Bywyd a Gwaith Henry Richard AS/Pennod XXI

Pennod XX Bywyd a Gwaith Henry Richard AS

gan Eleazar Roberts

Atodiad


PENNOD XXI

Y dadleuon yn erbyn Cyflafareddiad—Yn beth mewn gweithrediad eisoes-Dros ddau cant o engreifftiau rhwng 1815 a 1901—Llwyddiant llafur Mr. Richard.

Yn 1887, fe gyhoeddodd Mr. Richard bamffled yn cynnwys papurau ar “Resymoldeb Cyflafar- eddiad Ryngwladwriaethol a'i gynnydd diwedd- ar," y rhai a ddarllenwyd mewn cynhadleddau o'r Gymdeithas er diwygio a chrynhoi ynghyd Gyfraith Cenhedloedd. Darllenwyd y papurau hyn yn yr Hague, Cologne, Milan, Lerpwl a Llundain. Cyfeiriwn, yn fyr, at eu cynhwysiad. Nid oes neb na addefa mai gwell-yn lle myned i ryfel-fyddai terfynnu cwerylon trwy foddion heddychol; ond pan eir at y gwaith codir pob math o wrthwynebiad. “Ryfeloedd sydd wedi bod bob amser, ac ofer ydyw siarad.” Dyna fel y siaredir; ac o ran hynny dyna fel y siaradwyd pan geisiwyd diddymu caethwas- iaeth, ac y dadleuid o blaid Rhyddid gwladol. A ydym mor ffol, fe ofynnir, a thybied y bydd dynion âg arfau yn eu dwylaw, a'u nwydau wedi eu cyffroi, yn barod i'w rhoi heibio, a phlygu i benderfyniad barnwyr ac i ddylanwad rheswm ? Addefai Mr. Richard nad oedd Cyf- lafareddiad yn feddyginiaeth anffaeledig rhag pob anghydfod; a gwyddai ei fod yn fwy cym- hwysiadol at rai anghydfyddiaethau nag ereill. Ond pan yr haerir, fel y gwneir yn fynych, nas gellir penderfynnu y cwestiwn hwn ac arall trwy gyflafareddiad, yr oedd efe, Mr. Richard, bob ainser yn dueddol i ofyn, Paham? Ac nid oedd byth yn cael atebiad boddhaol. Yr unig beth a wneid fyddai, son am ein hanrhydedd fel gwlad. Y peth pwysig, fel y dywedai y Proffeswr Sheldon Amos, oedd ceisio cynefino y bobl âg engreifftiau o'r peth wedi cael ei gario allan i weithrediad. Yr oedd pob engraifft yn gorfodi y gwrthddadleuwr i gilio cam yn ol. Beth pe buasai y lluaws cwestiynau dyrys ynglŷn â'r Alabama wedi terfynnu mewn rhyfel? Buasid yn dadleu fod cynifer o gwestiynau ereill wedi codi ynglŷn â'r prif gwestiwn, fel nas gallesid byth eu penderfynnu trwy gyflafareddiad. Y lluaws gwestiynau ereill sydd yn codi, a'r teimladau digofus sydd yn enynnu yn amser rhyfel sydd yn peri fod y cwestiwn mawr yn ymddangos yn un mor gymhlethedig, ac yn arwain i'r dybiaeth nad oes ond rhyfel a all ei ddadrys. Ein hamcan ni, medd Mr. Richard, ydyw ceisio rhwystro i'r teimladau digofus hyn godi rhwng teyrnasoedd a'u gilydd. "Pen y gynnen sydd megys ped agorid argae, am hynny, gad ymaith ymryson cyn ymyryd â hi."

