Bugail Geifr Lorraine/Pennod V

Pennod IV Bugail Geifr Lorraine

gan Émile Souvestre


wedi'i gyfieithu gan R Silyn Roberts
Pennod VI


PENNOD V

Fel y dynesai'r ddau deithiwr at gyffiniau'r tir lle y maentumid awdurdod Ffrainc, âi'r wlad yn fwyfwy diffaith a llwyr ballai'r swcwr egwan a gawsent hyd yn hyn. Wedi blino'n codi tai a losgid yn barhaus, ac yn hau cnydau a dorrid yn las, ffoesai'r boblogaeth, a hynny mor llwyr nes bod pobman yn anghyfannedd. Gorfyddai ar Cyrille a Remy grwydro ymhell o'u llwybr er mwyn mynd heibio i'r trefi y gellid cael rhywfaint o luniaeth ynddynt; ond heblaw bod eu taith fel hyn yn mynd yn hwy, yr oedd cyfarfod â chwmnïau arfog a grwydrai trwy'r tir yn eu dwyn i wyneb mil o beryglon.

Pa un bynnag a fyddent, ai Ffrancod, ai Bwrgwyniaid, ai Saeson, gellid eu hystyried i gyd yn elynion i bawb oedd yn rhy wan i'w gwrthsefyll. Daliwyd ein dau deithiwr amryw droeon, a gorfu arnynt dalu am eu rhyddid cyn belled ag y caniatâi eu tlodi iddynt wneuthur hynny. Ond pan ddeuthant i Tonnere, digwyddodd iddynt beth oedd waeth: un ai fel esgus, neu mewn camgymeriad, daliwyd hwy fel ysbïwyr, a bwriwyd y ddau i garchar.

Yn ofer yr erfyniai'r mynach am gael ymddiddan â'r llywodraethwr; aeth llawer o ddyddiau heibio cyn iddo lwyddo i gael hynny. Carcharesid hwy mewn rhyw neuadd isel, yng nghwmni Iddewon, dyhirod bryntion a lladron plant. Unig uchelgais y rheiny oedd medru eu hanghofio'u hunain hyd nes i siawns roddi iddynt gyfle i ddianc. Yn ôl arfer yr adeg honno, ni ddarperid yn y carchardai fwy nag un gwely ar gyfair pob tri charcharor. Ar y dechreu, yr un a gysgai gyda hwy a'u cynghorai i ddisgwyl am gyfle ffodus; ond wrth weled nad oeddynt yn bodloni i hynny, dywedodd wrthynt yn y diwedd:

"Myn Lazarus Sant! am fyrred eich amynedd mi ddangosaf i chwi ffordd a'ch dwg o flaen y llywodraethwr yn ddioed; ond fe olyga hynny ddioddef ychydig ddyddiau o newyn a chysgu ar y ddaear."

"Pa wahaniaeth, cyd ag y galluogo hynny ni i brofi ein diniweidrwydd?" atebai Cyrille.

"Wel ynte," ebr y carcharor, "o heddyw ymlaen gwrthodwch dalu wyth geiniog ardreth y carchar; cewch fynd wedyn at y rhai sy'n cysgu yn y gwellt ar y llawr; ac am na fyddwch mwyach o ddim elw i'ch ceidwad, fe ofala ef am fynd â chwi ar eich union o flaen yr arglwydd lywodraethwr."

Cymerodd Cyrille y cyngor, a digwyddodd y peth a ragwelsai'r crwydryn. Am na châi ceidwad y carchar oddiwrthynt mwyach ddim ond y drafferth o'u gwylio, arweiniwyd y mynach a Remy yn fuan o flaen y llywodraethwr i'w holi.

Cawsant hwnnw yn eistedd wrth fwrdd llawn o gwpanau a llestri piwtar. Gŵr oedd ef oddeutu deugain oed, dipyn yn dew, ond a'i bryd wedi melynnu yn yr haul a'r gogleddwynt. Talcen isel oedd iddo, a threm falch, a'r math hwnnw ar wefusau teneuon sy'n awgrymu cybydd-dod a dideimladrwydd.

