Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn)/Cyflwyniad

Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn) Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn)

gan John Gwyddno Williams

Gair At Y Darllenydd

Y CYFLWYNIAD

CYFLWYNIR y Cofiant a'r Gweithiau hyn i'r Eglwysi a wasanaethodd ein diweddar annwyl frawd mor ffyddlawn am gynifer o flynyddoedd—yn arbennig felly yr Eglwysi yn Conwy, Fforddlas, Eglwys Bach, a'r Roe Wen-yn y gobaith y bydd cymdeithas yn y modd yma â "Tomos Efans, Ffordalas" yn foddion i ail-ennyn dawn Duw ynddynt.

Boed hedd a llwyddiant byth-gynyddol i'r Eglwysi uchod, ac i'r holl Eglwysi yng Ngogledd Cymru y bu ef yn eu gwasanaethu yn Efengyl Iesu Grist. Yr Arglwydd tirion fyddo gyda'ch ysbryd chwi oll, ac a'ch llwyddo ym mhob rhyw fodd.

Yr eiddoch yn bur byth,
J. GWYDDNO WILLIAMS.

LLYS NEFYDD, LLANNEFYDD.