Gofynnir weithiau, a ydys yn meddwl y gwnai concwerwyr mawr, y rhai sydd yn amcanu at orchfygu y byd ymostwng i osod eu hamcanion o flaen Cyflafareddwyr? Na fyddent, mae'n debyg, ond nid yw Cyfraith yn llai bendithiol am na wna y fath rai a Rob Roy, Robin Hood, a Jack Sheppard ymostwng iddi. Mynych y cyfeirir at Ryfel y Crimea. Dywedir wrthym fel dadl yn erbyn Cyflafareddiad, mai pethau ereill heblaw yr un peth a broffesir ydyw gwir achos y cweryl, megys uchelgais gwladweinwyr, eiddigedd rhwng cenhedloedd, ac awydd am ogoniant milwrol, fel yn y rhyfel hwnnw. Ond dyma un o'r dadleuon cryfaf o blaid cael rhyw lys o gyflafareddiad. Ni feiddiai un deyrnas ddwyn y pethau a enwyd o flaen y cyfryw lys. Myn rhai hefyd nas gellir penderfynnu cwestiwn ynglŷn âg anrhydedd neu urddas gwlad o flaen Cyflafareddwyr. Ond y gwir yw fod anrhydedd gwlad yn dal cysylltiad â phob anghydfod rhyngddi a gwlad arall. Pan gynhygiodd America gyntaf roddi cwestiwn yr Alabama i ddyfarniad Cyflafareddwyr, atebodd Arglwydd John Russell mewn modd trahaus mai Llywodraeth ei Mawrhydi oedd "unig amddiffynydd ei hanrhydedd." Ond fe wnaed hynny, wedi y cyfan, ac fe'i gwnaed yn effeithiol. Dywed Grotius y gellir yn deg edrych ar y blaid sydd yn gwrthod Cyflafareddiad fel yr un sydd ar fai.[1]

Ond pa ddadl bynnag a ddygir yn erbyn Cyflafareddiad, yr ydys yn rhy dueddol i anghofio hyn, mai yr hyn a gynhygir yw. Cyflafareddiad fel peth gwell na rhyfel. Wrth siarad am y naill, rhaid ei gyferbynnu â'r llall. A ydyw rhyfel yn fwy anrhydeddus, yn fwy urddasol, na Chyflafareddiad? Tybiwyd unwaith nas gellid penderfynnu cwestiwn o anrhydedd personol heb ymladd gornest; yr oedd yn rhaid golchi ymaith y llychwiniad ar y cymeriad trwy waed. Ond yn awr, mae'r ynfydrwydd hwn wedi ei ymlid ymaith o'r deyrnas hon. Pam y mae rhai dynion da eto yn dal yr un egwyddor yn ei pherthynas â theyrnasoedd? Beth ydyw y peth hwnnw a ystyrir yn fwy urddasol nag ymostwng i achos gael ei benderfynnu gan reswm a chyfiawnder? Pan ystyrrir beth ydyw rhyfel yn ei holl erchyllderau, yr ydym yn gorfod sefyll mewn syndod at y datroad ar egwyddorion moesol sydd wedi cymeryd lle trwy hir arferiad, pan y gellir edrych arno fel yn fwy anrhydeddus ac urddasol i Gristionogion nag ymostwng i ddyfarniad Deddf a Chyfiawnder.

Y mae Mr. Richard yn cyfarfod â dadl arall yn erbyn Cyflafareddiad, sef y gall y dyfarniad fod yn un anheg. Cyfeiria at rai achosion a benderfynwyd felly, a dengys na ddygwyd un gwrthwynebiad i'r un o honynt, a gofynna hyd yn oed pe byddent weithiau yn anghyfiawn, a ydyw rhyfel yn debyg o fod yn fwy cyfiawn yn ei derfyniad? Mae'r cleddyf yn dryllio pob iawnder ar unwaith.