Ar y pryd yr ymddangosodd y ddau garcharor, daliai tuag at ei yswain gwpan mawr euraid.

"Tywallt," ebr ef, "yr Iddewon sy'n talu am y gwirod bendigaid."

"Ar yr amod y telir y pris amdano iddynt ar ei ganfed," sylwai un o'r gwesteion.

"Yn siwr, y mae'n gywilydd o beth fod holl aur y bendefigaeth yn mynd i gyfoethogi'r giwed aflan yma," ebr un arall, "y mae'u pyrsau hwy'n llawnion o'n haddewidion a'n biliau ni."

"Heb sôn eu bod yn meiddio bygwth rhoi cyfraith arnom," meddai trydydd gŵr.

"Beth ydych chwi'n siarad?" atebai'r llywodraethwr, "onid ysgrifenson nhwy at y brenin er mwyn iddo wneud i mi dalu 'nyledion?"

"F'arglwydd, oni wnewch chwi'n hachub ni rhag y bleiddiaid rheibus hyn?"

Amnaid a thrawiad amrant gan y gŵr tew.

"Cymerwch dipyn o bwyll," ebr ef, "fe ddyfeisir moddion i beri iddyn nhwy'ch gollwng chwi'n rhydd o bob dyled, a hynny cyn bo hir. Fy nghyngor i ydyw bod i ni yfed beunydd yn wrol, heb boeni am ddim arall ar hyn o bryd."

Parasai lenwi ei gwpan o'r newydd, a dechreuasai ei gwacâu pan ddaeth y brawd Cyrille a Remy o'i flaen. Ymataliodd ar ganol ei ddiod offrwm.

"Wel, beth sydd?" meddai, "o ble daeth yr offeiriedyn a'r gwalch ifanc?"

Yna, fel pe bai wedi cofio'n sydyn:

"O ie, mi wn," âi ymlaen, "rhai o ysbïwyr Bedford eto? Rhaid iddynt dalu pridwerth, myn gwaed Duw! Boed iddynt dalu pridwerth neu croger hwy."

"O'r goreu," ebr y mynach yn benderfynol, "ond nid yw yr un ohonom ni wedi haeddu na'i brynu na'i grogi; nid cenhadon Bedford mohonom, ond Ffrancwyr cywir."

"Ho, mi 'rwyt ti am fy ngwneud i 'n gelwyddog, a wyt ti?" meddai'r llywodraethwr, a bwrw trem groes ar y mynach. "Gwaed Duw! Hwyrach dy fod di'n credu bod arna i ofn d abid di?"

"Yr wyf yn credu y bydd iddi sicrhau i mi barch," ebr Cyrille yn eofn, "oblegid lifrai gwas Duw ydyw hi."

"Myn y nef! Ni'm dawr pa un ai Duw ai diawl a'i piau," gwaeddai ei arglwyddiaeth. "Pwy wyt ti? O ble 'rwyt ti'n dod? Beth wyt ti'n ei geisio yma? Ateb yn awr ar d'union, neu ynte mi wna' i ti a dy gyw grogi ar un o'r coed yn y buarth, cyn wired a mod i 'n fy ngalw fy hun yr arglwydd de Flavi."

Remy a'r tad Cyrille bron neidio wrth glywed yr enw hwn.

"De Flavi!" gwaeddai'r ddau gyda'i gilydd.

Edrychodd y llywodraethwr ym myw eu llygaid.

"Wel?" ebr ef.

"Cefnder yr arglwyddes de Varennes!" meddai'r mynach.

"Beth wedyn?" gofynnai de Flavi, a chraffu mwy.

Agorodd y tad Cyrille ei enau ar fedr llefaru, ond tawodd a sôn; yn unig troes ei lygaid yn ddiarwybod iddo'i hun oddiar y llywodraethwr at Remy.

Yr oedd yntau eisys wedi ei feddiannu ei hun.

