Brut y Tywysogion (Ab Owen)/Y Barwniaid Normanaidd

Colli Teyrnas y Brytaniaid Brut y Tywysogion (Ab Owen testun cyfansawdd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Owen ab Cadwgan

ii.
Y Barwniaid Normanaidd.

[Marw William I. a Rhys ab Tewdwr. Ymdrech rhwng y barwniaid Normanaidd oedd yn ceisio ennill tir yng Nghymru, y tywysogion Cymreig oedd yn amddiffyn eu gwlad ac yn ymladd â'u gilydd, a brenin Lloegr oedd yn coisio estyn ei deyrnwialen dros dywysog a barwn. Prin y daw Gruffydd ab Cynan i'r golwg, meibion Bleddyn ab Cynfyn wibia o'n blaenau yn y bennod hon. Ymadawiad Robert Belesmo a dyfodiad y Fflandrwys.]

1080. Gedewis Sulien ei esgobawd y drydedd waith, a chymerodd Wilffre hi. Ac yna bu farw Gwilym fastard, tywysog y Normaniaid a brenin y Saeson a'r Brytaniaid a'r Albanwyr, wedi digon o ogoniant a chlod y llithredig fyd yma, ac gogoneddusion fuddugoliaethau ac rhydedd o oludoedd; ac wedi ef y gwledychodd Gwilym Goch ei fab. Ac yna gwrthladdwyd Rhys fab Tewdwr o'i gyfoeth a'i deyrnas gan feibion Bleddyn fab Cynfyn, nid amgen Madog a Chadwgan a Rhirid; ac yntau a giliodd i Iwerddon. Ac yn y lle wedi hynny cynhullodd lynges ac ymchwelodd drachefn. Ac yna bu frwydyr Llych Crei, a llas meibion Bleddyn, a rhoddes Rhys ab Tewdwr ddirfawr swllt i'r llyngheswyr, Ysgotiaid a Gwyddyl, a ddaethent yn borth iddo. Ac yna dygpwyd ysgrin Dewi yn lladrad o'r eglwys, ac ysbeiliwyd yn llwyr yn ymyl y ddinas. Ac yna crynodd y ddaear yn ddirfawr yn holl ynys Brydain. Ac yna bu farw Sulien esgob Mynyw, y doethaf o'r Brytaniaid, ac ardderchog o grefyddus fuchedd, wedi clodforusaf ddysgeidiaeth ei ddisgyblion a chraffaf ddysg ei blwyfau, y pedwar ugeinfed flwyddyn o'i oes, a'r unfed eisieu o ugain o'i gysegredigaeth nos galan Ionawr. Ac yna torred Mynyw gan genedl yr ynysedd. A bu farw Cadifor fab Collwyn. A Llywelyn a'i fab a'i frodyr a wahawddasant Ruffydd fab Meredydd, ac yn ei erbyn yr ymladdodd Rhys ab Tewdwr ac a'i gyrrodd ar ffo, ac yn y diwedd ei lladdodd.

1090. Llas Rhys ab Tewdwr, brenin Deheubarth, gan y Ffreinc a oedd yn preswylio Brycheiniog. Ac yna digwyddodd teyrnas y Brytaniaid. Ac yna ysbeiliodd Cadwgan fab Bleddyn Ddyfed yr eilddydd o Fai. Ac oddyna, ddeufìs wedi hynny, amgylch calan Gorffenna, y daeth y Ffreinc i Ddyfed a Cheredigion, y rhai a'i cynhaliasant eto, ac a gadarnhaesant y cestyll ar holl dir y Brytaniaid. Ac yna llas y Moel Cwlwm ab Dwnchath, brenin y Pictiaid a'r Albaniaid gan Ffreinc, ac Edward ei fab. Ac yna gweddiodd Margaret frenhines, gwraig y Moel Cwlwm, ar Dduw drwy ymddiried ynddo, wedi clybod lladd ei gŵr a'i mab, hyd na bei fyw hi yn y farwol fuchedd yma; a gwrando a orug Duw ei gweddi, canys erbyn y seithfed dydd y bu farw.

