthr gyntaf, a losgasant gastell Gwallter. Ac yna, wedi cyffroi eu hadanedd, yr ymladdasant â chastell Aberystwyth ac ei llosgasant. A chyda Hywell fab Meredydd a Madog fab Idnerth a deufab Hywel, nid amgen Meredydd a Rhys, llosgasant gastell Ricert de la Mere, a chastell Dinerth, a chastell Caerwedros. Ac oddyna ymchwelasant adref.
Yn niwedd y flwyddyn honno daethant eilwaith i Geredigion, a chyda hwynt amlder llu o ddetholedigion ymladdwyr, fel o amgylch chwe mil o bedyt addwyn a dwyfil o farchogion llurygog. Ac yn borth iddynt y daeth Gruffydd fab Rhys, a Hywel fab Meredydd o Frycheiniog, a Madog fab Idnerth a deufab Hywel fab Meredydd. A'r rhai hynny oll yn gyfun a gyweiriasant ou byddinoedd yn Aberteifi. Ac yn eu herbyn y daeth Ysteffyn Gwnstabl, a Robert fab Martin, a meibion Gerald ystiward, a'r holl Fflemisiaid, a'r holl farchogion, a'r holl Ffreinc o Aber Nedd hyd yn Aber Teifi. Ac wedi cyrchu y frwydr ac ymladd yn greulon o bob tu, y cymerth y Fflemisiaid a'r Normaniaid eu ffo oherwydd eu harferedig ddefod. Ac wedi lladd rhai onaddunt, a llosgi ereill, a thrychu traed meirch ereill, a dwyn ereill yng nghaethiwed, a boddi y rhan fwyaf megis ynfydion yn yr afon; ac wedi colli amgylch tair mil o'u gwyr, yn drist aflawen yr ymchwelasant i'w gwlad. Ac wedi hynny ymchwelodd Owen a Chadwaladr i'w gwlad yn llawen, wedi caffael y fuddugoliaeth, a chael dirfawr amlder o geith, ac anrheithiau, a gwisgoedd mawrwerth, ac arfau.
1136. Bu farw Gruffydd fab Rhys, lleufer a chadernid ac addfwynder y Deheuwyr.
Y flwyddyn honno bu farw Gruffydd ab Cynan, brenin a phenadur a thywysog ac amddiffynnwr a heddychwr holl Gymru, wedi lliaws o beryglon môr a thir, wedi aneirif anrheithiau a buddugoliaethau rhyfeloedd, wedi goludoedd aur ac arian a dillad mawrwerth; wedi cynnull Gwynedd, ei briod wlad, y rhai a darwyd eu gwasgaru cyn na hynny i amryfael wledydd gan y Normaniaid; wedi adeiladu llawer o eglwysau yn ei amser, a'u cysegru i Dduw wedi gwisgo am dano yn fynach, a chymryd cymun corff Crist, ac olew, ac angen.
Yn y flwyddyn honno bu farw Ieuan, archoffeiriad Llanbadarn, y gŵr a oedd ddoethaf o'r doethion; wedi arwain ei fuchedd yn grefyddus hyd angau yn y trydydd dydd o galan Ebrill.
Yn y flwyddyn honno hefyd, daeth meibion Gruffydd ab Cynan y drydedd waith i Geredigion, a llosgasant gastell Ystrad Meurig a chastell Llanstephan a chastell Caerfyrddin.
1137. Daeth yr ymherodes i Loegr i ddarostwng brenhiniaeth Loegr i Henri ei mab; canys merch oedd hi i Henri gyntaf, fab Gwilym fastard. A bu diffyg ar yr haul y deuddegfed dydd o galan Ebrill.
1138. Llas Cynwrig ab Owen gan deulu Madog fab Meredydd.
1139. Bu farw Madog fab Idnerth. A llas Meredydd fab Hywel gan feibion Bleddyn fab Cynfyn Gwyn.
1140. Llas Howel fab Meredydd fab i Rhydderch o'r Cantref Bychan drwy ddychymyg Rhys fab Hywel, ac ef ei hun a'i lladdodd.
