Bywyd a Gwaith Henry Richard AS/Atodiad

Pennod XXI Bywyd a Gwaith Henry Richard AS

gan Eleazar Roberts


ATODIAD:

Yn cynnwys rhai o syniadau neilltuol Mr. Richard
ar y cwestiwn o Ryfel a Heddwch.

GAN fod hanes bywyd a gwaith Mr. Richard mor gymhlethedig â'r cwestiwn mawr o Heddwch, yr ydym yn teimlo nad anerbyniol gan y darllennydd fydd cael engreifftiau o'r modd y byddai efe yn edrych ar y cwestiwn hwnnw yn ei amrywiol agweddau, ac yn enwedig gyda golwg ar y dadleuon a ddygid ymlaen gan rai dynion da weithiau, er ceisio amddiffyn rhyfel. Bydd hyn yn help i'r darllennydd ffurfio barn dêg ar olygiadau Dr. Richard ar y pwnc. Ceisiwn roddi talfyriad o ychydig o'r engreifftiau hyn, wedi eu cymeryd yn bennaf o ysgrifau Dr. Richard yn yr Herald of Peace, Cyhoeddiad misol y Gymdeithas Heddwch. Nodwn y rhifyn lle y mae y pwnc yn cael ei drin yn helaeth.

1. Y Gyfraith Filwrol.—Dywed Syr Charles Napier, un o'r awdurdodau uchaf ar bwnc o'r fath yn ei Remarks on Military Law, mai unig ddyledswydd milwr ydyw ufuddhau i'w Gadfridog, gan fod ei gydwybod a'i gyfrifoldeb i Dduw a'i gyd-ddyn yn gwbl yn ei law ef. Dyma hefyd ddatganiad y Duc Wellington. Dywedai y Parch. J. J. Freeman, mewn Cyfarfod Cenhadol unwaith wrth gyfeirio at y modd yr ymddygid at y Caffrariaid, fod Syr Harry Smith, Llywydd y Cape, wrth annerch y milwyr yn ei ddull cyffrous ei hun wedi arfer y geiriau hyn,—" Filwyr, eich dyledswydd gyntaf ydyw ufuddhau i'ch swyddogion, a'r ail ydyw ufuddhau i Dduw." Mae Mr. Richard yn gofyn yn ddifrifol, pa sawl Cristion oedd yn teimlo, fel y dylai, wrth glywed datganiad y Cadfridogion a enwyd fod y milwr yn gyfrifol i'w Swyddog o flaen ei Dduw, ac yn ystyried nad oedd hyn ond ffaith sydd wrth wraidd Cyfraith Filwrol Prydain? Beth pe dywedai un o'r milwyr, "Nid wyf yn credu fod y rhyfel hwn yn un cyfiawn, rhaid i mi ufuddhau i Dduw, am hynny, nis gallaf ymladd;" a gydnabyddid y fath blê am foment mewn llys milwrol? Os na wneid, meddylied ein cyfeillion am gyfundrefn sydd yn gwneud peth fel hyn yn angenrheidiol. Herald of Peace, 1851, t.d. 142.

Yn yr Herald of Peace am y flwyddyn 1860, t.d. 114 a 126, y mae Mr. Richard yn croesi cledd a'r Parch. F.D. Maurice ar y cwestiwn hwn. Dywed Mr. Maurice fod llawer yn petruso rhoddi addysg grefyddol i filwyr, rhag y cyfyd yn eu meddyliau gwestiynau gyda golwg ar gyfreithlondeb rhyfeloedd arbennig. Ond dadleua Mr. Maurice nad oes dim a wnelo'r milwr â'r cwestiwn o gyfiawnder unrhyw rhyfel, oblegid nis gall dim a wna efe newid barn y Llywodraeth; ei waith ef ydyw ymladd, ac nid arno ef y mae y cyfrifoldeb. Mewn erthyglau nerthol a chyrhaeddgar iawn, y mae Mr. Richard yn gwasgu adref y cwestiwn, Ai nid oes rhyw derfyn i fod ar ufudd-dod i'r Llywodraeth? Onid ydyw pob un drosto ei hun i roddi cyfrif i Dduw? Pe gorchmynnid i'r milwr ladd ei dad, neu pe gwaherddid iddo addoli Duw, a ydyw yn ddyledswydd aruo ufuddhau? Mae bod y swydd filwrol yn arwain i'r fath ganlyniadau, ac yn gorfodi dynion o gymeriad mor ddilychwin a Mr. Maurice i'w hamddiffyn yn gondemniad ar y gyfundrefn filwrol bresennol ar unwaith. Difynna Mr. Richard hefyd eiriau ereill o eiddo Syr Charles Napier, yr hwn yn ei Ddydd-lyfr a ddywed, mai "gorchfygu teimladau crefyddol ydyw'r ffordd yn gyffredin i wneud milwr da."

