Bugail Geifr Lorraine/Pennod II

Pennod I Bugail Geifr Lorraine

gan Émile Souvestre


wedi'i gyfieithu gan R Silyn Roberts
Pennod III


PENNOD II

Wedi cyrraedd Champagne, gwelai Remy ei fod yn agoshau at y maes brwydr lle y penderfynid tynged y deyrnas. Yr oedd y trefi i gyd yn cael eu hamddiffyn, y werin bobl yn gwylio'r pentrefi, a gwŷr arfog a saethyddion yn yrroedd ar hyd y ffyrdd. Hyd yn oed yn ymyl Vassy daeth ar draws parc o fagnelau, nifer o fagnelau bychain a dau wn mawr pedair troedfedd ar hugain o hyd; â'r rhain ymarferid saethu at fast llong wedi ei blannu ynghanol y Marne. Bwrgwyniaid oedd y rhai hyn, adran o garsiwn Troyes.

Wedi cyrraedd y fynachlog, rhaid oedd ei holi'n fanwl cyn ei dderbyn i mewn. O'r diwedd hysbyswyd y tad Cyrille, a daeth hwnnw ato i'r parlwr.

Llanwai'r tad Cyrille yn y fynachlog swyddau a ystyrrid yn anghydweddol â'i gilydd ym mhobman arall. Yr oedd yn ffysigwr, yn sêrddewin, yn llawfeddyg, a hefyd yn dipyn o witsiwr, yn ôl y mynachod mwyaf anwybodus. Daeth at Remy wedi gwregysu ei fantell, ei sbectol ar ei drwyn, ac yn ei law un o'r pibau gwydr a ddefnyddia fferyllwyr yn eu harbrofion.

Clywsai'r llanc siarad a sôn dychrynllyd am wyddoniaeth y tad Cyrille, a pharodd ei ymddangosiad hynod iddo sefyll yn fud o'i flaen.

"Wel, be 'di'r mater? Be' sy'n bod?" holai'r mynach yn frysiog a diamynedd. "Mi glywais fod ar rywun eisio siarad â mi."

"Y fi ydyw hwnnw, barchedig dad," murmurai Remy yn egwan ei lais.

"O, o'r goreu," atebai'r gŵr eglwysig a'i olygon yn troi at ei bib wydr. "Ac 'rwy'n deall eich bod chwi'n dod ar ran perthynas?"

"Oddiwrth Jérôme Pastouret."

"Y fo, aie . . . . cefnder . . . . dyn rhagorol; a sut y mae fy nghefnder Pastouret?"

"Y mae o wedi marw."

Cododd y mynach ei ben yn sydyn, a thynnodd ei sbectol.

"Wedi marw!" ebr ef; "Jérôme wedi marw?"

"Ers mis."

"O, o'r goreu," ebr Cyrille; dyna'r geiriau a arferai'n gyffredin yn wyneb pob croes a siom. "Ac o ba afiechyd?"

"Wn i ddim," atebai'r llanc, â'i lais yn crynu peth wrth yr atgof; "aeth i gysgu un noson dan gwyno bod poen yn ei ochr . . . . drannoeth yr oedd yn waeth . . . . y diwrnod wedyn galwodd fi a gyrrodd fi i gyrchu offeiriad."

"Am ddoctor y dylasai anfon," ebr Cyrille ar ei draws. . . . . "Am bob un o'r ddau, ddylaswn i ddweyd. . . . . Dolur yn ei ochr a pheswch a chaethder, y mae'n debig . . . . Phlebotomia est.[1] . . . . Oni wnaeth neb ddim?"

"Gwrandawodd yr offeiriad ei gyffes, fy nhad."

"O'r goreu," ebr y mynach mewn tôn ofidus . . . . "ac . . . . yna fe fu farw?"

"Yn y nos," atebai Remy, ar fin torri i wylo.

Y brawd Cyrille yn amneidio'n ysgornllyd.

"O'r goreu, o'r goreu," ebr ef dan gilio rai camau'n ôl yn y parlwr. "Dyna fel y mae hi, er i wyddoniaeth gynhyddu o ddydd i ddydd, rhaid i anwybodaeth y werinos gael gwneud y cwbl yn ofer. . . . . Servum pecus[2]. . . . . 'doedd dim ond eisio gwaedu'i fraich chwith o . . . . fel y gwaedir y bys bach rhag y clefyd ysbeidiol . . . . a'r trwyn rhag anhwylderau'r croen. Ar Jérôme ei hun y mae'r bai ei fod o wedi marw, ei fai o ei hun ac nid dim arall, ac mi fydd yn gyfrifol am hynny o flaen Duw."