1141. Las Hywel fab Meredydd ab Bleddyn gan neb un heb wybod pwy a'i lladdodd. A las Hywel a'i frawd, meibion Madog fab Idnerth.
1142. Llas Anarawd fab Gruffydd, gobaith a chadernid a gogoniant y Deheuwyr, gan deulu Cadwaladr, y gwr yr oeddynt yn ymddiried iddo yn gymaint ag a fynnai. Ac wedi clybod o Owen ei frawd hynny, drwg fu ganddo; canys amod a wnaethai roddi ei ferch i Anaraw. A mynnu Cadwaladr ei frawd a wnaeth. Ac yna achubodd Hywel fab Owen ran Cadwaladr o Geredigion, a llosges gastell Cadwaladr a oedd yn Aberystwyth.
Llas Milo, iarll Henffordd, â saeth. neb un farchog iddo ei hun, a oedd yn bwrw carw yn hela gydag ef.
1143. Pan welas Cadwaladr fod Owen ei frawd yn ei wrthladd o'i holl gyfoeth, cymerth lynges o Iwerddon a orug, a dyfod i Abermenai i'r tir. Ac yn dywysogion gydag ef yr oedd Otter, a mab Turkyll a mab Cherwlf, Yng nghyfrwng hynny cytunodd Owen a Chadwaladr, megis y gweddai i frodyr, a thrwy gyngor y gwyrda y cymodasant. A phan glywyd hynny, delis Germanwyr Gadwaladr; ac yntau a amodes iddynt ddwy fil o geith,. ac felly yr ymryddhaodd oddiwrthynt. A phan gigleu Owen hynny, a fod ei frawd yn rhydd, terfysgus gynnwrf a wnaeth arnynt, a'u cyrchu yn ddiennig a orug. A gwedi lladd rhai a dala ereill a'u caethiwo yn waradwyddus, y diangasant ar ffo hyd yn Dulyn.
Y flwyddyn honno dadgyweiriodd Hu fab Rawli gastell Gemaron, a goresgynnodd eilwaith Faelenydd. Ac yna adgyweiriwyd Colwyn, a darostyngwyd Elfael yr eilwaith i'r Ffreinc.
1144. Delis Mortemer Rys fab Hywel ac y carcharodd mewn carchar, wedi lladd rhai o'i wyr a dala ereill, Ac yna diffeithiodd Howel fab Owen a Chynan ei frawd. Ac wedi bod brwydr arwdost, a chael onaddynt y fuddugoliaeth, yr ymchwelasant drachefn, a dirfawr anrhaith ganddant. Ac yna daeth Gilbert iarll, fab Gilbert arall, i Ddyfed; a darostyngodd y wlad, ac adeiladodd gastell Caerfyrddin, a chastell arall ym Mab Udrut.
1145. Bu farw Sulien Richmarch, mab i Seint Padarn, mab maeth yr eglwys, a gwedi hynny athro arbennig. Gŵr oedd. aeddfed ei gelfyddyd, ymadroddwr dros ei genedl a dadleuwr cymedrodwyr, heddychwr amryfaelon genhedloedd, addurn o frodiau eglwysolion a'r rhai bydolion,—y deuddegfed dydd o galan Hydref,—gwedi iachwyawl benyd ar ei gysegredigaeth gorff, a chymun corff Crist, ac olew ac angen.
Ac yna llas Meurig fab Madog fab Rhirid, yr hwn a elwid Meurig Tybodiad, drwy frad, gan oi wyr ei hun. Ac yna llas Meredydd fab Madog fab Idnerth gan Hu o Mortemer.
YMOSOD AR GASTELL.
Goresgynnodd Cadell fab Gruffydd gastell Dinweileir, yr hwn a wnaethodd Gilbert iarll. Ychydig wedi hynny y gorfu ef a Hywel ab Owen Gaerfyrddin drwy gadarn ymryson, wedi lladd llawer o'u gelynion a brathu ereill.