Mae yr un pwnc, mewn gwedd wahanol, yn cael ei drin yn ei Adolygiad ar Fywyd Cadben Hedley Vicars yn yr Herald of Peace am 1856, t.d. 66. Yr oedd gwaith dynion da fel Hedley Vicars yn aros yn y fyddin ac yn cyflawni y fath weithredoedd ysgeler ac anfad ag a wnaeth efe, yn anesboniadwy i Mr. Richard; ond ar yr un egwyddor ag y deallir gwaith y diweddar John Newton ya cario y gaethfasnach ymlaen, sef diffyg ystyriaeth.[1]

2. Rhyfel ac Egwyddorion Cristionogaeth.–Y syniad cyffredin yw y bydd rhyfel yn darfod o angenrheidrwydd, pan fydd egwyddorion Cristionogaeth wedi ennill tir mwy cyffredinol yn ein mysg. Ond y mae Mr. Richard, mewn erthygl yn yr Herald of Peace am 1863, t.d. 222, yn dadleu fod hynny yn dibynnu ar y cwestiwn pa fath Gristionogaeth a ddysgir. Pe troid y byd at Gristionogaeth yfory, tra y pregethid y Gristionogaeth a bregethir mor fynych yn awr am gyfreithlondeb rhyfel, ni roddai hynny derfyn arno. Yr oedd gan Fwrdd Cenhadol yn America Genhadaethau llwyddianus yn Cherokee a Choctaw, ond nid oedd eu Cristionogaeth yn rhwystro i'r Cenhadon amddiffyn Caethwasiaeth, er hynny. Ac onid oes llawer o ddiwinyddion enwog yn awr yu dadleu nad oedd rhyfel rhwng Cristionogion yn bechod?[2] Tystiai Esgob New Zealand fod llawer o'r brodorion Cristionogol yn anewyllysgar i gymerid y Cymun, gan fod y Llyfr Gweddi Cyffredin yn cyfreithloni rhyfel. Yr oedd yu rhaid dysgu y dynion hyn oedd wedi derbyn Cristionogaeth, nad oedd dim sail i'w tynerwch cydwybod!

Un o'r ymgeisiadau mwyaf cywrain i gysoni rhyfel â Christionogaeth ydyw eiddo Canon Mozley, yn un o'i bregethau o flaen Athrofa Rhydychain. Cofus gennym fod gweinidog Cymreig enwog unwaith wedi galw ein sylw at y bregeth hon fel un ag oedd yn myned o dan wraidd egwyddorion y Crynwyr. Cafodd argraff wahanol iawn, pa fodd bynnag, ar ein meddwl ni. Mae y Canon yn sylfaenu ei ymresymiad ar y gosodiadau hynod ac anesboniadwy a ganlyn,—"Mae Cristionogaeth," meddai, "yn mabwysiadu natur. Fel rhan o natur y mae yn mabwysiadu cenhedloedd fel yn cyfansoddi, ar yr un pryd, raniad a chyfansoddiad y bywyd dynol. Wrth fabwysiadu natur, y mae Cristionogaeth yn mabwysiadu rhyfel, gan fod rhyfel yn un o hawliau mewnol natur. Y mae rhyfel yn un o'r hawliau hyn, oblegid yn rhaniad dynolryw i genhedloedd gwahanol y mae rhyfel y angenrheidiol!"

Os oes rhyw un yu tybied fod rhyw wirionedd o dan y gosodiadau cyfriniol cywrain a thywyll hyn, cynghorem ef i ddarllen tair erthygl arnynt gau Mr. Richard yn yr Herald of Peace am 1877, t.d. 268, 282, a 328. Rhaid fod achos yn anobeithiol pan y gorfodir gŵr mor ddysgedig a'r Canon Mozley i weud y fath haeriadau ag a wna yn y bregeth dan sylw. Nid rhyfedd i Mr. Richard ddweud wrth derfynnu ei Adolygiad galluog, na ddarllennodd erioed bregeth gyda mwy o dristwch, nac un sydd yu fwy tebyg i wauhau ffydd y bobl yng Nghrefydd Crist, na'r bregeth hon.

3. Cristionogaeth yn ymarferol yn awr.—Mynych y dywedir nas gellir cario allan egwyddorion heddychol y Testament Newydd yn awr; ond pan ddaw y byd yn nes i'w le y gellir gwneud hynny. Nid yw hyn ond defnyddio y feddyginiaeth, medd Mr. Richard, wedi i'r claf wela. Yn y byd drwg presennol y mae y gwersi, "Na wrthwynebwch ddrwg" i'w gweithio allan. Os aroswn i athrawiaethau Cristionogol newid y byd, gallwn gael ein siomi. Mae digon o engreifftiau o uniongrededd athrawiaethol yn cydfyw a'r gweithredoedd mwyaf anfad ar ran Cristionogion. Yr oedd rhai o'r dynion duwiolaf a mwyaf uniongred yu amddiffyn y gaethfasnach. Rhaid troi tanbeidrwydd goleuni llawn yr Efengyl ar y drwg penodol sydd eisieu ei symud cyn y gwelir ef, ac y gwneir hynny. Herald of Peace, 1850, t.d. 6.

