Bugail Geifr Lorraine/Pennod IV

Pennod III Bugail Geifr Lorraine

gan Émile Souvestre


wedi'i gyfieithu gan R Silyn Roberts
Pennod V


PENNOD IV

Y flwyddyn 1428 oedd hi, cyfnod yr ymddangosai pob dryglam ynddo fel pe'n uno â'i gilydd i ddifetha Ffrainc. Yr oedd rhyfel, clefydau, newyn ac oerni, y naill ar ôl y llall, wedi degymu'r boblogaeth a diffeithio'r wlad. Gorfodid ein teithwyr i ymgadw rhag y trefi a oedd wedi cau eu pyrth, a chroesi'r wlad a oedd dan orchudd eira; yno cawsant y rhan fwyaf o'r pentrefi wedi eu gadael heb drigiannydd. Amlhai'r anawsterau bob cam gan arafu eu hymdaith o hyd. Rhaid oedd gochelyd y minteioedd Saeson neu Fwrgwyniaid a grwydrai'r wlad i anrheithio hynny a adewsid, y carnladron a gynllwyniai ar y croesffyrdd i ysbeilio teithwyr, yr heidiau o fleiddiaid a ddeuai hyd at amddiffynfeydd y trefi i ymosod ar y gwylwyr! Dedwydd hwy os deuent gyda'r nos ar draws rhyw furddyn, lle y gallent gynneu tân a chael cysgod. Ond i wneud hyn, rhaid oedd gadael y ffyrdd a threiddio i ddyfnderau'r nentydd a'r llwyni. Ym mhobman arall cadwai'r trigolion eu drysau yng nghau, heb feiddio na myned allan, na siarad, na goleuo'r aelwyd, am y byddai i fwg honno eu bradychu. Nid oedd na diadelloedd yn y meysydd, na gweddoedd, na chŵn hyd yn oed—lladdasai'r ysglyfwyr hwy am eu bod yn hysbysu eu dyfodiad.

Fodd bynnag, cerddai Remy a'i arweinydd ymlaen yn ddewr, gan ddioddef, heb gwyno, oerni, blinder a newyn. Wynebai'r llanc bob profedigaeth yn nerth ei obeithion, a'r mynach yn nerth ei wybodaeth wyddonol. Troai popeth iddo ef yn gyfle hyfforddiant neu astudiaeth. Os byddai'r ymborth yn brin, llefarai'n hir ar natur niweidiol y rhan fwyaf o fwydydd a manteision ymborthi'n ofalus; os byddai'r oerni'n fwy miniog nag arfer, mawr a fyddai ei lawenydd am iddo gael cyfle i wneuthur arbrofion ar ei effeithiau, pwnc, meddai, oedd hyd yn hyn heb hanner ei archwilio; os gwnâi blinder eu haelodau'n anystwyth, eglurai sut y digwyddai hynny, a rhoddai wers i'r llanc mewn difyniaeth yn ôl llyfr[1] Chauliac.

Un hwyrddydd cyraeddasant faesdref La Roche, a losgasid yn ddiweddar gan lu o filwyr. Cawsai'r holl drigolion nodded yn yr eglwys, yr unig adeilad a safai ar ei wadnau; ac yr oedd yn hanner llawn o'r dodrefn geirwon a gipiasid o'r goelcerth. Corlanesid rhai geifr yno hefyd. Ceisiodd y tad Cyrille a'i gyfaill loches yno am y nos.

Eisteddai'r wyth neu ddeg o deuluoedd a giliasai yno yn dyrrau o amgylch y tanau a gyneuasid ar y cerrig, a'r mwg, heb ffordd i fynd allan ond trwy'r ffenestri, wedi ymffurfio'n awyr dew fel mai prin y gallent weled ei gilydd trwyddo. Ond wedi canfod mantell y tad Cyrille, agorwyd y cylch i wneud lle i'r newydd ddyfodiaid.