Ond y mae Mr. Richard, er y cwbl, yn addef nad yw Cyflafareddiad yn drefn berffaith, ac y byddai cael llys a Barnwr cymwys i derfynnu cwerylon rhwng teyrnasoedd yn well. Bu efe, meddai, yn synnu lawer gwaith na fuasai Cyfreithwyr yn ymuno yn un corff i wrthwynebu rhyfel, oblegid yr oeddent yn cynrychioli egwyddor ag oedd mewn gwrthdarawiad hollol i bob rhyfel.

Ond rheswm mawr Mr. Richard, ac un ddylai fod yn derfyniad ar y ddadl ydyw un a wasgai adref mewn papur a ddarllenwyd ganddo yn Cologne yn 1881. Honna mai nid cwestiwn i'w ymresymu ydyw bellach. Mae Cyflafareddiad wedi ei roi mewn gweithrediad lawer gwaith, ac wedi profi yn effeithiol. Mae lluaws mawr o anghydfyddiaethau rhwng prif wledydd y byd wedi eu terfynnu yn heddychol trwy Gyflafareddiad; anghydfyddiaethau a allasent derfynnu mewn rhyfel, oni buasai hyn.

Nid ydyw Mr. Richard yn rhoi ond ychydig o engreifftiau; ond y mae o bwys i ni alw sylw at y ffaith fod eu nifer yn fawr iawn. Mae Dr. Darby, Ysgrifennydd presennol y Gymdeithas Heddwch, mewn traethodyn a gyhoeddodd yn ddiweddar, yn rhoi cyfrif manwl o'r holl achosion a derfynwyd fel hyn trwy Gyflafareddiad, a cheir fod eu nifer o'r flwyddyn 1815 hyd y flwyddyn 1901 yn fwy na dau gant. Mae tua 79 o honynt yn dwyn perthynas & Phrydain, 65 a'r Unol Daleithiau, 16 â Ffrainc, 10 â Germani, 12 âg Yspaen. Ac y mae eu rhif yn cynhyddu bob blwyddyn, fel y gwelir pan y dywedwn fod eu rhif yn 46 yn ystod y chwe blynedd olaf o'r ganrif ddiweddaf. Mae ceisio dadleu, gan hynny, fod yn amhosibl penderfynnu dadleuon rhwng teyrnasnedd heb fyned i ryfel yn groes i ffeithiau profedig, ac y mae y wlad a wrthyd y drefn hon, pa le bynnag y gellir ei rhoi mewn gweithrediad, fel y dywed Grotius, yn siwr o fod yn ymwybodol o wendid ei hachos. Cofier hefyd fod pob achos a benderfynnir fel hyn yn dod yn esiampl i'w ddilyn, yn dod yn gyn-engraifft (precedent); ac y mae tuedd mewn cyn-engreifftiau i ymsefydlu o'r diwedd yn ddeddfau. Nid yw rhyfel, fel y gwyddis, yn penderfynnu dim ond pwy sydd gryfaf.

"Nid oes dim cymhwyster," medd Mr. Richard, "yn y bidog i ganfod y gwirionedd, ni fedd pylor ddawn canfyddiad moesol, ac nid oes gan un o gyflegrau

Krupp un math o gysylltiad arbennig â chyfiawnder".

* * * * * * * * *

Wedi ysgrifennu fel hyn ar hanes a phrif waith bywyd Mr. Henry Richard, naturiol ydyw gofyn pa lwyddiant a ddilynodd, neu sydd yn debyg o ddilyn y fath ymdrechion a wnaed ganddo yn achos Heddwch? Beth fu y dylanwad ar y byd gwareiddiedig? Wrth edrych ar hanes Prydain am y ddwy flynedd ddiweddaf, a mwy, gellid meddwl na fu achos Heddwch erioed a chan lleied o arwyddion ffyniant i'w ganfod arno, ac nid oes un amheuaeth nad yw ysbryd milwrol wedi rhoi ysponc arswydus yn ddiweddar. Ond caniataer i ni, cyn terfynnu, alw sylw at rai ystyriaethau sydd, er hynny, yn ymddangos i ni yn deilwng o gael eu cadw mewn cof ynglŷn â'r cwestiwn hwn.