4. Rhyfel a goruwchlywodraeth Duw.—Nid oes dim yn effeithio mwy i beri i rai pobl grefyddol fod yn hwyrfrydig i gondemnio rhyfel na'r ffaith ei fod weithiau yn offeryn yn llaw Duw i ddwyn oddiamgylch amcanion neilltuol. Nid oedd Mr. Richard yn gwadu y ffaith, ond gofynnai, Beth, er hynny? a oeddem i fabwysiadu yr egwyddor "Gwnawn ddrwg fel y del daioni?" Meddylier am ddynion yn ymuno i wrthwynebu pob math o ormes ac erledigaeth grefyddol, a rhyw un yu dadleu yn eu herbyn, gan fod "gwaed y merthyron yn hâd yr eglwys!" Beth a ddywedid pe symudid gormesdeyrn—un a fyddai wedi gwneud drygau ofnadwy—oddiar y ffordd trwy lofruddiaeth, a phed elai rhywun at y llofrudd gan ddweud ei fod yn ddiau wedi cyflawni gweithred ysgeler, ond ar yr un pryd fod yn rhaid cofio y bu yn offeryn yn llaw Duw i gario allan ei amcanion Ef! Mae y bobl sydd yn siarad ar ryfel fel hyn yn ymresymu ar sail dwyllodrus, sef fod gennym hawl i reoleiddio ein hymddygiadau yn ol y canlyniadau a ddichon eu dilyn, yn lle yn ol eu nodwedd moesol. Herald of Peace, 1853, t.d. 302.

5. Rhyfel a lledaeniad yr Efengyl.–Syniad llawer o ddynion da ydyw fod rhyfel wedi "agor drysau" i'r Efengyl. Dadleua Mr. Richard, hyd yn oed, pe felly, na fyddai hynny yn un ddadl dros i ni ei gyfreithloni; fod Duw yn gallu goruwchlywodraethu y drygau pennaf er daioni. Ond a ydyw yn ffaith fod rhyfel wedi bod yn fanteisiol i ledaeniad yr Efengyl? Geiriau un ysgrifennydd enwog ydyw,—“ Fod pob rhyfel yn ystod y 200 mlynedd diweddaf wedi arwain i drefniadau a arweiniasant i ledaeniad Cristionogaeth." Ai gwir hyn? Nage, medd Mr. Richard, yn ol tystiolaeth hanesiaeth. A fu rhyfel yn help i achos Protestaniaeth y Diwygiad? Yn 1546 cymerodd y Protestaniaid yn Germani arfau yn erbyn Charles y 5ed. Ar ol pum mlynedd o ymladd, gorchfygwyd yr Ymherawdwr. Yn lle bod o fantais, bu y rhyfel yn niwed dirfawr i Brotestaniaeth. Ataliodd ei lledaeniad yn allanol, a darostyngodd ei nodweddiad mewnol. Cymerer rhyfel yr Huguenotiaid yn Ffrainc Yn ol tystiolaeth Proffeswr de Felice, yr oedd ganddynt 2,150 o Eglwysi yn 1501, ond yn 1606 eu nifer oedd 760. A mwy, yr oedd crefydd a moesoldeb wedi eu darostwng i'r cyflwr iselaf ar ol y rhyfel. Dyna hefyd dystiolaeth Syr James Stephen yn ei Lectures on the History of France. Cymerer hanes y rhyfel a barhaodd am 30 mlynedd yn Germani, rhyfel a gychwynwyd o bwrpas i ledaenu Protestaniaeth. Collodd Germani, medd Menzel, hanner ei phoblogaeth, ac yn ol ereill ddwy ran o dair. Dinistriwyd trefydd, difethwyd masnach, a chollodd y bobl eu rhyddid. A fu Protestaniaeth ar ei hennill? Dwg Mr. Richard dystiolaethau Schiller, Mosheim, Pfister, a Macaulay, i ddangos y modd y bu gwir Brotestaniaeth ar ei cholled mewn canlyniad. Yr un modd y bu gyda rhyfeloedd y wlad hon, hanes y rhai y mae Mr. Richard yn ei roddi. Cymerer y rhyfel yn erbyn Ffrainc yn nechreu y ganrif hon. Mae pobl wedi eu dysgu i gymeryd yu ganiataol, heb ymchwiliad, fod y rhyfel mawr hwnnw wedi bod yu fanteisiol i ryddid a chrefydd. Ond a fu? Gwir y cododd llawer o sefydliadau daionus yn nechreu y ganrif, ond nid mewn canlyniad i'r rhyfel, ond oherwydd yr Adfywiad Crefyddol a dorrodd allan. Yr oedd yn syniad cyffredin, ar y pryd, y buasai y rhyfel yn troi allan yn fanteisiol i Grefydd; ond dengys Mr. Richard, trwy daflu golwg ar sefyllfa y Cyfandir, nad felly y bu. Ac y mae yn rhoddi trem ar lafur Cenhadon ymysg Paganiaid, ac yn dangos y modd y mae rhyfeloedd wedi llesteirio ei lwyddiant. Tystiolaeth Mr. Hume, Cenhadwr Americanaidd ydyw, mai tuedd brodorion India ydyw edrych ar y Ceuhadon fel yn perthyn i'r milwyr sydd wedi eu darostwng, a bod hynny yn caledu eu calonnau yn erbyn eu dysgeidiaeth. Tystiolaeth Mr. Long, Cenhadwr yn perthyn i'r Eglwys Sefydledig ymysg yr Hindwaid ydyw, mai "y rhwystr pennaf i ledaeniad Cristionogaeth ydyw ysbryd rhyfelgar y rhai sydd yu ei phroffesu."