Codasai ei lais, ond canfu ar unwaith drallod Remy, ac ymataliodd yn sydyn.

"O, o'r goreu," meddai'n dyner ac isel, " 'ran hynny, waeth heb siarad fel hyn bellach. . . . . Mab yr ymadawedig ydych chwi, y mae'n siwr?"

Amneidiodd y llanc mai felly yr oedd hi.

"A phwy a ddywedodd wrthych chwi am ddod i chwilio am danaf fi?"

"Fy nhad ei hunan," atebodd Remy, "wrth gychwyn at Dduw crefodd gan y gŵr eglwysig y gwnaethai ei gyffes iddo ysgrifennu ar femrwn, ac archodd i mi ddwyn hwnnw i chwi wedi iddo fo fynd."

"Ac 'rwyt ti wedi dyfod ag o i mi?"

Tynnodd Remy o'i ysgrepan rôl wedi ei chlymu'n ofalus a'i selio â chŵyr du, ac estynnodd hi i'r mynach. Torrodd yntau'r llinynnau, agorodd y rhôl, a darllenodd yn uchel fel hyn:

"Myfi, Jérôme Pastouret, magwr geifr yn Pierrefitte, yn fy nheimlo fy hun yn ymyl ymddangos gerbron Duw, a gredaf y dylwn ddatguddio dirgelwch, am y dichon i holl ddyfodol y plentyn a fegais dan yr enw Remy, ddibynnu arno."

Cododd y llanc ei ben wedi synnu.

"Tystiaf, gan hynny," darllenai'r mynach ymlaen, "o flaen Duw ac o flaen ei greaduriaid, i'r bachgen gael ei roddi i mi gan bennaeth sipsiwn a elwid y brenin Horsu, ac mai nid fy mab i ydyw."

Gwaeddodd Remy nes torri ar stori'r brawd Cyrille.

"Beth ydych chwi'n 'i ddweyd?" gofynnai'n grynedig.

"Ar f'enaid i! Dyna'n union beth sydd yma," ebr y mynach, gan ddangos y memrwn.

Cydiodd y llanc ynddo â'i ddwy law, edrychodd arno, ac ail ddarllenodd y geiriau, "nid fy mab i ydyw."

Ciliodd yn ôl a phlethodd ei ddwylo.

"A yw hyn yn bosibl?" murmurai, "a minnau'n credu mai y fo oedd fy nhad . . . . A phwy yw fy nheulu i, felly?"

"Gwrando," ebr Cyrille.

Yna aeth yntau ymlaen:

"Lladratasai'r brenin Horsu y plentyn ym Mharis er mwyn ei ysbeilio o'r gemau drudion a wisgai; ond ni allai roddi gwybod i mi pwy oedd ei rieni."

Symudodd Remy yn sydyn.

"Y cwbl a allwn i ei gael allan amdano," darllenai'r gŵr eglwysig, "oedd fod y lladrad wedi digwydd yng nghymdogaeth Notre Dame ar ddydd y Pentecost.

"Cyd ag y bum byw cuddiais y peth, am yr ofnwn i Remy beidio a'm caru wedi deall nad y fi oedd ei dad; heddyw rhaid i mi gyffesu'r cyfan i ysgafnhau fy nghydwybod.

"Ac wedi gweled fy mod yn rhy dlawd i ado dim i'r un a gerais fel fy mhlentyn fy hun, cyfeiriaf ef gyda'r dystiolaeth hon at Cyrille, fy nghefnder dysgedig, fel y byddo iddo ef ei gynorthwyo a'i gynghori."

Bu ennyd o ddistawrwydd wedi'r darllen. Rhag ei waethaf cawsai'r gŵr eglwysig ei gyffwrdd a chymerai arno besychu i guddio'i deimlad, a Remy, yntau, yn ei gyffro yn syllu ar y memrwn heb fedru torri gair. Ymgymysgai yn ei brofiad beth syndod, peth poen a pheth hiraeth. Yr oedd gweled nad oedd y bugail geifr a'i magasai yn dad iddo yn peri iddo deimlo fel ped fai yn ei golli am yr eildro; yna daeth i'w gof yn sydyn yr ofn y soniasai'r marw amdano, llifai 'i ddagrau'n rhydd, a llefai, fel pe bai Jérôme yn gallu ei glywed:

"Na, 'nhad Jérôme, 'faswn i ddim yn peidio a'ch caru chwi, am na pharodd Duw i mi gael fy ngeni'n fab i chwi; y gŵr a'm magodd i 'n blentyn bach, ac a chwiliodd am noddwr i mi wrth fy ngadael ar ôl, 'fedrai hwnnw lai na bod yn dad i mi."