Ac yna aeth Gwilym Goch, brenin, yr hwn cyntaf a orfu ar y Saeson o glodforusaf ryfel, hyd yn Normandi, i gadw ac i amddiffyn teyrnas Robert ei frawd, yr hwn a athoedd hyd yng Nghaersalem i ymladd â'r Sasiniaid a chenhedloedd ereill anghyfiaith, ac i amddiffyn y Cristionogion, ac i haeddu mwy o glod. A Gwilym yn trigo yn Normandi, y gwrthladdodd y Brytaniaid lywodraeth y Ffreinc, heb allel goddef eu creulonder, a thorri y cestyll yng Ngwynedd, a mynychu anrheithiau a lladdfâu arnynt. Ac yna dug y Ffreinc luoedd hyd yng Ngwynedd, a'u cyferbynnu a orug Cadwgan fab Bleddyn, a'u cyrchu a gorfod arnynt, a'u gyrru ar ffo a'u lladd o ddirfawr laddfa. A'r frwydyr honno a wnaethpwyd yng Nghoed Yspwys. Ac yn niwedd y flwyddyn honno y torres y Brytaniaid holl gestyll Ceredigion a Dyfed, eithr dau, nid amgen Penfro a Rhyd y Gors. A'r bobl a holl anifeiliaid Dyfed a ddygant ganddynt, a gadaw a wnaethant Ddyfed a Cheredigion yn ddiffaeth.

1092. Diffeithodd y Ffreinc Gwyr a Chydweli ac Ystrad Tywi, a thrigodd y gwladoedd yn ddiffaeth. A hanner y cynhaeaf y cyffroes Gwilym frenin lu yn erbyn y Brytaniaid, ac wedi cymryd o'r Brytaniaid eu hamddiffyn yn y coedydd a'r glynnedd, ymchwelodd Gwilym adref yn orwag heb ennill dim.

1093. Bu farw Gwilym fab Baldwin, yr hwn rwndwaliodd gastell Rhyd y Gors. Ac yna gwrthladdodd Brytaniaid Brycheiniog a Gwent a Gwenllwg arglwyddiaeth y Ffreinc. Ac yna cyffroes y Ffreinc lu i Went, ac yn orwag heb ennill dim yr ymchwelasant, ac eu llas yn ymchwelyd drachefn gan y Brytaniaid yn y lle a elwir Celli Carnant. Wedi hynny y Ffreinc a gyffroasant lu y Brytaniaid, a meddwl diffeithio yr holl wlad; heb allu cwblhau eu meddwl, yn ymchwelyd drachefn, eu llas gan feibion Idnerth fab Cadwgan, Gruffydd ac Ifor, yn y lle a elwir Aber Llech. A'r ciwdadwyr a drigasant yn eu tai yn dioddef yn ddiofn, er fod y cestyll eto yn gyfan, a'r castellwyr ynddynt Yn y flwyddyn honno y cyrchodd Uchtryd fab Edwin a Hywel fab Goronw, a llawer o benaethau ereill gyda hwynt, ac ymladd o deulu Cadwgan fab Bleddyn gastell Penfro, a'u hyspeilio o'u holl anifeiliaid, a diffeithio yr holl wlad, a chyda dirfawr anrhaith yr ymchwelasant adref.

1094. Diffeithiodd Geralt ystiwart, yr hwn y gorchymynasid iddo ystiwardiaeth castell Penfro, derfynau Mynyw. Ac yna yr eil waith cyffroes Gwilym frenin Lloegr aneirif o luoedd a dirfawr feddiant a gallu yn erbyn y Brytaniaid. Ac yna gochelodd y Brytaniaid eu cynnwrf hwynt, heb obeithio ynddynt eu hunain, namyn gan osod gobaith yn Nuw, creawdwr pob peth, drwy ymprydio a gweddio a rhoddi cardodau a chymryd garw bennyd ar eu cyrff. Gan ni lefasai y Ffreinc gyrchu y creigiau a'r coedydd, namyn gwibio yng ngwastadion feusydd. Yn y diwedd, yn orwag yr ymchwelasant adref, heb ennill dim. A'r Brytaniaid yn hyfryd ddigrynedig a amddiffynasant eu gwlad.

