Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi (testun cyfansawdd)

Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi (testun cyfansawdd)

gan John Evans, Abermeurig

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi

Cofgolofn i Drydedd Jiwbili y Methodistiaid yn
Sir Aberteifi.

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

BYR-GOFIANT

AM NAW A DEUGAIN O

WEINIDOGION YMADAWEDIG

SIR ABERTEIFI.


GAN

JOHN EVANS, ABERMEURIG.



AR WERTH GAN YR AWDWR, A CHAN MR. W. JENKINS, LLYFRWERTHWR, ABERYSTWYTH.



DOLGELLAU:

ARGRAFFWYD GAN E. W. EVANS, "SWYDDFA'R GOLEUAD."

1894



RHAGYMADRODD.

AR ddymuniad Cyfarfod Misol Dehau Aberteifi, a chymhelliad taer amryw o gyfeillion o'r Cyfarfod Misol Gogleddol, yr wyf wedi ymgymeryd â pharotoi y llyfr hwn i'r wasg. Rhoddais achau, dyddiadau, lleoedd preswylfeydd, &c., y personau sydd ynddo, mor fanwl ag yr oedd yn bosibl i mi, ond ni foddlonais ar hyny yn unig am gymaint ag un o honynt. Peth annifyr genyf yw edrych ar skeleton dyn yn annibynol ar ddim arall, a chymerais yn ganiataol mai teimlad cyffelyb fyddai gan y darllenwyr; felly, gwnaethum fy ngoreu i roddi y dyn i gyd, gorff ac enaid yn yr hanes.

Am y rhai y mae Cofiantau iddynt wedi eu hysgrifenu, nid oeddwn yn gweled angen ymhelaethu llawer am danynt, pa mor enwog bynag oeddynt yn eu dydd, gan nad oedd ein gofod ond cyfyng. Ymdrechais, hefyd, i gofnodi rhyw bethau am y cyfryw nad oedd yn eu bywgraffiadau. Fy amcan yn yr oll:—1. Oedd rhoddi golwg glir ar y gweinidogion, hyd yn nod i'r rhai na ddarfu iddynt eu gweled na'u clywed. 2. Dweyd y cwbl mewn mor lleied o le ag oedd yn bosibl; a gallaf sicrhau mai gwaith caled i mi oedd bod yn gynwysfawr wrth orfod bod yn fyr. 3. Dweyd rhywbeth am bob un y byddai meddwl y darllenwyr yn cael blas ac adeiladaeth wrth ei ddarllen.

Wrth edrych dros yr ysgrifau, rhoddais rai pethau i fewn, a thynais lawer allan. Yr wyf yn gwybod, pe byddwn yn myned drostynt eilwaith ac eilwaith y gwelwn lawer o ddiffygion, fel y mae yr arfer wrth adgyweirio pob peth. Am hyny, dymunaf ar bawb—1. Roddi barn cariad ar y llyfr wrth ei feirniadu. 2. Rhoddi lles personol yn amcan blaenaf wrth fyned i'w ddarllen. 3. Roddi o'u blaen amcan mawr y llyfr, sef cyflawni dyledswydd arbenig eglwys Dduw i gadw coffadwriaeth am y rhai fu yn y swyddau uchaf yn ei gwasanaeth. "Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw ; ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt."

Fel rheswm dros beidio rhoddi neb i fewn ond pregethwyr ordeiniedig, rhaid ei ranu fel y canlyn:—1. Yr oedd ein penderfyniad i'r llyfr beidio bod dros swllt o bris mewn amlen, a deunaw mewn llian, a gwnaethum hyn wedi ymgynghori â llu mawr. 2. Yr oedd y rhai ordeiniedig yn ddigon eu hunain i lyfr felly, heb ddweyd llawer am yr un o honynt. 3. Os myned i ddechreu ar bregethwyr, yr oedd y cwestiwn yn dyfod, pa le i ddechreu, a pha le i derfynu, gan fod un neu ddau yn perthyn bron i bob capel, a chynifer a phump neu chwech yn perthyn i rai? 4. Yr wyf yn meddwl y bydd yn well gan y bobl yn gyffredin gael llyfr ar y rhai hyny eto rywbryd. Mae eu hanes genyf wrth law; dim ond ei drefnu sydd eisiau, gan fod y llafur o gasglu y defnyddiau wedi myned trwyddo er's rhai blynyddoedd. Caiff y neb a fyno y defnyddiau hyny genyf ar amod fechan, gan fy mod wedi blino yn y gwaith.

I Dduw pob gras y byddo y gogoniant am godi a donio y rhai y cofnodir eu henwau yma, gan ddymuno ei fendith eto i bregethwyr a ddarlleno yr hanes, ac i bawb eraill.

Ydwyf, yr eiddoch yn gywir,

JOHN EVANS.

Abermeurig,
Chwef. 22, 1894.

CYNWYSIAD


BYR-GOFIANT.


D

PARCH. DANIEL DAVIES, TANYGROES.

Da genym gael dechreu gydag un ellir ei alw yn gymeriad, yn oblegid hyny goddefir iddo gael mwy o le yn y llyfr na'r rhai nad oeddynt felly, er eu bod yn rhai da, a da iawn. Nid bob dydd nac ymhob ardal y cyfarfyddir â dyn y gellir dweyd ei fod yn gymeriad. Mae pob dyn wrth ddal i fyw yn y byd, ac ymgysylltu â dynion ac â phethau, yn llwyddo i enill rhyw fath o gymeriad, ond nid un felly yw yr un y soniwn yn awr am dano. Rhaid i'r un dan sylw ddyfod gyda'r dyn i'r byd, a bod yn gymhlethedig â holl alluoedd ei feddwl, os nad hefyd â ffurf ei gorff. Nid peth i'w enill ydyw, ac nid hawdd ei golli ychwaith. Ofer i gymdeithion boreu oes ymdrechu ei dynu allan o'r bachgen fydd yn cyd-chwareu â hwy; ofer i athraw unrhyw ysgol nac athrofa gymeryd, fel y dywedir, y fwyell a'r plân er tynu i lawr yr hyn a ystyrir yn geinciau geirwon ynddo; ac ofer i unrhyw gelfyddydwr geisio cael y prentis hwn yr un fath ag y mae wedi cael eraill o'i oed a'i sefyllfa. Ni chafodd Daniel Davies fanteision addysg elfenol nac athrofa fel eraill, a phe buasai yn eu cael ni newidid fawr ar y dyn, os gellid ychwanegu ychydig at ei wybodaeth. Buom yr un pryd a mab iddo mewn ysgol, a gallwn herio yr un athrofa yn y byd i wneyd ysgolor o hwnw. Yr oedd yn gyfaill rhagorol, yn llawn o ryw fath o dalentau; ond gyda gwersi yr ysgol ni chawsid ef nemawr byth. Nid ydym yn gwybod a yw dyn a ystyrir yn gymeriad yn fwy gwrthwynebol i gymeryd dysg, na dynion tebyg i bawb; ond gwyddom mai un ar ei ben ei hun ydyw, a'r "neillduol a gais wrth ei ddeisyfiad ei hun." Nid oedd Daniel Davies yn ffafriol iawn i'r rheol o roddi addysg i bob pregethwr, a'r un faint i bawb. Wedi i Dr. Charles roddi fyny Trefecca, yn nghanol y dadleuon brwd gymerodd le y pryd hwnw, dywedodd, "Pe cawn i fy meddwl, cymerwn y bicas i gloddio dan ei gornel bore fory."

Pan yn ieuanc, prentisiwyd ef gyda gwniedydd. Yr oedd hwnw yn hoff o gael tamaid o fwyd rhwng prydiau; ond dywedai, "Nid oes eisiau i'r hogyn bach Daniel i gael gwybod am hyn." Ond daeth i wybod, a dywedai, "Mi cofia i ef am hyn." Dyfeisiodd i ddweyd fod ei feistr yn arfer cael ffitiau, ac mai yr unig ffordd i wneyd ag ef ar y pryd oedd ei gylymu ar unwaith fel na allai symud. "Pan fyddo yn curo y ford," meddai, "cydiwch ynddo, a mynwch ei rwymo faint bynag a waeddo." Er mwyn gwneyd y prawf, cuddiodd y siswrn pan oedd ei feistr allan. Ymhen ychydig wedi esgyn i'r bwrdd dyna guro, a churo eilwaith, nes yr aeth y bobl yn bryderus, ac i barotoi ar gyfer y ffitiau. Gan ei fod yn dal i guro a gwaeddi, aethant a'r rhaffau i fewn, ac er pob dymuniad a bygythiad o eiddo Ianto Evan Siams, meistrolwyd ef. Yna datguddiwyd y gyfrinach, a daeth y ddau ar ol hyny yn ffrindiau mawr, er i rywbeth annymunol fyned rhwng ei rieni a'i feistr, fel ag i gael Daniel oddiwrtho, a rhoddodd hyny derfyn am byth ar ei deilwriaeth. Nid dyma y tro cyntaf na'r diweddaf i wneyd camsyniad am alwedigaeth bywyd. Gwasanaethu y bu ar ol hyn gyda ffermwyr y wlad; ond ni chawn ei hanes ond gyda rhai pur gyfrifol, sef Capt. Parry, y Gurnos; Mr. M'Key, Rhos-y-gadair-fawr; a Mr. Levi Thomas, Plas Aberporth. Pan gyda'r blaenaf, dywedir ei fod yn annuwiol iawn, a'i driciau yn lliosog. Ond er y cwbl, aethai yn min yr hwyr i siop crydd y Parch. Daniel Evans, Capel Drindod, i gael gweled llyfrau, y rhai a ddarllenai gyda blas mawr. Pan gyda'r ail, yn meddiant y diafol yr oedd eto, ac yn llawn dyfeisiau i'w wasanaethu. Pan alwodd Gipsies yn y tŷ, ac heb gael eu boddloni, dywedodd Daniel fod y tarw wedi ei reibio ganddynt, a'i fod yn troi yn ddi-atalfa. Galwyd y crwydriaid yn ol gyda chyflymdra mawr i wneyd gwell caredigrwydd a hwy. Y dirgelwch o hyn oll oedd fod Daniel wedi taro corn y tarw er mwyn sport yn ngwyneb ofergoeliaeth y wlad.

Daeth "amser ymweliad" Daniel o'r diwedd, a hyny pan oedd yn gwasanaethu yn Plas Aberporth, yn ei ardal enedigol. Aeth i Penmorfa i wrando ar y Parch. Thomas Richards, Abergwaen. Gelwir y bregeth a bregethodd ar y pryd, "Pregeth y mân gelwyddau." Yr oedd y bregeth drwyddi yn ddarluniad mor gywir o'i fywyd blaenorol ef, fel y dywedodd ynddo ei hun, "Yr wyf yn cofio fy meiau heddyw, a gwae fi yn awr bechu o honof." Yr oedd wedi hollol gredu mai ei feistr, Levi Thomas, oedd wedi dweyd wrth Mr. Richards am dano, a theimlai ato yn enbyd o'r herwydd, nes y clywodd yn amgen; ac ar ol clywed, teimlodd oddiwrth genadwri y bregeth yn llawer mwy. Gwelodd erbyn hyn mai llais o'r nef ydoedd ato ef yn bersonol. Yr oedd y pregethwr wedi dweyd yn erbyn yr arferiad oedd gan rai o eillio eu barfau ar foreu Sabbath, ac yr oedd yntau wedi gwneyd hyny y boreu hwnw. Yr oedd yn llefaru yn erbyn yr arferiad o gyrchu dwfr ar y Sabbath, yr hyn a wnaethai yntau lawer gwaith. Ond y "mân gelwyddau mewn twyllo er mwyn difyrwch, ac amcanion eraill, oedd yn dyfod adref gyda nerth anorchfygol. "Yr wyt ti yn dweyd," meddai Mr. Richards, "nid yw ond gair, nid yw ond trifle, nid yw ond sport. Os felly y mae yn ymddangos i ti, nid felly y mae i Dduw ; nid trifle o beth oedd i Dduw wneyd trefn i faddeu dy bechod lleiaf di, gan na wnelai dim y tro er gwneyd hyny ond traddodi ei Fab i waedu ei fywyd allan ar Galfaria." Byth ar ol hyn, daeth yn ddyn newydd. Bu mewn tywydd mawr ynghylch achos ei enaid, ond ni ymollyngodd i ddigalondid. Daeth yn fuan at grefydd i Blaenanerch, gan nad oedd un capel yn Aberporth ar y pryd. Ymgymerodd ar unwaith a dyledswyddau crefydd. Ac yn lle ymhyfryda mewn dyfeision drygionus fel o'r blaen, ymhyfrydai yn awr mewn gwrando, ac adrodd pregethau. Tyrai y bobl, hen ac ieuainc, o'i amgylch yn awr i ail glywed y rhai hyny, ac amryw i'w clywed am y tro cyntaf. Treuliodd oriau ar y pentan yn y Plas i bregethu fel hyn, a'r teulu ac eraill o gwmpas y tân, yn ei wrando, ac yn fynych a'r dagrau yn llif dros eu gruddiau. A diau genym iddo wneyd lles i lawer trwy y dull hwn o wasanaethu crefydd. Yr oedd y Parchedig Ebenezer Morris, y pryd hwnw, yn fugail ar eglwys Blaenanerch, ac yr oedd golwg fawr ganddo ar D. Davies, fel un o dalent neilldol a llawn o humour. Yr oedd un yn casglu rhyw dreth eglwysig, a Daniel yn gwrthod ei thalu, fel y dygwyd ei achos o flaen Mr. Morris. Gofynodd hwnw, "Beth yw yr arian mae'n nhw'n ei geisio genyt, Daniel ?" "Wn i ddim, Syr, os nad rhyw gymaint i gael fy enaid o'r purdan ydynt." Chwarddodd Mr. Morris yn galonog, a dywedodd, "Wel, dichon mai rhywbeth felly ydynt." Ni chywsom ragor o'r hanes. Wedi iddo briodi â Beti, fel y galwai ei wraig, aeth i fyw i Tyhen, ar dir y Plas. Yr oedd yn darllen a gweddio ar yn ail a Mr. Thomas yn y Plas. Yr oedd yn darllen yn fynych yn llyfrau hanesiol yr Hen Destament, a gofynodd ei feistr iddo y rheswm am hyny. "Yr wyf yn cael blas mawr," meddai, ac y mae y fath addysg i ni yn y cwbl. Edrychwch chi 'nawr ar Naaman, tywysog llu brenin Syria; yr oedd yn wr cadarn, nerthol, ond yn wahanglwyfus. Dyna fel ry'n ninau yn gymwys, beth bynag sydd o ddaioni ynom; nis gallwn ymffrostio dim, gan ein bod yn llawn o'r gwahanglwyf." Pan ddaeth lle yn rhydd, cafodd odyn galch Aberporth, a gelwid ef gan y wlad wed'yn am flynyddoedd yn "Daniel y calchwr." Yr oedd pawb yn hoffi dyfod ato, oblegid fod ei gymdeithas mor ddifyr, a'i ddull mor naturiol ymhob peth. Dywedir ei fod yn gymaint o gyfaill gan y plant, fel nad oedd yn cael taflu fawr o'r ceryg i'r odyn, eu bod hwy am y cyntaf yn gwneyd, ac yntau yn trefnu, a'u difyru hwythau ar y pryd. Gan mor ragorol oedd mewn gweddi, ac mewn dweyd ei feddwl yn fywiog a tharawiadol ar bob mater, yr oedd yn cael ei gymell gan lawer i bregethu. Yr oedd y Parch. John Jones, Blaenanerch, ac yntau yn ymgeiswyr un amser. Bu y Parchn. John Thomas, Aberteifi, a Daniel Evans, Capel Drindod, yn Blaenanerch yn eu holi, a chafodd y ddau ddechreu pregethu yn 1833.

Dyna Daniel Davies yn y pulpud, sylwch arno, mae yn ddyn gweddol dal, yn sefyll yn unionsyth, yn llawn o gnawd, er na ellir dweyd ei fod yn dew. Y mae ei ysgwyddau yn hynod o lydain, a'i holl gyfansoddiad yn ateb iddynt mewn cymesuredd a chryfder o'r gwadn i'r coryn. Sylwch ar y gwddf, gymaint yw ei gylchfesur, ond mor leied ei hun. Y pen i raddau yn flat, ac yn pwyso yn ol yn drwm i gyfeiriad asgwrn y cefn. Gan fod y gwddf mor fyr, mae y goler yn plygu yn anniben i lawr ar y napcyn du, ambell waith ar napcyn gwyn torchog. Mae y wyneb yn arw, a marciau y frech wen yn aml ac amlwg arno. Gan fod y gwddf mor fyr, a'r ysgwyddau mor llydain, ymddengys y pen yn isel, a chan fod y pen yn flat, nis gall y talcen fod yn uchel, ond y mae digon o led ynddo, a'r wyneb yn ateb iddo, yn llydan ac yn grwn. Mae ei enau yn llydan, a'r gwefusau yn drwchus, yn hynod felly. llygaid yn fawrion, ac yn arddangos meddwl clir a bywiogrwydd dychymyg. Mae ei dafod yn chwareu yn hamddenol y tuallan i'w ddanedd yn fynych wrth siarad, fel pe byddai yn melysu ei bethau wrth eu dangos i eraill. Fel y mae yr ymddangosiad, felly y mae yr arabedd, y gallu meddyliol, a'r synwyr cyffredin yn ateb iddo. Mae yn cadw ei law ddehau ar y pulpud, ac yn troi dalenau y Beibl ar yn ail; ond pan y byddo eisiau rhoddi pwys ar rywbeth neillduol, coda ei fraich tuag yn ol mewn dull areithyddol, a theifl hi ymlaen gyda nerth. Ond nid yw hyny yn gorchfygu ei hunanfeddiant, daw yn ol drachefn i'w hamdden blaenorol nes y caiff ei gynhyrfu eto. Pan lonydda y cyffroadau, nid yw dyddordeb y gwrandawyr yn y pethau yn colli, gan fod ganddo gyflawnder i ddweyd, ac yn gallu dweyd mewn brawddegau byrion, tarawiadol, a synwyrgall, fel penod o Lyfr y Diarhebion. Mae yn anhawdd i neb siarad mor hamddenol a hwn, ac ar yr un pryd dynu cymaint o sylw, ac enill cymaint o galonau y gwrandawyr. Mae ei olwg yn wledig, ac y mae yn siarad yn wledig; ond y mae ei bethau yn boddhau y meddylwyr goreu, y chwaeth yn ddigon pur i oreuon y dorf, ac yn ddigon dealladwy i'r gwanaf ei, amgyffred. Mae hwn yn ddyn pawb, a therfyna gan adael y dre' a'r bâl yn ei fola yn lle ar ei gefn." Eto: "Y gynulleidfa mewn tymer i ddymuno cael gwledd gyffelyb yn fuan eto.

Meddylier eto am y bregeth. Y testyn oedd, " Y mae Hwn yn derbyn pechaduriaid." "Dywedodd y rhai hyn wir wrth ddweyd celwydd, a darfu iddynt ddyrchafu Crist wrth geisio ei iselu. I. Swydd Crist yn yr efengyl—derbyn pechaduriaid. Mae yn derbyn pob math o bechaduriaid, Iuddewon a Chenhedloedd. Tramgwyddodd Pedr yn fawr pan ddywedwyd wrtho am y pob math, nes iddo gael ei argyhoeddi am delerau ei genadwri. Mae Iesu Grist yn well yn hyn na Victoria. Yr oedd pob math yn Corinth, ond yr hyn ddywedir wrthynt oll yw, 'Chwi a olchwyd.' Mae yn derbyn pob graddau o bechaduriaid, Manasseh waedlyd, &c. Wn i ddim a ddaw rhai mwy na Manasseh ymlaen rywbryd, ond os daw, mae yn sicr o wneyd a nhw fel y mae y môr yn gwneyd a'r llongau— eu nofio i gyd. Mae yn gwneyd yr un fath hefyd a budreddi pawb wrth ymolchi ynddo. Mae yn derbyn o hyd. Mae porthladdoedd yn derbyn rhai llongau i mewn, ond yn rhoddi sign allan wedy'n na allant dderbyn rhagor, er yr holl ystormydd fydd yn curo arnynt. Mae rhai porthladdoedd hefyd wedi eu cau, ac nid oes argoel y cant new claim er eu hagoryd. Ond am y claim sydd gan Grist, fe ddeil yn ei rym nes gorphen yr holl waith. II. Y diben sydd ganddo wrth dderbyn pechaduriaid. Mae yn eu derbyn i'w hachub, i fod yr un fath ag ef ei hun; fel y mae y môr yn derbyn yr afon, i fod yr un llun, yr un lliw, a'r un flas ag ef ei hun. Mae yn eu derbyn i'w dysgu. Mae llawer o son y dyddiau hyn am athrofeydd, a gellid meddwl wrth glywed rhai yn eu canmol, y gallant wneyd peth rhyfedd iawn a dynion, ond ni chlywais i erioed iddynt wneyd yr un ffol yn gall. Ond am y sefydliad yma mae yn gwneyd yr ehud yn ddoeth i iachawdwriaeth. Er mwyn y gwaith mawr yma y mae y byd yn cael ei gynal. Yr oedd yr Affricaniaid yn meddwl mai mynydd Atlas oedd yn dal y nefoedd i fyny. Beth bynag am hyny, yr wyf yn siwr mai y gwaith o dderbyn pechaduriaid sydd yn dal y byd i fyny. Mae ei fod yn derbyn, yn cynwys ein bod i roi ein hunain iddo." Pan oedd yn Cae'rfarchell, Sir Benfro, gofynai Mr. Jenkins, y blaenor, iddo, "A ydych chwi yn cofio y bregeth oedd genych yn Nghyfarfod Misol Tyddewi ar y testyn, 'Mi a ymwelaf a chwi drachefn ?"" "O! y mae yn myned yn dda eto, fachgen, weithiau," oedd yr ateb. Y penau oeddynt, Mia ymwelaf a chwi drachefn fel haf ar ol gauaf—fel llanw ar ol trai—fel gwlaw ar ol sychder—fel dydd ar ol nos. Yr oedd ef yn dweyd ei fod yn hoff o holi yr Hyfforddwr, gan fod ei bynciau yn bynciau slaid i gyd, sef eu bod mor rhwydd i holi arnynt ag yw i blant lithro ar y rhew. Felly y gellir dweyd am arddull ei bregethau yntau bron i gyd.

Gan ei fod yn siaradwr mor barod, ac mor llawn o arabedd, nid oedd ei ail fel areithiwr dirwestol a gwleidyddol. Areithiodd ar ddirwest yn Aberporth nes tori yr allowance fyddai wrth arllwys llongau a rhoddi balasarn (ballast) ynddynt, a gwnaeth hyny les mawr iddo wrth areithio ar ddirwest lawer gwaith wedi hyny. "Mae rhai o honoch," meddai, "yn dweyd, fe ddown ni yn ddirwestwyr oni bai y lwens. Yr ydych yn gwneyd i mi gofio am y dyn oedd am ddyfod i gert oedd yn rhy lawn. Gofynai, Faint raid i fi roi i ch'i am gael llusgo wrth ben ol y gert? Grôt, meddai y cartman. Cytunwyd ar hyny. Ond yr oedd y gert yn croesi afon, a phan yn myn'd ati, dywedodd y gyrwr, gwell i chwi fyn'd round fan yma, yr ydym yn myn'd trwy'r afon. Afon neu beidio, meddai yntau, rhaid i mi gael gwerth fy arian. Aeth trwyddi; a chlywsoch lawer gwaith am wlychu fel pe byddech wedi bod yn yr afon. oedd yntau wedi gwlychu bob modfedd hyd ei groen. A pu'n well fuasai i hwnw roundio tir sych na chael y wlychfa hono er cael gwerth ei rôt? Gwell gan rai o honoch chwithau gael y lwens er colli eich synhwyrau, tlodi eich teuluoedd, tori eich cymeriad, a myn'd i fedd yn anamserol." Dyma un arall, "Aeth dyn o Blaenanerch i Aberteifi i 'mofyn pâl. Yr oedd yn meddwl wrth fyn'd gael un gwerth tri a chwech ; ond wedi yfed gwerth chwech, meddyliodd y gwnelai un dri swllt y tro; wedi yfed tipyn yn rhagor, meddyliodd y gwnai un haner coron y tro. Ond y diwedd fu, iddo fyn'd a peth y'n ni'n neyd yn Llangeitho heddy' yw dangos y ffordd i ch'i neyd a'r diodydd yma, fel na chewch ch'i niwed byth oddiwrthynt, sef trwy beidio cymeryd dim o honynt. Mae y morwyr yn dweyd am y morloi sydd yn ogofeydd y môr, mai y ffordd oreu i'w rhwystro allan, yw taro trwyn y cyntaf ddelo i'r ymil; neu os daw hwnw allan, maent mor glos at eu gilydd fel y bydd yn anmhosibl rhwystro un o honynt wed'yn. Dyna fel y mae y ddiod, y ffordd i wneyd a hi yw peidio cymeryd y glasiad cyntaf, neu os yfir hwnw, ni wyddoch yn y byd pa drefen wna hi arnoch."

Cymerer y darnau canlynol er ei ddangos fel areithiwr mewn etholiadau gwladol. Pan oedd Mathew Richards, Ysw., Abertawe, yn sefyll dros y sir yn erbyn yr ymgeisydd Toriaidd, Edward Malet Vaughan, Ysw., yn 1868, dywedai "Mae llong y Llywodraeth wedi strando ar graig, ac enw y graig yw Gladstone. beth mae Torïaid Sir Aberteifi yn myn'd i wneyd ? Ma' nhw'n myn'd i dori y graig â malet (enw canol yr ymgeisydd Torïaidd). A wyddoch chwi beth yw malet ? Gordd bren. 'Di 'nhw'n dyall dim o'r graig, Glad—stone yw hi, ac fe ga nhw ddyall mai fe fydd yn llawen y dyddiau nesaf." Yr oedd y pwyllgor wedi ymddiried gofal y rhai ofnus, a rhai methedig iddo ef i'w call i'r poll. Pan oedd wedi cyflawni ei ymrwymiad un diwrnod, ac yn dyfod yn ei ol, cyfarfu a rhai oedd wedi bod allan am helwriaeth. 'B'le buoch ch'i fechgyn?' gofynai. Buom yn hela,' oedd yr ateb. ' Wel, buoch wrth yr un gwaith a finau, hela y bues inau,' meddai. yn hela hel peth y buoch ch'i?' gofynent mewn syndod. Hel cachgwn,' meddai yntau, yr enw sydd y ffordd hono ar rai llwfr a Eto: gwangalon. "Ofn y scriw yma sydd arno ni, neu fe fydde ni gyda ch'i bob un. Yr ydych yn gwneyd i mi gofio am y chware oedd gyda ni pan yn blant. Yr oeddym wedi clywed, ond i ni roddi giâr i orwedd, a gosod gwelltyn yn groes ar ei gwddwg, na neitha hi ddim cynyg codi, gan ei bod hi yn meddwl na allai hi ddim, a gwelltyn oedd yno i gyd. Ofn gwelltyn sydd arnoch chwithau fechgyn." Eto: "Mae llawer mewn lecsiwn nad ydynt yn ystyried dim ond eu lles eu hunain. Maent yn gwneyd i mi gofio am y falwoden a'r wagen yn y fable. Mi ddangosa i dric i hona 'nawr, meddai y falwoden, gan estyn ei chyrnau allan a meddwl upseto y wagen, ond yn lle hyny, yn slecht yr aeth hi dan yr olwyn. Ac yr w'i yn ofni, wrth eich bod yn ceisio gwneyd trick a'r ochr arall, mai yn slecht yr ewch chwithau hefyd." Yr oedd y Parch. Roberts, Llangeitho, am i bob blaenor fotiodd gyda'r Toriaid, ddyfod i'r Cyfarfod Misol ar ol hyny i ymddiswyddo. "Na," meddai yntau. "gwnewch a nhw fel y siopwr a'r brethynau sydd yn dyfod o dy y gwehydd yn rhy deneu at use, sef myn'd a nhw at y panwr i'w gwneyd yn dewach. Eisiau myn'd a rheina i'r felin ban sydd, i'w cael dipyn yn fwy o swmp."

Ar brydnhawn Sadwrn, yn Aberaeron, gan ei fod mor gyfarwydd â llongau, aeth i edrych ar long oedd yno ar y pryd yn cael ei hadeiladu. Yr oedd y saer yno yn curo ei oreu ar hoel bren i dwll, ond yn methu ; ac yn gynhyrfus o'r herwydd, dywedodd, "Mae y diafol yn y twll yma." "Os ce'st ti e i dwll," meddai yntau, "cura arno fe, yr w'i wedi treio ei gael e i dwll er's deugain mlynedd, ond heb ei gael eto." Pan yn pregethu ar brofedigaethau y Cristion, dywedai fod llawer o honynt yn brofedigaethau gwneyd. "Mae llawer o ddynion," meddai, "fel y plant gyda ni ar lan y mor, os na fydd digon o donau i siglo y cwch, gwnant siglo y cwch eu hunain i wneyd tonau bach, felly y gwna llawer brofedigaethau iddynt eu hunain.” Pan yn siarad a blaenoriaid Aberaeron mewn Cyfarfod Misol, dywedai, "Mynwch lawer o ysbryd y swydd, mae dylanwad mawr gan hyny ar bob peth. Ysbryd chwilio am yr asynod oedd yn Saul yn y boreu, ond ysbryd brenin yn y prydnhawn, ac edrychwch ch'i y cyfnewidiad wnaeth hyny arno ar ol hyny. Mae rhai o honoch a'ch business tucefn i'r counter, a phob un a rhyw drade ganddo, ac y mae tuedd yn y pethau sydd genych i fyn'd a'r bryd yn ormodol; ond os bydd ysbryd y swydd sydd genych dan y Brenin yn go lawn ynoch, bydd yn rhoddi atalfa ar lawer o bethau niweidiol, ac yn rhoddi naws hyfryd ar eich ysbryd a'ch ymddiddanion." Pan yn pregethu ar benderfyniad Ruth, dywedai, “Ar lan y mor gyda ni, gwaedda y cadben ar y bachgen i glymu y rhaff i ddal y llong wrth y bar. Gall llawer o amser fyned heibio cyn gwybod dim pa fath gwlwm fydd y bachgen wedi ei wneyd. Ond wedi i'r gwynt a'r tonau godi, a'r llong gael ei thaflu ganddynt, mae y cwlwm yn dyfod yn rhydd, yr hyn sydd yn profi nad oedd yn gwlwm iawn. Oblegid pe buasai y cwlwm ddylasai fod, myned yn dynach wnaethai po fwyaf o force fyddai arno. Tywydd garw sydd yn profi llawer gyda'u crefydd. Mae llawer o honoch wedi myned trwy ystormydd geirwon, ond y mae y cwlwm rhyngoch a'ch crefydd yn dynach heddy' nag erioed, pan y mae llawer eraill a'r cwlwm wedi rhoddi ffordd, a'r llestr wedi myn'd o flaen y gwynt."

Bu farw Ionawr yr 11eg, 1875, yn 78 oed, wedi bod yn pregethu am 42 mlynedd, wedi dechreu pregethu pan yn 36 oed, ac wedi byw ei holl oes yn ymyl Aberporth, ond iddo fyned yn aelod i Tanygroes yn ei flynyddau olaf. Gwnaeth cyfeillion Tanygroes ac eraill dysteb anrhydeddus iddo tua diwedd ei oes, i ddangos eu parch iddo, a'u gwerthfawrogiad o'i wasanaeth. Claddwyd ef yn mynwent Eglwys Penybryn.

PARCH. DAVID DAVIES, TANYGROES.

Mab ydoedd i'r Parch. Daniel Davies. Bu farw Rhagfyr 22ain, 1877, yn yr oedran cynar o 51 o flynyddoedd. Bu yn pregethu am 24 o flynyddoedd, a chafodd ei ordeinio yn Llanbedr, yn 1862. Ni ddechreuodd yntau bregethu nes yn 27 oed, ac yn cadw teulu, ac felly ni chafodd fanteision dysgeidiaeth. Bu ar y mor am flynyddoedd, ond ni chawsai lonydd gan ysbryd pregethu; ac wedi dechreu, profodd fod ynddo gymwysderau i'r gwaith. Yr oedd yn debyg iawn i'w dad yn ei bregethau a'i ymddiddanion, yn llawn o arabedd, ac o duedd i wneyd pawb yn well. Yr oedd pawb yn hoff o'i wrando yntau fel ei dad; ond barn y rhan fwyaf oedd fod ei dad yn fwy o bregethwr, ac yn fwy coeth yn ei ddewisiad o'i gymhariaethau, yn gystal ag yn eu gosodiad allan. Yr oedd ef yn fyrach o gorff na'i dad, ac yn ei flynyddoedd olaf yn ymddangos yn dewach, ond fod y tewdra a'r cochni fyddai yn ei wyneb llydan, agored, ddim yn arwyddion o iechyd cryf. Cafodd gystudd caled am ddyddiau, ac yr oedd y newydd am ei farwolaeth ddisymwth yn taro y wlad â syndra ac â galar mawr, am fod cyfaill mor hoff a phregethwr mor gymeradwy wedi gadael mor sydyn.

Yr oedd yn debyg i'w dad mewn meddu ar athrylith ac arabedd mwy na'r cyffredin,—mewn meddu ar elfenau cyfeillgarwch dihysbydd,—mewn llais clywadwy, ond craslyd, eto yn hyfryd i'r cynulleidfaoedd, gan mai siarad y byddent gan amlaf,—mewn ymddangosiad gwledig, ond yn gallu rhoddi fyny gyda phawb, bonheddig a gwreng; ac nid oedd y ddau yn siarad yn uchel am y fugeiliaeth, a rhyw symudiadau eraill oedd yn ymddangos yn rhy wylltion iddynt, eto yr oeddynt yn gymeradwy iawn yn eu cartrefi, a'u gwasanaeth yn werthfawr iawn. Yr oedd yntau yn gwneyd defnydd o gymhariaethau adnabyddus ac agos, ac yn gallu eu cymhwyso yn darawiadol ac effeithiol, Unwaith, pan yn myned i'w gyhoeddiad, ac mewn brys i gyfarfod a'r train yn Llandyssul, aeth ar ei gyfer dros y mynydd ar ol pasio Blaenwern; ond gwaeddodd ffermwr, "Y dyn, beth yw eich business chwi ffordd hyn?" "Wel mi 'weda wrtho ch'i,” medda'; "defaid sy' ar goll gan Nhad, ac mae E, wedi f'hela i ar eu hol." "Fath rai i nhw?" gofynai y dyn. "Mae rhai o honynt yn dduon, a rhai yn frithion," meddai yntau, yn araf a gochelgar. "Sawl un sy' ar goll?" gofynai y dyn drachefn. "Wel wir 'dw i ddim yn gwybod, mae Nhad yn gwybod," oedd yr ateb. Ar hyny deallodd y ffermwr i raddau, ac ymddangosai yn foddlon iawn wrth adael iddo i fyned yn ei flaen. Pan yn areithio ar Demlyddiaeth, dywedai "Dirwest yw Temlyddiaeth, 'rw' i'n i nhabod hi'n dda, ac yr wi'n ei charu fel y cares i ddirwest. Pan weles i Mary (ei wraig) gyntaf, yr oedd yn gwisgo pais a gwn bach, ac mi priodes hi; aeth i wisgo gown wedi hyny, mi cares hi fel hyny: a phe byddai yn myn'd i wisgo gwn bach cwta Sir Benfro eto, mi carwn hi wed'yn; oblegid Mary fyddai hi o hyd. Felly yr w'i gyda dirwest yn y ffurf sydd arni yn awr." Pan welodd frawd wedi bod bron a chael ei ethol i swydd, ond un arall wedi ei chael, dywedodd, "Yr oedd bachgen bach i mi yn rhedeg yn wyllt iawn i'r tŷ ryw ddiwrnod, ac yn gwaeddi, 'Nhad nhad, bues i bron cael brechdan 'nawr.' 'Pa'm na chest ti hi?' meddwn inau. 'O, ei rhoi i'w hogyn 'i hunan wnaeth e'" Yr oedd ei dad wedi anmharu llawer yn ei feddwl yn ei amser olaf, ac felly yr oedd cyfnither i'w dad, sef Mrs. Francis Jones, Felincwm, Rhydlewis. Gofynodd i hono pan ar ymweliad â hi, “Shwt 'rych ch'i modryb fach, yn awr?" "Dyma lle'r w'i, Dafydd bach, yn ddigon gwael, a 'does dim fynwyf a'r nefoedd dyna'r gwaethaf.” "Nac oes mi wranta, 'does dim a fyno nhad na chwithau a'r nefoedd 'nawr; ond r'w i'n gobeithio fod a fyno y nefoedd â ch'i." Claddwyd ef fel ei dad yn mynwent Eglwys y Plwyf, Penybryn.

PARCH. DAVID DAVIES, TWRGWYN.

Ysgrifenodd cefnder i hwn, sef y Parch. Griffith Davies, Aberteifi, ddwy erthygl ragorol i'r Drysorfa am 1859, yn rhoddi braslun o hanes ei fywyd, ac ni wnawn yn well na dyfynu o honynt. "Mab ydoedd i Stephan ac Eleanor Davies, Cyttir Mawr, gerllaw Blaenanerch, a brawd ï'r diweddar Barch. John Davies, o'r un lle. Yr hyn a'i hynodai fwyaf pan yn blentyn, yn gystal ag wedi iddo dyfu i oedran, oedd ei duedd anghyffredin at ganu. Dysgodd y gelfyddyd mor dda, fel yr oedd pan yn fachgenyn, yn cynorthwyo dau arweinydd canu Blaenanerch, i feistroli darnau anhawdd mewn anthem neu dôn; a phan yn 20 oed, yr oedd yn arwain y gân mewn Cymanfa Blant, yn Aberteifi. Nid yn unig yr oedd yn gallu dysgu ac arwain côr yn dda, ond yr oedd ei ddylanwad ar yr ieuenctyd, mewn ystyr foesol, yn iachus dros ben. Yr oedd ganddo dalent neillduol hefyd fel athraw Ysgol Sabbothol, i arwain y dosbarth i ddeall y Beibl, ac i ddysgu llawer o hono allan a'i adrodd. Yr oedd ein cyfaill o 18 i 20 oed pan ddaeth yn gyflawn aclod, a'r pryd hwnw daeth cyfnewidiad amlwg yn ei arferion, er gwell, er nad oedd dim yn ddrwg neillduol ynddo o'r blaen. Yr adeg hon, yr oedd ynddo syched neillduol am ddarllen. Prynodd rai o lyfrau y Parchn. John Thomas, Aberteifi, a John Jenkins, Blaenanerch, a bu am beth amser yn cadw ysgol ddyddiol yn ysgoldy y lle y blynyddoedd hyn. Cynyddodd gymaint mewn

gwybodaeth a phrofiad o bethau crefyddol, fel y dewiswyd ef yn flaenor yn eglwys Blaenanerch, a hyny mewn modd unfrydol iawn. Ond nid oedd eto yn ei le, gan fod tuedd at bregethu ynddo er yn blentyn, ac yn dal i gryfhau. Pan amlygodd y Parch. Griffith Davies ei awydd at hyn i'r Parch. John Jones, yr oedd hwnw yn bleidiol iawn iddo. Daeth yn flaenor y gân, wedi hyny yn flaenor eglwysig, ac yn ddiweddaf yn bregethwr, ac ni chafodd neb ei siomi ynddo yn yr holl gylchoedd hyn, ond bu yn " ffyddlawn yn y lleiaf, a gosodwyd ef ar lawer." Dechreuodd bregethu tua'r flwyddyn 1856, pan yn 35 oed, ac ordeiniwyd ef yn Llanbedr, yn 1862, yr un pryd a'r Parch. David Davies, Tanygroes. Trwy ei briodas â Miss Elizabeth James, Felincwm, Rhydlewis, aeth i Twrgwyn, lle y dewiswyd ef yn fugail. Taflodd ei hun o ddifrif i waith, a chynyrchodd fywyd newydd trwy yr holl gymydogaeth, trwy ei ddull deniadol ac effeithiol i holi y plant yn y Band of Hope, a thrwy eu dysgu i ganu. Trwy ei ddiwydrwydd, ei gysondeb, a'i ddull dibrofedigaeth i bawb o weithio, daeth y fugeiliaeth yn allu cryf, adeiladol ac anrhydeddus, fel y cafodd geiriau Henry Rees eu gwirio yn Twrgwyn a Salem. Pan oedd ef yn ymddiddan âg amryw frodyr ieuainc yn Nghymdeithasfa Rhyl, a'r rhai hyny, gan mwyaf, yn fugeiliaid, dywedai, "Byddwch y fath fugeiliaid, fel os byddwch feirw, neu os gorfodir chwi i symud i ardal arall i fyw, y byddo yr eglwysi yr ydych ynddynt yn bresenol, yn gorfod teimlo nas gallant fyw heb rywrai tebyg i chwi ar eich ol."

Bu ar daith drwy y Gogledd gyda'r Parch. John Jones, Ceinewydd, yn 1865, a dywed Mr. Jones am dano:—"Ar y daith hono yn Sir Fon, cefais dair wythnos o gyfeillach ddidor ag ef; a gallaf sicrhau mai myned yn uwch, uwch yr oedd yn fy meddwl o hyd, fel dyn, ac fel Cristion, oblegid ei ysbryd llednais, diddichell, cydwybodol, a gwir ddefosiynol. Barnwyf mai un o hynodion ei fywyd oedd ffyddlondeb. Yr oedd hefyd wedi ei fendithio â synwyr cyffredin,—cryfach na llawer o wyr y "deg talent." Yr oedd ôl llafur mawr ar ei bregethau. Yr oedd yn ddarllenwr ac yn weddiwr mawr. Prawf o'i chwaeth uchel yw ei lyfrgell ragorol. Yr oedd ei bregethau, hefyd, yn aml yn effeithio yn anarferol ar y cynulleidfaoedd. Yr oedd hefyd yn ffyddlawn iawn i'w gyhoeddiadau, ac wrth fod felly o gartref am ryw 20 neu 30 milldir, y cafodd anwyd a brofodd yn angau iddo, wedi cystudd hynod o drwm, yr hwn a ddioddefodd yn amyneddgar, heb ofidio am ddim, ond am ei deulu oedd ar ol." Yn ei gystudd diweddaf, yr oedd yn delirious bron o hyd, yn pregethu weithiau, bryd arall yn darllen a gweddio, ac yn canu llawer iawn. Y gair diweddaf a ddywedodd yn bur floesg oedd, "Mae Sabbath far yna." Bu farw Ionawr yr Sfed, 1867, yn 45 mlwydd oed. Byr a theneu a syth o gorff ydoedd, a duaidd ei wallt a'i wynebpryd. Claddwyd ef yn mynwent capel Twrgwyn.

PARCH. JAMES DAVIES, PENMORFA.

Ymddangosodd dwy erthygl yn y Drysorfa am 1858, ar y gwr da hwn, gan y diweddar Barch. John Davies, Blaenanerch, trwy yr hyn y gwnaeth gymwynas fawr â'r Cyfundeb, yn enwedig yn Sir Aberteifi. Gan fy mod yn gwybod am yr erthyglau hyny, ni anfonais enw James Davies i'r diweddar Barch. Owen Thomas, D.D., pan anfonais ato i ofyn am yr hyn oedd yn gofio am amryw eraill, y rhai nad oedd cofiantau am danynt. Dyma ei atebiad:—"Nid ydych yn son dim am James Davies, Penmorfa. Yr oedd hwnw yn bregethwr o nodwedd uwch, os nad wyf yn camgymeryd, nag odid un o'r rhai a nodir genych, o leiaf, y mae mwy o'i bethau yn aros yn fy nghof i." Dyna farn un o oreuon Cymru am J. Davies. Clywais ef droion fy hun, a'i gorff gweddol dal, y wynebpryd, i raddau, yn ddu, a'r olwg yn drymaidd a henaidd, ac yn pregethu gyda llais gweddol uchel o'r dechreu i'r diwedd. Nid oedd yn gwaeddi digon gyda ni, yr ieuenctyd, nac yn ddigon bywiog, ond yr oeddym yn gwybod fod y bobl oedranus, ag oedd yn berchen ar farn, yn ei werthfawrogi yn fawr. Eu geiriau am dano oeddynt:—"Pregethwr trwm yw James Davies," gan feddwl fod ganddo bregeth dda, ac yn llawn o faterion pwysig, a'r rhai hyny mewn trefn chwaethus. Yr oedd y traddodiad, hefyd, yn araf a chlywadwy. Mae yn debyg na chlywais ef ond unwaith wedi i mi ddechreu ysgrifenu penau y pregethau. Ei destyn y pryd hwnw oedd, Phil. iv. 7. Y penau oeddynt, —I. Y desgrifiad a roddir yma o'r tangnefedd,—"Tangnefedd Duw,"—1. Am mai Duw yw ei awdwr. 2. Am mai â Duw y gwneir tangnefedd. 3. Am mai yn y mwynhad o Dduw y cedwir ef. II. Maint y tangnefedd,—" Uwchlaw pob deall." III. Ei effeithiau ar y Cristion,—"A gadwo eich calonau a'ch meddyliau." IV. Y cyfrwng o ba un y mae yn tarddu,—" Yn Nghrist Iesu." 1. Fel y mae yn Gyfryngwr. Fel awdwr iachawdwriaeth, trwy ei ufudd—dod a'i angau. 3. Trwy ffydd yn uno yr enaid âg ef. 4. Trwy gymhwysiad parhaus o waed Crist. 5. Trwy osod Crist yn amcan bywyd.

Yr oedd ganddo ryw gymaint o hanes ei fywyd wedi ei ysgrifenu, ond ni wyddom pa faint. Ganed ef Rhagfyr 21ain, 1800, yn Blaenhownant isaf yn agos i Penmorfa. Ei rieni oeddynt Dafydd Davies, mab Evan Davies, ac Elizabeth Davies, merch Timothy Jenkins, Pen'rallt. Nid oedd ei rieni yn grefyddol, ond ymunodd ei fam â chrefydd cyn diwedd ei hoes. Er mwyn cael golwg ar foreu ei oes, caiff ef lefaru. "Pan yn cael fy nerbyn yn aelod o'r Gymdeithasfa yn Llangeitho, Awst 10fed, 1831, buwyd yn ymddiddan â mi am fy mhrofiad, gan y Parch. William Roberts, Clynog.. Nis gallwn ddweyd am bethau neillduol yn nechreu fy oes, er y byddwn yn cael fy nychrynu yn aml, yna yn diwygio, a meddwl fod pobpeth yn dda. Ond wedi myned allan i wasanaethu, collais bob argraffiadau oddiar fy meddwl, ac aethum y bachgen caletaf yn y wlad nes bod yn 21 oed. Y pryd hwnw, gwelais fy mod yn golledig ar bob tir nes credu yn Nghrist." Eto,—"Aethum i'r society yn Ceinewydd, Mehefin, 1822, pan yn 22 oed." Ychydig cyn hyny, yn yr un flwyddyn, dewiswyd ef yn un o'r local militia am 5 mlynedd, ac felly ymunodd â'r fyddin wladol a'r ysbrydol bron yr un pryd, ond ni rydd ychwaneg o'i hanes gyda'r militia, pa un a wasanaethodd ei dymor ai na wnaeth. Yn 1829, dechreuodd bregethu. Ar yr achlysur o ymddiddan âg ef dros y Cyfarfod Misol, yr oedd yn bresenol yn y Ceinewydd y Parchn. Ebenezer Richards, William Williams, Aberteifi; John Rees, Tregaron; a John Jones, Penmorfa. Yr oedd yn y Cei gydag ewythr iddo, yn egwyddorwas yn dysgu gweithio clocs. Medi yr 16eg, y flwyddyn a nodwyd, traddododd ei bregeth gyntaf yn y Cei oddiar Rhuf. vii. 1. Ar ol iddo ddechreu pregethu, ceisiwyd ganddo gadw ysgol ddyddiol yn y Cei. Yr oedd ei dad wedi cael ysgol at fod yn offeiriad, ond cadw ysgol y bu; ac mae yn debyg, oblegid hyny, fod James Davies wedi cael graddau digonol o addysg i allu cadw ysgol y pryd hwnw mewn lle fel y Cei. Mae hyn yn cael ei brofi yn fwy trwy mai efe oedd cyfarwyddwr y cymydogaethau yr oedd yn byw, yn wladol a chymdeithasol. Efe fyddai yn ysgrifenu llythyrau, cytundebau, ac ewyllysiau. Wedi bod yn glaf mewn twymyn y 1830, symudodd yn ol i dy ei dad, lle yr arhosodd yn hen lanc am y gweddill o'i oes. Yn fuan wedi ei ddyfodiad i Penmorfa, dechreuodd gadw ysgol. Er ei fod wedi dechreu pregethu a chyfansoddi llawer o bregethau, aeth i drallod meddwl mor fawr ynghylch ei anghymhwysder i'r gwaith fel y penderfynodd roddi y gwaith i fyny. Nid oedd cymhelliadau cyfeillion yn llwyddo dim er ei godi at y gwaith drachefn. Ond pan yn druenus ei deimlad ynghylch y pwnc mawr, daeth y geiriau hyny gyda nerth at ei feddwl, "Digon i ti fy ngras i; canys fy nerth i a berffeithir mewn gwendid." Trwy y geiriau yna, cafodd ddigon o ddwfr i godi ei lestr; ac yn union ar ol hyny, cawn ef yn pregethu yn Blaenanerch ar y geiriau, “A thân fflamllyd gan roddi dial i'r sawl nid adwaenant Dduw, ac nid ydynt yn ufuddhau i efengyl ein Harglwydd Iesu Grist," a hyny gydag arddeliad dwyfol amlwg, fel y daeth 15 i'r seiat yno mewn canlyniad. Ar ol hyn, aeth at y gwaith o ddifrif, a theithiodd Dde a Gogledd, gan "ddysgu ac efengylu Gair yr Arglwydd."

Fel pregethwr, meddai lawer o lyfrau da, ac yr oedd yntau yu astudiwr caled a deallus, fel y gwnaeth ddefnydd da o honynt. Yr oedd yn ffyddlawn i'w gyhoeddiadau, ac i'r Cyfarfod Misol. Fel dyn a Christion, yr oedd, fel y dywedai un, a digon o'r sarff ynddo i fod yn ddiniwed fel y golomen. "Ymhlith ei gyfeillion," medd y Parch. John Davies, "yr oedd yn llawen a siriol, a byddai ymhlith dieithriaid hefyd yn llon i bawb, ond yn llawn o bwyll. Yr ydoedd yn hynod o barod yn ei reswm gyda phob peth, a meddai ar ddigon o synwyr cyffredin i'w gadw rhag y rhy mewn dim. Clywsom gan rai o'i gyfoedion yn y weinidogaeth y byddai yn anmhosibl cael ganddo ddywedyd dim yn isel am neb yn ei gefn, ond yn y wyneb dywedai ei fai wrth un, pan gawsai gyfleusdra. Y rhai a'i hadwaenent oreu a'i carent fwyaf. Gellid meddwl weithiau ei fod yn ddyn dewr a gwrol, ond un hollol wahanol ydoedd. Un pruddaidd ei ysbryd, ac yn cymeryd yr ochr dywyll o bob peth. Ac, oblegid ei fod felly mae yn ddiamheu, y cafodd ei guro gymaint "yn nghrigfa dreigiau" yn ei gystudd diweddaf." Efe yw yr engraifft sydd gan lawer o'r hen bobl i brofi y gall fod yn dywyll iawn ar ddynion da, a da iawn, pan yn ymyl marw. Ofni am ei gyflwr yr oedd, rhag ei fod wedi pregethu i eraill, ond ei hun yn anghymeradwy. Ond daeth goleuni yn yr hwyr, trwy y geiriau, "A'r hwn wyf fyw, ac a fum farw, ac wele byw wyf yn oes oesoedd, Amen; ac y mae genyf agoriadau uffern a marwolaeth," ynghyd a'r geirian, "A'u hiachaodd hwynt, ac a'u gwaredodd o'u dinystr." Ordeiniwyd ef yn Llangeithio, Awst 1841. Bu glaf am oddeutu 8 mis, a bu farw Ebrill 14eg, 1853, yn 53 oed, a chladdwyd ef yn mynwent capel Penmorfa.

PARCH. JENKIN DAVIES, TWRGWYN.

Ganwyd ef yn Tirgwyn, ffermdy, ar dir yr hon y mae capel Pensarn wedi ei adeiladu, ar y 24ain o fis Mehefin, 1798. Yr oedd yn fab i'r hen flaenor enwog Evan Davies, yr hwn y ceir ei hanes yn "Methodistiaeth Cymru," fel un o'r rhai mwyaf blaenllaw yn yr ymdrech o blaid ordeinio pregethwyr. Yr oedd yn wr cymwys at y gwaith yn ymresymwr cadarn, yn ymadroddwr medrus, ac yn un o benderfyniad di—ildio. Yr oedd ef ac Elizabeth ei briod, yn arfer myned i Llangeitho, ac mae yn debyg mai dan weinidogaeth Rowlands y cafodd hi deimlo gyntaf nerth yr efengyl. Eliz- abeth hefyd oedd enw ei famgu, gwraig Dafydd Samuel, Brynyr odyn, Tirgwyn wedi hyny. Yr oedd Dafydd Samuel yn un di-broffes y rhan fwyaf o'i oes, a phan aeth i broffesu, i Eglwys y plwyf yr aeth. Yr oedd Dafydd, fel y rhai ddaeth ar ei ol, yn un penderfynol iawn am ei ffordd, a byddai hithau Beti, yn gadael iddo ar unwaith, er mwyn tangnefedd y teulu. Oblegid hyny yr oedd wedi enill cymaint o'i ymddiried, fel yr oedd yn rhaid cael ei barn ar bob achos. Daeth rhyw achos pwysig iawn yn ei olwg ef, yr hwn yr oedd yn rhaid cael barn Beti arno, pan yr oedd hi wedi myned i Langeitho. Yn hytrach na phenderfynu o hono ei hun, aeth yntau i Langeitho. Gwelodd hithau ef trwy y ffenestr, ac aeth allan ato yn ddioedi; ac wedi gofyn iddo am achos ei ddyfodiad, dywedodd fod yno achos ag yr oedd yn rhaid ei chael i'w benderfynu. Aeth gydag ef ymaith ar unwaith. Yr oedd Mr. Rowlands yn ei hadnabod yn dda, a gwelodd hi yn cael ei galw ymaith ar ganol yr odfa; a chan fod ei galon mor lawn o deimlad, gweddiodd yn daer drosti ar ddiwedd yr odfa, gan ddweyd, ymysg pethau eraill, "Cychwynodd o gartref gan adael pobpeth yn dda, ond rhai y'n ni na wyddom beth a ddigwydd mewn diwrnod—y nerth yn ol y dydd, y nerth yn ol y dydd, Arglwydd, beth bynag ydyw," nes yr aeth yn deimlad angerddol trwy y dorf. Gellid meddwl fod tuedd Dafydd i ymollwng gyda'i dymherau, a mynu ei ffordd; a penderfyniad Beti, ar y prydiau hyny, i ddilyn ffordd tângnefedd, a ddaeth, dan ddylanwad Ysbryd Duw, yn fendith i'w thylwyth, ac hefyd i'r Cyfundeb ac i grefydd, trwy ei mab Evan, a'i hŵyr Jenkin Davies.

Yr oedd Tirgwyn yn lletya yr holl bregethwyr a ddeuai i Pensarn, a thrwy hyny, cafodd Jenkin gyfleusdra i'w hadnabod, a hwythau i'w adnabod yntau. Gofynai y Parch. Ebenezer Morris yn fynych i'w rieni "Beth fydd y bachgenyn hwn?" Pan ofynodd Mr. Morris i ysgol Pensarn pa bryd y dechreuodd yr oruchwyliaeth efengylaidd; wedi hir ddistawrwydd, atebodd Jerkin "Marwolaeth Crist oedd gorpheniad yr Hen Oruchwyliaeth, a'i adgyfodiad oedd dechreuad y Newydd." Yr oedd ei awydd am wybodaeth yn ddidor, o'i febyd, a dysgodd y Beibl mor gyflawn, fel y dywedodd y Parch. Ebenezer Richards wrtho, "Dylech chwi ofni yn fwy na neb o honom rhag gwneyd defnydd o'r Beibl pryd na ddylech, oblegid y mae genych ar ben pob bys.". Yr oedd yn gallu ei ddefnyddio yn ei bregethau a'i anerchiadau ar bob achlysur, fel y dywedodd yr un gwr am dano,—"Nid oes eisiau i ni ofni Jenkin Davies pan fyddo yn myned trwy'r gors, gan y bydd yn sicr o ofalu bod ceryg ddigon dan ei draed." Cafodd ysgol ddyddiol fwy na'r cyffredin yn ei amser, ac yr oedd penderfyniad y tylwyth yn amlwg ynddo gydag addysg, gan y mynai feistroli gob gwers, costied a gostiai o lafur iddo. Bu yn yr ysgol yn Llwyndafydd, Aberteifi, Capel y Fadfa, a Ceinewydd, lle y cafodd fantais ragorol, gan fod llyfrgell dda gan ei feistr, at yr hon y cyrchai yn fynych.

Priododd âg Elizabeth Davies, merch Synod Isaf; a noswaith y briodas yn Synod Uchaf, ffermdy lle yr oeddynt i fyw ar ol hyn, pregethodd Mr. Morris, Twrgwyn, oddiar 1 Cor. vii. 30, yn ol arferiad dda llawer yn y dyddiau hyny. Pan yn llawn 28ain oed, dechreuodd bregethu, wedi hir gymell arno, a disgwyl llawer wrtho. Buy Parchn. Ebenezer Morris, a David Evans, Aberaeron, yn Pensarn, yn ymddiddan âg ef dros y Cyfarfod Misol, Chwefror 23ain, 1825. Yr oedd yn bregethwr mawr ar unwaith yn nghyfrif y rhai mwyaf meddylgar, ac aeth son am dano yn fuan trwy yr holl wlad. Ordeiniwyd ef yn Nghymdeithasfa Aberteifi, Awst 1833. Cafodd ei alw i lenwi holl gylchoedd y Methodistiaid, pregethu yn y Cymanfaoedd, myned i Lundain a Bristol, a pha le bynag yr elai, yr oedd ei weinidogaeth yn gymeradwy gan y saint. Yr ydym yn ei gofio unwaith yn pregethu; nid oedd yn dal o gorff, yr oedd yn sefyll yn syth, ac heb symud fawr yn y pulpud, ond symudai ei ben i fyny ac i lawr, fel yn amneidio ar y gynulleidfa i dderbyn y gwirioneddau. Wynebpryd duaidd oedd ganddo, gwallt du, a hwnw yn hytrach yn sefyll i fyny yn anniben ar ei dalcen. Nid wyf yn cofio pa ddylanwad oedd ei weinidogaeth yn gael, ond clywais lawer wedi hyny o fawrygu ar Jenkin Davies, fel un o oreuon y pulpud. Nid oedd ganddo lais soniarus, ac nid ymddangosai fel yn cynhyrfu fawr wrth fyned ymlaen, ond traddodi yn ddwys o'r dechreu i'r diwedd, gyda drychfeddyliau rhagorol, frefn oleuedig a choeth, a'r adnodau yn yr holl bregeth fel "afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig."

Wedi byw am 15 mlynedd yn y fferm a nodwyd, gan weithio yn galed arni y dydd, ac astudio y nos, symudodd i Twrgwyn, i gymeryd gofal yr achos, fel bugail yno ac yn Salem, a hyny ar alwad daer yr eglwysi. Yr oedd hefyd wedi cael ei alw i fod yn fisol yn Capel Drindod, ar ol marwolaeth Mr. Richards, Tregaron. Yr oedd y ddwy alwad bron yr un pryd, yn 1838. Bu fyw yn y Moelon Uchaf, yn ardal Twrgwyn; ac oddiyno symudodd i Nantgwylan, lle y bu farw ar y 10fed o Awst, 1842, yn yr oedran cynar o 44. Rhwng pob math o alwadau arno, fel areithiwr ar ddirwest, ar y Feibl Gymdeithas, a'r holl waith a osodai y Cyfarfod Misol arno, heblaw ei ofal bugeiliol, yr oedd yn gweithio ei hunan allan yn gyflym. Aeth i Gymdeithasfa Llanbedr yn niwedd Gorphenaf, a chan fod yr hin yn wlyb, cafodd anwyd trwm, yr hyn a waethygodd ei iechyd yn fawr. Yr oedd y Gymdeithasfa wedi gosod arno, draddodi y Cyngor ar ordeiniad pregethwyr yn y Gymdeithasfa ddilyno!, a gorphenodd ef yn ei gystudd. Dywedai wrth frawd oedd yn ymweled âg ef, iddo gael mwy oddiwrth yr Arglwydd yn ei gystudd nag a feddyliodd a gawsai byth yn y byd hwn. Rhyw fath o dwymyn boeth oedd ei glefyd, a byddai ei feddwl weithiau yn dyrysu, nes iddo fyned yn bryderus am dano ei hun, y dywedai rywbeth fyddai yn "waradwydd i'r ynfyd." Pan welodd mai marw yr oedd, galwedd y teulu oll, gan eu cynghori yn ol eu hamgylchiadau. Wedi deal! mai twymyn boeth oedd ei glefyd, yr oedd yn fynych yn dweyd y geiriau hyny, "Gogoneddwch yr Arglwydd yn y dyffrynoedd," a defnyddiai hi fel y mae yn Saesneg," Gogoneddwch yr Arglwydd yn y tanau." "Yr wyf fi yn y tanau heddyw," meddai "yn y fever boeth; O, am gael gogoneddu yr Arglwydd yn y tanau." Ac ail adroddai y geiriau drosodd a throsodd. Fel y nodwyd yn barod, bu farw ar y 10fed o Awst, 1842, a chladdwyd ef yn mynwent Llandisiliogogo, yn agos i Pensarn. Mab iddo ef oedd y diweddar David Jenkin Davies, Ysw., U.H., Aberystwyth. Cyhoeddwyd Cofiant iddo, gwerth chwe'cheiniog, gan y diweddar Barch. Abel Green, a Mr. John Richard Jones, Aberaeron, yr hwn sydd yn llyfryn gwerthfawr iawn fel coffadwriaeth am dano.

PARCH. JOHN DAVIES, BLAENANERCH.

Mab ydoedd i Stephen ac Eleanor Davies, Cyttir mawr, ffermdy yn agos i'r ffordd fawr, ar y dde, wrth fyned o Blaenanerch i Aberteifi. Yma y treuliodd ef, a'i frawd, y Parch. David Davies, Twrgwyn, eu mebyd a'u hieuenctid. Ganed ef yn 1827, dechreuodd bregethu yn 1850, ordeiniwyd ef yn Llangeitho, yn "Sasiwn y diwygiad mawr," fel ei gelwir, yn Awst 1859, a bu farw Ebrill 26, 1891, yn 64 oed, wedi bod yn pregethu am oddeutu 41 o flynyddoedd. Aeth i'r Bala yn 1852. Wedi gorphen ei addysg yno, bu yn cadw ysgol yn Blaenanerch am flwyddyn. Yna, ar gais y Cyfarfod Misol, ymgymerodd a bugeiliaeth yn Llandyssul a Waunifor, Yma yr oedd gofal y pulpud i gyd arno ef. Wedi priodi â Miss Harries, Castell Henry, symudodd yno i fyw, ac adnabyddid ef dan yr enw John Davies, Woodstock. Er na fu y briodas ond bèr, bu ef yno yn byw gyda'i dad-yn-nghyfraith am flynyddoedd. Ymgymerodd tra fu yno â gofal y weinidogaeth a'r fugeiliaeth yn Penffordd a Gwastad. Yn y diwedd, wedi gwrthod galwadau i leoedd gwell, daeth yn ol i'w hen ardal ar ol cael galwad i Aberporth a Blaencefn. Dyna wahanol symudiadau ei fywyd. Priododd drachefn & Miss Hannah Williams, Glanffurddyn, yr hon sydd wedi ei gadael yn weddw gyda chwech o blant ieuainc iawn.