1. Yn oi tystiolaeth y Llyfr Dwyfol, y mae amser i ddod pan droir y cleddyfau yn sychau, a'r gwaewffyn yn bladuriau, "ac ni ddysgant ryfel mwyach.” Ac fel y dywed Dr. Chalmers, yn ei bregeth ar "Heddwch," nis gellir disgwyl i'r dyddiau hyn wawrio heb fod ymdrechion yn cael eu gwneud gan Gristionogion ac ereill i'w dwyn i ben. Dyma'r modd y mae Duw bob amser yn dwyn oddiamgylch gyflawniad y proffwydoliaethau. Rhaid defnyddio moddion tebyg i'r rhai a ddefnyddiwyd gan Mr. Richard mewn cysylltiad â'r Gymdeithas Heddwch i lefeinio gwledydd cred â'r syniad hwn. Rhaid pregethu yr egwyddorion hynny o'n pulpudau yn fwy, rhaid ennill meddiant mwy llwyr, os gellir, o'r Wasg, rhaid gwrthweithio ysbryd milwrol y deyrnas, rhaid addysgu ein Seneddwyr, a rhaid pregethu athrawiaeth Mr. Richard ar y llwyfannau ac yn y Senedd yn fwy hyf a dewr nag erioed.[2]

2. Yn 1895 gwnaed symudiad pwysig iawn i wneud Cytundeb rhwng Prydain a'r Unol Daleithiau i beri fod pob cwestiwn rhwng y ddwy wlad, nas gellid ei derfynnu trwy ymdrafodaeth, i gael ei derfynnu trwy Gyflafareddiad. Derbyniwyd y newydd fod y fath beth ar droed gyda llawenydd mawr gan bobl oreu y ddwy wlad. Ffurfiwyd Cytundeb, a llaw-arwyddwyd ef yn Washington gan y diweddar Syr Julian Pauncefote ar ran Prydain, a chan Mr. Olney ar ran yr Unol Daleithiau. Ond, fel y gwyddis, fe daflwyd rhwystrau ar y ffordd, ac nid aeth y mater trwodd i orffeniad. Ond, fel yr ysgrifenna Justin McCarthy yn ei gyfrol ddiweddaf, "gellir dweud fod meddwl goreu Gweriniaeth yr Unol Daleithiau trwy ei gwŷr cyhoeddus a'i newyddiaduron a'i phobl yn hollol o blaid y Cytundeb. Nis gellir yn hir rwystro i egwyddor a gefnogwyd mor gyffredinol ar ddau du y Werydd gael dod i weithrediad."[3] Na ellir, yn ddiau, ac ond iddo gael ei gadarnhau, gallwn ddefnyddio geiriau y ddiweddar Frenhines wrth agor Senedd 1897, pan yn cyfeirio at y Cytundeb hwn,—"Yr wyf yn gobeithio," meddai,“ y bydd y trefniant yn meddu gwerth ychwanegol, trwy argymhell i Alluoedd ereill ystyriaeth o egwyddor trwy ba un y bydd y perygl o ryfel yn cael ei leihau yn fawr."