Syn oedd gan y mynach weled nad oedd yno neb namyn gwragedd a phlant, ond rhoed ar ddeall iddo fod y gwŷr wedi mynd allan gyda'r erydr, a dynnent eu hunain yn niffyg ychen, i lafurio yn y nos; oblegid cymaint oedd anhrefn yr amser annedwydd hwnnw ag na feiddient ymddangos yn y dydd yn y meysydd a lafurient.

A chyda llaw, ni ellir synio dloted oedd y trueiniaid hyn. Gwisgai'r gwragedd grwyn heb eu cyweirio a rhyw garpiau o hen frethyn, a'r glaw a'r haul wedi peri i'w liw ddiflannu, a'r plant fatiau geirwon o wellt plethedig. Er hyn oll, cynygiasant i'r ddau deithiwr gyfran o'u swper prin—ychydig o laeth geifr a gwreiddiau wedi eu coginio yn y marwor. Eu hesgusawd dros fethu cynnyg cig oedd bod eu gwartheg a'u moch wedi eu lladrata gan y milwyr a losgasai'r faesdref. Ond maentumiai'r brawd Cyrille fod cig ych, yn ôl Galen,[2] yn peri rhwymedd, a chig moch yn achosi pruddglwyf; a dechreuodd roddi darlith faith wedi ei britho â Groeg a Lladin, i brofi bod pob afiechyd yn codi oddiar brinder neu ormodedd irnaws, mai ymborth llysieuol oedd y goreu at ddal y fantol yn wastad yn hyn o beth, ac am hynny yr unig un sy'n cytuno'n drwyadl â dyn.

Wedi tymheru fel hyn â geiriau doethineb brinder y wledd, yr oedd ar fedr gorwedd gyda Remy ar laesod o ddail a daenesid gyda'r mur pan glybuwyd trwst carnau meirch o flaen y porth. Cododd y gwragedd mewn dychryn, yn ofni mai rhyw haid o anturiaethwyr oedd yno; ond ni rifai'r marchogion oedd newydd ddisgyn oddiar eu meirch fwy na phump, a dymunai eu harweinydd wrth ddod i mewn heddwch Duw i'r gwragedd a redasai at y drws. Yna cerddodd ymlaen i'r gafell, penliniodd yn ddefosiynol a gweddïodd.

Yr oedd Remy ar ei lwybr, a methodd beidio a dangos arwydd o syndod, a chynhyddodd ei syndod wrth edrych arno'n codi.

"Tybed dy fod yn adnabod y gŵr ifanc hwn?" holai'r brawd Cyrille, wrth sylwi ar ei syndod.

"Goleued Duw fi os oes rhyw ledrith yn fy nhwyllo," atebai'r llanc; "ond dwg y gŵr i'm cof linell am linell wyneb y llances a fu'n estyn croeso i mi flwyddyn yn ôl yn Domremy."

"Pwy sy'n sôn am Domremy?" ebr y dyn dieithr, gan droi'n sydyn.

Ac wedi i'w lygaid ddisgyn ar ddisgybl Cyrille, ychwanegodd:

"Ar f'enaid i! Dyma'r bugail geifr y mynnai gwŷr Marcey ei ladd."

"Felly, nid wyf wedi camgymryd," meddai Remy, "Jeanne Romée yn wir ydych chwithau?"

"Ie, cyn wired ag mai fy mrawd Pierre yw hwn," ebr y llances, gan bwyntio at filwr ifanc oedd newydd nesu atynt. "A diolch i'r Meistr Mawr am osod ar fy ffordd wyneb a adwaen, ac un a ddwg i'm cof fy mhentref truan."

"Duw cato ni! Ers pa bryd y mae genethod y wlad yn teithio yn niwyg marchog, gyda'r cleddyf ar y glun?" holai'r brawd Cyrille mewn syndod.

"Peth pur anghyffredin ydyw hyn, fy mharchedig," atebai'r llances yn wylaidd; "ond deddf galed ydyw rhaid yr amseroedd."

"Ac i ble 'rydych chwi'n mynd?" holai'r mynach.

"At frenin Ffrainc, fy nhad, ar neges."