Fel dyn, yr oedd yn feddianol ar feddwl penderfynol, a safai yn gadarn fel craig dros yr hyn a ystyriai yn briodol a chyfiawn. Fel cyfaill, yr oedd ef yn un o ymddiried. Gellid bod yn sicr y byddai ei ochr ef yn gywir tra byddai pethau yn sefyll fel yr oedd ef yn credu y dylent. Nid oedd yn hawdd nesau ato, ond wedi nesau, cawsid ei fod yn meddu ar elfenau cyfaill o'r iawn ryw. Oblegid ei fod yn cael ei flino yn fawr gan ddiffyg traul am flynyddoedd, nid oedd yn gallu bod mor fywiog a chyfeillgar ag y dymunai fod yn fynych. Fel Cristion, yr oedd uwchlaw amheuaeth. Yr oedd yn weddiwr mawr, cofir ei weddiau yn hir mewn cyfarfodydd cyhoeddus, ac wrth yr allor deuluaidd. Yr oedd yntau yn hoff o ganu, fel ei frawd, a mynai ganu yn yr addoliad teuluaidd ymhob man, os gwelai fod yno ychydig ddefnyddiau at hyny. A rhwng y canu gwresog a'r weddi daer dros y teuluoedd, yr oedd meddwl uchel o hono gan lawer o deuluoedd, a pherarogl hyfryd ar ei ol. Yr oedd yn hoff o'r difyr, ond nid heb yr adeiladol; a phan yn ymddiddan, os byddai hyny am symudiadau yr achos crefyddol, gwelid ef yn ei elfen.

Dyna John Davies yn y pulpud, ac y mae yn awr yn ei le. Mae pawb yn addef ei fod yn bregethwr, ac yn un o'r pregethwyr goreu. Mae natur a gras wedi ei gymhwyso at y lle y mae ynddo yn awr. Mae yn dal ac yn esgyrnog o gorff, ond hytrach yn deneu. Ei ben yn sefyll ymlaen ac yn gam, a'r ysgwyddau yn uchel a llydain. Y wynebpryd yn dduaidd a thrymaidd. Genau llydain, a'r ên isaf fel yn symud o un ochr i'r llall wrth siarad. Y llais yn ddwfn a mawreddog; y mae hwn ynddo ei hun yn ddigon i gynyrchu disgwyliad yn y gynulleidfa am bregeth dda a hwyl go lew. Mae yn aflonydd iawn, yn symud o un ochr i'r pulpud i'r llall, a hyny yn barhaus, gan roddi ei law ddehau yn gadarn ar ymyl y pulpud, y tu dehau i astell y Beibl a'r Llyfr Hymnau, yna yn symud i'r ochr chwith gan daro y llaw chwith yn gadarn, ar ochr chwith i astell Beibl. Felly yn barhaus, ond yn wylltach yr olwg, a'r llais yn codi, ac yn dyfod yn fwy clochaidd. Medr ehedeg yn uchel, a chloddio yn ddwfn. Mae wrth ei fodd; ïe, mae ar ei wên, pan gydag

"Uchelderau maith ei Dduwdod,
A dyfnderau mawr ei ddyndod,"

yn enwedig os bydd hwyl; neu ymddengys y cymhariaethau a'r farddoniaeth i raddau yn glogyrnaidd ac os bydd hwyl, y mae yr oll yn ogoneddus. Gyda'r pregethau ymarferol, megis ar y geiriau "Bydded genyt sêl," "Deffro, deffro, gwisg dy nerth Seion," yr oedd bob amser yn dda. Clywsom bregethau rhagorol ganddo ar y geiriau, "Yr hwn ni waeth bechod, a wnaeth efe yn bechod drosom ni, fel i'n gwnelid ni yn gyfiawnder Duw ynddo ef;" "ond y corff sydd o Grist;" "Yr hwn yw delw y Duw anweledig, cyntaf-anedig pob creadur;" "Trowch eich wynebau ataf fi holl gyrau y ddaear," "Canys myfi ydwyf Dduw, ac nid neb arall." Gellir dweyd ei fod fel pregethwr yn deilwng o'r lleoedd uchaf yn y Cyfundeb; a gobeithio y gwelir llawer o'i bregethau yn argraffedig eto.

Yr oedd yn llenor da. Ysgrifenodd lawer o erthyglau i'r Traethodydd, ac i amryw gyhoeddiadau eraill, heblaw y Cofiant a ysgrifenodd, yn gyfrol haner coron, ar ol y Parch. John Jones, Blaenanerch. Ond cyn gweled John Davies yn gyflawn, rhaid i ni gymeryd golwg arno yn holl gylchoedd ei fywyd fel dyn, Cristion, a bugail. Ac i ni gymeryd yn ganiataol mai mewn "llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro," ac na welir neb heb ei fai, gellir meiddo dweyd am dano iddo enill gradd dda o anrhydedd a defnyddioldeb, fel meddyliwr cryf ac astudiwr caled, fel gweithiwr diflino gydag amcanion cywir, fel pregethwr rhagorol yn y pulpud, ac areithiwr dirwest a gwleidyddiaeth o radd uchel, ac fel un yn cymeryd dyddordeb cyffredinol yn ngweithrediadau y Cyfundeb yn ei sir ei hun ac ymhob man. Nid codi i fyny i ddweyd rhywbeth ar fater y seiat gyffredinol yn y Cyfarfod Misol y byddai, ond myned i fewn iddo, a dyfod a phethau newydd a hen allan o hono, a hyny gyda gwresogrwydd ysbryd ac egni corff nes cynhyrfu y gynulleidfa, ac adeiladu crefydd ysbrydol Teimlir colled fawr ar ei ol yn hyn, yn gystal ag fel holwr ysgol adeiladol mewn Cymanfa, a rheolwr cyfarfod eglwysig gartref gyda'r saint. Dioddefodd boerau mawrion yn ei ranau tufewnol am wythnosau, ac yn y diwedd, cafodd ei daro gar y parlys mud, nes myned allan o gymdeithas marwolion cyn myned i "gymanfa a chynulleidfa y rhai cyntaf-anedig." Claddwyd ef yn mynwent capel Blaenanerch.

E

PARCH. THOMAS EDWARDS, CWMYSTWYTH.

Mab ydoedd i James a Sarah Edwards. Ganed ef yn Nantgwine, Cwmystwyth, Mehefin 30ain, neu Gorphenaf laf, 1824. Ni chafodd lawer o addysg foreuol, ac ni adwaenem neb wedi gwneyd mwy o'r addysg a gafodd. Yr oedd ei dad yn cadw siop, ac ni feddyliai ond i'w unig fachgen oedd yn fyw i fod yn siopwr fel yntau. Ond gan na ddaeth y siop ymlaen gystal ag y disgwylid, myned i weithio i waith plwm y gymydogaeth a wnaeth Thomas, a hyny nes cael ei ordeinio i gyflawn waith y weinidogaeth. Wedi ymgymeryd a chrefydd o ddifrif, daeth ei gynydd yn amlwg i bawb, fel y cafodd yn fuan bob swydd o ymddiried yn yr Ysgol Sabbothol ac yn yr eglwys, megis athraw, arolygwr, areithiwr hyawdl ar bron bob mater; ac yn y diwedd, dewiswyd ef yn yn flaenor yn yr eglwys, pan oddeutu 27ain oed.

Er cael ei godi i fyny yn yr eglwys, gwrthgiliodd am rai blynyddoedd, hyd nes iddo gael ei argyhoeddi yn ddwfn o'i bechadurusrwydd. Bu mewn tywydd mawr, ar ol rhyw bregethau fu yn wrando yn y capel, a disgwyliai gael rhyddhad i'w feddwl yn Nghymdeithasfa Aberystwyth, lle yr oedd llawer o'r enwogion yn pregethu, ond dyfod adref dan ei faich a wnaeth, ac yn fwy llethol ei feddwl. Boreu Sabbath ar ol hyny, pan oedd cymydog iddo yn pregethu, sef y diweddar John Jones, Ysbytty, cafodd yr hyn a ddymunai, a gorlanwyd ef o lawenydd. Ar ol hyny drachefn, bu mewn ymdrechfeydd celyd âg anghrediniaeth, ond mewn gweddiau a myfyrdodau yr oedd yn cael goruchafiaeth trwy yr Hwn a'i carodd.

Yr ymrysonfeydd mwyaf celyd fu yn ei feddwl oedd ynghylch dechreu pregethu. Wrth weled ei ddefnyddioldeb ymhob cylch, a'r gallu rhagorol oedd ynddo i siarad ar faterion crefyddol, cymhellid llawer arno i ddechreu ar y gwaith. Ond ni ddechreuodd neg bod yn llawn 30ain oed, yn wr priod a thad i blant. Daeth allan, fel y gallesid disgwyl, yn bregethwr da a chymeradwy ar unwaith, gan roddi lle i ddisgwyl fod iddo le mawr yn y weinidogaeth eto, fel y bu yn y cylchoedd eraill o'r blaen. Llafuriai yn wyneb llawer o anfanteision. Yr oedd yn byw mewn lle anghysbell rhwng mynyddoedd, a bron bob taith Sabbothol ymhell oddiwrtho. Yntau yn gweithio yn y gwaith ar hyd yr wythnos, heb gael fawr o hamdden i ymbarotoi ar gyfer y pregethu.

Ordeiniwyd ef yn Llanbedr yn y flwyddyn 1862. Yna rhoddodd i fyny y gwaith, ac aeth i gadw ysgol ddyddiol yn y Cwm. Y fath anturiaeth i ddyn yn ei amgylchiadau ef? Ni chafodd awr o ysgol ar ol gadael ei bymtheg oed. Bu 15 mlynedd arall yn gweithio yn y gwaith cyn dechreu pregethu, a 6 mlynedd arall a mwy wedi dechreu. Wrth reswm, yr oedd yn rhaid iddo lafurio yn galed i symud y rhwd oedd wedi casglu dros ei feddwl am 21 mlynedd. Nid am chwarter y gauaf, yn ol hen arferiad y wlad, y byddai yn cadw yr ysgol, ond dros yr holl flwyddyn, a myned i'w deithiau Sabbothol hefyd. Daeth i ben a'r oll heb fawr o rwgnach yn ei erbyn; ond bron yn ddieithriaid, byddai gartref boreu Llun i ymaflyd yn ngwaith yr ysgol, er mor bell yn fynych y byddai y Sabbath.

Nid oedd dyfnder mawr yn ei feddyliau, ond yr oedd yn gwneyd i fyny am hyny mewn lled, ac yn nghyffredinolrwydd ei ddefnyddioldeb. Bu yn gadeirydd Cyfarfod Daufisol Dosbarth Cynon, sef ei Ddosbarth ei hun, am flynyddoedd lawer, ac yn gwneyd gwaith bugail mewn amryw o gapeli y Dosbarth. Pentyrwyd amryw o swyddau yn y Cyfarfod Misol i'w ofal, megis ysgrifenydd y Drysorfa Sirol, ac ysgrifenydd y Cyfarfod Misol, ac yr oedd yn gwneyd yr oll yn ddeheuig ac i foddlonrwydd cyffredinol. Yr oedd yn wr hoff gan bawb ei weled a'i dderbyn i'w tai, ac yn un a hoffid yn llawn cymaint yn y pulpud. Yr oedd yn ddyn y bobl ymhob ystyr, ac yn wr o ymddiried ymhob cylch.

Er mwyn y rhai nas gwelodd ef, bydd y desgrifiad canlynol o'i ddyn oddiallan yn ddymunol. Yr oedd o daldra cyffredin, yn deneu o gnawd dros ei holl oes. Gwallt goleu, yr hwn a gafodd ei gadw heb ei golli na gwynu fawr hyd ddiwedd ei yrfa. Talcen llydan ac uchel, a'i wyneb yn culhau yn raddol hyd yr ên. Llygaid yn tueddu at fod yn fawr, y canol yn llwyd-oleu a'r cylch gwyn y tu ol i hyny yn llydan ac amlwg. Wrth edrych ar ei wynebpryd mewn cynulleidfa, ymddangosai fel pe byddai dan wasgfa ynghylch y pethau fyddai dan sylw, pa un bynag ai siarad ai gwrando y byddai. Pan ddeuai i'n cyfarfod ar y ffordd, deuai gyda gwên sirioi o draw, ond nid gwên chwerthingar fyddai, er yn llawn o groesaw a chyfeillgarwch. Pan gerddai, yr oedd yn hytrach yn gam, fel pe byddai yn chwilio am waith, ac mewn ysbryd parod ato Yr oedd ganddo lais clir a soniarus, a medrai waeddi yn hyfryd, ond ni chlywid ef nemawr byth yn bloeddio. Yr oedd o ymddangosiad boneddigaidd, ond bob amser yn syml a dirodres.

Yr oedd yn cwyno oblegid gwaeledd iechyd yn fynych, a bu yn gwaelu yn raddol am fisoedd lawer cyn marw, er nad oedd ei gystudd yn boenus iawn. Ysgrifenodd Hunangofiant a Hanes Cwmystwyth yn ei waeledd. A chan fod hwnw wedi ei gyhoeddi, yn llyfryn swllt a deunaw, a hyny mor ddiweddar, ni wnawn roddi rhagor o'i hanes yma. Bu farw am 5 o'r gloch boreu Sabbath, Chwefror 27ain, 1887, yn 62 oed. Dywedodd wrth un oedd yn ymweled ag ef nos Sadwrn, y byddai y trên yn ei gyrchu adref am bump boreu dranoeth, ac felly y bu. Proffwydodd hefyd cyn hyny fod tyrfa o hâd yr eglwys yn dyfod i gymundeb. Yr oedd hyn yr wythnos olaf y bu fyw, a dywedodd ef lawer gwaith. A'r ail Sabbath ar ol ei gladdu, yr oedd rhestr fawr o hâd yr eglwys yn cofio angau y groes am y tro cyntaf. Mae yn debyg iddo gael ei arwain at hyn mewn atebiad i'w weddïau. Cafodd ei gladdu yn y fynwent newydd helaeth sydd o dan y capel, ac efe oedd y cyntaf a gladdwyd yno; ond aeth Mrs. Edwards yn fuan ar ei ol. Yn y Fron yr oeddynt yn byw, lle y mae y merched eto.

PARCH. THOMAS EDWARDS, PENLLWYN.

Ganwyd ef yn Pwllcenawon, ger Penllwyn, yn y flwyddyn 1813, a bu farw Medi 18fed, 1871, yn 58 mlwydd oed. am Bu yn pregethu 38 o flynyddoedd, ac felly dechreuodd bregethu pan yn 20 oed. Ordeiniwyd ef yn 1844, yn Nghymdeithasfa Llangeitho. Yr oedd ef yn un o'r efrydwyr cyntaf yn Athrofa y Bala, yr hon a agorwyd yn 1837, gan ei frawd, Dr. Edwards, a brawd-yn-nghyfraith hwnw, sef Dr. Charles, yr hwn a aeth yn athraw Trefecca yn 1842, pan yr agorwyd yr athrofa hono. Yr oedd ef yn ddysgwr da, ond nid cystal a'i frawd Lewis, ac nid oedd ei benderfyniad na'i gyfleusderau yn gymaint. Ar ol dyfod o'r athrofa, ymsefydlodd yn ei ardal enedigol. Priododd ag Anne Edwards, cyfnither iddo, merch y Glascrug, ffermdy yn ymyl ei gartref, ac aeth yno i fyw ati am ychydig; ond gan fod y lle yn fawr, a fferm arall o'r enw Trering gyda hi, rhoisant i fyny y gyntaf, ac aethant i fyw i'r olaf, yr hon oedd yn llai o faint. Ac yn Trering y treuliodd ef y rhan fwyaf o'i oes bregethwrol, hyd nes iddo, yn ei flynyddoedd olaf, adeiladu ty yr ochr arall i'r afon Rheidiol, ac yn agos i'r capel. Bu ef am ychydig yn aelod yn Capel Seion, tra yn byw yn Glascrug. Gyda hyny o eithriad, yn Penllwyn y bu am ei oes, a bu yno yn fugail hefyd am lawer o'i flynyddoedd olaf, ac yn gwneyd gwaith bugail ffyddlawn cyn hyny.

Yr oedd yn dal o gorff, ac yn sefyll yn unionsyth bron bob amser ac ymhob lle. Ni ddarfu iddo dueddu at dewhau erioed, ond dyn teneu, main, a gwanaidd, fu trwy ei oes. Gwallt melyngoch, pen crwn, gwyneb diflew, llygaid siriol, cymharol fawr, gwefusau tewion, gwddf hir, ac ysgwyddau culion. Yr oedd bob amser yn siriol a bywiog pan yn ymddiddan â chyfaill, ac felly gyda phob peth; ond ni ellid dweyd ei fod yn ddyn sharp a brysiog. Mae un peth yn sicr, yr oedd bob amser o ymddangosiad tawel a boneddigaidd, yn parchu pawb, ac yn cael ei barchu gan bawb. Gwisgai yn drws iadus, ac i raddau pell, yn ol y ffasiwn. Eto yr oedd gostyngeiddrwydd yn un o'r llinellau mwyaf amlwg yn ei gymeriad: pan ganmolid ef, byddai yn hawdd g:veled ei fod ef yn dweyd "gwas anfuddiol;" nid oedd yn hawdd gweled byth ei fod ef am fod o flaen ei frodyr, ond bob amser am "eistedd yn is i lawr" na'r lle oedd y bobl yn roddi iddo; a byddaf yn gosod anrhydedd ar y brodyr gwaelaf yn y weinidogaeth, ac ymhob lle arall, ac yn ei osod ei hun yn y llwch. Diamheu fod hyn i'w briodoli i'w synwyr cyffredin cryf fel dyn, ac i'w ras mawr fel Cristion, yr hyn oedd yn ei wneuthur yn "wr anwyl," hynaws, tirion, a llawn o garedigrwydd.

Yr oedd yn bregethwr rhagorol, ac yn un o'r rhai blaenaf yn ei sir. Nid ellid dweyd ei fod yn bregethwr athrawiaethol, nac yn un dwfn o ran materion, na'i ddull o'u trin; ond yr oedd bob amser gyda chnewyllyn y testyn, gan amcanu o'r dechreu i'r diwedd egluro y gwirionedd i ddeall a chydwybod ei wrandawyr. Ni amcanai dynu sylw ato ei hun, na goglais teimlad y gynulleidfa; ond gwelai pawb mai ei nôd oedd achub pechaduriaid ac adeiladu yr eglwys. Yr oedd y "gwirionedd presenol " o flaen ei lygaid yn ei holl bregethau. Yr oedd yn hawdd gweled fod eglwysi Sir Aberteifi, arferion y wlad, a thuedd yr oes, yn cael eu portreadu o'i flaen pan yn astudio ei bregethau, a phan yn eu traddodi. Siarad ac ymresymu y byddai, gan ddal ei law ddehau i fyny, heb ei chodi i fyny yn uchel iawn, na'i thaflu yn ol ac ymlaen yn wyllt ac annrhefnus. Yr oedd yn egluro ei bwnc o'r dechreu, ac yn ymresymu drosto â'r gynulleidfa, nes y byddai ei ysbryd yn poethi, ei bwysleisiad yn drymach, a'i lais yn dyrchafu, fel y byddai yn myned ymlaen, nes y byddai yn awr a phryd arall yn ysgwyd y dorf. Nid oedd ei lais yn ddawnus, ac ni amcanai at ganu ei bethau; ond daliai i ymresymu a'i wrandawyr yn y poethder mwyaf a'r hwyliau goreu. Yn niwygiad 1859, yr oedd ef yn ail i'r Parch. David Morgan am ddylanwadu ar y wlad, a chadwodd yn ysbryd y diwygiad hyd ddiwedd ei oes. Pregethodd y pryd hwnw ar y "Mab afradlon," "Cyfod, esgyn i Bethel," "Y pethau a lanhaodd Duw na alw di yn gyffredin," &c. Yr oedd ganddo allu desgrifiadol cryf, ac arferai gryn lawer o hono yn y bregeth ar y "Mab afradlon," fel yr oedd yn un o'r pregethau mwyaf effeithiol a wrandawsom erioed. Dangosodd yr afradlon yn myned o dŷ ei dad, yn y wlad bell, ac yn dyfod yn ol, gan ddangos ei wrandawyr o hyd yn yr oll, nes yr oedd teimlad angerddol trwy yr holl le. Ond nid oedd ef yn ymollwng gyda'r teimlad, fel ag i beidio egluro ei destyn. Yn y bregeth hon dywedai, "Nid wyf fi yn meddwl mai y diafol oedd un o ddinaswyr y wlad hono,' ond un o'r hen bechaduriaid mwyaf,—un digon hen mewn pechod, a digon hynod ac adnabyddus, nes bod yn un o'r dinaswyr." Gofynai hefyd, "Paham na byddai yn dweyd wrth ei dad, Gwna fi fel un o'th weision cyflog?" Aeth dros y gwahanol farnau, a dywedodd mai yr oreu ganddo ef oedd yr olwg gariadlawn, faddeuol, a thosturiol oedd ar ei dad yn ei gyfarfod, barodd iddo adael y rhan hono o'r phrase oedd ganddo yn ei feddwl ar ol. Yna rhoddodd ddesgrifiad o olwg y Tad, gan wneyd defnydd o honi i gymell pechaduriaid ato. Clywsom ef ar haf sych iawn yn pregethu ar noson waith ar y geiriau, "Er i'n hanwireddau dystiolaethu i'n herbyn, eto gwna di er mwyn dy enw," &c. Bu llawer o son am y bregeth hon yn yr ardal lle ei traddodwyd. Pregeth a wnaeth lawer o les ar hyd y wlad hefyd oedd yr un ar y geiriau, "Gwared y rhai a lusgir i angau."

Nid fel pregethwr yn unig yr oedd Mr. Edwards yn fawr; ond yr oedd yn un o ddefnyddioldeb cyffredinol. Yr oedd yn drefnwr rhagorol yn ei gartref, ac yn y Cyfarfod Misol, a "gwir ofalai " am yr holl waith. Bu am rai blynyddoedd yn ysgrifenydd y Cyfarfod Misol, a bu hyny yn foddion i anmharu ei iechyd, trwy ei ddilyn i bob lle, ac ar bob tywydd, a dioddef llawer o oerfel ynddynt. Yr oedd rhan isaf y sir, a'r ganol hefyd, yn ystyried y cyfarfod yn bur gyflawn ond ei gael ef a Mr. Roberts, Llangeitho, iddo. Ond oblegid ei wyleidd-dra naturiol, a'i ddiffyg ymddiried ynddo ei hun, nid aeth gymaint o gartref i siroedd eraill a llawer o'i frodyr; ond y mae hanes ei fod wedi pregethu yn rhagorol mewn rhai Cymanfaoedd. Ond gartref yn ei sir ei hun yr oedd ef yn fawr, ac mewn amryw leoedd yn Meirionydd. Yr oedd ynddo hefyd gymwysderau llenor gwych. Nid ymarferodd ei hun i ysgrifenu fawr ar a wyddom ni, nes i'r Arweinydd gael ei gychwyn yn 1862, dan ei olygiaeth ef a'r Parch. Griffith Davies, Aberteifi. Heblaw ei gydolygu, ysgrifenodd erthyglau iddo ar "Y Gair a'r Ysbryd," "Gair at flaenoriaid eglwysig," mewn dwy erthygl; "Gair at bregethwyr ieuainc," "Gair at rieni a phenau teuluoedd," "Ymgom rhwng Simon Pedr a Simon y Phariseaid," mewn tair erthygl; "Brawdgarwch," "Paul yn y cyfarfod eglwysig;" mewn dwy erthygl, &c. Mae yr erthyglau olaf ar y cyfarfod eglwysig am y dull o'i gadw yn fwyaf neillduol. Dywedir ei fod ef yn teimlo mai hwn oedd y cyfarfod y pryderai fwyaf yn ei gylch; a dywedai pa mor llawen oedd pan oedd Mr. Roberts, Llangeitho, yno i'w gadw ryw dro. "Yr oeddwn yn myned yno," meddai, "yn ysgafn fy nghalon, dim ond gweddio am lewyrch arno." Gwelir yn ei ysgrifeniadau ei fod ef, fel ei frawd o'r Bala, yn hoff iawn o'r dull ymddiddanol o ysgrifenu.

Dywedai wrth fedyddio, "Mae yn ddrwg genyf na chefais i blentyn i mi gael ei roddi i'r Arglwydd; byddai genyf felly etifeddiaeth i'w rhoddi iddo o eiddo fy hun; ond yr wyf fel yma yn cael y fraint o gydymuno âg eraill i roddi rhai iddo," &c. Gyda golwg ar bregethwyr a gwneyd pregethau, dywedai, "Yr oedd dau ysgubellwr, ac un o honynt yn gwerthu islaw y llall, yn digwydd siarad â'u gilydd, a gofynai un i'r llall 'Pa fodd yr wyt yn gallu eu gwerthu mor rhad, yr wyf fi yn methu cael dim ynddynt er lladrata y brigau bron i gyd.' 'O druan,' meddai y llall, 'yr wyf fi yn lladrata y cwbl.' Felly am danɔ' ni y pregethwyr, mae pawb o honom yn lladrata peth, ond gobeithio nad oes neb yn eu dwyn yn grynion." Pan yn adrodd rhesymau rhai dros beidio ymuno â chrefydd, dywedai, "Cwrddodd crefyddwr â dyn di—grefydd, a chymhellodd ef i wneyd proffes, ond ni roddai gydsyniad i ddim, ond beiai grefyddwyr ei ardal yn fawr iawn. Cwrddodd yr un dyn âg ef drachefn, a gofynodd, 'Pa fodd yr ydych yn awr; ni y crefyddwyr sydd yn eich blino eto mi waranta.' 'Na,' meddai y dibroffes, 'Yr wyf wedi gadael hyny yn awr, yr wyf yn edrych ar y ffordd yma, er fod tlodion, cloffion, a rhai drwg ei cymeriad yn ei thrafaelu, nid yw hyny yn ei gwneyd yn waeth i mi.'" Am y cyfarfod eglwysig dywedai, "Un dda yw y seiat i adeiladu yr eglwys. Mae y naill yma yn helpu a chyfarwyddo y llall, yr hen yn calonogi ieuanc. Fel y clywais am filwyr gyda rhyw faterion yn methu penderfynu ffordd i wneyd, er fod yno gapteniaid, a generals; ond cododd yno hen filwr oedd wedi bod gyda'r enwogion yn mrwydr Waterloo, a dywedodd pa fodd yr oeddynt yn gwneyd y pryd hwnw, nes y tawelodd ac y boddlonodd pawb. Felly ni fydd Seion byth heb rywrai profiadol o bopeth sydd i'w gwneyd a'u dioddef, i'w mwynhau fel cysuron a'u mabwysiadu fel rheolau. Mae yma bobpeth, ond i ni fod yn barod i 'fynegu yr hyn a wnaeth Efe i'n heneidiau.'

Dywedai yn Nghyfarfod y Pregethwyr yn Nghymdeithasfa Gwrecsam, "Yr oeddym ni yn y Deheudir yn rhyfeddu at ddoniau Mr. Elias, ond dywedid wrthym gan bobl Sir Fon, 'Synu at ei ddoniau yr ydych chwi, ond synu at ei dduwioldeb yr ydym ni.' Ei fod yn wr mawr gyda Duw oedd dirgelwch ei lwyddiant. Un o'r pethau effeithiodd fwyaf arnaf fi yn fy oes, oedd clywed pregethwr oedd yn cyd-gysgu gyda mi yn dal i weddio bron drwy y nos. Dywedai ac ail ddywedai y geiriau hyny, 'Llawn yw tywyll leoedd y ddaear o drigfanau trawsder.' Ni wyddai pa un a'i cysgu yr oedd neu ar ddihun. ond dywedai drachefn y penill Gwawria gwawria. hyfryd foreu.' Yr oeddwn ar y pryd bron yn rhy wan i anadlu. Yr oedd cywilydd yn meddianu fy enaid na byddai mwy o ysbryd gweddi ynof finau. Na foddlonwn ar weddio 'Estyn gymorth i ni rhag i ni fyned dan warth, rhag i ni gael ein darostwng yn ngolwg y bobl.' Mae gweddio felly yn dda, ond yn y cyntedd nesaf allan y byddwn; y mae cyntedd arall yn bod, y nesaf i mewn, a phan yr elom i hwnw, i'r sancteiddiolaf, yr ydym yn colli golyg ar ryngu bodd dynion. Dyna fydd mater ein gweddi y pryd hwnw Dyro genadwri ag y byddo ei hargraff ar y bobl am flynyddoedd, ie, am dragwyddoldeb.'" Dalied y darllenydd sylw ar y darn uchod, gan fod dull Mr. Edwards o draddodi i'w weled yn amlwg ynddo, sef aralleirio y peth er mwyn ei argraffu yn ddyfnach ar feddwl y gwrandawyr; ac wrth aralleirio, byddai ei lygaid yn tanio, a'r pwyslais yn llawer trymach, a phawb yn gweled fod yno rywbeth y mynai y pregethwr iddynt ddal arno.

Bu am wythnosau yn glaf. Mwynhaodd lawer o gysuron yr efengyl, ond yr oedd yn ochelgar iawn wrth eu dweyd, fel yr arferai ar hyd ei oes, pan yn adrodd ei bethau personol. Tan ymwelsom ag ef, mynegu ei lawenydd wnaeth am iddo glywed ryw ddyddiau cyn hyny, am ofal manwl ei frodyr wrth ymweled a'r eglwysi. "Gallaf fi fforddio eich gadael," meddai, "mae yma frodyr sydd yn gwir ofalu am yr achos." Cafodd gladdedigaeth tywysog. Nid

oedd mynwent y capel wedi ei chael ar y pryd, felly yn mynwent Eglwys Bangor y rhoddwyd ei weddillion; ond codwyd cofgolofn hardd iddo o flaen y capel. Teimlwyd colled fawr yn yr eglwysi ar ol un oedd mor ilwyr—ymroddgar i waith ei Feistr. Un y gellid dweyd am ei gymeriad fel am y goleuni ei fod yn llewyrchu "fwyfwy hyd ganol dydd." Yr oedd ei ddefnyddioldeb mor fawr fel yr ymddangosai yn beth anmhosibl ei hebgor, hyd yn nod i fyned i'r nefoedd. Ond yno yr aeth, a hyny yn gymharol ieuanc.

PARCH. DANIEL EVANS, CAPEL DRINDOD.

Ganwyd ef yn Cefnllechglawdd, am y ffin a Sir Aberteifi, ac heb fod ymhell o Gapel Drindod. Yr oedd ei dad yn grydd wrth ei alwedigaeth, ac efe oedd yn gweithio i balasdy Llysnewydd. Bu farw yn ieuanc, a chan fod golwg fawr arno yn Llysnewydd, cymerwyd Daniel Evans i fewn i'r palas, a gofalwyd am dano fel mab, a chymerodd yr un teulu hefyd ofal am ei fam. Cafodd lawer o fanteision yno fel Moses yn llys Pharaoh; dysgodd Saesneg, yr hyn a'i galluogodd trwy ei oes i ddeall llyfrau Saesneg. Yn y diwedd, rhoddodd y gwr bonheddig, Mr. Lewis, grefft ei dad iddo, a dysgodd hi yn dda. Priododd â Margaret, merch Griffith Evans, y Ddol, yr hon a gyfrifid yn aelod o seiat Llangunllo, gan mai Mr. Griffiths, yr offeiriad, oedd yn ei chadw, er mai seiat y Methodistiaid ydoedd, a hyny ymhell cyn codi capel Drindod. Wedi priodi, aeth i fyw i'r Cwmins, ar dir Penbeilumawr, a phan yma, cafodd grefydd, tra yr oedd diwygiad mawr yn y wlad. Yr oedd golwg fawr gan y Parch. Ebenezer Morris arno fel dyn ac fel Cristion, a chymhellodd lawer arno ddechreu pregethu. Traddododd ei bregeth gyntaf hefyd o'i flaen yn Tower Hill, gyda Mr. a Mrs. Lewis, teulu a aeth i'r Eglwys yn amser yr ordeinio, Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1797, pan oedd ef yn 23ain oed. Barn pawb am dano oedd, ei fod yn bregethwr rhagorol; ac y mae y safle a enillodd yn y Cymdeithasfaoedd, Cyfarfod Misol ei sir, ac yn yr eglwysi yn gyffredinol, yn profi ei fod yn cael ei gyfrif yn un o'r pregethwyr goreu yn ei ddydd. Mae genym farn un o'r beirniaid goreu am dano, sef y diweddar Barch. Owen Thomas, D.D., yr hwn a ysgrifenodd atom fel y canlyn:—"Yr oedd Mr. Daniel Evans mor gynefin i ni yn Sir Fon a Sir Gaernarfon a phe buasai yn byw yn ein plith. Y mae yn sicr y byddai yn dyfod heibio i ni bob blwyddyn, ac ambell flwyddyn ddwywaith, os nad tair. Rhoddid ef i bregethu mewn lle amlwg ymhob Cymdeithasfa y byddai ynddi, a gwelais ef rai gweithiau yn cael buddugoliaeth deg ar y gynulleidfa. Achlysurodd un bregeth iddo, yr hon a bregethai yn lled gyffredin ar y daith hono, gryn lawer o ysgrifenu, naill ai yn yr Eurgrawn Wesleyaidd neu yn y Dysgedydd, os nad y naill a'r llall. Y testyn oedd 1 Cor. xv. 22. Yr oedd yn pregethu yn gryf yn erbyn Arminiaeth, ac yn defnyddio rhai geiriau ag y buasai, fe ddichon, yn well iddo eu gadael allan. Yr oedd ganddo Gymraeg da ragorol. Adnabyddid ef yn Sir Fon fel "cefnder i Mr. Christmas Evans." Mae yr hanes uchod yn cytuno a'r hyn ydym yn glywed am dano, sef ei fod yn hoff o esbonio, ac y byddai y rhan fynychaf yn bur feirniadol wrth fyned at achlysur a meddwl ei destyn. Yr oedd y rhan fynychaf bob blwyddyn yn pregethu am 5 o'r gloch bob boreu dydd Nadolig yn Nghapel Drindod, a byddai y prydiau hyny weithiau yn bur feirniadol. Cafwyd gwleddoedd deallol a theimladol ganddo lawer gwaith ar yr achlysuron hyn.

Wele un o'i ddywediadau,——" Meddyliwch yn uchel am eich Ceidwad: mae llawer na feddylient fod ei eisiau felly arnynt; ond y mae lle i ofni fod rhai hefyd a broffesant fod ei eisiau arnynt, a meddwl rhy isel am dano i wneyd Gwaredwr o hono. Mae yn fater bywyd i chwi i chwilio pa fodd y mae rhyngoch â'r Gwr hwn."

Clywsom ef unwaith, a hyny mewn Cyfarfod Misol yn y Penant, ar ol y Parch. Edward Jones, Aberystwyth, am 11 o'r gloch y dydd olaf, a'r odfa olaf mewn Cyfarfod Misol y pryd hwnw. Yr oedd yn ddyn o faintioli cyffredin. Wyneb bychan teneu, a'r holl gorff hefyd yn debyg. Gwallt melyngoch, ond bod arwyddion henaint arno ar y pryd, eto ddim yn gymaint felly a llawer oedd 20 mlynedd yn ieuangach nag ef. Yr oedd tyfiant o faintioli wy petrisen ar ei dalcen, yn union uwchben ei lygad de, os ydym yn iawn gofio. Mae yr un peth ar ei wyr, y Parch. Evan Phillips, Castellnewydd, ond ei fod y tu ol i'w ben ef. Yr oedd yn sefyll yn unionsyth yn y pulpud, a golwg heinyf a bywiog arno, a'i ysbryd hefyd yn llawn yni a gwres. Nid oedd yn gwaeddi, gyda'r eithriad o ambell i floedd fer. Yr oedd ei lais o'r dechreu i'r diwedd yn hyfryd, ac yn glywadwy i bawb. Pregeth fer a llawn o wres fyddai ganddo bron bob amser, fel y mae ei wyr eto. Yr oedd yn deithiwr mawr, a byddai felly yn ei sir ei hun, pryd na byddai ar daith i'r Gogledd na'r De. Mewn llyfr cofnodion yn Abermeurig, yr ydym yn gael Chwef. 15fed, 1831, mewn Cyfarfod Misol, yn pregethu oddiar Salm lxxxviii. 3, a'r Parch. Richard Davies, Llansadwrn, ar ei ol oddiar Act. xiv. 11; Mawrth y 25ain, ar nos Lun, oddiar Act. xiv. 5; Awst 26ain, dydd Gwener, am 12, oddiar Mat. xxv. 6; Tach. 13eg, Sabbath, oddiar Heb. ii. 3; Tach. 19eg, Sadwrn, am 12, ond ni chofnodir y testyn. Mae wedi bod yn debyg yr un nifer o weithiau yma y blynyddoedd eraill. Yr oedd yn un fyddai bob amser yn hynod o flasus ac adeiladol yn pregethu ac yn cadw seiat, fel yr oedd galw mawr am dano, ac yntau yn ymroddi i wasanaethu yr eglwysi yn nheyrnas ac amynedd Iesu Grist.

Yr oedd yn un o ddefnyddioldeb cyffredinol. Efe fynodd yr acer a haner o dir sydd at wasanaeth Abermeurig ar lease o 999. "Mae genyf newydd da i chwi," meddai, "cewch acer a haner o dir hyd yn agos ddiwedd y byd, os yw y mil blynyddoedd mor agos ag y dywed rhai eu bod." Pan ddaeth dirwest i'r wlad, daeth allan yn gefnogol iawn iddo, gan gadw cyfarfodydd yn bur fynych i bleidio yr egwyddor. Ni chafodd gystudd maith. Wrth ei deulu dywedodd, "Gofalwch chwi dderbyn y Ceidwad wyf wedi ei gynyg i'r holl wlad, gofalwch chwi ei dderbyu." "Gyda golwg ar y siwrnai sydd o'm blaen, mae pobpeth yn barod." "Mae yn galed iawn arnoch," meddai un wrtho; ae atebai, "O nag yw, mae y ffordd yn ddigon clir, a'r wlad yn eglur o'm blaen." Gwaeddodd allan, gan guro ei ddwylaw, nes y clywid ef allan o flaen y tŷ, sef Penmount, "Diolch, diolch." Yn dywedodd, "Yr oeddwn yn meddwl bod gyda chwi ddwy flynedd eto, ond dim gwahaniaeth, gan mai hyn yw trefn y Gwr; mey cwbl yn barod." Claddwyd ef yn mynwent Eglwys Llanguullo, pan yn 71 oed.

PARCH. DANIEL EVANS, FFOSYFFIN.

Ganwyd a magwyd ef mewn lle a elwid Post House, yn nes ychydig i Aberaeron na chapel Ffosyffin, a hyny oddeutu 1826. Yr oedd yn hynod ymysg ei gyfoedion am ei dalentau er yn blentyn, ac ymhyfrydai mewn darllen a phrydyddu. Cafodd gymhelliadau gan amryw i fyned i bregethu, cyn amlygu hyny o hono ei hun. Dechreuodd bregethu tua'r flwyddyn 1849. Yr ydym yn gweled dau dderbyn barddonol iddo yn y Geiniogwerth am 1850. Clywsom ddweyd pan oedd yn dechreu pregethu, fod y Parch. Lewis Edwards, D.D., Bala, yn ei gymell i ddyfod ato ef i'r Athrofa, ac yn addaw y cawsai ei ysgol yno yn rhad; a'i fod wedi gwneyd hyny, ar ol gweled yn y darnau, "Angau y groes," a "Fy nghyfaill gollais," gymaint o'r awen farddonol, a thalent ddisglaer. Bu yn y Bala am rai blynyddoedd, a bu yn cadw ysgol yn ysgoldy Henfynyw am ryw gymaint o amser. Yr oedd gyda'r cyntaf yn y sir hon i brynu Alford's Greek Testament ar ei ddyfodiad cyntaf allan, a gwnaeth ddefnydd helaeth o hono.

Yr oedd yn un o'r pregethwyr goreu a fagodd Sir Aberteifi yn y blynyddoedd diweddaf. Yr oedd ei bregethau yn llawn o fater, wedi eu cyfansoddi yn yr arddull goreu; a thraddodai hwynt yn wresog ac yn rymus. Yr oedd fel dyn yn un o'r cyfeillion mwyaf diddan a ellid gyfarfod, yn llawn humour; a chanddo ystorfa dda o ystorïau chwaethus, y rhai y gwyddai pa le a pha bryd i'w defnyddio. Ac er mor ddifyr ydoedd fel cyfaill, ni wnelai byth ddefnydd yn y pulpud o'i allu digymar i wneyd cwmni yn llawen, Yr oedd yn hanesydd ac yn wleidyddwr da, a medrai dori i'r asgwrn os gwelai ddynion yn gwneyd defnydd annheg ac annoeth o hyny o allu a feddent fel gwladwyr. Yr oedd yn ddyn boneddigaidd iawn; teimlai i'r byw dros y gwan a'r anghenus, a medrai barchu pawb yn ol eu safle, o'r uchelwr mewn gwlad ac eglwys, hyd yr iselaf mewn cyfoeth a thalent.

Yr oedd o faintioli cyffredin, gwallt goleu cyrliog, ac yn eillio ei wyneb bron i gyd. Wyneb agored a beiddgar, ac arwyddion o'r frech wen ar hyd-ddo. Cerddai a'i ben i fyny, ac eto ei gorff heb fod yn hollol unionsyth. Byddai ffon y rhan amlaf yn ei law, a dau neu dri o gyfeillion o'i gylch, a byddent y rhan amlaf yn ymddangos yn ddifyr. Oblegid ei fod yn gyfaill mor hoffus, yr oedd rhai fel hyn, hwyrach, yn myned a gormod o'i amser; byddai hefyd ar amserau yn cael ei flino gan guriad y galon, ac oblegid hyny, ni allai ddyfod allan i fod yn llwyrymataliwr. Dichon i'r pethau a nodwyd fod yn beth atalfa ar ffordd llwyddiant, un a allasai ddyfod yn un o gedyrn ac arweinwyr y Cyfundeb. Yr oedd ei alluoedd cryfion, ei farn addfed ar wahanol faterion, ei allu cyflym i weled gwahanol gyfeiriadau y pwnc dan sylw, a'i allu i ymadroddi yn fedrus a dylanwadol arno, yn ei gymhwyso i le mawr fel gweinidog yn ein plith.

Cyfansoddodd farwnadan rhagorol ar ol y Parch. Evan Jones, Ceinewydd, a Dr. Rogers, Abermeurig, y ddwy yn fuddugol mewn cystadleuaeth, a'r ddwy yn cael eu beirniadu gan y diweddar Ieuan Gwyllt. Dywed y beirniad fel y canlyn am y gyntaf, "Yma y mae y bardd a'r athronydd Cristionogol yn cydgyfarfod i fesur helaeth. Y mae ei ieithwedd yn goeth a chlasurol iawn, a’i feddylddrychau yn ddillyn. Nid oes yma ddim ag y gallwn ei nodi fel gwall ieithyddol, na thebyg iddo; y mae pob gair a llythyren yn ei lle, a phob meddwl yn cael ei osod allan yn eglur a chwaethug." Y mae y feirniadaeth yna yn wir am y farwnad arall, ac am ei folawd alluog i Alban Gwynne, Ysw., Monachty, ar ei ddyfodiad i'w oed; ac hefyd am ei bregethau, a'i anerchiadau. 'Yr oedd yn aiddgar iawn dros y Gymraeg, ac yn ordd a deimlid yn drom ar bob Dic Shon Dafydd fyddai yn plygu yn wasaidd o flaen pob peth Seisnig. Unwaith galwyd arno i ddweyd ei destyn, a rhoddi ychydig o'r bregeth yn Saesneg. Ni ddywedodd na wnelai, ond ni wnaeth. Ar y diwedd, daeth un ato i'w ddwrdio am anufuddhau, gan ddweyd, er gwneyd y cerydd yn llymach, "Gwnawn i gymaint a hyny sydd heb fod mewn un coleg." Atebodd Mr. Evans ef trwy ddweyd, "Un o'ch bath chwi wnelai hyny, yr wyf fi am brodyr wedi dysgu gormod i beidio troi at y Saesneg heb ymbarotoi yn gyntaf."

Yr oedd yn dra hoff hefyd o'i gartref, a'i berthynasau, a'i gyfoedion, fel nad oedd yn hawdd ganddo eu gadael hyd yn nod i fyned i'w gyhoeddiad. Bu amryw o eglwysi yn gwneyd prawf ar ei gael atynt, ond ni lwyddodd neb namyn Waenfawr, Arfon, lle y bu am bum' mlynedd, ac yna daeth yn ei ol. Bu farw Mawrth 21, 1876, yn 49 oed, a chladdwyd ef yn Henfynyw, bron yn ymyl ei gartref. Ordeiniwyd ef yn 1859, yn Nghymdeithasfa fawr y diwygiad yn Llangeitho.

PARCH. DAVID EVANS, ABERAERON.

Ganwyd ef yn y flwyddyn 1768, a bu farw yn 1825, yn 57 oed. Yr oedd ef a'r Parch. Ebenezer Morris bron yr un oedran, a buont feirw o fewn wythnos y naill i'r llall. Ni chafodd Mr. Evans ond wythnos o gystudd. Cafodd y clefyd y bu farw o hono trwy yfed gormod o ddwfr oer, ar ol chwysu llawer wrth bregethu yn Llangwyryfon, ar Sabbath hynod o wresog. Yr oeddynt yn ei deimlo yn siarad fel o ddrws y nefoedd, wrth bregethu a gweinyddu yr ordinhad o Swper yr Arglwydd. Lletyai yn nhy chwaer y Canon Jennings, Archddiacon Westminster, wedi hyny, ond ni chysgodd fawr gan arteithiau poenus yn ei ymysgaroedd. Daeth beth yn well ac aeth adref i Morfa Mawr dranoeth, ond bu farw y Sabbath canlynol, sef Awst 21ain.

Mab ydoedd i Benjamin a Catherine Evans, Pengareg isaf, Aberaeron. Yr oedd yr ieuangaf o bump o blant, ac felly efe a gafodd fod yn y fferm ar ol ei rieni. Pan yn ieuanc, anfonwyd ef i ysgol Ystradmeurig, gan feddwl, feallai, iddo fyned yn offeiriad; ac oblegid rhyw gytundeb rhyngddo ag un arall, cerddodd oddiyno adref mewn amser anarferol fyr, fel y bu ar ol hyny yn gloff o'i glun ddehau dros ei oes. Trwy ryw anffawd hefyd, aeth ei fraich chwith yn hollol anhyblyg. Gyda'r eithriadau hyn, yr oedd yn ddyn hardd iawn o gorff, yn dal, gyda golwg foneddigaidd, a llais cryf, soniarus. Bu yn cadw ysgol am amser maith yn Dolhalog, yn agos i'w gartref, Yr oedd ei rieni yn aelodau parchus a defnyddiol gyda'r Parch. Thomas Gray yn Ffosyffin. Cafodd yntau ei ddwyn i fyny dan aden crefydd, mor bell ag yr oedd hyny yn myned, er na ddaeth ef ei hun at grefydd nes bod yn 40 oed, ac yn dad plant. Daeth at grefydd trwy i amgylchiad annymunol iawn iddo ef gael ei fendithio i hyny. Yn 1805, cyfarfyddodd ei ferch ieuangaf ag angau trwy gael ei llosgi, ac effeithiodd yr amgylchiad gymaint arno, nes iddo gael digon am byth ar ei fywyd di-weddi, a'i deulu heb ddyledswydd deuluaidd, ac ar beidio rhoddi esiampl dda o grefydd o flaen teulu oedd yn dechreu cael ei fedi i dragwyddoldeb. Gweddiwyd llawer drosto gan eglwys Ffosyffin, lle yr oedd yn un o'r gwrandawyr goreu. Hysbyswyd ni gan un o'i blant, iddo ddarllen a gweddio yn y teulu noson y gladdedigaeth, pryd y daeth goleuni o'r nef ar bawb, fel yr oedd megis noson o gadw pasg i'r Arglwydd. Yn fuan ar ol hyn, yr oedd Gray, yn ol ei arfer, yn pregethu ac yn cadw seiat yn Ffosyffin, pryd yr arhosodd Dafydd Evans, ar ol, ac yr oedd ei brofiad yn synu pawb, fel yr aeth yr odfa yn debyg i odfa y ddyledswydd deuluaidd. Hysbysodd Gray, yr hwn oedd a llygad eryraidd ganddo, mai nid dyn cyffredin oedd D. E. i fod, ond fod gwaith mawr o'i flaen. Mynodd gyfleusdra i ymddiddan âg ef, a chymhellodd ef i bregethu ar unwaith. Yr oedd ei fab, Mr. Benjamin Evans, Postfeistr, Aberaeron, yn arfer dweyd, mai ei dad oedd y tebycaf i'r Apostol Paul a welodd ef erioed—iddo gael crefydd, dechreu pregethu, a phregethu yn Nghyfarfod Misol y sir, a'r oll mewn llai na chwarter blwyddyn. Yr oedd hyn, mae yn debyg, trwy ddylanwad Gray, ac oblegid ei ragoroldeb yntau fel pregethwr. Cafodd ei ordeinio yn Llangeitho, ymhen deng mlynedd ar ol dechreu pregethu.

Aeth yn fuan ar deithiau i Dde a Gogledd. Adroddir hanes iddo gael profedigaeth fawr yn y Gogledd, pryd yr aeth yno gyntaf. Pan yn y ty capel mewn rhyw fan, cyn dechreu yr odfa, daeth dyn ato gan ofyn, "A ydych chwi yn bregethwr?" "Ydwyf yn arfer ychydig â'r gwaith," atebai yntau. "Ai chwi sydd i fod yma heddyw?" "Ië, mae'n debyg." "Ho, wel." Ac ymddangosai y gwr yn ddirmygus iawn o hono. Cafodd y pregethwr help gan Dduw, a chafodd pawb amser gorphwys o olwg yr Arglwydd. Ar ol dyfod allan, dywedodd y brawd uchelfryd, "Wel, cawsoch odfa ragorol iawn, do yn wir; ho, ho; wel, wel." Atebodd Mr. Evans ef trwy ddweyd, "Mi welaf mai ci ydych chwi, yn siglo eich cynffon ar ol cael tamaid o fara. Cynghorwn chwi i fod yn fwy siriol i lefarwyr dieithr o hyn allan, ar eu dyfodiad atoch, er mwyn eu calonogi ar gyfer y gwaith. Yr oedd eich dull o siarad â mi cyn dechreu yr odfa yn ddigon i beri i mi droi yn fy ol, oni bai fod arnaf ofn digio fy Meistr." Dywedir i'r tro wneyd y brawd hwnw yn fwy gochelgar.

Er ei fod yn teithio i Dde a Gogledd, ac yn un o feistriaid y gynulleidfa mewn Cymanfaoedd, a phob lle arall, ond gartref yn y sir y rhagorai. Yr oedd yn fath o fugail yn Ffosyffin, y Penant, Llanon, Rhiwbwys, Blaenplwyf, Llangwyryfon, a Lledrod. Gofalai y Parchn. John Thomas, Aberteifi, ac Ebenezer Morris am eglwysi rhan isaf y sir, ac Ebenezer Richards am y rhai uchaf, yntau y rhai canol. Yn y rhai hyn y ceir mwyaf o'i hanes, ac yn y rhai hyn y mae ei enw yn cael ei anrhydeddu fwyaf, er mai ychydig sydd yn awr yn ei gofio. Bu yn gymorth mawr mewn achosion o ddisgyblaeth, gan ei fod yn hynod mewn callineb, ei olwg mor awdurdodol a boneddigaidd, a'i fod hefyd yn siaradwr da, ac yn gwybod pa fodd i siarad oreu ar bob achos. Y pryd hwnw, bu y smuggling mewn cysylltiad â'r gwêr, â pha un y gwnelid canwyllau, yn peri gofid mawr i'r eglwysi a'r Cyfarfod Misol. Cafodd llawer eu dal yn droseddwyr, a rhai dalu 50p. o ddirwy am beidio talu duty. Yr oedd gwraig gyfrifol yn Llanon wedi troseddu, a dygwyd yr achos o'i flaen ef. A'r diwrnod hwnw, y wraig yma oedd yn cadw y mis. Yr oedd yntau yn gyfarwydd iawn â'r teulu. Ond nid oedd ef yn ddyn i "barchu wynebau mewn barn." Torodd hi o gymundeb, os nid o fod yn aelod. Wrth fyned i dŷ y capel, daeth y wraig i'w gyfarfod a'r dagrau ar ei gwyneb, gan ddweyd, "Dafydd Evans anwyl, yr oedd genyf olwg arnoch o'r blaen, ond mwy heddyw; yr o'ech chwi yn eich lle, fi oedd ar fai: mae yn ddrwg iawn genyf beri gofid i chwi." "Da genyf eich gweled yn y fath ysbryd," meddai yntau; "gobeithio na fydd dim o hyn mwy." "Yr oedd yn weddiwr mawr, yn astudiwr caled, yn weithiwr cyson, ond hollol ddiflino." Nid gyda'r pregethu a chyfarfodydd eraill y bu yn ddefnyddiol yn unig: llafuriodd lawer gyda'r canu, fel ei feibion ar ei ol; a dywedir fod ei dŷ yn hyn fel tai Heman a Jeduthun. Yn mhoenau ei gystudd, gwaeddai, "Faint yw dyfnder y dwr ?" a chynghorodd ei holl deulu. Claddwyd ef yn mynwent Eglwys Henfynyw.

PARCH. DAVID EVANS, ELIM.

Mab ydoedd i Evan ac Anne Evans, neu Davies, nid oes sicrwydd beth fynai ei dad oedd ei surname. Gwneuthurwr hetiau oedd ei dad, a dygodd rai o'i blant i fyny yn yr un alwedigaeth. Ond wedi i'r fasnach yn yr hetiau oedd ef yn gyfarwydd â hwy fyned yn isel; bu yn cadw ysgol ddyddiol yn y gauaf am lawer o flynyddoedd, ac yr oedd yn un da iawn o'r fath ag oedd ysgolfeistri yn y dyddiau hyny. Cafodd ei blant, oblegid hyny, well addysg, na llawer, ac felly ei fab Dafydd. Yn Cuwcynduaur yr oedd y teulu yn byw, yn mhlwyf Llanbadarnfach, a phrynodd David Evans wedi hyny y tŷ a'r cae lle y ganwyd ac y magwyd ef. Myned allan i wasanaethu wnaeth D. Evans am rai blynyddoedd, tuag ardal Blaenplwyf yn benaf, a bu yn adyn annuwiol iawn hyd ryw ddiwygiad a dorodd allan yn Blaenplwyf a'r wlad. Y pryd hwnw, cafodd droedigaeth amlwg, a daeth yn fachgen defyddiol iawn.

Dechreuodd bregethu yn 1841; a bu oddiar ei droedigaeth mewn llafur mawr yn dysgu y Beibl yn ei gof, ac yn darllen llyfrau y gallai gael gafael ynddynt er ei egluro. Bu am lawer o amser yn cadw ysgol yn Blaenplwyf, ac yr oedd yn ysgolfeistr rhagorol. Yr oedd yn un o'r ysgrifenwyr goreu. Yr oedd yn meddu ar feddwl cyflym, ac yr oedd cryn doraeth o arabedd yn perthyn iddo. Pan yn myned i'w gyhoeddiad i Taliesin, cyfarfyddodd â Mr. Davies, Ffosrhydgaled, ar y ffordd, yr hwn wedi gofyn iddo pa le yr oedd yn myned, a ddywedodd wrtho am iddo bregethu iddynt ar y testyn, "Gwerth yr olew, a thâl dy ddyled," "Na Syr," meddai, "yr oeddwn wedi meddwl pregethu ar y testyn hwnw, 'A thra nad oedd ganddynt ddim i'w dalu, efe a faddeuodd iddynt ill dau.'" "Cerdd, cerdd," meddai hwnw, "Dafydd wyt ti byth." Pan yn areithio yn Nghymanfa Weddi y Mynyddbach, dywedai, "Cofiaf di o dir yr Iorddonen, a'r Hermoniaid o fryn Misar. Ystyr y gair Misar yw bach, bryn bach, neu mynych bach. Cofiwch eich gelynion yma heddyw gerbron Duw, i fynu digon o nerth i'w gorchfygu. Lle rhyfedd yw y Mynydd bach i adgofio Duw am ein hangen. Mynwch y Gymanfa Weddi yma i dalu y ffordd i chwi, fel na anghofiwch hi byth," &c. Wrth anog y bobl ieuainc a phobl y diwygiad i gyd i ddal eu ffordd, dywedai "nas gwyddai ef beth oedd ystyr yr enw Simon os nad meddal oedd; beth bynag oedd, newidiodd Iesu Grist ef i Pedr—craig. Nid yw Iesu Grist yn hoff o'r dynion meddal yma,—creigiau o ddynion mae ef yn hoffi: craig yw ef ei hun, a chraig na all pyrth uffern byth ei gorchfygu yw ei eglwys," &c.

Cyfranogodd yn helaeth o ddiwygiad 1859. Y pryd hwnw y dechreuodd roddi ei lais allan, ac yr oedd ganddo gyflawnder o hono, a hwnw yn hynod o beraidd. Cafodd odfaon nerthol iawn, a phan y byddai yr hwyl, gwnelai ddefnydd da o honi. Os na byddai hwyl, annibendod mawr fyddai y canlyniad. Ymollyngai weithiau i ddweyd pethau isel. Ond yr oedd yn hawdd gweled hyd yn nod y pryd hwnw, ei fod yn ddyn o allu, ond nad oedd y gallu yn cael ei drefnu a'i arfer yn briodol. Bu farw Chwefror 6ed, 1868, yn 49 oed, wedi bod yn pregethu am 27 o flynyddoedd. Dioddefodd lawer o gystudd corff, a chafodd lawer o siomedigaethau, yn enwedig oddiwrth yr erledigaeth enbyd fu yn Elim, trwy orfodi ffermwyr i fyned i'r Eglwys.

PARCH. EVAN EVANS, ABERFFRWD.

Ganwyd a magwyd y gweinidog enwog hwn yn Cwmcaseg, ffermdy ar ben y bryn rhwng Llanilar a Rhydyfelin. Evan Evans, Pencraig, y gelwid ef pan yn dechreu pregethu, ffermdy yn ymyl y lle y magwyd ef, Priododd ferch Pencraig, ac ar ol priodi yr aeth at waith y weinidogaeth, sef pan oedd tua 30 oed. Ffermwr fu o ran ei alwedigaeth'fydol drwy ei oes, er iddo ddysgu yr alwedigaeth o saer coed. Dywedir iddo gael troedigaeth amlwg, ac iddo ddyfod mor hynod fel crefyddwr nes iddo gael cymelliadau cryfion gan amryw i ddechreu pregethu; ond ni ddarfu iddo wrando hyd ddiwygiad mawr 1811 ac 1812, pan y gorchfygwyd ef i wneyd.

Yr oedd o daldra cyffredin, a llydan a chryf o gorff. Llais cyfyng oedd ganddo, a phesychai yn aml; ac yr oedd yn waeth felly yn ei hen ddyddiau, oblegid y diffyg anadl oedd yn ei flino. Pan oedd y Parch. T. Edwards, Penllwyn, yn pregethu yn y Cyfarfod Misol, ar ol ei gladdu, oddiar y geiriau, "Oni wyddoch chwi i dywysog ac i wr mawr syrthio heddyw yn Israel?" dywedai, "Gwr mawr mewn llafur ydoedd; ni weithiodd neb yn fwy diwyd a chaled gyda'r byd hwn, ac ni lafuriodd neb yn helaethach gyda'r weinidogaeth. Oddeutu tri o'r gloch prydnhawn Sadwrn, pwy welech ar y cae yn medi ond efe ! Pwy welech 18 milldir oddiyno dranoeth yn ysgwyd y gynulleidfa ond efe !" Rhaid fod ei gyfansoddiad yn gryf cyn y gallai ddal y fath wrolwaith, a bod allan foreu a hwyr, pan oedd eraill yn cysgu, a byw hyd oddeutu 74 mlwydd oed; ond trodd yn wendid a nychdod ynddo cyn diwedd ei oes.

Bu am y blynyddoedd cyntaf o'i bregethu, a thân y diwygiad mawr mor gryf yn ei ysbryd, fel yr oedd cynulleidfa fawr yn wrando pa le bynag y byddai. Yr oedd tri pheth yn hynodi bron ei holl bregethau,―yr argyhoeddiadol, yr athrawiaethol, a'r ymarferol. Yr oedd yn llym iawn yn erbyn pechod, ac yn sefyll dros gadw disgyblaeth fanwl yn yr eglwysi. Efe a'r Parch. Edward Jones, Aberystwyth, oedd ag arweiniad y Cyfarfod Misol yn eu dwylaw, ar ol marwolaeth y Parch. Ebenezer Richard. Pan fyddai ymrafaelion yn yr eglwysi, hwy ill dau a nodid amlaf i fyned i'w gwastadhau, yn enwedig yn rhan uchaf y sir. Byddai un o honynt bron bob amser yn ymddiddan âg ymgeiswyr am y weinidogaeth, yn dewis blaenoriaid, ac yn sefydlu eglwysi. Efe fu cadeirydd Cyfarfod Daufisol Cynon am faith flynyddoedd, a dygai fawr sel dros yr Ysgol Sabbothol bob amser. Cyfrifid ef yn un o'r arholwyr goreu. Daeth yn ddirwestwr yn nghychwyniad dirwest, a gweithiodd yn egnïol drosti. Yr oedd ei wasanaeth ymhob cylch mor fawr, fel yr oedd galar cyffredinol ar ei ol wrth eu gweled mor weigion ar ol ei golli.

Pregethai bob amser yn dda, ac yn aml yn rymus ac effeithiol iawn. Yr oedd yn adnabyddus yn y Gogledd fel dyn Cymanfa Rhuthyn, gan mai efe gafodd odfa fawr y lle. Cymhellai y Parch. W. Roberts, Amlwch, ef i'w phregethu trwy yr holl wlad, gan ei bod yn genadwri amlwg oddiwrth Dduw. Ond y mae yn syn meddwl ei fod ef yn ystyried yr odfa yn un galed, a'i fod, gan gywilydd o hono ei hun, yn penderfynu cymeryd y gaseg las a myned adref rhag blaen, heb fyned i'r cyhoeddiadau oedd ganddo ar ol y Gymdeithasfa. Cafodd odfaon nerthol iawn ar y testynau, "Ac oni ddylai hon, a hi yn ferch i Abraham, yr hon a rwymodd Satan, wele, ddeunaw mlynedd, gael ei rhyddhau o'r rhwym hwn ar y dydd Sabbath?" "Canys llaw yr Arglwydd a orphwys yn y mynydd hwn, a Moab a sethrir dano, fel sathru gwellt mewn tomen." Pan y byddai yn rhoddi ei law ddehau at ochr ei ben. byddai yn amlwg i'r gynulleidfa mai nid odfa gyffredin oedd hono i fod, fod y llais cyfyng yn sicr o ystwytho, a myned yn ochfygol i'r gynulleidfa.

Dywedai Mr. Edwards, Peallwyn, yn ei gladdedigaeth, "Bydd yn sicr o fod yn alar mawr yn y teulu, yn y capel y perthynai iddo, yn nosbarth yr Ysgol Sabbothol lle yr arferai wasanaethu mor ffyddlon, ymhlith holl aelodau y Cyfarfod Misol, bydd yn cyraedd y Gymdeithasfa, ac i fesur helaeth, bob sir o Gymru, gan ei fod yn sefyll yn uchel ymhob man, ac yn gweithio ei hun i galonau pawb.

Dygwyd ymaith y tarianau aur a wnaethai Solomon gynt, a Rehoboam a wnaeth yn eu lle hwynt darianau pres. Yr ydym ninau wedi colli un o'r tarianau aur; gobeithio nad ydym i gael yn eu lle darianau pres."

Pan yn Pencraig, yr oedd yn aelod yn Gosen, Rhydyfelin; ond pan briododd yr ai! waith, aeth i fyw at ei wraig i fferm Abernant, Aberffrwd, ac mewn cysylltiad â chapel y lle hwn yr adnabyddid ef drachefn hyd ddiwedd ei oes, a chafodd ei gladdu yn mynwent y lle. Merch iddo ef oedd gwraig y Parch. David Morgan, Ysbyty, ac wyr iddo o'r hon yw bugail presenol eglwys y Methodistiaid yn Pontfaen, Morganwg, sef y Parch. John J. Morgan. Bu iddo ddau o frodyr yn offeiriaid. Mae genym yr amlinelliad canlynol o ddwy o'i bregethau:

Salm xxxix. 11, "Pan gosbit ddyn â cheryddon am anwiredd, datodit fel gwyfyn ei ardderchogrwydd ef," &c. I. Ardderchogrwydd dyn. 1. Mae hanes dechreuad dyn yn profi ei fod yn greadur ardderchog—ar ddelw Duw—arglwyddiaethu ar bob creadur, a galw enwau arnynt yn ol eu gwahanol naturiaethaumyned i gyfamod âg ef, a rhoddi ei gymdeithas iddo. 2. Mae ardderchogrwydd yn perthyn i'w gorff. 3. Ardderchogrwydd ei feddwl. 4. Ardderchogrwydd cysuron ei fywyd ar y ddaear. II. Fod y pethau hyn yn hawdd eu datod—"fel gwyfyn," yn ddiarwybod, yn fuan, yn ddistaw, yn sicr. III. Yr achos o'r datodam anwiredd." Fel y mae pechod yn achos o bob cerydd, ac fel y mae pechodau neillduol yn galw am geryddon neillduol. IV. Y pethau a ddefnyddia Duw yn geryddon—cystuddiau, temtasiynau, profedigaethau, yn ei amgylchiadau, angau a'r bedd. Nac ymddir. iedwn mewn dim sydd yn agored i ddatodiad. Mae cyfamod disigl yn bod.