1095. Cyffroes y Ffreinc luoedd y drydedd waith yn erbyn Gwynedd, a dau dywysog yn eu blaen, a Hu iarll Amwythig yn bennaf arnynt. A phabellu a orugant yn erbyn ynys Fon. A'r Brytaniaid, wedi cilio i'r lleoedd cadarnaf iddynt o'u gnotedig ddefod, a gawsant yn eu cyngor achub Mon. A gwahodd atynt wrth amddiffyn iddynt, llynges ar for o Iwerddon, drwy gymryd eu rhoddion a'u gwobrau gan y Ffreinc. Ac yna gedewis Cadwgan fab Bleddyn a Gruffydd fab Cynan ynys Fon, a chiliasant i Iwerddon, rhag ofn twyll eu gwyr eu hunain. Ac yna daeth y Ffreinc i mewn i'r ynys, a lladdasant rai o wyr yr ynys. Ac fel yr oeddynt yn trigo yno, daeth Magnus brenin Germania, a rhai o'i longau ganddo, hyd ym Mon; drwy obeithio caffel goresgyn ar wladoedd y Brytaniaid. Ac wedi clybot o Fagnus frenin y Ffreinc yn mynych feddylio diffeithio yr holl wlad, a'i dwyn hyd ar ddim, dyfrysio a orug i eu cyrchu. Ac fel yr oeddynt yn ymsaethu, y naill rai o'r môr a'r rhai ereill o'r tir, brathwyd Hu iarll yn ei wyneb,ac o law y brenin ei hun yn y frwydyr y digwyddodd. Ac yna gadewis Magnus frenin, trwy ddisyfyd gyngor, derfynau y wlad. A dwyn a orug y Ffreinc oll, a mawr a bychan, hyd ar y Saeson. Ac wedi na allai y Gwyndyt oddef cyfreithiau a barnau a thrais y Ffreinc arnynt, cyfodi a orugant eilwaith yn eu herbyn, ac Owen ab Edwin yn dywysog arnynt, y gŵr a ddygasai y Ffreinc gynt i Fon.

1096. Ymchwelodd Cadwgan fab Bleddyn a Gruffydd fab Cynan o Iwerddon. Ac wedi heddychu â'r Ffreinc onaddynt, rhan o'r wlad a achubasant Cadwgan fab Bleddyn a gymerth Geredigion a chyfran o Bowys, a Gruffydd a gafas Fon.

Ac yna llas Llywelyn fab Cadwgan gan wyr Brycheiniog. Ac aeth Hywel fab Ithel i Iwerddon.

Y flwyddyn honno bu farw Rhychmarch Ddoeth, mab Sulien esgob, y doethaf o ddoethion y Brytaniaid, y drydedd flwyddyn a deugain o'i oes, y gŵr ni chyfododd yn yr oesoedd cael ei gyffelyb cyn nag ef, ac nid hawdd credu na thebygu cael ei gyfryw wedi ef; ac ni chawsai ddysg gan arall erioed eithr gan ei dad ei hun. Wedi addasaf anrhydedd ei genedl ei hun, ac wedi clodforusaf ac adnewyddusaf ganmol y cyfnesafion genhedloedd, nid amgen Saeson a Ffreinc a chenhedloedd


DYFFRYN EDEYRNION AC EGLWYS CORWEN.

ereill o'r tu draw i for, a hynny drwy gyffredin gwynfan pawb yn dolurio eu calonnau, y bu farw.

1097. Llas Gwilym Goch, brenin y Saeson, yr hwn a wnaethpwyd yn frenin wedi Gwilym ei dad. Ac fel yr oedd hwnnw ddyddgwaith yn hela gyda Henri, y brawd ieuaf iddo, a rhai o'r marchogion gyda hwynt, ei brathwyd â saeth gan Wallter Turel, marchog iddo, o'i anfodd; pan oedd yn bwrw carw, y medrodd y brenin ac a'i lladdodd. A phan welas Henri ei frawd yntau hynny, gorchymyn a orug corff ei frawd i'r marchogion a oedd yn y lle, ac erchi iddynt wneuthur brenhinol arwyliant iddo. Ac yntau a gerddodd hyd yng Nghaer Wynt, yn y lle yr oedd swllt y brenin a'i frenhinolion oludoedd. Ac achub y rhai hynny a orug. A galw ato holl dylwyth y brenin, a myned oddiyno hyd yn Llundain a'i goresgyn, yr hon sydd bennaf a choron ar holl frenhiniaeth Lloeger. Ac yna y cydredasant ato Ffreinc a Saeson i gyd, ac o frenhinol gyngor y gosodasant ef yn frenin yn Lloeger. Ac yn y lle cymerth yntau yn wraig briod iddo Fahallt ferch y Moel Cwlwm, brenin Prydain, o Fargaret frenhines ei mam. A honno drwy ei phriodi a ansodes ef yn frenhines; canys Gwilym Goch ei frawd ef yn ei fywyd a arferasai o ordderchadau, ac wrth hynny y buasai farw heb etifedd. Ac yna yr ymchwelodd Robert, y brawd hynaf iddynt, yn fuddugol o Gaersalem.