Ond hwyrach y dywedir mai nid fod rhyfel yn helpu derbyniad Cristionogaeth a honnir, ond ei fod yn "agor drysau" iddi i fyned i mewn. Sut y gallesid myned i India, oni buasai fod y cleddyf wedi agor y ffordd yn gyntaf? Gofidia Mr. Richard oherwydd dadl fel hon.

Onid oedd gan Gristionogaeth yr un gallu i weithio ei ffordd i fysg y Paganiaid, ag oedd gan ei charedigion yn yr oesoedd boreuol? Beth oedd yn rhwystr iddynt wneud fel St. Francis o Assissi, a Francis Xavier? Onid un o'r dadleuon pennaf o blaid dwyfoldeb Cristionogaeth ydyw ei lledaeniad gwyrthiol yn y canrifoedd cyntaf, heb rym na chynorthwy y cleddyf?

Er mwyn dangos fel y mae y syniad cyfeiliornus wedi meddianuu meddyliau dynion da, yn enwedig yn amser rhyfel, difynna Mr. Richard ran o bregeth Dr. Candlish ar y geiriau, "O! gleddyf yr Arglwydd, pa hyd ni lonyddi?" yn yr hon y mae yn torri allan gyda hyamdledd rhyfedd i ofyn, "Pa fodd y gall lonyddu tra y mae gormes, trais, coel-grefydd, caethwasiaeth, Babilon Fawr, mam puteiniaid, &c., ar eu traed." Gofynna Mr. Richard, gyda syndod, a hefyd gyda gresyndod. A oeddem i dybied mewu difrif mai y cleddyf oedd i ddinistrio "coel-grefydd," "gormes", "caethwasiaeth," "Mahometaniaeth a Phabyddiaeth?" A oedd y Dr. dysgedig yu anghofio y geiriaU, "Arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, ond nerthol trwy Dduw i fwrw cestyll i'r llawr." Herald of Peace, 1854, t.d. 104.

Cofier nad yw y difyniad a roddwyd o bregeth Dr. Candlish, ond esiampl o un o luaws o bregethau a draddodwyd tua'r flwyddyn 1851-5 o dan ddylanwad yr ysbryd rhyfelgar oedd wedi meddiannu y wlad yn amser Rhyfel y Crimea.

6. Rhyfel a Rhyddid.—Nid oes dim ag y mae pleidwyr rhyfel yn ymddangos fel yn cael y llaw uchaf ar bleidwyr Heddwch, na chyda'r cri a godir mor fynych mewn perthynas i frwydrau ein "gwrol ryfelwyr" yn colli eu gwaed dros ryddid. Nid oedd neb mor barod, ac a ymladdodd yn fwy dewr dros ryddid na Mr. Richard, ond nid â'r cleddyf. Honnai mai nid y cleddyf ydyw'r offeryn goreu i ennill rhyddid. Yn wir, yr oedd y syniad am ryddid yn beth cwbl groes i'r syniad am nerth anifeilaidd. Edrycher ar hanes y Chwildroad yn Ffrainc. Ni fu mwy o gariad at wir ryddid ym mynwes neb na'r Ffrancod yn y Chwildroad cyntaf; ond pan wnaed ymosodiad arnynt gan bennau Coronnog Ewrob, ac y dibynasant ar y cleddyf, gwenwynwyd cymdeithas, cyfnewidiwyd eu natur, a daethant yn ellyllon mewn creulondeb. Dyna yr hyn y mae hanesiaeth yn ei ddysgu bob amser. Pa un bynnag ai buddugoliaethu ai colli a wneir, mae rhyddid yn dioddef. Dywedir yn gyffredin nad yw y genedl honno a ymladda am ei rhyddid yn cael ei gwasgu i'r llawr. Ond y mae hanes Groeg, Carthage, Poland, Itali, Hungari a llawer ereill yn profi i'r gwrthwyneb. Edrychwch ar Ewrob yn awr (1851). Mae Rhyddid, oherwydd apelio at y cleddyf, wedi cael ei ddarostwng o dan garnau gormesiaeth. Sylwer mai y foment yr apelia rhyddid at y cledd, ac yr arferir trais ac y tywelltir gwaed dynol, y mae yn colli y dydd.