Col. iv. 2, "Parhewch mewn gweddi, gan wylied ynddi gyda diolchgarwch." I. Y pethau sydd yn galw am y para. 1. Mae yr angen yn para. 2. Duw yn parhau i alw. 3. Mae yn ddyledswydd, ac fel hyn y mae arfer pobl Dduw ymhob oes. II. Y cymhelliadau i hyn. 1. Mae Crist yn eiriol yn barhaus. 2. Yr Ysbryd wedi ei roddi i'r amcan hwn. 3. Dyma fel y llwyddwn yn ein crefydd. 4 Mae yr amser yn fyr iawn. III. Y pethau i ofalu yn eu cylch, yn y ddyledswydd hon, "Gan wylied ynddi gyda diolchgarwch." 1 Gwylied ar yr adegau goreu. 2 Gwylied ar y trugareddau a dderbyniwn, fel y byddom barod i ddiolch. 3 Gwylied arnom ein hunain, fel y gallom weled ein annheilyngdod, ac felly i wresogi ein diolchgarwch. 4 Trwy fynu profiad o'r bendithion mwyaf, heb y rhai nis gellir diolch yn iawn am yr un fendith. Os yw pawb i weddio fel hyn, beth am y di-weddi? Yn wyneb y fath ddyledswydd a hon, gwelwn mor fychan yw crefydd y goreu o honom.

Yr oedd yn un o'r rhai ergydiodd drymaf at falchder, a phob math o hunanoldeb, a byddai ei arswyd ar yr eglwysi a'r cynulleidfaoedd o'r herwydd. Eto nid oedd yn gwneyd hyny yn hobby, ond yn unig fel yr oedd yn aiddgar dros sancteiddrwydd yr eglwys, ac fel yr oedd yn erbyn llygredigaeth yn gyffredinol. Ni welid neb yn well esiampl o symlrwydd a hunan-ymwadiad nag ef, ac yr oedd pawb yn deall hyny, fel y goddofid ganddo "ddyrchafu ei lais fel udgorn i fynegu i'r bobl eu camwedd, a'u pechodau i dŷ Jacob." Oblegid y neillduolrwydd hwn, a'i ofal mawr am yr holl achos, y galerid cymaint ar ol ei golli. Bu farw Chwef. 2, 1856, yn 73 oed. Ordeiniwyd ef yn Llangeitho, yn 1822.

PARCH. JOHN THOMAS EVANS, ABERAERON.

Mab ydoedd i Cadben Evans, brawd Morgan Evans, Ysw., U.H., Oakford, a'i fam yn ferch Hengeraint, Ffosyffin. Yn ffermdy Hengeraint, gyda theulu ei fam, y dygwyd ef i fyny. Yr oedd ei syched am wybodaeth er yn blentyn yn anniwall. A chan fod ei gymeriad crefyddol yn ddifrycheulyd, ei wybodaeth mor helaeth, a'i chwaeth mor bur, cymhellwyd ef i bregethu gan lawer o'r dynion goreu. Yr oedd ef yn cadw ei feddwl iddo ei hun, ac yn ofni cymaint na allai fod yn anrhydedd i'r gwaith mawr, fel y bu am ryw gymaint o amser heb addaw cydsynio â chais ei frodyr. Bu mewn rhyw ysgol ar hyd ei oes, nes myned i Brifysgol Aberystwyth, ac yna i Edinburgh. Ei iechyd gwanaidd oedd yr unig achos na arhosodd yno nes cael ei M.A. Ar ol gorfod aros gartref, bu yn gwneyd prawf ar Llandysul ac Aberaeron, er gweled pa le oedd oreu i'w gyfansoddiad. Cafodd lawer o'i gymell i fod yn fugail yn ei fam-eglwys, Ffosyffin, ac eglwys Fronwen, Llanarth, ac addawodd yntau am ryw gymaint fod; ond gwelodd na allai ei iechyd ganiatau iddo ymgymeryd â llafur bugeiliol, a rhoddodd i fyny yn anrhydeddus. Yna, prynodd dŷ yn Belle View Terrace, Aberaeron, lle y bu fyw gyda'i chwaer hyd ei farwolaeth yn Medi 18, 1892, yn 32 oed.

Bendithiwyd Mr. Evans â chorff tal, hardd, a golygus i sefyll o flaen cynulleidfa, gwallt hollol ddu, gwyneb lled fawr, ond ei olwg yn welw ac afiach. Ei lygaid yn sefyll hytrach i fewn, ac yn serenu gan sirioldeb dedwydd, pan yn mhresenoldeb cyfeillion. Cerddai hytrach yn gam, a safai felly yn y pulpud. Bendithiwyd ef hefyd â llais cryf, fel y gallai wneyd i lonaid capel mawr ei glywed o'r dechreu: ond yr oedd yn rhy agored i ateb i nerth ei gorff. Ni chodai fawr o'i lais hyd y diwedd, ac nid ydym yn meddwl y gallai nerth ei gorff oddef hyny. Bendithiwyd ef hefyd â chyfoeth oedd yn feddiant personol iddo. Bu hyny yn fantais fawr iddo i gyraedd dysgeidiaeth, ac i allu rhoddi i fyny i sefyllfa wanaidd ei iechyd. Bellach, dywedwn ychydig am ei brif nodweddion.

Yr oedd yn ddarllenwr mawr. Os sonir am ddarllen, dyma ddarllenwr! Defnyddiai lawer o'i gyfoeth at brynu llyfrau, y nwyddau yr oedd ef yn llawer mwy hoff o honynt nag arian, ac yr oedd yn hoff o arian am eu bod yn help iddo i gael llyfrau. Yr oedd y llyfrgell oedd ganddo yn synu dau ddosbarth o ddynion. Yr oedd ei maint yn synu y rhai anwybodus, gan y gwyddent fod llyfrau yn gofyn arian i'w prynu ac amser i'w darllen. A synai y dosbarth gwybodus at ansawdd y llyfrgell, gan ei bod yn gymaint o faint. Yr oedd un peth yn nodweddu ei lyfrgell yn fwy na'r rhan fwyaf o bregethwyr, sef y detholiad rhagorol o lyfrau Cymraeg oedd ynddi. Rhoddodd ei lyfrgel i gyd i Athrofa Trefecca, a dywedir ei bod yn anrhydedd i'r lle. Bydd hyn i'r oesoedd dyfodol yn profi ei chwaeth dda mewn gwybodaeth fel pregethwr. Bydd hefyd yn myned ymhell i brofi ei fod yn Fethodist da. Dylid dweyd hyn am ei fod yn Annibynwr o du ei dad, a chydnabyddai ei berthynasau hyn bob amser am dano. Mae yn profi hefyd ei awydd angerddol i lesoli y weinidogaeth a'r wlad trwy gyfrwng llyfrau da. Nid yn unig bydd ef trwy hyn yn llefaru eto, ond bydd ei leferydd yn dal yn ddylanwad parhaus, a gwneyd ei goffadwriaeth yntau yn anfarwol. Aeth y brawd ieuanc hwn yn anfarwol yn nghanol marwolion, a braidd na ddywedwn y gallai yn hawdd fyned i orphwys o ran ei gorff afiach, gan iddo wneyd yr hyn a wnaeth.

Yr oedd yn bregethwr rhagorol. Yr oedd yn hynod o alluog i weled prif feddwl adnod, ac i bregethu ar hwnw, gan adael heibio bob peth arall. Yr oedd ei bregethau yn orphenedig, ac amcanai ynddynt at galonau a chydwybodau y gwrandawyr. Yr oedd ynddo ddefnyddiau llenor da. Ysgrifenodd lawer i'r newyddiaduron, a dywedai wrthym ei fod yn bwriadu ysgrifenu llawer i'r cyhoeddiadau misol wedi i'w feddwl ddyfod dipyn yn addfetach. Yr oedd yn feirniad o'r fath oreu ar lyfrau Cymraeg a Saesneg, a mynai hwynt ar eu dyfodiad allan. Yr oedd ganddo farn dda am bregethwyr a'u pregethau; ond yr oedd lledneisrwydd ei natur, a'i deimlad Cristionogol da yn ei gadw yn foneddwr trwyadl wrth wneyd nodiadau. Nid oedd yn siaradwr mewn cwmni, ond wedi dyfod i fyd y llyfrau a'r pregethu, yr oedd yn hawdd deall ei fod yntau bellach yn siaradwr.

Hynododd ei hun fel gwleidyddwr goleuedig. Bu amryw droion yn areithio ar boliticiaeth Ryddfrydig, a phan yn gwneyd, dangosai ei fod yn deall prif bynciau y dydd, a bob amser yr oedd yn dylanwadu yn dda ar y gwrandawyr. Pe buasai ei iechyd yn caniatau, nid ydym yn meddwl y buasai fawr yn ol o fod mor amlwg gyda'r achos Rhyddfrydig a'i ewythr, Morgan Evans, U.H., Oakford. Ond gostyngwyd ei nerth ar y ffordd, byrhaodd ei ddyddiau. Cafwyd siomedigaeth fawr yn Nghyfarfod Misol Dehau Aberteifi, yn marwolaeth y gŵr ieuanc gobeithiol hwn. Heblaw ei fod yn bregethwr da yr oedd yn dechreu cymeryd dyddordeb neillduol yn mhrif symudiadau yr enwad, yn y Cyfarfod Misol, ac yn y Cymdeithasfaoedd, a siarad yn gyhoeddus arnynt. Yr oedd mor amlwg gyda hyn, fel yr oedd yn dechreu cael ei weled a'i deimlo; a buasai yn sicr o fod yn allu yn ein plith ymhob ystyr, pe cawsai fywyd ac iechyd. Claddwyd ef yn mynwent Henfynyw, ger Aberaeron.

PARCH. ROBERT EVANS, ABERTEIFI

Yr oedd hwn yn debyg mewn llawer o bethau i Mr. Evans, Aberffrwd, ond na fu yn amaethwr fel efe, dros ei oes. Dygwyd ef i fyny yn ardal y Glyn, yn agos i'r Bala. Yr oedd yn frawd i'r Parch. Daniel Evans, Penrhyndeudraeth. Dechreuodd bregethu yn 1815. Ysgolfeistr ydoedd, a meddai dalent neillduol at ddysgu a holwyddori plant drwy ei oes. Am un mlynedd ar ddeg, bu yn un o ysgolfeistriaid cylchynol Charles o'r Bala. Ac oherwydd fod y rhai deallgar yn ei weled yn grefyddwr da, ac yn areithiwr rhagorol ar wahanol faterion yn yr Ysgol Sabbothol, cymhellwyd ef i bregethu. Ni chafodd ei gyfeillion siomedigaeth ynddo. Daeth yn bregethwr da o ran mater a thraddodiad. Yr oedd ganddo lais da i waeddi, ond iddo ei gadw o fewn terfynau priodol. R. Evans, Llanidloes, ei gelwid pan yn Sir Drefaldwyn.

Heblaw ei fod yn bregethwr cymeradwy, yr oedd yn ddyn o gallineb tu hwnt i'r cyffredin; ac felly yn wr o gyngor ar bron bob achos, ac yn cael ei le yn naturiol fel arweinydd yr eglwysi a'r Cyfarfod Misol, yn nesaf felly i'r Parch. John Hughes, Pontrobert. Yr oedd yn un o'r dirwestwyr goreu, ac ysgrifenodd lyfryn bychan o Holiadau ac atebion ar Ddirwest, yr hwn y bu llawer o holi arno mewn cyfarfodydd cyhoeddus. Yr oedd yn dra phoblogaidd fel holwr Ysgol Sabbothol, ac fel areithiwr dirwest.

Gwr tal a thew o gorffolaeth ydoedd, a golwg foneddigaidd a thrwsiadus arno bob amser. Gellid meddwl o draw mai un arglwyddaidd a llym ydoedd; ond gwelai pawb wedi ymgyfarwyddo âg ef, fod ganddo ffordd arbenig i enill parch pawb, a'i fod yn gyfaill o'r fath oreu Priododd wraig weddw, mewn amgylchiadau da yn Aberteifi, ac aeth yno i fyw yn 1854. Ni fu byw yn hir ar ol ei symudiad, gan iddo, ar ol cystudd trwm, farw Awst y 12fed, yn 1860, wedi pregethu am 45 mlynedd, a'i ordeinio yn y Bala, yn 1828.

PARCH. THOMAS EVANS, ABERARTH.

Brodor ydoedd o'r lle uchod, ac ni fu byw allan o hono fawr trwy ei oes, ond hyny fu yn ardal Abermeurig, a lleoedd eraill, pan yn dysgu ac yn gweithio wrth ei grefft fel gwehydd, a hyny fu yn Aberaeron gyda'i ferch ychydig cyn marw. Gelwid ef Thomas Evans, Pendre, a Thomas Evans, Plas. Mab ydoedd i Thomas ac Ellinor Evans, Pendre. Cafodd beth addysg gyda Dr. Phillips, Neuaddlwyd, a bu yn cadw ysgol yn y capel yn Aberarth. Bu yn y weinidogaeth am oddeutu 56 mlynedd. Ordeiniwyd ef yn Aberteifi yn y flwyddyn 1847, pan oedd Dr. Charles, Trefecca, yn areithio ar Natur Eglwys, a'r Hybarch John Thomas, Aberteifi, yn rhoddi y Cyngor. Bu farw Mai 30, 1884, yn 80 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Llanddewi. Gellir dweyd ei fod yn sefyll ar ei ben ei hun mewn amryw bethau. Yr oedd ei ofal am yr eglwys a'r achos gartref yn eithriadol o fanwl. Byddai ymhob cyfarfod, ac yno yn frenin. Gwyddai mor fanwl a'r teuluoedd eu hunain am yr holl forwyr o'r lle; a'i waith wedi dyfod adref o'i gyhoeddiadau fyddai myned oddiamgylch i wneyd ymholiad am y cyfryw, am y cleifion, ac am gyfnewidiadau diweddar a newyddion y lle, yn grefyddol a gwladol. Pan fyddai Cyfarfod Misol yn y lle, yr oedd yn rhaid galw yn yr holl dai, lle yr oedd rhai yn lletya, i'w cyfarch hwy a'r teuluoedd, cyn myned i orphwys. Ni fyddai fawr o amser cyn myned trwy yr holl bentref. Yr oedd ef yn y daith bob Sabbath cymundeb drwy y flwyddyn, oddieithr fod rhyw reswm neillduol iddo fod fel arall. Yr oedd felly cyn iddo gael ei wneyd yn fugail yn 1872, ac felly yn cyflawni yn y blynyddoedd gynt yr hyn a ofynir gan eglwysi a bugeiliaid yn y dyddiau diweddaf hyn. Felly yr oedd yn Rhyddfrydwr a diwygiwr mawr, a hyny o flaen ei oes, er fod llawer yn ei gyfrif ar y pryd yn ormod ato ei hun, ac yn rhy aml yn ei gartref.

Gwir ofalai am bobpeth a ymddiriedid iddo. Bu yn oruchwyliwr y ddwy Drysorfa trwy yr holl sir am flynyddoedd lawer, ac y mae yr hanesion am dano fel y cyfryw yn profi nad allai fod ei ail mewn manylder, er nad oedd fawr o ysgolhaig, fel y dywedir. Ni thorodd gyhoeddiad erioed, ond wedi iddo gael ei daraw â'r parlys a marw. Ni fu fawr yn glaf yn ystod ei oes. Dyn gweddol dal, cryf, a llydan o gorff, ac o ymddangosiad boneddigaidd. Cadwai gyfrif o'i dderbyniadau a'i dreuliadau yn y teulu ac allan o hono, a byddai bob amser yn ddedwydd wrth weled y naill beth ar gyfer y llall, pa un bynag a'i prin a'i helaeth fyddai y moddion. Daeth felly yn ei flynyddoedd olaf yn gryf ei amgylchiadau, fel yr oedd yn barod i roddi 20p. neu 50p. at Drysorfa y Gweinidogion, pe cawsai eraill y gwyddai oedd a gallu ganddynt, i gyfranu yn ol eu gallu, ond cafodd ei siomi. Yr oedd yn deyrngarol a haelionus at bob achos da; ond teimlai i'r byw os gwelai arwyddion o gulni a difaterwch.

Yr hyn a'i gwahaniaethai yn fwyaf oddiwrth bawb eraill, oedd ei gôf anarferol o gryf, trwy yr hwn y gwyddai enwau rhieni a phlant trwy yr holl wlad, wedi eu clywed unwaith. Gan fod ei sylw mor graff, gwyddai i ba bersonau yr oedd pob côr ymhob capel yn perthyn, a byddai pawb yn gwneyd eu goreu i fod yn bresenol ar ei Sabbath ef, gan y byddai yn holi am danynt os yn absenol. oedd elfenau cyfeillgarwch yn helaeth ynddo, fel y mynai ysgwyd dwylaw â phawb a allai, a'u cyfarch wrth eu henwau, gan ofyn hefyd am y plant ac eraill agos atynt, ac i gyd wrth eu henwau; ac felly ymhob capel trwy y sir a'r siroedd lle yr oedd wedi bod o'r blaen. "Pwy," gofynai yn Trisant, "oedd y bachgen oedd yn y gornel y fan a'r fan;" wedi deall, gwelwyd mai yr ysgolfeistr oedd wedi dyfod i'r ardal yn ddiweddar ydoedd. Yna dywedodd yntau ei achau, a'i fod yn perthyn i Mr. Evans, yr Aber. "Pwy oedd y ddau fachgen oedd gyda——?" Wedi cael gwybod, aeth i olrhain achau pob un, a dywedodd enwau y ddau lanc hefyd. Darganfyddwyd un drwgweithredwr unwaith trwyddo. "O!" gan ddweyd ei enw, pa bryd y daethoch o'r treadmill?" Er cymaint a wadodd y dyn, wrth ymholi, cafwyd allan mai Mr. Evans oedd yn iawn, a gwnaeth y dyn y goreu o'i draed. Yr oedd yn galw yn fynych ar ei deithiau, yn y tai oedd ar ei ffordd, gan holi am bob un wrth eu henwau, ac hefyd am amgylchiadau perthynol iddynt oedd llawer o honynt hwy wedi eu hanghofio. Felly yr oedd yn anwylddyn ac yn oracl y wlad.

Safai yn syth yn y pulpud, heb symud fawr o'r pen na'r corff; ond troai ei lygaid fel yn ddiarwy bod. Siaradai â'r gynulleidfa fel ar yr aelwyd, a da hyny, gan nad oedd ganddo lais i waeddi. Yr oedd ei bregethau o'r fath fwyaf ymarferol. Nid ydym yn meddwl iddo drafferthu fawr yn ei oes at ddyfod yn dduwinydd da, nac at fod yn siaradwr coeth; ond yr oedd bob amser yn dangos ei fod yn adnabod y wlad, ac yn amcanu at ei gwella. Yr oedd yn areithiwr dirwest rhagorol, ac yn wrthwynebydd cadarn i'r ysmocio. Ni byddai yn ymyraeth fawr â threfniadau y Cyfarfod Misol, ond dywedai ei farn yn onest arnynt. Beth bynag, yr oedd ganddo ei waith, a'i ffordd o'i wneyd, ac nid oedd neb yn debyg iddo, ac nid oes ei debyg wedi ymddangos ar ei ol.

Dywediadau," Ceisiwch ddoethineb, fel y mae dynion yn ceisio arian, fel y mae y claf yn ceisio meddyginiaeth, ac fel y mae y condemniedig yn ceisio am ei fywyd. Cilia oddiwrth ddrwg (drwgfeddyliau, drwg-weithredoedd, drwg-ymddiddanion, drwg-gwmpeini), fel cilio oddiwrth ddrwg-weithredwr, fel cilio oddiwrth elyn, fel cilio oddiwrth angau, oddiwrth seirff, oddiwrth fwystfilod rheibus, oddiwrth dân, oddiwrth heintiau niweidiol; ac fel y mae y llongwyr yn cilio oddiwrth greigiau a morladron. Gwlad well, gwell na Chaldea, Canaan, nac Eden. Helaethach gwybodaeth, gwell pethau i'w mwynhau, a helaethach mwynhad; gwell na'r gweddnewidiad na'r mil blynyddau, ac i barhau byth. Mae y saint yn ei chwenych am mai dyma wlad eu genedigaeth; gwlad eu trysorau penaf; gwlad y teulu, Duw Dad, Crist eu brawd, a'r holl frodyr. Cânt yno esboniad ar yr holl lythyrau tywyll maent yn dderbyn yma, a'r holl groes-ragluniaethau. Pa ryfedd fod y gwyliwr yn disgwyl y boreu, y milwr yn disgwyl i'r frwydr ddarfod, a'r llongwr y porthladd?"

G

PARCH. THOMAS GRAY, ABERMEURIG.

Brodor ydoedd o Orllewin Morganwg. Cafodd droedigaeth mewn ffordd hynod. Gweithio dan y ddaear yr oedd, ond ryw foreu, cafodd fyned ar neges dros ei feistr i Gastellnedd, pryd yn ol ei arfer annuwiol, yr aeth yn sotyn meddw. Yn y cyfamser, yr oedd ei gydweithwyr yn myned at eu gwaith, ac wrth eu gollwng i waered i'r pwll, torodd y rhaff, a syrthiasant oll yn feirw i'r dyfnder. Pan welodd un Gray yn gorwedd yn feddw ar y ffordd, deffrodd ef, a dywedodd, "Beth Tom Gray, a'i dyma lle yr wyt! Yr oeddwn i yn meddwl dy fod yn uffern oddiar wyth o'r gloch y boreu gyda dy gydweithwyr." Yna hysbysodd iddo yr amgylchiadau. Wedi clywed, gwaeddai oddiyno nes dyfod at arolygwr y gwaith, "Diolch am y daith i Gastellnedd, i savio y daith i uffern." "Tom Gray yn meddwi ar y ddaear, a'i gydweithwyr yn uffern." Dyfnhaodd yr ystyriaeth, a methodd gael tawelwch nes dyfod at Grist, ac at grefydd. Daeth yr un mor hynod yn ngwasanaeth Crist ag oedd yn ngwasanaeth y diafol o'r blaen, fel y cafodd anogaethau i fyned i bregethu y Ceidwad achubodd ei fywyd mewn dwy ystyr, Wedi dechreu, aeth i athrofa y Feni (Abergafeni), o'r hon yr aeth i wrando Rowlands, Llangeitho, oedd yn pregethu mewn lle cyfagos, yr un fath ag yr aeth Mr. Charles, o'r Bala, pan oedd yn athrofa Caerfyrddin, i wrando yr un gwr, pan oedd yn pregethu yn Capelnewydd, Sir Benfro, a bu yr effeithiau yn gyffelyb ar y ddau. Ni allai Gray wneyd dim a'i lyfrau am ddyddiau lawer. "Gwibiai ar hyd y meusydd fel hurtyn, gan weddio weithiau, a syn-fyfyrio bryd arall; a dymunodd ar y pryd ar Lywydd mawr y bydoedd, am iddo weled bod yn dda drefnu ei goelbren i ddisgyn mewn rhyw fan o'r byd lle y gallasai gael cyfleusdra i wrando yr offeriad hwnw." Ac wedi i'r Pareh. Philip Pugh, Hendre, Blaenpennal, farw yn 1762, anfonwyd i'r Feni am y myfyriwr goreu i ddyfod i Llwynpiod ac Abermeurig ar brawf. Gray anfonwyd, a Gray ddewiswyd. Y Sabbath cyntaf, rhaid oedd iddo bregethu am wyth o'r gloch y boreu, gan fod y gwrandawyr yn myned i Langeitho erbyn deg. Er yn anfoddlon i'r cynllun, aeth ar ol yr odfa gyda'r gwrandawyr i Langeitho, pan, er ei fawr syndod a'i lawenydd, y gwelodd y dyn y dymunodd ar yr Arglwydd ei arwain i'r lle y cawsai gyfleusdra i'w wrando.

Priododd â Mrs. Jones, gweddw Theophilus Jones, Ysw., Blaenplwyf, ac aeth i fyw i Sychbant, un o ffermdai ystad y wraig yn nghymydogaeth Abermeurig, lle y bu fyw am oddeutu 50 mlynedd a mwy. Gan ei fod mor hoff o Rowlands, a'i fod yntau yn bregethwr mor dda, cafodd ei alw i bregethu yn fynych i Langeitho, ac i wasanaethu Cyfundeb Rowlands ar hyd y wlad yn y capelau, y Cyfarfodydd Misol a'r Cymanfaoedd, fel yr aeth yn fwy o Fethodist nag o Bresbyteriad, a rhoddodd anogaeth wrth farw i'w holl gynulleidfaoedd ymuno â'r Methodistiaid, â'r hyn y darfu iddynt gydsynio, Nid Annibynwr oedd Gray, ac nid Annibynwyr oedd cynulleidfaoedd Llwynpiod, Abermeurig, a Ffosyffin. Gwelsom un weithred capel yn ei alw ef yn Bresbyteriad, a "Hen Bresbyteriad " y galwai yntau Phylip Pugh. Yr oedd holl bregethwyr y Methodistiaid yn cael dyfod i'w gapelau ef, ac felly yntau yn yr eiddynt hwythau, Pan oedd yn pregethu mewn Cymanfa yn Abergwaun, ar y Prynedigaeth drwy Grist, y defnyddiodd y gymhariaeth ganlynol am y "llwyr brynu." Pan fyddo nwyddau wedi cael cam ar y mor, rhaid gostwng llawer yn eu pris wrth eu gwerthu; ond pan aeth Mab Duw i brynu pechaduriaid, ni ostyngai y ddeddf yr un ffyrling yn eu pris, yr oedd yn rhaid llwyr brynu. Arhosodd gymaint gyda hyn, fel yr aeth yr un floedd fawr trwy yr holl dorf. "Pregeth y llwyr brynu" y gelwid hon gan bawb oedd yn ei gwrando. Owen Enos,—yr hynod Owen Enos,—a ddywedai am dano ar ol ei glywed, mewn Cyfarfod Misol, "Mae yr hen ddyn yna yn tynu cymaint o'r nefoedd ar benau dynion, nes y mae yn annioddefol i neb fyw yno." Wrth ddechreu pregethu, gosodai ei law aswy yn fynych ar ei foch chwith, a'i law ddehau ar ei fynwes. Ond pan yn cynhesu, siglai ei benelin de, a thaflai ei freichiau mawrion, fel yr oedd pawb yn deall fod yr hwyl yn dechreu dyfod. Ar ganol yr hwyl, curai ei ddwylaw gyda nerth mawr, nes cynhyrfu yr holl le. Adroddai hen flaenoriaid Ffosyffin am un odfa galed o'i eiddo; ond wedi rhanu y bara ar y cymundeb, cyn rhanu y gwin, dywedodd, "Mae yn gywilydd gen i ein bod mor oer yn cofio am dano. O Arglwydd, tyn yr hen rwd oddiar ein calonau, i ni gael cofio yn fwy cynes am loesion Calfaria," a churodd ei ddwylaw, gan fyned ychydig ymlaen yn ei weddi, nes yr aeth yr holl gymunwyr i weddio gydag ef. Yr oedd yn ddywediad am dano y gallai yn hawdd fentro pregethu ar ol yr hyglod Robert Roberts, o Glynog, wedi cael yr hwyl oreu, y cymerai y gynulleidfa yn ei gwres, gan ei chadw felly i'r diwedd.

Yr oedd ei gallineb yn ddiderfyn; a bu felly yn llawer o gymorth i'r Methodistiaid yn eu symudiadau. Yr oedd yn erbyn pob math o falchder, mursendod, ac annhrefn, a gallai ddweyd pethau fyddai yn ateb i'r amgylchiadau bron bob amser. Pan ddaeth brawd ato oedd wedi cael ei argyhoeddi dan weinidogaeth Rowlands, a dyfod ato ef i'r seiat, a'r diafol yn danod iddo ei fod wedi gwneyd pethau na ddylai, dymunodd am iddo dynu ei enw oddiar lyfr yr eglwys. "Aros i mi gael fy mrecwast yn gyntaf, i gael gweled beth allwn wneyd." Ar ol boreufwyd, aethpwyd yn araf at y Beibl, a gweddio, gan gymeryd digon o amser at yr oll. Gweddiodd Gray mor daer dros y pechadur oedd am gael rhyddhad oddiwrth achos Crist, fel yr aeth y brawd allan yn ddistaw, ac ni soniodd byth ar ol hyny am y fath beth. Pan oedd dyn yn dweyd wrtho ei fod ef yn arfer cadw dyledswydd bob amser, hyd yn nod ar ganol cynhauaf, gan fod Gray yn ei adnabod yn dda, dywedodd wrtho, "Ydwyt, mi wranta, ond y mae mor fyred a chynffon ysgyfarnog genyt yn fynych." Pan oedd Mr. Williams, Lledrod, ac eraill yn rhoddi rheolau o flaen y cynghorwyr pa fodd i ymddwyn, dywedodd unwaith, "Pwy na chwarddai wrth eich clywed yn gorchymyn cadw cyfraith ydych yn ei sathru dan eich traed eich hunain. Ystyria dy hun rhag dy demtio dithau,' yw y gorchymyn i'r rhai ysbrydol." A dywedir iddo wneyd llawer o les ar y pryd. Gwr mawr corfforol ydoedd, garw ei wedd, a golwg fawreddog arno, Sabbath ac wythnos; cerddai yn syth, ac yn fynych rhoddai ei ffon yn groes i'w gefn wrth gerdded, gan ymaflyd ynddi â'i ddwylaw. Gwisgai whig fawr yn fynych, yn ol yr hen ffasiwn Biwritanaidd. Claddwyd ef yn mynwent Eglwys ei blwyf, sef Nantcwmlle, yn y flwyddyn 1810.

PARCH. ABEL GREEN, ABERAERON.

Ganwyd ef yn Aberaeron, tua'r flwyddyn 1816. Mab ydoedd i Mr. William Green, blaenor enwog yn y dref, y sir, a'r Cyfundeb, yr hwn y mae ei enw hefyd mewn cysylltiad â dechreuad tref Aberaeron, a chodiad y pier. Saer maen oedd Mr. W. Green, a ddaeth yma o dref Aberystwyth i adeiladu y pier yn 1809; a daeth Miss Thomas, ei briod, yma o Castellnewydd i werthu nwyddau i'r adeiladwyr. Y rhai hyn oedd tad a mam y Parch. Abel Green. Cododd y tad dŷ iddo ei hun ar lease, yr hwn sydd er's blynyddoedd bellach yn ystordy ac office i'r Steam Navigation Company. Yma y ganwyd y pregethwyr rhagorol, Mri. Thomas ac Abel Green. Bu y cyntaf farw yn ieuanc iawn, a dywedir ei fod yn un o'r pregethwyr mwyaf gobeithiol a gododd yn y sir. Codwyd y Parch. Abel Green i fyny i fod yn fferyllydd, a bu am rai blynyddoedd yn y man mwyaf cyhoeddus yn y dref, ac yn gwneyd gwaith mawr a thrafnidiaeth helaeth. Yr oedd crefyddolder ef ysbryd, a'i wybodaeth Ysgrythyrol a duwinyddol, yn ei wneyd yn wrthddrych sylw y dynion goreu, y rhai oedd yn gweled yddo ddefnyddiau pregethwr, a hyny er yn ieuanc. Dechreuodd bregethu rywbryd tua 22 oed, a daeth mor addawol ac amlwg o ran ei ragoriaethau, fel y cafodd ei ordeinio yn Aberteifi yn 1847. Yr oedd dullwedd ei bregethau, a'i fywiogrwydd yn eu traddodi, ynghyd a'i wybod aeth gyffredinol helaeth, yn ei wneyd yn boblogaidd ymhob lle yr elai. Yr oedd ei barch yn cynyddu yn gyflym fel masnachydd ac fel pregethwr. Pa fodd bynag, yr oedd o ysbryd mor anturiaethus mewn masnach, yn cymeryd rhan helaeth yn achosion y dref a'r wlad, ac felly cymaint o alw arno ymhob ystyr, a'r weinidogaeth deithiol yn myned a rhan helaeth o'i amser, fel yn y diwedd, y dyrysodd ei amgylchiadau, ac y terfynodd y pregethu gyda hyny, er dirfawr siomedigaeth i'r eglwysi a chymdeithas yn gyffredinol. Yr oedd miloedd cyfeillion Mr. Green erbyn hyn yn ofni bod darfod i fod ar ei bregethu am ei oes. Ond yr oedd mwy o asgwrn cefn yn y dyn hwn, fel nad oedd yn rhoddi fyny bob ymdrech yn ngwyneb cyfnewidiad amgylchiadau. Nid Ephraim ydoedd, yn arfog, ac yn saethu â bwa, ond yn troi ei gefn yn nydd y frwydr. Nid un felly oedd ei dad ychwaith. Collwyd ef o Aberystwyth pan yn fachgen, ac yn Liverpool y cafwyd ef. Yr oedd yn penderfynu dyfod yn grefftwr medrus, yn deilwng i gael ei alw gan foneddigion y wlad i godi porthladd, fu yn ddechreuad tref. Wedi gwneyd hyny, dechreuodd adeiladu y dref; ac wrth wneyd hyny, cododd yr achos Methodistaidd er pob gwrthwynebiadau. Mae hanes y mab yn un rhyfeddach fyth. Mae yn debyg na chawsai dewrdwr y Parch. Abel Green byth ei ddadlenu yn dda heb iddo fethu yn ei amgylchiadau fel chemist. Wedi hyny, aeth yntau fel ei dad i Liverpool, a chymerodd y gwaith a gawsai, gan wneyd y goreu o hono. Ymladdodd mor ddewr i enill ei "fara a'i ddwfr," ac i gadw ei lygaid ar ei ddyledion gyda hyny, fel yr oedd yn syndod i bawb a'i hadwaenai. Nid oedd dadl yn meddwl neb na ddioddefodd lawer o eisiau ymborth a dillad, fuasai yn ddymunol iddo eu cael, er mwyn bod i fyny â gweithwyr cyffredin. Ond mewn distawrwydd dinodedd, ac allan o olwg, enillodd nerth o ran ei amgylchiadau, a thrwy ddyfal-barhad mewn ymdrech diflino, cyrhaeddodd ei nôd uche! o dalu ei holl ddyledion, ond rhyw ychydig faddeuodd cyfeillion cyfoethog iddo wrth ei weled yn amlygu y fath egwyddor onest, a'r fath gydwybodolrwydd Cristionogol; ac nid oedd y rhai hyny ond un neu ddau, mae yn debyg. Mae yn amlwg nad oedd neb a allai ei gynorthwyo yn ngwyneb y fath amgylchiadau helbulus, a'r fath gyflog bychan, ond yr Hwn a ddywedodd, "Digon i ti fy ngras i;" a'r Hwn a ddywedodd wrth Aser, "Megis dy dyddiau y bydd dy nerth."

Ni buasem yn cofnodi yr hanes hwn am Mr. Green, oni b'ai ei fod yn dangos y "ffordd sydd yn y môr," mor bell ag ei hamlygir i ni, yn dangos gallu cynaliaethol Duw i'w bobl, ac yn eu dangos hwythau, wedi eu profi, yn dyfod allan fel aur. Ni fyddai hanes Abel Green yn hanes iddo ef o gwbl hebddo, yn fwy nag y byddai hanes Moses felly heb ddeugain mlynedd tir Midian. Bu ei galedi ef a'i deulu yn Liverpool yn foddion dyrchafiad mawr iddo. 1. Profodd ei onestrwydd a'i gywirdeb yn ngwyneb methiant ei amgylchiadau yn flaenorol i hyny. 2. Enillodd y fath gymeriad fel gweithiwr ymroddgar i dalu ei ffordd, ac fel crefyddwr da, "fel y gwelwyd," fel y dywedai un wrth ei adferu, "mai mwy o anrhydedd i grefydd oedd ei adferu i'r weinidogaeth, na phe buasai yn cael ei gadw yn ol yn hwy." 3. Galwyd ef yn ol i egiwys y Tabernacl, i fod yn fugail iddi, yn ei dref enedigol, a'r dref lle methodd. Mae yr holl symudiadau hyn yn dystiolaethau eglur i gymeriad y dyn a'r Cristion, er yr holl brofedigaethau y gorfu arno fyned trwyddynt. 4. Daeth i fyny i'w barch cyntefig yn y sir, os nid yn uwch mewn parch nag y bu erioed. Yr oedd yn pregethu yn well nag erioed, gan ei fod yn fwy profiadol, yn fwy nerthol, ac yn fwy adeiladol. Nid oedd ef yn boddloni ar fod yn fferyllydd cyffredin pan ddysgodd yr alwedigaeth, ond astudiodd hi mor dda fel yr oedd ganddo wybodaeth feddygol helaeth. Gwnaeth les mawr i lawer mewn afiechyd cyn iddo fyned o Aberaeron, a gwyddai llawer am ei wybodaeth a'i fedrusrwydd, fel na chafodd lonydd wedi dyfod yn ol. Yr oedd llawer yn ymofyn âg ef yn y dref a thrwy y wlad, ac yntau yn rhoddi cyfarwyddiadau i bawb yn rhad ac am ddim. Yr oedd felly yn gallu bod yn ddefnyddiol i gleifion mewn dwy ystyr. Nid oedd yn ail i neb fel bugail, yn ei ofal am bawb, yn ei fedrusrwydd i gadw cyfarfodydd, ac yn ei graffder i weled pa beth a ddylai ef a'r eglwys ei wneuthur. Pan ranwyd y sir yn ddau Gyfarfod Misol, efe a etholwyd yn ysgrifenydd yr un Ddeheuol, ac yr oedd yn gaffaeliad mawr i gael un o'i fath. Yr oedd yn bregethwr rhagorol. Yn Nghyfarfod Misol Pontsaeson, ychydig cyn ei farwolaeth, pregethodd gydag eneiniad amlwg ar 1 Cor. iii. 12— 15. Ni chafodd ond cystudd byr, a chollwyd ef o ganol cylch o ddefnyddioldeb eang, ar Sadwrn Ebrill 25ain, 1874, yn yr oedran cynar o 58ain. Claddwyd ef yn mynwent Henfynyw, yn nghanol galar anarferol.

Mae ei hanes yn Liverpool yn un hynod. Clerc mewn siop fferyllydd fu am ryw gymaint o amser. A phan yno, daeth offeiriad i'w gymell i droi i'r Eglwys. Dywedodd fod yn rhaid iddo yn gyntaf gael siarad â'i deulu. Wedi rhoddi y cynyg o flaen Mrs. Green, dywedodd ei bod yn dlawd iawn arnynt yn awr, a'i bod yn brofedigaeth iddynt i droi. "Nid wyf yn meddwl y gallaf feddwl myned yn offeiriad," meddai yntau. "O! gwnewch chwi fel y mynoch," meddai Mrs Green, "peidiwch gwneyd dim yn groes i'ch cydwybod; daw yn well na hyn arnom eto." Daeth yr offeiriad drachefn i ofyn beth oedd ei benderfyniad. "Pe byddwn yn dyfod i'r Eglwys," meddai, "gan feddwl cael myned yn offeiriad, ni chawn ond bod yn Scripture Reader am flynyddoedd." "Na, cewch eich ordeinio ar unwaith." 'Ië, i fod yn gurad," meddai Mr. Green. "O! na, bydd Eglwys yn barod i chwi ar unwaith." "Diolch i chwi am y cynyg da, ond nis gallaf feddwl am adael Hen Gorff y Methodistiaid." Daeth yr helynt yn wybyddus, a dygwyd ef yn fwy i fynwes yr eglwys yn hen gapel Pall Mall. Gwnaed ef yn flaenor. Ac ar ei etholiad, dywedodd y Parch. Henry Rees, "Nid oes eisiau dweyd pwy o lawer a etholwyd; nid oes ond un wedi ei enwi gan bawb, a hwnw yw Mr. Green. Gwnaethoch yn dda ei godi i fod yn flaenor, ond rhaid i ni ei godi i'r man lle y bu; yno y mae ei le ef." Cymhellwyd llawer arno i bregethu cyn iddo addaw, am na fynai cyn talu ei ddyledion yn gyntaf. Cafodd y Parch. John Foulkes le iddo a chyflog da mewn Gas Works, ac felly talodd ei ddyled, a chymerodd ei le yn y pulpud fel o'r blaen.

H

PARCH. EDWARD HUGHES, ABERYSTWYTH.

Adnabyddid ef dan yr enw Edward Hughes, Penygarn, pan ddechreuodd bregethu gyntaf yn y sir hon, ac yn yr un gymydogaeth hefyd y dygwyd ef i fyny; sef yn Pantydwn. Symudodd i Llanidloes yn ieuanc; yno yr oedd pan ddechreuodd bregethu, a'r lle yr oedd pan ordeiniwyd ef yn y Bala, yn 1838. Daeth i fyw i Aberystwyth yn 1845, lle y bu hyd ei farwolaeth, Medi 17eg, 1880, yn 95ain oed. Bu yn cadw ysgol yn Carno, ac yn ardal Penygarn; ac yr oedd ymddangosiad dyn yn dysgu eraill arno ar hyd ei oes faith. Yr oedd bob amser yn lanwaidd ei gorff, ac yn hardd ei wisg. Pen ac wynebpryd crwn a glandeg, llygaid gleision, ac yn tueddu at fod yn fyr o gorffolaeth. Ni adawai flew yn unlle ar ei wyneb, gan mor hoff ydoedd o ymlanhau a phuro ei hun: ac nis gellid meddwl fod budreddi ac annhrefn yn yr un byd ag ef.

Yr oedd yn un o wybodaeth eang, a meddai farn oleuedig ar brif bynciau duwinyddiaeth, a symudiadau cymdeithasol. Meddai ar synwyr cyffredin cryf, ac yr oedd hyny i weled yn nghyfansoddiad ei bregethau, a'u cymhwysiad at y gwrandawyr. Nid oedd yn boblogaidd fel pregethwr; ond pe buasai trwy ei oes yn pregethu mor effeithiol ag y clywsom ef lawer gwaith yn niwygiad, ac ar ol diwygiad 1859, nis gallasai lai na bod yn boblogaidd. Barn pawb am dano oedd, pe buasai yn gneyd defnydd o'i allu meddwl i astudio, a phe gwnelai ddefnydd o'r llais a glywyd yn ac ar ol y diwygiad a nodwyd, y gallasai fod yn llawer mwy enwog fel pregethwr. Pa fodd bynag, yr oedd ei bregethau bob amser yn sylweddol, ac yn meddu ar amcan da. Buom ar daith gydag ef trwy Fon ac Arfon pan nad oeddym ond ieuanc, ac ni allem lai na'i fawrygu byth wedi hyny, er fod rhai yn ei fygwth arnom fel dyn eithafol o fanwl a threfnus. Dyma engraifft o hono fel cyfansoddwr pregethau :-Esaiah lii. 13: "I. SYLWAF AR GRIST FEL GWAS. 1. Mae yr enw gwas yn dangos fod cytundeb neu gyfamod wedi ei wneyd : Salm lxxxix. 3. 2. Fod gwaith mawr ganddo i'w gyflawni,-prynu ei bobl gogoneddu priodoliaethau Duw-a gwneyd heddwch rhwng Duw a dynion. 3. Ei fod yn wrthddrych o ymddiried mawr. Yr oedd yn fwy peth i Dduw ymddiried gogoniant un briodoledd iddo nag i ni ymddiried ein oll iddo. Mae Duw wedi rhoddi gofal yr oll iddo er mwyn ein tynu ni i wneyd yr un peth. 4. Fod cyflog iddo am ei waith. II. LLWYDDIANT Y GWAS. 1. Fe lwyddodd i gymeryd achos pechaduriaid yn y cyfamod tragwyddol. 2. Llwyddodd i gymeryd dynoliaeth heb ei llygredd. 3. Llwyddodd i fyw bywyd sanctaidd, diddrwg, a dihalog. 4. Llwyddodd yn ei farwolaeth i gael buddugoliaeth ar ei holl elynion ef ei hun a'i eglwys. Mae ei fod wedi llwyddo yn ei daith o ddarostyngiad, yn sicrhau llwyddiant ei sefyllfa o ddyrchafiad. (1.) Gwelir hyn yn ei adgyfodiad, er gwaethaf yr holl rwystrau. (2.) Yn ei lwyddiant i gymeryd meddiant o'r nefoedd a'i holl anrhydedd. (3.) Mae wedi dangos lawer gwaith fod ei eiriolaeth yn llwyddianus yn y nef, i gael y peth a fyno. (Yma adroddodd hanes atebiad yr hen wraig, mai mynu chwareu teg i bechadur oedd Iesu yn wneyd wrth eiriol yn y nef). (4.) Mae digon o brofion y llwydda ei achos ar y ddaear nes cael ei holl eiddo adref,-efe sydd yn teyrnasu ar bob peth, mae yr addewidion i gyd iddo ef-ac y mae ewyllys yr Arglwydd yn dal i lwyddo yn ei law er pob rhwystrau. Mentrwch chwithau eich achos i'r un llaw a Duw, a sicrha hyny eich llwyddiant byth."

Parbaodd bywiogrwydd ei ysbryd, a'i ireidd-dra crefyddol hyd y diwedd; a phrofodd i bawb mai cynteddau tŷ ei Dduw oedd y lleoedd goreu ganddo ar y ddaear, gan fod yn rhaid iddo gael myned iddynt hyd bron adeg ei ymddatodiad, yn ei lanweithdra arferol, a'r cap du ar ei ben, yr hwn a fu yn foel am flynyddoedd lawer. Bu farw a'i bwys ar ei Anwylyd, a chladdwyd ef yn y cemetery. Mae amgylchiadau ei fywyd yn debyg i hyn. Dechreuodd bregethu yn Llanidloes pan yn 19 oed, sef tua'r flwyddyn 1805. Cadw ysgol am rai blynyddoedd. Byw yn Penygarn, gan ddilyn ei alwedigaeth fel gwneuthurwr dillad am oddeutu 17 mlynedd. Am y gweddill o'i oes yn Aberystwyth. Priododd â Miss Mary Cleaton, Llanidloes, a chafodd ddigwyddiad o gyfoeth amryw droion yn ei oes.


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
James Hughes (Iago Trichrug)
ar Wicipedia

PARCH. JAMES HUGHES, LLUNDAIN.

Mae Llundain yn cael ei chyfrif gyda Deheudir Cymru, a Liverpool gyda'r Gogledd. A chan mai un o'r sir yma oedd Mr. Hughes, mae i fod i fewn gyda'i frodyr. Pob un sydd wedi symud i siroedd eraill, er yn y Deheudir, mae y siroedd hyny yn eu cyfrif gyda hwy, yr un fath ag yr ydym ninau yn gwneyd â rhai o honynt hwythau.

Yr oedd Mr. Hughes yn fab i Jenkin ac Ellin Hughes, Neuaddd-du, lle y cedwir siop fechan yn awr, yn y tŷ sydd dan y ffordd, yn ymyl ysgoldy Ciliau Park. Yma y ganwyd ef yn 1779; ond yn fuan, symudodd ai rieni i Craig-y-barcut, yn Mhlwyf Ciliau eto, ac yno y bu farw ei fam. Darfu iddynt symud wedi hyny i Gwrthwynt uchaf, Plwyf Trefilan. Yma y treuliodd ei ddyddiau boreuol, yn bugeilio praidd ei dad ar hyd ochrau mynydd Trichrug; ac oblegid hyn y cymerodd y ffugenw Iago Trichrug fel bardd. Pan o 7 i 10 oed, cafodd fyned i'r ysgol a gedwid ar y pryd yn Eglwys Trefilan, gan Dafydd Gruffydd, Talfan, lle y dysgodd ddarllen Cymraeg yn bur dda. Nid oedd yr Ysgol Sabbothol wedi dechreu y pryd hwnw yn y Deheudir. Cafodd ysgol Saesneg hefyd yn yr un lle, yr hon a gedwid gan un Joseph Jones. Bu hefyd yn Cilcenin, mewn ysgol a gedwid gan y Parch. Timothy Evans, offeiriad y lle wedi hyny, ac ar ei ol gan Hugh Lloyd, mab Penwern, yr yr hwn a aeth yn offeiriad i Llanddewibrefi a Llangeitho, ac a fu byw yn Cilpyll. Dyna yr holl ysgol a gafodd, heblaw yr ychydig wythnosau a gafodd yn y Penant, gyda Daniel J. James, tad y diweddar Barch. James James, offeiriad Cilcenin a Llanbadarn.

Heblaw fod yr awen farddonol ynddo, cafodd hen lyfr barddonol a elwid "Bardd y byrddau," gwaith Jonathan Hughes, gan Edward Pugh, Berllandeg, yr hwn oedd yn gweithio llawer gyda'i dad. Cafodd lyfr arall a elwid "Y saith ugain Carol," gwaith Hugh Morris, gan un Morgan Gruffydd Richard. A dywedai ef ei hun y teithiai yr holl ardaloedd am lyfr barddonol, neu lyfr ar hanesiaeth Gymreig, ac na chollodd flas at y pethau hyn trwy ei oes. Ni chafodd fawr o fanteision crefyddol yn moreu ei oes. Yr oedd ei dad a'r plant yn myned i wrando at yr Annibynwyr i Cilcenin, a'i lysfam yn gwrando yr Arminiaid yn Ciliau. Nid oedd swn addoli byth yn nheulu y Gwrthwynt, ond yr oedd yno lawer o swn cynhenu a difrïo rhwng y lysfam a'r ddau fath o blant. Cafodd ef beth argraff o ofn marw ar ei feddwl wrth wrando y Parch. David Davies, Abertawe, yn pregethu yn Cilcenin. oddiar y geiriau, "O fewn y flwyddyn hon y byddi farw," ond collodd y dylanwad yn fuan. Yr oedd pregethu cyson y pryd hwnw yn y Gelli, ger Trefilan, gan y Methodistiaid, a byddai yntau yn myned yno y nos yn fynych, ar ol rhoddi y praidd yn y gorlan. "Yr oeddwn yn hoff iawn," meddai, "o lefarwyr y Corff hwnw, gan mor danllyd, bywiog, a pheraidd y byddent yn pregethu. Byddai yno awelon hyfryd a gorfoledd mawr yn gyffredin, a chawsai hyny argraff mawr ar fy meddwl inau. Pan na allwn fyned yno, bum lawer gwaith gyda'r nos yn yr haf yn gwrando arnynt yn canu ac yn gorfoleddu; myfi ar ben bryn uchel ar dir fy nhad, a hwythau odditanaf yn myned i'w cartrefleoedd ar hyd dyffryn Aeron. Yr oedd megis nefoedd genyf glywed sain cân a moliant y tyrfaoedd hyn; a byddai yr un effeithiau a'r tywalltiadau arnaf finau lle yr oeddwn, ac ymollyngwn i orfoleddu wrthyf fy hun, er nas gwnawr. hyny pan yn y dorf."

Crybwylla am ddau beth arall a effeithiodd arno. "Yr oedd gwr crefyddol o'r enw David Jenkin, o'r Gilfach, yn gweithio am rai misoedd o'r bron gyda fy nhad, ac yn darllen a gweddio bob amser, nos a boreu, yr hyn oedd yn gadael argraff ddaionus arnaf, ac ni ddilëwyd ef hyd y dydd heddyw. Yr oedd arnaf ofn y gwr hwn yn fy nghalon, ac ni fynwn iddo fy ngweled yn gwneyd drwg, na fy nghlywed yn dweyd geiriau cas. Peth arall a effeithiodd arnaf yn fawr oedd troedigaeth amlwg gwr ieuanc gwyllt ac annuwiol oedd yn was yn Perthneuadd, ac yn enwedig ei farwolaeth sydyn ar ol ei droedigaeth. Aeth adref yn ddiau yn ei gariad cyntaf; ac yr oeddwn i a phawb eraill yn ei ystyried yn bentewyn wedi ei gipio o'r tân."

Aeth ei dad i America, gan gytuno a'r mab hynaf am y lle, a rhoddi hyn a hyn i'r plant eraill. Pan yn 16 oed, prentisiwyd Mr. Hughes gyda David Jenkins, Gof, Tynant, Gartheli. Gof oedd ei dad, ond ei fod hefyd yn cadw tir. Yr oedd erbyn hyn wedi colli llawer o'i deimladau crefyddol, a gwelai bobl Llangeitho ac Abermeurig yn rhy bendrymaidd iddo ef eu hoffi. Ond ni pharhaodd y casineb hwnw yn hir, gan iddo ef ddyfod yr un fath a hwy yn fuan, ar ol gwrando Dafydd Parry, Brycheiniog, yn y Gelli ar nos Sabbath. "Nid wyf yn cofio yr un gair o'r bregeth hono," meddai, "ond yr wyf yn cofio fod rhyw bereidd-dra rhyfedd yn llais y pregethwr, a rhyw dywalltiadau nefol ar y gynulleidfa, Tua chanol y bregeth, disgynodd rhywbeth grymus a hyfryd iawn ar fy meddwl inau, fel nas gallwn yn fy myw ymatal heb waeddi 'Amen' yn lled uchel. Clywodd amryw fi, ac edrychasant arnaf gyda gwên siriol o lawenydd a dagrau. Ar y ffordd adfef, cefais gyfeillach hyfryd gyda rhai o bobl ieuainc y seiat, ac yr oedd ynof ryw deimladau gwahanol i ddim fu ynwyf er's blynyddau, os erioed o'r blaen, fel y penderfynais roddi heibio dyngu a rhegi, a rhaid oedd gweddio am hyny, yn gystal ag am bethau eraill." Parhaodd yr argraffiadau nes iddo fyned i ymofyn am le yn nhy Dduw; ac wedi cael caniatad ei feistr, aeth i Langeitho ddydd gwaith, a chafodd ei dderbyn, pan oedd Edward Watkin yno yn pregethu ac yn cadw seiat. Dywedodd Morgan Jenkin, Ty'nrhos, yr hwn a adwaenai ei rieni yn dda, fod ei droedigaeth ef yn debyg i alwad Abraham o Ur y Caldeaid, gan nad oedd wedi cael fawr o addysg nac esiampl grefyddol. Gwr anystyriol oedd ei feistr, ond yr oedd yn ganwr da, ac yn arfer myned i ddysgu canu i'r Llanau a'r capelau; a chan fod James Hughes yntau yn ganwr, yr oedd yn myned gydag ef, ac yn rhoddi help mawr i'r athraw. Ond ni wnaeth y cyfarfodydd hyny les i'w grefydd, gan fod llawer o feibion a merched ieuainc ysgafn yn dylanwadu arno i fod yr un fath a hwy yn fynych, hyd nes torodd diwygiad allan, pan oedd yn agos i ddiwedd ei ddwy flynedd brentisiaeth.

Ar ol gorphen yn Tynant, aeth at Sion Evan Dafydd, i Llanddewi, Aberarth, lle y bu am dri mis, am ddeunaw ceiniog yr wythnos. Daeth cenadwri ato yn awr oddiwrth Wil Sion Hugh, Ffynongeitho, yn ei hysbysu fod arno eisiau gweithiwr. Gan ei fod yn dra hoff o Llangeitho, a bod y gwaith yn Aberarth yn rhy galed iddo, yno yr aeth am dair punt yn y flwyddyn. Yna aeth y gwaith yn brin a'r glo yn ddrud, fel y gorfu arno ef adael y lle. Yn ffair gyflogi Aberaeron, cyfarfyddodd â chefnder iddo, yr hwn oedd wedi bod yn Llundain bedair blynedd; ac ar gymhelliad hwnw, penderfynodd fyned gydag ef yn ol. Nid oedd ganddo ond punt yn ei logell, ac wrth newid hono mewn tafarndy yn Llanbedr, cafodd haner coron drwg. Yr oeddynt dri o honynt yn cerdded trwy Llanymddyfri ac Aberhonddu; ac o'r lle hwn cawsant ryw fath o gerbyd i'w cludo i'r Feni, a'r tro cyntaf iddo ef yn ei fywyd fod o fewn un math o gerbyd. Darfu yr arian ganddo ef yn fuan, ac nid oedd ond benthyca, fel yr oedd arno ddyled o un swllt ar ddeg erbyn cyraedd Llundain. Cafodd waith am ychydig ddyddiau yn Whitechapel; wedi hyny yn Yard y Tycoch, yn Deptford, lle yr oedd llawer o Gymry. Bu yno am flwyddyn a naw mis; ond gorphenodd rhyw ryfel oedd rhwng y wlad hon a Ffrainc ar y pryd, a throwyd ef a chanoedd eraill ymaith o'r herwydd. Yr oedd hyn yn 1801. Ond yr wythnos olaf o'r flwyddyn a nodwyd, cafodd waith yn Dockyard y brenin, a bu yno hyd 1823. Yma yr oedd pan ddechreuodd bregethu yn 1810, a phan ordeiniwyd ef yn Llangeitho yn 1818. Yma yr oedd pan ddysgodd reolau barddoniaeth, a phan gyfansoddodd y rhan fwyaf o'i ddarnau barddonol. Ond yr oedd awydd pregethu arno, a phregethodd ganwaith i'r defaid, yr eithin, a'r nentydd, pan yn bugeilia ar Trichrug. Gan fod hanes Mr. Hughes yn wybyddus o hyn allan, gadawn ef, gyda dweyd iddo ddechreu cyfansoddi ei esboniad gwerthfawr yn 1829. Gorphenodd y Testament Newydd yn 1835. Yna cychwynodd ar yr Hen Destament, ac aeth ymlaen hyd Jeremiah xxxv. Trwy ddirfawr boen yr oedd yn fynych yn ysgrifenu. Yr oedd rhyw iasiau enbyd trwy ei gorff; a phan fyddai hyny yn annioddefol, cyfodai ac ysgydwai nes iddynt lonyddu; yna elai yn ol at ei waith drachefn. Bu farw yn ei dy yn Rotherhithe, Tachwedd 2, 1844, pan yn 65 oed. Ei eiriau olaf oedd, " Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd." Claddwyd ef gyda'r holl enwogion yn Bunhillfields. Yr oedd yn bregethwr rhagorol o ran mater, ysbryd, llais, a thraddodiad, Yr oedd yn un o'r ieithwyr Cymreig goreu yn nghyfrif Dr. William Owen Pughe, â'r hwn yr oedd yn dal llawer o gyfeillach.

J

PARCH. JOHN JAMES, GRAIG.

Mab ydoedd i Pencwm Mawr, Llangwyryfon, a brawd i'r diweddar David James, Gilfachcoed, yn yr un plwyf, blaenor yn Tabor; James James, Ysw., U.H., Ffynonhywel; a Thomas James, blaenor yn Stepney, Llundain. Yr oedd ef yn un o'r tô cyntaf o efrydwyr Trefecca. Ar ei briodas, symudodd i ardal y Graig. Yr oedd felly yn y darn uchaf o'r six, fel yr oedd Sir Felrionydd a Sir Drefaldwyn yn cael mwynhau ei weinidogaeth hytrach yn fwy na'r sir ei hun. Yr oedd yn dueddol i iselder ysbryd; a chan ei fod o duedd meddwl gochelgar a meudwyaidd, ni chafodd Cyfarfod Misol ei sir fawr o'i wasanaeth, ac ni fynai ar un cyfrif, fyned ymhell o'i gartref. Er hyny, dyn anwyl iawn ydoedd, a chyfaill ffyddlawn. Ffermwr fu bron drwy ei oes, a dyn tawel a myfyrgar. Myfyriodd lawer ar hyd meusydd a ffyrdd Ynysheidiol, lle yr oedd yn byw, yn ngolwg y môr, a'r afon Dyfi, ynghyd a mynyddoedd Siroedd Caernarfon, Meirionydd, ac Aberteifi. Er hyny, nid aeth ef yn debyg i natur yn y lleoedd hyny, ond yn ei hoffder o dywydd teg a thawelwch. Mynach fu ef, yn byw o fewn muriau hen fynachlog, allan o swn y byd a'i bla. Pa fodd bynag, cafodd gorthrymderau afael ynddo; claddodd ddwy o wragedd o'i flaen, ac ymaflodd clefyd angeuol yn ei gyfansoddiad; ac er myned dan operation yn Llundain, marw fu raid, a hyny ar y dydd cyntaf o Ebrill, 1880, pan yn 60 oed, a chladdwyd ef yn mynwent capel y Methodistiaid yn Talybont.

Dyn o daldra cyffredin ydoedd, gwallt du, hytrach yn gyrliog; wyneb tywyll a chrwn. Siaradai yn araf, gyda llais hyglyw a chryf. Yr oedd ei bregethau bob amser yn dda, ac yn llawn o feddwl a choethder, ac yr oedd yn gymeradwy iawn yn yr holl leoedd fyddai yn cael ei weinidogaeth. Pe buasai yn feddianol ar fwy o ysbryd cyhoeddus a hunan ymddiried, gallasai ei farn addfed, ei gallineb rhagorol, a'i alluoedd fel pregethwr, sicrhau iddo le o anrhydedd mawr. Cafodd adnewyddiad amlwg yn niwygiad 1859, a phregethai yn fynych gyda dylanwad rhyfedd. Pan yn Tywyn, un Sabbath, dywedai, "Yn y gwarchae caled fu ar Lucknow yn rhyfel mawr yr India, yr oedd disgwyliad pryderus am General Havelock i'w gwaredu. Dywedai hen wraig yno ei bod wedi clywed ei swn yn dyfod, pa fodd bynag y bu hyny. Nid oedd eraill yn ymwybodol o'r un peth. Daeth o'r diwedd i'r golwg, a gwaredodd y dref. Clywed am y diwygiad o draw yr ydych chwi yn Tywyn, ond daw y General mawr yn y man." Daeth llawer i'r seiat y noson hono. A dywedai Mr. Rees, y blaenor, am yr odfa yn y Cyfarfod Misol ar ol hyny, nes oedd yr holl le yn foddfa o ddagrau.

Gwyddai yn dda pa bryd, a pha fodd i wneyd defnydd o gymhariaethau. Yr oedd llawer o'r bobl ieuainc yn y diwygiad yn barod i wneyd defnydd o'r hyn a wyddent am grefydd, ac i ddysgu rhai o'r hen bobl brofiadol yn ei chylch. Portreada y rhosyn blodeuog diweddar yn dysgu yr hen dderwen gauadfrig. Yn mhellach dywedai, "Yr oedd dyn ieuanc yn ymweled â hen grefyddwr, ac yn dweyd wrtho rywbeth a wyddai am Iesu Grist. Diolch i chwi am eich cyfarwyddyd, meddai yr hen sant, mae y Gwr yr ydych yn son am dano a minau yn ffrindiau er's mwy na 40 mlynedd."

Pan yn dioddef yn yr hospital yn Llundain, aeth Mr. James, ei frawd, blaenor presenol Stepney, a llythyr y Cyfarfod Misol ato i'w ddarllen. Dywedai, "Dyma lle yr wyf yn ceisio ymdreiglo ar Salm xlvi., ac y mae yn wir yn yr hospital." Dywedai hefyd, "Cefais lawer o nerth trwy y geiriau hyny, 'Gorchymynaist fy achub;' gweled fod y Gwr wedi rhoddi orders am fy achub, nid wyf yn gweled y gellir fy namnio mwy." Pan oedd ei frawd yn cyfeirio at y cysur a'r calondid oedd mewn bod ei frodyr yn y Cyfarfod Misol yn cofio ato, ac yn gweddio drosto, dywedai, "Ië, mae llawer yn hyny."

PARCH. MORGAN DAVID JONES James[2], RHIWBWYS.