"Beth ydyw ystyr y syndod yma wrth glywed f'enw i?" gwaeddai de Flavi, "a pham y soniwch chwi wrthyf fi am yr arglwyddes de Varennes? Ar f'enaid i, y mae'n y fan 'ma ryw driciau cythraul. Dowch yma, barchedig, ac os ydych chwi'n prisio cynnwys eich cwcwll, atebwch heb oedi ychwaneg."

Wrth lefaru'r geiriau hyn, trawodd llywodraethwr Tonnerre ei gwpan ar y bwrdd. Yr oedd Cyrille ar fedr ei ateb, ond crynodd a safodd yn sydyn—yr oedd newydd ganfod y tarw cerfiedig a ffurfiai glust y cwpan euraid.

Daeth tynghedfen Remy ar unwaith i'w gof; a'r darogan drwg a berthynai i arwydd y Tarw, ac nid amheuai fod y perigl hwnnw wedi eu goddiweddyd.

Synnwyd a chythruddwyd de Flavi gan ei ddistawrwydd sydyn, a dechreuodd ail ofyn ei gwestiynau yn wyllt; ond llwyr benderfynasai'r mynach wrthod iddo un eglurhad. Yr unig ateb a roddodd oedd ei fod yn mynd i Touraine, trwy ganiatad ei brior, ar fusnes olyniaeth; ac ni fedrodd ymdrechion de Flavi dynnu dim pellach na hynny ohono. Wedi llwyr golli ei amynedd, parodd ddwyn y teithwyr yn ôl i garchar er mwyn eu crogi drannoeth fel ysbïwyr collfarnedig.

Ar y cyntaf fel bygythiad y cymerai'r tad Cyrille y gorchymyn hwn; ond cryfhaodd ei anesmwythder pan glôdd y ceidwad hwy ar eu dychweliad mewn celloedd ar wahan. Gofynnodd am gael siarad drachefn â'r llywodraethwr, ond atebwyd ef fod hwnnw newydd adael Tonnerre yn arwain cwmni arfog, a'i fod i gyniwair y wlad gyda'r rheiny am lawer o ddyddiau. Megis rhwng cromfachau, ychwanegodd ceidwad y carchar fod y meistr Richard, un o saethyddion yr arglwydd de Flavi, wedi cael gorchymyn i beidio ag anghofio'r carcharorion, ac y byddai yno gyda chyffesydd ar doriad y dydd.

O hyn allan nid oedd lle i amheuaeth; credasai'r tad Cyrille mai peth doeth oedd celu'r gwir, ac yr oedd y distawrwydd hwnnw wedi costio iddo golli ei fywyd ei hun yn ogystal â bywyd Remy.

Dygai'r meddwl hwn fath ar syfrdandod arno. Iddo'i hun gallasai heb ormod tristwch dderbyn yr ergyd annisgwyliadwy hon. Trwy gydol y trychinebau a fuasai ers cynifer o flynyddoedd yn blino Ffrainc, rhedasai cymaint o waed nes cynefino pawb â'r syniad o farw dan orthrech. Wrth arfer gweled ei gyfeillion yn cwympo cynefinai dyn â disgwyl ei farwolaeth ei hun; ond sut y gallai fodloni ar hyn yn gyfran i'r plentyn a gymerasai dan ei adain, y plentyn y rhagwelsai iddo dynged hir a dedwydd. Ni allai'r brawd Cyrille ddygymod â'r syniad o fedi cymaint o obeithion yn eu blodau; ffyrnigai a chwynai bob yn ail. Gweddïai ar Dduw gydag angerddoldeb, neu ail âi dros y ffortiwn a gyfrifasai i Remy; a phara'n elyniaethus yr oedd y Tarw, a Mawrth a'r Forwyn yn para i addo eu dylanwad ffafriol. Ond, er ei waethaf, petruso rhwng gobaith ac ofn yr oedd y brawd Cyrille, a'r ofn yn cynhyddu o eiliad i eiliad.