Ond tybier fod pobl wrth ymladd yn gorchfygu eu gormeswyr, a ydynt trwy hynny wedi dogelu eu hiawnderau? I'r gwrthwyneb, ym mhob amgylchiad bron y mae y milwyr a ennillod y fuddugoliaeth yn dod eu hunain yn orneswyr. Yr ydys yn arferol o gyfeirio gydag ymffrost at Cromwell fel engraifft o ryfel yn dymchwel gormes ac yn ennill rhyddid. Ond y mae yn anichonadwy cyfeirio at engraifft fwy anffodus. Er holl ragoriaethau cymeriad Cromwell, yn lle rhoddi rhyddid i'r wlad, mathrodd holl egwyddorion cyfansoddiad Prydain dan draed. Daeth gormes y fyddin yu anioddefol, a rhuthrodd y bobl i ddwylaw y Stuartiaid yn ol, ac ymhen 30 mlynedd bu raid gweithio allan ei rhyddid drosodd drachefn.[3]

Ond hwyrach y dywedir, Edrychwch ar y modd yr ennillodd America ei rhyddid a'i hanibyniaeth trwy rym y cleddyf. Gadewch i ni edrych ar y ffeithiau noeth a chelyd. Bu Washington mor fawrfrydig a dychwelyd y cleddyf yn ol i ddwylaw y bobl. Ar fwy nag un achlysur, gwnaeth y milwyr yr hyn y maent bob amser yn dueddol i'w wneud. Ymgynghreiriasant yn erbyn yr awdurdod gwladol, a cheisiasant gan Washington ddod yn frenhin. Gwrthododd. Gwnaeth y fyddin ymgais wedi hynny i drawsfeddiannu'r awdurdod i'w dwylaw eu hunain; ond bu dylanwad Washington yn llwyddiannus i'w rhwystro. Na, nis gellir byth ymddiried achus rhyddid i ddwylaw milwyr.[4]

Os gofynnir ai nid ydyw pobl i ddefnyddio moddion i ennill eu hiawnderau, yr atebiad penderfynnol yw, Ydynt, yn ddiau. Ond pa foddion? Nerth meddwl, nerth gwirionedd. Meddyliau sydd yn siwr o ddymchwelyd pob trais a gormes. Mae nerth un gwirionedd yn anorchfygol. Carwyr rhyddid, heuwch feddyliau neu syniadau. Yr oedd Mazzini yn 1830 yn dadleu fod hyn yn amhosibl, gan fod y Wasg a phob moddion addysg yn gauedig. Ond beth gymerodd le rhwng 1830 ac 1848? Er pob rhwystr, llwyddodd meddwl rhydd i weithio ei ffordd i Itali, a dengys Mr. Richard y modd yr ymddyrchafodd y genedl yn 1849, a bod y meddyliau a roddwyd ynddi wedi gweithio eu ffordd ac wedi lefeinio yr holl does. Geiriau Mazzini yn awr ydynt, Cyrhaeddodd y cri, Byw fyddo Itali i eithaf arfordir Sicily. .....Gall Itali ymffrostio..... bod ei phlant wedi codi trwy rym meddylddrych." Ond yn anffodus ymaflodd Itali yn y cleddyf, trybaeddodd ef mewn gwaed, ac o'r foment honno selwyd ei thynged, oblegyd fe wyddai gormes sut i drin y cleddyf gyda mwy o rym. Gwyn fyd nad allem ddweud wrth y rhai sydd yn awr yn dioddef,—Credwch yn nerth gwirionedd. Gelynion pennaf rhyddid y dyddiau hyn ydyw ei garedigion proffesedig sydd yn llychwino ei gymeriad mewn gwaed a thrais. Herald of Peace, 1851, t.d. 90 a 102.