Mab ydoedd i David James, fu yn flaenor yn Bronant. Yr oedd yn awyddus iawn am addysg a gwybodaeth er yn ieuanc, ac fel y cyfryw, aeth i Ysgol Normalaidd, Aberhonddu, prifathraw yr hon oedd Dr. Evan Davies, yr hwn a symudodd wedi hyny i Abertawe. Wedi hyny, aeth i gadw ysgol yn Whitland, Sir Gaerfyrddin. Gan nad oedd achos Methodistaidd yn y lle y pryd hwnw, ymaelododd gyda'r Annibynwyr, yn Henllan; a dywedai trwy ei oes am y gweinidog rhagorol oedd yno ar y pryd, sef y Parch. J. Lewis. Gwelodd y gweinidog fod yn y dyn ieuanc ddefnyddiau i wneyd pregethwr, ac anogodd ef yn daer i ddechreu, ac felly y bu. Er mwyn ymbarotoi i fyned i'r Coleg, aeth i Ysgol Ramadegol oedd ar y pryd yn Solfach, Sir Benfro. Tra yno, anmharodd ei iechyd yn fawr, a theimlodd oddiwrtho trwy ei oes, yn enwedig trwy y dolur oedd yn ei wddf, yn ei rwystro i lyncu ei ymborth, ond gydag anhawsdra. Wedi dyfod adref i Bronant, oblegid ei waeledd, a chael llawer o adferiad, torwyd ato gan y Parch. Thomas Evan, Aberarth, i'w gymell i ddyfod yn ol at y Methodistiaid, a hyny fu y moddion cyntaf i'w ddwyn yn ol.

Bu am rai blynyddau yn cadw ysgol yn Aberaeron, ac wedi ymbriodi à Miss Evans, Shop, Llanon, aeth i Rhiwbwys, lle y bu yn cadw y fasnach ymlaen am y gweddill o'i oes, yn agos i'r Ffrwd i ddechreu, ac wedi hyny yn y ty newydd a gododd, yr hwn a elwir London House, lle y mae ei weddw yn awr. Yr oedd ei ddawn ymadrodd yn uwchraddol, ei iaith yn hedegog a choeth, a dywedai mewn haner awr fwy na llawer mewn awr. Yr oedd o feddwl athronyddol, ac yn ymresymwr cadarn. Cafodd ysbryd newydd a chorff newydd, mewn cymhariaeth i'r peth oedd, yn niwygiad 1859. Daeth allan gyda nerth anorchfygol i gymeryd y wlad trwy Dde a Gogledd, a chwympwyd llawer o gedyrn trwyddo. Gwnaeth ei bregeth ar y geiriau, "Rhoddaf eu ffordd eu hun ar eu penau,' daflu cynulleidfaoedd mawrion i'r annhrefn mwyaf, os annhrefn hefyd, yn yr olwg ar berygl yr annuwiol dan bwysau eu ffordd, ac yn yr awydd a'r gwaeddi am waredigaeth. Gwnaeth ei bregethau ar yr adnodau canlynol les i lawer,—" Canys yr ydys yn ein rhoddi ni y rhai ydym yn fyw, yn wastad i farwolaeth er mwyn Iesu, fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein marwol gnawd ni. Profwch chwychwi eich hunain, holwch eich hunain, a ydych yn y ffydd; ai nid ydych yn eich adnabod eich hunain, sef bod Crist ynoch, oddieithr i chwi fod yn anghymeradwy." Yr oedd llawer o athroniaeth yn dyfod i'r golwg yn y pregethau y cyfeiriwyd atynt, ond yn fwy wrth bregethu ar y geiriau,—"Anrhydedd Duw yw dirgelu peth."

Mynai rhai ei fod y pregethwr mwyaf, ar rai cyfrifon, o bawb yn y sir, a mynent ei roddi yn y lleoedd mwyaf amlwg i bregethu, a diameu yr enillasai le llawer uwch nag a wnaeth, pe buasai ganddo gorff yn ateb i'w feddwl, pe buasai yn ymryddhau yn fwy oddiwrth fasnach, ac yn myned yn amlach i gyfarfodydd ei sir. Bu yn hir yn glaf, a bu farw Mai 16, 1870. Claddwyd ef yn mynwent capel Rhiwbwys, ar ol pregethu am fwy nag 20 mlynedd. Cafodd ei ordeinio yn Llangeitho, yn 1859. Mab iddo yw y Parch. T. E. James, gweinidog gyda'r Annibynwyr yn Rhosycaerau, Sir Benfro, yr hwn a aeth at yr enwad hwnw, fel ei dad, a hyny pan yn cadw ysgol mewn pentref lle nad oedd Methodistiaid. Yr oedd Mr. James yn ddyn cyffredin o daldra, cnwd o wallt du ar ei ben, nes iddo lasu, wyneb gwelw, teneu, ac ol y frech wen arno. Llygaid llym a threiddgar, a chorff ysgafn a theneu. Mae traethawd o'i eiddo, yr hwn a ysgrifenodd pan yn cadw ysgol yn Solfach, ar gael. Dyfynwn frawddeg, neu ragor, gan ei fod yn dangos y dyn bron trwy ei oes. "Y meddwl dynol," yw y testyn,—"Pe gollyngem ein llygaid hydreiddiawl i fanwl graffu ar ryfeddodau y bydysawd creadigol, ni chanfyddem yr un ysmotyn, o fewn cylch eang ein cyrhaeddiadau, lle yr amlygir ol bysedd y Jehofah i'r un perffeithrwydd diymwad a'r meddwl dynol. Hwn ydyw addurn a gogoniant creadigaeth Duw.'" "Oni allwn gasglu y bydd ei gynydd yn dragwyddol fel ei fodolaeth, ac y bydd ei alluoodd i deimlo yn ei gysylltiad â gwynfyd ac â gwae yn hollol gyfartal i'w fawredd naturiol a byth-gynyddol."

PARCH, EDWARD JONES, ABERYSTWYTH.

Mab ydoedd i Edward a Mary Jones, Rhiwlas, plwyf Llanfihangel-geneu'r-glyn, yn agos i'r Borth. Ganwyd ef Medi 11, 1790. Cafodd ei addysgu i fod yn gyfrwywr, er na wnaeth fawr o'r alwedigaeth, gan iddo fyned ymhell uwchlaw y byd trwy ymbriodi â Miss M. Davies, chwaer i'r enwog Mr. Robert Davies, Aberystwyth. Aeth i Lundain pa yn 20 oed, pryd y cafodd gyfleusdra i wrando John Elias yn pregethu oddiar y geiriau, "Na fydd ry annuwiol, ac na fydd ffol, paham y byddit farw cyn dy amser?" Gwnaeth y bregeth ef yn derfysglyd iawn am ei gyflwr fel pechadur, ac yn y terfysg yma yr oedd pan y symudodd i Bristol, lle y clywodd y Parch. John Evans, Llwynffortun, yn pregethu oddiar y geiriau, "Pa hyd yr ydych yn cloffi rhwng dau feddwl?" Yma y gorphenwyd ei argyhoeddiad, ac y penderfynodd o du yr Arglwydd am byth. Ymddengys iddo golli ei hun yn hollol yn yr odfa, gan ei fod ar y dechreu yn agos i ddrws y capel, ond erbyn y diwedd yn pwyso ar y cor mawr o dan y pulpud. Pan ddaeth i'r seiat yno, dywedodd y blaenor wrtho, os caffai grefydd dda, y gwnelai ei ddysgu pa fodd i wisgo ac i drin ei wallt, a phethau cyffelyb, a gwnaeth iddo orphen y seiat trwy weddi. Yn foreu dranoeth, aeth at yr eilliwr i dori ei wallt, a newidiodd bob peth yu ei wisg oedd yn debyg o fod yn dramgwydd i'r dynion goreu. Gwelir y Cristion a'r pregethwr am ddyfodol ei oes, yn amgylchiad- au ei gychwyniad gyda chrefydd, gan na fu neb mwy manwl nag ef gyda'r ddisgyblaeth a'r holl drefniadau eglwysig.

Wedi dyfod adref i'r Borth, synodd pawb wrth weled y cyfnewidiad amlwg oedd ynddo. Yr oedd ei allu meddyliol, ei ofal am foddion gras, a'r rhan bwysig a gymerai ynddynt, y fath fel y gwnaed ef yn flaenor, Gorphenaf 20fed, 1815. Trwy gymhelliad taer yr hen flaenor enwog Richard Jenkins, Gwarallt, dechreuodd bregethu Mai 24ain, 1818. "Y mis canlynol," meddai ef ei hun, "sef Mehefin 9fed, yn Nghyfarfod Misol y Garn (Pengarn), derbyniwyd fi i bregethu trwy y sir, ac yn bregethwr y Cyfundeb yn Nghymdeithasfa Llangeitho, Awst 19, 1818. Neillduwyd fi drachefn, yn yr un lle, i gyflawn waith y weinidogaeth, Awst 7, 1829, yr un pryd a'r Parch. David Jenkins, Llanilar, yr hwn a aeth i America." Gallwn feddwl fod y rhai oedd wrth y llyw y pryd y derbyniwyd ef yn bregethwr y sir a'r Gymanfa, yn fwy rhyddfrydig a goddefgar nag y gwelwyd llawer ar eu hol. Derbyniwyd David Evans, Aberaeron, bron yr un fath. Ond yr oedd Mr. Evans ac yntau wedi myned ymlaen mewn oedran cyn dechreu; yr hyn oedd yn fwy rhyfedd gyda Mr. Evans, oedd iddo gael ei dderbyn yn aelod eglwysig, a'i wneyd yn bregethwr, mewn llai na chwarter blwyddyn. Mae yn wir nad oes rheolau neillduol gyda golwg ar amser y derbyniadau crybwylledig. Mae y cwbl yn dangos fod Mr. Jones yn un o bwysau neillduol fel dyn call, Cristion addfed, a blaenor eglwysig o radd uchel, yr flaenorol i hyn, ac felly dywedwyd "Duw yn rhwydd " wrtho ar unwaith.

Nid fel pregethwr y darfu iddo ddyfod yn fawr ac yn enwog. Yr oedd yn bregethwr da, ond fel dysgawdwr, amddiffynwr, a blaenor y Cyfundeb, yr oedd ei ragoriaeth ef ar ei frodyr yn gynwysedig. Dysgai lawer wrth bregethu. Unwaith ar brydnhawn Sabbath trymaidd, yn Pontsaeson, oddiar Actau ii. 47, dysgai y gynulleidfa ar ystyr y gair eglwys. "Mae yn arferiad," meddai, "yn y wlad i alw Llan y plwyf yn eglwys, ond gyda'r anmhriodoldeb mwyaf, ac yr ydych yn gwneyd cam â'r Beibl wrth alw adeilad o goed a maen felly yn Eglwys. Dysgwch alw yr adeilad yn Llan y plwyf, neu dy y plwyf. Ty y plwyf ydyw, a phobl y plwyf sydd yn ei gynal a gofalu am dano, a hyny yn wahanol i bob lle arall." Cynhyrfwyd y cyfarfod yn fawr gan blentyn bach wedi cael ei ollwng yn rhydd i redeg ar hyd llawr ystyllod y capel, a threuliodd gryn amser i gael y fam at hwnw, a dysgu y bobl pa fodd i ymddwyn at y plant. Dysgai y lleoedd y byddai y Cyfarfod Misol ynddynt i gadw eu golwg ar bregethwyr ieuainc addawol i'w rhoddi i bregethu brydnhawn cyntaf y cyfarfod; ond nid oeddynt yn foddlawn gwrando arno. Beth bynag, pan gyhoeddid ef i bregethu, gwelai y fantais i roddi rhyw ddyn ieuanc yn ei le; a bron yn ddieithriad, byddai y cyfryw yn cael odfa dda, fel y byddai pobl y lle yn canmol rhyddfrydigrwydd Mr. Jones, yn y diwedd, er yn digio wrtho ar y dechreu am dori eu cynllun. Cafodd y Parch. Robert Thomas, Garston, pan yn ddyn ieuanc, odfa adawodd argraff ryfedd ar y wlad, yn Nghyfarfod Misol Bethania; a rhyw John James, o Blaenanerch, os ydym yn iawn gofio ei enw, a pha un ai o'r lle a enwyd yr oedd, neu ynte o ardal arall; ond yr oedd yr hen bobl yn dweyd, er fod ei gorff yn wan, a'i lais yn wanaidd, ei fod yn "pregethu fel angel." Bu farw yn fuan ar ol hyny, rhywle tuag ardal Pengarn. Fel hyn yr oedd Mr. Jones yn codi y bobl ieuainc i sylw, ac yn rhoddi ysbryd newydd yn y bobl ieuainc eu hunain.

Dysgai y pregethwyr i fod yn ostyngedig a hawdd eu trin, wrth fyned i bob lle ar hyd y wlad i bregethu a lletya. "Mae dynion," meddai, "yn dweyd wrthyf fi, weithiau, fy mod yn fwy gostyngedig na llawer o rai mwy tlawd na mi. Ond nid ydynt yn ystyried fod fy nhipyn eiddo i yn gwneyd i fy ngostyngeiddrwydd i ymddangos yn fwy. Mae genyf fi, felly, well mantais na chwi-gan enwi amryw. Mae yn gywilydd genyf na byddwn yn pregethu yn well, ac na byddwn yn fwy bendithiol i'r bobl, wrth eu gweled yn rhoddi eu pethau goreu i mi." Dangosodd y fantais uchod ar ginio unwaith yn Bethel. Daeth ef yno heb neb yn ei ddisgwyl, pryd mai Evan Edwards, Blaenpenal, oedd yn y daith. Wedi ei weled, gwylltiodd y rhai oedd â gofal y bwydydd arnynt. Wedi i amser cinio ddyfod, galwyd ef i'w gael ar ei ben ei hun. Ond gofynodd am ei gyfaill, ac wedi iddynt ymesgusodi, dywedodd, "O, galwch ef yn union, ni fwytaf fi ddim hebddo, pregethwr yw ef fel finau," Wedi gweled mewn lle arall rai yn ymdrechu gormod i barotoi ar gyfer ei gorff ef, a cholli ei weinidogaeth, galwodd am laeth, a gadawodd y parotoadau iddynt hwy, a dywedodd, "Dyfod i lawr o Aberystwyth wnaethum i lefaru dros Dduw, ac y mae yn ddrwg iawn genyf mai trafferthu ar fy nghyfer i yr ydych wedi wneyd, yn lle gwrando ar fy ngweinidogaeth." Wedi ychydig o siarad, dywedodd drachefn, "Gellwch fy nghredu fod pob un sydd yn teimlo pwys ei genadwri, yn foddlon iawn i fod ar arlwy waelach iddo ei hun, os bydd yn gweled parch i'w genadwri." Dywedai y wraig oedd yn cael y wers, yn benaf, ymher amser ar ol hyny, "Mae genyf olwg ar y dyn byth, a dangosodd mai ni oedd yn ymofyn, ac nid ein pethau." Gwnaeth lawer i ddysgu yr eglwysi am y dull mwyaf digynhwrf ac esmwyth i fod arnynt wrth gyfranogi o Swper yr Arglwydd. Ac y mae y dull presenol o eistedd yn eu lleoedd wedi cael ei ddwyn oddiamgylch trwy ei offerynoliaeth ef gan mwyaf. Dywedai fod y bobl yn cael gwell cyfleusdra i dderbyn yr elfenau, a gwell hamdden i feddwl, ac yn fwy tebyg i'r disgyblion a Christ, pan yn cyfranogi o'r ordinhad am y tro cyntaf erioed. Dangosai wrthuni yr arferiad o ddyfod i lawr a sefyll i gyd ar eu traed, ac i'r gweinidog ymwthio trwyddynt i gyfranu yr elfenau.

Cenhadaeth fawr ei oes ef, heblaw pregethu yr efengyl, oedd sefyll dros burdeb y ddisgyblaeth, a gofalu am eiddo y Cyfundeb; ac yr oedd cenhadaeth felly yn gofyn barn dda, bod heb ofn dyn, gonestrwydd dros Dduw, a phenderfyniad di-ildio i sefyll dros y gwirionedd. Ni chyflawnodd y pethau hyn heb le i'w feio ar rai achlysuron; ond gellir dweyd am ei feiau ef fel pob dyn mawr arall, eu bod yn dyfod i'r golwg yn y pethau yr oedd ei rinweddau a'i ragoriaethau yn fwyaf amlwg. Pan fyddai rhyw achos o anghydfod, neu rywun wedi troseddu y rheolau, os byddai angen am rywrai heblaw y bobl eu hunain i fod yno, efe a rhywun arall fyddai bron bob amser yn gorfod myned. Ac os clywai troseddwyr am dano ef, byddent yn dechreu meddwl o ddifrif am eu sefyllfa. Yr oedd rhai yn achwyn mai yr ochr gyntaf y clywai am dani fyddai yn gymeryd, heb gymeryd digon o ofal am gael gwybod yr ochr arall. Ond y mae yr hanes canlynol yn profi mai gwneyd cyfiawnder a thegwch i bawb oedd ei amcan yn y cwbl, Daeth cwyn am un nad oedd wedi gwneyd ei oreu o blaid tegwch wrth fyned yn fethdalwṛ. Wedi myned i'r lle, cafodd Mr. Jones weled fod y dyn yn euog, a mynodd arwydd yr eglwys i'w dori o fod yn aelod. Cododd y dyn i fyny, a gofynodd am ganiatad i ddweyd gair. Wedi cael hyny, dywedodd, "Yr oeddwn am hysbysu nad wyf yn cyfiawnhau dim o honof fy hun. Yr wyf yn addef fy mod wedi myned i ddyled fawr, ac wedi tynu gwarth ar yr achos, ac nad yw yr eglwys wedi gwneyd â mi ond yr hyn ddylai. Ond goddefwch i mi ddweyd, fod ar y rhai sydd yma ddyled i mi, a'r rhai hyny wedi codi eu llaw i fy nhori i allan. Pe byddai pob un o honynt yn talu ei ddyled i mi, ni buasai arnaf fi ddimai o ddyled i neb." Yr oedd pawb yn gweled Mr. Jones ar y pryd yn dechreu myned yn anesmwyth, ac wedi i'r dyn orphen, gofynodd, "A ydych chwi yn sicr, frawd, o'r hyn ydych yn ddweyd?" atebiad oedd, "Ydwyf yn ddigon sicr, gallaf eu henwi yn awr, os ydych yn dewis." "Wel," meddai Mr. Jones, "deuaf fi yma eto ymhen y mis, a bydded i bawb dalu eu dyled i'r brawd yma yn ystod yr amser, neu bydd raid tori y rhai hyny allan ymhen y mis, a'i gadw yntau i fewn." Tynwyd y ddedfryd ar y dyn yn ol, a gadawyd i'r cwbl i fod yn anmhenderfynol dros y mis. Mawr oedd pryder Mr. Jones ynghylch y peth, a holai yn fynych yn ddistaw, pa fodd yr oedd pethau yn debyg o droi allan. Terfynodd yr achos yn foddhaol; ni fu angen galw am dori neb o'r eglwys, gan fod bron bawb allan o ddyled ymhell cyn bod y mis drosodd.

Teithiodd ganoedd o filldiroedd gydag achosion fel yma, a chyda sicrhau tir a phethau eraill i fod yn feddiant diogel i'r Cyfundeb. Bron bob amser byddai ganddo mewn Cyfarfod Misol ryw brydles i'w harwyddo, neu roddi ryw hysbysiad ynghylch rhai; a byddai bob amser wedi ei arfogi yn dda â'r Constitutional Deed, y "Cyffes Ffydd," y "Dyddiadur," yr "Hyfforddwr," Rheolau yr Yegol Sabbothol, a phethau eraill angenrheidiol at gefnogi ei hun yn y materion mewn dadl, a chadarnhau pawb oedd yn bresenol yn yr athrawiaeth a'r ddisgyblaeth, yn ogystal ag yn y pethau cyfreithiol ynghylch tiroedd a chapeli. Arno ef yr oedd y gofal mawr am gael sylw at yr holl bethau a nodwyd. Efe y rhan fynychaf fyddai yn rhoddi y gwahanol gasgliadau gerbron, ac yn cymell y swyddogion i'w rhoddi yn deg o flaen y cynulleidfaoedd. Yr oedd yn agos at William Thomas, Ysw., cyfreithiwr, ac yr oedd gwybodaeth hwnw yn wybodaeth iddo ef, a'i wybodaeth yntau yn wybodaeth i hwnw. Dadl fawr ddiwedd ei oes oedd yr un am briodasau anachaidd. Yr oedd yn anffafriol iddo ef fod hyn ar amser diwygiad 1859, gan fod teimladau yr eglwysi yn dyner, ac yn tueddu at gadw pawb i fewn yn hytrach na'u tori allan Yr oedd yntau am sefyll dros y ddisgyblaeth, a gweinyddu hono yn ol y Beibl, diwygiad neu beidio. Yr oedd llawer yn credu fod y cyndynrwydd a amlygwyd gyda hyn yn yr eglwysi, wedi bod yn gyfnerth mawr i'w glefyd diweddaf, a pheri iddo ddisgyn mewn gofid i'w fedd. Ychydig ddyddiau cyn iddo farw, daeth mewn close carriage i Gyfarfod Misol Blaenplwyf, er mwyn cael cymeradwyaeth y frawdoliaeth yno i dori rhai anachaidd allan. Gydag anhawsder mawr, a thôn isel y siaradai. "Wel, anwyl frodyr," meddai, "yr wyf wedi ymneillduo oddiwrthych er's tro, a gwelwch lle yr wyf yn myned yn gyflym. Dywedaf air o'm profiad wrthych: yr wyf wedi colli ofn marw yn llwyr; mae hyny yn llawer i ddyn sydd yn ymyl marw. Clywais lawer gwaith fod rhai o'r hen dduwiolion ag ofn y nefoedd arnynt, ond ni wyddwn i fawr am hyny hyd yn awr. Y dyddiau hyn, wedi colli ofn uffern, yr wyf yn gwybod beth yw ofn y nefoedd. Yr wyf yn meddwl, yr wyf braidd yn sicr, mai i'r nefoedd y mae y Gwr yn fy nghymeryd; ond O! frodyr anwyl, mae arnaf ofn y purdeb a'r sancteiddrwydd tanbaid sydd ar bawb a phob peth. Mae hyn wedi dyfod a mi i ymddiried yn y drefn fawr yn llwyrach nag erioed. 'Gan ddiolch i'r Tad, yr hwn a'n gwnaeth ni yn gymmys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni,' goleuni! Ië, goleuni! Wel, yr ydych yn gwybod fy neges atoch heddyw (tipyn o gynhwrf gwawdus yn y lle gyda rhai), a rhaid fod y mater yn bwysig iawn, neu ni fuaswn yn gwneyd cymaint o ymdrech i ddyfod o'm gwely." Ymdrechodd ddweyd llawer ar amgylchiadau yr achos y daeth yno o'i herwydd. Yna gofynodd am arwydd i'w tori allan. Arwyddodd amryw, ond nid aeth y dynion allan. "Dyna," meddai yntau, "byddaf yn rhydd i farw bellach, gan i mi gael cyfleusdra i ddweyd, a chynghoraf chwi, frodyr, y swyddogion yma, i sefyll yn gadarn dros Air yr Arglwydd ymhob peth; hyn fydd eich cadernid." Y geiriau fu yn gynhaliaeth mawr iddo yn y glyn yw y geiriau, "Dangosaf iddo fy iachawdwriaeth." Bu farw Awst 29ain, 1861, yn 71 oed, wedi pregethu am 45 mlynedd; ac efe oedd y cyntaf a gladdwyd yn cemetery Aberystwyth.

Dyn tal, teneu, ydoedd, yn sefyll yn hytrach yn gam, wyneb hir, a'r pen yn foel yr amser cyntaf yr ydym yn ei gofio. Yr oedd yn crychu ei dalcen, gan edrych i lawr, a phesychu yn awr a phryd arall, fel pe byddai yn teimlo ei ffordd o hyd wrth siarad. Felly yn y pulpud ac ymhob man.

PARCH. EVAN JONES, CEINEWYDD.

Ganwyd ef yn 1809, a dygwyd ef i fyny yn Parcybrag, Penmorfa. Yn y flwyddyn 1832, dechreuodd bregethu, a hyny bron yr un adeg ag y dechreuodd y Parchn. Daniel Davies Tanygroes, a John Jones, Blaenanerch, sef ar adeg o ddiwygiad crefyddol grymus. Aeth i'r Ysgol Ramadegol a gynhelid yn Llangeitho, athraw yr hon ar pryd hwnw oedd y Parch. John Jones, Saron. Priododd â Miss Jane Evans, Ty'ndolau, Llangeitho, a buont byw yn y Pâl am rai blynyddoedd, pryd yr adnabyddid ef fel Evan Jones, Llangeitho. Ar gymhelliad eglwys y Tabernacl, Ceinewydd, symudodd yno. Neillduwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn 1841, yn Llangeitho.


Yr oedd yn bregethwr cymeradwy gan yr holl eglwysi. Yr oedd o ddawn mwy melus na'r cyffredin, er nad oedd ei lais ond cyfyng, a rhy wanaidd i waeddi ond ychydig. Anaml y byddai heb enill sylw a theimlad ei wrandawyr; ac oblegid hyny, yr oedd galw mawr am dano yn agos ac ymhell. Daeth yn areithiwr ar ddirwest, ac yn holwr ysgol o'r fath oreu. Nid oedd o gyfansoddiad cryf, ac oblegid ei fynych wendid, nid oedd yn gallu ateb agos y galwadau fyddai arno. Yr oedd yn un o daldra cyffredin, gwallt melyngoch, wyneb brychlyd a goleu, a'i lygaid yn drymaidd ac yn sefyll i fewn ymhell yn eu tyllau. Golwg wasgedig fyddai arno, ac yr oedd llesgedd ei gorft yn cyfrif am byny. Bu farw yn 46 oed, a chladdwyd ef yn mynwent capel Penmorfa. Bu galar mawr yn yr eglwysi ar ei ol. Brawd iddo oedd y Parch. Ebenezer Jones, Corris, yr hwn a aeth drosodd at yr Annibynwyr; a brawd iddo yw Mr. Owen Jones, blaenor Llechryd. Er mwyn dangos y fath un oedd Mr. Jones, rhoddwn yma ddyfyniad o lythyr o'i eiddo, yr hwn a ysgrifenodd at Mrs. Richard, gweddw y Parch. Ebenezer Richard, Tregaron, pan oedd hi yn byw gyda'i merch yn Aberaeron: "Yr ydych yn clywed am ansawdd fy iechyd yn fynych gan rywrai, ond dim o dywydd fy meddwl yn fy afiechyd; gan hyny, rhoddaf ychydig o hwnw i chwi yn awr. Lled derfysglyd yr oeddwn yn teimlo yn fy saldra mwyaf, fy ymddiried yn Nuw yn fach ar lawer pryd; pan feddyliwn fy mod yn myned i adael y byd, a chefnu ar fy anwyl deulu, byddai gwyntoedd cryfion yn ymryson ar fôr fy meddwl a'm teimladau. Wrth edrych yn wyneb fy mhlant bach, byddwn yn barod i ofyn beth a ddaw o honynt,—maent heb eu magu, ac heb eu dysgu, ac heb un ddarpariaeth yn y golwg tuag at hyny, dim ond eu gadael i drugaredd y tonau. Weithiau byddwn yn ceisio eu anghofio, ond nis gallwn. Ceisiwn ymgysuro yn y meddwl eu bod yn blant i weinidog Methodistaidd, ac oblegid hyny, na chaent ddim cam; ond nid oedd gan y rhai hyny ddim i bwrpas at yr angen fyddai arnynt. Yn ddisymwth, daeth yr adnod hono i fy meddwl, a llonyddodd y dymhestl, 'Gad dy amddifaid, a mi a'u cadwaf hwynt yn fyw, ac ymddirieded dy weddwon ynof fi. O'r goreu, meddai fy enaid inau, mae pobpeth yn all right os cymeri di eu gofal.

"Mewn perthynas i fy nghyflwr fy hun, fy meddwl mwyaf cyffredin, a'm barn fwyaf penderfynol am dano yw, 'Mi a gefais drugaredd.' Bydd arnaf ofn rhyfygu hefyd wrth ddweyd felly; ond yr wyf yn sicr i mi gael rhywbeth nad oedd ynof wrth natur, a pha enw a roddaf arno, nis gwn, os na chaf ei alw yn drugaredd. Cefais rywbeth pan oeddwn yn ddeg neu ddeuddeg oed, yn y pregethan, a'r Ysgol Sabbothol, a'r cyfarfodydd gweddiau yr oedd yn gynwysedig ynddo ofid am fy mod yn bechadur, ymddidoliad llwyr oddiwrth fy nghyfoedion drwg, serch a chariad at Grist, a'i achos, a'i bobl, nes eu dewis yn eiddo i mi byth, Yr oedd yn dda genyf, ac y mae yn dda genyf hyd heddyw, gofio am ambell ochr, y clawdd, ac ambell i lwyn gwern ar lan yr afon (sydd o dan Parcybrag), lle y bum, wrth fugeilio y gwartheg, yn rhoddi fy hunan i Iesu Grist, ac yn ymgyfamodi i'w wasanaethu; ac nid ydwyf hyd heddyw yn edifarhau i mi wneuthur hyny. Beth oedd hyn, nis gwn, onid oedd yn drugaredd."

Pan yn anerch y cymunwyr yn Pontsaeson dywedai, "De'wch yn fynych at Bren y bywyd i gymeryd yr afalau peraidd sydd aruo, yn lle dal i dynu ar yr hen fyd diffrwyth yma. 'Wele yr wyf yn rhoddi iddynt fywyd tragwyddol.' Dyna afal braf, 'cymer afael' arno. 'Rhoddaf i chwi galon newydd,' dyna un arall, ac mor ddedwydd y byddech yn myned oddiwrth y bwrdd yma heddyw, pe cawsech hi. 'Digon i ti fy ngras i," dyna un arall a digon ynddo, beth bynag yw dy angen." Gwaeddai allan y penillion, "Dyn a'r Duwdod ynddo'n trigo, ffrwythau arno'n tyfu'n llawn," "Ces eistedd dan ei gysgod ar lawer cawod flin," nes yr oedd pawb wrth ei wrando yn teimlo eu llestri yn llawn.

Cyhoeddwyd pryddest fuddugol iddo, o eiddo y Parch. Daniel Evans, Ffosyffin, ac y mae y darn canlynol o honi yn ddesgrifiad perffaith o hono : Ar y dalen

'Dirgelwch ei lwydd oedd ei fawr ddifrifoldeb,
Heb unrhyw gywreinrwydd na dynol ddoethineb;

Nid oedd yn ei bregeth ond purdeb a symledd,
Pechadur a'i bechod, a Duw a'i drugaredd.
O deg 'eiriau denu' ni cheid ganddo nemor;
 'Tân dieithr' ni welwyd erioed ar ei allor;
Ei nerth oedd ei Dduw, a'r gwirionedd ei hyfdra,
A bywyd y cyfan oedd aberth Calfaria."


PARCH. JOHN JONES, BLAEN ANERCH.

Mab ydoedd i Samuel a Charlotte Jones. Ganwyd ef yn Melin, Blaenpistyll, lle rhwng Blaenanerch a Llechryd, Hydref 4, 1807. Ond yn foreu ar ei oes ef, daeth ei rieni i fyw i Cyttir Bach, yn nes i Aberteifi ychydig na chapel Blaenanerch, ar ochr y ffordd i'r ddau le. Yr oedd ei dad yn ddigrefydd, a'i fam yn aelod gyda'r Bedyddwyr. Yr oedd tua naw ond cyn dysgu darllen, er ei fod yn hoff iawn o wrando pregethau yn yr oedran hyny. Dringai y coedydd hefyd ar hyd y lle, a phregethai i'r plant; a byddai weithiau yn dyfod i lawr i'w caro, er mwyn eu gweled yn wylo. Gelwid ef y pryd hwnw, "Pregethwr y Cyttir Bach." Collodd lawer o'r agwedd grefyddol hon ar ei ysbryd a'i arferion, a bu am ryw dymor yn hoff o gwmpeini ac arferion drwg. Cyn hir, daeth yr hen hoffder at bregethau a chyfarfodydd crefyddol mor fyw ag erioed i'w feddwl, ond ei fod erbyn hyny yn gallu eu sylweddoli yn fwy, ac felly yn gwneyd dyfnach argraff arno, fel y meddyliai yn fynych am ddyfod at grefydd. Yn 1832, pan yn gwrando y Parch. James Davies, Penmorfa, yn pregethu ar y geiriau, "A thân fflamllyd, gan roddi dial i'r sawl nid adwaenant Dduw, ac nid ydynt yn ufuddhau i efengyl ein Harglwydd Iesu Grist," cafodd ef a rhai ugeiniau o rai ereill, eu dwysbigo yn eu calon. Yr oedd yn adeg o adfywiad ar grefydd. Tua'r un adeg, pregethodd un William Jones, Caerwys, yn y lle oddiar y geiriau, "Ac wele yr holl ddaear yn eistedd ac yn llonydd." Gwnaeth hon eto yr argraffiadau yn ddyfnach, a daeth ef ac 16 o rai eraill at grefydd yr un dydd, a derbyniwyd hwy gan y Parch. William Morris, Cilgerran, yn nghanol teimladau cyffrous a dagrau lawer.


Dechreuodd yn awr ar ei waith fel crefyddwr. Wrth ddarllen a gweddio yn ei gartref am y tro cyntaf, bu yn odfa go ryfedd. Wedi darllen penod, arhosodd ychydig cyn myned i weddi. Gan feddwl, hwyrach, y gwnelai yn well heb oleuni celfyddyd, diffoddodd y fam y ganwyll, ac aeth yntau i weddi, a gweddiodd nes y torodd un o'r hen gymydogesau duwiol, oedd yn bresenol, allan i waeddi. Yn un o dai Bronheulwen y gweddiodd yn gyhoeddus gyntaf, pryd torodd allan yn orfoledd mawr. Gan ei bod yn amser diwygiad, yr oedd y cyfarfodydd gweddïau yn aml, a chan ei fod ef mor hynod mewn gweddi, yr oedd y bobl am ei glywed bron ymhob cyfarfod. Cafodd trwy hyny fantais fawr i ddyfod yn well gweddïwr fyth. Yr oedd ei gariad cyntaf, a gwres y teimlad diwygiadol mor gryf, gyda'r llais anghyffredin o beraidd oedd ganddo i waeddi, yn ei wneyd yn well gweddïwr nag a glywodd nemawr neb yn yr ardal. Yr oedd ganddo dalent ragorol, hefyd, i ddynwared pregethwyr, a thraddodi darnau helaeth o'u pregethau. Oblegid y pethau hyn, cymhellwyd ef gan lawer i ddechreu pregethu, a gwnaeth hyny gyntaf mewn cyfarfod gweddi yn Cross Inn, tafarndy y pryd hwnw. Daeth yn bregethwr anghyffredin o boblogaidd ar unwaith, a daeth galw mawr am dano yn agos ac ymhell. Yr ydym yn ei gofio yn y Penant ar noson waith yn pregethu ar y geiriau, "A bydd y llywodraeth ar ei ysgwydd ef." Yr oedd hon yn un o'i bregethau cyntaf wedi iddo gael rhyddid i fyned trwy y sir, ac, fel yr ydym yn deall, y bregeth a'i dygodd i boblogrwydd gyntaf. Yr ydym yn cofio bod y capel yn orlawn, ac yntau yn gwaeddi ei destyn yn awr ac eilwaith, nes yr oedd y gynulleidfa yn gyffro drwyddi, ac amryw yn tori allan i waeddi. Mae yn debyg iddo fyned i ysgol a gynhelid yn Aberteifi, er mwyn dysgu ychydig o'r iaith Saesneg. Ond ni fu yno fawr, gan fod y galwadau arno i bregethu yn ormod, ac yntau o'r herwydd, dan orfod i wneyd pregethau newyddion. Beth bynag, cafodd well ysgol i ddysgu Saesneg, trwy ymgysyllu & Mrs. James, Canllefaes, yr hon oedd fwy o Saesnes o ran iaith nag o Gymraes. Aeth i'r fferm hon i fyw am beth amser, yna daeth ef a Mrs. Jones yn ol at ei dad i'r Cyttir Bach, gan fod hwnw yn hen ac analluog i fyned ymlaen a'r fferm. Ar ol hyn, cododd y ty a elwir Brynhyfryd yn gartref iddo ei hun, a bu yno nes ei symud i'r nefoedd, Ionawr 14, 1875, yn 68 oed, a chladdwyd ef o flaen tapel Blaenanerch.

Yr oedd yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd a gafodd Cymru, a daliodd ei boblogrwydd yn ddifwlch hyd ei fedd. Ac y mae yn rhyfedd meddwl ei fod mor boblogaidd gartref ag oedd pan ymhell oddiyno. Mae hyny yn brawf o'u parch iddo fel dyn a Christion, yn gystal ag fel pregethwr. Ymhob lle y byddai yn dyfod am Sabbath, yr oedd y son am dano yn cael ei ledaenu trwy yr ardal am wythnosau cyn y Sabbath, yr hyn fyddai mewn canlyniad yn gynyrch parotoadau cyffredinol er dyfod i'w wrando. Byddai y cefftwyr bron o bob math yn llawn gwaith yn gwneyd gwisgoedd newyddion, yn enwedig i'r ieuenctyd; a byddai yn ddigon o reswm gan y rhai hyny dros beidio gwneyd pob peth arall ar y pryd, i ddweyd fod Jones, Blaenanerch, i fod yn y lle a'r lle, ar y pryd a'r pryd. A byddai ei gael i le yn ddigon i godi esgeuluswyr allan am y tro hwnw, ac i gael llawer o enwadau eraill yno. Nid yn unig yr oedd ef yn boblogaidd, ond byddai felly yn nghanol rhai tebyg iddo. Yr oedd cadben llong yn ein hysbysu ei fod ef unwaith yn Nghymanfa y Sulgwyn yn Liverpool, ac mae am Jones, Blaenanerch, yr oedd bron bawb yn siarad, ac mai i'r capel lle y byddai ef yr oedd y rhan fwyaf am fyned. Yr oedd gweinidog o'r Deheudir yn dyfod adref trwy Machynlleth o Gymdeithasfa Bangor, sef un diwygiad 1859, yn yr hon y pregethodd Mr. Jones ar y "Maen osododd Duw yn Seion." A phan ofynwyd iddo pa fath Gymanfa gafodd, "Yr oedd yn Gymanfa ryfedd," meddai, "ond swn Jones, Blaenanerch, sydd yn fy nghlustiau i o hyd yn gwaeddi 'Sylfaen safadwy.'" Bu ar daith trwy Sir Fon ar ol y Gymanfa, a dywedir fod holl ynys yn debycach i gynwrf mawr cyfarfod arbenig i addoli na dim arall tra fu yno, oblegid ei boblogrwydd tra rhyfedd. Tra yr oeddym yn y sir flynyddoedd ar ol hyny, yr oedd y bobl yn tystio wrthym bod ugeiniau os aad canoedd wedi ymuno â'r eglwysi mewn canlyniad i'w bregeth fawr yn Sasiwn Bangor.

Gan fod y Parch. John Davies, Blaenanerch, wedi ysgrifenu cofiant rhagorol iddo, gadawn i hwnw lefaru am y gwr rhyfedd hwn a gododd yr Arglwydd i Gymru. Rhoddwn yma rai o'i ddywediadau. "At Grist y mae y saint yn dyfod am sylfaen eu cymeradwyaeth gyda Duw. Pe baent yn ymddibynu ar y ddeddf, byddent yn llyncu y cwbl eu hunain; ond y maent wrth ddelio â hen fanc Calfaria, yn gallu talu peth enterest i Dduw." "Nid yw'r milwr yn agor siop fan yma, ac yn agor business fan draw, byw ar y government y mae ef. Felly y mae y Cristion; a rhaid i deyrnas Emanuel fyned yn chwilfriw, cyn y bydd eisiau arno ef. Yr wyf finau yn meddwl weithiau fod yn rhaid i Fab Duw fyn'd yn bankrupt cyn y gwelir finau yn dlawd. Mae'n hen bryd diolch am hyn." "Pan oeddwn ar lan ffynon Trefriw, dangosent i mi ffyn baglau y rhai oedd wedi eu gwella gan y dwfr. Yr wyf yn gwel'd hen ffynon Calfaria yn yr efengyl, a ffyn baglau yr hen Fanasseh, Mair Magdalen, a hen bechaduriaid duon Corinth ar ei glan i gyd wedi eu mendio, ac y maent heddyw yn sefyll yn eu gynau gwynion gerbron gorseddfainc Duw. Mentra mla'n bechadur, mae croeso i tithau fel yr wyt."

PARCH. JOHN JONES, LLANBEDR.

Cafodd ei eni yn Blaenplwyf, plwyf Llanfihangel Ystrad, yn 1797; ond yn fuan, symudodd ei rieni i'w fferm eu hunain, sef Penshetting, plwyf Silian. Yr oedd yn myned o'r lle hwn i Lanbedr, ac yno wrth glywed hen bregethwyr y Methodistiaid, derbyniodd argraffiadau crefyddol dwfn a pharhaus. Yr oedd yn dda am ddysgu y Beibl, ac yn ol arferiad dda y dyddiau hyny, adroddodd lawer penod o flaen y pregethwyr, yr hyn a hoffai yn fawr. Wedi ei dderbyn yn aelod, cododd allor yn y teulu, pan nad oedd ond oddeutu 16 oed, a daeth i weddio yn gyhoeddus a holwyddori yn yr Ysgol Sabbothol.. Wrth weled cymhwysder ynddo at y gwaith o bregethu, anogid ef gan amryw o'r hen bobl dda i ddechreu ar y gwaith, a hyny a wnaeth cyn bod yn 20 oed Pan yn ieuainc, yr oedd yn cael ysgol yn eglwys Silian, yr hon a


Yr oedd yn un o'r duwinyddion goreu yn y sir. Yr hon dduwinydd galluog, John Thomas, Aberteifi, fu yn ei holi pan yn ymgeisydd, ac yr oedd trwy ei oes fel pe byddai wedi cael rhyw ysbrydiaeth dduwinyddol oddiwrtho. Byddai yn un o'r rhai mwyaf medrus i holi ymgeiswyr yn yr athrawiaeth, a chynghorai hwynt oll i fod yn gryfion ac iachus ynddi, a chadarn yn yr Ysgrythyrau. Ni chyfrifid ef yn un o'r pregethwyr blaenaf; eto, yr oedd yn pregethu yn fynych yn y Cymdeithasfaoedd. Yr oedd Edward Mason yn gyfaill iddo ar daith trwy y Gogledd pan yn pregethu yn Nghymanfa Llanerchymedd, y prydnhawn cyntaf, yn 1840. Rhoddwyd y bregeth hono yn y Drysorfa. Yr oedd y dynion mwyaf gwybodus yn fawr am ei wrando, gan y cawsent ganddo bob amser fêr duwinyddiaeth. Yr oedd bob amser yn fywiog a gwresog, y cwbl oedd yn tynu yn ol arno oedd ei lais sych ac anystwyth. Pan fyddai yr hwyl, codai ei fraich dde yn syth i fyny, ac ysgydwai hi yn wyllt am enyd, ac yna gostyngai hi i lawr, a'i dyrchafu drachefn yr un modd, a deuai yr "O! ïe," a "Bobol," yn bur fynych, fel pe byddai yn cael darganfyddiad newydd yn y drefn fawr. Yr oedd yn agor ei enau yn bur llydan, gan wasgu ei wefusau ar ei ddanedd, fel yn ymdrechu cael ei lais a'i bethau allan, nes y byddai y gwrid yn codi dros ei holl wyneb. Gwaeddai hefyd â'r llais oedd ganddo, nes y clywid ef o bell ac yn eglur. Safai yn syth yn y pulpud, fel wrth gerdded, gan ostwng yr ochr y byddai y droed yn myned i lawr, a symudai felly o hyd yn y pulpud. Yr oedd yn dal a chryf o gorff, pen crwn, a'i lygaid a'i wyneb a gwedd nervous ac ofnus arnynt. Ymddangosai yn llawn trafferth wrth bregethu, ac ymhob man. Yr oedd y rhan amlaf yn achwyn ar ei iechyd, er iddo fyw am 84 mlynedd.

Er ei fod yn ddyn diniwed a llwfr, eto, yr oedd yn gadarn yn yr athrawiaeth, ac i sefyll dros y gwirionedd mewn barn a buchedd, pan fyddai galw am y prawf. Pan alwyd ef i weinyddu disgyblaeth ar aelod am feddwi, dywedodd, "O! James Davies, yr ydych yn cael eich troi allan am y tro olaf am byth-un droed i chwi yn y bedd a'r llall ar y lan-cael eich claddu yn meddau y blys." gedwid gan y ficer; ond wedi dechreu pregethu, aeth at Dr. Phillips i Neuaddlwyd, ac arhosodd yno am beth amser. Pan yn 28 oed, sef yn 1825, priododd â Miss Jenkins, Priory, Llanbedr, lle y bu ef yn byw am flynyddoedd, a'r lle hefyd y bu farw, Tachwedd 23, 1867, pan yn 70 oed. Yr oedd y Priory yn feddiant i deulu Mrs. Jones, ac y mae eto yn feddiant i'w theulu hithau. Yn y tŷ hwn y cynhelid yr achos Methodistaidd am oddeutu 35 mlynedd cyn codi y capel, yma y lletyai yr holl bregethwyr, ac yma y buont hefyd am flynyddoedd lawer gyda Mr. a Mrs. Jones.

Daeth allan yn bregethwr poblogaidd ar unwaith. Yr oedd y Parchn. Ebenezer Morris ac Ebenezer Richard, a golwg fawr arno fel pregethwr hynod o addawol. Ordeiniwyd ef yn Aberteifi, 1833, Bu ar deithiau yn fynych trwy Dde a Gogledd. Yr oedd yn un o bregethwyr mwyaf dymunol gan yr eglwysi. Dacw ef yn y pulpud, dyn tal a chorfforol, gwallt melyngoch, gwyneb goleu a chrwn, ond yn myned yn feinach at yr ên. Mae ei lygaid yn sirioli fel y mae yn myned at ei bethau; ond nid yw yn edrych fawr o gwmpas, yn unig gwna droi ei lygaid weithiau fel pe byddai rhywbeth yn digwydd i dynu ei sylw, ond yn anymwybodol ac yn ei ffordd y mae yn gwneyd. Pan yn dweyd "Peth arall eto," cyfyd ei law chwith at ei dalcen, gan ymuniawnu a chymeryd anadl. Cyfyd ei lais cryf a nerthol bob yn radd, ac fel y mae yn codi, mae yn dyfod o hyd yn fwy soniarus. Pan yn dyfod at y casgliadau oddiwrth y bregeth, gwna wasgu y pethau yn ddwys at y gwrandawyr, fel y mae yr odfa yn terfynu mewu dwysder mawr, os nad mewn hwyl neillduol. Dywedir ei fod yn cael hwyliau mor aml a neb am lawer o'i flynyddoedd cyntaf; a phregethodd yn rymus ac adeiladol hyd ddiwedd ei oes.

Yr ydym yn ei gofio yn pregethu ar y geiriau, "Y tlawd hwn a a lefodd, a'r Arglwydd a'i clybu;" mewn modd goleu a nerthol. Yr oedd yn dechreu ei daith ar y pryd i Gymdeithasfa Caernarfon. Clywsom wedi hyny mai pregeth y Gymanfa ydoedd, a'i bod gystal a dim gafwyd yno. Dyma gynllun y bregeth, I. Y gwrthddrych sydd yma yn cael ei amlygu—"y tlawd hwn." 1. Mae dyn yn dlawd yn ei dad—o'ch tad diafol yr ydych. Yr oedd o ddechreu da, ond yn terfynu mewn carchar a chadwynau. 2. O ran ei gymeriad" Mewn anwiredd y'm lluniwyd," "plant digofaint" (gwel Rauf. iii., 10—18). 3. Tlawd o wisg—"Bratiau budron." 4. Tlawd o ymborth—"yfed anwiredd fel dwfr," "Ymborthi ar ludw y maent." 5. Tlawd o wybodaeth. 6. Bydd yn dlawd byth os na chaiff gyfnewidiad. II. Natur y tlodi. 1. Mae yn dlodi hen iawn, yn wreiddiol yn mhawb. Yn Eden cofiaf hyny byth, bendithion gollais rif y gwlith." 2. Mae yn dlodi cyffredinol, "megis deilen y syrthiasom ni oll," "pawb a bechasant." 3. Tlodi a anghofir y rhan amlaf ydyw-" myfi a gyfoethogais, ac nid oes arnaf eisiau dim,' yw iaith y dyn, fel dyn meddw yn ymffrostio yn ei gyfoeth, ac yntau heb ddim. 4. Tlodi a chanlyniadau pwysig iddo ydyw. III. Yr hyn mae y tlawd yn wneyd, "llefain." IV. Yr hyn a wnaeth yr Arglwydd iddo-" yr Arglwydd a'i clybu, ac a'i gwaredodd o'i holl drallodau." 1. Aeth y tlawd hwn i'r iawn fan. 2. Clybu Duw ei angen yn ei lef. 3. Mae y gair "clybu" ya dangos i Dduw gyfarfod a'i holl angen. Nid yn fuan, nac fel y mae y tlawd yn meddwl yn fynych, y gwna Duw waredu o'i holl drallodau, ond gwna yn ddoeth, yn brydlon, ac o bob trallod wrth farw, a hyny am byth.

Pregeth arall ganddo ar Luc ix 43. Rhan gyntaf. I. Sylwn ar FAWREDD Duw. 1. Ei fawredd hanfodol a gwreiddiol. 2. Ei fawredd yn ei briodoliaethau. 3. Mawredd gwaith creu pob peth. 4. Mawredd meddiant a llywodraeth. 5. Mawr yn ei ddarpariadau ar gyfer y duwiol a'r annuwiol. II. YR AMLYGIAD O'I FAWREDD TRWY IESU GRIST. 1. Yn ei osodiad i fod yn Waredwr. Wrth ran o'i waith y mae yma, pan ryfeddodd y dynion, meddwl yr oeddynt fod yr Hollalluog fraich y tucefn iddo. 2. Yn cyfanogiad o holl allu a gras Duw. 3. Yn ei waith yn tynu pechaduriaid ato. Eisiau cael hyn eto sydd, er rhoddi iawu farn i ddynion am Dduw." Yr oedd yn effeithiol iawn pan yn cymell y bobl i waeddi gydag ef, "I'r golwg y delo!" "Pe byddai ef yn dyfod i'r golwg, aethai pawb o honom i'r llwch fel Job. Delai llawer sydd yma i werthfawrogi Cyfryngwr, a rhoddi ufudd-dod parod i'r Arglwydd." Dywedodd yn ddylanwadol iawn am benderfyniad y bobl ar ben Carmel. Fel hyn, yr oedd ei bregethau bob amser yn drefnus ac eglur, yn nodedig o Ysgrythyrol, ac yn amlwg eu hamcan i leshau y gwrandawyr. Nid allai neb feddwl ei fod yn amcanu at gynhyrfu teimlad, ond yr oedd yn amlwg i bawb ei fod am wneyd ei oreu o'r gwirionedd, a thros y gwirionedd.

Un araf oedd Mr. Jones—araf cyn siarad ac yn siarad: ond fel yn y bregeth, yr oedd ei siarad yn bwysig, heb un gair segur, ond yr oll i'r pwrpas. Ni ddywedai fawr yn nghynadleddau Cyfarfod Misol na Chymanfa, yn fwy nag yn y tai. Yr oedd hyn yn rhyfedd pan feddylid ei fod yn siarad mor dda ar bob pwnc gan gymhellid ef i wneyd. Un araf yn cerdded ar hyd y ffyrdd a'r llwybrau; ond yr oedd pawb yn gweled mai tywysog a golwg dywysogaidd arno ydoedd; un araf yn marchogaeth i'r daith erbyn y Sabbath ydoedd; treuliai bron gymaint arall at hyny ag a wnelai llawer o rai eraill. Yr oedd yn arafaidd a phwyllog; ond os oedd fel yr elephant yn hyny, yr oedd hefyd fel elephant mewn cryfder a sicrwydd i gyrhaeddyd ei nod. Yr oedd hefyd yn bur, dirodres, a didwyll. Dywedodd un o'r gweinidogion ddydd ei gladdedigaeth fod y geiriau hyny yn dyfod i'w gof yn fynych pan welai Mr. Jones, "Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll." Nid oedd a fynai â gweniaith a rhagrith, a ffiaidd oedd ganddo yr absenwr. Fel hyn y daeth i fod mor uchel ei barch gyda phawb. Pe buasai dynion sydd yn derbyn pregethwyr i'w tai yn awyddus am gael siaradwyr difyrus, ac adroddwyr chwedlau hynod i ddyfod atynt, ni chawsai Mr. Jones, Llanbedr, dŷ i'w groesawu. Ond trwy drugaredd, yr oedd digon o ddynion i'w cael fyddai yn ei dderbyn fel "Gwr Duw," a rhoddi "phiolaid o ddwfr iddo yn enw disgybl." A dynion fel hyny eto, ni gredwn, sydd yn ein derbyn ninau i'w tai. Claddwyd ef yn mynwent Eglwys Llanbedr.

PARCH. JENKIN JONES, LLANON.

Yr oedd ef yn frodor o'r lle uchod, ac heb fod yn byw allan o hono fawr yn ei oes. Ganwyd ef, ddydd Calan, 1814, mewn tŷ ac ychydig dir gydag ef, o'r enw Maesllyn, yn y pentref. Enwau ei rieni oeddynt David a Mary Jones. Cafodd lawer o ysgol o'r fath ag oedd y pryd hwnw, ond nid ysgolion o radd uchel. Cafodd ddigon i fod yn fasnachwr, ac yr oedd hyny yn gryn lawer y pryd hwnw. Bu yn cadw shop yn gyntaf yn y Swan—tŷ oedd wedi bod yn dafarndy. Wedi hyny, symudodd i Shop Ontario—tŷ a elwid felly yn ol enw y llong yr oedd ei berchenog yn gadben arni. Enw ei wraig oedd Miss Mary Ashton, yr hon a fu yn yr Alltlwyd, Llanon. Un o Trefeglwys, Trafaldwyn, ydoedd, lle y mae eto lawer o'r tylwyth. Yr oedd Mr. Jones yn ddyn ieuanc llafurus gyda'r achos yn Llanon, ac yn weddïwr rhagorol o'i ieuenctid. Yr oedd ganddo dalent ragorol i ymadroddi yn rhydd a hyfryd. Meddyliwyd gan lawer mai pregethu oedd y gwaith oedd wedi ei amcanu iddo; ac wedi i rai o'r brodyr awgrymu hyny iddo, dywedodd fod hyny wedi bod yn ddwys ar ei feddwl lawer gwaith.

Dechreuodd bregethu tua diwedd 1835, pan oedd yn agos i 22ain oed. Cafodd dderbyniad rhwydd i'r weinidogaeth, gan fod y rhan fwyaf yn ei weled yn ddyn ieuanc mor addawol. Ond os felly cyn iddo ddechreu, cafodd pawb feddwl mwy o hono wedi dechreu. Yr oedd ei bethau mor llawn o'r efengyl, ac yn amcanu at lesoli ei gydddynion, ei draddodiad mor naturiol a'r afon yn ei rhedfa-pob gair yn ei le, a phob brawddeg yn llawn ac yn brydferth, a'i lais yn swynol a phoblogaidd. Daeth galw mawr am dano, ac ymdrechodd yntau ateb i'r galw tra y gallodd. Ond pan yn anterth ei nerth, daeth atalfa bur ddisymwth ar ei lais; ac er pob ymdrech i'w wella, bu y cwbl yn aflwyddianus, fel y gorfu arno roddi fyny bregethu bron yn llwyr am oddeutu saith mlynedd. Dywedai rhai mai rhoddi gormod ar ei lais a wnaeth am y blynyddoedd cyntaf o'i bregethu, fod ei lais mor beraidd, a digon o hono y pryd hwnw, ac yntau yn gwresogi gyda'i bethau wrth weled y gynulleidfa yn mwynhau mor dda, ac felly yn rhoddi ei lais allan tra y daliodd. Dywedai eraill mai effaith anwyd trwm ydoedd i ddechreu, ac yntau yn ymdrechu gormod cyn ei wellhau. Pa beth bynag, fel yna y bu am amser maith, er dirfawr siomedigaeth iddo ef, a llawn cymaint i̇'r cynulleidfaoedd oedd wedi ei glywed. Yr oedd yn rhoddi ambell i anerchiad yn Llanon pan yn ei waeledd, a dyna'r oll. Er iddo ddyfod lawer yn well, ni ddaeth ei lais byth cystal ag o'r blaen. Collodd yntau y blâs a'r gwroldeb oedd yn eu meddu o'r blaen gyda'r gwaith. Ni anturiai i'r pulpud ond ar amserau, a chyfrifai mai anerch ac nid pregethu yr oedd.

Yr oedd ei flynyddoedd ar ol ei gystudd yn rhai o ymdrech am adferiad, a gofal am gadw hyny a adferwyd. Treuliai fisoedd yr haf bron yn gyfain Llangamarch a Llanwrtyd. Yr oedd rhai yn barnu ei fod yn gwneyd gormod o hyny, y gallai ymwneyd llai â'r ffynhonau, a mwy â'r pregethu. Ond gwyddai ef nad oedd cystal ag y bu, a mynai wneyd ei oreu i ddyfod os yn bosibl; ac felly, dal i ymdrechu a wnaeth, ac yr oedd hyny yn ei gadw yn weddol. Pa fodd y buasai pe heb yr ymdrech hwn, ni wyr neb. Ymhen rhai blynyddoedd, rhoddai gyhoeddiadau yn ardaloedd y ffynhonau, a daeth yn weddol gryf i bregethu ar hyd Sir Aberteifi, fel y cafodd ei ddewis i'w ordeinio yn Nghymdeithasfa Rhiwbwys, yn 1853. Symudodd o Llanon i Rhydlas a Maenllwyd; a thra yno, gelwid ef Jenkin Jones, Penrhiw. Yna dychwelodd i Llanon i un o dai Llainlwyd. Treuliai ryw gymaint o amser yn Dowlais gyda'i fab, y Parch. David Jones, ac yn Llangeitho, gyda'i fab arall, y Parch. D. A. Jones; a phan gydag ef yn Aeron Park, y bu farw yn bur ddisymwth, dydd Gwener, Mai 16eg, 1884, pan yn 70 oed, ac a gladdwyd yn mynwent Eglwys Llansantffraid, yn ymyl Llanon.

Yr oedd mor debyg i'r efengyl yn ei bregethau a neb a adwaenem —cymerai ryw athrawiaeth bron bob amser yn destyn; ond nid traethu ar yr athrawiaeth hono y byddai, ac yna terfynu; byddai ef bob amser yn cymeryd ochr ymarferol yr athrawiaeth, a'i chymhwyso at y gwrandawyr. Ni byddai un amser yn faith, ond yn fyr ac yn felus. Oblegid ei waeledd, ni theithiodd fawr allan o'r sir; ond bu ar daith trwy Sir Fflint, a rhanau eraill o'r Gogledd, ryw adeg yn ei flynyddoedd olaf. Cafodd rai odfaon grymus ar y daith hono fel lawer gwaith ar hyd ei oes. Er iddo gael ei rwystro yn ei yrfa weinidogaethol, cadwodd ei gymeriad yn ddisglaer hyd ei fedd. Yr oedd yn gyfaill o'r fath fwyaf dyddan, a cheir llawer i dystio hyny eto gyda hiraeth, o'r rhai fu gydag ef yn y Ffynhonau a lleoedd eraill. Yr oedd yn un o'r rhai mwyaf gochelgar i beidio tramgwyddo neb, a gwyddai y ffordd i hyny yn gystal a'r goreu. Yr oedd bob amser yn siriol, a'i ymddiddanion bob amser yn hyfryd a charuaidd, fel yr oedd yn un o gyfeillion goreu y ffynhonau, a'r rhai yr oedd amser ganddynt i'w hebgor i gymdeithas. Ac os oes rhyw bethau hynod i'w hadrodd am dano, yn ei waith yn osgoi anhawsderau a pheryglon y maent i'w cael. Gadawai ef i bobl eraill roddi eu traed ynddi, fel y dywedir, os na fyddent yn ddigon call i astudio eu diogelwch a'u cysur mewn pryd. Dichon mai pethau tebyg a'i cadwodd rhag myned i ambell gyfarfod crefyddol, a llawer o gyrddau a lleoedd amheus. Iaith ei ymddygiad ef oedd, os creadur tir sych, nid oedd eisiau myned i'r dwfr; os creadur dwfr, doethach peidio bod lawer ar dir sych, os yn bosibl. Yr oedd yn ddyn glandeg ei olwg, gwallt du, ac felly bron i ddiwedd ei oes. Cerddai yn hytrach yn gam a myfyriol, a bob amser a golwg hamddenol arno. Un o daldra cyffredin ydoedd. Bu yn y weinidogaeth am oddeutu 50 mlynedd.

PARCH. JOHN JONES, PENMORFA.

O ran perthynas pregethwr a chapel, fel John Jones, Penmorfa, yr adnabyddid ef yn y Cyfundeb trwy ei oes. Symudodd deirgwaith, ond i'r un capel yr oedd yn myned. Adnabyddid ef yn ei ardal ei hun yn gyntaf fel John Jones, Sarnau, lle y bu yn gweithio ar y fferm gyda'i rieni, nes myned yn bregethwr; wedi hyny, fel John Jones, Closglas; ar ol hyny, fel John Jones, Dyffryn Bern; ac yn ddiweddaf oll, fel John Jones, Tanybwlch, tyddyn a brynodd iddo ei hun, ac i'w chwaer, Miss Esther Jones, yr hon a fu byw yn weddw fel yntau am ei hoes, a chydag ef hefyd. Nid oes llawer o hanes am dano yn ei ddyddiau boreuol, ond y mae pob hanes a geir yn ei ddangos yn un diddrwg, llaith, a gwangalon : oblegid hyny, gellir dweyd am dano fel am Issachar gynt, "Efe a wêl lonyddwch mai da yw;" yn hytrach na myned i le ac i blith rhai bywiog a chynhyrfus, byddai unigedd a thawelwch yn well ganddo. Pan yn ysgol y Croes, rhan o hen gapel Penmorfa, dywedwyd wrth ei dad fod dau fachgen yn yr ysgol wedi ymladd a'u gilydd. "Mi waranta," meddai yntau, "nad oedd Shaci ni ddim yn agos atyn' nhw," gan y gwyddai am ei natur mor dda. Rhedeg y byddai ef yn lle sefyll brwydr, a llefain yn lle taeru am chwareu teg. Cyfranogodd i raddau helaeth o'r teimlad llwfr hwn trwy ei oes. Pan ymddangosodd ysgrif, "Y Ty Capel," yn y Cylchgrawn, dywedwyd wrtho mai efe oedd un o'r cymeriadau a osodid allan yn helynt y glep a'r gecraeth, oedd yn y tai capeli. Aeth yn ofidus dros ben, wylai yn chwerw, a bu yn methu cysgu am nosweithiau; ond yr oedd yn dyfod i Gyfarfod Misol Llechryd yn iach ei galon, ac ysgafn ei droed, gan ei fod wedi cael ei hysbysu nad efe oedd y cymeriad hwnw.

Dechreuodd bregethu tua diwedd 1821, felly bu yn pregethu fwy na thair blynedd cyn marw Ebenezer Morris, a bu gyda hwnw ar ychydig o daith trwy Sir Benfro. Ni chafodd ysgol ond a gafodd gyda un Shon Sais, fel ei gelwid, oedd yn cadw ysgol yn y Croes, a grybwyllwyd; ond yr oedd yn ddarllenwr llyfrau duwinyddol er yn ieuanc, a hoffai yn fawr gymdeithas hen bobl wybodus a phrofiadol yr eglwys a'r Ysgol Sabbothol, a hyny oedd yr addysg oreu a gafodd. Ni fu ei argyhoeddiad o bechod a'i ddychweliad at Dduw, ond fel ymddadblygiad graddol planhigyn natur. Eto, yr oedd ei bregethau yn hynod o brofiadol, yn dangos iddo deimlo rywfodd nes syrthio ar y ddaear, a gweled goleuni o'r nef, os nad yn ddisymwth, eto yn wirioneddol a chlir. Nid surprises, ymwelweliadau di-rybudd ac ofnadwy fu ymweliadau Duw âg ef, ond digon o eglurhad graddol a chyson o hono ei hun, nes ei gadw rhag myned yn rhy bell ar un llaw, na dyfod yn rhy agos ar y llall. Yr oedd ei ofn o Dduw yn "barchedig ofn."