Aethai rhan o'r nos heibio eisys; dynesai awr eu dienyddiad; ymddangosai pob siawns am waredigaeth wedi colli. Yn sydyn dyma oleu coch yn ymddisgleirio oddiallan; llewychai'n gryfach, cynhyddai, codai cymloedd anferth: tân, tân! Goleuid y muriau gan ei ddisgleirdeb tanbaid. Clywid y fflamau'n rhuo a'r trawstiau'n clecian. Rhedodd y ceidwaid i agor pyrth y celloedd dan lefain bod y tân yn adran yr Iddewon, y tu ôl i'r carchar. Y mynach yn neidio i'r mynedfeydd culion ac yn galw Remy; llais yn ei ateb wrth ei enw; y naill yn chwilio am y llall ac yn cyfarfod wrth fynedfa'r buarth nesaf i mewn; drws hwnnw'n agored, a hwythau'n rhuthro trwyddo ac yn croesi buarth arall, yn neidio i'r heol, ac yn rhedeg ymlaen gan afael yn nwylo'i gilydd.

Ond tuag at y goelcerth yr arweiniai eu llwybr hwynt; cilgwthid hwy, i ddechreu, gan yr anffodusion a ffoai'n llwythog o'r pethau y llwyddasent i'w cipio o'r fflamau, ac wedyn gan filwyr yr arglwydd de Flavi yn erlid y rheiny i'w hysbeilio. Cofiodd y tad Cyrille yr adeg honno fygythiad y llywodraethwr, a deallodd achos y trychineb. Ond dyma gawod o ludw a phentewynion llosg yn ei orfodi i droi'n ôl; yntau'n dod o hyd i heol gul, unig, yn rhuthro iddi gyda Remy, a'r ddau yn cyrraedd y wlad ar hyd honno. Ond ni safasant nes dod i gwr llwyn tew a sicrhai iddynt nodded. Yn y fan honno, "Dyna ddigon," ebr y mynach, ar golli'i wynt; tremiodd y tu ôl, i fod yn siwr nad oedd neb yn eu herlid; yna troes at Remy.

"Ha, dyma Dduw newydd wneud gwyrth er ein mwyn ni," meddai.

"Fy nhad!" ebr yntau yng nghyffro llawenydd.

"Bendigedig fyddo Ef am dy achub," meddai'r mynach, gan ymgroesi ag angerdd diolchgarwch yn gwisgo'i wyneb. "I'r milwyr a roddodd yr heol ar dân er mwyn i'r goelcerth ryddhau eu swyddogion oddiwrth eu dyledion yr ydym i ddiolch am y ffawd hon. Ond 'ran hynny 'roedd y ffortiwn wedi ei ragddwedyd: Mawrth yn ein hamddiffyn . . . . ond rhaid peidio ag anghofio eto fod y Tarw bob amser yn ein herbyn!"

Ail gychwynasant ar eu taith ar draws y llwyn, a dilyn yr afon Serein[1] nes dod at ryd; oddiyno cyfeiriasant at yr afon Cure.[2] Cerddasant trwy gydol y nos honno ac am ran o'r diwrnod wedyn; o'r diwedd, yn agos i Vermanton, gorfu arnynt aros gan faint eu blinder.

Curasant wrth ddrws tŷ golygus a godasid yn y coed,—tŷ coediwr fel y tybient. Ond diwyg y dosbarth canol a wisgai'r wraig a ddaeth i agor y drws. Edrychodd arnynt ar y cyntaf trwy ragddor rwyllog; holodd beth oedd eu neges, a diweddodd trwy agor â pheth petruster.

Wrth fyned i mewn sylwodd y tad Cyrille a'i gydymaith ar fwrdd ac arno arfau gwaith a darnau o esgyrn. Ond brysiodd y wreigdda i'w harwain i ystafell arall lle y gosododd gadeiriau iddynt o amgylch bwrdd, a rhoddi ar hwnnw y rheidiau i dorri'u newyn.