Ychydig o ddyddiau wedi hynny y daeth yn ddisyfyd ddirfawr lu o'r Ffreinc a'r Fflemisiaid i ymladd â'r castell, ac yn dywysogion yn eu blaen feibion Gerald Ystiward a Gwilym ab Aedd. A phan welas Meredydd ab Gruffydd, y gwr y gorchmynasid iddo gadwraeth y castell a'i amddiffyn, ei elynion yn dyfod mor ddisyfyd a hynny, gyrru calon yn y gwyr a orug, a'u hannog i ymladd, a bod yn drech gantaw ei fryd na'i oed. Canys, cyn bei bychan ei oed, eisoes yr oedd gantaw weithred marchog, ac yn anghrynedig dywysog yn annog ei wyr i ymladd, ac yn cyrchu ei hun ei elynion yn arfau. A phan welas ei elynion fychaned oedd y nifer yn amddiffyn o fewn y castell, dyrchafel ysgolion wrth y muroedd a wnaethant. Ac yntau a oddefodd i'w elynion i esgyn tua'r bylchau. Ac yn ddilesg ef a'i wyr a ymchwelasant yr ysgolion, oni syrthiodd y gelynion yn y clawdd, gan yrru ffo ar y rhai ereill, a gado lliaws onaddynt yn feirw, yr hyn a ddanghoses iddo y ddedwydd dynghedfen rhag llaw, ar gaffael dawn ohono ar wladychu yn y Deheu. Canys gorfu, ac ef yn fab, ar lawer o wyr profedig yn ymladdau; ac yntau ag ychydig o nerth gydag ef.
Yn niwedd y flwyddyn y bu farw Rhun fab Owen, yn was ieuanc clodforusaf o genedl y Brytaniaid, yr hwn gawsai fonedd ei rieni yn ardderchog. Canys teg oedd o ffurf a drych, a hynaws o ymadroddion; a huawdr wrth bawb, rhag welawdwr yn rhoddion; ufudd ymhlith ei dylwyth, balch ymhlith ei estronion; a therwyn garw wrth ei elynion, digrif wrth ei gyfeillion; hir ei dyad, gwyn ei liw, pengrych, melyn ei wallt; goleision ei lygaid, llydain a llawen; mwnwgl hir praff, dwy fron lydan, ystlys hir; morwydydd preiffion, esgeiriau hirion, ac o du ucha ei draed yn feinion; traed birion a bysedd meinionoedd iddo. A phan ddaeth y chwedl am ei irad angeu ef at ei dad Owen, ef a gododd ac a dristhaodd yn gymaint ag na allai dim ei hyfrydhau ef, na thegwch teyrnas na digrifwch, na chlaear ddiddanwch gwyrda nac edrychedigaeth mawr-werthogion bethau.
Namyn Duw, rhagwelawdwr pob peth, a drugarhaodd, o'i arferedig ddefod, wrth genedl y Brytaniaid, rhag ei cholli, megis llong heb lywiawdwr arni, a gedwis iddynt Owen yn dywysog arnynt. Canys, cyn cyrchasai anioddefedig dristyd feddwl y tywysog, eisoes ef a'i drychafodd disyfyd lawenydd drwy ragweledigaeth Duw. Canys yr oedd neb un gastell a elwid yr Wyddgrug, y buesid yn aml yn ymladd ag ef heb dycio. A phan ddaeth gwyrda Owen a'i deulu i ymladd âg ef, ni allodd nag anian y lle na'i gadernid ymwrthladd ag hwynt, oni losged y castell ac onis diffeithiwyd, wedi lladd rhai o'r castellwyr, a dala ereill a'u carcharu. A phan gigleu Owen, ein tywysog ni, hynny, y gollyngwyd ef gan bob dolur a phob meddwl cwynfannus, ac y daeth yn rymus i'r ansawdd a oedd arno gynt.
Nodiadau
golygu- ↑ diawl y wasg 1127?