Yr oedd yn un o'r duwinyddion goreu yn y sir. Yr hon dduwinydd galluog, John Thomas, Aberteifi, fu yn ei holi pan yn ymgeisydd, ac yr oedd trwy ei oes fel pe byddai wedi cael rhyw ysbrydiaeth dduwinyddol oddiwrtho. Byddai yn un o'r rhai mwyaf medrus i holi ymgeiswyr yn yr athrawiaeth, a chynghorai hwynt oll i fod yn gryfion ac iachus ynddi, a chadarn yn yr Ysgrythyrau. Ni chyfrifid ef yn un o'r pregethwyr blaenaf; eto, yr oedd yn pregethu yn fynych yn y Cymdeithasfaoedd. Yr oedd Edward Mason yn gyfaill iddo ar daith trwy y Gogledd pan yn pregethu yn Nghymanfa Llanerchymedd, y prydnhawn cyntaf, yn 1840. Rhoddwyd y bregeth hono yn y Drysorfa. Yr oedd y dynion mwyaf gwybodus yn fawr am ei wrando, gan y cawsent ganddo bob amser fêr duwinyddiaeth. Yr oedd bob amser yn fywiog a gwresog, y cwbl oedd yn tynu yn ol arno oedd ei lais sych ac anystwyth. Pan fyddai yr hwyl, codai ei fraich dde yn syth i fyny, ac ysgydwai hi yn wyllt am enyd, ac yna gostyngai hi i lawr, a'i dyrchafu drachefn yr un modd, a deuai yr "O! ïe," a "Bobol," yn bur fynych, fel pe byddai yn cael darganfyddiad newydd yn y drefn fawr. Yr oedd yn agor ei enau yn bur llydan, gan wasgu ei wefusau ar ei ddanedd, fel yn ymdrechu cael ei lais a'i bethau allan, nes y byddai y gwrid yn codi dros ei holl wyneb. Gwaeddai hefyd â'r llais oedd ganddo, nes y clywid ef o bell ac yn eglur. Safai yn syth yn y pulpud, fel wrth gerdded, gan ostwng yr ochr y byddai y droed yn myned i lawr, a symudai felly o hyd yn y pulpud. Yr oedd yn dal a chryf o gorff, pen crwn, a'i lygaid a'i wyneb a gwedd nervous ac ofnus arnynt. Ymddangosai yn llawn trafferth wrth bregethu, ac ymhob man. Yr oedd y rhan amlaf yn achwyn ar ei iechyd, er iddo fyw am 84 mlynedd.

Er ei fod yn ddyn diniwed a llwfr, eto, yr oedd yn gadarn yn yr athrawiaeth, ac i sefyll dros y gwirionedd mewn barn a buchedd, pan fyddai galw am y prawf. Pan alwyd ef i weinyddu disgyblaeth ar aelod am feddwi, dywedodd, "O! James Davies, yr ydych yn cael eich troi allan am y tro olaf am byth-un droed i chwi yn y bedd a'r llall ar y lan-cael eich claddu yn meddau y blys." Dywedir i'r dyn wrando a chymeryd addysg. Yr oedd yn gryf hefyd o ran profiad. Pan ddywedodd y brodyr wrtho mewn Cyfarfod Misol eu bod yn clywed yn fynych ei fod yn cael odfaon rhyfeddol o dda, dywedodd, "Yr wyf yn cael hyder a blâs mawr weithiau, yr wyf yn teimlo mwy o awydd arnaf i achub eneidiau nag erioed. Dro arall, dywedodd, "Yr wyf yn Rhosydd Moab, ond nid oes eisiau iddi fod lawer yn waeth arnaf o ran hyny; cafodd Moses ben Pisgah o'r fan hono, ac yr wyf finau yn meddwl fy mod yn cael gweled y wlad weithiau." Yna dywedodd yn wyllt, a'i deimlad yn ddrylliog, "Yr wyf yn meddwl na chollir fi." Wedi adfeddianu ychydig o hono ei hun, dywedodd, "Gallaf ddweyd mai ch'i yw mhobol i. Yr wyf yn taflu fy hun i'r glorian bob dydd, nid yn lwmpyn, ond pob gras ar ei ben ei hun. Yr wyf yn cael fy hun weithiau yn bwysau, ond yr ofnau sydd fynychaf. Yr wyf yn synu na byddwn yn fwy sanctaidd erbyn hyn." Yn ei gystudd olaf, cafodd un brawd ef wrth y gwaith o orfoleddu, a dywedodd paham, "Yr wyf wedi bod yn anfon ffydd o'm blaen i wlad yr addewid, er mwyn cael gweled ei rhagoroldeb, ac yr oedd hono newydd ddychwelyd yn awr gyda newyddion da iawn, ac wedi gorchfygu fy anghrediniaeth." Eto, "Mae pethau byd tragwyddol yn dyfod i fy meddwl weithiau nes bron fy llethu; eto, y mae arnaf awydd myn'd atynt wedi'r cwbl. Mae y gwaed yn abl i'm cymhwyso." Mwynhaodd yn helaeth ryw ddiwrnod eiriau Paul, "Mi a wn i bwy y credais." "Gwn inau," meddai, "mai iddo Ef. yr wyf wedi ymddiried yr oll erbyn y dydd hwnw." "Y penillion hyny hefyd," meddai—

"O! gad i mi brofi sypiau," &c.

"O! na chawn i olwg hyfryd," &c.

Fel hyn yn ngolwg y wlad, ehedodd ei ysbryd iddi Mawrth 10fed, 1885, wedi bod yn pregethu am 63 mlynedd, a chladdwyd ei weddillion marwol o flaen capel Penmorfa.

PARCH. JOHN JONES, SARON.

Yn nechreuad ei bregethu, yr oedd yn cael ei adnabod fel John Jones, Glanleri, ffermdy yn agos i'r Borth. Yr oedd yn arferiad y pryd hwnw i alw pregethwyr yn ol enwau ea ffermydd. Daethant i'w alw hefyd John Jones, y Borth. Bu yn pregethu ar y Goror am 6 mlynedd. Ond gwelwyd gwell gwaith i'w fath ef na bod yn y lle hwnw, sef cadw Grammar School yn Llangeitho. Y pryd hwnw, gelwid ef gan lawer ar enw y lle byth-gofiadwy hwn. Yn ddiweddaf oll, yn ol enw Llanbadarnfawr, neu Saron, enw capel y lle hwnw. Mae pedwar peth wedi ei argraffu ar ein meddwl am dano er pan ei gwelsom gyntaf. Y peth cyntaf oedd, bychandra gorff—nid oeddym ond prin gweled ei ysgwyddau yn mhulpudau dwfn y Penant ac ysgoldy Pontsaeson. Y llall oedd, ei ddiflasdod yn pregethu—dim un gair yn uwch na'r llall, a rhyw gymaint o atal dweyd arno. Y trydydd oedd, fod yr hen bobl fwyaf gwybodus yn dweyd ei fod yn un o'r ysgolheigion goreu, ac yn gwybod llawer o ieithoedd. A'r olaf oedd, ei fod yn dduwinydd mawr. Canmolent ef, hefyd, fel pregethwr, dywedent fod ei bregeth yn llawn o feddyliau rhagorol, ond ei fod ef yn methu eu gosod allan fel John Jenkins, Blaencefn, Jenkin Davies, a Jones, Blaenanerch. Gwallt melyngoch oedd ganddo, gwyneb crwn ac agored, a darnau bychain o whiskers o dan ei wallt, ei wyneb, ond hyny, i gyd wedi ei eillio.

Ganwyd ef yn 1801. Nid oedd golwg dyfod yn gryf arno i weithio ar y fferm, er ei fod yn ddigon ufudd i wneyd ei oreu, hyd nes y daeth i garu llyfrau; wedi hyny, gyda'r rhai hyny y mynai fod ddydd a nos. Yr oedd pregethwyr o bob cyfeiriad yn dyfod i Glanleri, a byddai llawer o honynt yn dweyd fod yr un bychan yn debyg o ddyfod yn ddyn mawr. Ac os na wnelai fawr ar y fferm, daethpwyd i ddeall yn lled foreu ar ei oes, y gallai yfed dysg fel dwfr. Cafodd ysgol ragorol yn ymyl ei gartref, sef yn Llanfihangel. Yr oedd yn gwybod rhyw gymaint o Groeg a Lladin cyn myned oddiyno i Ystradmeurig. Daeth fel hyn i feddu gwybodaeth oedd yn ei osod ymhell uwchlaw y cyffredin o bregethwyr y pryd hwnw. Bu llawer o enwogion y Methodistiaid yn ei ysgol enwog yn Llangeitho, megis y Parchn. Lewis Edwards, D.D., Bala, a William Rowlands, D.D., New York, a llu o rai eraill; ac yr oeddynt oll yn ei fawrygu fel dyn duwiol iawn—dyn meddylgar a llafurus, ac un o ddysgeidiaeth eang a dwfn. Dywedai Dr. Rowlands am dano: "Megis doe yr wyf yn cofio, pan yn fachgenyn oddeutu 16 oed, newydd ddyfod at grefydd, yr oeddwn ni yn yr ysgol ddyddiol yn Llangeitho, yr hon a gedwid gan y Parch. John Jones, Clanleri, pan ddaeth Morgan Howells yno i bregethu. Aethum i ac amryw eraill o'r ysgolorion i Lwynpiod erbyn dau o'r gloch, i gael melus wledd drachefn gan yr un gwr, heb ofni llid y brenin bychan, mawr ei enaid, oedd yn edrych ar ein hol, ac yn dysgu i ni y Groeg a'r Lladin.' "Oracl y Groeg a'r Lladin," y galwai y Parch Evan Evans, Nantyglo, ef, ac nid oedd nemawr neb o'i fwy yn ei olwg yn yr holl wlad. Yr un fath y cyfrifid ef gan y Parch. Stephen Lewis, yr Hall, Blaencefn, gynt.

Y rhai oedd wedi bod dan ei addysg wyddai oreu am ei led a'i hyd, ei ddyfnder a'i uchder. Gwnaeth ef i eraill hefyd ddyfod i wybod rhywfaint yn ei gylch. Pan oedd dau o efrydwyr Llanbedr unwaith yn ei weled yn dyfod o draw, gwnaethant gyngrair i'w gael i fradychu ei anwybodaeth. Gwyddent pwy ydoedd, ond ni wyddent ei faint. Ar ol y cyfarchiadau arferol yn yr iaith Saesneg, ac yn synu ei fod yn gallu eu hateb cystal, gofynasant iddo ryw bethau yn mhellach, ac yn cael atebion o hyd, a hyny mewn Saesneg gwell o lawer nag oedd ganddynt hwy. Ond, gan benderfynu cael ei anwybodaeth i'r golwg, gofynasant iddo ryw bethau am y Groeg a'r Lladin. "Gofynwch i mi yn y Lladin," meddai, "ac mi atebaf finau chwi yn y Lladin." A chyn ymadael, rhoddodd wersi iddynt iw dysgu erbyn y daethai yn ol, gan ddangos yr un pryd eu hanwybodaeth, ac am iddynt chwilio yn well. Oblegid eu bod wedi cael y fath siomedigaeth, a pheth dychryn, darfu iddynt hysbysu i Dr. Llewelyn, y Prifathraw, ychydig o'r helynt. Wedi clywed, dywedodd wrthynt fod Mr. Jones gyda'r dyn mwyaf cyfarwydd yn yr ieithoedd clasurol yn yr holl wlad, a'u bod wedi bod yn ffol iawn i ddechreu dadl âg ef. Hysbysodd hwy mai Mr. Jones oedd yn iawn gyda golwg ar ryw bethau yr amheuant ei gywirdeb ynddynt. Yr oedd ef yn gwneyd defnydd o'i wybodaeth glasurol, weithiau, er egluro pethau yr efengyl. Pan yn gweinyddu yr ordinhad o Swper yr Arglwydd, dywedai mai meddwl y gair eucharist yn y Groeg yw rhoddiad diolch. "Tawed ein tafod a diolch byth," meddai, "os na wna ddiolch wrth gofio angau y groes. Yr wyf yn ofni ein bod fel cymunwyr yn rhy hunanol yn yr Holy Eucharist, mai dyfod yma i gael bendith i ni ein hunain yr ydym, yn lle bod ar dân yn moli Duw am y fath ddawn annhraethol.'" Pan yn pregethu oddiar Ioan vi. 45, "Dyrchafu y Tad," meddai, "oedd amcan Iesu Grist, y Tad bia'r ysgol, ac efe yw y Tutor, y Principal, y Pen ar y sefydliad i gyd."

Dechreuodd bregethu pan oddeutu 22 oed. Yr oedd wedi dysgu llawer o'r Beibl cyn hyny, a gwelwyd wrth ei weddiau a'i bregethau, ei fod yn hollol gyfarwydd yn Llyfr teyrnas nefoedd. Y peth nesaf daeth y wlad i wybod am dano oedd, ei dduwioldeb mawr. Ni chawsai neb ef i siarad ar y Sabbath ond am bethau teilwng o'r dydd. Arferai ddweyd am y daioni oedd ymhob dyn. Felly ymhob peth, ymddangosai yn ddyn pur drwyddo ar ei ymddangosiad cyntaf, ail, a thrydydd gerbron yr un bobl. Yr oedd yn weddiwr hynod; ac yr oedd mor gyfarwydd â'r gwaith, fel yr oedd yn adnabod arwyddion yr ateb a'r peidio ateb. Pan oedd yn Llangeitho, cymerwyd chwaer iddo yn glaf o'r typhoid fever. Wedi iddo glywed, cymerodd yr achos at ei Dad nefol gyda chysondeb a thaerineb. Yr oedd yn lletya gyda y blaenor enwog, Peter Davies, Glynuchaf. Un boreu, wedi dyfod i lawr o'r gwely, dywedodd, "Wel, mae fy chwaer wedi marw." "Beth ydych yn geisio ddweyd?" gofynai Mrs. Davies. "Ydy' y mae," meddai yntau. "Pa fodd y gwyddoch John Jones, 'doech ch'i ddim yn gwybod neithiwr ?" "O! mae yr un sydd yn gwybod y cwbl wedi rhoddi digon o amlygrwydd i fi ei bod wedi gadael y ddaear. Yr oedd gen i neithiwr o flaen yr orsedd, ond methais yn deg a'i chael heddyw." Ac yr oedd wedi deall yr oracl ddwyfol-yr oedd ei chwaer wedi marw, ychydig wedi haner nos. Yr oedd ef yn methu cael yr un dymunad i ofyn ar ran ei chwaer, a gwyddai efe mai Ysbryd Duw sydd yn rhoddi dymuniadau i'r saint, ni allai yntau gael dim i weddio dros ei chwaer yn awr, oblegid fod yr Ysbryd yn gwybod ei bod wedi marw. Dyma fel y dywed mewn pregeth oddiar Zech. xii. 10. "Y mae yr Ysbryd ei hun yn erfyn trosom ac ynom. Mae Crist yn erfyn trosom yn y nef, a'r Ysbryd yn erfyn trosom yn y galon, trwy ein nerthu i dynu ein petition mewn dull addas i lys y nef. Efe sydd yn creu erfyniau ynom, ac yn ein cynorthwyo i dywallt ein calonau o'i flaen. Er mai y saint sydd yn gweddio, eto, y mae y cynorthwyon i hyny yn gymaint o'r Ysbryd Glan, fel y dywedir mai efe sydd yn erfyn drostynt, gan eu bod hwy dan ei ddylanwad ef. Yr Ysbryd Glân fel Ysbryd gweddi yw Awdwr pob dymuniad da sydd ynom" Byddai yn anhawdd cael gwell traethawd ar waith yr Ysbryd na'r bregeth hon. Cymerai y mater i fyny yn ei holl gysylltiadau, gan fanylu fel Dr. Owen a'r hen Biwritaniaid, trwy ddweyd yn gyntaf, yn ail, ac yn drydydd.

Mae genym ddarnau o'i bregeth ar y "Wraig o Ganaan" yn ein meddiant, a rhoddwn ychydig o honi yma i ddangos ei allu i esbonio, yn gystal a'i fanylrwydd yn trin ei bwnc. "Un o'r hen Ganaaneaid oedd hon yn preswylio ymysg pobl Israel. Nid yn Tyrus a Sidon yr oedd hyn, ond ar y tueddau: 'Canys pe gwnaethid yn Tyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynot ti, hwy a edifarhasent er's talm.' Gwnaeth Crist dri pheth a'r wraig hon oedd yn tueddu i'w digaloni. 1. Peidio ei hateb. 2. Dweyd na ddanfonwyd ef ond at ddefaid colledig tŷ Israel. 3. Nid da cymeryd bara'r plant a'i daflu i'r cwn. Yr oedd y cyntaf yn brawf mawr ar ei ffydd, gan iddi glywed am dosturi Iesu Grist, a'i barodrwydd i wrando cwyn y gwan; ac y mae ei fod yn peidio sylwi arni hi pan yn y fath gyfyngder yn myned ymhell i wrthbrofi hyny. Ond gwnaeth Iesu Grist hyn,—1. I brofi ei ffydd. 2— I egluro ei ffydd. Wrth ei gweled yn dal i waeddi, dywedodd y disgyblion am ei 'gollwng hi ymaith.' Dywedasent hyn, medd rhai, i'r diben i Grist roddi ei chais iddi; ac eraill a ddywedant mai er mwyn iddo ei bygwth, ac atal iddi waeddi ar eu hol. Mae atębiad Iesu Grist i'r disgyblion yn dangos mai y cyntaf a feddylient. Ar hynny daeth hi, ac a'i 'haddolodd ef,' gan dybied nad oedd wedi bod yn ddigon gostyngedig gerbron gwr mor fawr yn ei chais cyntaf. Mae ei gynyg olaf i wanhau ei ffydd yn waeth na'r oll: 'Nid da cymeryd bara'r plant a'i daflu i'r cwn.' Ond os oedd, y mae ei hateb hithau yn gryfach na'r holl atebion eraill 'Gwir, Arglwydd, canys y mae y plant yn bwyta o'r briwsion sydd yn syrthio oddiar fwrdd eu harglwyddi.' Mae y plant a'r cwn yn ddau eithafion. Mae cariad tad at ei blant yn dangos ei hun yn y bara a rydd iddynt. Wrth y bara y mae i ni ddeall breintiau mawrion y genedl Iuddewig, ac wrth y briwsion y pethau oeddynt yn wrthod ac yn adael ar ol. Mae atebiad y wraig yn dangos,—1. Teimlad ac ymwybyddiaeth o'i sefyllfa ddirmygus. 2. Parhad o'i gostyngeiddrwydd. 3. Ei thaerineb mawr. Fel pe dywedasai, os ci ydwyf, rhaid boddloni; os briwsion, yr wyf yn foddlon arnynt ond eu cael; ac os ydwyf yn gi mewn angen, dylet tithau roddi y briwsion i mi, gan ei fod ar dy law. (Pan yn gwneyd y sylwadau hyn, chwarddodd un hen frawd yn uchel, a gwaeddodd, 'Diolch' gyda hyny). Gochelwn ninau, pobl y breintiau mawrion, rhag ein cael yn ddiystyr o honynt. Byddai yn dda gan lawer o genhedloedd y ddaear pe cawsant yr hyn yr ydym ni yn friwsioni. Gwnaeth Iesu Grist ddau beth i'r wraig cyn ei gollwng,—1. Canmolodd ei ffydd. 2. Rhoddodd yr hyn geisiodd ei ffydd."

Pan yn llefaru yn ei dro yn seiat y Cyfarfod Misol ar wasanaethu Duw, dywedai, "Mae ein heisiau i gyd ar Dduw; mae cymaint o amrywiaeth yn ei waith ef. Ewch chwithau, meddai Iesu Grist, ewch chwithau, mae digon o le a digon o waith i chwi i gyd. Yr oedd gan y Sunamees ystafell fechan ar y mur, ac ynddi wely, bwrdd, ystol, a chanwyllbren, yn barod bob amser i ddisgwyl y proffwyd i ddyfod heibio. Mae y gwaith hwnw eto gan Dduw, a llawer yn ei wneyd, a'u tai yn cael eu bendithio mewn canlyniad. Yr oedd Ahimaas yn rhedwr da, ac yn cael ei adnabod felly; mae eisiau Ahimaas weithiau ar achos Iesu Grist, dynion parod i bob gweithred dda, yn lle bod yn haner cysgu. Mae eisiau bod yn dyner wrth y gweddwon: Arhydedda y gwragedd gweddwon, y rhai sydd yn wir weddwon,' meddai Paul wrth Timotheus; a hon yw y grefydd bur a dihalogedig gerbron Duw a'r Tad, ymweled a'r amddifaid a'r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd. Peth dymunol iawn oedd gweled Ruth mor dyner o'r hen wraig Naomi, a chafodd ei thalu yn dda am hyny."

Nid oedd byth yn dweyd gair drwg am ei frodyr; ond os gwelai ryw bethau ynddynt oedd yn dda yn ol ei farn ef, byddai yn sicr o ddangos ei fawrygiad o honynt. Pan oedd gweinidog ieuanc yn lletya yn ei dŷ, galwyd arno i fedyddio plentyn oedd ar y pryd yn egwan. Yr oedd yn rhaid i'r gweinidog dieithr gyflawni y gwasanaeth, Pan aethpwyd yn ol i'r tŷ, dyna lle yr oedd yn canmol, trwy ddweyd, "O! mor gyflawn yr aeth drwy y gwasanaeth; er bod mewn tŷ, aeth trwyddi mor gyflawn a phe buasai mewn capel. Mae y Beibl yn dweyd, 'Melldigedig fyddo yr hwn a wnelo waith yr Arglwydd yn dwyllodrus,' ac yn beio yr eglwys hono am na chafodd ei gweithredoedd yn gyflawn." Canmolai weinidog ieuanc hefyd am ei fedrusrwydd i wneyd penau ar y bregeth. "Mae bob amser mor drefnus," meddai, "ac yr wyf yn priodoli ei drefn dda i'r gallu rhyfedd sydd ganddo i wneyd penau. Ac y mae yn gallu meddwl mor glir, a dweyd mor glir a hyny."

Bu yn pregethu am 50 mlynedd. Cafodd ei ordeinio yn Aberteifi yr un pryd a Mr. Jones, Penmorfa, yn 1838. Bu farw Ebrill 20fed, 1873, pan yn 72 oed. Dywedodd cyn myned, "Yr wyf yn gwybod y bydd marw yn elw i mi." Priododd & Miss Jones, Llanio uchaf, Plwyf Llanddewibrefi, a chawsant ill dau fyw i oedran teg. Claddwyd ef yn mynwent Eglwys Llanbadarnfawr.

PARCH. JOSEPH JONES, FFOSYFFIN.

Ganwyd ef tua'r flwyddyn 1811. Gof ydoedd o ran ei alwedigaeth fydol, fel ei dad, John y Foundry, neu Siôn Foundry, fel ei gelwid. Gan fod ei dad a llong fechan ganddo, fel llawer o bobl glan y môr y pryd hwnw, yr oedd yn myned ynddi yn fynych, ac yn cymeryd ei fab Joseph gydag ef, felly gwyddai ryw gymaint am forwriaeth. Bu yn derbyn addysg yn ysgol enwog y Parch. Thomas Phillips, D.D., Neuaddlwyd, yr hwn oedd gymydog agos iddo, a merch yr hwn, sef Anne, oedd ei wraig gyntaf. Yr oedd ei dad ef yn frawd i'r diweddar Barch. Michael Jones, Bala, ac felly yn gefnder i'r Prifathraw, y Parch. M. D. Jones, ac y mae llawer o'r un neillduolion yn perthyn iddynt. Dechreuodd bregethu pan oddeutu 24 oed. Yr oedd tuedd gref ynddo er yn ieuanc i ddadleu ar brif bynciau crefydd, ac nid oedd un amheuaeth yn meddyliau hen bobl Ffosyffin, nad y blas oedd yn gael ar chwilio i'r pethau hyn, a siarad cymaint am danynt, a roddodd yr awydd cyntaf ynddo am fyned i bregethu. A nodwedd ei bregethu ar hyd ei oes oedd Ꭹ dadleuol a'r gorfanwl, a bob amser yr athrawiaethol. Chwiliai allan yr holl anhawsderau, ac ymdrechai eu hegluro, ac yn fynych, byddai yn lled lwyddianus i wneyd hyny. Nis gwyddom pa mor bell y gallodd brofi i foddlonrwydd ei wrandawyr, mai di-fai, ac nid difai, yw meddwl y gair yn Heb. ix. 14, pan y pregethai ar yr adnod hono. Dywedai mai y gallu Iawnol yn marwolaeth y groes i ddyhuddo digofaint Duw a feddylir. "Yr oedd yn rhaid," meddai, "ei fod yn ddi-fai cyn gwneyd hyny; ond y mae yr hyn oedd yr Ysbryd tragwyddol yn yr aberth, yn ei wneyd yn fwy na bod y natur ddynol yn berffaith yn unig. Yma yr oedd y natur ddynol berffaith sanctaidd, a'r natur ddwyfol anfeidrol yn gwneyd yr aberth ar Galfaria yn ddi-fai i Dduw." Yr oedd hon yn bregeth alluog, a chlywsom ef yn ei thraddodi yn Nghyfarfod Misol Glangors, Brycheiniog, yn y flwyddyn 1857, pryd y cafodd ganmoliaeth fawr.

Pan yn pregethu ar 1 Cor. xv. 54, 55, rhanodd ei bregeth fel y canlyn:—I. Fod y natur ddynol yn ddarostyngedig i farwolaeth a llygredigaeth. Pan y mae y bywyd yn ymadael a'r corff, y mae marwolaeth yn cymeryd lle; ond y mae llygredigaeth y corff yn cynwys yr holl fraenu a'r malurio fydd yn cymeryd lle ar ol marw. II. Y cyfnewidiad a gymer le, "gwisgo anllygredigaeth." 1. Yr amser y cymer hyn le, pan ddarffo," y mae yma ryw amser neillduol yn cael cyfeirio ato, sef dydd adgyfodiad y saint o'r bedd. 3. Beth fydd y cyfnewidiad a wneir. (1.) Troir y corff yn ysbrydol. (2.) Bydd trefn fawr y prynedigaeth yn ei sicrhau rhag llygru byth; neu gallai fyn'd yn llygredig er bod yn sanctaidd, fel yr aeth Adda, a gallai droi yn halogedig er bod yn ysbrydol, fel yr aeth yr angylion drwg. (3.) Llyncir angau mewn buddugoliaeth. (a.) Trwy beidio cael cyffwrdd a'r rhai fydd yn byw ar y ddaear, gan y cânt hwy eu troi yn ysbrydol heb farw. (b.) Trwy na chaiff gyffwrdd byth a'r cyrff a adgyfodir, gan y byddant fel angylion Duw yn y nef, ni allant farw mwy. (c.) Gan hyny bydd goruchwyliaeth angau, fel gwas yn darfod, ac ni all fod yn elyn mwy. Paham na byddai Duw yn gwneyd hyn a'r saint heb eu dwyn i byrth y bedd, a llygru yno? Gosodiad Duw, a thrwy hyny bydd yn fwy o ogoniant iddo, eu codi i ogoniant ac anfarwoldeb, wedi bod yn malurio yn y pridd am oesoedd lawer. III. Y swn buddugol sydd yma,—"O angau pa le mae dy golyn," &c. Y rhai fydd yn codi o'r bedd fydd yn dywedyd, "O uffern pa le mae dy fuddugoliaeth;" a'r rhai fydd yn byw ar y ddaear, fydd yn dywedyd, "O angau pa le mae dy golyn?"

Teithiodd lawer trwy Dde a Gogledd, a chafodd rai odfaon a gofir byth. Yr oedd bron yr un fath yn traddodi ag oedd yn nghyfansoddiad ei bregeth, yn llafurfawr a thrafferthus, ac yn twymno wrth fyned ymlaen. Pan yn traddodi, gwnelai swn mawr wrth dynu ei anadl yn ol rhwng ei ddanedd, ac ymddangosai fel yn gwneyd ei oreu i ymresymu ei fater mewn meddwl a chorff. Un byr o gorffolaeth ydoedd, gwyneb bychan, a duach na'r cyffredin; cefn braidd yn grwca, ac felly yn cerdded yn gam. Bu yn weddol gryf ac iachus trwy ei oes. Diweddar oedd yn cychwyn o gartref, a'r un fath oblegid hyny yn cyrhaeddyd y lletyau nos Sadwrn, ac yn dyfod i'r Cyfarfodydd Misol. Ni chymerai ran mewn cynadleddau nemawr byth, ond eisteddai yn agos i'r drws, neu mewn rhyw fan pell. Un diniwed ydoedd, a braidd yn afler yn ei holl symudiadau, ac yn gymeriad hollol ar ei ben ei hun. Oblegid rhyw neillduolion oedd ynddo, ni chafodd ei ordeinio hyd y flwyddyn 1859, yn Nghymdeithasfa Llangeitho. Yr oedd yn ddyn addfwyn, didwyll, a hynaws, ac o gymeriad diargyhoedd. Bu farw Ionawr 8fed, 1885, ar ol dau fis o gystudd, yn 74 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Henfynyw.

Dywediadau —"Yr wyf yn credu i Adda ac Efa gael eu hachub, gan iddynt gredu addewid Duw am 'had' mor ddiysgog. Cefais wr gan yr Arglwydd,' meddai Efa pan anwyd Cain. Camsyniodd y gwrthddrych, ond yr ondd yn sicr o'r addewid."

"Mae y diafol yn medru cynllwyn, cynllwynion diafol,' meddai y Beibl, fel y rhai hyny wrth Ai gynt, yn llechu yn ddirgelaidd tucefn y ddinas er mwyn bod yn sicr o'i henill. Ac wedi cael y dyn felly i'w afael, mae yn myned yn rhy wan i'w holl ddyledswyddau crefyddol."

PARCH. WILLIAM JONES, PONTSAESON.

Mab ydoedd i Moses a Catherine Jones, Maesmynach, ffermdy o fewn tair milldir a haner i Abermeurig, lle yr oedd ef yn aelod, a'r lle hefyd y dechreuodd bregethu. Yr oedd ei ddefnyddioldeb gan mwyaf yn y gangen ysgol oedd ar Trichrug, lle yr oedd hen bobl ragorol mewn gwybodaeth a chrefydd, yr hyn fu yn fantais fawr iddo ef pan yn ieuanc. Gweithio yn galed yr oedd ar y fferm gyda'i dad, a hyny am gryn amser ar ol dechreu pregethu. Cafodd beth ysgol gyda Mr. Roberts, yn Llangeitho. Yna priododd â Miss Jane Jones, Cefngwyn, ffermdy rhwng Pontsaeson a'r Pennant, a hyny ar ddiwrnod pan oedd gwyl ddirwestol arbenig yn cael ei chynal yn y lle olaf, a'r Parchn. Henry Rees, a William Roberts, Amlwch, yn areithio ynddi allan ar y stage.

Ar ol ei briodas, aeth i Cefngwyn i fyw, ac ymaelododd yn Pontsaeson, a daeth Mrs. Jones gydag ef o Nebo, capel yr Annibynwyr. Bu yn pregethu am bedair blynedd ar ddeg a deugain, ac ordeiniwyd ef yn Llanelli, yn y flwyddyn 1852. Mae llawer o son yn awr am gael bugail i bregethu yn ei gartref unwaith yn y mis o leiaf. Yr oedd Mr. Jones yn ei gartref yn pregethu rhwng y Sabbath a'r wythnos, yn llawer amlach na hyny ar gyfartaledd, er na ddewiswyd ef yn fugail cyn 1872. Yr oedd pregethu iddo mor rwydd ag anadlu. Ei allu mawr fel pregethwr oedd y gallu i siarad yn hamddenol gyda llais deniadol i gynulleidfa, heb ryw lwyth mawr o bregeth, ond yr oll yn rhwydd a melus i'r bobl, ac yntau yn traddodi fel y mynai. Dyna yr argraff osodai ar feddwl pob un wrth ei wrando, a gwnelai yr efengyl felly yn ddeniadol i'r gwrandawyr. Pesychai yn fynych, nid am fod angen arno, ond fel dyn call yn cymeryd hamdden i feddwl yn gystal a siarad. Nid oedd yn gofalu fawr am drefn; ond eto yr oedd ganddo amcan, a byddai y rhan fynychaf yn llwyddianus i'w gyrhaeddyd, gyda blas mawr i gorff y gynulleidfa. Cafodd lawer o odfaon grymus yn y De a'r Gogledd mewn Cymanfaoedd a Chyfarfodydd Misol, yn gystal ag ar y Sabbothau. Dyma un engraifft o'i ddull buddiol o bregethu:-Y testyn yw, Salm li. 12: "Gwelwn yma laf, Fod gan Dduw iachawdwriaeth; 2il, Fod gorfoledd yn perthyn iddi; 3ydd, Fod Dafydd wedi bod unwaith yn ei feddu; 4ydd, Ei fod yn awr wedi ei golli; 5ed, Wedi ei golli, daeth i weled ei werth, ac i geisio cael ei fwynhau drachefn.—I. PA BETH A FEDDYLIR WRTH FOD DYN YN COLLI GORFOLEDD IACHAWDWRIAETH. (1) Yn nacaol; (2) Yn gadarnhaol-colli yr Ysbryd cyn ei weithrediadau goleuol a dyddanol. II. YR ACHOS FOD DYNION YN COLLI Y GORFOLEDD HWN. (1) Byw ymhell oddiwrth Dduw; (2) Ymddiried gormod yn eu nerth eu hunain; (3) Esgeuluso moddion gras mewn peidio dyfod iddynt, ac wedi dyfod iddynt; (4) Cellwair â phechod. -III. Y PWYS O GOLLI Y GORFOLEDD HWN (1) Ni gollwn ysbryd mabaidd; (2) Collwn wyneb yr Arglwydd; (3) Collwn ein defnyddioldeb gyda chrefydd. Gwelwn y gofal ddylem gymeryd am ein crefydd. Y rhai sydd yn teimlo eich gwrthgiliad, gwyddoch lle i fyned etoo am adnewyddiad y gorfoledd." Byddai ef yn dweyd - adnodau, hymnau, a hanesion, wrth fyned ymlaen i egluro ei faterion; a gall pob darllenydd weled fod dull fel yr uchod o bregethu, gyda llais a dull o draddodi da, yn sicr o fod yn ddyddorol ac adeiladol.

Yr oedd yn ddyn o gyfansoddiad cadarn, yn dal, ac yn weddol dew; ac yn ddyn glandeg a thywysogaidd yr olwg. Yr oedd yn meddu ar wroldeb meddwl tuhwnt i'r cyffredin. Cafodd lawer o groesau y byd ar hyd ei oes, ac aeth trwyddynt heb amlygu eu bod yn effeithio rhyw lawer ar ei ysbryd na'i gorff. Er fod Mr. Jones ac yntau wedi byw yn hir, hi yn 77 ac yntau yn 76, eto darfu iddynt gladdu eu plant i gyd ond un o'u blaen, ac amryw o honynt yn fabanod. Gan i fferm Cefngwyn gael ei gwerthu, gorfu arno ef ei gadael, a myned i fyw i dŷ a thyddyn o'i eiddo ei hun o'r enw Penlôn, yn ymyl y Penant a'r lle yr aeth hi ac yntau i'r bedd o hono. Efe ddylasai brynu Cefngwyn, y lle y bu Mrs. Jones ynddo bron dros ei hoes, a'r lle y bu yntau fyw gyda hi am flynyddoedd lawer, ac yn cael mantais y brydles oedd arni, nes crynhoi llawer o gyfoeth. Daliodd y cyfnewidiad hwn heb wneyd fawr o'i ol arno. Cyfarfyddodd â damwain ar ol hyn gyda'r peiriant dyrnu, barodd iddo gael tori ei law a pheth o'i fraich chwith ymaith. Daliodd i'w thori heb un meddyglyn mor wrol, fel y gofynodd i'r meddygon, "Wel, a ydych wedi gorphen ?" Pan atebwyd ef yn gadarnhaol, dywedodd, "Fe ganiatewch i fi gael ysmocio pibellaid bellach," a gwnaeth hyny yn hollol gryf a hamddenol. Claddodd Mrs. Jones ychydig o'i flaen, a chafodd gymorth i ddal hyny heb ymollwng fawr. Bu yn glaf am oddeutu tri mis ddechreu y flwyddyn 1893, ond gwellhaodd, a bu yn pregethu amryw Sabbothau. Y lle y llefarodd ddiweddaf oedd mewn cysylltiad âg eraill yn nghladdedigaeth priod y Parch. Evan Evans, Penant. Ymhen wythnos, yr oedd yn cael ei gladdu yn yr un fynwent, sef un Llanbadarn, Trefeglwys. Cafodd ei daro â'r parlys mud, a bu farw Mehefin 5ed, 1893.

Yr oedd o feddwl galluog. Yr ydym yn cofio amryw o bregethwyr dieithr, ar ol ei glywed yn siarad, yn dweyd, "Mae yn y dyn yna lawer o allu." Pe buasai yn cael hamdden i astudio a gwneyd pregethau, gallasai o ran ei dalentau ymgodi yn llawer uwch nag y gwnaeth. Gwnaeth ei oreu i ddilyn Cyfarfodydd Misol, a bu o ddefnydd mawr ynddynt. Er nad oedd yn gynlluniwr diogel, eto llanwai le mawr trwy ei fedrusrwydd i siarad yn y seiat, wrth bregethu, ac wrth ymddiddan â'r blaenoriaid a phregethwyr. Nid oedd pawb yn hoffi ei ffordd mewn rhyw bethau, ac yr oedd yr hyn a ddywedodd brawd yn ei gladdedigaeth yn wir, "Pe byddai ef yn gadael mwy o lonydd i ddynion, gallai fyned yn llawer mwy esmwyth trwy y byd nag yr aeth."

Dywediadau: "Mae Duw wedi darparu pob peth at amgylchiadau y Cristion. Yr wyf yn cofio llawer o hen grefyddwyr yma, y rhai oedd yn enwog yn eu dydd am eu bod wedi profi pethau rhyfedd. Gallwn ninau ddweyd: Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, a dylai, oblegid hyny fod yr un ffrwythau arnom ni ag oedd arnynt hwy. Er hyny, mae rhyw anystwythder yn bod, fel na ellir tori dynion at waith crefydd fel cynt. Ceir hwy i areithio a chanu, ac efelychu gweddio, os bydd ar y dernyn fydd ganddynt hwy wedi ddysgu, ond ni cheir hwy i weddio. Mae arnaf ofn mai dynion gweiniaid fydd y rhai hyn i sefyll temtasiynau. Dywed Gurnal fod y rhai na ymgymero â holl ddyledswyddau crefydd, fel dyn yn myned i'r gwely y nos a drws ei dy yn agored, ac felly yn temtio y lleidr i ddyfod i fewn. Gwelais yn y Twr yn Llundain, hen filwyr ar geffylau a dim ond eu llygaid heb eu cuddio gan arfogaeth, yr oedd yn rhaid i'r llygaid fod i gael gweled y gelyn: dylai y saint hefyd wisgo holl arfogaeth Duw."

"Ar ei ddyfodiad i'r byd, nid oes eisiau gofyn a yw y plentyn yn fyw, mae ei lef yn ddigon i brofi hyny. Mae yr anian dduwiol yn llefain Abba Dad. Mae cyfansoddiad iach ag archwaeth at fwyd, felly nid oes eisiau cymell dynion crefyddol iachus i'r moddion, mae eu heisiau yn eu dwyn yno. Jenkin Davies, Twrgwyn, yn dweyd mai un hynod oedd John Elias o Fon, am ddweyd pethau fel y deallai pawb, darluniai ef yr anian dduwiol fel peth oedd Duw yn roddi yn enaid dyn oedd yn myned a'r holl ddyn yr un ffordd ag ef."

PARCH. WILLIAM JONES, ABERTEIFI.

Mab ydoedd i Evan a Margaret Jones, Pantglas, yn agos i gapel Trisant, heb fod ymhell o Pontarfynach. Gwehydd oedd ei dad. Yr oedd ei fam yn ddynes grefyddol iawn. Yr oedd Mr. Jones o duedd grefyddol er yn fachgen, ac amlygai duedd gref at bregethu ymhell cyn iddo ddechreu ar y gwaith. Ar ol dechreu, aeth i ysgol i'r Amwythig am ryw gymaint, gan fod Mr. Thomas Jones, blaenor yr eglwys yno, yn frawd iddo. Wedi iddo ddyfod adref, bu yn ddefnyddiol iawn yn y gangen-ysgol oedd yn Smelting, lle y mae Capel mynach yn awr. Holai yr ysgol yno bob mis; ac er fod hyny yn costio cryn lafur iddo, ni chymerai ddim am y gwaith. Gwnaeth trwy hyny lawer o les iddo ei hun: daeth yn dduwinydd da, ac yn bur gyfarwydd yn yr Ysgrythyrau. Cafodd air da am hyny trwy ei oes. Buom yn sylwi arno weithiau yn holi yr ysgol, ac yn gweled ei fod yn alluog i roddi cwestiwn duwinyddol da a chryf, a hyny yn fynych wrth fyned ymlaen.

Pan yn dechreu dyfod yn adnabyddus i'r wlad fel pregethwr, cyfrifid ef yn un da; ac ar amserau, yr oedd yn cael odfaon grymus, nes ei wneyd yn boblogaidd a dylanwadol. Yr oedd yn pregethu ar y testyn, "Daeth yr awr," am yr hon y bu llawer o siarad, a chododd yntau i sylw. Yr oedd rhai o'r hen bobl yn ofni fod cryn lawer o falchder ynddo, ac eraill yn dweyd mai ei ffordd oedd y cwbl, a bod yr oll yn hollol naturiol. Dyn tal a golwg wledig dda arno. Gwallt a whiskers yn wineugoch. Llais cryf, bygythiol, a'r darn isaf o'r ên yn cydio yn yr uchaf yn fynych, a'r llaw yn trin y whiskers neu y wyneb yn rhywle. Safai yn gam yn y pulpud, fel ymhob man arall. Traddodai yn weddol araf, ond cyflymai pan ar gyrhaeddyd ryw climax y byddai yn cyfeirio ato, a chodai hefyd ei lais ar y pryd, gan fod yn fwy bygythiol fyth. Sinai ac Ebal oedd ei hoff fynyddoedd ef, ond yr oedd yn gyfarwydd hefyd â Gerizim a mynydd Seion. Clywsom rai pregethau efengylaldd a grymus iawn ganddo. Yr oedd yn anelu y rhan fynychaf at bechodau yr oes; ac wrth glywed y bregeth ar y testyn hwnw ganddo mewn Cyfarfod Misol, "Llosgodd y fegin, gan dân y darfu y plwm, yn ofer y toddodd y toddydd; canys ni thynwyd y rhai drygionus ymaith," mae yn anhawdd genym feddwl na wnaeth lawer o les, gan ei bod mor gyflawn o ddeddf ac efengyl.

Cyn iddo ddechreu pregethu, bu yn gwasanaethu mewn amryw o ffermydd ar hyd y wlad. Ac oddiwrth yr hyn a glywsom gan forwyn oedd gydag ef yn cydwasanaethu, pan oedd yn was yn Bryscaga, Bow Street, gallem dybied mai y pryd hwnw y cafodd droedigaeth. Yr oedd cynwrf diwygiad ar y pryd yn y wlad, ac felly yn Penygarn. Daeth dau ddyn dieithr heibio, a chawsant odfa effeithiol iawn. Y pryd hwnw yr oeddynt yn ei golli yn fynych, ac o'r diwedd, gwelwyd ei fod yn myned o dan gysgod coeden fawr oedd yn ymyl, ac yn gweddïo. Collodd ei holl flas at bleserau y byd. Ac yr oedd y ferch hono yn benderfynol fod Mr. Jones yn ddyn duwiol byth ar ol hyny. Darllenodd a dysgodd lawer o'r Beibl y pryd hwnw, a daeth yn fwy hynod mewn crefydd na braidd neb o'i gyfoedion. Ni ̧wyddom a aeth adref wedi dyfod ei amser i ben yn y lle uchod, ond gartref yr oedd pan aeth i brêgethu; a bu hyny tua'r flwyddyn 1841, pan oedd yn 24 oed. Priododd â Miss Griffiths, merch y Parch. David Griffiths, Llantwit, Sir Benfro, pregethwr rhagorol gyda'r Methodistiaid yn y dyddiau gynt. Am ychydig ar ol priodi, buont yn byw yn Plas, Rhydfelin; ond yn fuan symudasant i Aberteifi, yn hytrach i ochr Sir Benfro o'r dref, lle y buont am flynyddoedd yn cadw siop. Yr oedd elfen cadw tir yn Mr. Jones, a bu yn cadw fferm am flynyddoedd, a Mrs. Jones yn gofalu am y fasnach. Yr oedd ef a llawer o rai eraill yn byw mewn amser pan edrychai y Methodistiaid yn isel ar bregethwr os na byddai ganddo ryw alwedigaeth heblaw pregethu. Tua diwedd ei oes, symudodd i'r tŷ oedd ganddo yn y dref, lle y mae ei fab yn awr yn myned ymlaen â'r siop.

Yr oedd Mr. Jones yn ddefnyddiol mewn llawer o gylchoedd. Cymerai, ran flaenllaw yn nhrefniadau y Cyfarfod Misol, a gwyliai yn bur fanwl symudiadau y Cyfundeb. Ond nid oedd yn gallu cydweled â holl agweddau y symudiad bugeiliol; ac arferai ddweyd na chymerai ef byth fugeiliaeth. Byddai ei law yn drom ar rai pethau eraill sydd yn dyfod i fri yn yr oes hon. Dywedai ef ei feddwl am wahanol bethau yn rhydd ac agored, ac os oedd i'w feio, dichon mai myned i eithafion weithiau y byddai yn hyny. Yr oedd yn cael ei gyfrif yn wleidyddwr da, ac yn Rhyddfrydwr trwyadl. Daeth allan yn etholiadau 1865 ac 1868, ac eraill, gydag egni ac ymroddiad mawr, fel yr aeth son am dano fel y cyfryw ymhell, fel un oedd yn rhoddi tystiolaeth gref ac agored yn erbyn pob math o drais a gorthrwm ar y naill law, a gwaseidd-dra gwlanenaidd ar y llall; a gwaeddai yn groch, "Sefwch at eich egwyddorion, neu cael eich gorthrymu byth gewch chwi."

Enillodd iddo ei hun barch mawr yn nhref Aberteifi ac yn y wlad gan bob Rhyddfrydwr gonest; ac enillodd hefyd, ymddiried y blaid arall fel un y gwyddent pa le i'w gael ac nad oedd modd ei symud. Fel hyn y cafodd ei ddyrchafu i bob swydd o bwys yn y dref, sef aelod a chadeirydd ar y Bwrdd Ysgol, yn y Cyngor Trefol, ac i fod yn faer y dref; a brysiai o bob cyfeiriad pan yn y wlad, i fod yn bresenol gyda'r swyddau hyn. A thystiai pawb nad oedd neb ffyddlonach nag ef yn y cyflawniad o honynt. Yr oedd ei gladdedigaeth yn brawf o'r oil, gan fod y mawrion o bob gradd ynddo. Cafodd ei ordeinio yn Nghymdeithasfa Trefin, yn 1857. Bendithiwyd ef âg iechyd, a graddau helaeth o gryfder corff ac yni ysbryd, trwy ei oes, hyd y flwyddyn olaf y bu fyw, pan dorodd ei iechyd i lawr yn gyflym oblegid i'r cancer ymaflyd ynddo. Bu farw Ionawr 7fed, 1892, yn 75 oed, a chladdwyd ef yn cemetery y dref. Dywedodd lawer o'r hymn, "'Rwyf yn foddlawn iawn i 'mado." Mynodd weinyddu cymundeb, efe a'i fab, i gofio angau ei Waredwr, a theimlai yn hyderus a llawen yn y gwaith.

L

PARCH. THOMAS LEWIS, PENANT.

Ganwyd ef yn Dolhalog, ger Aberaeron, a hyny pryd nad oedd tref Aberaeron wedi dechreu cael ei ffurfio. Yr oedd yn arfer dweyd fod ei oed ef yn cydredeg a'r ganrif, felly, tebygol ei fod yn meddwl iddo gael ei eni yn y flwyddyn 1800. Enwau ei rieni oedd Lewis a Gwenllian Lewis. Bu yn dysgu yr alwedigaeth o wnïedydd gyda'r hen flaenor enwog David Hughes, Ffosyffin. Daeth llawer at grefydd tra yn byw yn awyrgylch grefyddol hwnw; ac felly y bu gydag yntau. Ond ni wnaeth ef lawer o wasanaeth gyda'r alwed- igaeth fydol, a ddysgodd yr hen oracl iddo, ond gwnaeth gryn lawer o'r un grefyddol. Gan i'r blynyddoedd 1820-30 fod yn bur gyflawn o adfywiadau crefyddol, mae yn debyg mai yn yr un a dorodd allan yn 1819, ac a barhaodd am oddeutn 3 blynedd, y bu y dylanwad grymus ar ei feddwl ef, yr hwn a wnaeth iddo ddechreu pregethu. Wedi dechreu, aeth at y Parch. Dr. Phillips, Neuaddlwyd, i'r ysgol, yn yr hon y bu am 2 flynedd. Yr oedd y Parchn. David Morgan, Trallwm, a John Rees, Tregaron, yno yr un pryd ag ef. Tra bu ei iechyd yn gryf, yr oedd ei weinidogaeth yn rymus a chymeradwy iawn; ond rhywbryd cafodd wely damp, ac ni ddaeth yn gryf byth ar ol hyny. Aeth yn ofnus i fyned i deithiau pell; ac nid oedd yn foddlon heb gael myned a dyfod y Sabbath. Gwisgai lawer am dano, a hyny oblegid ei bryder am ei iechyd.

Oblegid ei fod wedi cael ysgol weddol dda i ateb i'r adeg hono, penderfynodd wneyd defnydd o honi i wneyd cymaint o ddaioni ag a allai mewn dysgu ernill. Cafodd alwad i gadw ysgol yn y Penant, ac ufuddhaodd i ddyfod. Priododd â Miss Sarah Jones, merch David a Mary Jones, Cilgwganfach, ger Aberaeron, yr hon a fu yn aros gyda'i hewythr Zacheus, Penllyn, Penant, ac a gafodd y lle ar ei ol, a Pencwm hefyd, lle y bu Mr. Lewis a hithau byw am y gweddill o'u hoes. Darfu iddynt godi siop yn y lle, a chafodd ef a hithau ddigon o waith bellach i ofalu am hono a'r weinidogaeth, heb iddo ef wneyd dim arall. Clywsom yr hen bobl yn dweyd am dano fel siopwr, ei fod yn codi y ddimai, ac yn rhoddi ei gwerth, ac nad oedd raid ofni anfon plentyn ato, gan y cawsai hwnw yr un fath a'r hwn a ddadleuai ag ef am y pris. Yr oedd yn siriol i bawb, ac yn tynu siarad fyddai yn gwneyd iddynt deimlo yn gartrefol gydag ef. Ond yr oedd yn ddigon o foneddwr i gadw pellder anrhydeddus rhyngddo a phob dyn. Yr oedd yn un o'r cyfeillion goreu ddarfu i ni adnabod erioed. Yr oedd bob amser yn hamddenol, a phan fyddai materion ymddiddan at ei archwaeth, anhawdd oedd ganddo roddi i fyny y gyfeillach. A rhaid cael dweyd hyn, iddo roddi tro am gyfaill oedd ddwy filldir oddiwrtho lawer gwaith, hwnw yn ei hebrwng, yntau yn dyfod yn ol gydag ef drachefn, a'r cwrdd hebrwng felly yn parhau am amser maith, gan mor anhawdd ymadael.

Yr oedd yn un nodedig am ei synwyr cyffredin cryf, yn hynod am gadw ei hun allan o gwerylon, y rhai yn y cyffredin y byddai yn ddigon craff i ragweled eu dyfodiad. Yr oedd achub ei ben, a chadw ei gymeriad crefyddol yn anrhydeddus, yn amcan ganddo ymhob peth. Daeth Temlyddiaeth i'r Penant ryw ychydig cyn iddo farw. Yr oedd ganddo barch mawr i ddirwest, a chlywsom ef yn dweyd iddo ddyfod allan gyda'r achos yn ei gychwyniad cyntaf. Yr oedd yn clywed llawer am y daioni mawr yr oedd y symudiad temlyddol yn wneyd, ond nid oedd ef hyd yma wedi ymuno â'r deml. Beth bynag, digwyddodd siarad âg un brawd crefyddol oedd wedi arfer yfed rhyw gymaint trwy ei oes, a dywedai hwnw wrtho, "Mae yn dda gyda ni eich bod chwi y tucefn i ni, ac heb ymuno â'r babyddiaeth yma sydd yn awr yn y wlad; yr ydym ni yn dweyd pe byddai rhyw ddaioni ynddo, y byddai Thomas Lewis yn sicr o fod wedi taro allan gyda'r cyntaf o'i blaid, gan mai dyna yw ei arfer erioed." "Felly," meddai yntau, "dydd da i chwi yn awr." Y noson hono yr oedd y deml i'w chynal, ac aeth yno yn ddistaw i gael ei dderbyn yn aelod. Dywedodd fod ganddo ef ormod o barch i ddirwest i gadw draw oddiwrth symudiad oedd yn gwneyd cymaint o les. Nid yw hyn ond un engraifft o lawer o rai cyffelyb yn ei hanes ef.

Nid oedd yn dal o gorff. Gwallt du, gwyneb crwn, a whiskers hyd haner ei gernau. Golwg welw a gwasgedig oedd arno pan ydym yn ei gofio gyntaf. Cerddai a'i ben tua'r llawr, a'i ddwylaw ar ei gefn. Yr oedd yn fynych wrth siarad a phregethu yn estyn ei wddf, ac fel pe byddai yn codi gwynt o'i ystumog, a rhoddi math o ysgydwad i'w ysgwyddau. Nid ydym yn meddwl nad arferiad oedd hyny fynychaf, ond arferiad wedi hir ddioddef oddiwrth ddiffyg treuliad. Ni wyddom pa fodd yr oedd cyn y troad yn ei iechyd. Yr oedd ei bregethau yn rhai Ysgrythyrol, cysylltiol, a hawdd eu deall a'u cofio. Yr oedd pobl yn dweyd mai efe a'r Parch. Thomas Jones, Nebo, gweinidog Annibynol, oedd a'r pregethau tebycaf i'w gilydd o bawb oeddynt yn glywed. Pregeth o dri neu bedwar o benau, a chynifer a hyny o rai mân ar bob un o'r cyfryw, a thraethent yn gryno, yn oleu, a melus ar bob un o honynt, a therfynent heb i neb ddiflasu arnynt. Gallai Mr. Lewis waeddi, ond ni wnaeth fawr o hyny yn ein clyw ni, ond unwaith, sef pan bregethodd yn y Penant noson waith i dyrfa fawr o bobl oedd wedi dyfod ynghyd i wrando y Parch. John Evans, Llwynffortun, ond hwnw wedi methu, oblegid ei gystudd olaf. Yr oedd y rhan fwyaf yn dywedyd nad oedd eisiau i neb weled colled y noswaith hono, hyd yn nod ar ol yr enwog Mr. Evans. Gallai ef bregethu pa bryd bynag y gelwid arno, ac nid oedd gwahaniaeth pa mor fyr y byddai y rhybudd. A byddai hyny a ddywedai yn sicr o fod yn gall, y cysylltiadau yn hollol eglur, a'r amcan i adeiladu a chysuro yn fwy yn y golwg, nag argyhoeddi.

Bu yn ddefnyddiol iawn yn eglwys y lle a'r eglwysi cylchynol am flynyddoedd lawer, yn enwedig gan ei fod mor gartrefol. Cafodd ei gystuddio ar hyd y blynyddoedd, fel nad oedd neb yn meddwl llawer am ei farw pan ddaeth. Bu farw yn Ionawr, 1874, pan yn 75 oed. Bu yn pregethu am dros 50 mlynedd, ac ordeiniwyd ef yn 1857, yn Nghymdeithasfa Trefin.

M

PARCH. EDWARD MASON, RHIWBWYS.

Brodor ydoedd o Blaenplwyf, yn agos rhwng y lle hyny a Llanilar. Gwas amaethwyr fu am flynyddoedd, ac un hynod mewn annuwioldeb. Yr oedd ganddo fam hynod mewn duwioldeb, a thanbaid mewn sancteiddrwydd. Ni adawai lonydd i nemawr neb heb son am fater euaid; a phan y byddai yn myned at y ffermydd ar adeg neillduol o'r flwyddyn i ofyn am ŷd a blawd, pregethai lawer cyn dyfod yn ol erbyn y nos. Er cymaint a weddiai dros Edward, ac a gynghorai arno, ni theimlai fawr am flynyddoedd. Ond pan oedd gartref ryw dro, ac yn clywed ei fam ar y weddi deuluaidd, ac yn taeru gerbron ei Thad nefol mai ei waith ef yn unig oedd achub ei mab annuwiol, gwaeddai, "Gafaela ynddo, gafaela ynddo." Dechreuodd trugaredd ymaflyd ynddo ar y pryd, ac er ymdrechu ymladd yn erbyn am ychydig, "trugaredd ga's y trechaf." Daeth yn weddïwr hynod. Pan yn cael ei ordeinio yn Nghymdeithasfa Trefin, dywedodd yn y cyfarfod neillduol ain un ymdrechfa fu rhyngddo â Duw mewn ysgubor, nes yr oedd pawb yn teimlo mai da oedd bod yno. Dywedai iddo fod yno am oriau, ac iddo deimlo fel pe buasai ei rwymau yn myned yn rhydd. "Yr wyf yn meddwl," meddai, "fod rhywbeth y pryd hwnw wedi ei wneyd na allai dim ond Duw ei gyflawni."

Bu yn molianu a gorfoleddu llawer yn yr odfaon, ac aeth son mawr am dano fel gweddïwr rhagorol, ac fel un o dduwioldeb diamheuol. Yr oedd llawer yn siarad ag ef ynghylch pregethu, ond ni fynai ef addef ei awydd i hyny am beth amser. Yr oedd Mr. Richards, Tregaron, wedi cael ei hysbysu am dano; ac ar amser Cyfarfod Misol, yr hwn oedd i fod yn Ponterwyd, dywedodd wrtho fod yn rhaid iddo ddyfod yno gydag ef. Yr oedd ein hysbysydd yn dweyd iddo fyned, ac iddo ddyfod adref yn bregethwr. Cadw ysgol yn Blaenplwyf yr oedd ar y pryd. Gallem feddwl mai cael ei dderbyn yn bregethwr rheolaidd, ac yn aelod o'r Cyfarfod Misol, yr oedd ar y pryd. Mae ei fod yn cadw ysgol yn rhyw arwydd ei fod yn bregethwr ar brawf cyn hyn. Yr oedd oddeutu 30 oed pan ddechreuodd.

Daeth i fyw i Ty'nrhos, yn agos i Rhiwbwys, a bu yn gweithio yn galed ar y fferm trwy ei oes. Golwg gweithiwr oedd arno bob amser. Gwyneb hir a choch oedd ganddo, a chnwd o wallt du ar ei ben, heb fawr wedi troi yr wyn o hono yn niwedd ei oes. Pan yn siarad neu yn pregethu, yr oedd fel yn gorfod llyncu ei boeri yn bur fynych, a'i lefariad o'r herwydd yn myned yn anystwyth a thrwstan, Rhy undonog oedd; a phan waeddai, yr oedd y waedd heb ddim yn hyfryd o ran llais. Yr oedd yn weddol dal o gorff, ond yn deneu trwy ei oes. Beth bynag, yr oedd yn ddyn gwerthfawr iawn i'w eglwys gartref, ac i'r holl eglwysi, gan fod perarogl Crist bob amser ar ei berson a'i bregethau. Yr oedd yn un o'r cyfeillion mwyaf caruaidd a didwyll a fagodd Cymru. Dywedai Mr. Edwards, Penllwyn, yn ei gladdedigaeth, mai y peth cyntaf ddaeth i'w feddwl ef pan glywodd am ei farwolaeth, oadd y geiriau hyny, "Daniel, wr anwyl," a'u bod yn dyfod yn aml i'w feddwl pan welai ef yn dyfod i'w gyfarfod. Bu yn gyfaill gyda Mr. Richards, Tregaron, ac eraill, pan ar deithiau, a thystiolaeth pawb oedd na ddymunent ei well.

Ni bu ei gystudd diweddaf ond byr. Pan ddaeth Mr. John Alban, blaenor Rhiwbwys, ato dywedodd, "Ofn y llyfrau sydd arnaf ynghylch y pregethu, nid oes arnaf ofn fy nghyflwr. Ac y mae hyn genyf i ddweyd am y pregethu, os aethum heb fy ngalw, nid arnaf fi yr oedd y bai," gan feddwl, mae yn debyg, mai ei gymell a gafodd. Dichon hefyd ei fod yn meddwl, fel Jeremiah, iddo gael ei orchfygu gan awydd at y gwaith. Bu farw Hydref 11eg, 1860, yn 62 oed, wedi pregethu am oddeutu 33 o flynyddoedd, a'i ordeinio yn Nghymdeithasfa Trefin. Claddwyd ef yn Eglwys Llanddeiniol.

Engraifft o'i bregethau. Ei destyn oedd Gen. vi. 3. Fod y fath beth yn bod a bod Duw yn ymryson & dynion-trwy gydwybod, trwy ei air a'r efengyl, trwy gystuddiau a gorthrymderau. Fod y fath beth yn bod hefyd a bod Duw yn tewi wrth ddynion,—pan yn cymeryd eu breintiau oddiwrthynt, fel Chorazin a Bethsaida, a Jerusalem; pan yn eu rhoddi hwythau i fyny i galedwch barnol, fel Israel, Esai. vi. 9, 10, a'r cenhedloedd paganaidd, Rhuf. i. 24. Dyma farn y barnau, a thrymach na saith mlynedd o newyn. Yr achos o hyn,—parhau i synied yn gnawdol am bethau ysbrydol a dwyfol, Mat. xvi. 23; Rhuf. viii. 5, 7, 8; a Phil. iii. 19; parhau i gynal pethau i fyny sydd yn groes i lais cydwybod a'r efengyl, Jer. v. 23, 24; parhau i droi'r glust fyddar at lais cynghorion a rhybuddion, Diar. i. 20-25; Marc viii. 17, 18. Cofiwch mai ymryson â Duw yr ydych, yr Anfeidrol ddoeth a Hollalluog, Job ix. 3, 4; Esai. lxv. 9. Chwi gaiff y gwaethaf: "Ymaflwch yn ei nerth, fel y gwnelo heddwch a chwi."

Dywediadau," Cyn byw yn dduwiol, mae yn rhaid cael anian i garu Duw; rhaid cael ystyriaeth o'i bresenoldeb gyda ni a'i "adnabyddiaeth o honom; rhaid credu Gair Duw, ac ymhyfrydu ynddo; a rhaid ymgyflwyno yn llwyr i'w wasanaeth. Mae byw fel yma yn beth amlwg i bawb, trwy fod y dynion yn aml yn y moddion fel gyda'u hymborth naturiol; trwy ymddidoliad oddiwrth y byd a'i arferion; a thrwy wneyd daioni i bawb."

"Mae dynion yn dirmygu y Gair pan yn peidio ei ddarllen yn ddigon mynych; pan yn cymeryd rhanau o hono mewn ymddiddan cyffredin i beri chwerthin ac ysgafnder; pan yn ddifater am wneyd yn ei ol; a phan yn ddilafur am gael profiad o'i addewidion."

PARCH. DAVID MORGAN, CAPEL SEION.

Ganwyd ef tua'r flwyddyn 1823. Ni chafodd fawr o fanteision addysg, ond rhyw ychydig y gauafau yn ei gymydogaeth ei hun yn ol arfer y dyddiau hyny. Bu peth awydd pregethu ynddo yn ieuanc; ond nid oedd yn ddigon cryf i'w amlygu, gan nad oedd eto yn aelod crefyddol; ac am lawer o amser wedi dyfod yn aelod, nid oedd yn meddwl y gwelid ef byth yn bregethwr. Ond mewn amser marwaidd ar grefydd, sef tua 1855 ac 1856, pan oedd yn bur flaenllaw gyda'r achos, a'i ddefnyddioldeb yn yr eglwys a'r Ysgol Sabbothol yn fawr, ac amryw yn dweyd wrtho mai pregethwr ddylasai fod, aeth y teimlad yn drech nag ef, a dechreuodd ar y gwaith. Dywedodd wrthym iddo edifarhau lawer gwaith iddo ddechreu erioed; ond ar ambell i odfa hwylus fyddai yn gael. "Cefais dipyn o fy anadl," meddai, "yn y diwygiad diweddaf, neu nid oes fawr o ddefnyddiau pregethwr ynof fi."