3. Ond y symudiad mwyaf pwysig, yn ddiau yn y cyfeiriad hwn, ydyw yr un a wnaed gan Ymherawdwr ieuanc Rwssia, ar y 14eg o Awst, 1898, pan y danfonodd allan trwy law ei Weinidog Tramor, Ysgrif Ymherodrol (Rescript) wedi ei gyfeirio at holl gynrychiolwyr y Gwledydd Tramor yn St. Petersburg.[4] Amcan yr Ysgrif oedd galw sylw at y mawr niwed a wneir gan ddarpariadau milwrol cynhyddol y gwahanol deyrnasoedd. Mewn gair, nid oedd ond datganiad o'r gwirioneddau pwysig a bregethwyd gan gyfeillion Heddwch am flynyddoedd. Nid oes ynddo un pwynt na chafodd ei drafod yn fanwl gan Mr. Richard yn ei areithiau ar y Cyfandir ac yn Senedd Prydain. Cynhygia yr Ymherawdwr fod Cynhadledd yn cael ei chynnal i ystyried y mater hwn, ac i ddwyn oddiamgylch y syniad goruchel i geisio gwneud heddwch cyffredinol yn fuddugoliaethus ar elfennau terfysg ac anghydgordiad." Tarawyd y byd â syndod gan yr Ysgrif hon, ond derbyniwyd hi gyda chymeradwyaeth gan brif deyrnasoedd y byd, a chan Seneddwyr, Esgobion, a gwŷr dylanwadol o bob math. Ar ol danfon allan Ysgrif arall yn nodi yr amcan yn fwy manwl, trefnwyd fod y Gynhadledd i gyfarfod yn yr Hague ar y 18fed o Fai, 1899. Daeth ynghyd gynrychiolwyr o 26 o wledydd, sef Germani, Awstria-Hungari, Belgium, China, Denmarc, Yspaen, Ffrainc, Prydain, Groeg, Itali, Japan, Luxemberg, Mexico, Montenegro, Netherlands, Persia, Portugal, Roumania, Rwsia, Servia, Siam, Sweden, Norway, Switzerland, Twrci a Bulgaria.[5] Cynrychiolai y rhai hyn deyrnasoedd yn cynnwys naw ran o ddeg o'r ddaear mewn maintioli, a phoblogaeth o 1,400 allan o 1,600 o filiynnau pobl y byd. Yr oedd y Cynrychiolwyr yn gant mewn nifer, a buont yn eistedd am ddau fis. Os oes rhyw ymdrafodaeth rhwng y teulu fry a theulu'r llawr, y mae yn anhawdd meddwl nad oedd enaid Mr. Richard yn talu ymweliad â'r “Tŷ yn y Coed,” yn yr Hague, yn ystod y ddau fis fythgofiadwy hyn, gan fod y pwnc y bu efe drwy ei oes yn galw sylw y byd ato, yn awr yn cael ei drafod mewn modd ymarferol yn yr ysmotyn dyddorol hwnnw. Mae holl hanes y Gynhadledd yn awr o'n blaen mewn cyfrol drwchus o 572 o dudalennau.[6] Gan na chaniatawyd i wŷr y Wasg fod yn bresennol yn y cyfarfodydd, ni chafwyd ond hanes amherffaith iawn o'r Ymdrafodaethau, ac yr oedd pobl y gwledydd yn anwybodus iawn o'r gwaith pwysig oedd yn myned ymlaen. Yn wir, gan na wnaed dim yn ymarferol yn y cyfeiriad o leihau darpariadau milwrol, coleddwyd y dybiaeth fod y Gynhadledd i fesur yn fethiant Ond y mae hyn yn gamgymeriad dybryd. Er y boddwyd sŵn ei gweithrediadau gan drwst magnelau rhyfel y Transvaal, ac er na ddaethpwyd i benderfyniad gyda golwg ar ddiarfogiad, credwn fod y Gynhadledd ynddi ei hun yn ffaith orbwysig yn ei ganlyniadau yn hanes y ganrif ddiweddaf, yn enwedig pan gofiwn ei fod yn ddealltwriaeth ynddi nad oedd hwn ond y gyntaf o gyfres. Ond nid terfynnu heb wneud dim a wnaed. Hyd yn oed gyda golwg ar leihad yn y darpariadau milwrol, pasiwyd yn unfrydol fod y cyfryw "leihad i'w ddymuno yn fawr er mwyn lles moesol a naturiol dynoliaeth," a bod y pwnc i gael ei gyfeirio yn ol i ystyriaeth y gwahanol lywodraethau. Dyma ddatganiad gan gynrychiolwyr prif deyrnasoedd y ddaear, fod yr hyn y dadleuid drosto gan Mr. Cobden a Mr. Richard ac ereill, yn beth i'w fawr ddymuno, ac y dylai y gwahanol deyrnasoedd ei gario allan yn ymarferol. Ai peth bychan oedd hyn i'w wneud yn y Gynhadledd gyntaf? Yn ychwanegol at hyn, fe basiwyd cyfres faith o erthyglau yn rheoleiddio dygiad rhyfel ymlaen er mwyn ei wneud yn llai creulon ac yn fwy cydweddol â gwareiddiad y dyddiau hyn.

