Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn)/Gair At Y Darllenydd

Cyflwyniad Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn)

gan John Gwyddno Williams

Mynegai

GAIR AT Y DARLLENYDD

ANNWYL DDARLLENYDD,

Gŵr a edmygwn er yn fachgen oedd y diweddar Barch. Tomos Efans (Cyndelyn), Fforddlas, Glan Conwy, ac fel yr awn ymlaen mewn bywyd tyfai yr edmygedd hwnnw yn fwy-fwy. Ystyriwn bob amser ei fod yn ŵr duwiol, galluog a diwylliedig i'r Arglwydd a'i gyd-ddynion. Gwaith hawdd oedd fy nghael i addo ysgrifennu ei Gofiant a golygu ei Weithiau, &c., am y credwn na fu neb erioed teilyngach o gofiant. Ond wedi ymgymryd â'r gorchwyl a gweled leied oedd y defnyddiau at y gwaith, bu yn edifar gennyf addo, am yr ofnwn na fedrid gwneud dim teilwng o'r gwrthrych —er gweithio'n galed am wythnosau, yn methu dod ar draws dim perthynol iddo, tra yn gweled bob dydd ddigon o ddefnyddiau cofiantau i'w gyd-fforddolion, ond dim gair am Tomos Efans yn llenyddiaeth gofnodol ei gyfnod! Dylasai'r gwaith hwn fod wedi ei wneud ers dros ugain mlynedd yn ôl, pan oedd digon o'i gyfoedion a'i edmygwyr yn fyw. Diau y cawsid felly lawer o bethau gwir fuddiol i bawb. Erbyn heddiw y mae dros saith mlynedd ar hugain wedi cerdded, y naill ar ôl y llall, dros ei fedd a'i hanes, a blynyddoedd geirwon a fuont, llawnion o elfennau dinistr i bob peth o'r nodwedd yma. Cyfododd cenhedlaeth newydd nad adwaenant Tomos Efans, Fforddlas, ac nad oes awydd arnynt am adnabod neb o'i neillduolion cymeriadol ef. Ond pa ddiben cwyno? Gwneud y gorau o'r presennol yw ein dyletswydd. Cafodd yr awdur bleser a budd yn y gwaith fel y mae, a’n hyder yw y cei dithau, ddarllenydd hynaws, flas arno a bendith trwyddo. Ac i'r sawl sydd yn chwilio am feiau ac yn byw arnynt, dyma le bras iddynt.

Gyda golwg ar Waith Cyndelyn, nid detholiad ydyw. Ond awyddai'r teulu i'r oll oedd ar gael ganddynt fod i mewn. Gwyddis y gallesid cryfhau ambell i bennill a llinell, ond nid ei eiddo ef fuasent wedyn. Felly daw ei waith i'r darllenydd fel y gadawodd ef mewn llawysgrifen, ag eithrio'r orgraff. Buasai'r Golygydd yn caru rhoddi nifer o'i bregethau i mewn, a diau y buasent yn ddiddorol a derbyniol, ond nid oedd y teulu yn awyddus, gan y buasai'n mwyhau'r llyfr ac yn ychwan- egiad at y gost o'i ddwyn allan.

Eiddunwn fendith Duw pob gras ar y gwaith syml hwn, gan hyderu y bydd yn nerth i'r saint i fod yn fyddlonach ar eu gyrfa. Ac os cyfyd awydd mewn un enaid am fod o'r un nodweddau â Tomos Efans (Cyndelyn), bydd yn ateb pwrpas ei ysgrifennu a'i gyhoeddi. Nawdd Duw fyddo dros ei deulu annwyl, a throsot tithau, ddarllenydd hoff.

Yr eiddoch byth yn bur,
J. GWYDDNO WILLIAMS.

LLYS NEFYDD, LLANNEFYDD,

TREFNANT, Gorffennaf, 1935.