Gwehydd ydoedd wrth ei alwedigaeth, a bu yn gweithio gyda hi y rhan fwyaf o'i oes. Wedi ei ordeinio yn 1868, daeth yr alwad am dano yn fwy. Tebygol mai i Saron, Llanbadarn, yr aeth yn aelod crefyddol, ond yn capel Seion y dechreuodd bregethu. Yr oedd yn ddefnyddiol iawn yn ei eglwys gartref, a gwasanaethai lawer ar yr eglwys fechan yn Horeb, ar gais y Cyfarfod Misol. Yr oedd pawb yn hoff o hono fel dyn, gan ei fod yn meddu synwyr cyffredin cryf, ac yn addfwyn a diniwed yn ei holl ymwneyd â dynion. Ei brif ragoriaethau fel pregethwr oeddynt ei fod yn deall duwinyddiaeth yn dda, a'i fod yn bur gyfarwydd yn yr Ysgrythyrau. Anhawdd fyddai ei drechu mewn dadl ar bwnc o dduwinyadiaeth. A hyn oedd yr achos ei fod yn holwr mor fedrus ar yr Ysgol Sabbothol; byddai ef yn uwch gyda hyn na llawer oedd yn cael eu hystyried uwchlaw iddo ef fel pregethwr. Yr oedd ganddo fedr neillduol hefyd i gadw cyfarfod eglwysig yn adeiladol. Yr oedd yn coffhau yn fynych am Bunyan, Mathew Henry, Gurnal, a'r hyn fyddai yn ddarllen ac yn glywed am ddigwyddiadau yr amseroedd. Gwyddai heth oedd dal cymundeb â Duw; a gwyddai gryn lawer am brofedigaethau yr anialwch, ac yr oedd hyny yn ei gymhwyso i gyfarwyddo pererinion trafferthus eraill.

Pan gladdodd ei wraig gyntaf, cafodd lawer o brofiad o'r cynorthwyon nefol. Bu farw pan oedd ef o gartref yn pregethu; a phan glywodd y newydd, bu bron ag ymollwng i rwgnach, ond cafodd allu i ymdawelu. Y geiriau fu yn fwyaf o gymorth iddo oedd, "Yr Arglwydd hefyd a ddifroda dafod môr yr Aifft, ac â'i wynt nerthol efe a gyfyd ei law ar yr afon, ac a'i tery hi yn y saith ffrwd, ac a wna fyned drosodd yn droedsych." Pan ofynodd cyfaill iddo beth oedd yn gael mewn adnod mor annhebyg i'w amgylchiad ef, dywedodd, "O! peth mawr oedd myned trwy saith o ffrydiau yn droedsych! Mae llawer o hen ffrydiau dyfnion mewn claddu gwraig; ond mi ddaethum i ddeall oddiwrth y geiriau yna ei fod yn meddwl fy nghadw heb suddo na myn'd gyda'r llif. Ac yr oeddwn yn gwel'd mwy na hyny hefyd, mewn myn'd a fi trwodd yn droedsych. Ar bwys hona, daeth yr adnod hono ataf Pan elych trwy y dyfroedd, myfi a fyddaf gyda thi' Yr oedd yn dweyd yn groew yn hona na chawn i ddim o'n arbed heb fyn'd trwy y dyfroedd; ond yr oedd yr adnod arall yn dweyd ei fod ef yn myned i'w rheoli, fel na chawn yr un niwed trwyddynt. Bu yn dywydd mawr arnaf, ond cefais ef yn ffyddlon i'w addewid."

Dyn o daldra cyffredin ydoedd, corff esgyrnog a llydan, yn cerdded y rhan fynychaf gydag umbrella yn ei law. Wyneb llydan a gwallt melyngoch, pan heb droi yn wyn; a whiskers byrion hyd haner ei gernau. Safai yn syth, a lled ddigyffro ymhob man. Ei brif ddiffyg wrth bregethu oedd bod yn rhy dawel ac undonog. Yr oedd ei bregethau yn llawn o fater da, a medrai ei drin yn gyson a goleu. Collodd lawer o'r iechyd da a gafodd yn ei flynyddoedd olaf, fel yr oedd yr olwg arno yn bur wasgedig am gryn lawer o amser cyn iddo ymadael â'r byd. Bu farw Mehefin 1, 1886, yn 63 oed, wedi pregethu am oddeutu 30 mlynedd. Yr oedd yn hollol foddlon i'r ewyllys ddwyfol i wneyd âg ef fel y gwelai yn dda. Datganai hyder cryf yn ei Geidwad. Claddwyd ef yn y fynwent tucefn i'r capel.

Ganwyd ef yn Gwarfelin, lle ar ochr y ffordd fawr o Llanbadarnfawr i Penllwyn. Yn Nantgleisiau, lle sydd am yr afon a'r lle y ganwyd ef, y bu fyw bron ar hyd ei oes; ond iddo fyned ryw gymaint yn niwedd ei oes i Llanbadarn i fyw, ac yna i dy capel, Capel Seion, lle y bu farw. Enwau ei rieni oedd Hugh ac Elizabeth Morgan.

PARCH. DAVID MORGAN, RHYDFENDIGAID.

Bu farw yn gymharol ieuanc, dim ond 42. Dechreuodd bregethu pan yn 33 oed: felly ni bu ond naw mlynedd yn y weinidogaeth. Ordeiniwyd ef yn Llangeitho, yn 1859, sef blwyddyn y diwygiad. Gelwid ef David Morgan, y Shop, yr hon a welir eto ar gyfer yr hen gapel, lle y mae Mrs. Morgan yn myned ymlaen a'r fasnach. Ganwyd ef yn Tymawr, yr hwn sydd oddeutu lled cae o'r pentref, a hyny yn y flwyddyn 1821. Enwau ei rieni oeddynt David a Jane Morgan, y rhai a gladdwyd y tucefn i'r hen gapel. Yr oedd yn un o chwech o blant. Bu farw ei dad yn ieuanc; ac oblegid hyny, daeth gofal y teulu arno ef a'i fam. Yn Rhagfyr, 1843, bu farw ei fam hefyd, gan adael yr holl ofal arno ef. Yr oedd ei rieni yn bobl dda a chrefyddol, a bu marw yn elw iddynt. Yr ydym yn deall fod chwant pregethu wedi bod ar Mr. Morgan flynyddoedd lawer cyn iddo ddechreu ar y gwaith; ond y mae y gofalon teuluaidd a ddaeth arno, yn rhoddi eglurhad paham na ddechreuodd yn gynt, a phaham na bu mewn coleg, Bu yn fwnwr am rai blynyddoedd; ac o'r diwedd, ymsefydlodd yn y Shop, lle y bu am y gweddill o'i oes. Dywedir iddo wneyd ei oreu dros y plant eraill, a hyny ymhob modd canmoladwy, fel na welsant fawr o angen eu rhieni.

Cafodd fwy a gwell ysgol na'r cyffredin yn ei ardal. Bu am lawer o amser yn Ysgol enwog Ystradmeurig. Yr oedd yr athraw, sef y Parch. J. W. Morris, yn hoff iawn o hono, fel dysgwr da, ac fel un o gymeriad rhagorol. Cafodd gymhellion taer ganddo i barotoi ei hun i fod yn offeiriad o Eglwys Loegr, ond ni fynai ef ymadael â'r enwad y perthynai ef a'i rieni iddo. Mae yn amlwg hefyd fod ei rieni yn Fethodistiaid mwy goleuedig a chadarn na'r rhan fwyaf yn y dyddiau hyny. Cododd llu i'r offeiriadaeth o'r ardaloedd hyn; ac yr oedd gan Ysgol Ystradmeurig ddylanwad mawr tuag at hyny. Ac er bod yn yr un Ysgol, a'i fod hefyd yn ddysgwr mor alluog, eto daliodd ef yn gadarn yn y ffydd. Yr hyn sydd yn profi fod ei rieni yn Anghydffurfwyr da, hefyd, yw, mai hwy oedd y cyntaf i fedyddio yn hen gapel y Bont, a Mr. Morgan oedd y cyntaf hwnw. Bu yma lawer o ddadleu cyn hyny, pa un a ddylid bedyddio o gwbl gan neb heb ei fod wedi bod dan law esgob. Ond yr oedd tad a mam David Morgan yn meddu ar well barn, ac ar feddwl mwy annibynol, fel nad oeddynt yn ofni neb na dim ond eu cydwybod eu hunain a Gair Duw. Yr oedd dechreu bedyddio rhai mewn capeli yn beth anhawdd mewn unrhyw le y pryd hwnw. Ond yr oedd mwy o anhawsdra i wneyd hyny yn ymyl ysgol Eglwysig Ystradmeurig. Y gweinidog a weinyddodd y bedydd oedd y Parchedig Ebenezer Richards, Tregaron. Nid un hawdd ei dynu gan bob gallu, na chael ei siglo gan bob awel oedd Mr. Morgan; ac nid yw hyny yn rhyfedd os ystyriwn mor anhyblyg oedd ei rieni. Yr oedd Mr. Richards, Tregaron, yn arfer dweyd, ond iddo ef gael Methodistiaid da, y cawsai eu plant hefyd i'w bedyddio; a dywedai am i'r rhai hyny ddechreu ymhob lle. "Mae dynion," meddai, "yn debyg i'r defaid; ond i'r un fwyaf dewr gymeryd y blaen, daw y lleill ar ei hol."

Yr oedd yn Ysgrythyrwr mawr, Dysgodd lawer o'r Beibl pan yn ieuanc, ac yr oedd bob amser yn gwneyd hyny yn fanwl. Yr oedd adnodau at ei alwad bob amser, a gallai eu hadrodd heb wneyd cam â hwy. Yr oedd yn dduwinydd galluog. Nid y wybodaeth hon ar ei phen ei hun ychwaith oedd ei wybodaeth ef o honi; ond yr oedd yn gryn lawer o athronydd naturiol a moesol. Yr ydym yn ei gofio yn pregethu yn y Penant ar y geiriau, "Yr ydym yn diolch i ti, O! Arglwydd Dduw Hollalluog, yr hwn wyt, a'r hwn oeddyt, a'r hwn wyt yn dyfod, oblegid ti a gymeraist dy allu mawr, ac a deyrnasaist." Yr oedd yn ddigon hawdd deall mai nid duwinyddiaeth yn unig oedd wedi ddarllen; ac yr oedd y rhai mwyaf blaenllaw yn dweyd mai nid dyn cyffredin ydoedd Onibai yr amgylchiadau y gorfu arno gymeryd eu gofal, diameu y mynasai ef fwy o fanteision i fyned yn ei flaen mewn dysg a gwybodaeth o bob math. Cyn iddo fyned i bregethu, yr oedd yn un hynod o ran ei wybodaeth eang, ei fedrusrwydd gyda phobpeth crefyddol, a'i allu i fod yn ddefnyddiol gyda phobpeth da; ei synwyr cyffredin cryf, ei farn addef, a'i gymeriad dilychwin. A diamheu mai yr elfenau hyn yn ei gymeriad oedd yn peri i'r bobl oreu a mwyaf llygadgraff yn y Bont, ei gymell i ddechreu pregethu. Yr oedd ysbryd pregethu yn gryf ynddo; ond ni fynai ei ddatguddio. Cuddio ei hun oedd duedd ef. Nid oedd yr ysbryd cyhoeddus yn gryf ynddo. Yr oedd yn rhy wylaidd, yn rhy reserved i hyny. Yr oedd yn ddyn trwm, fel y dywedir, ond yn anmharod i ddangos hyny. Gan ei fod yn un mor gall, pwyllog, ac o farn mor addfed, mynai y bobl ei gael i'w blaenori bron ymhob peth. Ond gwell oedd ganddo ef weled eraill yn y lleoedd yr oedd eraill yn meddwl y dylasai ef fod.

Dyn o daldra cyffredin ydoedd, corff teneu, y wyneb yr un fath ac yn welw, a rhyw gymaint o ol y frech wen arno. Gwallt du a chrychlyd; y pen yn sefyll yn drymaidd, a thueddol i blygu tuag ymlaen yn fyfyrgar. Traddodai yn araf, heb godi fawr o'i lais hyd y diwedd. Cafodd odfaon bythgofiadwy yn niwygiad 1859, a derbyniodd ugeiniau os nad canoedd at grefydd. Yr oedd ynddo lawer a allu, gwybodaeth, a barn, ond iddo gael ysbryd digon gwresog i draddodi, a chafodd hyny i raddau pell yn y diwygiad. Gwnaed brys mawr gydag ef wedi ei gael i'r pulpud, pan mai prin yr oedd wedi treulio ei bum' mlynedd cyn iddo gael ei ddewis i'w ordeinio, ar ol ei dderbyn yn aelod o'r Cyfarfod Misol. Nid dyn ieuanc ydoedd, ac nid un dibrofiad oedd, ac felly nid oedd perygl brysio. Treuliodd ei oes gyda chrefydd. Bu yn athraw llafurus yn yr Ysgol Sabbothol, ac yn un o'r aelodau goreu yn y dosbarth darllen oedd y Parch. Joseph Rees yn gadw yn y lle. Yr oedd prawf wedi ei gael o hono hefyd fel areithiwr dirwestol, ac hefyd fel areithiwr ar wahanol bynciau yn Nghyfarfod Dau-fisol y Dosbarth. Bu ef a Thomas Williams, Panwr, yn dadleu llawer a'u gilydd, ac hefyd yn gwneyd pynciau ysgol i'w hadrodd yn gyhoeddus. Nid oedd, oblegid y fasnach, yn gallu dyfod yn fynych i'r Cyfarfod Misol; a phan fyddai yn bresenol, ni siaradai fawr, os na byddai a rhyw genadwri neillduol ganddo. Ond yr oedd yn un o'r rhai mwyaf defnyddiol yn ei gartref. Yr oedd yn arweinydd da pan godwyd y capel mawr presenol, ar gyfer y gynulleidfa fawr, ac oddeutu 400 o aelodau newyddion a dderbyniwyd yno yn y diwygiad. Ond yr oedd yno galon i weithio ganddo ef a phawb, gan mai 1859 ydoedd. Nid oedd yn gryf o iechyd. Ac yr oedd y teithio i'r cyhoeddiadau, a bod yn gaeth yn y siop, yn bethau hollol groes i'w gilydd tuag at gadw iechyd. Yr oedd yn myned a dychwelyd y rhan amlaf bob Sabbath, ac felly byddai awyr y boreu a'r nos yn cael ei hanadlu, ac yn aml er niwed i'w iechyd. Bu farw dydd Gwener, Medi 25, 1863, a hyny yn bur ddisymwyth. Pregethodd nos Sabbath cyn hyny, oddiar 2 Cor. v. 1, fel pe buasai yn ymwybodol fod "datodiad ei ddaearol dy" yn ymyl. Priododd Awst 15, 1845, â Miss Mary Lloyd, merch Mr. David Lloyd, Excise Officer, yr hon sydd wedi ei oroesi hyd yn awr. Ar ol un oedd mor gymeradwy gan yr holl eglwysi, teimlwyd galar mawr trwy y wlad i gyd, yn enwedig yn y lleoedd adnabyddus o hono. Claddwyd ef yn mynwent y Fynachlog.

PARCH. DAVID MORGAN, YSBYTY.

Mab ydoedd i David a Catherine Morgan, Melin, Ysbyty, yn ymyl y Level a'r gwaith plwm sydd yno. Ganwyd ef. tua'r flwy ddyn 1814. Codwyd ef i fyny yn yr alwedigaeth o saer coed, a daeth yn grefftwr rhagorol. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1842, bron yr un amser ag y cododd yr enwog John Jones, Ysbyty. Yr oedd hwn yn un oedd yn astudio yn ddyfal, ac yn feddyliwr cryf, ac o chwaeth goethedig. Yr oedd yn dweyd am Mr. Morgan, y gallasai ddyfod yn bregethwr da pe buasai yn llafurio; bod ynddo lawer o allu, ond nad oedd yn gwneyd un gallu yn ddau, na'r ddau yn bedwar. Ond os na ddaeth Mr. Morgan yn enwog trwy lafur personol i ddarllen a myfyrio, gwnaeth ddylanwadau goruwchnaturiol y diffyg i fyny, fel y bydd ei enw yn glodfawr tra bydd son am ddiwygiadau crefyddol Cymru. Cafodd ychydig ysgol yn ieuanc; ond er iddo ddechreu pregethu yn adeg dechreuad yr athrofeydd Methodistaidd, ni wnaeth efe ddefnydd o'r un o honynt i gael ychwaneg o addysg, ac yr oedd yn edifarhau yn fawr mewn blynyddoedd diweddarach na fuasai wedi gwneyd. Ond yr oedd ganddo allu anghyffredin i guddio ei hun pan y byddai mewn cwmni fyddai wedi cael manteision,-holi y byddai, a thynu eu gwybodaeth hwy allan, ac felly yr oedd yn ystorio llawer erbyn adeg arall, ac felly yn barhaus.

Ond awn bellach at yr hyn a wnaeth Duw iddo, a'r defnydd a wnaeth o hono. Nid erbyn diwygiad 1859 yn unig yr ymwelodd yr Arglwydd ag ef, ond gwnaeth hyny yn gyntaf i'w wneyd yn grefyddwr ac yn bregethwr. Nid oedd yn grefyddwr hyd ddiwygiad 1832. Y pryd hwnw, pan o 18 i 20 oed, profodd bethau grymus iawn ar ei feddwl,—argyhoeddiadau tebyg i'r rhai a deimlodd llawer o'r hen Fethodistiaid cyn eu codi i ymofyn crefydd. Ni wyddom pa beth, na phwy, yn neillduol, a ddefnyddiwyd i'w ddeffroi; ond bu ef am rai wythnosau heb fawr o flas at ddim, a'i gwsg wedi cilio oddiwrtho. Ond aeth ryw foreu Sabbath i fyny i Cwmystwyth, i wrando y Parch. Evan Evans, Llangeitho, y pryd hwnw, o Nantyglo, ac yno, wrth glywed am benderfynu o du yr Arglwydd, y penderfynodd yntau roddi ei hunan fel yr oedd i Grist a'i achos. Ymhen rhai blynyddau ar ol hyn, pan oedd yn grefyddwr disglaer, ac o ddefnyddioldeb mawr yn yr Ysgol Sabbothol, dechreuodd bregethu, sef pan oedd oddeutu 23ain neu 24ain oed. Yr oedd yn ddyn hardd ei olwg, yn dal, ac wedi ei adeiladu yn gadarn o ran corff. Yr oedd yn eillio ei wyneb llydan a llewaidd i gyd drosto. Llygaid tanllyd, ac fel yn treiddio i'r bobl oedd o'i flaen, ac nid arnynt yn unig. A chan fod ganddo ddull o wasgu ei eiriau yn ei enau wrth eu hanfon allan, yr oedd hyny, gyda golwg ofnadwy ei lygaid, a'i wyneb, a'i wallt goleu crychlyd, yn ei wneyd yn un o ddisgwyliad uchel i gynulleidfa, hyd nes iddynt gynefino ag ef. Disgwyl neu beidio, nid oes dim yn ei bregeth sydd yn llanw disgwyliad. Pregeth fer, ac heb un pen, y rhan fynychaf, dim ond ychydig o sylwadau eglur a di-effaith. Ond peidier a rhoddi y pregethwr i fyny, y mae rhyw bethau yn perthyn iddo sydd yn rhoddi lle i feddwl fod Duw yn bwriadu gwneyd rhywbeth mawr trwyddo. Mae yma ddefnydd mellt, ond nid ydynt yn cael eu gyru allan,—mab y daran ydyw, ond nid yw y taranau i'w clywed eto. Ar ei ddyfodiad allan, ac am flynyddoedd wedi hyny, ymddangosai yn fath o beiriant o drefniad hynod, ond heb ateb fawr o ddiben oedd yn ateb i ragoroldeb ei olwg. Arhoswch chwi bu y Great Eastern felly, ond trwy roddi yr Atlantic Cable i lawr, atebodd yn llawn i ardderchogrwydd ei golwg.

Yn haf 1858, dyma y Parch. Humphrey Jones yn dyfod drosodd yma, o ganol gwres a chynwrf diwygiad mawr America. Cafodd afael ar D. Morgan, a rhoddodd hanes yr adfywiad iddo nes gwresogi ei ysbryd. "Cafodd ef mewn tir anial, ac mewn diffaethwch, gwâg, erchyll; arweiniodd ef o amgylch, a pharodd iddo ddeall." Ei brofiad ymhen ychydig oedd, "Gwresogodd fy nghalon o'm mewn, tra yr oeddwn yn myfyrio, enynodd tân, a mi a leferais a'm tafod." Cafodd y brawd o America lawer o drafferth i'w ddeffroi o gysgu, a chafodd yntau lawer o drafferth gyda'i galon ddrwg ei hun. Ceisiodd H. Jones ganddo weddio yn nghanol meddwon mewn tafarndy, yn Pontrhydygroes, ond ni allai: gweddiodd H. J. ei hun, nes yr aeth yn rhy ofnadwy i'r yfwyr fod yno. Rhedasant allan mewn braw, ac ymguddiodd gwr y ty yn rhywle tuhwnt i'r barilau. Dymunodd H. J. arno eto weddio am fendith ar eu hymadawiad â'r dafarn a'r ddiod, ond ni wnaeth. Gweddiodd hwnw eilwaith, a chafodd y fraint o dderbyn y rhan fwyaf o honynt i'r eglwys ymhen ychydig wythnosau, pan yn gruddfan dan lwyth eu beiau. Yr oedd yr Ysbryd yn graddol addfedu Mr. Morgan at ei waith mawr. Pan yn dyfod adref ryw nos Sabbath, dros fynydd Llanerchpentir, daeth y fath ddylanwad ar ei feddwl nes y gadawodd y gaseg i bori ar y mynydd tra y bu yntau yn ymdrechu â'r angel dwyfol. Bu yno am oriau. Pan olynwyd y rheswm am ei ddiweddarwch, yn dyfod adref, ei ateb oedd, "Ymdrechu am y fendith y bum i, ar fanc Llanerchpentir; ac O! diolch, yr wyf wedi ei chael!" Bu yn gwrando H. Jones, hefyd, yn pregethu ar y geiriau, "Gwae y rhai esmwyth arnynt yn Seion." Ar ol hyn, bu ryw dair nosmaith heb gysgu. Bu hefyd yn cynal cyfarfodydd gweddiau am wythnosau, a hyny bob nos. Fel hyn, daeth y wyneb llewaidd, a'r llygaid tanllyd, yn reality ofnadwy. Gwnaeth i filoedd ddychrynu pan yn gwaeddi a'i holl nerth i ddangos perygl yr annuwiol, a dyledswydd pobl Dduw i roddi help to the rescue, trwy gymhariaeth y bachgen yn dringo y graig ar ol nyth yr eryr, ac wedi myned yn rhy bell i berygl, a'r bobl yn dangos y cyfeiriad, ac o'r diwedd yn taflu y rhaffau iddo, ac yn ei achub. Gwaeddodd nes colli ei lais, i raddau pell, a'r llais cyfyng a garw hwnw bellach fel yr oedd, a fu ganddo bron i ddiwedd y diwygiad. Ond yr oedd yn fwy ofnadwy fel hyny, na'r llais naturiol oedd ganddo.

Drwg genym na buasai wedi ysgrifenu hanes y diwygiad. Mae llyfr ar ei ol yn cynwys ei deithiau, yr odfaon oedd yn gadw, a'r seiat oedd ar ol, a nifer y rhai dderbyniodd o newydd; ond nid yw yn rhoddi hanes personau, na nemawr o'r gwahaniaeth rhwng y naill gyfarfod a'r llall. Hanes y flwyddyn 1859 ydyw. Mae yn dechreu yn Blaenpenal, Ionawr y 4ydd, ac yn diweddu yn Brynsiencyn, Sir Fon, Tachwedd y 4ydd. Rhwng y ddau ddyddiad, bu mewn 9 o gyfarfodydd pregethu, mewn 6 Cyfarfod Misol, mewn 12 o gyfarfodydd gweddiau neillduol, mewn 18 o gyfarfodydd eglwysig, 2 Gyfarfod Dosbarth, 2 gymanfa plant, ac 1 Gymanfa Chwarterol. Pregethodd 566 o weithiau, heblaw yr anerchiadau, a'r cyfarfodydd eglwysig, ar ol hyny. Derbyniodd 3,014 ar brawf i'r gwahanol eglwysi, a 251 yn aelodau cyflawn. Mae yn syn meddwl iddo ddal heb dori i fyny; ond yr oedd ganddo gorff cawraidd, gwroldeb na chymerai ei siomi, a chafodd ras yn gymorth cyfamserol. Ar yr un pryd, yr oedd yn ymwybodol o'i annheilyngdod ei hun i gael ei ddewis a'i gymhwyso at waith mor fawr. Clywid ef yn gwaeddi amryw droion, "Pwy wyf fi, O! pwy wyf fi, a phwy yw fy nhy, i wneyd y fath gyfrif o honof fel hyn?" Gwaeddai felly pan ar daith gyda'r Parch. Evan Phillips, Castellnewydd, yn y Gogledd; a phan yn dyfod i Gyfarfod Misol Blaenanerch gyda'r Parch. Thomas Edwards, Penllwyn. Ac os oedd felly yn gyhoeddus, diameu genym ei fod felly yn fynych mewn hunan-ffieiddiad gerbron Duw.

Dyweder a fyner, mae rhyw resymau neillduol dros alw diwygiad mawr 1859 yn "Ddiwygiad Dafydd Morgan," heblaw mai efe a ddechreuwyd gael ei gysylltu ag ef gan y wlad. Na, yr oedd wedi cael ei dynu yn agos iawn at Dduw; ac yr oedd Duw wedi ei ddewis i hysbysu ei feddwl iddo, ac amlygu ei allu trwyddo. Yr ydym yn cael ei hanes ddwy waith yn ymdrechu a'i holl egni i afaelu yn y ddaear, pan oedd yn teimlo fod yno ryw allu cryf yn ei godi fyny or ddaear. Bu am ryw chwarter milldir o ffordd, pan yn teithio trwy Ddyffryn Rheidiol, yn gafael yn yr anifail, gan ei fod ymwybodol fod rhywbeth yn ei dynu i'r entrych. Bu felly yn gafaelu yn dyn yn mhulpud Tregaron, ac yn meddwl ei fod yn gweled goleuni disglaer uwch ei ben, a rhywun yn y goleuni yn ei raddol dynu i fyny. Nis gallwn esbonio hyn, os nad oedd yn rhyw arwydd o'r cymundeb agos oedd yn ddal â'r wlad nefol, ac o'r nerth a dderbyniai oddiyno. Pan oedd mewn lle yn Meirionydd, yn derbyn gwraig i'r seiat, gofynai am ei gwr, a dywedodd hithau ei fod yn gweithio yn y chwarel, a'i fod yn ddi-grefydd. Gweddiodd yn daer drosto wrth ei enw, yn y diwedd. Odfa 10 oedd hon. Mewn capel arall, am 2, derbyniodd wr y wraig hon. Wrth ei holi, daeth Mr. Morgan i ddeall mai ar yr adeg yr oedd ef yn gweddio drosto, y teimlodd ryw dddylanwad gorchfygol arno yn y chwarel, fel y gwelodd fod yn rhaid iddo fyned i'r odfa. Dywedodd y diwygiwr wrtho am ei wraig wrth ei henw, a'i fod wedi ei derbyn hithau yn yr odfa 10. "Pan gyfarfyddwch a'ch gilydd," meddai, "bydd yno orfoledd mawr, a'r ty yn wahanol iawn i'r peth y gadawsoch ef. Gadawsoch ef yn dy heb dô, ond bydd iachawdwriaeth ynddo o hyn allan." Derbyniodd ddwy wraig yn Penparcau, Aberystwyth, y rhai yr oedd eu gwyr ar y môr. Ymhen misoedd ar ol hyny, derbyniai wr i un o honynt yn y Tabernacl; ac wedi gofyn i'r dyn yn fanwl pa bryd y daeth y peth ar ei feddwl am grefydd, dywedodd pan oedd ar ganol y Pacific Ocean, y pryd a'r pryd. Gwnaed ymchwiliad, a gwelwyd mai pan oedd Mr. Morgan, yn Penparcau, yn gweddio drosto yr oedd Ysbryd Duw yn ymryson â meddwl y dyn, ac heb ei adael nes iddo ddyfod adref i roddi ei hunan i bobl Dduw. Yn Morganwg, yr oedd yn derbyn gwraig i'r eglwys, ac yn ei holi ynghylch ei gwr. Cafwyd ar ddeall mai Twm y Bwli oedd yr enw adnabyddus arno. Gweddiodd yn daer iawn dros Twm, ac yr oedd pawb yno yn cyd-weddio. Yn un o'r odfaon nesaf, yr oedd hwn eto, yn ei ddillad gwaith, a'i lestri bwyd a diod o'i gylch, ac yn ddu fel y fran, yn ymofyn am le yn nhy Dduw, gan ddweyd iddo. deimlo rhywbeth rhyfedd yn gwasgu ar ei feddwl pan yn y gwaith dan y ddaear; a hono, eto, oedd adeg y weddi drosto yn y capel o'r blaen. Pan oedd Mr. Morgan yno ar ol hyn, gofynwyd am iddo ddyfod i ryw dy. A gofynodd y dyn a oedd yn ei adwaen ef. Dywedodd nad oedd. Hysbysodd y dyn mai Twm y Bwli ydoedd, ac yr oedd ef a'i dy yn werth cael golwg arnynt, gan mor drwsiadus oeddynt.

Dyna David Morgan, a dyna gampwaith ei fywyd. Ar ol hyn nid oes cystal pethau i'w hadrodd am dano. Mae tair ystyriaeth yn dyfod i'n meddwl wrth fyfyrio ar ei fywyd ar ol y diwygiad. 1. Dyma ddyn sydd wedi enwogi ei hun fel diwygiwr. Rhyw un gwaith mawr y mae y rhan fwyaf o'r dynion goreu wedi ei gyflawni, ac wedi cyflawni hwnw ar ryw gyfnod arbenig o'u bywyd. Mae llawer yn byw a marw heb enwogi eu hunain mewn dim, ïe, a llawer o bregethwyr felly. Ond y mae ef wedi enwogi ei hun, ac wedi gwneyd hyny gydag un o'r pethau goreu y gellir meddwl am dano. Rhoddai dynion mawr lawer o'u pethau goreu o'r neilldu, pe gallent fod yn fawr fel diwygwyr crefyddol,-bod yn central figure mewn diwygiad crefyddol ymha un yr achubwyd miloedd o eneidiau. 2. Dyma ddyn sydd wedi ymddibynu gormod ar gynhyrfiadau crefyddol fel cyfryngau defnyddioldeb. Gan mai ambell waith, rhyw unwaith mewn oes, y mae diwygiadau yn cymeryd lle, mae y neb a ymddiriedo ormod ynddynt yn sicr o syrthio i ddinodedd ar adegau eraill. Cafodd ef ddiwygiad nerthol i'w godi i safle grefyddol o ddefnyddioldeb, a chafodd un arall i'w godi yn brif oleuad yr oes hono; ond nid oedd wedi ymroddi digon i fod yn ddefnyddiol yn annibynol ar ddiwygiadau. 3. Dyma ddyn a defnyddiau ynddo i gynhyrfu y byd. Mae ei olwg yn sicrhau hyny. Os na chaiff ddiwygiad at hyny, gwna ef gynhyrfu trwy bethau eraill, a rhai o honynt yn bethau pur chwithig.

Da genym allu dweyd fod ei feddwl yn dyfod i naws mwy nefolaidd yn agos i ddiwedd ei oes. Dywedai fod ei ffydd yn dyfod yn gryfach bob dydd fod yr Arglwydd eto ar ymweled a'i bobl. Mae hyny yn profi ei fod yn dal i edrych am arwyddion o'r peth mawr yr oedd ef yn fawr ynddo, ac yr ymddengys iddo gael ei fodolaeth er ei fwyn. Priododd â merch i'r Parch, Evan Evans, Aberffrwd. Mab iddo ef yw y Parch. J. J. Morgan, Pontfaen, Morganwg, yr hwn sydd yn wr ieuanc gobeithiol. Bu Mr. Morgan yn pregethu am oddeutu 40 mlynedd, a chafodd ei ordeinio yn 1857, yn Nghymdeithasfa Trefin.


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Ebenezer Morris
ar Wicipedia

PARCH. EBENEZER MORRIS, TWRGWYN.

Mab ydoedd i'r Parch. David Morris, o'r un lle; a ganwyd ef yn 1769, cyn i'w dad ddyfod o Lledrod, ar alwad eglwys Twrgwyn. Wedi symud yma, cafodd fyned i Ysgol Ramadegol, yr hon a gedwid gan offeiriad o'r enw Daniel Davies, yn Troedyraur. Gan ei fod wedi cael ysgol yn fwy na'r cyffredin, trwy ryw foddion cafodd alwad i gadw ysgol i Trecastell, Sir Frycheiniog. Tra yno y cafodd ei argyhoeddi trwy bregeth cynghorwr o'r enw Dafydd William Rhys, a daeth yn grefyddwr mor ymroddedig, fel y cynghorwyd ef i ddechreu pregethu, a hyny a wnaeth yn 1788, pan nad oedd ond 19eg oed. Gan nad oedd rheolau wedi eu gwneyd y pryd hwnw i bregethwyr, gyda golwg ar aros yn y sir, a myned allan o'r sir i bregethu, ar ol iddynt ddechreu, yr ydym yn cael iddo ef fyned ar daith i'r Gogledd gyda'r efengylydd enwog Dafydd Parry, Llanwrtyd, yn fuan wedi dechreu pregethu. Gan i'w dad farw yn 1791, daeth adref i Penffos, at ei fam i aros. Yn 1792, priododd â Miss Mary Jones, Dinas, yn agos i Salem. Gan ei bod yn ferch gyfoethog, fel merch mabwysiedig ei hewythr, digiodd hwnw yn aruthr wrthi am gymeryd dyn nad oedd ganddo ond ei. geffyl a'i gyfrwy. Felly gorfu arni fyned i Benffos heb ddim, a rhoddodd ei hewythr yr eiddo i frawd iddi, sef David Jones, Ysw., blaenor cyntaf Salem. Bu hwnw mor garedig a rhoddi swm mawr o arian i Mrs. Morris, ei chwaer, â pha rai y prynwyd tir, ac yr adeiladwyd Blaenwern, yn 1802, lle y bu y ddau byw am y gweddill o'u hoes, a'r lle y buont feirw mewn tangnefedd.

Pan ar ymweliad a'i dad, aethant gyda'u gilydd i Gastellnewydd, ar neges, a'r noswaith hono, ar gais taer y gymydogaeth, yr oedd. Eben wedi addaw pregethu yn nhŷ fferm Troedyraur. Wrth ddyfod yn ol o'r dref, dywedodd ei dad wrtho yr aethai ef adref, rhag iddo fod yn un rhwystr iddo ef. Nid aeth ond prin dros y golwg, a mynodd fod o fewn cyfleusdra i glywed ei fab, yr hwn a bregethodd allan ar yr horse-block, a'i lais yn treiddio trwy yr holl ddyffryn. Ar ol ei glywed, dywedai ei dad, na fyddai i'r efengyl adael y wlad tra y byddai Eben, ei fab, byw. Mae yn hynod i'r pregethwr rhyfedd hwn gael ei godi gan yr Arglwydd erbyn yr adeg yr oedd i alw Mr. Rowlands, Llangeitho, i'r nefoedd. Er fod lliaws o bregethwyr yn dyfod i Langeitho erbyn y Sabbath cymundeb, ni ddewisid ond y rhai goreu o'u mysg i bregethu am dri o'r gloch, y Sadwrn cyn hyny, ar ol i Mr. Rowlands bregethu am ddeuddeg. A'r Sadwrn cyn y Sul olaf y bu Mr. Rowlands yn pregethu, Mr. Morris fu yn pregethu prydnhawn, er nad oedd eto ond dwy flwydd oed o bregethwr. Y dydd Sadwrn canlynol, yr oedd yr efengylydd o Langeitho yn marw, ac y mae y cydgyfarfyddiad yn arwyddol iawn—y pregethwr mwyaf yn Nghymru yn marw, ac ychydig ddyddiau cyn ei farw, pregethwr mwyaf Cymru ar ei ol yn pregethu yn ei gapel am y tro cyntaf. Nid oedd ond dau bregethwr hynod yn y sir pan ddaeth Mr. Morris yma o Brycheiniog, sef Mr. Williams, Lledrod, a Mr. Gray, Abermeurig; yr oedd Mr. Thomas, Aberteifi, heb ddechreu.

Wedi ymsefydlu yn Twrgwyn, cafodd ei alw i gymeryd gofal yr eglwysi ag oedd dan ofal ei dad cyn hyny, sef Twrgwyn, a'r eglwysi a alwyd wedi hyny, Blaenanerch, Penmorfa, Pensarn, &c. Mae yr hanesion canlynol am dano yn profi y meddwl uchel oedd gan bawb am dano. Unwaith pan oedd yn Blaenanerch, ar ddydd o'r wythnos, cauodd eira ei ffordd adref, fel nad oedd dim i wneyd ond aros lle yr oedd, na wyddid dim hyd ba bryd. Ond penderfynodd y bobl agor yr holl ffordd iddo, ac aeth rhywun dewr i ardaloedd Twrgwyn i orchymyn rhai yno hefyd at y gwaith, fel y cyfarfyddodd y ddau gwmni i gyfarch eu gilydd ymhen ychydig o amser, a chafodd yntau ffordd agored i fyned adref rhwng muriau yr ôd. Pan alwyd arno i lys barn, ceisiwyd ganddo wneyd ffurf o lw ar y Beibl, ond ataliwyd ef trwy i'r barnwr ddweyd, "Mae ei dystiolaeth ef yn ddigon" Byddai W. Lewis, Ysw, Llysnewydd, un o'r boneddigion goreu yn y wlad, a gair mawr ganddo iddo; a phan yn ei gyfarfod unwaith, dywedodd wrtho, "Dylem ni fod yn ddiolchgar i chwi am y gwaith mawr ydych yn wneyd yn y wlad, yr ydych yn fwy o werth na dwsin o honom ni, yr Ustusiaid." Boneddwr arall yn dweyd y gwnaethai ef ei oreu gyda Chymanfa Capel Newydd, Sir Benfro, ond iddo gael clywed Eben Morris am ddeg o'r gloch, a chafodd ef. Pregethodd oddiar y geiriau, "Ffordd y cyfiawn sydd fel y goleuni," &c., a chyfrifid fod o gant i chwech ugain wedi cael eu hargyhoeddi trwyddi, a'r gŵr bonheddig yn eu plith wedi ei syfrdanu. Torodd yn floedd trwy y dyrfa, pan drodd yn y diwedd at ffordd y drygionus, a dweyd, "Llwybr yn tywyllu, tywyllu, tywyllu, fwyfwy hyd ganol nos! Mae yma ddynion yn myn'd i wlad yr haner nos. O! Dduw, rhagflaena'u haflwydd ar frys! O! bobl, ystyriwch eich ffyrdd! Ystyriwch eich ffyrdd !"

Yr oedd yn llon'd pulpud o bregethwr ymhob ystyr. Yr oedd yn dew iawn o gorff, y tewaf o bregethwyr a feddai y Cyfundeb; ond nid oedd yntau mor dewed a'i dad. Yr oedd golwg foneddigaidd, ddewr, a hardd dros ben arno, yn sefyll yn syth, yn hollol naturiol, ac yn un y gallai pawb gredu nad oedd ofn neb arno, ond ei fod yn falch o gael dweyd gair dros Dduw wrth y dyrfa fawr oedd o'i flaen. Yr oedd ganddo bethau, fel y dywedir, bob amser yn ei bregethau. Yr oedd yn meddu ar synwyr cryf a barn dda, ac yn ymadroddwr o'r fath oreu. Ac i wella yr oll, ac yn fantais i wneyd y goreu o honynt, yr oedd ei lais gyda'r cryfaf, y cliriaf, a mwyaf clochaidd a feddai Cymru. Y Parch. Evan Evans, yr Aber, a ddywedai ei fod ef wrth fugeilio praidd ei dad, dair milldir o Aberystwyth, yn clywed Mr. Morris yn pregethu allan yn y Gymanfa, ac yn gallu deall ambell i air yn y bloeddiadau uchel, pan y byddai yr awel yn fanteisiol. Yr oedd yn rhaid ei gael ef i bregethu yn Nghymanfa ei sir ei hun, gan mor enwog ydoedd. Mae son byth am ei bregeth yn Trecastell, ar y geiriau, "I'm gogoniant y creais ef, y lluniais ef, ac y gwnaethum ef." Pan yn ei phregethu ar y ffordd yno, nid oedd yr hen flaenor, Owen Enos, oedd gydag ef, yn gweled dim yn hynod ynddi fel ag i fod yn bregeth Cymanfa, a diflasodd yn fawr pan y clywodd y testyn, gan feddwl na fyddai fawr lewyrch ar yr odfa. Yr oedd yn taflu goleuni rhyfedd ar y creu yn yr ail eni, y llunio yn y sancteiddhad, a'r gwneuthur yn ngorpheniad y gwaith, ac ambell flachiad disymwth fel mellten yn tywynu weithiau, nes y byddai yr holl dorf yn ymwylltio. Ac o'r diwedd, dyma yr ystorm o fellt a tharanau, fel yn syth uwchben, ac yn yr ymyl, a'r gwlaw mawr yn ymdywallt, ac yntau ar uchder ei lais yn gwaeddi, "I'm gogoniant, gogoniant, gogoniant," a'r bloeddiadau yn uwch, uwch, o hyd, Yr oedd yr hen flaenor, Mr. Watkins, yn dweyd, nad aeth yr un cerbyd dieithr heibio neb aros, a bod y cwbl yn y dref wedi sefyll; ac na wyddai ef ddim pa nifer o'r dynion oedd yn pasio mewn cerbydau, ac o'r dynion gwamal yn y dref, ac ar lechweddi y mynyddoedd o gwmpas, gafodd eu hargyhoeddi; ond bod hanes i ugeiniau oedd yn y dyrfa ac ar y cae, gael eu dwysbigo. Gofynodd wrth ddyfod o'r cae, i Owen, beth oedd yn feddwl am y bregeth fach. "Anghyffredin," meddai yntau. "Ofnais yn fawr pan glywais y testyn, mai odfa wael a gawsech." "Ysgwyd y blwch yr oeddwn ar y ffordd," meddai Mr. Morris, "yma yr oeddwn yn ei dori."

Pethau rhyfedd fel yna sydd yn cael eu dweyd am dano yn Nghymdeithasfaoedd Caernarfon, Pwllheli, Bala, a lleoedd eraill; a phethau llawn mor ryfedd a adroddir am dano mewn odfaon oddeutu cartref, mewn angladdau, mewn priodasau, ac wrth launchio llongau, ond gadawn yr oll. Nid oedd ei fath hefyd am wastadhau cwerylon mewn eglwysi; yr oedd pawb a chymaint o barch iddo, a chymaint o bwys yn cael ei roddi ar ei air ymhob peth, fel y byddai pawb yn rhoddi ffordd i'r hyn a ddywedai. Daeth felly yn y Cymdeithasfaoedd pan nad oedd ond 30ain oed, a hyny yn nghanol yr holl offeiriaid fyddai yn rheoli ynddynt ar y pryd. Peth rhagluniaethol oedd fod ei fath ef yn y Cyfundeb yn amser chwyldroad yr ordeinio. Yr oedd llygaid pawb arno ef, a gwelent yr afresymoldeb o fod y pregethwr goreu o bawb heb hawl ganddo i weinyddu yr ordinhadau o Fedydd a Swper yr Arglwydd. Pan ofynodd ef i Mr. Charles, yn Nghymanfa y Bala, "Pa un fwyaf, a'i pregethu yr efengyl a'i gweinyddu yr ordinhadau?" cafodd yr holl dyrfa i fod yn wresog o'i blaid, pan y gorfu ar Mr. Charles ateb mai pregethu oedd fwyaf. A'r Gymanfa hon, gan mwyaf, benderfynodd yr achos. Digiodd yr offeiriaid a'r Eglwyswyr yn fawr wrtho, gan y gwyddent, pe byddai ef yn erbyn, na feiddiai neb ddadleu drosto yn ei amser ef. Yr oedd yr holl wlad yn ei law, a theimlent fod awdurdod yn ei bresenoldeb a'i leferydd. Ac i ni ystyried hyn, yr ydym yn gweled fod rheswm yn yr hyn a ddy. wedir yn gyffredin, mai o achos ei fod ef yn erbyn codi capelau, y collodd y Methodistiaid y rhan fwyaf o waelod Sir Aberteifi. Gall pawb farnu, os oedd ef yn erbyn, nad yw yn rhyfedd fod godreu y sir mor deneu o Fethodistiaid, gan na feiddiai neb ymladd â'r fath gawr. Dywedir ei fod yn eithafol o wrthwynebol i ddau beth pwysig, sef yn erbyn i neb ond plant fod yn yr Ysgol Sul, a hyny fyddai raid i'w dysgu; ac yn erbyn codi ychwaneg o gapelau. Mae genym eithaf digon o gapelau," meddai, "eisiau arbed eu cyrff sydd ar y bobl; ac os ewch i wrando arnynt, cyll yr efengyl ei dylanwad ar y wlad."

Y rheswm maw dros y gwrthwynebiad hwn ynddo oedd, mai pregethwr ydoedd, a dim ond pregethwr. Oblegid hyny, mynai i bob cyfarfod fod yn ddarostyngedig i'r bregeth. "Bydd dau," meddai, "yn ddigon i fod yn yr ysgol gyda'r plant, dewch chwi i gyd i Blaenanerch, neu Twrgwyn," lle bynag y byddai y bregeth. Gwelid peth anghysondeb ynddo yntau, gan y gwelai angenrheidrwydd i bregethu mewn anedd-dai rhwng y capelau hyn, ac yr oedd yn gwneyd hyny yn bur aml; ond pan sonid wrtho fod yno ddigon o gynulleidfa i godi capel, dywedai na penderfynol, ac na ddylid rhoddi ffordd i ddiogi. Yr oedd ef yn ddiwygiwr rhanol, mor bell ag yr oedd eisiau pregethwr rhagorol i godi y wlad i wrando yr efengyl, ac i argyhoeddi ac ail eni pobl wedi eu cael at eu gilydd, yr oedd ef yn un o'r goreuon i gyraedd yr amcan hwnw; ond ni fynai gario y diwygiad yn mhellach. Gweithiai yn dda mor bell ag y mynai ef fyned, ond ni fynai berffeithio yr hyn a ddechreuodd. Yr hyn welai pobl eraill yn ddiwygiad, ni welai ef ynddo ond difaterwch ysbrydol gyda'r efengyl, a diffyg awydd i'w mwynhau. Pe buasai ef byw o hyd, dichon y gallai gyda'i ddylanwad mawr, gadw y wlad iddo ei hun; ond gan iddo fyned, a myned mor gynar ar ei fywyd, gwnaeth lawer i gadw y wlad oddiwrth y Methodistiaid ar ol ei ddydd. Nid oedd ef yn bwriadu hyny, ond hyny fu canlyniad y cwrs a gymerodd. Yr oedd ef â'r udgorn arian yn gallu galw y dynion ynghyd i'r lle, ac ar yr amser a fynai; ond yr oedd rhyw Jerusalem ganddo ef fel lle y gwyliau arbenig, a'r gynulleidfa reolaidd. Pa fodd bynag, yr oedd pregethwyr yn y wlad nad oeddynt amgen na cheiliogod rhedyn yn ei ymyl ef fel pregethwyr, yn dal sylw ar ei holl symudiadau, ac yn gweled pa le yr oedd dynion. A gwelai y cyfryw na allent byth hynodi eu hunain, fel efe, ond mynent hwythau wneyd a allent a gweithient mewn distawrwydd a dinodedd y pethau oeddynt yn weled yn ddiffygiol yn ei ddiwygiad ef, a darfu iddynt lwyddo. Cododd ef y bobl mor bell ag i gael blas ar yr efengyl, a phe buasai yn gweled ychydig yn mhellach, gallasai, hefyd, yr un mor rwydd, wneyd cartrefi gwastadol iddynt i'w mwynhau.

Ymollwng a wnaeth ei gyfansoddiad yntau, fel un yr Eben arall yn Nhregaron, dan feichiau trwmlwythog gwaith. Dywedir nad oedd ond dydd Llun a dydd Sadwrn ganddo heb bregethu a chadw seiat pan y byddai gartref, heblaw yr holl gyfarfodydd cyhoeddus y byddai yn myned iddynt yn y De a'r Gogledd. Cyfarfyddodd hefyd â rhai ystormydd geirwon ar ei daith. Ar y 18fed o Awst, 1819, yr oedd David, ei fab hynaf, yr hwn oedd ar y pryd yn arolygwr masnachdy enwog Mrs. Foulkes, Machynlleth, ac ar bwynt priodi, yn ymdrochi yn yr afon Ddyfi, gerllaw y dref, a boddodd, pan yn 27 oed. Yn Sasiwn Llangeitho, yr oedd Mr. Morris pan dderbyniodd y newydd. Pan aeth a chorff ei fab adref i'w gladdu yn Troedyraur, dywedodd wrth Mrs. Morris, "Gobeithio, Mary fach, na chawsoch eich gadael i ddweyd dim yn galed am yr Arglwydd." Pan bregethodd gyntaf ar ol hyny yn Twrgwyn, rhoes y penill canlynol i'w ganu yn y diwedd:

"Ac ni fyddai'n hir cyn gorphen,
Ddim yn hir cyn glanio fry;
Pob addewid, pob bygythiad,
Pob gorchymyn sydd o'm tu:
Nid y dyfnder fydd fy nhrigfan,
Gwn y deuaf yn y man,
'Nol fy ngolchi gan y tonau,
Yn ddihangol byth i'r lan.

Gan fod cyfeiriad yn y penill at y "dyfnder" a'r "tonau," a'i fod yntau ymron yn methu ei roddi allan gan ei deimlad, cafodd effaith annesgrifiadwy ar y dyrfa. Gwnaeth yr ergyd ei hôl arno am y gweddill byr o'i oes. Y flwyddyn y bu farw, aeth y drydedd waith yn ei fywyd i wasanaethu yr achos Cymreig yn Llundain, lle yr arhosodd hyd ar ol gwyliau y Pasg. Yn y Gymanfa, yr oedd John Elias ac yntau yn pregethu nos Lun y Pasg, a'r ddau yn eu hwyliau goreu. "Am hyny yr annuwiolion ni safant yn y farn," oedd testyn Mr. Elias, ac yntau ar ei ol oddiar Luc x. 34, "Ac a'i dug i'r llety, ac a'i hymgeleddodd." Yr oedd llawer yn ofni na allai wneyd dim â'r fath destyn fyddai yn ateb i bregeth ragorol y gwr mawr o Fon. Ond buan y cafodd pawb weled fod yr "Ysbryd yn weddill" ar gyfer y bregeth arall. Dangosodd Mr. Morris ragoroldeb eglwys Dduw fel llety, a bod yn rhaid i ddyn wrth y fath lety, neu fod allan heb ymgeledd. Cydiodd yn y gair gwlawio " yr oedd ei frawd yn cyfeirio ato, a gwaeddai, " Y mae'r nos yn dyfod, a'r gwlaw mawr ar ymdywallt, a oes genych lety ? Mae llawer o honoch yn agos, ond byddwch dan y bargod os nad ewch i fewn. Llety llety! llety!" Teimlai y gynulleidfa gyda'r bloeddiadau fel pe buasai daeargryn yn ysgwyd y lle. Daeth llawer yno i'r eglwys mewn canlyniad, ac i gyd yn tystio mai pregeth y llety oedd wedi eu darbwyllo i ddyfod. Ar ol dyfod adref, diflasodd llawer wrth weled mor llesg yr ymddangosai. Ni phregethodd ond teirgwaith neu bedair wedi dyfod adref. Yn ei gystudd dywedai, "Os allan o waith, allan o'r byd." "Fy nymuniad penaf yn awr yw, cael fy natod a bod gyda Christ." Galwodd Mrs. Morris ato, a dywedodd ei fod wedi bod gyda Llwyd o Gaio, a Jones, Llangan, a melus iawn oedd eu cwmni. "Ni fu neb erioed yn hoffach o'i deulu a'i wlad, ond wedi gweled gogoniant y wlad nefol, nid oes genyf ymlyniad wrth ddim sydd yma, na dymuniad am gael aros yn y corff. Yn awr mi a'i gwelaf! O! wlad ryfedd! O! y fath fwynhad wyf yn ei brofi? ïe, yn loesion angau." Wedi cael y fath olwg ar sancteiddrwydd y wlad, gwaeddai, "Pa le y mae'r Ysbryd Glân? pa y le mae'r Ysbryd Glân?" a bu farw gan ddweyd, "O! Ysbryd Glân," Awst 15fed, 1825, a chladdwyd ef yn mynwent Troedyraur.

O

PARCH. ABRAHAM OLIVER, LLANDDEWIBREFI.

Brodor ydoedd o ardal Pontarfynach. Yr oedd a'r Parch. David Oliver, Twrgwyn, yn efeilliaid, a hyny mewn amryw ystyr- iaethau, yn naturiol trwy fod yr un oedran, yn cyd-grefydda, yn dechreu pregethu yr un pryd, sef yn 1855, ac yn cael eu hordeinio yr un pryd, sef yn 1862, yn Nghymdeithasfa Llanbedr. Yr ydym yn cofio y ddau yn cyd-wrando yn yr un côr yn Nghapel Trisant, ac yn ymddangos y ddau flodeuyn harddaf yn y lle. Yr oeddynt felly o ran golwg naturiol, ac felly o ran eu gwybodaeth a'u defnyddioldeb. A sonid am danynt fel rhai oedd yn meddu cymwysderau i bregethu. Ni chafodd Mr. Oliver lawer o fanteision addysg pan yn ieuanc; ond yr oedd ef a'i frawd yn gweithio ar fferm eu tad, ac yn cael ambell i chwarter o ysgol y gauaf. Yr Ysgol Sabbothol fu eu hathrofa fawr hwy, ac mewn cysylltiad â hon y tynwyd eu galluoedd allan gyntaf, ac y codwyd syched ynddynt am wybodaeth Feiblaidd a duwinyddol. Y cyfarfodydd eraill ddarfu eu tyru allan oedd y rhai dirwestol. Buont am flynyddoedd y rhai tanbeidiaf gyda'r rhai hyn. Yr oedd yno hefyd gyfarfodydd tebyg i'r dosbarthiadau Beiblaidd sydd yn awr, a bu y rhai hyny o fantais fawr i'r ddau yn yr ystyriaethau a nodwyd. Yr ydym yn cael i Abraham Oliver fyned i'r ysgol i Aberystwyth pan o'r 18 i'r 20 oed, a dysgodd ddigon yno i'w alluogi i gadw ysgol ddyddiol i ddysgu plant yr ardal. Bu felly yn cadw ysgol yn ei gapel ei hun, sef Trisant. Gellid disgwyl rhywbeth tebyg, gan ei fod yn ŵyr o du ei fam i'r hen ysgolfeistr enwog a'r hen flaenor galluog David Peters. Pan oddeutu 27 oed, dechreuodd bregethu. Yr oedd pawb yn gwybod am ei gymwysderau i lefaru o'r blaen, o'r rhai oedd wedi ei glywed yn areithio gyda Dirwest a'r Ysgol Sabbothol, ac ni chawsant eu siomi ynddo wedi iddo esgyn y pulpud. Yr oedd ei bregethau am oddeutu dwy flynedd, yn hynod o athrawiaethol; ond yn fuan, torodd y diwygiad allan, a chafodd yntau gyfranogi yn helaeth o hono, fel y daeth ei bregethau yn fwy agos ac ymarferol.

Yr oedd yn bregethwr da; ond yr oedd ynddo ef ddefnyddiau i wneyd ei ddefnyddioldeb yn llawer mwy na thrwy bregethu yn unig, sef trwy gymeryd gofal cyffredinol am achos Iesu Grist. Yr oedd yn meddu ar allu neillduol i adnabod dynion, ac adnabod y modd goreu i ymlwybro ymlaen gyda rhanau allanol ac ysbrydol yr achos. Daeth yr eglwysi i ddeall hyn, a gwnaethant ddangos hyny trwy ei alw i fod yn fugail. Bu am beth amser felly yn Ponterwyd, yn agos i'w le genedigol. Yn 1861, galwyd ef gan eglwys Bethesda, Llanddewibrefi, a bu yma hyd ei alwad oddiwrth ei waith at ei wobr. Yr oedd yma lawer o berthynasau o du ei fam. Yr oedd ei dadcu, D. Peters, yn un o flaenoriaid cyntaf yr eglwys, ac yn un o ragorolion y ddaear. Yr oedd Mr. Oliver hefyd wedi cael odfaon rhyfedd yn y lle yn amser y diwygiad, gyda'r rhai mwyaf grymus a gafwyd yno. Yr oedd yma lawer hefyd yn gwybod am ragoroldeb Mr. Oliver fel dyn, ac fel un o lafurus gariad fel Cristion a phregethwr. Ac ni siomwyd neb ynddo. Ni fugail ac eglwys erioed yn adnabod eu gilydd yn well, ac yn mawrygu y naill y llall yn fwy. Bu ei fugeiliaeth am 22 mlynedd yn ysbaid didor o lwyddiant, a hyny bron ymhob ystyr. Nodwn bellach rai o'i ragoriaethau fel pregethwr a bugail.

Yr oedd yn bregethwr Ysgrythyrol ac athrawiaethol, ac nid peth bychan yw hyny yn yr oes hon. Fel y dywedwyd, daeth yn fwy ymarferol ar ol y diwygiad; ond yr athrawiaethol oedd nodwedd ei bregethu trwy ei oes. Gellir dweyd ei fod yn deall yr athrawiaeth; dadleuai y rhan fwyaf i dywyllwch dudew, pa faint bynag fyddai eu gallu, ond iddynt ddal at y pwnc. Ac os na ddalient at y pwnc, nid oedd neb a fedrai ganfod hyny yn gynt nag ef, gan ei fod yn deall maes cyfreithlon yr athrawiaeth mor dda. anhawdd cael neb i holi ysgol gystal ag ef. Medrai y Beibl, a medrai arwain y bobl mor hyfryd, fel nad oedd neb yn blino arno. Yr oedd yn ffafrddyn yr ysgolion pa le bynag y byddai. Nid oedd yn boblogaidd fel pregethwr, er ei fod yn dda; ond yr oedd yn boblogaidd ac yn dda fel holwr ysgol.

Yr oedd yn ddyn di-dderbyn-wyneb. Nid oedd yn boddloni yr eglwys fel bugail trwy ganmol pawb yn eu hwyneb, a gadael i ddrwgweithredwyr ddianc yn ddigerydd rhag ofn eu tramgwyddo, ac iddo yntau trwy hyny golli ei barch yn eu golwg; na, yr oedd yn arswyd i weithredwyr anwiredd, a phroffeswyr dioglyd a therfysglyd. Yr oedd golwg ofnadwy ar ei lygaid duon, o dan aeliau hirion a hynod, pan yn ceryddu. Os byddai y drwgweithredwr yn gwneyd ymgais i fychanu ei fai, ac yn enwedig, os yn ymgais at feia eraill, gwnelai ddefnydd o'i lais cryf, ei eiriau llym, a'i olwg llewaidd dychrynllyd, er argyhoeddi y dyn, nes y byddai yn dda ganddo gael tewi ac eistedd i lawr, a chymeryd y wialen, os caffai lonydd ar hyny. Ni fedrai terfysgwyr gael eu ffordd os byddai ef gerllaw. Yr oedd hyn yn un o'i brif ragoriaethau, sef cael allan a thrin y gwreiddyn chwerwedd," a'r un fyddai mewn "bustl chwerwder a rhwymedigaeth anwiredd." Ac felly yr oedd yn llwyddianus i gadw amddiffyn dros heddwch yr eglwys.

Yr oedd yn weithiwr caled. Nid ychydig o waith yw ymweled â chynulleidfa fel un Llanddewibrefi, sydd yn ymledu dros filldiroedd o gwmpas, a hyny lawer i fynyddoedd uchel a chymoedd anghysbell. Ond nid oedd ef yn ymfoddloni ar fyw hamddenol yn yn ei dŷ, pan y gwelai fod angen ymweled â chlaf, neu weddw ac amddifaid, neu esgeuluswr, neu un wedi ei oddiweddyd gan ryw fai. Elai, fel ei Feistr, i'r anialwch ar ol y golledig, y lesg, a'r helbulus. Ymgymerodd â bod yn fugail hefyd yn Saron, y tu arall i'r mynydd, yn Sir Gaerfyrddin; a phwy ond yr un yn meddu ar ei ddewrder ef a anturiai wneyd hyny, a chroesi yr holl fynyddoedd ar bob math o dywydd. Bu ef fel hyn yn fugail mynydd am flynyddoedd lawer, ac yn gymwys i fod yn fugail y gwastadedd yr un pryd. Os meddyliai o ddifrif am rywbeth, ei fynu yn y diwedd fyddai y canlyniad. Mynodd yr hen gapel-ysgoldy yn ol oddiwrth Eglwys Loegr, wedi bod yn feddiant anghyfreithlawn iddi am flynyddoedd lawer. Mynodd adeiladu yr ysgoldy mawr sydd rhwng y capel presenol a glan yr afon, a chadw meddiant ynddo, pan oedd cymaint o elyniaeth ato, ac awydd am ei wneyd yn beth anghyfreithlon. A dyna y capel mawr eang a phrydferth sydd yno, mynodd gael hwnw, a gweled ei orphen cyn ei ymadawiad. Ac ar ol cael yr holl bethau hyn i drefn, a gorpheniad tawel a sefydlog, galwyd ef i noswylio. Yn hawdd y gallai fforddio hyny, gan ei fod wedi llwyddo i godi cofgolofnau oesol iddo ei hun yn y lle, yn y diwrnod byr a gafodd i weithio. Yr oedd yno filoedd yn synu, yn wylo, yn hiraethu, wrth edrych ar y rhai hyn ddiwrnod ei angladd.

Yr oedd yn drefniedydd da. Mae y pethau a nodwyd yn ddigon i brofi hyn. Yn ychwanegol atynt, yr oedd ef yn cymeryd rhan flaenllaw yn holl drefniadau ei Gyfarfod Misol. Gyfarfod Misol. Yr oedd yn dyfod iddo yn bur gyson, ac yn ffyddlon i weithio allan ei gynlluniau. Yr oedd ganddo ddigon o ffydd yn yr efengyl a'i chysylltiadau, fel yr oedd yn bleser cyd-weithio ag ef. Yr oedd bob amser yn llawen, ac yn llawn yni a gweithgarwch. Os byddai anhawsdra yn ymddangos ar y gorwel, yn lle ei fwyhau, ei fychanu a phrofi y posibilrwydd o'i orchfygu y byddai ef.

Yn fuan wedi ymsefydlu yma, priododd Miss Ellen Evans, Talwrn, Penrhiw, Trawsnant, yr hon sydd wedi ei or-oesi, ac yn byw yn y Neuadd, y fferm fechan lle y bu ef farw, Chwefror 6ed, 1882. Ymaflodd yr inflammation ynddo y Sabbath pan yn Llanilar, ac ymhen yr wythnos bu farw, yn 54 oed, wedi bod yn pregethu am 27 mlynedd. Claddwyd ef yn mynwent capel Tregaron.

Y PARCH. JOHN OWENS, CAPEL FFYNON.

Mab ydoedd i John Caleb, Frondeg, Cilfachrheda, rhwng Llanarth a Ceinewydd. Yma y ganwyd ef oddeutu y flwyddyn 1816, ac yma y treuliodd ddyddiau mebyd ac ieuenctid. Yr oedd y Calebiaid, o ba rai yr hanodd, yn ddynion tal o gorff, garw o bryd, tenau o gnawd, a gwresog o ysbryd. Yr oedd yntau oddeutu dwy lath o daldra, yn sefyll a'i ysgwydd ymlaen wrth gerdded, a'i ben bob amser i lawr tua'r ddaear. Gwallt rhyddgoch cyrliog, aeliau hirion, a'r llygaid i fewn ymhell o danynt. Pan godai ei ben i edrych, yr oedd golwg ryfedd arno, megis pe buasai yn cael ei flino yn fawr gan gystudd corff neu ofid meddwl. Ond pan welai gyfaill, yr oedd yn hawdd adnabod, oddiwrth ei wên serchog a'i gyfarchiad gwresog, mai cyfaill cywir a diddan oedd yntau. Yr oedd o dymer wyllt a phoethlyd. Bob amser pan y gweithiai, y cerddai, ac y pregethai, yr oedd chwys yn ddyferynau breision yn treiglo dros ei ruddiau.