Ond y gwaith mawr a wnaed gan y Gynhadledd hon oedd ynglŷn a'r pwnc o Gyflafareddiad fel moddion i osgoi rhyfeloedd yn y dyfodol. Pasiwyd yn unfrydol fel sylfaen yr ymdrafodaeth, eu bod oll yn ymrwymo i geisio sicrhau terfyniad heddychol i bob anghydfyddiaeth a allai godi rhwng teyrnasoedd. Ie, mwy,—a dymunem bwysleisio y ffaith hon, oblegid credwn mai ychydig sydd wedi ei sylweddoli,— fe benderfynwyd fod math o lýs sefydlog yn cael ei ffurfio, at yr hwn y gellir cyfeirio cwestiynau a allant godi i beri anghydfod rhwng teyrnasoedd. Yn ol erthygl 23, mae y Galluoedd yn ymrwymo i ddewis pedwar o wyr cymwys a hyddysg mewn materion o Gyfraith Ryngwladwriaethol y rhai sydd i ffurfio y llys sefydlog hwn. Bellach, os digwydd i anghydfod godi rhwng unrhyw ddwy o'r teyrnasoedd ymrwymedig, yn lle dechreu hel eu byddinoedd at eu gilydd, gall pob un ddewis dau o aelodau y llys hwn, ac os metha y pedwar gytuno, dewisant ddyddiwr i benderfynnu y pwnc mewn dadl.

Da gennym hysbysu mai y diweddar Syr Julian Pauncefote, cynrychiolydd Prydain yn y Gynhadledd a alwodd sylw ac a ddadleuodd dros ddymunoldeb sefydlu y llys hwn, ac y mae yn amlwg fod y ddiweddar Frenhines Victoria yn gwerthfawrogi ei lafur yn yr Hague, oblegid anrhydeddwyd ef trwy ei wneud yn Farwnig. Mae holl fanylion cyfansoddiad y llys hwn, y rheolau y penderfynwyd arnynt ynglŷn âg ef, a'r areithiau grymus a draddodwyd ar yr achlysur yn cael eu gosod i lawr yn llyfr Dr. Holls. Carasem fanylu arnynt, ond nid dyma'r lle priodol i hynny. Ynfydrwydd fydd tybied y bydd pob Gallu mewn anghydfod âg un arall ar unwaith yn troi i wneud defnydd o'r llys newydd hwn; ond digon yw dweud fod y Gynhadledd wedi gosod i fyny beirianwaith o Gyflafareddiad, ond ei rhoi mewn gweithrediad, a rydd derfyn ar ryfeloedd rhwng y Galluoedd a gynrychiolid ynddo. Gwaith mawr ein Seneddwyr, dysgawdwyr a gwyr dylanwadol y byd o hyn allan fydd goleuo y bobl fod yn bosibl bellach apelio at foddion mwy rhesymol, mwy dynol, mwy cydweddol âg egwyddorion Cristionogaeth na'r dull barbaraidd presennol i derfynnu cwerylon; fod llys wedi ei sefydlu i'r pwrpas hwnnw. . . . Unwaith y caiff y llys hwn un achos pwysig i'w benderfynnu, bydd yn haws cyfeirio ato mewn achosion ereill.[7]