Mewn erthyglau erell y mae Mr. Richard yu dangos fel y mae byddinoedd sefydlog Ewrob yn elynol i wir ryddid y bobl. Mewn un o honynt mae yn difynnu geiriau o bapur milwrol yn dangos fel y gall y cleddyf roddi i lawr bob amser anesmwythder ar ran y bobl, gan fod y Swyddogion yn ddieithriad bron o blaid yr awdurdodau.

7. Rhyfel a Gwladgarwch.—Ai trwy amddiffyn ein gwlad ar bob adeg, iawn neu beidio, y dangoswn ein cariad at ein gwlad oreu? Ai trwy ganu

"Stand thou by thy country's quarrel,
Be that quarrel what it may,
He shall wear the greenest laurel
Who shall greatest zeal display?"

Credai Mr. Richard mai gwir garwyr eu gwlad oedd y rhai a ddywedent y gwir yn onest wrthi, ac a'i rhybuddiai o'i pherygl. Mae gwledydd mor agored i fethu ag ydyw personau. Nid oes un o bob mil wedi astudio yr ymdrafodaethau a arweiniasant i'r rhyfel hwn (un y Crimea). Nid têg oedd i'r cyfryw gondemnio y rhai oeddent wedi gwneud hynny, fel yn ddiffygiol mewn gwladgarwch. Nid oedd bod y Senedd yn unfrydol yn brawf o iawnder y rhyfel. Mae dysgeidiaeth Hanesiaeth yn profi i'r gwrthwyneb. Yn 1739 fe fynnai y bobl fyned i ryfel yn erbyn Yspaen ar y cwestiwn o hawl i ymchwiliad yn y moroedd americanaidd. "Ni wnaent," ebe Syr Robert Walpole, "wrando ond ar un ochr." Ar ol bod yn brwydro am flynyddoedd, blinodd y bobl ar ryfela, a gwnaed Cytundeb, ebe Smollett, heb air o sôn am yr hawl i wneud ymchwiliad ynddo. Yr un modd yr oedd y bobl yn gwaeddi yn groch am fyned i ryfel yn erbyn Ffrainc yn 1793. Na, nid brwdfrydedd o blaid rhyfel ydyw gwladgarwch. Herald of Peace, 1854, t. d. 140.

Edrychwch ar broffwydi Israel. Pe buasai rhyw un yn y dyddiau hyn yn arfer y fath iaith, ac yn condemnio yr awdurdodau fel y darfu Hosea, Malachi, Jeremiah ac Esaiah, cawsai ei gondemnio fel y teyrnfradwr mwyaf echryslon. Herald of Peace, 1857, t.d. 270.

Nid oedd Mr. Richard yu credu fod gwladgarwch yn rhinwedd i'w glodfori. Nid oedd yu ddim amgen nag un o reddfau ein natur. Nid oedd neb yn synnu at un a garai yr hen fwthyn rhwng y mynyddoedd yn yr hwn y ganwyd ef—yr oedd yn beth eithaf naturiol. Ond nid oedd neb ychwaith yn gorfoli y cyfryw fel pe buasai yn hynod am ryw rinwedd moesol uchel oherwydd hynny. Llawer llai pe cyflawnai ryw weithred anghyfiawu tuag at gymydog oddiar gariad at ei fwthyn ei hun. Pam, gan hynny, y clodforwn gymaint ar wladgarwch? Beth ydyw y moli bythol ar Marathon, Thermopylæ a Palatæ, ond canmol ychydig o Roegiaid am lywodraethu ar bawb arall a'u cadw yn gaethion? Ebe Euripides, "Mae y Groegiaid wedi eu geni i ryddid, a'r barbariaid (sef pawb ereill) i gaethiwed." Dylem gofio nad oos dim mewn gwladgarwch o angenrheidrwydd yn rhinweddol. Mae llawer o'n llenyidiaeth glasurol wedi ein camarwain. Mae dwy egwyddor fawr Cristionogaeth yn groes hollol i'r syniadau hyn, sef undod Duw fel Tad, a brawdoliaeth gyffredinol holl ddynolryw. Nid oes dim canmol ar wladgarwch yn y Testament Newydd. Yr oedd Rousseau yu dwyn hyn fel dadl yn erbyn Cristionogaeth, sef ei bod yn dodi cariad at ddyn, fel y cyfryw, o flaen cariad at ei gydwladwyr. Ond dyma ogoniant Cristionogaeth. Herald of Peace, 1856, t.d 138.