Yr oedd o ysbryd anturiaethus iawn. Yn ddyn ieuanc ymgymerodd â factory gwaith gwlân gwlad, a dangosodd gymaint o allu celfyddydol gyda hono nes synu pawb. Tynodd y wlad ato, a gwnaeth lawer o arian trwy yr anturiaeth hon. Daeth i ddeall fod arwyddion mŵn glo yn Cwm Cilfachrheda; ac wedi cloddio am gryn amser, clywid bloedd orfoleddus ryw ddiwrnod, oblegid fod darn mawr o'r mŵn gwerthfawr wedi ei gael. Pa fodd bynag, troi yn fethiant wnaeth yr anturiaeth hon. Y symudiad nesaf o'i eiddo oedd cymeryd rhan mewn amryw o longau, yr hyn a drodd allan yn llwyddiant mawr am flynyddoedd. Bu yr ymdrechion hyn yn ffynonellau llawer o bleser a gofid iddo, a gwnaethant eangu ei wybodaeth a'i brofiad yn fawr. Yr oedd yn mynu deall bron y cwbl am bob peth yr oedd ganddo law ynddo,—peirianau a gwaith y llaw—weithfa wlân, gwaith y mwnwr, a morwriaeth. Pan yn talu ymweliad a gwahanol weithfeydd, ac yn siarad am longau, yr oedd pawb yn synu at ei wybodaeth o honynt, a'r dyddordeb a deimlai ynddynt. Oblegid ei wybodaeth helaeth mewn morwriaeth, pregethodd lawer ar y geiriau hyny yn Jer. xlix. 23, "Y mae gofal ar y môr;" ac ysgydwodd gynulleidfaoedd mawrion trwy y bregeth hon lawer gwaith, yn enwedig pan yn agos i'r môr, a chafodd llawer morwr les mawr trwyddi.

Dechreuodd bregethu pan oddeutu 35 oed. Daeth yr hen ysbryd anturiaethus i'r golwg gyda'r gwaith mawr hwn eto. Er mor hen ydoedd, mynodd lawer o ysgol, i ddechreu gyda'r Parch. R. Roberts yn Llangeitho, ac ar ol hyny yn y Bala. Yr oedd yr ysbryd yn ieuengaidd, er fod yr oedran ymhell. Gwnaeth cymdeithasu fel hyn a phregethwyr ac â llyfrau, lawer er ei gaboli a'i goethi, a gwnaethai ragor oni bai ei fod yn rhy hen cyn dechreu myned dan y driniaeth. Yn fuan wedi dyfod o'r Bala, ymbriododd a Mrs. Anne Griffiths, y Gwndwn, ger Capel Ffynon. Agorodd hyn faes arall o wybodaeth o'i flaen, sef amaethyddiaeth. Ac wrth ei glywed yn siarad ag amaethwyr ar y pwnc hwn eto, yr oeddynt yn cael ar ddeall ei fod yn gwybod y ewbl yn ei gylch. Trwy y briodas daeth i fyw i Capel Ffynon, fel aelod crefyddol, a chymeryd gofal o ddwy fferm, sef y Gwndwn a Thafarnysgawen, fel dyn a gwladwr. Gan fod y plant yn gallu gofalu am y ffermydd yn Capel Ffynon, daeth ef a rhan o'r teulu i fyw yn niwedd ei oes i Blaenbargoed, Llanarth, ac yma y bu farw, Ebrill 17eg, 1876, yn 60 oed. Claddwyd ef yn mynwent Capel Ffynon. Bu yn rhodio glyn cysgod angau am beth amser yn y tywyllwch, ond gwaeddodd lawer gwaith wedi hyny fod y cyfamod yn dal. Dechreuodd dau o'i feibion bregethu gyda'r Methodistiaid, ond yn fuan aeth y ddau i Eglwys Loegr.

Profodd yn helaeth o adfywiad 1859, ac ni chollodd fawr o'r dylanwad hyd ei awr olaf. Ordeiniwyd ef yn 1860. Yr oedd yn bregethwr hwyliog iawn. Nid oedd yn gofalu fawr am drefn; chwilio allan y byddai am gynhyrfiad y dwfr, a phan ddelai, byddai yn sicr o wneyd defnydd o'r adeg, pe buasai yr odfa yn myned yn faith. Yr oedd ganddo lais cryf a nerthol iawn; a chan fod yr ysbryd hefyd mor wresog, byddai yno odfa gynhyrfus; ac yn fynych byddai y cynulleidfaoedd yn ei law, ac yn cyfranogi yn helaeth o naws yr efengyl. Yr oedd ganddo allu tuhwnt i'r cyffredin i wneyd defnydd o'r hyn a welai ac a glywai tuag at gyflenwi ei bregethau â hwynt. Pan yn pregethu am brynu yr amser, dywedai, "Pe byddai amser yn cael ei werthu yn Canton, China, byddai boneddigion y wlad hon yn myned yno wrth y miloedd i'w brynu. Yr oedd gwr bonheddig unwaith yn dweyd wrth y doctor mewn cystudd, 'Chwanegwch i mi 6 niwrnod, a rhoddaf i chwi 5,000p.' Yr ateb oedd, 'Nis gallaf pe rhoddech y greadigaeth i mi.'" Pan yn pregethu ar wledd priodas mab y brenin, dywedai "Mae llawer yn tlodi eu hunain yn y byd yma wrth wneyd gormod o wleddoedd, a galw gormod iddynt. Ond y mae ein Duw ni wedi gwneyd gwledd ar yr hon y mae miloedd yn gwledda er's oesoedd; ond y mae mor gyflawn heddyw ag erioed, a'r Gwr a'i parotodd heb dlodi dim arno ei hun." Eto, Bum yn y Bank of England, ac ni welais fwy o aur erioed. Daethoch allan yn gyfoethog? Naddo, yr oeddwn mor dlawd yn dyfod allan ag yr aethum i mewn, oblegid nid oedd genyf yr un demand.. ar y Bank; ond, bendigedig, mae genyf faint a fynwyf o demand ar fanc y nefoedd yn enw Iesu Grist."

Pregethai unwaith ar yr "addewidion mawr iawn a gwerthfawr," a gwnaeth y sylwadau canlynol:—" Pan oeddwn ar lan y môr unwaith, cwympodd bachgen i lawr o'r riggins i'r môr, a'r cadben ei hun a waeddodd allan am daflu y rhaffau i lawr. Taflwyd dwy raff ar bymtheg, a chafodd afael. Pa angen oedd am gynifer? Fel y byddai mwy o chances. Yn hen long iachawdwriaeth y mae rhaffau o addewidion ar gyfer pob angen, fel na byddo neb yn boddi o eisiau rhaffau i gydio ynddynt Yr oedd gwraig yn dweyd wrthyf yn ddiweddar: Mae yr adnod hono mewn date i mi yn awr, 'Gad dy amddifaid, a mi a'u cadwaf hwynt yn fyw; ac ymddirieded dy weddwon ynof fi.' Taflwyd y rhaff i hono, pan gollodd ei phriod ac yr oedd yn ymgyral wrthi rhag suddo dan y tonau dinystriol." Pan yn pregethu ar Grist yn marw dros yr annuwiol, dywedai, "Yr oedd gwraig yn dweyd wrthyf er's tro yn ol, Perthynas i ch'i achubodd fy machgen i rhag boddi: rhoddodd ei einioes yn ei law, a neidiodd i'r môr, heb wybod p'un a gollai ei fywyd ei hun ai peidio.' Ond dyma un wyddai cyn dyfod o gartref y byddai raid iddo golli ei fywyd ei hun, ac eto fe ddaeth." Mewn Cyfarfod Misol yn Ceinewydd, er ei fod yn ymyl ei gartref, galwyd arno i ddweyd gair ar y pwnc o ddyledswydd deuluaidd. Dywedodd, "Yr oedd mam yn dweyd wrthw' i pan yn fachgen bach, Cerdd i 'mofyn dwr, John, a phethau eraill, ac yn gwel'd bod yn well gen' i chwareu na myn'd. Cerdd di, meddai wed'yn, cei di bâr o ddillad newydd erbyn y Pasg; ac yr o'wn inau yn myned wed'yn ar unwaith. Fechgyn bach Ceinewydd, mae Pasg ein Harglwydd ni i fod, de'wch i ymbarotoi i gyd ar ei gyfer. O! bydd yno wleddoedd a rhanu gwobrau na welwyd erioed eu cyffelyb." Aeth y fath ddylanwad gyda'r dweyd, nes nad oedd yno nemawr i lygad sych yn yr holl le. Llygedynau o wres, neu ruthr-wyntoedd ofnadwy, fyddai yn ei bregethau yn fynych, fel y cofia llawer fu yn ei glywed.

R

PARCH. EVAN REES, LLANON.

Adnabyddid ef gan lawer dan yr enw "Dechreuwr canu y Sasiwn," gan mai efe fyddai yn arwain y canu yn yr holl Gymdeithasfaoedd lle byddai. Yr oedd ei lais fel cloch arian o hyfryd a hyglyw tra parhaodd heb gael niwed; ac ar ol hyny, gan na allai seinio yr holl nodau trwy y dôn, yr oedd ei lais i'w glywed yn awr a phryd arall trwy yr holl leisiau i gyd. A byddai llawer yn gwrando yn astud, er mwyn cael clywed y llais swyngar ar yr adegau hyny. Yr oedd amryw o'i blant, ac y mae ŵyrion ac ŵyresau iddo eto yn gallu canu yn dda. Yn nechreuad ei weinidogaeth, yr oedd ei lais yn synu ac yn swyno pawb; ond cafodd wely damp pan ar un o'i deithiau, a bu yn gystuddiol iawn o'r herwydd, a neb yn meddwl nad oedd ei oes ar ben. Dioddefodd lawer oddiwrth yr effeithiau yn ystod ei holl fywyd dilynol, fel yr oedd yn gorfod cymeryd llawer o bwyll wrth draddodi ei bregeth. Dywedai y diweddar Barch. D. Hughes, yr Ynys, fel y canlyn am dano:—" Pan y tu ol iddo yn y pulpud, byddem yn clywed ei anadl yn curo rhwng pob gair, fel dic dack y clock. Dim ond unwaith y clywsom ef yn rhoi bloedd, sef wrth adrodd geiriau Job, yn benaf y fawl-wers, 'Bendigedig fyddo enw yr Arglwydd.' Ni chlywsom lais mor soniarus, mwynaidd a pheraidd, yn ein holl fywyd. Ni roddodd y floedd ond unwaith."

Ganwyd ef yn 1776, yn Ffynonwen, yn ymyl ysgoldy, Brynwyre, sydd yn perthyn i Rhiwbwys a Tabor. Yr oedd ysbryd pregethu ynddo pan yn fachgenyn. Mae yno gareg fawr eto, ar yr hon y dywedir ei fod yn fynych yn pregethu. Byddai yn hoff iawn o ganu a darllen. Ond cafodd fyned yn foreu ar ci oes i ddysgu yr alwedigaeth o wneyd hetiau, yr hon swydd oedd a galw mawr am dani y pryd hwnw.; Bu yn dysgu gyda Jenkin, Ty'newm, lle ar ddarn o'r tir lle y saif capel Rhiwbwys yn awr. Priododd hefyd â Mary, y ferch, pan nad oedd ef ond 20 oed. Cyfodwyd y lle a elwir Penrosser, ar un ran o Ty'ncwm, i'r pâr ieuanc i ddechreu byw. Ymhen rhai blynyddoedd, aeth i fferm Penlanoglau, lle y bu am saith mlynedd. Ac yna symudodd i Trial Mawr, lle y bu am y gweddill o'i oes, a lle y bu Mary, ei weddw, byw am flynyddoedd lawer ar ei ol Bu yn fasnachwr enwog mewn hetiau beaver, ac aeth son lawer am dano fel y cyfryw. Cadwodd lawer o weithwyr gydag ef am ryw dymor. Ni chafodd air da am un het gyda'r Parch. Thomas Phillips, D.D., Neuaddlwyd. Cyfarfu y ddau â'u gilydd pan oeddynt yn myned i bregethu, a dywedodd y Dr., ar ol y cyfarchiad arferol, "Dyma hat Evan Rees, wnaethoch i mi, mi gwerthwn hi nawr pe cawn rywun i'w phrynu, mae hi bron tori mhen i. Nis gwn paham y digwyddodd hyn ar hen weithiwr da fel chwi." Nis gwyddom hyd pa bryd y parhaodd gyda'r grefft. Mae yn debyg iddo roddi fyny hon pan aeth i Trial Mawr, ger Llanon. Gadawodd ei ferch Elizabeth, yn Penlanoglau, sef mam y Parch. John Davies, Penant.

Yr oedd wedi cael ei 25 oed, pan ddechreuodd bregethu, yn briod, ac yn dad plant. Yr oedd ei fywyd crefyddol er's ychydig o flynyddoedd cyn hyny, ei wasanaeth fel canwr da yn y cyfarfodydd, ac yn enwedig ei ddoniau rhagorol mewn gweddi, o ran materion a llais, wedi codi disgwyliad mawr yn yr eglwys am ei weled mewn maes eangach o ddefnyddioldeb. Pan ddechreuodd bregethu, cafodd dderbyniad buan i fynwes yr eglwysi. Cynyddodd ei boblogrwydd a'i barch gyda'u gilydd, a daeth yn ddefnyddiol iawn gartref ac oddicartref. Nid oedd ganddo lawer o amser at ddarllen, ond yr oedd yn feddyliwr cryf; a chlywsom yr hen bobl yn dweyd y byddai Evan Rees bob amser yn ffres, a rhyw bethau ganddo fyddai yn enill sylw bob tro y clywid ef. Dywed Mr. Hughes am dano, "Yr oedd yn pregethu ac yn cynal cyfarfodydd eglwysig ar hyd yr wythnos mewn amryw gapelau, a'r holl bobl yn edrych arno yn barchus fel eu bugail. Bara brwd, newydd ei bobi fyddai ganddo ar y bwrdd bob amser." Yr ydym wedi cael ar ddeall ei fod yn cael rhai odfaon grymus iawn, a bod llawer yn priodoli eu troedigaeth i'w weinidogaeth ef. Byddai yr hen flaenor, Evan Lewis, Garnfawr, Rhiwbwys, yn arfer dweyd mai Evan Rees wnaeth iddo ef dori y ddadl, a'i fod yn deall fod amryw yr un fath ag ef. Pan yn pregethu yn Nghymdeithasfa Llanfyllin, yn 1832, oddiar Deut. xxxiii. 27, dywedai, "Nid oedd eisiau i'r llofrudd gymeryd ei walet ar ei gefn, wrth ffoi i'r noddfa; na, yr oedd yno ddigon ar ei gyfer. Ond y mae Duw yn Nghrist yn fil mwy o gynhaliaeth ar gyfer pechadur ar ddarfod am dano. Yma y mae bara (a bery i fywyd tragwyddol, a'r wledd o basgedigion breision. Mae yn ddigon diogel yma; odditanodd y mae y breichiau tragwyddol. Ni chyfeiliornwn pe galwn, ei gariad tragwyddol, ei gyfamod tragwyddol, a'i addewidion mawr iawn a gwerthfawr, yn freichiau tragwyddol. Ni ellais ddirnad erioed pa mor isel y syrthiasom, ac y mae'n debyg na allaf ddirnad byth, ond fe aeth y breichiau tragwyddol odditanodd, pa mor isel bynag yr aethom. Breichiau tragwyddol ei hyd, tragwyddol ei grym, a thragwyddol eu gafael. Os cawn fod o fewn y breichiau, byddwn yn agos at Dduw, ac yn nghynesrwydd ei fynwes. Hefyd, daw y breichiau a'u coflaid adref er gwaethaf pawb. Dyna ddywedir lyn y dydd mawr a ddaw, 'Wele fi a'r plant a roddes Duw i mi.' O'u rhifedi y byddom ninau oll."

Yr oedd yn arholwr Ysgol Sabbothol hynod o fedrus, dengar ac adeiladol. Byddai y bobl ieuanc yn hoff iawn o hono. Gwnelai sylw o bawb, ac yr oedd ganddo air pwrpasol i ddweyd wrth bawb. Yr oedd yn brydydd rhagorol. Cyfansoddodd farwnadau ar ol y Parchn. Eben. Morris, David Evans, Aberaeron, a John Williams, Lledrod; ac argraffwyd hwynt ar gais y Cyfarfod Misol. Yr oedd o gorff yn fwy na'r maintioli cyffredin, gwallt gwineugoch, gwyneb crwn, glandeg ac agored. Fel ei wynebpryd, felly yntau, dyn agored, serchog a charedig. Bu farw yn bur ddisymwth yn y flwyddyn 1834, yn 58 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys Llanrhystyd. Ordeiniwyd ef yn Llangeitho yn 1826.

PARCH. JOHN REES, TREGARON.

Pan oedd Mr. Evan Jones, Ceinewydd, sydd yn awr gyda'i frawd, yn genhadwr yn Llydaw, yn cadw ysgol yn Tregaron, aeth at Mr. Rees pan yn ei gystudd, ac ysgrifenodd o'i enau, brif ffeithiau hanes ei fywyd, y rhai a anfonwyd ganddo i'r Drysorfa am 1871. Ganwyd ef ar ddydd Nadolig, yn y flwyddyn 1794, mewn tŷ bychan ar dir Llysfaen uchaf, plwyf Llanwenog. Mab ydoedd i Rhys Thomas Rhys, hetiwr wrth ei alwedigaeth, o Jane ei wraig. Symudodd y teulu i blwyf Cellan, lle y bu farw y tad, pan oedd Mr. Rees oddeutu 8 oed. Ar ol hyn, symudodd y fam a'r plant i le o'r enw Cwmbach, ar dir Trial Mawr, plwyf Llanarth, ardal enedigol y fam. Oddiyma aeth i Dihewid, i'r ysgol at un Samuel Davies. Aeth wedi hyny i fugeilia, i Llechwedd-deri-uchaf, i Hafodyrwyn, a Ffynonrhys, a'r olaf pan oedd oddeutu 12 oed. "Yr oedd fy mam," meddai, "yn arfer fy rhybuddio i gadw y Sabbath, i beidio dywedyd anwiredd, a gofalu dweyd fy mhader, ac effeithiai ei rhybuddion yn ddwys arnaf." Wedi gweled fod ei fam yn myned i ail briodi, teimlai ei fod yn myned yn ddigartref; a phan yn dyfod yn ol wedi ymweled â hi, "aethum," meddai, "i gyfamod â'r Arglwydd ar y mynydd wrth ddychwelyd, fel y byddwn byw iddo ef o hynny allan, ac nid anghofiais y cyfamod hwnw byth."

Arminiaid fu ef yn arfer wrando, hyd nes y daeth i Blaencefn fach, yn was penaf, pan oedd oddeutu 18 oed, oddiyno yr oedd yn myned i Lanarth i wrando y Methodistiaid. "Y pregethwyr fyddwn yn arfer wrando yno oedd Sion Dafydd, David Evans, Aberaeron; Ebenezer Morris, Ebenezer Richards, a Dafydd Siencyn, Cwm Tydu. Un boreu Sabbath, aethum i odfa i Llanarth, pan yr oedd seiat ar ol. Rhwystrwyd fi i fyned allan gan wraig y ty capel, yr hon a wyddai fod arnaf awydd aros yn ol er's tro, ond fy mod yn rhy wylaidd i dori trwodd. Byddwn yr adeg hono yn gweddio llawer noswaith trwy y nos, yn ymyl fy ngwely, ac yn derbyn pethau annhraethadwy. Teimlwn fy mod yn hapus iawn mewn canlyniad." Oblegid yr addysg gafodd yn ieuanc, nid oedd ganddo feddwl mawr am Iesu Grist, yr hyn fu yn boen mawr iddo. "Yr oedd fy mywyd yn hynod o anghysurus y pryd hwnw; oblegid os tywynai rhyw lewyrch yn yr odfa y Sabbath, deuai y meddwl isel am Iesu Grist wed'yn fel saeth anorchfygol. Cefais lawer o oleuni am natur gwir grefydd, gan Joseph, Llwynderw, crefyddwr rhagorol, a gwnaeth hyny lawer o les i mi. Aethum i wasanaethu ar ol hyny at Thomas, Ty'nyporth, Ffosyffin, lle y lletyai y pregethwyr. Byddwn yn arfer myned gyda blaenoriaid y capel hwn i gyfarfodydd gweddiau ar brydnhawn Sabbothau, mor bell weithiau, a Mydroilyn. Yr oeddwn yn rhwym o weddio ar eu cais, a dweyd gair yn y seiat pan fyddent yn ceisio; a dywedent wrthyf, er mwyn fy nghefnogi, fod y pethau a ddywedwn yn werthfawr iawn, ac anogent fi i fyned ymlaen mewn llafur.

"Bum yn aros yn Ty'nporth am ddwy flynedd, a phan yma, y dechreuais bregethu, yn 24 oed. Pregethais gyntaf mewn tŷ ar dir Penrhiwdrych, yr hwn sydd wedi ei dynu i lawr, a hyny yn mis Mehefin, 1818. Wedi ymadael o Ty'nporth, dysgais grefft crydd, gyda Evan Shon Gruffydd, Penrhiwdrych. Yr oedd yn rhaid i bregethwyr yr amser hwnw ddysgu rhyw grefft. Pan yn gweithio gydag un Siencyn Llwyd, aethum i'r ysgol at Dr. Phillips, Neuaddlwyd, Byddwn yn gweithio un bythefnos, ac yn myned i'r ysgol y bythefnos arall. Edrychid yn ddiystyrllyd arnaf am fyned i'r ysgol, oblegid eu bod yn tybio fy mod yn myned yno i ddysgu pregethu, fel dysgu crefft. Bum fel hyn am yn agos i dair blynedd, nes y dysgais ddigon o Greek a Latin i ymuno a class yn Cheshunt College. Ysgrifenodd Mr. Richards, Tregaron, at y Prifathraw, sef Dr. Kemp am dderbyniad i mi, yr hyn yn garedig a ganiataodd am ½ blynedd. Ond wedi rhoddi yr achos o flaen y Cyfarfod Misol yn Mawrth, gwrthododd Ebenezer Morris, a Williams, Lledrod, i mi gael myned, yr hyn a fu yn siomedigaeth fawr i mi. Dywedodd Mr. Morris, 'Mae John Rees wedi cael digon o ysgol, heblaw myn'd i'r coleg i ddysgu tynu ei het a bowio.' Cynygiodd Dr. Phillips i mi gael myned i'r coleg a fynwn, ond nis gallwn ymadael â'r Methodistiaid. Gofynwyd i mi a fynwn fy nghyfarwyddo ganddynt hwy ynghylch pa beth i'w wneyd eto er fy nghynhaliaeth; wedi ateb yn gadarnhaol, cynghorwyd fi i gadw ysgol. Dywedodd Mr. Richards, 'Da iawn cael dynion tyner i gadw ysgol, ac nid butcheriaid; un tyner fydd John Rees.'. I Nebo yr aethum i gadw ysgol. Y pryd hwnw yr oedd cyfraith wedi ei gwneyd i bwyllgor o flaenoriaid a phregethwyr i arholi pob pregethwyr ieuainc am eu gwybodaeth yn benaf; a byddai y cwestiynau rhyngddynt mor ddyrus ac anhawdd, fel yr oedd yn anmhosibl bron eu hateb. Trowyd Thomas Williams, Llangeitho, yn ol oblegid nad oedd yn ddigon gwybodus; ac aeth Edward Jones, Ffosyffin, at yr Annibynwyr rhag eu hofn. Yr oeddwn yn lletya gyda John Davies, Talglas, hen flaenor y Penant, a byddwn yn myfyrio a gweddio nos a dydd rhag i mi gael fy nhroi yn ol yn Nghyfarfod y Penant. Ond pan ddaeth, dywedodd Mr. Richards fy mod i yn rhydd o'r arholiad, gan fy mod yn pregethu cyn gwneyd y ddeddf. Felly ni chefais fy holi ond yn y Cyffes Ffydd yn unig, ac yr oedd hwnw wedi ei ddysgu genyf yn ol cyfarwyddyd Thomas Jenkins, Penuwch. Wedi i Mr. Williams fy holi, dywedodd, 'Y fath werth i ni gael pregethwyr i bregethu fydd yn deall yr athrawiaeth fel y mae ef yma.'

"Wedi rhoddi yr ysgol i fyny yn Nebo, aethum at John Evans i Aberystwyth i ddysgu mathematics a navigation. Cynorthwywyd fi i dalu am fy ysgol gan bobl Aberystwyth, a chefais goron hefyd o focs y tlodion. Yna, aethum i gadw ysgol i Blaenplwyf; ar ol hyny, i ddysgu morwyr i Aberarth. Ar ol marw Ebenezer Morris, cynghorwyd fi i fyned i Twrgwyn i gadw ysgol, a chynorthwyo gyda'r achos." Bu ef yn Aberarth chwe' blynedd, a saith yn Twrgwyn. Yna symudodd at ei nai, Mr. John Lewis (Ioan Mynwy), i siop Rhydyronen, Tregaron, i'w gynorthwyo gyda'r fasnach, ac yno y bu hyd ei farwolaeth. Wedi i Mr. Richards farw yn 1837, dewiswyd Mr. Rees yn Ysgrifenydd y Cyfarfod Misol yn ei le, a bu yn y swydd am oddeutu 20 mlynedd, a chafodd dysteb o 20p. ar derfyn ei wasanaeth. Teithiodd lawer gyda Mr. Morris, Twrgwyn, a Mr. Richards, Tregaron, ac yr oeddynt yn ei gyfrif yn gyfaill o'r fath anwylaf; yfodd yntau yn helaeth o'u hysbryd, a difyr oedd ei glywed mewn Cyfarfod Misol, a lleoedd eraill, yn coffhau eu dywediadau. Yr oedd yn ysgrifenu bob amser yn seiat y Cyfarfod Misol, ac wrth wrando pregethau. Yr oedd yn bregethwr hollol ar ei ben ei hun' llais gwan, benywaidd, ond hynod o dreiddgar. Gwelai feddwl ei destyn, a safai arno, gan drin y gwahanol faterion yn. oleu a meistrolgar; ond yr oedd yn rhaid iddo gael dwyn i fewn wahanol ddywediadau o eiddo y tadau, ac amryw o hanesion, a chymhariaethau, fel yr oedd llawer yn barod i feddwl fod ei bregethau yn cael eu gwneyd i fyny o'r cyfryw, ac nad oedd dim dyfnder yn perthyn iddynt. Yr oedd bron bob amser yn sicr o sylw a theimlad y gwrandawyr. Pregethodd rai gweithiau mewn Cymanfaoedd nes synu a gwefreiddio y tyrfaoedd.

Un o daldra cyffredin ydoedd, corff tenau, gwyneb gwelw a thenau yn ateb iddo, ac wedi colli ei wallt ar ei ben pan yr adnabyddasom ef gyntaf. Bu oddeutu blwyddyn yn glaf, a bu farw Gorph. 17, 1869, yn 76 oed, wedi pregethu am dros 50 mlynedd. Cyfrifid ef yn dduwiol iawn, ac ymhell tuhwnt i'r cyffredin am ei ffyddlondeb gyda gwaith ei Arglwydd.

Dywediad o'i eiddo—" Crynhoi ynghyd yng Nghrist. Yr oedd holl ŷd yr Aifft y'ch ch'i i gael ei grynhoi dan law Joseph, felly y'ch ch'i mae yr holl dduwiolion i gael eu crynhoi ynghyd yng Nghrist. O, syndod ! y cwbl mewn UN. Gwasgaru y byd wnaeth Adda, ond y mae yr ail Adda yn crynhoi YNGHYD. A neges yr efengyl at y byd yw crynhoi YNGHYD." Yr oedd yn rhoddi pwyslais birfaith ar y gair "ynghyd."

PARCH. JOSEPH REES, RHYDFENDIGAID.

Ganwyd ef yn Tygwyn, yn agos i Gapel Drindod, Ionawr 27, 1795. Enwau eu rieni oeddynt Thomas a Mary Rees. Cafodd ei ddwyn i fyny wrth gapel Horeb, capel Annibynol, gyda thad ei fam, yr hwn oedd yn flaenor yn y capel, ac yn wr o wybodaeth helaeth, yn feddianol ar lawer o lyfrau Cymraeg a Saesneg. Cafodd mam Mr. Rees ysgol dda yn ei hieuenctid, a dysgodd Saesneg a Lladin hefyd. Cafodd ei egwyddori yn fanwl yn mhethau crefydd, yn enwedig yn Nghatecism y Gymanfa, ac esboniad Willison arno. Pan yn 11eg oed, daeth at ei rieni, gan fod ei daid wedi marw; ond ni ymadawodd â Horeb heb gofio llawer o bethau ddywedodd y Parch. John Lloyd, y gweinidog, megis yr anogaeth roddodd iddo i ddysgu Catecism byraf y Gymanfa, a'r ganmoliaeth roddai iddo. Yr oedd gwaith Gurnal, Bunyan, pregethau y ddau Erskine, Mer Duwinydddiaeth, a llawer o rai eraill o lyfrau ei daid i ddyfod i'w fam, a gwnaeth yntau ddefnydd da o honynt. Pan ddaeth yr Hyfforddwr i Capel Drindod yn 1808, dysgodd ef allan i gyd, ac adroddodd ef wrth y Parch. Thomas Jones, Caerfyrddin. Ni fu yn ffodus mewn dysgu crefft; methodd a chael iechyd fel gwehydd; a chan iddi fyned yn heddwch rhyngom â Ffrainc, pan oedd yn parotoi i fyned i'r excise, methodd yn hyny hefyd. Yna rhoddwyd ef i ddysgu saernïaeth coed. Bu mewn trallod mawr am ei gyflwr yr amser hwnw, ac yn agos at bethau crefydd y teimlai y pleser mwyaf, ond ni ymostyngodd i ddyfod yn aelod ar y pryd. Pan oddeutu 16eg oed, aeth i Llandyssul i weithio fel gwehydd; a phan yno, ymgaledodd yn fawr, ac aeth naws pethau crefydd o'i ysbryd; ond yr oedd ei hoffder o wybodaeth grefyddol yn aros. Byddai yn cael llawer o ddifyrwch mewn dadleu â'r Undodiaid am Dduwdod Crist, a byddai y rhai hyny yn synu pa fodd yr oedd bachgenyn o'i fath ef yn gallu dadleu mor rymus. Pan oddeutu 18 oed, gan fod ei iechyd yn pallu, y diwedd fu iddo fyned at ei dad i ddysgu ei grefft ef; a thrwy hyny, daeth i fwynhau moddion gras unwaith eto. Yr amser yma yr oedd clefyd yr ordeiniad wedi cydio gafael yn eglwys Capel Drindod, fel llawer o eglwysi eraill y Methodistiaid, ac aeth Thomas ei dad, i'r Eglwys, am nad oedd yn foddlon i bregethwyr y Methodistiaid gael eu hordeinio, ond arhosodd ei fam gyda'r Ymneillduwyr. Gwnaeth hyn Joseph Rees yn fwy caled fyth. Pa fodd bynag, yr oedd adeg ddadleuol felly ar bethau, yn cadw meddwl un mor graffus ag ef i chwilio drosto ei hun. Darllenodd waith Palmer yn fanwl, a rhai pethau eraill ar y ddwy ochr; a'r diwedd fu, iddo gael ei hun yn gryfach Ymneillduwr nag o'r blaen. Pan yn 21 oed, aeth i'r ysgol i ddysgu rhifyddiaeth, gan feddwl cael swydd o dan y Llywodraeth, ond yn aflwyddianus.

Aeth i Ferthyr Tydfil i weithio; a phan yn gwrando pregeth yn Pontmorlais, daeth i sefyll i raddau uwchben ei gyflwr. Yr oedd ei feistr yn dweyd, "Mae yn hawdd deall mai un wedi cael addysg yw Joseph." Methodd eto yma, gan i derfysg gyfodi yn y gweithfeydd, a gorfu arno yntau ddyfod adref. Ar ol dychwelyd, bu mewn twymyn am 13eg o wythnosau, ac yn debyg o farw. Yr oedd yn penderfynu yn ei gystudd mai dyn annuwiol ydoedd, ac mai i uffern y byddai raid iddo fyned; ac ar yr un pryd, teimlai ormod o euogrwydd i droi at Dduw am drugaredd. Ar ol gwellhau, daeth yn fwy moesol, ond daliodd i fod yn anufudd i'r efengyl fel o'r blaen. Pan yn 24ain oed, priododd âg Elizabeth, merch David a Margaret Jones, Argoed. Pan oddentu 28ain oed, dechreuodd feddwl o ddifrif am ei gyflwr: a daeth rhyw awydd neillduol ar ei fam ei weled yn ymostwng i Grist. Ei fai o hyd oedd disgwyl am rywbeth nerthol, a hwnw heb ddyfod fel y meddyliai. Wrth wrando y Parch. Benjamin Williams, o Forganwg, yn Twrgwyn, yn pregethu ar y geiriau, "Cymoder chwi â Duw," aeth yn anesmwyth iawn. Y Sabbath canlynol, bu yn gwrando y Parch. Lewis Powell, Caerdydd, yn Castellnewydd, ar y geiriau, "A wrthodwyd gan ddynion," a gwelodd mai gwrthod Crist oedd ei bechod mawr ef; ac wrth glywed y pregethwr yn dangos rhagoriaethau Iesu Grist, teimlodd ei enaid yn ei garu, ac aeth adref fel un wedi cael tangnefedd. Y pryd hwn yr ymunodd â chrefydd; a thrwy gyfarwyddyd Eben. Morris, daeth yn gyflawn aelod yn fuan ar ol hyny. Ond bu galed arno wedi hyny, gan fod rhywbeth yn dweyd wrtho mai rhagrith oedd y cwbl. Er mwyn sicrwydd, darllenodd "Y cywir ddychwelwr," "Llun Agrippa," "Corff Duwinyddiaeth" Dr. Lewis ar waith yr Ysbryd," "Troedigaeth y wraig o Samaria," "Marw i'r ddeddf," &c., eithr methodd a chael adnabyddiaeth foddhaol o hono ei hun, dim ond cael penderfyniad i lynu, a gwneyd ei oreu o blaid Crist a'i achos. Daeth allan yn alluog a ffyddlon gyda'r Ysgol Sabbothol yr oedd yn cael yr ymddiried o wneyd pynciau iddi, a daeth allan i fod yn atebwr rhagorol. Wrth ei glywed yn areithio mor dda yn Nghyfarfodydd Daufisol, a Chymanfaoedd yr Ysgol, anogai Mr. Morris, Twrgwyn, a Mr. Richards, Tregaron, yr eglwysi a'r ysgolion i gadw golwg arno, a rhoddi gwaith iddo. Gofynodd rhai brodyr iddo a oedd yn cael cymhelliadau i bregethu, ac wedi ateb yn gadarnhaol, daeth ei achos gerbron yn raddol, a dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1829, pan yn 34ain oed. Y lle y pregethodd gyntaf oedd yn nhŷ dechreuwr canu Capel Drindod, sef yn nhŷ James Griffiths, Cwmbach, oddiar y geiriau, "Nid rhaid i'r rhai iach wrth feddyg, ond i'r rhai cleifion."

Yr oedd ganddo farn lled addfed am bron bob peth crefyddol cyn iddo ddechreu pregethu, ac felly daeth allan ar unwaith yn bregethwr rhagorol yn marn y rhai mwyaf cymwys i farnu. Yr athrawiaethol, yr ymresymiadol, a'r argyhoeddiadol, oedd y dull a gymerai. Nid oedd yn boblogaidd, nid oedd ei lais, na'i ddull yn ffafriol i hyny, ond yr oedd yn bregethwr rhagorol o dda yn nghyfrif y saint a'r gwrandawyr goreu. Yr oedd yn weithiwr diflino. Yr oedd yn saer sefydlog gyda Mr. Parry, y Gurnos, gan yr hwn yr oedd barn uchel am dano sel dyn didwyll, a phregethwr da. Wedi i hwnw farw, ymroddodd yn fwy llwyr at bregethu. Yn fuan ar ol hyn, cafodd alwad gan eglwys Pontrhydfendigaid, i ddyfod yno i ofalu am yr achos. Yr oedd hyn yn 1839; ac yn 1841, ordeiniwyd ef yn Llangeitho. Cadwai fath o ddosbarth Beiblaidd; ac er fod dynion hynod o alluog yn y Bont, yr oeddynt oll yn rhoddi fyny iddo ef. Casglodd lawer o ddefnyddiau i wneyd hanes Methodistiaeth y sir, ond gorfu arno roddi fyny, gan wendid a llesgedd. Tebyg i awdwr galluog Methodistraeth Cymru gael gafael ar ei ysgrifau, a'u rhoddi i fewn yn yr hanes. Yr oedd yn alluog iawn fel holwr yr Ysgol Sul, a gwnaeth lawer yn ei oes fer, ar ol Mr. Richards, tuag at lenwi ei le. Ei hoff feusydd gwybodaeth oedd, Dr. Owen, Charnock, a Howe; ac yn nesaf atynt, Leighton, Chalmers, Robert Hall, ac Edwards, America. Cafodd anwyd trwm tua diwedd 1845, ac ymaflodd y darfodedigaeth ynddo mewn canlyniad. Bu farw Medi 30, 1847, ar bwys y geiriau, "Yr hwn a osododd Duw yn Iawn." Yr oedd yn ddyn tebyg i'w fab, y diweddar Barch. Thomas Rees, Ffynon Taf, bron ymhob ystyr. Mae y Parch. John Rees, Treherbert, hefyd, yn fab iddo; gweinidog yw ef gyda'r Annibynwyr, ac mewn parch mawr. Claddwyd ef yn mynwent capel Tregaron, yn yr oedran cynharol o 52.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Ebenezer Richard
ar Wicipedia

PARCH. EBENEZER RICHARDS, TREGARON.

Mewn cysylltiad â Tregaron yr adnabyddir ef, ond yn Trefin, Sir Benfro, y ganwyd ef, a hyny Rhagfyr 5ed, 1781. Yr oedd ef a'i frawd, y Parch. Thomas Richards, Abergwaen, yn feibion i'r hen bregethwr oedd yn cydfyw a'r tadau Methodistaidd, sef Henry Richards, yr hwn a fu yn cadw ysgol y Lady Bevan mewn llawer rhan o Gymru, ac a fu yn pregethu am 60ain mlynedd. Yr oedd ef a Hannah ei wraig yn hynod am eu crefydd. Gweddiai ef dros blant yr ysgol nes y byddent i gyd yn wylo, ac arhosodd argraff ei weddiau ar lawer o honynt dros eu hoes; ac yr oedd ei wraig gartref yn darllen a gweddio gyda'r plant, a throstynt bob amser yn ei absenoldeb. Felly cafodd y plant addysg grefyddol dda. Yr oedd Eben. Richards yn hoff iawn o wrando pregethau pan yn fachgen, a theithiodd lawer er mwyn hyny, ymhell ac yn agos, gan y blas oedd yn gael ar yr hen bregethwyr enwog. Yn 1796, bu yn glaf iawn, pryd yr ofnwyd llawer am ei adferiad. Y flwyddyn ganlynol, sef y flwyddyn fythgofiadwy 1797, tiriodd oddeutu 1,400 o Ffrancod yn Pencaer, yn agos i Abergwaen, am yr hyn y cyfansoddodd Mr. Richards gân ragorol. Dywedai ef ar hyd ei oes, fod ei gystudd, a dyfodiad y llynges Ffrengig, wedi effeithio yn fawr ar ei feddwl. Yn yr adeg hon yr ymunodd yn gyflawn â chrefydd. Ymhen rhai blynyddoedd ar ol hyny, cawn yntau, fel ei dad, yn cadw ysgol yn y Dinas, neu Brynhenllan. Pan yma, bu dan argyhoeddiadau dwysion am ei gyflwr fel pechadur; cymaint felly, fel y dywedai ef ei hun iddo ddioddef y fath loesion ac arteithiau na ewyllysiai weled ci na sarff byth yn dioddef eu cyffelyb. Mae yn debyg iddo gael y fath argyhoeddiad mewn atebiad i'w weddiau am gael troedigaeth amlwg, a chynghorai ddynion byth ar ol hyny "rhag coleddu dymuniadau rhyfygus am ryw argyhoeddiad hynod." Ond "Gorphenaf laf, 1801," meddai, "y noswaith hon oedd y fwyaf ofnadwy yn fy mywyd; ond yr wyf yn gobeithio mai ynddi hi y dechreuodd dydd na bydd terfyn iddo byth." Torodd y wawr ar ei enaid trwy ddarllen a myfyrio ar Hebreaid vii. 25.

Gall pawb ddeall fod ei argyhoeddiad yn rhyfedd, pan ystyrir iddo orfod rhoddi i fyny yr ysgol o'r herwydd, a myned adref at ei rieni. Dychwelodd at yr ysgol drachefn yn ddyn newydd yn Nghrist Iesu. Wrth ei weled a'i glywed yn un mor hynod gyda chrefydd, cymhellwyd ef i ddechreu pregethu. Ei destyn cyntaf oedd y geiriau "Crist yw yr hwn a fu farw." Llwyr ymroddodd ar unwaith i'r gwaith mawr. Pan oedd ef a Thomas ei frawd yn cael eu derbyn yn aelodau o Gyfarfod Misol eu sir, dywedai y Parch. David Jones, Llangan, yr hwn ar y pryd oedd yn byw yn Manorowen, "Y mae y ddau fachgen hyn yn pregethu fel dau angel." Yn y flwyddyn 1806, symudodd i Aberteifi, i fod yn athraw teuluaidd yn nheulu Major Bowen, Llwyngwair, yr hwn oedd yn byw ar y pryd yn Aberteifi. Yn 1809, priododd â Miss Mary Williams, unig ferch Mr. William Williams, Tregaron; yr oedd hon yn wyres i'r hen gynghorwr David Evan Jenkins, o Gyswch, heb fod ymhell o Llanddewibrefi. Bu yn frwydr galed rhwng Aberteifi a Thregaron am beth amser ynghylch cael Mr. Richards i fyw atynt. Yr oedd ei ddefnyddioldeb yn cael ei deimlo mor fawr yn nghylchoedd Aberteifi, fel na fynent er dim golli ei wasanaeth; ond Tregaron orfyddodd. Cyn diwedd y flwyddyn, penodwyd ef yn ysgrifenydd Cyfarfod Misol y sir, swydd a gyflawnodd yn ffyddlawn hyd derfyn ei oes. Yn 1813, etholwyd ef yn Ysgrifenydd Cymdeithasfa y Deheudir, a bu yn y swydd hon hefyd hyd ddiwedd ei oes.

Yr oedd ef yn un o'r rhai a ordeiniwyd gyntaf gyda'r Methodistiaid yn y Deheudir yn 1811. Yn y diwygiad mawr fu yn 1811-12, yr oedd yn pregethu yn Llangeitho, oddiar Luc xvi. 23, gyda'r fath nerth ac arddeliad dwyfol, fel y dwysbigwyd cynifer ag 28 o eneidiau, y rhai oll a briodolent eu hargyhoeddiad i'r bregeth ryfedd hono. Tua'r adeg hon, cafodd fwy nag un cymhelliad i droi yn offeiriad o Eglwys Loegr, ond gwrthododd yr oll yn ddibetrus. Atebodd Mr. Jones, Derryormond, yn yr ymadroddion cadarn hyn, "Y mae y peth yn anmhosibl, Syr." Gofynodd hwnw, "Paham ?" Ei atebiad oedd, "Byddai rhoddi derbyniad i'r cynyg, yn gyntaf, yn weithred gwbl groes i'm cydwybod, oblegid yr wyf o egwyddor yn Ymneillduwr. Yn ail, yr wyf yn barnu y byddaf yn fwy defnyddiol lle yr wyf yn awr. Yn drydydd, mae cymaint o anwyldeb rhyngwyf 'm brodyr, fel y byddai y rhwygiad yn annioddefol i'm teimladau." Wrth feddwl am Ymneillduaeth drwyadl a diysgog y tad, nid yw yn rhyfedd fod ei fab, Henry Richards, y diweddar Aelod Seneddol dros Ferthyr, yn Ymneillduwr mor fawr, ac wedi ysgrifenu a dadleu cymaint dros Anghydffurfiaeth.

Yr oedd yn ddirwestwr da cyn bod dirwest, a gelwid arno yn fynych ar faterion o ddisgyblaeth, i fyned i wahanol leoedd, ac ymddiriedid ynddo, oblegid y gwyddai pawb ei fod yn un mor bur Pan y bu rhai o'r cynghorwyr gydag ef ar deithiau, ni wnaethai ef pan yn yfed, ond bron gyffwrdd â'r ddiod yn y tai capeli; ond yr oedd yn cael gwaith mawr i atal yr un fyddai gydag ef rhag yfed gormod, ac weithiau yn gorfod bod yn llym. Wrth ddisgyblu Jack William, yr Ysgubor, Llangeitho, nid oedd hwnw yn gallu danod dim am yr yfed i Mr. Richards, fel y gwnelai â rhai, gan y gwyddai mor gymedrol ydoedd pan fyddai ef yn gyfaill iddo. Yr oedd rhai o hen bobl Llangeitho yn arfer dweyd mai hwn oedd yr unig un orchfygodd Mr. Richards, pan yn ceisio ei ddisgybu. "Wn i be nawn i chi yn y byd, Jack bach," meddai wrtho, "gan eich bod yn ein blino fel hyn o hyd." Tori allan i lefain y byddai yr hen gynghorwr pan yn cael ei alw i gyfrif, a gwnaeth hyny y tro hwn, a dywedodd, "Be' chi'n ddisgwyl gen i? 'dalla i ddim gwneyd iawn; ond 'rwyn siwr fod Iawn wedi ei wneyd dros hen greadur fel fi. 'Nawr dim heb dalu rhoddwyd iawn, nes clirio llyfrau'r nef yn llawn, heb ofyn dim i mi." Cododd ei lais, ac aeth i'r hwyliau mawrion wrth ddweyd y darn penill, nes enill llawer o gydymdeimlad y gynulleidfa. Ceisiodd Mr. Richards ymliw âg ef drachefn, nes yr addawodd wneyd ei oreu i beidio yfed eto i ormodedd, a thorodd allan i hwyliau drachefn, nes yr aeth llawer i waeddi gydag ef: a therfynwyd heb wneyd dim y tro hwnw ond ei argyhoeddi o'i fai. Galwyd arno unwaith i weinyddu disgyblaeth ar dafarnwr, yr hwn oedd yn ei feddwdod wedi gwerthu ei wraig i ddyn meddw arall, a gwneyd cryn son am dano y tro hwn, er ei fod yn ymddwyn yn weddol o dafarnwr cyn hyny. Yr oedd ar bobl y lle ofn siarad ag ef, oblegid ei fod yn danod iddynt fod rhai yn gwneyd diod ar gyfer y Ty Capel heb drwydded. Dywedir fod golwg ofnadwy ar Mr. Richards pan gododd i siarad ag ef, ac y dywedodd, "Beth oedd a fynech chi a dod yma heddyw? Ty y Brenin yw y ty hwn. Cymerodd bachgen Bethlehem fflangell o fân reffynau i lanhau y ty hwn, a rhaid ei gadw yn lân, costied a gostio. Yr ydych chwi yn gwybod yn dda na ddylech fod yma, ac allan y rhaid i chwi fyn'd. Rhowch le iddo." Aeth, heb ddweyd gair, a gwnaeth y gynulleidfa le iddo.

Dro arall, yr oedd ffermwr wedi tori y Sabbath ar amser cynhauaf medi, yn cael ei osod o'i flaen, a gofynodd iddo, "A fuoch chwi yn y cae y diwrnod hwnw ?" Do," meddai y dyn. "A ddarfu i chwi wneyd rhywbeth i'r ysgubau ?" "Do, mi godais i ysgub neu ddwy wedi cwympo." "A o'ech chwi yn meddwl eich bod yn troseddu yn erbyn Duw?" Atebodd y dyn yn ddistaw, "Ow'n yn dyall hyny." Yna gofynodd drachefn, " Beth sydd wedi dangos i chwi eich bod yn troseddu wrth fyned i'r maes i drefnu yr ysgubau ar y Sabbath?" "Mae y Beibl yn dweyd," oedd yr atebiad, "O!" ïe, y Beibl, Gair Duw yw hwnw. A welwch chwi y nefoedd yna, y ser planedau, a'r ddaear sydd yn rhoddi y cynhauaf i chwi ? Mae dydd i dd'od pan yr ä y rhai yna heibio gyda thwrf, a'r ddaear gan wir wres a dodda, ond Gair ein Duw ni a saif byth. Mae y gair hwn yn dweyd, 'Na wna ynddo ddim gwaith,' a beth oedd a fynech chwi a'r ysgubau ar y fath ddydd? Dywedodd ar ol y dylif na fyddai dylif wed'yn, ac ni fydd chwaith, ond ni ddywedodd ar ol llosgi Sodom na fyddai tân wed'yn, ond y mae yn dal i ddweyd y bydd, a bydd yn siwr o ddal i ddweyd am y Sabbath, Na wna ynddo ddim gwaith,' p'un a wrand'wn ni neu beidio." Cafodd y dyn ei dori allan, a hyny "er esiampl i eraill," meddai yr hen efengylydd, "yn gystal ag o barch i'r gorchymyn."

Yr oedd yn bregethwr rhagorol. Mae yn anhawdd penderfynu pa un ai ei frawd ai efe oedd y pregethwr mwyaf; ond yr oedd gan bob un ei neillduolion, a'r rhai hyny yn gwneyd pob un yn bregethwr mawr. Pan bregethai ei frawd, yr oedd yr awyrgylch, yn y cyffredin, yn fwy llawn o drydan, o fellt a tharanau, a chorwyntoedd, na phan y pregethai efe; a phan bregethai yntau, yr oedd mwy o wlaw hyfryd yn disgyn, megis ar amser sychder, a mwy o awyr glir, a gwres cymedrol, fel ar adeg cynhauaf, na phan bregethai ei frawd. Dymunoldeb hyfryd yn toddi i edifeirwch, nefoldeb gogoneddus yn dyrchafu y meddwl at weledigaethau paradwysaidd, ac atdyniad dwyfol yn swyno y dyn i hoffi pethau cysegredig, y goruwchnaturiol a'r pur, oedd y dylanwad pan bregethai Eben, nes y byddai y gynulleidfa yn barod i waeddi, "Mor brydferth yw traed yr hwn sydd yn efengylu tangnefedd, yr hwn sydd yn efengylu pethau daionus." Pregethai gan amlaf a'r dagrau yn llifo dros ei ruddiau, a'r gynulleidfa o'i flaen yr un fath. Gallai ef ddweyd bron bob amser, fel Moses, "Fy athrawiaeth a ddefnyna, fel gwlaw, fel gwlithwlaw ar îrwellt, ac fel cawodydd ar laswellt."

Yr oedd yn statesman crefyddol o'r fath oreu. Yr oedd yn weithiwr diorphwys a difefl. Mae y daflen ganlynol a gaed yn ei ddyddlyfr, yn rhoddi rhyw gipolwg ar ei lafur. "Pregethodd 7,048 o weithiau; gweinyddodd Swper yr Arglwydd 1,360; bedyddiodd 824; pregethodd mewn 651 o gyfarfodydd pregethu, sef Cyfarfodydd Misol a Chymanfaoedd; a theithiodd 59,092." Mae y daflen yn un hynod pan feddylir na fu yn y weinidogaeth ond prin 34ain o flynyddoedd; ac iddo fod i raddau yn gaeth fel ysgolfeistr am ryw chwech o'r cyfryw. Yr oedd ei lafur yn fawr fel ysgrifenydd y Cyfarfod Misol a'r Gymanfa. Yn 1814, dechreuodd ar ei ymdrech fawr i gael y cynulleidfaoedd i deimlo mwy dros, ac i gasglu yn helaethach at Gymdeithas y Beiblau, a Chymdeithas Genhadol Llundain, mewn cysylltiad a'r hon yr oedd y Methodistiaid ar y pryd. Yr oedd ei ddoethineb mawr, ei allu i ddenu y bobl, a thegwch ei ymresymiadau, y fath, fel y llwyddodd yn ei amcan i raddau anhygoel. Yr oedd gan y wlad gymaint o ymddiried ynddo, fel yr oedd pawb yn barod i'w ganlyn. Ac er iddo lwyddo ymhob cylch yr ymgymerodd ag ef, ni fu yn fwy llwyddianus gyda dim nag mewn cysylltiad â'r Ysgol Sabbothol. Yr oedd yn holwr ysgol di-ail, a rhoddodd Gymanfaoedd Ysgolion ar dân ugeiniau o weithiau, trwy ei ddull dengar ac effeithiol o holi. Gwnaeth lawer trwy hyn i osod bri ar y sefydliad yn ngolwg pawb. Nid oedd ef yn boddloni ar gyfarfodydd cyhoeddus fel hyn ychwaith; ond mynodd fyned yn nes at y werin trwy sefydlu ysgolion ymhob cwm, ac ar bob bryn, lle y byddai ychydig o ddynion mewn angen cael eu haddysgu yn Ngair Duw. Trwy ymdrech mawr y cafodd y gangen ysgol gyntaf yn Tregaron, ond gwelodd bedair o honynt cyn iddo farw, heblaw cangen y capel. Felly y gwnaeth mewn lleoedd eraill, nes enill yr holl wlad i'r ysgol, ac yna godi ysgoldai; ac yn y diwedd, sefydlu achos a chodi capelau. Trwy y cynllun hwn, dygodd yr holl wlad yn Ngogledd Ceredigion, o Aberaeron a Llanbedr i fyny, fel y gwnaeth Dafydd gynt, dan deyrnged i grefydd. Cafodd lawer i'w gynorthwyo, ond efe oedd yr arweinydd a'r prif gynorthwywr. Efe gyfansoddodd "Reolau yr Ysgol Sabbothol," ar gyfer yr ysgol gartref, y cyfarfod athrawon, y Cyfarfod Daufisol, y cyfarfod blynyddol, a'r cymanfaoedd. Yr oedd ef yn un o'r prif offerynau gyda chyfansoddiad y Cyffes Ffydd a'r Weithred Gyfansoddiadol yn y blynyddoedd o 1822 hyd 1826. Ac efe a anfonwyd trwy yr oll o'r Deheudir i weled yr holl ymddiriedolwyr yn arwyddo y Declaration of Trust a'r Constitutional Deed, fel yr anfonwyd y Parch. John Elias trwy y Gogledd. Yr oedd gan ei enwad ymddiried ynddo fel un o graffder rhagorol i ddysgu y bobl, i ddeddfu ar gyfer eu hangen, ac i weithio yn ddi-ildio er cael y cynlluniau i weithrediad.

Yr oedd Mr. Richards yn ei enwad ac i'r wlad, fel yr oedd Bacon ymhlith athronwyr, yn dangos pethau yn alluadwy a chyraeddadwy ac yn dysgu y ffordd i'w dwyn i ymarferiad er mwyn y lles cyffredinol. Bu ef i Gymru, yr un fath ag y bu Wesley yn Lloegr ac America, yn trefnu corlanau ar gyfer y praidd gwasgaredig, ac yn deddfu ar gyfer eu diogelwch a'u cysur. Efe oedd Charles y Bala, yn enwedig i'r Deheudir ar ol i Mr. Charles ei hun farw. Bu gan y Methodistiaid lawer pregethwr rhagorol fel yntau, ond fel Acestes yn Virgil, "Anelu eu bwa at y ser yr oeddynt." Nid nerth i dynu yn y bwa oedd eisiau er argyhoeddi dynion, ond llygad craff i drefnu ar eu cyfer wedi iddynt ddyfod i'w hiawn bwyll. Yr oedd Mr. Richards yn un o legislators penaf Cymru yn yr ystyr o ddwyn diwygiadau i afael y bobl, a llesoli cymdeithas yn gyffredinol. Wrth ystyried y fath un oedd y tad, nid yw yn rhyfedd i'w fab, trwy ei drefniadau, wneyd cymaint o les i'r Cymry ac i Anghydffurfiaeth, nes enill iddo ei hun y gofgolofn oesol osodwyd i fyny ar yr ysgwar yn Tregaron. Mae bedd a cholofn ei dad yn mynwent Eglwys Tregaron. Bu farw yn bur ddisymwth, Mawrth 9, 1837, yn 56 oed. Dychwelodd o Salem pan oedd ef a Mr. John Morgan, Aberffrwd, ar ganol eu taith yn ymweled a'r eglwysi.

PARCH. ROBERT ROBERTS, LLANGEITHO.

Ganwyd ef yn agos i Llwynglas, Tre'rddol, yn 1800. Ond y lle bu ei fam byw ar ol priodi oedd Glandwr, yn agos i Gogerddan. Yr oedd yn wraig o dduwioldeb diamheuol. Aeth i fyw at Mr. Roberts i Llangeitho ar ol claddu ei phriod, ac yn yr un fynwent ag ef, sef un y capel, y claddwyd hi. Cafodd Mr. Roberts ysgol dda yn ieuanc, a hyny un Llanfihangel-genau'r-glyn, yr hon a gyfrifid yn enwog gynt, gan mai y goreu o ysgol Ystradmeurig a ddewisid i'w chadw. Ar ol i'w rieni benderfynu peidio ei anfon yno yn hwy, gofynodd y periglor Evans, Llanfihangel, i'w dad, "Beth ydych yn myn'd i wneyd a Robert, Jack? Mae wedi cael rhy fach o ysgol i wneyd dim o honi, ac y mae wedi cael gormod i fyn'd i ochr y clawdd. A pheth arall, Jack, y mae yn ormod o ddysgwr i chwi fyn'd ag ef i weithio, mae Robert yn siwr o wneyd rhywbeth o'i ysgol. Gwnewch wrando arnaf fi, byddwch yn ffol iawn os gadewch ef ar mae wedi gael." Gwrandawyd ar y cyngor, a chafodd Robert fyned yn ei flaen nes dysgu digon i fyned yn un o athrawon ysgol enwog Staines, tref oddeutu pymtheg milldir yr ochr hyn i Lundain. Yr oedd yn myned o'r lle hwn i Jewin Crescent ar ei draed bron bob Sabbath; ac yr oedd golwg fawr gan y cyfeillion yno arno fel un o dalentau disglaer, a chymerai ran ymhob gwaith a geisient ganddo, ond pregethu. Cymhellwyd ef i hyny, ond ni fynai.


Gyda chadw ei hun a phrynu llyfrau yn Staines, ystoriodd ryw gymaint o arian. Cymhellwyd ef, a chydsyniodd yntau, i godi tŷ ar y North Parade yn Aberystwyth. Wedi dechreu, cynghorwyd ef i godi dau, a thrwy hyny aeth i ychydig o ddyled; ac yr oedd dyled a balchder y pethau mwyaf annioddefol ganddo o ddim trwy ei oes. Clywsom ef yn dweyd gyda nerth fwy nag unwaith, yn erbyn annoethineb ac anystyriaeth y bobl ieuainc oedd yn gwario mwy na'u henillion ar wisgoedd ffasiynol, ac ar flysiau pechadurus. Un o'i fath ef allai ddweyd, un wedi bod gymaint ar hyd y byd, yn ngolwg cynifer o demtasiynau, ac wedi ymgadw yn eu canol, rhag ymollwng gyda "chwant y cnawd na balchder y bywyd." Pa fodd bynag, rhoddodd yntau ffordd gyda'r ysmocio; ac yr oedd rhai yn dweyd ei fod yn ymwneyd cymaint â'r arferiad fel yr oedd y mwg yn gadael ei argraff ar ei wyneb ac ar ei wisgoedd. Yr oedd yr anghysondeb hwn i'w weled ynddo trwy ei oes, sef bod yn ofalus iawn am ei amgylchiadau, ac eto bod yn hollol ddifater am dano ei hun. Er fod ganddo ddillad, yr oedd yn hollol ddiofal pa olwg fyddai arnynt, fel mai anaml y gwelid ef a gwedd drwsiadus arno. Wrth weled ei agwedd wledig mewn Cymanfa, ymgynghorodd rhai gwragedd da a'u gilydd ynghylch gwneyd cynorthwy iddo mewn rhyw ddull; ond wedi clywed ei fod yn wr cyfoethog, ac mai ei ffordd ef o fyw oedd yr achos o'r cwbl, gwelsant mai doethach oedd peidio gwneyd dim yn mhellach. Dyma y gwr grymus a glywsom unwaith, wrth draethu ar y gwahanol ffurfiau yr ymddangosai balchder ynddynt, yn gwneyd y sylw a ganlyn:"Yr oedd un dyn yn cyhuddo Socrates ei fod yn wr balch, a bod yn gywilydd ganddo ef ei weled mewn cymdeithas, gwr o'i fath ef oedd yn dysgu cymaint i'r byd, ac eto fod mor analluog i ddysgu ei hun. Ateb yr athronydd oedd, 'Ah, y rhagrithiwr balch, yr wyf yn gweled dy falchder di trwy dyllau dy got." Yr oedd ef ymhell o fod yn haeddianol o'r cerydd hwn, gan fod ei wisgoedd yd weddol dda, ond ei fod am fod yn debyg i'r hen Fethodistiaid yn ei ddull o fyw. Parhaodd fel hyn trwy ei oes, er iddo fyw i weled newidiadau lloerigol y ffasiynau. Gwrthododd fynu cerbyd i'w gludo o un man i'r llall; dim ond marchogaeth anifail iddo ef, Gwrthodai y goler wen am ei wddf; y napcyn sidan du iddo ef.

Ni ddechreuodd bregethu nes bod yn llawn 40 oed, er cymaint o gymhelliadau i hyny a gafodd yn Llundain a Phenygarn. Yr oedd yn weddiwr rhagorol bob amser, ac yr oedd llawer yn gwybod am ei dalent fel esboniwr Beiblaidd da. Y peth wnaeth y brodyr yn Mhenygarn o'r diwedd oedd, dymuno arno esbonio ychydig ar y benod yn y cyfarfodydd gweddiau cyn myned i weddi. Gwnaeth hyny mor swynol fel yr aeth son am dano trwy yr holl gymydogaeth; a gwnaeth hyny y cyfarfodydd gweddiau yn bur boblogaidd pan y byddai ef gartref ar y gwyliau. Pan oedd un yn gofyn i ddyn pur anystyriol i ddyfod i'r cwrdd gweddi, "Deuaf," meddai, os caf glywed Robin Beti yn esbonio y benod, a Shani Down yn gweddio." Ni alwent ef felly i'w ddirmygu, ond dyna ffordd yr oes o enwi y naill y llall. Parchai pawb ef fel y mwyaf a'r goreu yn yr ardal. Er i'r brodyr fel yma ei gael i esbonio y benod, nid oedd yn bosibl ei gael i wneyd mwy. Ei ddadl fawr am beth amser dros beidio dechreu pregethu oedd, fod arno ddyled am y tai a gododd. Tua'r amser hwnw dechreuodd dirwest, a daeth allan fel areithiwr dirwest, fel yr oedd yn rhaid ei gael i bob cyfarfod ac i bob gwyl. Tua'r amser hwn hefyd y daeth galwad arno fyned i gadw yr ysgol ramadegol oedd yn Llangeitho, gan fod y Parch. John Jones, Borth, wedi ei rhoddi i fyny. Aeth y son am dano yn Llangeitho fel gweddiwr, fel areithiwr yn y Cyfarfod Dau-fisol, a'r cyfarfodydd dirwestol; a chan ei fod yn awr wedi gorphen talu yr oll am y tai, cafwyd addewid ganddo i ddechreu ar y gwaith o bregethu, a hyny oddeutu dwy flynedd wedi ei ddyfodiad yma. Ni laesodd ddwylaw gyda dirwest a'r Ysgol Sabbothol wedi myned i bregethu, ond yn hytrach defnyddiodd y pulpud i gynyddu ei ddylanwad o'u plaid. Ei ddull o holi ysgol oedd arwain y bobl a llefaru y rhan fwyaf ei hun, a hyny fel pe byddai yn pregethu, a'r ysgol a holai a'r gynulleidfa oedd yn gwrando, yn melus fwynhau yr holl wasanaeth. Gwnaeth ei oreu gyda dirwest ymhob ffurf arni. Dadleuodd lawer dros Demlyddiaeth o'r pulpud, ac yn nghynadleddau a seiat y Cyfarfod Misol. A llawer o flynyddoedd o flaen Temlyddiaeth, yr oedd ef mewn Cymdeithasfa yn Nghaerfyrddin yn cadw cyfarfod dirwestol, a'r Parchn. David Charles, B.A., Trefecca, a John Phillips, Bangor. Yr oedd ef yn ystod ei araeth yn gofyn yn ddylanwadol iawn, "Pa beth mor effeithiol ddyfeisiwyd erioed i fyned rhwng cysylltiadau agosaf ac anwylaf bywyd a'r diodydd meddwol? Pwy feiddia fel y rhai hyn fyned rhwng gwr a'i wraig, rhwng tad a'i blant, a rhwng y fam a'i phlentyn sugno? Mae hon yn lladd y tynerwch mwyaf sydd yn y natur ddynol, a thrwy barhau i'w hyfed, mae dyn yu myn'd yn ellyll uffernol gerbron ei deulu, a cherbron cymdeithas."