A'r brawd Cyrille ar fedr gofyn ychwaneg o gwestiynau iddi, dynesodd un o'r marchogion a ganlynai'r ferch ifanc, gŵr a ymddangosai wrth ei oed yn ogystal a'i wisg yn bwysicach na'r lleill.

"Byddwch yn fwy gofalus, Jeanne," ebr ef yn fywiog, "mwy na digon o beth yw bod neb eisys wedi'ch adnabod chwi; ac os ewch chwi i ddweyd eich bwriadau wrth bawb, fe gaeir y ffordd yn ein herbyn ni cyn wired a dim."

"Peidiwch a phoeni, Meistr Jean de Metz," atebai'r ferch ifanc yn dawel; "gallwn edrych ar y rhein fel Ffrancwyr da."

"Erfyniwch arnynt anghofio ddarfod iddynt gyfarfod â chwi, ac anghofio'r pethau a grybwyllasoch wrthynt, oblegid ar dewi y dibynna llwyddiant."

"Ar y Meistr Mawr yn unig y dibynna llwyddiant," ebe Jeanne yn dyner; "ond ymdawelwch, yr wyf fi'n sicr y bydd i'r parchedig a'r llanc ifanc dewi."

Sicrhâi Remy a'r mynach hwynt y byddai iddynt fod yn ddoeth.

"Yr wyf yn cyfrif ar hynny, wŷr da," atebai'r llances, "ac uwchlaw pob peth y bydd i chwi gofio am danaf yn eich gweddïau nos a bore; oblegid oddiwrth Dduw a'n saint gwarcheidiol y daw pob peth."

Gyda'r geiriau hyn ymgroesodd, ffarweliodd â'r ddau deithiwr, a chanlynodd Meistr Jean de Metz tua'r porth lle yr oedd eu meirch wedi eu clymu.

Yno bu'n aros am beth amser am ddychweliad amryw o gymdeithion a aethai i geisio ymborth. Cyrhaeddodd y rheiny o'r diwedd; ac wrth lewych y tân na buont yn hir yn ei gynneu adnabu'r brawd Cyrille yn eu plith Exaudi Nos.

Tynnodd Remy yn sydyn i'r rhan dywyllaf o'r eglwys, a'i gynghori i beidio a gadael i'r saethydd ei weled; oblegid ar ôl y digwyddiad yn y fynachlog, amhosibl fuasai iddo fethu dyfalu amcan eu taith; ac er mwyn ymguddio'n well, aeth y ddau i gysgu ar y dail.

Wedi gorffen eu pryd bwyd, gorweddodd Jeanne a'i chymdeithion ar dipyn o wellt yn agos i lestr maen y dwfr santaidd. Dau yn unig a arhosodd yn effro—Exaudi Nos a marchog arall a wisgai ddiwyg cennad y brenin.

Wedi dwyn y meirch i mewn i'r eglwys er mwyn cael cysgod iddynt rhag y bleiddiaid y clywid eu hoernadau yn y nos, cerddasant tua'r gafell ac eisteddasant wrth y tanllwyth olaf a ddangosai dipyn o lewych. Yr oeddynt, felly, o fewn ychydig droedfeddi i'r tad Cyrille a'i ddisgybl.

Diau y meddai'r ddau eu rhesymau tros gilio oddiwrth eu cymdeithion, oblegid ymddiddanent yn hir, yn fywiog, ac mewn llais isel, a digwyddai enw Jeanne yn barhaus yn eu trafodaeth ddirgel. Ond yn sydyn torrwyd ar eu sgwrs a rhedodd ias o gryndod trostynt.

"A glywaist ti rywbeth yn symud y tu ôl i ti?" gofynnai Exaudi Nos.

"Do," ebr y cennad gan droi.

"Y mae yna rywun yn y fan yna ar y llaesod dail."

"Mynach sydd yna'n cysgu."

"A oes rhywun gydag o?"

"Nac oes, neb."

Bodlonwyd y saethydd; ail gychwynnwyd yr ymgom, a pharhaodd eto beth amser; yna aeth y ddau i gysgu oddeutu'r lludw tân a ddiffoddasai.