A hwythau bron llewygu o newyn, bwyta ac yfed heb dorri gair a wnâi'r ddau deithiwr ar y cyntaf. Ond o'r diwedd, wedi cael digon, cyfarchodd y tad Cyrille y wraig, a eisteddai wrth y tân yn eu gwylio'n ddistaw yn ciniawa.

"Fe esgusodwch ein distawrwydd, fy merch," ebr ef, yn y dull mwyn, cartrefol, a ganiateid i'w swydd a'i oed; "ond yr ysgwrs oreu yng ngolwg y lletygar ydyw sŵn cyllell a llwy y gwesteion. Fe dâl Duw i chwi am a wnaethoch heddyw i deithwyr truain."

Ymgroesodd gwraig y tŷ ac ochneidiodd.

"O na wrandawai Efe arnoch, fy mharchedig," hi furmurai, "o achos y mae o 'n ymweled yn drwm ar bawb am feiau'r ychydig."

"Och fi, 'rydych chwi'n iawn," atebai'r tad Cyrille yn dyner; "dyma'r deyrnas wedi ei thraddodi i ddwy genedl a dau dywysog heb alwedigaeth arall ond dinistrio'i gilydd; hefyd, ni fedr neb ddweyd pa bryd y derfydd ein gofidiau oni bydd i'r Drindod ei hun ofalu am danom."

"Hwyrach fod yr amser i drugarhau wedi dod," sylwai'r wraig, "canys y mae yna Judith arall eto newydd godi i gadw'r brenin Siarl."

"Judith arall!" meddai'r mynach mewn syndod.

"Wyddoch chwi mo hynny?" holai ei gyd ymgomiwr; "ym mis Chwefror cyrhaeddodd merch i Chinon a ddywedai ei bod wedi'i hanfon gan Dduw. Wedi peri ei harholi gan esgobion a chan brifysgol Poitiers gosododd Siarl hi i arwain atgyfnerthion oedd yn mynd i Orleans, ac y mae hi wedi codi gwarchae'r Saeson."

"A ydyw hyn yn bosibl?" ebr Remy ar ei thraws.

"Mor bosibl a'i bod hi ei hun yn Loches, lle y mae'r brenin ar hyn o bryd."

"Yn enw Crist! rhowch i ni fynd i Loches, fy nhad," gwaeddai'r llanc a chodi ar ei draed; "yno y mae'n rhaid i ni fynd."

Cyfeiriodd y wreigdda at beryglon y ffordd oedd yn llawn o finteioedd Seisnig, a'r rheiny oddiar eu gorchfygiad yn Orleans nid arbedent neb. Ond ateb y tad Cyrille iddi oedd na byddai i'r Duw a'u cadwasai ers tri mis eu gadael yn awr. Wrth hynny hithau a fynnai lenwi'r ysgrepan a gariai'r llanc â lluniaeth, a thrwodd â hi i'r ystafell nesaf i lenwi ei gostrel groen. Ond a hi'n cyfeirio am y seler dyma gnocio mawr ar y drws oddiallan a galw arni hithau wrth ei henw.

"Duw cato ni, dyma Nicolle," gwaeddai hithau.

"Ie, wraig," atebai'r llais, "agor mewn munud, 'rydw'i ar farw o eisio diod a bwyd."

Rhedodd hithau i agor, ac wele ar yr hiniog ŵr melyn ei groen a llawen ei wyneb. Gwisgai fantell pererin a chrogai wrth ei wddf un o'r blychau bychain rhwyllog a ddefnyddid i gludo creiriau i'w gwerthu.

"Iesu Dduw! Y chwi sydd yma mewn difri?" ebr y wraig mewn syndod.

" 'Doeddit ti ddim yn fy nisgwyl i mor fuan," ebr y newydd ddyfodiad; "ond er pan yrrodd Jeanne y Forwyn y Saeson ar ffo ymhobman, y mae'r rheiny wedi troi'n dduwiol, a chyn gynted ag y gwelont fy mantell bererin i, rhedant i brynu creiriau i'w cadw rhag dryglam; felly wedi gwerthu'r cwbl mewn ychydig ddyddiau dyma fi wedi dod yn ôl i atgyflenwi fy mhecyn miraglau."