A bu farw Tomas, archesgob Caer Efrog. Ac yn ei ol yntau dynesodd Gerard, a fuasai esgob yn Henffordd cyn na hynny, a derchafodd Henri frenin ef ar deilyngdod a oedd uwch yn archesgob yng Nghaer Efrog. Ac yna cymerth Anselm archesgob Caint drachefn ei archesgobawd drwy Henri frenin, yr hwn a adawsai yn amser Gwilym Goch frenin, o achos anwiredd hwnnw a'i greulonder, gan na welai ef hwnnw yn gwneuthur dim yn gyfiawn o orchymynnau Duw, nac o lywodraeth frenhinol teilyngdod.

1098. Bu farw Hu Fras, iarll Caer Lleon ar Wysg, ac yn ei ol dynesodd Roger ei fab, cyn bei bychan ei oed. Ac eisoes y brenin a'i gosodes yn lle ei dad, o achos maint y carai ei dad. Ac yn y flwyddyn honno y bu farw Gronw fab Cadwgan ab Owen mab Gruffydd.

1100. Bu anghytundeb rhwng Henri frenin a Robert iarll Amwythig ac Ernwlff ei frawd, gŵr a gafas Ddyfed yn rhan iddo, ac a wnaeth gastell Penfro yn fawrfrydus. A phan gigleu y brenin eu bod yn gwneuthur twyll yn ei erbyn, megis y daeth y chwedl arnynt y galwodd ato i wybod gwirionedd am hynny; a hwythau, heb allel ymddiried i'r brenin, a geisiasant achos i fwrw esgus. Ac wedi gwybod onaddynt adnabod o'r brenin eu twyll ac eu brad, ni feiddiasant ymddangos gerbron ei genddrycholder ef. Achub a orugant eu cadernid, a galw porth o bob tu iddynt, a gwahodd atynt y Brytaniaid a oeddynt. darestyngedigion iddynt yn eu meddiant, ac eu penaethau, nid amgen Cadwgan, Iorwerth, a Meredydd, feibion Bleddyn fab Cynfyn, yn borth iddynt. Ac eu horfoll yn fawrfrydig anrhydeddus iddynt at orugant, ac addaw llawer o dda iddynt, at rhoddi rhoddion, a llawenhau eu gwlad o ryddid. Ac yng nghyfrwng hynny cadarnhau eu cestyll, a'u cylchynu o ffosydd a muroedd, a pharotoi llawer o ymborth, a chynnull marchogion, a rhoddi rhoddion iddynt. Robert a achubodd bedwar castell, nid amgen Arwndel, a Blif, a Bryg, ynglyn a'r hwn yr oedd yr holl dwyll, yr hwn a rwndwalasai yn erbyn arch y brenin, ac Amwythig. Eruwlff a achubodd Benfro ei hun. Ac wedi hynny cynnull lluoedd a orugant, a galw y Brytaniaid i gyd, a gwneuthur ysglyfaethau, ac ymchwelyd yn llawen adref. A phan oeddid yn gwneyd y pethau hynny, y meddyliodd Ernwlff heddychu â'r Gwyddyl, a derbyn nerth ganddynt. Ac anfon a wnaeth genhadau hyd yn Iwerddon, nid amgen Gerald ystiwart a llawer o rai ereill, i erchi merch Mwrchath frenin yn briod iddo. A hynny a gafas yn hawdd, a'r cenhadau a ddaethant i eu gwlad yn hyfryd. A Mwrchath a anfones ei ferch, a llawer o longau arfog gyda hi, yn nerth iddo. Ac wedi ymddyrchafel o'r ieirll mewn balchder o achos y pethau hynny, ni chymerasant ddim heddwch gan y brenin. Ac yna y cynhullodd Henri frenin lu bob ychydig, ac ynghyntaf cylchynodd gastell Arwndel drwy ymladd â hi. Ac oddyna y cymerth gastell Blif, a hyd yng nghastell Bryg, ac ymhell oddiwrtho y pabellodd. A chymryd cyngor a orug pa fodd y darostyngai ef y ieirll, neu y lladdai, neu y gwrthladdai o'r holl deyrnas. Ac o hynny pennaf cyngor a gafodd anfon cenhadau o'r Brytaniaid, ac yn wahanredol at Iorwerth fab Bleddyn, a'i wahodd a'i alw ger ei fron, ac addaw mwy iddo nag a gaffai gan y ieirll, a'r cyfran y perthynai ei gael o o dir y Brytaniaid. 