Yr oedd yn bregethwr parod cyn iddo ddechreu pregethu, oedd y fath ddisgwyliad yn y wlad am ei glywed, fel y rhoddwyd ef i bregethu yn y Cyfarfod Misol cyntaf y daeth iddo fel pregethwr; ac yr oedd y bregeth a'r dylanwad y fatb, fel yr oedd pawb yn synu, ac yn gofyn, "Pa le y bu hwn hyd yn awr?" Ei destyn oedd, Paham y dirmyga yr annuwiol Dduw." Y pethau oedd yn cael ei dweyd am dano y pryd hwnw oedd, ei fod yn gwybod saith o ieithoedd, a'i fod mor addfed i fyned i bregethu, fel yr oedd ganddo bymtheg o bregethau yn barod cyn cychwyn. Yr oedd yn ysgolhaig gwych, ac yn y grediniaeth hono am dano y cafodd gynyg ar fyned yn Brifathraw i Drefecca, ar ol Dr. Charles. A beth bynag am y 15 o bregethau parod, gellir dweyd iddo ef ddyfod allan yn ei gyflawn faintioli fel pregethwr ar ei gychwyniad, ac na chollodd dir o ran ei boblogrwydd na'i effeithioldeb, hyd ddiwedd ei yrfa. Edrycher arno funyd; dacw ef yn dyfod i fewn i'r capel, yn ddyn llawer talach na'r cyffredin, ac nid yw y rhan uchaf yn gymaint felly ychwaith y ddwy goes sydd yn gwneyd i fyny y rhan fwyaf o'r taldra. Dyn tenau, gyda gwyneb gwelw, gwallt llwydgoch, ac yn dal felly er gwaethaf henaint; whiskers o'r un liw, ac yn dyfod i lawr yn ol yr hen ffasiwn, hyd haner y bochgernau. Mae y war yn hytrach yn gam, a'r pen yn sefyll ymlaen, a cherdda rhwng araf a chyflym, fel y gwna bob amser ar hyd y ffyrdd a'r llwybrau. Pan yn gweddio, saif a'i law ddehau dan ei gern ddehau, a gweddia mewn llais wylofus, gyda thaerineb mawr; ac y mae pawb yn deall ei fod ef a'i Feistr yn lled gyfarwydd a'u gilydd. Gwel pawb fod gweddi y dyn, fel y dyn ei hunan, ymhell tuhwnt i'r cyffredin a glywir o'r lle difrifol hwn. Pan yn dechreu pregethu, sefydla olwg ei lygaid llwyd-ddu, treiddgar, a hwyrach yn fychain, ar ryw ysmotyn o'r capel sydd draw ar ei gyfer, ac yno y safant, oddieithr rhyw droad disymwth yn awr a phryd arall. Mae yn ei bregeth, fel gyda'i lygaid, fel pe byddai wedi sefydlu ei feddwl ar ryw bwynt penodol, ac ymestyna eto o radd i radd yn gwynfanus a thrafferthus, gan besychu ychydig, heb yr un pen nac adran, nes cyrhaeddyd ei nod gyda rhwysg a gogoniant mawr, fel gwron buddugoliaethus, yn nghanol banllefau cymeradwyol meddyliau y dyrfa. Cyfoda ei lais yn raddol, ac y mae ei floeddiadau, y rhai sydd oll yn y cywair lleddf, yn cynhyrfu yr holl dyrfa. Mae y llais yna yn ddigon hyglyw i lonaid cae o bobl allu ei glywed ar ddydd y Gymanfa fawr. Mae gan y pregethwr feddyliau da, a'r rhai hyny yn cael eu gosod gerbron y gynulleidfa mewn iaith goeth, mewn arddull athronyddol ac aruchel, ac ar yr un pryd, mae pawb yn ymwybodol fod y pregethwr o ddifrif yn amcanu at ddeffro cydwybodau y gwrandawyr, a chodi eu meddyliau at yr uwch-anianol a'r sanctaidd, ac y mae yn llwyddianus y rhan amlaf i gyraedd ei amcan.

Mae pawb yn gweled fod ynddo ddefnyddiau areithiwr o'r fath oreu. Os amheuir hyn, dilyner ef i bob man, a gosoder ef i roddi anerchiad ar unrhyw fater, a cheir gweled ei fod yn wir feistr y gynulleidfa. Mae yn gallu dweyd yn dda ar bob pwnc. Dywed rhai mai yn y pregethu yr oedd ei ragoriaeth; dywed eraill mai yn seiat y Cyfarfod Misol; a dywed pobl Llangeitho na wyddai y wlad ddim am ei fawr nerth, mai ar lan beddau y saint gyda hwy yr oedd ei hynodrwydd mwyaf yn dyfod i'r golwg. Y gwirionedd am Mr. Roberts yw, ei fod yn fawr ymhob man fel traddodwr nerthol a hyfryd ar unrhyw bwnc. Os oedd diffygion ynddo, y rhai canlynol oeddynt. Nid oedd ei bregeth yn un hawdd ei chofio. Nid oedd yn meddu ar allu i sefyll dadl; nid am nad oedd yn deall y mater, ond am nad oedd wedi arfer dadleu. Doniau i siarad yn ei flaen oedd ei ddoniau ef. Diameu pe buasai wedi arfer dadleu, y buasai yn gallu dyfod yn fedrus ar hyny hefyd. Gan nad oedd yn alluog a medrus yn hyn, dichon mai hyny oedd yn gwneyd ei ddiffygion hefyd i wastadhau ewerylon rhwng pleidiau, a dylanwadu er adferu tangnefedd lle yr oedd wedi ei golli. Ond yr oedd ei rinweddau yn gorbwyso ei holl ddiffygion. Er nad oedd yn ddarllenwr mawr yn ei flynyddoedd olaf, yr oedd yn feddyliwr da bob amser. Er nad oedd yn ymddangos yn y cyhoedd mor foneddigaidd ag y mynai rhai, yr oedd yn amlwg bob amser mewn hunanymwadiad, a'i fod yn ymdrwsio oddifewn â gostyngeiddrwydd. Yr oedd yn ddiddadl yn un o'r cewri fel pregethwr, eto ni ddaeth neb i feddwl fod ynddo ef yr un duedd i honi dysg, dawn, na nerth. Ni wnaeth ysgrifenu fawr erioed, ac nid oedd yn foddlon i neb gyhoeddi ei bregethau. Ni fynai ddangos ei hun yn ei fywyd, a dichon mai hyny oedd yn peri iddo ddymuno na chawsai ei bregethau eu cyhoeddi. Rhoddwn yma rai darnau ddarfu i ni ysgrifenu wrth ei wrando ar wahanol adegau:

"Os yw dyn am golli ei gysgod, rhaid iddo droi ei wyneb at yr haul. A da iawn fyddai i chwi fel blaenoriaid (Aberaeron), ddyfod felly weithiau gerbron yr eglwys, fel Moses wedi bod gyda Duw ar y mynydd. Y mae ysbryd dyn yn ei wneyd yn gymwys i ddał cymundeb â Bôd sydd yn Ysbryd Anfeidrol, a thuag at hyny, rhaid i ysbryd dyn fod yn ei le priodol ei hun. Pan y byddo felly, daw allan yn ei symplicity, yn onest a gostyngedig. Dyna yw ystyr addoli-bod ar y gliniau yn cusanu y llwch. Aeth Robert Hall allan o'r capel wedi iddo weled agwedd falch pregethwr ieuanc oedd yn y pulpud. Dylem ninau oll fod yr un fath, gan fod Duw yn ffieiddio Ꭹ balch o hirbell. Nid oes dim yn tueddu at lwyddiant addoliad yn fwy nag ysbryd gostyngedig teilwng o bechadur, ac o burdeb natur Ꭹ Duw a addolwn."

"Mae arfogaeth y Cristion o natur ysbrydol, yr un fath a'r rhyfelgyrch y maent wedi eu parotoi ar ei gyfer. Gelynion ysbrydol sydd genym, ac â'r ysbrydol gan mwyaf y mae a fynont; ond cael ysbryd y meddwl, cânt y dyn i gyd. Dylem, oblegid hyny, fod yn wyliadwrus iawn ar ein meddyliau. Mae Dr. Owen yn dweyd fod y diafol, trwy gael awr anwyliadwrus ar y dyn, yn gallu gwneyd mwy o ddrwg iddo nag a wnelai mewn blwyddyn heb hyny. Er holl fanteision yr oes hon mewn dysg, esiamplau da, a chynydd celfyddydol, mae pechod yn aros fel cynt. Ond ni raid digaloni, mae Duw wedi trefnu ffordd i gyfarfod â'r anhawsdra; mae ef yn rhoddi gallu mewnol yn y dyn i wrthwynebu y galluoedd ysbrydol hyn. Mae yn rhoddi grasau amddiffynol ac ymosodol."

"Mae y diafol yn ymrithio yn rhith angel goleuni, ac felly yn twyllo meddyliau dynion i gredu pethau na ddylent; ac oblegid hyny, yr oedd Crist yn gorfod dweyd hyd yn nod wrth ei ddisgyblion, 'Ni wyddoch o ba ysbryd yr ydych,' a hyny oblegid 'nad oeddynt yn adnabod ei ddichellion ef.' 'Cynllwynion diafol.' Peth enbyd yw rhoddi cynllwyn yn erbyn tref, mae yno fradwriaeth yn erbyn dynion pryd na byddont yn meddwl. Dichon fod y cynllwyn yn erbyn rhai sydd yma heddyw. 'Gwyliwch a gweddiwch fel nad eloch i brofedigaeth.' Mae rhai yn rhoddi eu hunain yn agored i demtasiynau'r diafol. Os meddyliwn am y train o Llanbedr i Aberystwyth, rhaid dweyd fod rhyw ddiffyg mawr yn rhywle er yr holl fanteision: mae yn waeth o lawer nag o Aberystwyth i Machynlleth. Mae yn dda cofio fod rhywbeth yn gryfach na phechod, ac na'r diafol ei hun. 'Yn y pethau hyn oll, yr ydym ni yn fwy na choncwerwyr trwy yr hwn a'n carodd ni. Mae gras yn gryfach na'r holl elynion i gyd. Mae yn dyfod a dyn i orchfygu ei hunan, ac felly bydd yn fwy na choncwerwr. Haws ymwadu â chyfoeth a phobpeth nag ymwadu â hunan, ond myn gras fod yn ben ar hwn. Gras yn teyrnasu er yn wan. Mynwn ninau wybod pwy sydd ben yn y dyddiau hyn. Daw dydd pan y cawn weled yr holl elynion fel yr Afftiaid i gyd ar ol; hyd hyny, cofiwn mai milwyr ydym, ac mai ymladd yw ein gwaith."

"Hen wraig a ddywedai wrth weinidog, 'Nid oes genyf fi ond un enaid i'w golli. Mae gan Dduw lawer mwy, mae ganddo ef garictor i'w golli. Bydd hwnw mewn perygl os collir fi eto, waeth yr wy'n siwr fy mod wedi ymddiried yr oll iddo 'er's blynyddoedd lawer.'"

"Cymerwch ofal am danoch eich hunain yn y cynhauaf yma. Gwelir weithiau un dyn yn gwneyd ei hunan yn ffwl i ddeg ar hugain o ddynion. Nid hawdd fydd i hwnw effeithio difrifoldeb ar neb ar ol hyny gyda'i holl broffes o grefydd."

Pan yn pregethu oddiar Actau xiii. 26, dywedai, "Rhyfedd fel y mae Duw wedi gofalu am fod yr iachawdwriaeth i gyd o hono ef ei Hun, Efe yn trefnu, Efe yn gweithio allan, ac Efe yn cymhwyso. Mae Gair yr Iachawdwriaeth yr un fath. 'Dynion sanctaidd Duw a lefarasant megis y cynhyrfwyd hwynt gan yr Ysbryd Glân.' Gan fod hwn wedi ei ddanfon i ni, mae Duw wedi meddwl rhoddi iachawdwriaeth i ni, os na wnawn ei gwrthod. Ni wrthodai morwyr ar suddo i'r dyfnder mor rbaffau a deflid atynt i'w codi fyny. Os gwrthod hon wedi cael cynyg arni, bydd yr euogrwydd yn fwy na phe byddech yn myned i ddinystr heb glywed am dani."

Pan yn pregethu oddiar Heb. iv. 14, dywedai, "Mae yn anhawdd gwybod paham y mae llawer yn aros gyda chrefydd. Mae glynu yn golygu dal yn dyn mewn peth, neu fod gydag ef o hyd fel Ruth gyda Naomi. Mae y glynu yn golygu ymdrech fywiol, ddi-ildio, i ddal cymdeithas â phethau y broffes ymhob man. Y rheswm sydd yma dros y glynu yw bod archoffeiriad mawr ar dŷ Dduw, a hwnw yn neb llai na Mab Duw, ac wedi myned i'r nefoedd. Mae fod un fel yma ar y tŷ yn sicrwydd y cyrhaeddir y cwbl a broffesir yn y tŷ. Gwelodd Stephan ef ar ddeheulaw Duw, ac yr oedd yn barod i ddweyd, 'Dyma yr holl broffes wedi ei sylweddoli.' Dywedir am un hen wr fod y golygfeydd oedd wedi gael yn ei gystudd yn werth pymtheg mlynedd a deugain o broffesu. Tyner y blociau gan fod y llong wedi ei gorphen, iddi gael nofio yn yr ocean. Wrth briodi a Christ, nid oes eisiau dweyd 'Hyd pan y'n gwahano angau Glynwch wrth y peth goreu."

Gadawyd lle mawr yn wâg yn Llangeitho, yn y sir, ac yn Nghyfundeb y Methodistiaid, pan alwyd Mr. Roberts at wobr ei lafur. Cafodd gystudd caled a maith. Bu farw Gorphenaf 15, 1878, yn 78 oed. Codwyd cofgolofn hardd ar ei fedd yn mynwent capel Llangeitho.

PARCH. DANIEL ROWLANDS, LLANGEITHO.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Daniel Rowland
ar Wicipedia

Efe a'r enwog Howell Harris, Trefecca, yw Tadau Methodistiaeth Cymru. Ganwyd ef yn 1713, yn Pantybeudy, ger Bwlchyllan, ychydig gyda dwy filldir i'r gorllewin o Llangeitho; ac y mae ei gadair yn cael ei chadw gan deulu fu yma, ac sydd yn aelodau yn Bwlchyllan. Ei dad, o'r un enw ac yntau, oedd periglor Llangeitho a Nantcwmlle. Derbyniodd ei addysg yn Athrofa Henffordd. Yr oedd ganddo allu neillduol i ddysgu, a chafodd ei urddo pan. oddeutu 20 oed i fod yn gurad yn yr Eglwysi uchod, fel y mae y register canlynol yn Nghaerfyrddin yn profi:-"Daniel Rowland a literate person (at a general ordination on Sunday, 10th March, 1733, English style, in Duke St. Chappel, Westminster, by Bishop of St. David's), was admitted deacon and licensed to serve the cure of Llangeitho and Nantcwmlle, with yearly salary of ten pounds." Ychydig yn mhellach ymlaen ar y register, ceir "Daniel Rowland ordained priest at Abergwili, August 31, 1835." Bu farw y tad yn 1731, a chafodd ei frawd. John, yr Eglwysi ar ei ol, felly i'w frawd y rhoddwyd ef yn gurad. Dywedir fod Mr. Rowlands o'i febyd yn wr ieuanc bywiog a chwareugar, a pharhaodd felly wedi myned yn offeiriad, heb feddwl fawr, os dim, am gyfrifoldeb ei swydd. Ond yn y flwyddyn 1735, aeth i Eglwys Llanddewibrefi, i wrando yr enwog Griffith Jones, Llanddowror, a daeth adref wedi ei gyfnewid yn fawr. Yr oedd Mr. Jones wedi dal sylw arno fel gwr ieuanc balchaidd yr olwg, a gwnaeth rai sylwadau gyda'r amcan o wneyd argraff ar ei feddwl, ac ni chollodd ei nod. Aeth ar ol hyn megis i ben Sinai i bregethn y "danllyd gyfraith," a cholledigaeth pechadur yn ei hwyneb, nes cyffroi yr holl wlad. Ac o'r deffroad rhyfeddol hwn yn y Sylfaenydd, 1835, y cofnodir dechreuad yr enwad Methodistaidd Cymreig.

Daeth y gras oedd yn ei galon, a'r ysbryd gweinidogaeth cryf oedd ynddo i 'mofyn mwy o le nag eglwysi ei ofal yn ol y ddeddf wladol. Aeth allan i'r prif ffyrdd a'r caeau i gymell pawb i'r Swper Mawr. Cafodd alwad mewn modd rhagluniaethol i fyned i Ystradffin, yn Sir Gaerfyrddin. Yr oedd gwraig oddiyno yn Llangeitho ar ymweliad â chwaer iddi; ac wedi clywed am hynodrwydd Mr. Rowlands, aeth i'w wrando. Effeithiodd gymaint arni, nes y daeth yno eilwaith ymhen yr wythnos, er dychryn i'w chwaer, gan na ddywedodd ddim wrthi. Dywedodd na chafodd lonydd gan yr "offeiriad crac" trwy yr wythnos, fel yr oedd yn rhaid iddi ddyfod i'w glywed drachefn. A daeth drachefn a thrachefn. O'r diwedd, dywedodd wrth Mr. Rowlands, os oedd yn dweyd y gwir, fod mawr angen am iddo ddyfod i ddweyd yr un pethau yn Ystradffin. Deuaf yno," meddai yntau, "ond i chwi gael cenad offeiriad y plwyf i hyny." Cafodd hyny, ac aeth yntau yno a chyflawnder bendith efengyl Crist, a chafodd dim llai na deg ar hugain eu hargyhoeddi yn yr odfa. Aeth yno yn weddol gyson ar ol hyny, a chynhyrfodd yr holl wlad. Daeth gwr bonheddig yno i'w wrando a'i gŵn hela gydag ef. Safodd yn syth ar ganol llawr yr Eglwys, er mwyn dychrynu y pregethwr; ond yn lle hyny, aeth Mr. Rowlands ymlaen heb wneyd yr un sylw o hono ef na'i gŵn. A chyn diwedd yr odfa, yr oedd yr ymwelwr wedi gorfod eistedd i lawr a'i ddagrau yn llif, dan deimlad angerddol. Ar y diwedd, gofynodd am faddeuant y pregethwr, a mynodd ef i'w dy i letya y noson hono, a buont yn ffryndiau mawr o hyny allan; a daeth hwnw yn un o wrandawyr Llangeitho. Gan fod y gwr bonheddig yn yr ardal yr oedd yn ddylanwad cryf dros gael Rowlands yn ymwelwr cyson ag Ystradffin, os nad i ddyfod yno yn gurad. Beth bynag, yn 1742, mae Mr. Rowlands yn ysgrifenu at Mrs. James, Abergafeni, "na chawsai ei oddef yn hwy i fyned i Ystradffin; ond ei fod i aros yn Llanddewibrefi, yr hon oedd yn Eglwys fawr, yn cynwys amryw filoedd o bobl." Dywedai ei fod wedi pregethu ei bregeth ymadawol iddynt oddiar Act. xx. 32, pryd yr oedd yno fwy o wylo na welwyd mewn un angladd yn nghof dyn. Dyna ddechreuad ei droad allan o'r Eglwysi Gwladol. Dywed awdwr Hanes y Bedyddwyr fod Mr. Rowlands yn pregethu yn Sir Gaerfyrddin yn 1837, gyda llwyddiant mawr; ac y mae hanes arall yn dweyd ei fod yn yr un flwyddyn yn pregethu yn Eglwys Defynog, ac i Harris, Trefecca, ddyfod yno i'w wrando, ac mai yno y dechreuodd y gydnabyddiaeth rhyngddynt. Yr ydym yn gweled hefyd ei fod yn Cilycwm yn 1738, dan arddeliad mawr, ac i gangen eglwys gael ei ffurfio yno yn fuan ar ol hyny mewn rhyw ffurf. Felly mae sicrwydd iddo fyned allan o'r plwyfydd a wasanaethai, ac hefyd o'r sir, mewn ychydig gyda blwyddyn wedi iddo gael troedigaeth. Gwelwn oddiwrth y llythyr hefyd fod Llanddewibrefi wedi cael ei rhoddi at yr eglwysi eraill i John ei frawd yn 1742, ac mai yma y byddai ef i fod yn fwyaf sefydlog ar ol cael ei droi allan o Ystradffin, am hwyrach, mai hon oedd y fwyaf i gynwys ei wrandawyr ef. Cynwysai o 2,000 i 3,000 o bobl. Yr oedd yn cael ei boeni yn fawr hefyd gan y chwareuyddiaethau ar y Sabbath o gwmpas Llangeitho, fel yr aeth yn y diwedd atynt i'w hanerch yn ddifrifol, nes rhoddi terfyn hollol ar y crynhoadau llygredig, a'u cael i wrando yr efengyl. Rhoddodd hyn galondid mawr iddo fyned allan i wneyd yn gyffelyb mewn lleoedd eraill.

Fel hyn, aeth y gwaith ymlaen yn gyflym, a gwelwyd angenrheidrwydd am fwy o drefn er iawn reoleiddiad yr oll. Hyn a arweiniodd i sefydlu y Gymdeithasfa a'r Cyfarfod Misol tua'r flwyddyn 1742, sef yn yr adeg yr oedd Mr. Rowlands yr arweinydd, yn dechreu cael ei droi o'r Eglwysi. Whitfield a ddewiswyd yn gadeirydd y Gymdeithasfa, a Rowlands yn ei absenoldeb, a Rowlands hefyd hefyd a ddewiswyd yn gadeirydd ar Gyfarfodydd Misol ei Ddosbarth. Wedi i Whitfield gilio, disgynodd llywyddiaeth y Cymdeithasfaoedd hefyd yn gwbl arno ef, a bu felly hyd ei farwol aeth. Yr unig beth mawr a fygythiodd ddifetha y diwygiad mawr oedd yr "ymraniad" rhwng Harris a Rowlands, y ddau ddiwygiwr. Dadl ynghylch yr athrawiaeth am Berson Crist ydoedd; Howel Harris yn dywedyd fod Duwdod Crist wedi marw pan fu Iesu farw ar y groes, a Rowlands, ac eraill barnu yn yn wahanol. Aeth y ddadl mor boeth, nes y darfu i Harris a'i bobl ymwahanu oddiwrth Rowlands a'i bobl, yn Nghymdeithasfa Llanidloes, 1751. Yn union ar ol hyn, rhoddodd Harris ei fwriad i godi math o Fynachdy mawr mewn gweithrediad, a gorphenwyd ef yn 1753, a hwnw yw Coleg presenol Trefecca. Yn hwn y bu Mr. Harris yn gweinidogaethu - i'r holl bobl oedd yn byw gydag ef o Dde a Gogledd, gan adael y wlad i Rowlands a'i bobl. Yn fuan ar ol hyn, yr ydym yn cael fod 3,000 o gymunwyr gan Rowlands yn Llangeitho, a 2,000 gan Howel Davies yn Capelnewydd, Sir Benfro. Daeth achwyniad at yr Esgob Squire, Esgob Tyddewi ar y pryd, ei fod yn pregethu allan o'i blwyfydd, a hyny mewn lleoedd anghysegredig, ac yn cynhyrfu y wlad ymhob cyfeiriad. Anfonodd yr esgob i'w rybuddio drachefn a thrachefn; ac o'r diwedd, anfonwyd i'w dori allan, a hyny a wnaed yn 1763, wedi iddo fod yn gweinidogaethu yn yr Eglwys am 30 mlynedd. Felly nid oedd yn ol o'i oes i fod yn Ymneillduwr hollol ond 27 mlynedd, canys bu farw Hydref 16, 1790. Mae llawer o ddadleu wedi bod ynghylch yr Eglwys o'r hon y trowyd ef allan rhai yn dweyd mai o Llanddewibrefi, eraill mai o Nantcwmlle. Os oedd yn gurad yn y tair Eglwys, y peth tebycaf yw, iddo gael ei fwrw allan o'r tair. Nid wyf yn meddwl nad oes peth gwir gan y rhai a ddywedant i ddau offeiriad ddyfod i Llanddewi, ac iddynt estyn llythyr iddo, oddiwrth yr esgob, rhwng y gwasanaeth a'r bregeth, ac iddo yntau hysbysu y dorf fawr na chawsai bregethu, ac mai allan yr aeth, a'r bobl ar ei ol. Os oedd caniatad yr offeiriad ganddo i bregethu yn Nantcwmlle, digon tebyg iddo fyned yno, a bod gwirionedd yn yr hyn a ddywedwyd gan lygad-dyst, iddo gael llythyr yno, ac iddo fyned allan gan ddweyd, "O, gallasai ei arglwyddiaeth gymeryd llai o boen arno na'ch danfon chwi yma i'm troi allan o'r Eglwys. O'm rhan i, nid af byth o fewn ei muriau mwy; os mynwch chwi, caiff fod yn llety dyllhuanod. Mae y bobl yn barod i ddyfod gyda mi." A dywedir mai yn gwbl anghyfanedd ymron y bu y rhan fwyaf o'r Llanau yn y cymydogaethau hyn am amser maith ar ol ei droi ef allan. Yr oedd un ar y Sabbath yn gweled drws Eglwys Llangeitho yn agored, ac aeth i fewn; a phwy oedd yno ond y clochydd, a'r offeiriad yn y pulpud dwfn yn cyfieithu rhyw hanes o newyddiadur Saesneg i'r Gymraeg, er adeiladaeth y clochydd.

Pan oedd Rowlands yn gweled y cynghorwyr yn amlhau, a bod y bobl eisiau cael ymgeledd ysbrydol, rhoddodd ysgubor Meidrim, yr hon oedd yn feddiant iddo ef, i fod yn fath o gapel iddynt i gadw cyfarfodydd. Codwyd capel bychan yn 1760, bron yn ymyl yr un presenol. Nid oedd Rowlands ei hun yn dyfod ond yn ddirgelaidd i'r ysgubor nac i'r capel hwn, yr oeddynt at wasanaeth y cynghorwyr, a'r offeiriaid oedd wedi eu bwrw allan yn barod. Ond wedi iddo yntau gael ei fwrw allan yn 1763, adeiladwyd capel eang iddo yn 1764, ar y man, ymron, lle saif yr un presenol. Yr oedd hwn yn gapel pedwar-onglog, 45 troedfedd bob ffordd. Gelwid y tai cyntaf "tai seiat," ond hwn a elwid "eglwys newydd." Daeth y capel hwn yn gyrchfan y miloedd o Dde a Gogledd. Cyrchid yno bob Sabbath o gylch mwy nag 20 milldir, ond ar y Sabbath cymundeb, byddai dynion yno o siroedd Caernarfon a Mon yn y Gogledd, a Morganwg a Mynwy o'r De, ar rai achlysuron. Byddai y crynhoad yn fynych yn ddim llai nag o bedair i bum' mil o bobl, a byddai oddeutu deuddeg neu bymtheg cant yn cymuno, ac amryw weinidogion yn cynorthwy Mr. Rowlands yn y gweinyddiad. Gan y byddent yn dyfod i wrando y gweinidog rhyfedd erbyn haner dydd, Sadwrn y parotoad, yr oedd Ꭹ tai yn llawn o letywyr am rai milldiroedd o gwmpas. Gwelid yno yn fynych ganoedd o geffylau wedi eu cylymu yn rhesi wrth y cloddiau, a rhai o'r caeau yn llawnion o honynt. Parhaodd y cynulliadau hyn am 50 mlynedd, heb son am y 25 mlynedd blaenorol, cyn troi Mr. Rowlands allan o'r Llanau. Parhaodd y cynulliad yn hir ar ol marwolaeth Mr. Rowlands. Mae yn debyg na chlywyd son am un man yn y deyrnas, nac yn y byd, lle y bu cymaint yn dyfod ynghyd ar unwaith, ac am gymaint o anser, i wrando yr efengyl. Saif Llangeitho eto ar ei ben ei hun yn y meddiant o'r anrhydedd hwn, a'r oll oblegid gweinidogaeth rhyfedd Daniel Rowlands, yr hwn oedd yn fwy fel pregethwr na neb yn ei oes yn Nghymru, ac na neb a gododd ar ei ol. Offeryn wedi ei godi a'i ddonio gan Dduw i ddeffroi y wlad o'i chwsg, a newid ei harferion, gan sefydlu crefydd ysbrydol yn eu lle, oedd y dyn rhagorol hwn. Ac y mae yn debyg fod y nefoedd yn gweled na wnaethai ei lai y tro i wneyd y gwaith oedd eisiau ar y pryd.

Dywed Williams, Pantycelyn, yn ei Farwnad, am ei deithiau, ei lafur, a grym ei weinidogaeth, yn well nag y gall neb ddweyd ar ei ol. Mae ei Gofiant diweddaf yn cynwys ei weithiau, fel y gall y darllenydd ynddo gael gweled y gwrthddrych yn bur eglur, ond iddo gofio mai trwy ddrych yn unig y bydd hyny. Mae llawer wedi gwneyd ymgais ar ol ei farw i brofi mai Eglwyswr oedd, o ran egwyddor a barn, er mai gyda'r Ymneillduwyr y treuliodd y rhan ddiweddaf o'i oes. Yr ydym yn ddigon boddlon iddynt, ond iddynt gofio y ffeithiau canlynol,—1. Ei fod yn ymneillduo o'i blwyfydd i'r prif-ffyrdd a'r caeau am 25 mlynedd cyn iddo gael ei droi allan. 2. Mai am ei fod yn ormod felly, yn ol barn Eglwyswyr, y trowyd ef allan. 3. Fod yn well ganddo gymeryd ei droi allan na niwid dim o'i arferiad. 4. Iddo gael cynyg ar fywiolaeth Eglwysig Trefdraeth, yn Sir Benfro, gan John Thornton, Ysw., ac iddo ei gwrthod o gariad at bobl ei ofal, y rhai oedd yn Ymneillduwyr fel yntau; ac i'r gwr bonheddig ei fawrygu yn fwy fyth oblegid ei hunanymwadiad. 5. Iddo barhau yn Ymneillduwr hyd ei fedd. Ar yr un pryd, yr ydym ninau yn ymwybodol, iddo ddal yn Eglwyswr tra y cafodd lonydd, ac nad ymadawsai o'r Eglwys, oni bai iddo gael ei orfodi i wneyd hyny, yn hytrach nag aberthu ei gydwybod.

T.

PARCH. JOHN THOMAS, ABERTEIFI.

Gan fod ei enw ar gofrestr bedydd Eglwys y Ferwig, mae yn debyg mai yn y plwyf hwnw y ganed ef, sef yn agos i dref Aberteifi. Morwr oedd ei dad, a bu farw pan oedd ar fordaith. Ganwyd ef yn 1760, ac arferai gyfrif ei oedran wrth oedran un arall a fedyddiwyd â'r un dwfr ag ef. Cafodd ysgol nes dysgu ysgrifenu; ond gan ei fod o deulu tlawd, rhoddwyd ef i wasanaethu yn bur ieuanc. Bu ar ryw dymor o'i ieuenctid, yn nheulu parchus Llwyngwair. a phan yno, yr oedd yn myned i foddion gras yn fynych i Eglwys Nevern; a chan fod yr offeiriad yn ymuno â'r Methodistiaid, yr oedd diwygiad mawr yn yr ardal, a dywedai Mr. Griffiths, yr offeiriad, iddo weled John Thomas yn molianu lawer gwaith, ond na byddai un amser heb sylwedd yn ei fawl. Pan oddeutu 15eg oed, ymunodd mewn proffes gyda'r Bedyddwyr yn Penparc, gerllaw Aberteifi, a bu gyda hwy am 4 blynedd. Pa fodd bynag, wedi clywed y seraphaidd Dafydd Morris, Twrgwyn, yn Nevern, a'r efengylaidd, a hynod o boblogaidd, Mr. Llwyd, o Gaio, yr oedd yn rhaid iddo gael myned i wrando y Methodistiaid hyn ymhell ac yn agos. Yr oedd ef ac un arall yn myned mor bell a Chaerfyrddin i wrando pregethwyr hynod yr oes hono. Yr oeddynt yn lletya weithiau pan ymhell o ffordd, ac yn cadw dyledswydd gyda'r teuluoedd; ac ar ol iddynt ymadael, byddai llawer o son am y bachgen bach prysur," fel ei gelwid, "a'i weddiau syml." Dysgodd y grefft o ddilledydd. Gwnaeth ef hefyd, fel llawer, briodi yn rhy ieuanc, fel y gorfu arno fyw mewn tlodi am amser maith; ond yr oedd yn ffodus bod ei wraig, Martha, yn hynach nag ef o rai blynyddau.

Yn ei briodas, torwyd ei gysylltiad â'r Bedyddwyr. Ymunodd ar ol hyny â'r Methodistiaid, yn hen gapel bychan Cwmhowni, gan ei fod yn nes yno yn byw, nag Aberteifi na Thwrgwyn, yr unig ddau le yr oedd capelau gan yr enwad ar y pryd, heblaw y lle bychan a nodwyd, yr hwn oedd mewn cysylltiad â thŷ anedd fferm o'r enw. Gan ei fod mor dlawd, aeth i Lundain i weithio ei grefft, i gael gwella ychydig ar ei amgylchiadau. Tra yno, ymunodd mewn aelodaeth eglwysig â'r ychydig Fethodistiaid oedd ar y pryd yn addoli yn Wilderness Row. Ond elai yn fynych i wrando yr enwog efengylydd, y Parch. William Romaine, M.A., periglor St. Anne, a St. Andrew; a dywedai y buasai llwyr ddarfod am dano yn y brifddinas, oni bai gweinidogaeth y gwr ymroddgar hwnw. Wedi dyfod yn ol, aeth i fyw i Pendref, Aberteifi; ac yn fuan etholwyd ef yn flaenor yn y capel. Dywedir am dano ei fod ar y pryd yn dra llym a hallt i grefyddwyr claear ac Antinomaidd. Yn y diwygiad mawr a gymerodd le yn Aberteifi a Llandudoch, yn 1794, teimlodd nerthoedd y Gair, a gwelwyd ef yn gorfoleddu lawer gwaith. Teimlodd awydd pregethu o'r blaen, ac adfywiodd yr awydd hwnw yn awr. Wrth ddarllen, gwnelai esbonio ychydig ar y penodau; ond yn siomedig iawn iddo ef, nid oedd neb yn ceisio ganddo bregethu. Torodd pregethwr ei gyhoeddiad yno un Sabbath, a chynulleidfa fawr wedi dyfod ynghyd; wedi bod yn bur gyndyn i geisio ganddo, dyma un yn dweyd o'r diwedd, "Jacki bach, ewch a darllenwch benod, a gweddiwch, ac yna aiff rhai o honom ninau i weddio ar eich ol." Darllenodd Ioan iii., ac wedi myned i'r 14 a'r 15 adnodau, gwnaeth sylwadau rhagorol ar y ddwy, a gweddiodd i derfynu y cyfarfod, heb weddio yn y dechreu o gwbl. Yr oedd yr awydd i bregethu yn ei orlenwi. Yna eisteddwyd mewn cyngor i ofyn a wnelai Jacki bregethwr, ai na wnai. "Feallai mai dysgu rhyw wers allan o lyfr a wnaeth," meddai un. "Os dysga fe wersi fel yna yn barhaus, fe wna eitha' pregethwr," meddai un arall. O'r diwedd, daethant i benderfyniad, mor bell a cheisio ganddo fyned yn ddistaw i amaethdy bychan a elwid y Bryn, i gael un prawf drachefn arno. Yno cawsant lwyr foddlonrwydd ynddo, a phregethodd wedyn yn y blaen, nes ei dderbyn i'r Cyfarfod Misol. Pan geisiodd Eben Morris gan John Williams, Lledrod, ei holi yno, dywedodd, "Nis gwn beth i ofyn iddo, y mae wedi myned heibio i mi yn ddigon pell." Yr oedd Mr. Williams yn gwybod o'r blaen am dano; ac y mae yr hyn a ddywedodd, yn brawf o'r meddwl uchel oedd ganddo o hono, yn gystal a'i hunanymwadiad yntau fel hen offeiriad, ac un oedd erbyn hyn, y gwr parchusaf gyda'r Methodistiaid yn y sir. Yr oedd Mr. Thomas yn 34ain mlwydd oed pan ddechreuodd; ac ymhen haner blwyddyn ar ol ei dderbyn yn aelod o'r Cyfarfod Misol, derbyniwyd ef i'r Gymdeithasfa, yn bregethwr rheolaidd i'r Cyfundeb.

Aeth ar daith ar ei draed trwy Siroedd Mynwy, Brycheiniog, a Morganwg, a'r pryd hwnw y dywedodd Mr. Jones, Llangan,`am dano, "Mae yr hen Apostol Iago wedi adgyfodi yn y Gorllewin, a gwae i grefydd benrhydd mwy." Yr oedd ei weinidogaeth yn gosod noddfeydd celwydd ar dân; ac yr oedd ei ddull difrifol yn traddodi, yn peri dychryn i broffeswyr cnawdol ac arwynebol, fel nad oedd ryfedd i rai o honynt ddweyd, "Nid oes dim lle i bechadur gael ei fywyd yn mhregethau y dyn yna. Daeth yn allu mawr yn y Cyfundeb yn fuan. Bu am dri mis yn gwasanaethu yr achos yn Llundain, pryd y dywedasant am daro, "Nid yw ei weinidogaeth yn cyfeirio at dymherau a serchiadau y gwrandawyr, ond yn hytrach at y deall a'r gydwybod." Wedi ei ddychweliad o Lundain, nid aeth yn ol at ei grefft, ond cysegrodd ei hunan yn llwyr at wasanaethu gyda'r efengyl; ac yr ydym yn deall fod yn rhaid iddo wneyd, gan fod cymaint o alw am dano. Yr oedd ei synwyr cryf, ei dduwinyddiaeth iachus, a'i wybodaeth gyffredinol eang, yn ei gymhwyso i lenwi cylchoedd pwysig, pan yr oedd prinder mawr am bregethwyr felly yn y wlad. Gan mor enwog oedd, yr oedd yn un o'r 13 o bregethwyr cyntaf y Methodistiaid a ordeiniwyd yn Llandilo, yn 1811. Byddai rhai o'r hen bobl llygadgraff, wrth sylwi ar nodweddau gwahaniaethol enwogion y sir, yn galw Mr. Williams, Lledrod, yn esgob, Ebenezer Richards, yn ddiwygiwr, a John Thomas, yn Doctor Divinity. Yr oedd ei lafur yn fawr, yn enwedig ar ol marwolaeth Eben Morris; "nid oedd yn pregethu,"medd ei fywgraffydd, y Parch. Thomas Phillips, D.D., Goruchwyliwr y Feibl Gymdeithas, "ddim llai na phump neu chwe' gwaith yn yr wythnos," heblaw ar ei deithiau.

Yr oedd yn wr gweddol dal, ond yn denau. Wynebpryd bychan, yn lledu o'i ên i'r talcen. Cerdded a'i ben ymlaen ar ei gorff, ac yn gerddwr da iawn. Golwg drymaidd a difrifol oedd arno. Siaradai yn araf ac yn gryf, gan bwysleisio ar y manau pwysig, heb symud fawr ar ei gorff. John Elias, wrth ei glywed yn pregethu mewn Cymania yn y Gogledd, yn dweyd mai efe oedd y pregethwr mwyaf synhwyrol yn y Corff; a D. Charles (yr hynaf), Caerfyrddin, yn dweyd ei fod yn adeiladu â bricks heb ddim ceryg llanw. Dyma rai o'i ddywediadau:—"Dyna yw maint dyn, cymaint ag ydyw heb ei ddillad; dyna yw gwerth dyn, cymaint â dâl wedi talu ei ddyled." "Hi wnaeth noswaith fawr iawn o wynt neithiwr, dadwreiddiwyd llawer o dderw cryfion. Ai e, ebe y llall, ni chlywais i yr un twrw yn y byd. Pa le yr oeddit ti ynte? O, gyda'r myrtwydd yn y pant-yn y llwch." "I ba le y mae y dyfroedd yn llifo, ai i ben y mynyddoedd uchel? Nage, wr, lawr i'r dyffrynoedd. Os bendith a ddaw i'r odfa, pwy ai caiff? Ai y Phariseaid uchelfryd? Nage, y publican druan, yr hwn ni fyn edrych i fyny." "Y ffordd i wybod a ydym yn credu yn Nghrist, yw ceisio credu ynddo yn barhaus, ac nid gobeithio fod hyny wedi ei wneyd rywbryd." Pan oedd chwrer grefyddol wedi claddu mab mewn tipyn o oed, ac wedi bod mewn cystudd mawr ar ol hyny, dywedai wrth adrodd ei phrofiad yn yr eglwys, ei bod yn methu peidio grwgnach, ac mai hyny oedd yn ei gofidio. "Nid wyf," meddai yntau, "heb wybod am bethau o'r fath; ond y feddyginiaeth oreu yn eu herbyn yw gofyn yn daer am gael prawf newydd o faddeuant pechodau." Coffhaodd yr adnod hono, "Ac ni ddywed y preswylydd, claf ydwyf, canys maddeuir anwiredd y bobl a drigant ynddi,' Ië," meddai y wraig, "yn y nefoedd y maent felly." "O, nage," meddai yntau, "nid oes angen maddeuant yn y nefoedd, ond yma ar Ꭹ llawr y mae eisiau hwnw. Ië, meddai rhywun, nid ydynt yn glaf; ydynt, ond ni ddywedant claf ydwyf pan fyddo y prawf melus o faddeuant yn tawelu y meddwl yn nghanol pob gorthrymder a thrallod." "Pwy gafodd gysgod yr arch wrth fyned trwy'r Iorddonen? Neb ond y rhai oedd yn ei dilyn trwy eu bywyd."

Yn nhy y capel yr oedd yn byw am ran olaf ei fywyd. Yr oedd yn rhy lesg i fyned fawr o gwmpas wedi pasio ei 85 oed. Bu farw Chwefror 3, 1849, yn 89 oed. Mae yn ei gofiant ddeuddeg o bregethau, ac un ar ddeg o anerchiadau, pregeth angladdol iddo gan Richards, Abergwaen, oddiar Mat. ii. 6; a'r Cyngor a roddodd i bregethwyr ar ordeiniad yn Sasiwn Aberteifi, 1847. Claddwyd ef yn mynwent Eglwys y dref.

PARCH. JOHN THOMAS, ABERYSTWYTH.

Bu farw y gwr da hwn am wyth o'r gloch, nos Iau, Ionawr 4ydd. 1894, yn 51 mlwydd oed. Cafodd ei ddwyn i fyny yn Ysguborfach, Cwmystwyth. Enwau ei rieni oeddynt John ac Elizabeth Thomas. Yr oedd ei fam yn chwaer i'r Parch. Thomas Edwards, Cwmystwyth. Bu brawd iddo, ieuangach nag ef, o'r enw Mr. Lewis Thomas, am ryw 3 blynedd yn pregethu, a hyny yn obeithiol a chymeradwy iawn; ond bu farw o'r darfodedigaeth. Cafodd gwrthddrych y sylwadau hyn ysgol dda yn ysgoldy yr Hafod, gydag un William Lloyd, pregethwr Wesleyaidd. Bu am beth amser yn Morganwg, ac edrychai byth gydag edmygedd a mawrhad at gapel bychan yno, lle derbyniwyd ef at grefydd ac yn gyflawn aelod. Yr oedd o'i febyd yn un dichlynaidd ei rodiad, ond yr oedd cyfnewidiad amlwg ynddo wedi iddo ddyfod yn gyflawn aelod. Pan oddeutu 22 oed, symudodd at Mr. Thomas Howells, grocer, Aberystwyth. Wedi bod yma am oddeutu 6 mlynedd aeth yn glerc i Meistri Thomas a Roberts, marsiandwyr coed. Yr oedd bob amser yn enill serch ac ymddiriedaeth pa le bynag yr elai. Dechreuodd bregethu tua'r flwyddyn 1876. Ni chafodd fanteision athrofaol, ond yr oedd yn ddarllenwr mawr ar yr hen dduwinyddion Piwritanaidd, a chyrhaeddodd wybodaeth helaeth mewn duwinyddiaeth. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy iawn gan yr eglwysi, a chyrhaeddodd safle uchel yn ei Gyfarfod Misol, fel yr oedd yn dyrchafu yn gyflym i fod yn un o'i arweinwyr. Neillduwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn Nghymdeithasfa Dowlais, 1881. Deng mlynedd yn ol, ymgymerodd â bugeilio eglwys Gosen, a symudodd i Rhydfelin i fyw, hyd nes i'w iechyd ddadfeilio. Cafodd bir gystudd, a dioddefodd ef yn dawel. Yr oedd yn bur gyfarwydd yn y Beibl, a chafodd ef yn ffynhonell llawer o ddiddanwch hyfryd iddo yn ei ddyddiau blin. Claddwyd ef yn mynwent Penygarn. Canodd y penill canlynol ychydig cyn marw:—

"O! foreuddydd dedwydd iawn
Pan ddelo'r dorf yn un,
O bob cwr i'r ddaear faith,
I gwrdd a'u Harglwydd cûn:
Derfydd gofid a phob gwae,
A derfydd temtasiynau maith;
Derfydd pechod mawr ei rwysg,
A derfydd dyrus daith."

Yr oedd yn un o daldra cyffredin, ond yn denau o gorff. Wynebpryd gweddol grwn, coch, a hardd. Gwallt yn tueddu at fod yn ddu. Yr oedd yn siaradwr da, fel eraill o'r tylwyth, yn enwedig y rhai fu ac sydd yn y weinidogaeth. Yr oedd yn gyfaill mynwesol, ac yn ymddangos bob amser fel am wneyd y goreu o gyfaill, a gwneyd y goreu iddo. Dywedir hefyd wrthym ei fod yn ddidderbynwyneb mewn barn; ei fod yn meddu llawer o wroldeb i amddiffyn cyfiawnder mor bell ag y byddai ef yn deall. Ond ei brif ragoriaeth fel gweinidog oedd ei ffyddlondeb a'i weithgarwch. Yr oedd ganddo lygaid trefniedydd da, a meddai ar galon i weithio cynlluniau allan, er gorfod wynebu llawer o rwystrau. Ond nid oedd cryfder ei gorff yn ateb i yni ac angerddoldeb ei ysbryd i fyned yn ei flaen. Felly pallodd ei nerth ar y ffordd, ac ehedodd ei ysbryd at Dduw. Ac y mae yr eglwysi yn teimlo fod bwlch mawr ar ei ol. Buasai yn dda genym gael rhoddi rhagor yma am dano, ond ni chawsom ond prin glywed am dano cyn myned i'r wasg.

PARCH. JOHN WILLIAMS, LLEDROD.

Ganwyd ef yn Pengwernhir, ffermdy i'r dwyrain o Pontrhydfendigaid, yn 1747. Mab ydoedd i William Rees Mathias, Llwynhendy, ac Anne Rees, merch Dolfawr. Gan i'w dad farw pan nad oedd ef ond 4 oed, cymerwyd ef, a Martha, chwaer ieuangach nag ef, at eu mamgu, i Dolfawr. Yr oedd modryb iddo chwaer ei fam, yn Dolfawr, yr hon a adeiladodd gapel cyntaf Pontrhydfendigaid, ar ei thraul ei hun. Yr oedd yn enwog am dri pheth pan yn ieuanc, sef mewn rhifyddiaeth, mewn chwareu pêl, ac mewn codymu. Yn amser ei ieuenctid ef y sefydlwyd ysgol enwog Ystradmeurig, a chafodd ef y fraint o yfed yn helaeth o'i haddysg, a chafodd yr addysg oddiwrth sylfaenydd haelfrydig yr ysgol ei hun, sef Edward Richard, y bardd a'r ysgolor gwych. Wedi bod yma am rai blynyddau, anfonwyd ef i ysgol yn Nghaerfyrddin, yr hon oedd yn cael ei hystyried yn uwch nag un Ystradmeurig, a'r hon oedd ar y pryd dan reolaeth y Parch. Mr. Maddon. Yna yr oedd yn barod i'r offeiriadaeth. Yr oedd gan y Parch. Daniel Jones, Sunhill, Tregaron, bedair Eglwys blwyfol yn ei feddiant, sef Tregaron, y Fynachlog, Llanwnws, a Lledrod. Gan ei fod yn myned yn hen, yr oedd arno eisiau curad. Meddyliodd am Mr. Williams, ond ofnai ei fod yn rhy ffafriol i'r Methodistiaid, gan iddo glywed ei fod yn eu gwrando yn fynych. Pa fodd bynag, galwodd am dano, a holodd ef yn fanwl am yr hyn a glywodd; a gwadodd Mr. Williams yr oll, gan ofyn pa fath ddynion oeddynt ? "O! pobl ydynt," meddai Mr. Jones, "sydd yn cyniwair trwy y wlad, gan hau pob math o heresiau gwenwynig a dinystriol." Wedi gweled cyfeiriad y gwynt, dywedodd yntau, "O! nid adwaen i neb o'r fath ddiawled, Syr, ac os mynwch, mi fyna'i brofion oddiwrth ddynion cyfrifol nad oes fynwyf a'r fath rai diffaith." "Na, na," ebai'r offeiriaid, "nid oes eisiau i chwi drafferthu, mae eich iaith yn ddigon i brofi hyny." Mae yr hanes yn profi tri pheth-1. Na wyddai Mr. Williams fawr am allu yr efengyl, nac am foesoldeb uchel ar y pryd. 2. Fod bywyd y Methodistiaid ar y pryd yn fwy moesol a chrefyddol nag yr ymddangosai Mr. Williams i Mr. Jones, a bod yr olaf yn gwybod hyny yn dda. 3. Fod gelyniaeth yn Mr. Jones at y Methodistiaid, ac mai un yn eu rhegu oedd oreu ganddo gael yn gurad. Gan ei fod yn fath un mor dda yn ngolwg Mr. Jones, rhoddodd gyflwyniad iddo fyned at yr esgob, Dr. Charles Moss, yr hwn a'i hurddodd yn ddiacon, Awst 19, 1770, pan oedd yn 23ain oed; ac yn offeiriad yn Medi 1, 1771, i wasanaethu fel curad yn Lledrod a Llanwnws.

Priododd yn y flwyddyn y cafodd ei gyflawn urddau, âg Anne, merch Evan Rees Prosser, Llwyngronwen, ac aethant i Ty'nyddraenen, ffermdy yn ymyl Swyddffynon, i fyw. Yma yr oedd pan gafodd argyhoeddiad wrth glywed Williams, offeiriad Llanfaircludogau, yn pregethau yn ei Eglwys ef yn Lledrod. Yr oedd y Williams hwn yn hoff iawn o'r Methodistiaid, a phregethai yn danllyd iawn ar hyd a lled y wlad. Ar ol y bregeth aeth yn galed ar Mr. Williams, a bu am lawer o amser yn methu cysgu, a Mrs. Williams yn ei wylio rhag ofn y gwnaethai ddiwedd arno ei hun. Cerdded ar hyd y meusydd oedd a llawer o ddrain duon ynddynt y byddai, gan fyfyrio a gweddio yn barhaus. Llosgodd ei hen bregethau yn ulw; a phan oedd Mrs. Williams yn gofyn iddo ei eglurhad am hyny, dywedodd. "Eu llosgi ddylent gael ni wnaethant les i neb." Dywedodd lawer wrth bregethwyr mewn Cyfarfodydd Misol a Chymanfaoedd am yr amser caled fu arno. "Bum i am flynyddoedd," meddai, "heb wybod beth oedd gwneyd yr un bregeth; ond pan aeth yn galed arnaf am genadwri, o dan y setting ddu y ce's i hi; ac yn union wedi i mi ei chael, aeth yn rhy hallt i'r Llanwyr, fel y gorfu arna'i eu gadael, ac y mae yn dda gen i byth i mi fyn'd i rywle y gallwn gael dweyd fy meddwl wrth y bobol." Dro arall dywedai, "Ni ddylai yr un pregethwr fod heb ryw borth neu ystafell i fyn'd yno am genadwri; yr wyf yn siwr mai o dan y ddraenen ddu y ce's i yr holl bregethau a wnaeth les i'r bobol." Yr oedd yn pregethu nes cynhyrfu yr holl wlad wedi iddo ddechreu ar ol ei droedigaeth. A chan ei fod yn llenwi yr Eglwysi ymhob man, a'r fath dyru ar ei ol, penderfynwyd ei dori allan o'r Llanau; a'r Sabbath yr oedd hyny i gael ei wneyd, aeth ef at Mr. Rowlands, Langeitho, ac ni chynygiodd byth fyned yn ol i'r Eglwys, er iddo gael ei gymell ar ol hyny i gymeryd Lledrod a Llanwnws. Derbyniodd yr hen gynghorwr Siôn Camer, Tregaron, ef yn aelod yn eglwys Swyddffynon, oedd y pryd hwnw yn cyfarfod yn ffermdy Penlan. Yr oedd hyn tua'r flwyddyn 1782.

Teithiodd lawer trwy Dde a Gogledd, pan oedd y tân dwyfol lonaid ei ysbryd, a'i lais fel udgorn arian, ac y mae lle i feddwl iddo fod yn offeryn i achub canoedd o'i wrandawyr. Yr oedd yn Llangeitho yn cynorthwyo Mr. Rowlands ar Sabbothau cymundeb, mewn undeb â Williams, Pantycelyn, ac eraill. Fel hyn cyfanogodd yn helaeth o dân Llangeitho, a gwelodd eu mynediad allan a'u dyfodiad i mewn, a'u holl drefniadau, fel yr oedd yn offeryn cymwys i arwain y Methodistiaid ar ol colli y tadau. A bu ef am yn agos i 20 mlynedd yn y sir hon heb neb ond efe, a'r Parch. John Hughes, offeiriad Nantcwmlle, yn gweinyddu yr ordinhadau. Digiodd Mr. Hughes am i'r Methodistiaid ordeinio yn 1811, ac ni chynorthwyodd hwynt ar ol hyny. Ar ol yr ordeiniad, Mr. Williams fyddai yn cael yr anrhydedd o weinyddu y tro cyntaf bron yn yr holl gapelau. Er fod y fath ddynion yn y sir a'r ddau Eben, sef Ebenezer Morris, ac Ebenezer Richards, ac eraill, efe a gyfrifent yn esgob y sir. Gan ei fod yn ddyn mor hynaws a gostyngedig, ni chymerent lawer am wneyd dim o bwys heb ei gyngor ef. I ddangos ei ostyngeiddrwydd fel hen offeiriad urddedig oedd a'r fath barch iddo gan y wlad, dywedir iddo gael ei gyhoeddi i bregethu am 10 o'r gloch yn Nghymdeithasfa Abergwaen, ar ol y Parch. Ebenezer Morris, ac i Jones, Llangan, gyfarfod â Mr. Morris cyn yr odfa, a dweyd wrtho, "Eben bach, paid a phregethu heddyw ar ol yr hen offeiriad." Ond mynodd Mr. Williams fod yn gyntaf, a dywedai ar ol hyny na chymerai dref Abergwaen yn grwn am fyned ar ol Eben. Yr oedd Eben yn awr yn ei amser goreu, ac yntau a'i lais wedi gwaethygu yn fawr yn ei flynyddoedd olaf, felly yr oedd yn adnabod ei le yn dda; a gwell oedd ganddo roddi anrhydedd i'r efengyl na mynu y peth a ystyrid yn anrhydedd arno ef.

Daeth at y Methodistiaid yn yr adeg briodol, pan oedd angen am un o'i fath, yn enwedig yn y Deheudir, a mwy fath yn Sir Aberteifi. Daeth Mr. Charles o'r Bala at y Methodistiaid bron yr un pryd ag ef, a llanwodd y ddau gylchoedd eang o ddefnyddioldeb. Gwaith Mr. Williams yn benaf oedd pregethu a chadw cyfarfodydd eglwysig, ynghyd a gweinyddu yr ordinhadau. Syrthiodd arno hefyd lawer o'r gofal am drefniadau y Cyfundeb yn y sir, ac yn y Deheudir, pan nad oedd fawr neb arall o'i safle ef i'w cael. Yr oedd ei berson yn olygus, oddeutu dwy lath o daldra; wyneb hir, ac ychydig o ôl y frech wen arno; trwyn lled hir, a llygaid yn tueddu at fod yn gauad, ond bob amser yn gwreichioni o sirioldeb, nes gwneyd pawb yn ei gymdeithas yn ddedwydd. Yr oedd yn un a allai ddal gwaith caled. Yr oedd gofal fferm arno trwy ei oes; eto teithiai ymhell ac yn agos ar bob math o dywydd. Llawer gwaith ar rew ac eira a gwlaw y buwyd yn ceisio ei ddarbwyllo i aros yn ei dŷ, ond yn ofer; ac erbyn dyfod yn ol, nid oedd yn ddim gwaeth. Yr oedd yn ddiarhebol am ei brydlondeb; mynai ddechreu at y funyd. "Yr oedd ganddo watch fechan gymaint a llygad eidion," meddai blaenor wrthym, "ac â hono y rheolai y sir." Mae hanes iddo ddechreu pan nad oedd ond un yn bresenol; ond wedi unwaith, a dwy, a rhagor, dysgodd y wlad i ofalu bod mewn amser, yn enwedig pan fyddai ef i fod yno. Ni thalai barch i fonheddig yn fwy na gwreng. Unwaith yr oedd yn Capel Drindod, lle y bu yn fisol am flynyddoedd lawer: yr oedd Lady Lloyd, Bronwydd, yn myned yn ei cherbyd i wrando Griffiths, offeiriad enwog Nevern, i Landyfriog. Ond wrth fyned heibio y lle y lletyai Mr. Williams, anfonodd y gwas i ofyn a wnelai beidio dechreu yr odfa mor gynted ag arfer, er mwyn iddi hi allu cyrhaeddyd yn ol mewn pryd. "Dywedwch wrth Lady Lloyd," meddai, y dechreuaf fi yr odfa at y funyd, eled hi neu beidio." Yr oedd ganddi ormod o barch i Mr. Williams i fyned, felly cafodd y gwas droi y ceffylau yn eu hol. Yr oedd ei ofal am y ddisgyblaeth yn wybyddus i'r holl wlad, fel yr oedd ymddiried pawb ynddo y byddai yn sicr o sefyll dros y gwirioneddd hyd y gwyddai ef. Yn yr holl bethau a nodwyd, daeth yn allu cryf yn yr enwad. I osod gwerth mwy o lawer ar ei fath ef, yr oedd y fath barch yn cael ei dalu i wr o urddau esgobol gan y rhan fwyaf o'r Methodistiaid am fwy na 30 mlynedd wedi iddo ef ymuno a hwy, fel yr oedd yn dda ei fod ef ganddynt i wneyd gwaith gweinidog, nes iddynt ddyfod yn fwy goleuedig gyda golwg ar Anghydffurfiaeth ac Ymneillduaeth. Yr oedd ar yr un pryd yn ddolen gydiol rhwng urddiad esgobol a neillduad i waith y weinidogaeth gyda'r Methodistiaid, a gwnaeth lawer o waith gydag addfedu meddwl yr eglwysi i dderbyn yr elfenau o law gweinidogion Ymneillduol, a chyflwyno eu plant iddynt i gael eu bedyddio. Pregethodd lawer, a siaradodd ac ymresymodd lawer, a mwy felly nag un offeiriad arall, o blaid y rhesymoldeb o ordeinio yn y dull Ymneillduol. Yr ydym yn cael hefyd iddo wrthod gweinyddu Swper yr Arglwydd yn Llangeitho, oblegid ofergoeledd y bobl yn dweyd na oddefent i Mr. Richards, Tregaron, ei weinyddu, ac yntau wedi ei neillduo i hyny; a gwnaeth hyny lawer er dyfod a'r eglwys yno yn addfed i hyn. Yr oedd llawer yn dweyd wrtho ei fod yn dweyd yn ei erbyn ei hun; ond yr oedd yn eu troi yn ol gyda dirmyg, oblegid eu hanwybodaeth a'u hofergoeledd. Yr oedd y ddau Eben, trwy eu doniau ymresymiadol helaeth, yn gwneyd llawer tuag at hyny; ond yr oedd drwgdybiaeth yn meddwl y bobl mai er eu mwyn eu hunain yr oeddynt hwy yn dadleu. Gan fod Mr. Williams wedi cael urddau esgobol, yr oedd un gair pleidiol oddiwrtho ef yn fwy na llawer oddiwrthynt hwy. Ac nid oes neb a all ddweyd faint y gwerth oedd ei fod gyda'r Methodistiaid yn y sir hon yn y fath gyfwng mor bwysig yn eu hanes.

Bu yn fendithiol iawn fel pregethwr. Am fwy nag 20 mlynedd wedi cael troedigaeth, pan oedd yn llawn tân diwygiadol, a'i lais yn ddigon cryf a pheraidd i'w weithio oll yn rymus ac effeithiol, yr oedd yn cael dylanwad rhyfedd ymhob cyfeiriad lle yr elai. Bu mewn twymyn boeth, ac yn annhebyg o gael byw. Ar ol hono, gwaethygodd ei lais; ond ar hyd ei oes, yr oedd yn cael ambell odfa fyddai yn ysgubo y cwbl o'i blaen. Yn Nghymanfa Capelnewydd, Sir Benfro, yn olaf am ddau o'r gloch y dydd diweddaf, pan yn pregethu ar y geiriau, "Yr hwn a'n achubodd ni ac a'n galwodd," &c., tua diwedd y bregeth, fel y dywedai ein hysbysydd, disgynodd megis "pelen o dan" i ganol y gynulleidfa. Yr hyn a effeithiodd ar bawb oedd y darluniad roddodd o ddyn yn myned i golledigaeth. Yr oedd ei freichiau mawrion yn estyngedig dros y stage i lawr, ac yn gwaeddi, "A welwch chwi e', a welwch chi e' yn cymeryd ei redfa yn ei rwysg dros y dibyn i lawr! 'Dyw e'n gwybod dim am y perygl sy'n ei aros, ond dyma fe ar y dibyn ! A oes neb all ei safio ? A oes neb? Ond beth wnaf ofyn, nac oes neb ond Duw. Gofynwch bobl yn marwedd dy nerth cadw blant marwolaeth.' Bydd lawr yn union, os na ddaw ymwared." Yr oedd yno lawer ar flaenau eu traed yn edrych a welent yr annuwiol yn myned i lawr, fel y dywedai y pregethwr gan gymaint y dylanwad. Ar ddiwedd yr odfa, rhoddodd y penill hwnw allan, "Caed ffynon o ddw'r ac o waed.' Bu yr emyn yn delyn i ugeiniau i ganu ar y ffordd i'w cartrefi. Pan oedd un o'r rhai oedd yn molianu ar y ffordd i Gastellnewydd, wedi dyfod at y dref, gwaeddodd, "ïe, a Chastellnewydd hefyd ddaw'n lân." Daeth y bobl allan wrth yr ugeiniau i glywed a gweled telynorion Seion, cyn iddynt fyned i mewn i gapel Bethel i wrando yr hen efengylydd melus, y Parch. John Evans, Llwynffortun.



Argraffwyd gan E. W. EVANS, Swyddfa'r 'Goleuad,' Dolgellau.



Nodiadau

golygu
  1. Drwy amryfusedd y cysodydd, rhoddwyd yr enw yn Morgan David Jones ar tudal 75, yn lle Morgan David James
  2. Drwy amryfusedd y cysodydd, rhoddwyd yr enw yn Morgan David Jones ar tudal 75, yn lle Morgan David James
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.