"Ust, yn îs, druan!" meddai'r wraig ddychrynedig ar ei draws, "y mae yma lanc a mynach."

"Ho, go-dem!"

"Yn enw Duw, tafl y fantell yna mewn munud . . . ."

"Ni waeth iddo fo heb, ddim," meddai'r tad Cyrille, wedi dywed y cwbl o'r ystafell nesaf ac yn dod ymlaen yn awr ag wyneb llym, llidiog.

Ciliodd y wraig yn ôl dan ochneidio. Ond am y pererin, wedi'r syndod cyntaf, edrychai fel pe bai wedi penderfynu dal ei dir.

"Myn y nef, fy mharchedig, fe fyddwch chwithau'n gwrando cyffes pobol heb iddyn nhwy'ch ameu chwi," ebr ef yn ysgafn a digywilydd.

"Taw, gablwr aflan," llefai'r mynach a'i ddigofaint wedi diffodd ei oddefgarwch arferol; "bererin gau, annuwiol luniwr celwyddau crefyddol, a elli di anghofio'r poenau tragwyddol sy'n siwr o gosbi dy dwyll yn y byd arall?"

"Gwell o lawer gennyf gofio'r elw a wobrwya fy mhoen yn y byd hwn," atebai Nicolle yn eofn. "Myn yr holl ddiawliaid, fy mharchedig, nid gweddus i chwi fy ngheryddu i am fyw ar ffwlbri twyll, ac onestrwydd yn peri i chwithau farw o newyn. Fe fum yn glerc twrne, ac wedi hynny yn ganwr yng nghôr y plwyf, a siwt salw o frethyn eilban a wisgwn, a chaws geifr a bara haidd a gwellt ynddo a fwytawn; ceisiais agor siop groser yn Auxerre, lladrataodd y milwyr y nwyddau a anfonasid i mi, a bu raid crogi baniar ar y gongl.[3] Wedi methu byw ar fy llafur penderfynais fyw ar f'ystrywiau; nid arnaf fi y mae'r bai, ond ar y sawl a orfu arnaf."

"Och fi, dyna'r gwir," cadarnhâi'r wraig; yr oedd galwedigaeth y pererin gau yn amlwg yn deffro peth poen cydwybod ynddi hi, ond dymunai er hynny ei esgusodi o flaen y mynach. "Ni ddewisodd Nicolle ei grefft, ac os gellir ei feio am yr arian a ennill, fe ŵyr o leiaf sut i neilltuo cyfran at weithredoedd da."

"A'r praw o hynny," ychwanegai'r pererin gan wthio'i law i'w bwrs a thynnu allan ohono amryw ddarnau o arian, "yw fy mod yn erfyn ar y parchedig am iddo beidio a'm hanghofio yn ei weddïau."

Gwrthododd y mynach yr arian.

"Vade retro!"[4] meddai, a chodi'i lef, "arian y diawl ydyw'r rhain! Ni fynna i ddim oddiar law bradychwr Duw. Vade retro!"

"'Dydych chwi ddim yn llawn mor gydwybodol ynghylch bwyd," meddai Nicolle, wedi ei frifo, â'i lygaid ar yr ysgrepan a gariai Remy.

Cydiodd y tad Cyrille yn honno'n ffyrnig.

"Ha, o'r goreu," gwaeddai, " 'roeddwn i wedi anghofio hon, a da y gwnaethoch yn ei dwyn ar gof i mi. Pe gorfyddai arnaf farw o newyn noeth, ni chaiff neb ddwedyd ddarfod i mi gyfranogi o fara anwiredd. Cymerwch eich elusen yn ôl ac arhosed ar siars eich enaid."

Wedi gwacâu'r sach, trodd hi am un o'i freichiau; yna cydiodd yn y ffon gelyn a safai wrth y porth a cherddodd allan gyda Remy heb oedi'n hwy.

Nodiadau

golygu
  1. nodyn19
  2. nodyn19
  3. nodyn20
  4. nodyn21