'Hynny a roddes y brenin yn rhydd i Iorwerth fab Bleddyn tra fai byw y brenin, heb dwng a heb dâl. Sef oedd hynny, Powys a Cheredigion a hanner Dyfed,—canys yr hanner arall a roddasid i fab Baldwin,—a Gwyr a Chydweli. Ac wedi myned Iorwerth fab Bleddyn i gastell y brenin, anfon a oruc i anrheithio cyfoeth Robert ei arglwydd. A'r anfonedig lu hwnnw gau Iorwerth, gan gyflawni gorchymyn Iorwerth, a anrheithiasant gyfoeth Robert ei arglwydd drwy gribddeilio pob peth ganddynt, a diffeithio y wlad, a chynnull dirfawr anrhaith ganddynt o'r wlad. Canys y iarll cyn na hynny a orchymynasai roddi cred i'r Brytaniaid, heb debygu caffael gwrthwyneb ganddynt, ac anfon ei holl hafodydd a'i anifeiliaid a'i oludoedd i blith y Brytaniaid, heb goffau y sarhadau a gawsai y Brytaniaid gynt gan Rosser ei dad ef, a Hu brawd ei dad. A hynny oedd guddiedig gan y Brytaniaid yn fyfyr. Cadwgan fab Bleddyn a Meredydd ei frawd oeddynt eto gyda'r iarll, heb wybod dim o hynny. Ac wedi clybot o'r iarll hynny, anobeithio a oruc, a thebygu nad oedd dim gallu ganto o achos myned lorwerth oddiwrtho, canys pennaf oedd hwnnw o'r Brytaniaid, a mwyaf ei allu; ac erchi cynghrair a orug fel y gallai, ai heddychu â'r brenin, ai gado y deyrnas o gwbl.

Yng nghyfrwng y pethau hynny yr aeth Ernwlff a'i wyr yn erbyn y wraig a'r llynges arfog a oedd yn dyfod yn borth iddo. Ac yn hynny y daeth Magnus frenin Germania eilwaith i Fon; ac wedi torri llawer o wŷdd defnydd, ymchwelyd i Fanaw drachefn. Ac yna, herwydd y dywedir, gwneuthur a orug tri chastell, a'u llenwi eilwaith o'i wyr ei hun, y rhai a ddiffeithiasai cyn na hynny. Ac erchi merch Mwrchath o'i fab, canys pennaf oedd hwnnw o'r Gwyddyl, a hynny a gafas yn llawen, a gosod a orug ef y mab hwnnw yn frenin ym Manaw. Ac yno y trigodd y gaeaf hwnnw. Ac wedi clybod o Robert iarll hynny, anfon cenhadau a orug ar Fagnus; ac ni chafas ddim o'r negesau.

Ac wedi gweled o'r iarll ei fod yn warchaedig o bob parth iddo, ceisio cennad a ffordd gan y brenin i adaw ei deyrnas. A'r brenin a'i caniataodd. Ac yntau, drwy adaw pob peth, a fordwyodd hyd yn Normandi. Ac yna yr anfones y brenin at Ernwlff, i erchi iddo un o'r ddeupeth, ai gadaw y deyrnas a myned yn ol ei frawd ai ynte a ddelei yn ei ewyllys ef. A phan gigleu Ernwlff hynny, dewisaf fu ganto fyned yn ol ei frawd. A rhoddi ei gastell a orug i'r brenin, a'r brenin a ddodes warcheidwaid ynddo.