Ar ddiwedd y flwyddyn 1901, cyfarfu Cynhadledd Ryngwladwriaethol America yn Mexico, a rhoddodd ei chymeradwyaeth unfrydol i Gytundeb Cynhadledd yr Hague. "Bydd hyn (ebe Adroddiad y Gymdeithas Heddwch am 1902), yn cwblhau gwaith Cynhadledd yr Hague, trwy estyn y Cytundeb Heddwch hyd at yr holl fyd gwareiddiedig ..... Pan fydd yr Unol Daleithiau eto wedi llaw-arwyddo Cytundeb yr Hague, bydd sefydliad cyffredinol. Uchel Lys Cenhedloedd o blaid yr hyn y gweithiodd y Gymdeithas hon am tua chan mlynedd, wedi ei gyflawni.”

A gallwn ychwanegu, pan ddaw y cenhedloedd gwareiddiedig i apelio at y llys hwn yn lle at y cleddyf, ni fydd neb yn teilyngu mwy o barch am y rhan â gymerodd i ddwyn y dyddiau dedwydd hyn i ben na'n cydwladwr, y diweddar Henry Richard. A goddefer i ni, wrth derfynnu, bwysleisio y sylw, fod yr athrawiaeth a bregethodd drwy ei oes, wedi dod o'r diwedd yn gredo proffesedig cenhedloedd Gwareiddiedig y byd.

Nodiadau

golygu
  1. Tybed fod yr ymwybyddiaeth o hyn wrth wraidd gwrthodiad Gweinyddiaeth Prydain i gais y Transvaal cyn y rhyfel diweddaf i benderfynnu y cwestiwn trwy Gyflafareddiad? Pwy fedr ddesgrifio y trueni a arbedasid, pe derbyniasem y cynhygiad hwnnw?
  2. Beth pe ceid plaid gref unedig o wŷr tebyg i Mr. Richard yn Senedd Prydain y dyddiau hyn, dynion a gadwent y cwestiwn hwu gerbron yn barhaus? Byddai effaith y cyfryw blaid ar farn y wlad, ac ar ddeddfwriaeth y Senedd yn anrhaethol werthfawr. Cariodd Mr. Richard ei gynhygiad o blaid Cyflafareddiad trwy'r Tŷ yn 1873, er gwaethaf pob rhwystr. Beth sydd yn rhwystro i bob Aelod Cymreig fod yn "iach yn y ffydd" ar y cwestiwn hwu, ac i ymdrechu o blaid y ffydd honno? Dim, ond cael etholwyr Cymru grefyddol i fynnu cael hynny. Mae'r llwyddiant yn eu llaw hwy.
  3. History of our own Times from 1800 to year of Jubilee, t.d. 449.
  4. Nid dyma'r Ymherawdwr cyntaf i symud yn y cyfeiriad hwn. Gwelt.d. 72.
  5. Gwaharddodd Lloegr i'r Transvaal gael dod i mewn.
  6. The Peace Conference at the Hague, and its Bearings on International Law and Policy, by Frederick W. Holls, D.C.L., a Member of the Conference from the U. S. of America. Macmillan & Co. Price 10/- net.
  7. Medd y Times am Awst 27ain ddiweddaf,—"Mae Cyngor yr Hague ar gael ei alw ynghyd er mwyn penderfynnu ei achos cyntaf. Yr oedd y cyhoedd wedi gwneud ei meddyliau i fyny nad allasai y Llys hwnnw fod o un gwir fudd, a bydd y newydd hwn yn peri syndod." Achos bychan ydyw rhwng yr Unol Daleithiau a Mexico. Mae y blaenaf wedi penodi Syr Edward Fry (Sais) a M. Martens (Rwsiad), a'r olaf wedi penodi y Seneddwr Guernaschelli (Italiad) a M. de Savolnin Lohman (Isellmynwr). Dyma ddechreu, pa fodd bynnag.