Gwerthfawrogai'r mynach deimladau fel hyn, ond ymdrechodd, er hynny, dawelu cynnwrf meddwl y bachgen. Dywedodd ei fod yn derbyn rhodd gymyn ei gefnder ac y byddai iddo yn lle rhieni ac athro.

Wedi hynny aed â Remy o flaen y prior, a bu wiw gan hwnnw ei gadw yn y fynachlog ar yr amod ei fod yn cymryd mantell newyddian.

Dywedodd y brawd Cyrille ar y cychwyn y ceisiai chwilio a dod o hyd i deulu'r llanc a gymerasai dan ei adain; ond deallodd yn fuan fod hynny'n amhosibl: cwmnïau arfog yn dal y ffyrdd i gyd, a phob perthynas rhwng dinas a dinas wedi ei dorri; os medrai cenhadon y brenin, trwy fawr drafferth, gludo negeseuau o un dalaith i'r llall, eto fe gymerai iddynt fis neu well i fyned o Chinon, lle y cynhelid y llys, i Champagne neu Lorraine. Felly, rhaid fu gohirio'r ymchwil am deulu Remy hyd amser mwy cyfaddas.

Yn y cyfamser, y tad Cyrille yn ymroi ati i addysgu ei ddisgybl newydd.

Fel y crybwyllwyd eisys, casglasai mynach Vassy i'w benglog holl ddysg ei gyfnod, ond bod ei feddwl yn debig i lyfrgell heb iddi fynegai, lle nid oes trefn ar ddim. Yno ceid y gwybodau meddygol yn gymysg blith drafflith ag athrawiaethau sêr-ddewiniaeth. Dechreuodd addysgu Remy fel yr heuir y weirglodd, sef trwy gymysgu'r holl hadau. Darllen ac ysgrifennu oedd y cwbl a ddysgasai'r llanc; dododd yntau yn ei ddwylo gyda'i gilydd gryn ugain o wahanol draethodau: yr Athrawiaethau, Blodau Llenyddiaeth, Detholion, a Chywir Gelfyddyd Uchel Areithyddiaeth. Ar yr un pryd dysgodd iddo gynheddfau eneidegol a meddygol gwahanol sylweddau; dysgodd iddo fod yr amethyst, yn ôl rhai hen awduron, yn effeithio i ddifrifoli dynion a'r rhuddem i beri iddynt lawenhau; fod y saffir yn cadw dyn rhag colli ei dda tymhorol, a'r agat rhag brathiad seirff. Arferodd ef hefyd i ddistyllio sudd dail a wasanaetha i wella'r rhan fwyaf o'r anhwylderau. Eglurodd iddo yn yr un dull fod rhyw ŵr doeth wedi darganfod bod hylifau bywyd o'r un natur â'r ether yr ymsymud y sêr ynddo, ac mewn canlyniad y gallai'r uwch-fferyllwyr gasglu yn eu llestri gyflenwad o'r hylifau hyn i'w rhoddi i gleifion i'w hanadlu. Dangosodd iddo'n olaf ddylanwad y lleuad ar y corff dynol, a pherigl yr afiechydon a ddigwyddo ddechreu pan fo'r lloer yn myned dan arwydd y Gefeilliaid.

Cofiai Remy ran helaeth o'r gwersi hyn, oblegid meddai ddeall parod a sylwgar; ond yr oedd yn amlwg mai i gyfeiriad arall yr oedd ei chwaeth. Dihangai bob dydd o laboratori'r brawd Cyrille er mwyn cael cwmni yr arglwydd d'Hapcourt, gŵr na wyddai fawr am na llên na gwyddor, ond gŵr, fel yr arferai ymfalchïo, na faliai fotwm am un gelfyddyd, ond pennaf gelfyddyd y byd, sef celfyddyd rhyfel.

Derbyniasid yr arglwydd d'Hapcourt i urdd mynach lleyg ymhlith y mynachod, yn dlawd o foddion ac yn greithiau drosto wedi deugain mlynedd dan arfau. Mynachod Lleyg y gelwid hen filwyr digartref a dderbynnid i rai mynachlogydd, ac a gedwid heb ofyn oddiar eu llaw fwy na bod yn bresennol yng ngwasanaeth crefyddol y frawdoliaeth a dilyn y gorymdeithiau gyda'r cleddyf ar y glun. Hen ffustiwr enwog oedd mynach lleyg Vassy yn ei ddydd, a hyfrydwch iddo oedd datblygu greddfau milwrol Remy. Cyfrwyodd iddo ei farch oedrannus, arfogodd ef â phastwn a dorasid yn y llwyn cyfagos, a dysgodd iddo arfer hwnnw un ai fel gwayw, neu fel cleddau, neu fel bwyell ryfel. Wedyn gwnaeth ŵr traed ohono a dysgodd iddo sut i ymladd o'r pellter, yna yn ymyl, ac yna law-law. Mwyn i'r mynachod oedd gweled yr ymarferiadau hyn, a ddygai ar gof i lawer ohonynt flynyddoedd maboed; eithr ffromi a wnai'r tad Cyrille am golli cymaint o amser y gallesid ei roddi i astudio'r gwyddorau godidog.