Wedi hynny heddychu a orug Iorwerth â'i frodyr, a rhannu y cyfoeth rhyngddynt. Ac wedi ychydig o amser y delis Iorwerth Feredydd ei frawd, ac ei carcharodd yng ngharchar y brenin. A heddychu a wnaeth â Chadwgan ei frawd, a rhoddi Ceredigion a rhan o Bowys. Ac oddyna myned a wnaeth Iorwerth at y brenin, a thebygu i'r brenin gadw ei addewid wrtho. A'r brenin, heb gadw amod ag ef, a ddug o ganddo Ddyfed, ac a'i rhoddes i neb un farchog a elwid Saer; ac Ystrad Tywi a Chydweli a Gwyr a roddes i Hywel a Gronw. Ac y cyfrwng hwnnw y delit Gronw fab Rhys, a bu farw yn ei garchar.

1101. Wedi dyrchafel o Fagnus frenin Germania hwyliau ar ychydig o longau, diffeithio a orug derfynau Prydain. A phan welas y Prydeinwyr hynny, megis morgrugion o dyllau gogofâu y cyfodasant yn gadoedd i ymlid eu hanrhaith. A phan welsant y brenin ac ychydig o nifer gydag ef, cyrchu yn eofn a orugant, a gosod brwydyr yn ei erbyn. A 'phan welas y brenin hynny, cyweirio byddin a orug, heb edrych ar amlder ei elynion a bychaned ei nifer yntau, oherwydd moes yr Albanwyr, drwy goffhau ei aneirif fuddugoliaethau gynt, cyrchu a orug yn anghyfleus. Ac wedi gwneuthur y frwydr, a lladd llawer o boptu; yna, o gyfarsagedigaeth lluoedd ac amider niferoedd ei elynion, y llas y brenin.

Ac yna y gelwit Iorwerth fab Bleddyn i Amwythig drwy dwyll cyngor y brenín, ac y dosbarthwyd ei ddadleuoedd a'i negesau. A phan ddaeth of, yna yr ymchwel- odd yr holl ddadleu yn ei erbyn ef, ac ar hyd y dydd y dadleuwyd ag ef, ac yn y diwedd y barnwyd yn gamlyrus. Ac wedi hynuy ci barnwyd i garchar y brenin, nid oherwydd cyfraith, namyn oherwydd meddiant. Ac yna y pallodd eu holl obaith a'u cadernid a'u hiechyd a'u diddanwch i'r holl Frytaniaid.

1102. Bu farw Owen fab Edwin drwy hir glefyd. Ac yna ystores Ricart fab Baldwin gastell Rhyd y Gors, a gyrrwyd Hywel fab Gronw ymaith o'i gyfoeth, y gŵr a orchymynasai Henri frenin geidwadaeth Ystrad Tywi a Rhyd y Gors. Ac yntau a gynhullodd anrheithiau, drwy losgi tai, a diffeithio haeach yr holl wladoedd, a lladd llawer o'r Ffreinc a oeddynt yn ymchwelyd adref. Ac yntau a gychwynnodd y wlad o bobtu, ac a'i hachubodd, a'r castell a drigodd yn ddigyffro a'i warcheidwaid ynddo.

Ynghyfrwng hynny y gwrthladdodd Henri frenhin Saer, marchog o Benfro, ac y rhoddes geidwadaeth y castell a'i holl derfynau i Erald ystiward, yr hwn a oedd dan Ernwlff ystiward.

Y flwyddyn honno llas Hywel fab Gronw drwy dwyll gan y Ffreinc a oeddynt yn cadw Rhyd y Gors. Gwgawn fab Meurig, y gwr oedd yn meithrin mab i Hywel, a wnaeth ei frad fel hyn. Galw at wnaeth Gwgawn Hywel i dy a'i wahawdd, ac anfon i'r castell a galw y Ffreinc ato, a mynegi iddynt eu terfynedig le, ac aros amser yn y nos. Ac hwyntau a ddaethont amser plygain, a chylchynu y dref a'r ty yr oedd Hywel ynddo, a dodi gawr; ac ar yr awr y dihunodd Hywel yn ddilesg, a cheisio ei arfau, a dihuno ei gymdeithion. A'r cleddyf ar y daroedd iddo ei ddodi ar ben ei wely, a'i waew is y traed, a ddygasai Gadwgawn tra yr oedd yn cysgu. A Hywel a geisiodd ei gymdeithas wrth ymladd, a thebygu eu bod yn barod. Ac neur daroedd iddynt ffoi ar yr awr gyntaf o'r nos, ac yna y gorfu arno yntau ffoi. A Gwgawn a'i hymlidiodd yn graff, oni ddelis ef megis yr addewis. A phan ddaeth cymdeithion Cadwgawn ato, tagu Hywel a orugant, a’r tagedig yn farw haeach a ddygant at y Ffreinc. Ac hwyntau, wedi lladd ei ben, a ymchwelasan't i'r castell.