Ond cyn dydd, clywid llais Jeanne; deffro ei chymdeithion yr oedd.

"Dowch, Meistr Jean de Metz, Meistr Bertrand de Poulengy," ebr hi, "y mae hi'n amser i ail osod y troed yn yr wrthafl i fynd lle yr enfyn Duw ni."

Ymysgydwodd y boneddigion oddiwrth weddill eu cwsg a chyfodasant. Wedi i'r llances offrymu gweddi mewn llais uchel, cyfrwywyd y meirch ac arweiniwyd hwy allan dan y porth, lle y neidiodd pawb i'w gyfrwy.

Dechreuai'r wawr dorri erbyn hyn, a chanfu Jeanne fod y cennad ac Exaudi Nos yn cadw yn agos ati; aeth trosti ias fel pedfai'r olwg arnynt wedi deffro ynddi'n sydyn gof am rywbeth; galwodd ati Jean de Metz.

"A wyddoch chwi, Meistr," gofynnai, "paham y mae'r ddau ddyhiryn hyn yn eu gosod eu hunain, y naill ar y llaw ddehau, a'r llall ar yr aswy, i mi?"

"Paham hefyd, ond i'ch gwasanaethu fel arweinwyr," atebai'r gŵr bonheddig.

"Yn union fel y dywedwch," atebai Jeanne. "Ond gadawer i ni wybod i ble y dymunen' nhwy f'arwain i."

"At y brenin, yn ddiddadl."

"Y chwi sy'n ateb yn eu lle nhwy; ond y mae i mi syniad arall; a chan na fynnan' nhwy siarad, fe siaradaf fi trostynt."

"Trosom ni!" meddai'r ddau ddyn mewn syndod. "Yn fuan fe ddown ar draws afon," ebr Jeanne.

Y cennad a'r saethydd yn cyffroi.

"Ar yr afon hon y mae pont heb ganllaw arni."

Y ddau erbyn hyn yn crynu.

"Fe gydia'r ddau ddyn hyn yn afwyn fy march dan esgus ei arwain . . . ."

Y ddau'n awr yn gwelwi.

"A phan fyddwn yn y canol, fe'm gwthiant trosodd i'r lle dyfnaf yn yr afon. Onid felly y cytunasoch i gael gwared o'r un sy'n eich arwain, meddwch chwi, i'r fath beryglon mawrion?"

Plethodd Exaudi Nos a'i gydymaith eu dwylo mewn dychryn.

"Trugaredd, trugaredd, y forwyn Jeanne," llefent dan grynu.

"Myn y nefoedd! os gwir hyn, rhaid crogi'r ddau ddyhiryn ar y goeden agosaf!" gwaeddai Bertrand de Poulengy, gan yrru ei farch yn chwyrn tuagat y saethydd a'i gydfradwr.

Ond ag amnaid parodd Jeanne iddo sefyll.

"Arhoswch," ebr hi, "cred y ddau hyn mai dewines wyf; ond fe lwyr brofaf iddynt mai oddiwrth y Meistr Mawr y daw fy nerth ac nid o ddiafol. Am y tro hwn nid oes gennym ddim i'w ofni, oblegid cristion a'm rhybuddiodd o'u drygioni. Gadewch iddynt gan hynny ein dilyn heb drafferthu ychwaneg arnoch, a thrwy ewyllys y gwir Dduw ni wnânt i ni un niwed."

Gyda'r geiriau hyn cododd afwyn ei march ac ymadawodd gyda'r holl fintai.

Wedi iddi fynd o'r golwg daeth Remy allan o'r gloer lle yr ymguddiasai, ac o'r lle y llwyddasai i weled canlyniad y rhybudd a roddasai i Jeanne. Oedodd dan y porth cyhyd ag y gwelai ei march gwyn hi yn y nos; wedi hynny aeth yn ôl i'r eglwys i ddeffro'r brawd Cyrille ac i ail gychwyn ar ei daith gydag ef.

Nodiadau golygu

  1. nodyn17
  2. nodyn18