8. Egwyddorion Heddwch yn ddiogel.—A ydyw yn ddiogel ceisio cario allan yr egwyddorion heddychol hynny y dywedir sydd yn cael eu cymhell yn y Testament Newydd? Cymerwn un engraifft. Aeth William Penn, y Crynwr, allan i America gyda'r amcan o sefydlu Trefedigaeth ar egwyddorion Cristionogol. Yn lle cymeryd mantais ar yr hawl Frenhinol oedd ganddo, a chymeryd tir oddiar yr Indiaid, prynodd dir ganddynt, a gwnaeth gytundeb cyfeillgar â hwynt. Nid aeth ag un math o arfau rhyfel gydag ef, ni adeiladodd amddiffynfeydd na dim o'r fath. Dywedai y Brenhin Charles yr Ail wrtho y byddai yn siwr o gael ei ladd a'i fwyta gan yr Indiaid, ac mai ofer oedd iddo ddisgwyl help milwyr ganddo ef. "Nid oes arnaf eisieu dy filwyr," ebe Penn y Crynwr digryn. Beth fu y canlyniad? Am yr holl amser y bu y Prif Awdurdod yn nwylaw y Crynwyr yn Pennsylvania—sef am 70 mlynedd, ni wnaed un niwed iddynt. Ni chollwyd un dafn o waed y Crynwyr. Edrycher ar yr ochr arall. Aeth llawer o'r hen Buritaniaid allan gydag arfau rhyfel. Y canlyniad fu, eu bod wedi gorfod ymladd yn fynych, y collwyd bywydau, ymddygodd yr Indiaid yn greulon tuag atynt, ni feiddient adael eu tai na'u lleoedd o addoliad heb fod milwyr yn eu gwarchod, ac yr oedd yn rhaid i bob dyn ofalu i gario ei arfau gydag ef. A hyn i gyd tra yr oedd y Crynwyr yn myned ac yn dod heb arfau, ac yn berffaith ddiogel. Herald of Peace, 1857, t.d. 222.

9. Y Duc Wellington.—Pan fu farw yr hen Dduc Wellington, yr oedd pob newyddiadur, ac yn wir y nifer fwyaf o bwlpudau y wlad yn ei glodfori. Nid felly Mr. Richard. Yn un peth, am nad oedd yn credu fod y syniad o "ddyledswydd, am yr hyn y canmolid y Duc gan bawb yn ddim amgen na dyledswydd milwrol; peth hollol wahanol i rwymedigaeth i wirionedd. Ac yn ail, am fod y gogoniant yr hwn a enillodd Wellington, yn ogoniant a gostiodd ddwy filiwn o fywydau, fod y rhyfel rhyngom â Ffrainc yn un diangenrhaid, ac o ganlyniad yn un anghyfiawn, fod rhai o brif Seneddwyr y deyrnas—yn eu mysg Arglwydd Brougham ac Arglwydd John Russell, a llu ereill—yn credu hynny, fod Napoleon mor fuan ag y daeth i awdurdod yn awyddus i fod mewn heddwch â'r wlad hon, ac os felly, methai Mr. Richard weled "gogoniant" rhyfeloedd Wellington. Ond pe addefid fod y rhyfeloedd yn rhai cyfiawn ar y pryd, beth a enillwyd? Erthygl gyntaf Cytundeb Vienna, ar ol yr holl dywallt gwaed am flynyddoedd oedd nad oedd Napoleon, nac un o'i dylwyth byth i feddu un awdurdod yn Ffrainc, ac eto dyma Louis Napoleon, ei nai, yn Ymherawdwr Ffrainc yn awr! Herald of Peace, 1852, t.d. 126.

10. Gwrthryfel India.—Ysgrifennodd Mr. Richard lawer ar y cwestiwn hwn. Mynnai y deyrnas hon nad oedd ond gwrthryfel ar ran y milwyr yu unig, ond dadleuai Mr. Richard yn gryf mai gwrthryfel ar ran trigolion India ydoedd, yn erbyn llywodraeth Prydain, a dygodd dystiolaethau lawer o haneswyr, barwyr, swyddogion milwrol ac ereill i brofi hynny. Mawr gondemniai y creulonderau a arferai y wlad hon tuag atynt wrth eu cospi am eu gwrthryfel. Mae yn trin yr holl gwestiwn mewu amryw rifynnau yu yr Herald of Peace am 1858 gyda deheurwydd a manylwch mawr. Bydd y neb a ddarllenno ei erthyglau yn cael goleuni ar y berthynas rhwng y wlad hon âg India, nad yw yn hawdd ei gael mor gryno mewn un man arall.[5]