"O'r goreu," ebr ef bob tro y daliai Remy yn cael gwersi gan y mynach lleyg; " 'roeddwn i wedi meddwl gwneud doethur ohono, ond fe'i gwna f'arglwydd d'Hapcourt o 'n filwr."

"Mae hyn yn lles i'w iechyd, fy mharchedig, ac yn help i'r treuliad," meddai'r hen foneddwr dan wenu.

Cododd y brawd Cyrille ei ysgwyddau ac atebodd yn sarrug:

"A fedrwch chwi ddweyd, tybed, beth yw'r treuliad, f'arglwydd? Y mae yna bedwar math: treuliad yr ystumog, treuliad yr iau, treuliad y gwythiennau, a threuliad yr aelodau, a pheth niweidiol i'r tri cyntaf yw ymarferiad. Ond 'rydach chwi'n byw heb wybod sut; y mae eich corff yn eich gwasanaethu heb i chwi wybod pa fodd, ignarus periculum adit.[3] Ewch ymlaen, f'arglwydd, ewch ymlaen, y mae gwyddoniaeth yn foneddiges o dras digon uchel i fod yn falch; ni fyn hi mo'r sawl a'i hesgeulusa."

Fodd bynnag, er gwaethaf grwgnach fel hyn, mynd yn hoffach beunydd o Remy yr oedd y mynach. Ac eithrio'i ymwneud â'r mynach lleyg, ni châi ynddo ddim bai. Meddai ysbryd uniawn, a dychymyg tanbaid ond wedi ei dymheru â chydwybod, a chalon agored i bob cymhelliad haelfrydig. At y teithi naturiol hyn rhoddasai addysg arw llafur a thlodi iddo feiddgarwch i fentro ac amynedd i ddyfalbarhau. Rhoddai ewyllys gref Remy iddo ymddiried ynddo'i hun. Gwylaidd a gostyngedig oedd gyda'r sawl a garai; ond balch ac anhyblyg o flaen pwy bynnag a fynnai ddiystyru ei hawliau; mewn gair, yr oedd iddo anian lawn ynni a thynerwch a weddai cystal i fywyd tawel ag i brofiadau celyd. Ac yr oedd y tad Cyrille hefyd wedi ei fabwysiadu yn ei galon. A chan na fedrai gychwyn yr ymchwil angenrheidiol i ddod o hyd i'w deulu, mynnodd o leiaf wybod ei ffortiwn.

Nid swyngyfaredd y cyfrifid sêr-ddewiniaeth yn y bymthegfed ganrif, ond gwyddor onest yn deilliaw o gosmograffi. Sylwid dan ba blaned y ganesid dyn, ac yn ôl perthynas y blaned honno ag arwydd y Sidydd y dibynnai arno—mewn undeb, mewn gwrthwynebiad, mewn pellter neilltuol, uwchlaw neu islaw—felly y darllenid dyfodol y sawl a lywodraethid ganddi. Ymhellach, delid bod perthynasau neilltuol rhwng deuddeg tŷ'r haul â rhannau arbennig o'r corff neu actau arbennig mewn bywyd. Wrth gymhwyso at y pethau hyn reolau rhifyddeg ceid gafael ar y wybodaeth angenrheidiol i ddweyd ffortiwn dyn â'r un sicrwydd ag y rhagfynegid ymddangosiad comed. Yr oedd yn y prif drefi, hefyd, ser-ddewiniaid trwyddedig yn arfer eu dawn yn gyhoeddus. Cyflogai'r brenhinoedd a'r pendefigion hwythau rai i'r un perwyl. Chwiliodd y brawd Cyrille dynghedfen Remy yn ofalus. Darganfu y byddai newid pwysig yn ei ffawd pan ddeuai'r lleuad i undeb â'r Pysgod, a bod arwydd y Forwyn ac arwydd Mawrth yn ffafriol iddo; ond bod ganddo le cryf i ofni arwydd y Tarw, ac y deuai awr braw ei fywyd ar ymddyrchafiad y blaned, hynny ydyw, pan fyddai uwchlaw'r Sidydd.

Nodiadau golygu

  1. nodyn8
  2. nodyn9
  3. nodyn10