Brut y Tywysogion (Ab Owen)/Rhagymadrodd
← Brut y Tywysogion (Ab Owen) | Brut y Tywysogion (Ab Owen testun cyfansawdd) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Colli Teyrnas y Brytaniaid → |
RHAGYMADRODD
YSGRIFENNWYD Brut y Tywysogion tua diwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg, ac yn ol pob tebyg yn mynachdy Ystrad Fflur yng Ngheredigion. Cronicl hanes y Cymry yw, o gwymp teyrnas y Brytaniaid, pan fu farw Cadwaladr Fendigaid yn 680, hyd fin cwymp tywysogaeth anibynnol y Cymry, pan laddwyd Llywelyn y Llyw Olaf, yn 1282.
Ceir cipolygon ar brif arwyr y Cymry,— megis Hywel Dda. Llywelyn ab Seisyll, Gruffydd ab Llywelyn, meibion Bleddyn ab Cynfyn. Gruffydd ab Cynan, Gruffydd ab Rhys. Owen Gwynedd, Owen Cyfeiliog, yr Arglwydd Rhys. Llywelyn Fawr, a Llywelyn y Llyw Olaf. Gwelir y gwahanol genhedloedd dyfod yn cyrraedd Cymru—y Saeson, y cynhedloedd duon, ac yn enwedig y Normaniaid a'r Ffleminiaid. A rhoir ambell air i ddweyd am ddyfodiad y mynachod gwynion i'r wlad. Ceir ambell drem, hefyd ar y werin a'i dioddef a'i hamynedd, yn enwedig yng Ngheredigion a Dyfed.
Cyfnod y tywysogion yn unig ddarlunnir yn y cronicl llawn a dyddorol hwn. Cyn hynny, yr oedd ysbryd ymherodraeth Rhufain megis yn teyrnasu arnynt o hyd; wedi hynny, cododd y werin i groesawu Owen Glyndŵr. Yn eu cestyll a'u hymladd a'u hela, rhai dyddorol oeddynt; tywysog, castell a mynachlog oedd tri hanfod bywyd llenyddol, llwyddiannus. difyr. Siaradent bron yr un Cymraeg drwy Gymru, anrhydeddid athrylith yn ogystal a grym. Gwelir nod uchaf eu gwareiddiad yn rhyddiaith y Mabinogion ac yng nghywyddau Dafydd ab Gwilym. Cedwir Brut y Tywysogion mewn cyfrol o lawysgrifau a elwir yn Llyfr Coch Hergest, eiddo Coleg yr Iesu, yn Llyfrgell y Bodleian, Rhydychen. Cyhoeddwyd ef yn 1860 gan y Master of the Rolls, dan olygiaeth Ab Ithel çyda dyfyniadau o lawysgrifau ereill,—dwy lawysgrif yr Hengwrt, llawysgrif Cotton a Llyfr Basing. Yn 1890 cyhoeddwyd ef drachefn, dan olygiaeth fwy manwl ac ysgolheigaidd Syr John Rhys a Dr. J. Gwenogfryn Evans. At yr argraffiad diweddaf yr a'r hanesydd a'r ysgolor.
A dyma argraffiad bychan newydd ar gyfer y llenor a'r werin, fel y gallo'r anysgedig ddarllen croniclau hynaf ei wlad. Newidiwyd ychydig ar yr iaith, er hynny nid cymaint ag a newidir ar lyfr Saesneg o'r un oed i'w wneud yn ddealladwy. Gadawyd ychydig hen eiriau da sydd erbyn hyn wedi cilio o Gymraeg ein dyddiau ni; ond esbonnir hwy ar ddiwedd yr ail gyfrol.
Cymer y gyfrol hon ni at yr Arglwydd Rhys, pan yn dywysog ieuanc yn dinistrio cestyll y Normaniaid, a'i haul ar godi. Yn y gyfrol nesaf[1] cawn weled tywysog Cymreig y canol oesoedd yn ei rym a'i urddas mwyaf yn Llywelyn Fawr. Yna gwelir achosion cwymp y tywysogion a chlirio lle i fywyd y werin rydd ddadblygu.
Nodiadau
golygu- ↑ nis cyhoeddwyd