Bydd gweld gogoniant Iesu

Ymado wnaf â'r babell Bydd gweld gogoniant Iesu

gan Robert Owen (Eryron Gwyllt Walia)

Bydd canu yn y nefoedd

671[1] Gweld Iesu yn y Nefoedd
76. 76. D.

1 BYDD gweld gogoniant Iesu,
A chofio'r mannau bu,
Yn ennyn cân o newydd.
Trwy'r holl nefolaidd lu ;
Ei weld, a chofio Bethlem,
A'i eni yno'n dlawd—
Rhyfeddod nef y nefoedd
Fydd gweled Duw mewn cnawd.

2 Ei weld, a chofio'r cwpan
Yn Gethsemane ardd;
Ei gofio'n dod o Edom
Oll yn ei wisg yn hardd;
Ei weld, a'i holl elynion
Yn droedfainc dan ei draed;
Ei weld, a chofio'n golchi
O'n beiau yn ei waed.


3 Ei weld, a chofio'r gofyn
Yn y fechnïaeth fawr,
Wrth fynd i'r ddeddf yn ddiwedd,
Rhoi'i fywyd glân i lawr;
Pa fodd na bydd yr olwg
Ar Brynwr euog ddyn
Yn ennyn cân a syndod
Trwy'r nefoedd fawr ei hun?

Robert Owen (Eryron Gwyllt Walia)


Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 671, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930