Yn y flwyddyn honno y gwelad seren enryfedd ei gwelediad, yn anfon paladr ohoni yn ol ei chefn, ac o braffter colofn ei maint, a dirfawr oleuad iddi, yn darogan yr hyn a fai rhag llaw. Canys Henri, amherawdwr Rhufain, wedi dirfawrion fuddugoliaethau, a chrefyddusaf fuchedd i Grist, a orffwysodd; a'i fab wedi yntau, wedi cael llawer o anrhydedd ac eisteddfa amherodraeth Rufain, a wnaethpwyd yn amherawdwr.

Ac yna yr anfones Henri frenin Lloegr farchogion i ddarostwng Normandi. A chyhwrdd a hwynt a wnaeth Robert iarll o Fethlem, ac wedi gorfod arnynt eu gyrru ar ffo. Ac wedi na rymeint ddim, anfon a orugant at y brenin i geisio nerth. Ac yna y brenin ei hun, gydag amlder o farchogion a dirfawr lu, a fordwyodd drwodd. Ac yna y cyhyrddod â'r iarll yn ddilesg; ac ef a’i gynhorthwywyr, ac yn gywarsangedig o dra lluosogrwydd, a gymerth ei ffo; a'i ymlid o'r brenin oni ddelis ef a'i wyr. Ac wedi eu dala, a'u hanfones i Loeger i eu carcharu; a holl Normandi a ddarestyngwys wrth ei feddiant ei hun.

Yn y flwyddyn honno y llas Meurig a Griffri, feibion Trahaearn fab Caradog. Ac Owen fab Cadwgan.

1103. Diengis Meredydd fab Bleddyn o'i garchar, a daeth i'w wlad. A bu farw Edward, fab y Moel Cwlwm; ac yn ei le ef y cynhelis Alexander ei frawd y deyrnas.

1104. Anfoned neb un genedl ddiadnabyddus, herwydd cenhedlaeth a moesau, ni wyddid pa le yr ymguddiasent yn yr ynys dalm o flynyddoedd, gan Henri frenin i wlad Dyfed. A'r genedl honno a achubodd holl gantref Rhos ger llaw aber yr afon a elwir Cleddyf, wedi eu gwrthladd o gwbl. A'r genedl honno, megis y dywedir, a hannoedd o Fflandrys eu gwlad, yr hon sydd osodedig yn nesaf ger llaw mor y Brytaniaid; o achos achub o'r môr a goresgyn eu gwlad, hyd oni ymchweled yr holl wlad ar anghysondeb, heb ddwyn dim ffrwyth, gwedi bwrw o lanw o'r môr dywod i'r tir. Ac yn y diwedd, gwedi na chelfynt le i breswylio, canys y môr a ddineuasai ar draws yr arfordiroedd, a'r mynyddoedd yn gyflawn o ddynion hyd na allai bawb breswylio yno o achos amlder y dynion a bychaned y tir,—y genedl honno a ddeisyfodd Henri frenin, ac a adolygasant iddo gaffael lle y preswylient ynddo. Ac anfoned hyd yn Rhos, trwy wrthladd oddiyno y priodolion giwdawdwyr, y rhai a gollasant eu priod wlad a’u lle er hynny. Ynghyfrwng hynny, Gerald ystiwart Penfro a rwndwaliodd gastell Cenarch Bychan, ac ansoddi a wnaeth yno, a llehau yno ei holl oludoedd, a’i wraig, a’i etifeddion, a’i holl anwylyd, a’i gadarnhau a wnaeth o glawdd a mur.

Nodiadau

golygu