11. "Er gwaethed yw rhyfel, y mae pethau gwaeth."—Clywir y geiriau hyn yn fynych, a phan ofynir beth sydd waeth, atebir fod Caethwasiaeth, Anghyfiawnder a Gormes yn waeth. Ond honnai Mr. Richard mai y pethau gwaeth" hyn sydd yn cyfansoddi rhyfel. Beth ydyw caethwasiaeth? Ai nid, fel y dywed Cicero, ufudddod darostyngol heb ryddid ewyllys? Ac onid dyma sefyllfa milwyr? Rhyfedd fel y mae geiriau yn dylanwadu arnom. Cyffroir ein holl deimladau wrth feddwl am gaethwasiaeth fel y bu yn America, ac fel y mae yn Cuba; ond nid oes neb yn meddwl fod tair miliwn o wŷr yn Ewrob yn awr mewn cyflwr o gaethiwed mwy llwyr a darostyngol nag a lusgodd yr Affricaniaid o'u cartrefi erioed. Tra yn filwr, nid oes i'r dyn ddim rhyddid personnol, dim cyfraith ond un filwrol; mae yn agored i gosb marwolaeth hyd yn oed am anufuddhau i orchymyn cyfreithlon swyddog. Yn wir, y mae y gair cyfreithlon yn cael ei adael allan o'r llŵ a weinyddir i'r milwr. Pe gomeddai saethu ei gyd-filwr pan orchmynid iddo, er y gallai deimlo ei fod yn ddieuog, bydd raid iddo gymeryd y canlyniad. Nid oes ganddo un llys i apelio ato. (Gwel Ethics of War, t.d. 28,9). Ar y Cyfandir, y mae dyn yn cael ei lusgo o'i gartref, gosodir ef o dan gyfraith filwrol yn groes i'w ewyllys am flynyddau; nis gall ddianc heb beryglu ei fywyd, neu gael ei gosbi yn greulon; ni chaiff briodi heb ganiatad ei feistr, ac y mae yn ddarostyngedig i'r flangell a'r haiarn poeth. Pa le mae'r gwahaniaeth rhyngddo â chaethweision yn gyffredin? Ychwaneg, mae y milwr yn cael ei orfodi i gyflawni yr hyn y gall efe edrych amo fel pechod. Ewyllys y Swyddog Milwrol ydyw ei "Gyfraith a'r Proffwydi" iddo ef, fel y dywed Syr Charles Napier. Nid oes dim cyfraith yu gorfodi caethweision cyffredin i wneyd hyn. Yn ol geiriau Count Alfred de Viguy, mae'r dyn yn cael ei ddinistrio yn y milwr, ac y mae yn dod yn beiriant. Neu yng ngeiriau Benjamin Franklin, "Mae caethiwed y milwr yu waeth na chaethiwed y Negro. Pe gorchmynnid i gaethwas gan ei feistr i yspeilio neu lofruddio ei gymydog, amddiffynnid ef gan yr Ynad am omedd ufuddhau. Ond nid felly y milwr." Gan ein bod yn cymeryd yn ganiataol fod yn rhaid i ni gael milwyr, yr ydym yn ceisio perswadio ein hunain fod rhywogoniant yn y ffaith fod dynion yn cael eu hamddifadu o bopeth sydd yn cyfansoddi dyn—ei ewyllys, ei ryddid, a'i gydwybod—ac yn cael eu gwneud—a defnyddio geiriau y bardd Southey—"yn ddim amgen na pheiriannau llofruddiaeth." Herald of Peace, 1878, t.d. 200.

———————————————————————————————————————

GWRECSAM : ARGRAFFWYD GAN HUGHES A'I FAB.

———————————————————————————————————————

Nodiadau

golygu
  1. Gwel erthygl gan yr Awdwr yn y Traethodydd am 1898, t. d. 107, yn cyfeirio at y mater hwn.
  2. Onid dwy wlad yn proffesu Cristionogaeth sydd yn ymladd â'u gilydd yn awr yn Affrica, pan ydym yn ysgrifennu.
  3. Mewn erthygl arall yn yr Herald of Peace am 1862, t.d. 30 a 42, mae yn dychwelyd at yr un engraifft, gan ddifynnu yn helaeth allan o lyfrau gwahanol haneswyr. Dengys fod y bobl wedi colli eu cariad at ryddid cyn yr Adferiad. Penderfynwyd gwahodd y Brenin yn ol heb ofyn am gymaint ag un ymrwymiad ond llw y coroniad. Yr oedd moesoldeb wedi myned yn isel iawn fel y tystiolaetha Macaulay, a llenyddiaeth wedi llygru yn ddirfawr.
  4. Credwn, pe buasai Mr. Richard yn fyw yn awr, er cymaint y gallasai deimlo dros y Transvaal yn ymladd dros eu hanibyniaeth, y dygasai eu hachos hwy yn brawf ychwanegol o wirionedd ei honniad. Pe buasai dewrder yn sicrhau rhyddid, buasai y Gweriniaethau yn awr yn rhydd. Buasai dewrder moesol heb y cledd, ond odid yn ei ddiogelu, a dichon mai trwy foddion moesol yr adenillant ef eto.
  5. Cyhoeddwyd yr erthyglau wedi hynny yn bamffled.